Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Prif Weinidog

Ni enillwyd tir dros achosion blaengar erioed heb frwydr. Pryd bynnag y caiff dadl dros newid ei chyflwyno, daw’r sawl sydd â budd yn y sefyllfa fel y mae a’r sawl sydd am ei hamddiffyn i’r golwg. Nid oes enghraifft gliriach o hynny nag yn y frwydr i sicrhau hawliau pobl LHDTC+. Mae hanes modern rhyddid LHDTC+ yn ymestyn ymhell dros hanner canrif. Mae’r gost ddynol gronnol sy’n gysylltiedig ag wynebu rhagfarn sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn wedi bod yn enfawr. Mae ymdrechion arloeswyr wedi sicrhau datblygiadau gwirioneddol bwysig. Ond mae angen inni barhau i fod yn wyliadwrus o hyd. Hwyrach nad yw gwahaniaethu na rhagfarn yn dderbyniol, yn gyfreithiol neu’n gymdeithasol, mwyach, ond yn sicr nid ydynt wedi diflannu, ac nid yw’r gwaith i sicrhau datblygiadau pellach ar ben.

Dyna pam mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ trawslywodraethol uchelgeisiol hwn yn ceisio mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau y mae cymunedau LHDTC+ yn eu hwynebu ar hyn o bryd, herio gwahaniaethu a chreu cymdeithas lle mae pobl LHDTC+ yn ddiogel i fyw a charu yn ddiffuant, yn agored, ac yn rhydd fel nhw eu hunain.

Datganiad yw’r Cynllun hwn, a datganiad pwerus, o’n penderfyniad i barhau i gerdded ar hyd y ffordd honno gyda’n gilydd yma yng Nghymru, er mwyn adeiladu ar fudiad hynod ddewr. Rydym yn benderfynol, drwy weithio gyda’n gilydd a sefyll dros yr hyn a wyddom sy’n gywir, y gallwn greu’r Gymru gydradd a hardd honno yr ydym oll am ei gweld.

Dyma ein Cynllun cyntaf i roi ffocws ar ymateb i anghenion penodol ac amrywiaeth ein cymunedau LHDTC+ a’r hyn sy’n eu gwneud yn agored i niwed. Am y tro cyntaf, rydym wedi dwyn ynghyd ein hymrwymiadau presennol ac wedi nodi sut y bwriadwn hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant LHDTC+, er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran cyfleoedd bywyd, rhagolygon, hawliau a chanlyniadau i bobl LHDTC+ yn y dyfodol.

Rydym hefyd wedi cryfhau’r ffordd y byddwn yn cyflawni’r Cynllun ac yn cael ein dwyn i gyfrif amdano. Rydym wedi sicrhau cyllideb realistig a strategaeth werthuso i fonitro llwyddiant yn ystod tymor y Senedd hon. Ein nod yw cau’r bwlch rhwng cyhoeddi Cynllun Gweithredu, a’i weld yn cael ei roi ar waith. Yn wir, mae’r gwaith i roi’r Cynllun hwn ar waith eisoes wedi dechrau.

Gwyddom fod y problemau a wynebir gan gymunedau LHDTC+ yn aml yn cynnwys sawl dimensiwn: dyna pam mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn canolbwyntio ar groestoriadedd. Mae’n cyd-fynd yn agos â’n holl waith i hyrwyddo hawliau dynol a lleihau anghydraddoldeb sy’n gysylltiedig â rhywedd, anabledd, ffydd, oedran, a hil bydd y ffordd y bydd hyn yn croestorri â hawliau LHDTC+, heb i neb gael ei adael ar ôl, yn allweddol i lwyddiant y Cynllun.

Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y Cynllun am yr hyn sydd ynddo ffrwyth ymdrechion cynifer o bobl yma yng Nghymru ond rydym megis cychwyn ar ein taith ac, yn sicr, nid ydym wedi cyrraedd pen y daith hon.

Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS.

Prif Weinidog Cymru.

Rhagair y gweinidog

Mae Llywodraeth Cymru yn sefyll gyda’n cymunedau LHDTC+ yng Nghymru ac oddi mewn iddynt. Dyna pam mae hawliau LHDTC+ wedi cael eu hymgorffori yn ein Rhaglen Lywodraethu a’u bod yn elfen allweddol o’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, a pham rydym wedi datblygu’r Cynllun Gweithredu beiddgar hwn. Mae’r Cynllun hwn yn cryfhau’r mesurau diogelu ar gyfer pobl LHDTC+, yn hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac yn helpu i gydgysylltu camau gweithredu rhwng y Llywodraeth, cymunedau a’r wlad er mwyn gwireddu ein huchelgais o sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl i LHDTC+.

Wrth inni ddod allan o bandemig COVID-19, mae’r gwerthoedd hyn hyd yn oed yn fwy canolog i greu Cymru decach, fwy llewyrchus a mwy cyfartal. Wrth wraidd yr ymrwymiad hwn mae cefnogaeth i bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol, anneuaidd, ryngryw, arywiol, aramantaidd, pobl gwiar a phobl sy’n cwestiynu (LHDTC+).

Rydym am i Gymru fod yn wlad lle mae pawb yn teimlo’n ddiogel i fod yn nhw eu hunain, bod yn agored am eu cyfeiriadedd rhywiol, eu rhywedd, a’u mynegiant rhywedd, yn y cartref, yn y gwaith neu yn ystod gweithgareddau hamdden, heb deimlo dan fygythiad. Mae’n rhaid i’r Cynllun Gweithredu hwn fod yn rhan o’n hymrwymiad ar y cyd i greu Cymru lle mae pawb yn teimlo’n rhydd, wedi ein cefnogi, ac yn ddiogel i fod, a byw ein bywydau yn ddiffuant fel ni ein hunain.

Gwlad lle nad oes angen i bobl fel minnau feddwl tybed a yw’n ddiogel dal dwylo gyda’n partner yn gyhoeddus; Gwlad lle nad yw difrïo na sylwadau gwawdlyd, boed hynny ar-lein neu yn y stryd, yn beth cyffredin mwyach, a gwlad lle y rhoddwyd terfyn ar gasineb. Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf o ran hawliau LHDTC+, ond gall pobl LHDTC+ wynebu gwahaniaethu ac aflonyddu o hyd boed hynny yn y gweithle neu mewn addysg, lleoliadau teuluol, gofal iechyd, gofal cymdeithasol a mwy. Fodd bynnag, rydym yn byw mewn oes lle y gall deimlo fel petaem o dan fygythiad, a bod perygl y byddwn yn colli ein hawliau, boed hynny dros y byd i gyd neu, yn anffodus, ychydig yn agosach na hynny, gyda safbwynt Llywodraeth Geidwadol bresennol y DU ar hawliau LHDTC+ fel petai’n edrych i’r gorffennol.

Mae teimlad bod hanes yn cael ei ailadrodd, o iaith ddifrïol, ofn ac aralleiddio a dargedir at y gymuned draws i’r cymysgedd gwenwynig o gasineb at fenywod a homoffobia y mae llawer ohonom yn llawer rhy gyfarwydd ag ef.

Mae’n rhaid i hyn newid, ac mae’r gwaith i sicrhau’r newid hwnnw wedi dechrau.

Mae’r Cynllun Gweithredu LHDTC+ wedi cael ei ddatblygu ar y cyd ag amrywiaeth eang o gymunedau a sefydliadau ledled Cymru. Mae’r nodau a’r camau gweithredu wedi cael eu llunio ar y cyd â phobl LHDTC+ ac rydym wedi gwneud yr arwyddair ‘Nihil de nobis, sine nobis’ (‘dim byd amdanon ni hebon ni’) yn un o’r gwerthoedd sy’n sail i’r Cynllun Gweithredu hwn a’r ffordd rydym yn gweithredu. Rydym yn hynod ddiolchgar i bawb, yn enwedig y Panel Arbenigwyr LHDTC+ am eu cyfraniad tuag at y gwaith hwn, a pharodrwydd pobl LHDTC+ i estyn eu ffydd i gredu yn y posibilrwydd o newid cadarnhaol.

Gyda’n gilydd, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym eisoes wedi gwneud cynnydd yng Nghymru. Rydym wedi bwrw ymlaen â diwygiadau i’r cwricwlwm, gan ymgorffori addysg sy’n LHDTC+-gynhwysol. Rydym wedi sefydlu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd er mwyn helpu ein cymunedau traws i fod yn nhw eu hunain. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gynnig PrEP (Proffylacsis Cyn-gysylltiad, cyffur gwrth-HIV) am ddim gan y GIG. Rydym wedi cefnogi Pride Cymru a digwyddiadau Pride ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled Cymru.

Rydym wedi cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu ar HIV i Gymru er mwyn ymgynghori arno yn 2022. Nod y cynllun hwn yw cyrraedd y targed o gael gwared ar heintiadau HIV newydd erbyn 2030, mynd i’r afael â diagnosis hwyr yng Nghymru a’r stigma sy’n gysylltiedig â HIV a gwella ansawdd bywyd pobl sy’n byw gyda HIV. Rydym yn parhau i ddatblygu ein gwasanaeth rhywedd yng Nghymru, sy’n nodi amseroedd aros byrrach cyn yr asesiad cyntaf na gwasanaethau rhywedd cyfatebol gan y GIG yn Lloegr ac rydym yn ymrwymedig i gwtogi ar amseroedd aros ymhellach. Rydym hefyd yn ymrwymedig i wella’r llwybr i gefnogi pobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Bydd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy’n gyfrifol am y gwasanaeth, yn edrych ar y dystiolaeth sydd ar gael i ddiffinio’r model gwasanaeth clinigol ymhellach yn y dyfodol, a bydd lleisiau yn y gymuned yn chwarae rhan amlwg a chanolog yn y gwaith hwn.

Mae ein hymrwymiad i gefnogi pobl LHDTC+ sy’n ceisio noddfa yng Nghymru a dangos ein dyletswydd ryngwladol i arwain ym maes cydraddoldeb yn bwysicach nag erioed. Rydym wedi beirniadu Llywodraeth y DU ac wedi mynegi ein harswyd at ei bwriad i anfon ceiswyr lloches i Rwanda. Byddai hyn yn ergyd greulon i bobl LHDTC+, gan eu rhoi mewn perygl o gamdriniaeth, gwahaniaethu, arestio mympwyol, a chadw dan orchymyn. Erys ein lle yn y byd a materion LHDTC+ y tu hwnt i’n ffiniau yn bwysig inni o hyd mae dyletswydd arnom i wneud yr hyn sy’n iawn yma yng Nghymru, gan gynnwys herio a gweithio gyda Llywodraeth y DU a thramor, drwy ddefnyddio ein llwyfan i ymgysylltu a dylanwadu.

Yma yng Nghymru, rydym wedi ymrwymo i wneud pob ymdrech i wahardd arferion trosi i bawb sy’n LHDTC+. Gan weithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, rydym wedi dechrau gwaith cymhleth, gan gynnwys ceisio cyngor cyfreithiol i ganfod pob peth y gallwn ei wneud i gyflwyno gwaharddiad yng Nghymru, a datblygu ein hymgyrch i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth ac erchyllterau arferion trosi, ac rydym wedi sefydlu Gweithgor o arbenigwyr i gynghori’r llywodraeth. Rydym yn falch o’n hymagwedd flaengar yng Nghymru, o wneud pethau’n wahanol a chydweithio mewn partneriaeth â Phlaid Cymru tuag at gymdeithas, gwleidyddiaeth a chenedl fwy cynhwysol a chefnogol.

Gwyddom fod angen inni sicrhau ein bod, nid yn unig yn gwrando ar leisiau a phrofiadau bywyd pobl LHDTC+, ond yn gweithredu ar hynny. Drwy’r ffordd y datblygwyd y Cynllun hwn gennym rydym wedi sicrhau bod y straeon a’r profiadau personol wedi’u hymgorffori yn y gwaith hwn. Rhoddodd pobl o’u hamser yn hael, a rhannodd llawer eu profiadau o wahaniaethu a gelyniaeth fel dinasyddion yng Nghymru. Rhannwyd hefyd yr hyn a gyflawnwyd ganddynt fel eiriolwyr, gweithwyr, ac arweinwr; fel ymchwilwyr, arbenigwyr, a gweithwyr proffesiynol; ac fel cymunedau. Mae’r Cynllun hwn yn ffrwyth ymdrech i gynnal deialogau agored a dynamig o fewn a rhwng Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, academyddion, ymgyrchwyr, grwpiau cymunedol, ac unigolion o bob rhan o’r cymunedau LHDTC+ yng Nghymru.

Yn ystod ymweliad i gyfarfod â grŵp Digon o Ysgol Plasmawr yng Nghaerdydd, gofynnais i’r myfyrwyr pa neges yr hoffent inni ei rhannu mewn datganiad i nodi Mis Pride 2022. Roedd y neges yn glir:

“Rwyf am gael fy nathlu, yn hytrach na chael fy ngoddef yn unig”.

Y deyrnged fwyaf y gallwn ei thalu i’r arloeswyr a fraenarodd y ffordd i bobl fel minnau, yw parhau i weithio gyda’n gilydd dros achos cyffredin siarad ar goedd, sefyll gyda’n gilydd a chwarae ein rhan ein hunain i sicrhau dyfodol tecach lle rydym yn teimlo yn ddiogel, wedi ein cefnogi ac wedi ein dathlu. Gyda’n Gilydd mewn Balchder a thuag at gynnydd, gallwn greu’r Gymru a garem a sicrhau mai ni yw’r genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+.

Hannah Blythyn AS.

Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol.