Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Hawliau dynol yw hawliau LHDTC+.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+. Mae’n nod uchelgeisiol, ond credwn y gallwn gefnogi holl bobl LHDTC+ Cymru i fyw eu bywydau i’r eithaf: i fod yn iach, yn hapus, a theimlo’n ddiogel.

Fel llywodraeth, safwn gyda’n cymunedau LHDTC+. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi’u hymgorffori yn ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu (Llywodraeth Cymru 2021a), yn elfen allweddol o’r Cytundeb Cydweithio (Llywodraeth Cymru 2021b) â Phlaid Cymru, a pham rydym wedi datblygu’r Cynllun Gweithredu uchelgeisiol hwn. Ein nod, drwy’r Cynllun hwn, yw dangos ein hymrwymiad clir i barchu, diogelu a chyflawni hawliau dynol holl bobl LHDTC+ Cymru (OHCHR 2022a).

Bydd y Cynllun hwn yn gweithredu fel y fframwaith ar gyfer datblygu polisi LHDTC+ yn y llywodraeth a chyda’n partneriaid. Mae’n nodi camau pendant y byddwn yn eu cymryd i gryfhau cydraddoldeb i bobl LHDTC+, herio gwahaniaethu, a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddiffuant, yn agored ac yn rhydd fel nhw eu hunain.

Mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ hwn i Gymru wedi cael ei sefydlu i helpu i gydgysylltu camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru ac asiantaethau eraill. Mae’r Cynllun yn amlinellu gweledigaeth gyffredinol i wella bywydau pobl LHDTC+ a chanlyniadau iddynt. Mae’n cynnwys amrywiaeth eang o gamau polisi penodol sy’n ymwneud â hawliau dynol, addysg, gwella diogelwch, tai, iechyd a gofal cymdeithasol, chwaraeon, diwylliant, a hyrwyddo cydlyniant cymunedol. Yn benodol, drwy’r Cynllun Gweithredu hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i amddiffyn a hyrwyddo hawliau ac urddas pobl draws ac anneuaidd, a helpu’r cymunedau hynny i deimlo’n gyfforddus ac yn rhan o gymdeithas yng Nghymru.

Am y tro cyntaf, rydym wedi dwyn ynghyd ein hymrwymiadau presennol ac wedi nodi sut y bwriadwn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant LHDTC+, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau, rhagolygon, a chanlyniadau i bobl LHDTC+, heddiw ac yn y dyfodol.