Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru.

1. Rhanbarth

Cymru Gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Cynllun Grant Digwyddiadau Busnes, Digwyddiadau Cymru sy’n cyd-fynd â’r cynlluniau cyllido grantiau sy’n eu lle fel rhan o Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2023 - 2030.

3. Sail gyfreithiol y DU

Adran 60(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006

4. Amcanion y cynllun

Nid noddwr na chorff dyfarnu grantiau cylchol yw Digwyddiadau Cymru. Rydym yn gweithredu fel buddsoddwr strategol o dan gyfyngiad amser er mwyn cefnogi’r broses o sefydlu digwyddiadau newydd, datblygu a thyfu digwyddiadau presennol, neu atynnu digwyddiadau rhyngwladol mawr i Gymru, a all gyflawni effeithiau economaidd a chymdeithasol, ac effeithiau cadarnhaol eraill i Gymru.

  • Nid lliniaru pwysau cyllidebau yw diben cyllid Digwyddiadau Cymru ac felly ni ddarperir cyllid ar gyfer costau craidd darparu digwyddiadau presennol.  Ni allwn ychwaith gyllido costau cyfalaf na ffioedd perfformwyr. Yn hytrach, ein nod yw ychwanegu gwerth i ddigwyddiad, drwy gefnogi gweithgareddau newydd neu bresennol sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad, sy’n cael effaith economaidd a chymdeithasol cadarnhaol ar Gymru ac/neu’n codi proffil rhyngwladol Cymru (neu i atal digwyddiadau o’r fath rhag peidio cael eu cynnal, a fyddai’n cael effaith niweidiol ar argraffiadau presennol), fel: gweithgarwch marchnata a hyrwyddo i atynnu cynulleidfaoedd ychwanegol neu gynulleidfaoedd newydd ac i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan digwyddiadau busnes, a chodi proffil brand Cymru Wales yn y marchnadoedd busnes a thwristiaeth ryngwladol
  • Atynnu digwyddiadau busnes strategol sy’n cyd-fynd â sectorau allweddol Llywodraeth Cymru ac yn cefnogi Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, y Strategaeth Ryngwladol i Gymru a Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022-2030.
  • Manteisio i’r eithaf ar yr hyn mae digwyddiadau busnes yn ei gyfrannu i Gymru a datblygu enw da Cymru am ddarparu digwyddiadau busnes diogel, cynaliadwy o ansawdd uchel, sy’n creu profiad gwych i fynychwyr ac ymwelwyr.

5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith

Llywodraeth Cymru

6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys

Mae amrywiol fathau o sefydliadau Digwyddiadau Busnes yn gymwys ar gyfer y cymhorthdal, ac nid yw’n gyfyngedig i drefnwyr digwyddiadau, canolfannau cynadledda, sefydliadau rheoli cyrchfannau, prifysgolion a chymdeithasau

7. Sector(au) a gefnogir

Gweithgareddau gwasanaethau eraill.

8. Hyd y cynllun

1 Ionawr 2024 – 31 Mawrth 2030 – cyd-fynd â Strategaeth Ddigwyddiadau Genedlaethol Cymru 2022 – 2030.

9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun

Amcangyfrif o £2,000,000 am hyd y prosiect ond yn gyfyngedig i £100,000 y flwyddyn, rhwng £5,000 a £25,000 fesul cais, yn arferol.

10. Math o gefnogaeth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun ar ffurf grantiau.

11. Telerau ac amodau cymhwysedd

Er mwyn bod yn gymwys am gymorth, mae’r meini prawf canlynol yn berthnasol:

  • Dylai’r digwyddiad busnes atynnu isafswm o 100 o fynychwyr o’r tu allan i Gymru i’r gyrchfan am isafswm o un noson. Mae mynychwyr o’r tu allan i’r wlad yn ymwelwyr nad ydynt yn dod o Gymru. Ni chaiff ymwelwyr dydd a mynychwyr rhithiol eu cynnwys yn y meini prawf ariannu, fodd bynnag mae’r ffigurau hyn yn cyfrif tuag at allbynnau ar gyfer arddangos Cymru fel cyrchfan ar gyfer ymweliadau busnes a hamdden
  • Rhaid i’r digwyddiad busnes gael ei gynnal yng Nghymru a chynnwys llety dros nos yng Nghymru.
  • Rhaid i’r digwyddiad busnes ddangos na fyddai’n dod i Gymru neu na fyddai’n gallu ychwanegu gwerth sylweddol i Gymru os na ddarperir y cymorth

Dylai meysydd pwnc y digwyddiad busnes gefnogi blaenoriaethau Cymru o ran economi, digwyddiadau, twristiaeth, diwylliant a blaenoriaethau cymdeithasol.

12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau

Mae’r cymhorthdal ar gyfer trefnwyr digwyddiadau rhyngwladol a threfnwyr Digwyddiadau Busnes sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru, sy’n bwriadu dod â busnes i Gymru. Mae sectorau yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i ddiogelwch seibr, lled-ddargludyddion cyfansawdd, gweithgynhyrchu o werth uchel, technoleg ariannol, gwyddorau bywyd, ynni adnewyddadwy, y diwydiannau creadigol, twristiaeth bwyd a diod.

13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun

£25,000 fel arfer, os nad oes amgylchiadau eithriadol lle gall cais arddangos yn glir werth ychwanegol sylweddol pe cai digwyddiad ei gynnal yng Nghymru.

14. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image