Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Rhestr termau

Mae’r Rhestr Termau ganlynol yn casglu rhai diffiniadau a ddefnyddiwyd yng nghyhoeddiadau a deddfwriaeth flaenorol Llywodraeth Cymru (Llywodraeth Cymru 2019b; Llywodraeth Cymru 2019c). Fodd bynnag, nid oes gan rai termau ddiffiniad cyfreithiol. Am ragor o wybodaeth, ac i weld y termau hynny nad oes ganddynt ddiffiniad cyfreithiol, edrychwch ar restrau termau eraill sydd eisoes ar gael, gan gynnwys tudalen a:gender (2022), tudalen Stonewall (2022), y Rhestr Termau ar gyfer Adroddiad Llywodraeth Cymru ar Gyfrifiad 2021 (Llywodraeth Cymru 2023), a geiriadur Cyfrifiad 2021 SYG (Cyfrifiad 2021 SYG). Dylid defnyddio’r adran hon i egluro’r derminoleg a ddefnyddir yn y Cynllun Gweithredu hwn. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw deall sut mae pobl yn cyfeirio atynt hwy ei hunain, ac ni fwriedir i’r rhestr termau hon awgrymu diffiniadau cynhwysfawr o gyfeiriadeddau na hunaniaethau y tu hwnt i ddiben y gwaith hwn.

Ace/Aro, neu Arywiol/Aramantaidd

Mae Ace, neu “arywiol” yn cwmpasu Grŵp o ddiffiniadau i bobl sy’n cael dim neu prin ddim profiad o atyniad rhywiol at eraill. Aro yw’r term byrfodd am aramantaidd, sydd yn aml yn cyfeirio at rywun sy’n cael dim neu fawr ddim profiad o atyniad rhamantaidd at eraill.

Arferion Trosi

Defnyddir y term arfer trosi fel un cyffredinol i ddisgrifio ymyriadau o natur amrywiol, y mae pob un ohonynt yn seiliedig ar y camsyniad y gall cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd person, gan gynnwys hunaniaeth a mynegiant rhywedd, gael eu newid neu eu hatal pan na fyddant yn dod o dan yr hyn y mae eraill mewn lleoliad ac amser penodol yn ei ganfod yn norm a ddymunir, yn enwedig pan fydd y person yn lesbiaidd, yn hoyw, yn ddeurywiol, yn draws, yn anneuaidd neu’n rhywedd-amrywiol (sef “LHDTC+”). Felly, mae arferion o’r fath wedi’u hanelu’n gyson at sicrhau newid o beidio â bod yn heterorywiol i fod yn heterorywiol a/neu o fod yn draws neu’n rhywedd-amrywiol i fod yn cisryweddol. Yn dibynnu ar y cyd-destun, defnyddir y term am nifer o arferion a dulliau, y mae rhai ohonynt yn ddirgel ac felly ni wyddys llawer amdanynt.

Rhywedd

Term a ddefnyddir i gyfeirio at ymdeimlad mewnol rhywun o fod yn fenyw, yn wryw neu’n anneuaidd. Nid yw rhywedd pobl bob amser yn cyd-fynd â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni (gweler trawsryweddol/traws). Defnyddir y term hwn yng nghyd-destun mynegiant rhywedd neu hunaniaeth rhywedd weithiau.

Rhywedd-amrywiol

Defnyddir y term “rhywedd-amrywiol” i gyfeirio at bobl y mae eu rhywedd, gan gynnwys eu hunaniaeth rhywedd a’u mynegiant rhywedd, yn mynd yn groes i’r hyn a ganfyddir yn norm rhywedd mewn cyd-destun penodol ar adeg benodol, gan gynnwys y rhai sy’n gosod eu hunain y tu allan i’r syniad traddodiadol deuaidd gwryw/ benyw o rywedd.

Mynegiant Rhywedd

Mae hyn yn cyfeirio at y ffordd y mae unigolyn yn dewis ymgyflwyno mewn cymdeithas er mwyn adlewyrchu eu rhywedd ar y cyd â rhai normau a gwahaniaethau cymdeithasol a diwylliannol sydd gan gymdeithasau ynglyˆ n â sut mae pobl yn ymddwyn, yn mynegi eu hunain, yn ymddangos neu’n gwisgo. Mae pobl yn aml yn cael ymdeimlad pwysig o hunaniaeth yn y rhain, ond gallant hefyd olygu bod gwahaniaethu, anghydraddoldebau a niweidiau yn parhau.

Hunaniaeth Rhywedd

Defnyddir y term hwn yn aml i fod yn gyfystyr â rhywedd ac mae’n golygu’r un peth yn y pen draw ymdeimlad person ohono’i hun. Mae’r term “hunaniaeth rhywedd” wedi bod yn ffynhonnell rhethreg am yr ymadrodd “uniaethu yn…” sy’n polareiddio ac mae wedi cael ei wrthod gan rai pobl a grwpiau sy’n ffafrio’r term symlach “rhywedd”.

Ailbennu Rhywedd

Dyma’r term sy’n disgrifio pobl drawsryweddol sy’n cael eu diogelu rhag gwahaniaethu o dan y gyfraith. O dan Adran 7 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. “A person has the protected characteristic of gender reassignment if the person is proposing to undergo, is undergoing or has undergone a process (or part of a process) for the purpose of reassigning the person’s sex by changing physiological or other attributes of sex.”

Croestoriadedd

Mae’n ymwneud â’r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu (h.y., trin person yn annheg oherwydd ei nodweddion gwarchodedig) yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd. Mae gwahaniaethu croestoriadol, a elwir weithiau yn wahaniaethu cyfun, yn codi os gwahaniaethir yn erbyn person oherwydd cyfuniad penodol o ddwy nodwedd warchodedig neu fwy.

Rhyngryw ac Amrywiadau mewn Nodweddion Rhyw (VSC)

Person rhyngryw yw rhywun nad yw’n cyfateb i’r disgwyliadau confensiynol ar gyfer datblygiad benyw neu wryw o ran anatomi, metaboliaeth nac eneteg. Gwrthwyneb rhyngryw yw endoryw, lle mae person yn cyfateb i ddisgwyliadau confensiynol. Mae rhai clinigwyr yn defnyddo’r term gwahaniaethau mewn datblygiad rhywiol (DSD), ond mae’r term hwn yn amhoblogaidd ymhlith grwpiau rhyngryw am ei fod yn gysylltiedig â hen ystyr DSD, sef “anhwylderau datblygiad rhywiol”. Teimlir bod y term “anhwylder” yn ddifrïol. Yn yr un modd, mae’r term rhyngryw yn cael ei wrthod gan rai grwpiau weithiau y mae’n well ganddynt gyfeirio at “Amrywiadau mewn Nodweddion Rhyw” (VSC) neu “amrywiadau mewn anatomi cenhedlu neu ryw”.

LHDTC+

Mae’n cyfeirio at bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol, drawsryweddol/draws, pobl gwiar a phobl sy’n cwestiynu. Gellir ychwanegu llythrennau at yr acronym i gynnwys grwpiau, cyfeiriadeddau a hunaniaethau eraill megis Rh (rhyngryw) ac A (arywiol/aramantaidd). Defnyddir yr arwydd + yn yr acronym fel llaw fer i gynnwys a chydnabod teramu amrywiol eraill y mae pobl yn uniaethu â nhw ac yn eu defnyddio i ddisgrifio eu hunaniaethau a’u cyfeiriadeddau, gan gynnwys pobl ryngryw, arywiol ac aramantaidd.

Anneuaidd

Diffinnir person anneuaidd fel rhywun sydd â rhywedd y tu allan i’r syniad traddodiadol deuaidd gwryw/benyw o rywedd.

Nodweddion Gwarchodedig

Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi beth yw nodweddion gwarchodedig, sef oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, Beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, a chyfeiriadedd rhywiol.

Cwiar

Term a ddefnyddir yn bennaf gan bobl sy’n uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd leiafrifol, ac sydd weithiau yn gwrthod labeli eraill ar gyfeiriadeddau neu hunaniaethau. Er i’r term hwn gael ei ddefnyddio fel un difrïol am unigolion LHDTC+ yn y gorffennol, ac mae rhai pobl yn ystyried bod y term yn un sarhaus, mae bellach wedi cael ei adfeddiannu gan lawer o gymunedau LHDTC+.

Rhyw

Term a briodolir i berson ar sail ystod o nodweddion gan gynnwys cromosomau, proffiliau hormonau ac anatomi a swyddogaethau cenhedlu (e.e., organau rhywiol). Nid yw rhywedd rhai pobl yn cyfateb i’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni (gweler trawsryweddol/traws). Ar hyn o bryd yn y DU, dim ond dau ryw y gellir eu cofnodi ar adeg geni, nad ydynt yn cynnwys pobl ryngryw. Yn adran 11 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, dywed “in relation to the protected characteristic of sex (a) a reference to a person who has a particular protected characteristic is a reference to a man or to a woman”.

Cyfeiriadedd Rhywiol

Diffinnir y term hwn yn adran 12 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Ystyr cyfeiriadedd rhywiol yw cyfeiriadedd rhywiol person tuag at bobl o’r un rhyw, pobl o’r rhyw arall neu bobl o’r naill ryw neu’r llall. Gall pobl ddefnyddio’r termau heterorywiol, hoyw, deurywiol, lesbiaidd neu strêt i ddisgrifio eu cyfeiriadedd rhywiol.

Trawsryweddol/traws

Term cyffredinol a ddefnyddir i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yn cyd-fynd â’r rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni neu nad ydynt yn gyfforddus ynglyˆ n â’r rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni. Gwrthwyneb trawsryweddol yw cisryweddol, sy’n disgrifio pobl y mae eu rhywedd yn cyd-fynd â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni neu y maent yn gyfforddus â’r rhyw a bennwyd iddynt ar adeg eu geni. Bydd rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn bobl drawsryweddol, ond nid pob un.