Neidio i'r prif gynnwy

A. Hawliau dynol a chydnabyddiaeth

Cam gweithredu 1: cryfhau dealltwriaeth o hawliau dynol pobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Cyhoeddi pecyn cymorth o adnoddau Hawliau Dynol LHDTC+, a arweinir gan gymdeithasau sifil LHDTC+.

Beth fydd yr effaith?

  • Sicrhau mwy o wybodaeth ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol am hawliau dynol pawb sy’n LHDTC+.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Cymdeithasau sifil LHDTC+.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 2: helpu pobl LHDTC+ i ddeall yn well sut i fynnu eu hawliau dynol

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Rhannu adnoddau sy’n ymwneud â diogelu hawliau dynol i bobl LHDTC+, ymyrryd â’u hawliau dynol a gwneud iawn am hynny.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae adnoddau a gwasanaethau ar gael i bobl LHDTC+ er mwyn ymdrin ag achosion o ymyrryd â’u hawliau dynol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Cymdeithasau sifil LHDTC+.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 3: gwahardd pob agwedd ar Arferion Trosi LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Sefydlu gweithgor i ystyried cyffredinrwydd ac effaith arferion trosi yng Nghymru, a chyngori ar ymgyrchoedd.
  • Lansio ymgyrch i dynnu sylw at y niwed y mae arferion trosi yn ei achosi, yn ogystal â thynnu sylw at wasanaethau cymorth i oroeswyr.
  • Cwblhau prosiect ymchwil i brofiad goroeswyr arferion trosi yng Nghymru.
  • Cael cyngor cyfreithiol ar ddulliau gweithredu polisi a chyfreithiol i wahardd arferion trosi yng Nghymru.
  • Defnyddio’r holl bwerau sydd ar gael i wahardd pob agwedd ar arferion trosi LHDTC+ yng Nghymru a cheisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol (Llywodraeth Cymru 2021a).
  • Ceisio cyflwyno deddfwriaeth i wahardd arferion trosi yng Nghymru.

Beth fydd yr effaith?

  • Gwella mynediad at wasanaethau cymorth i oroeswyr.
  • Lleihau nifer y bobl LHDTC+ sydd wedi cael profiad o arferion trosi yng Nghymru.
  • Mae’r cyhoedd yn fwy ymwybodol o gyffredinrwydd a pheryglon arferion trosi.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig a thymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru
  • Gweithgor Llywodraeth Cymru ar Wahardd Arferion Trosi
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”)

Cam gweithredu 4: cryfhau cynrychiolaeth LHDTC+ ar fforymau cydraddoldeb

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gwella cynrychiolaeth LHDTC+ ar Fforymau Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.
  • Monitro cynhwysiant croestoriadol Fforymau Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae lleisiau LHDTC+ yn cael eu clywed, ac ymdrinnir ag ystyriaethau croestoriadol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 5: cynnwys cymunedau LHDTC+ yn y gwaith o lunio gwasanaethau cyhoeddus

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn cynnwys pobl LHDTC+ yn y gwaith o lunio gwasanaethau fel mater o drefn, yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Strategol.
  • Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol Llywodraeth Cymru, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Strategol yn ymdrin â chynnwys cymunedau LHDTC+ mewn gwaith cynllunio strategol.
  • Adolygu rheoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a’r broses adrodd.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae cymunedau LHDTC+ yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys ym mywyd cyhoeddus Cymru.
  • Mae’r adolygiad o reoliadau Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru yn ystyried ac yn cynnwys pobl LHDTC+ a’u hanghenion.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru
  • Awdurdodau Lleol
  • CLlLC
  • Cyrff cyhoeddus

Cam gweithredu 6: Cydnabod pobl anneuaidd a phobl ryngryw

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Ym mhob maes polisi datganoledig, adolygu iaith polisïau a chanllawiau er mwyn iddynt fod yn sensitif i iaith ryweddol a dynodwyr rhywedd.
  • Mewn meysydd polisi nas datganolwyd, dechrau sgyrsiau â Llywodraeth y DU gyda’r nod o weithredu proses o adnabod pobl anneuaidd ar basbortau a thrwyddedau gyrru (e.e., dynodwr rhywedd X).

Beth fydd yr effaith?

  • Mae anghenion pobl anneuaidd a rhyngryw yn cael eu nodi a’u diwallu mewn gwasanaethau cyhoeddus.
  • Mae Llywodraeth Cymru a’i chyhoeddiadau yn defnyddio iaith gynhwysol.
  • Mae pobl anneuaidd a rhyngryw yn cael eu cydnabod a’u dilysu’n gyhoeddus.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 7: ceisio datganoli pwerau mewn perthynas â Chydnabod Rhywedd

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Dechrau cyd-drafod â Llywodraeth y DU, a gwneud cais i ddatganoli pwerau ynglyˆn â Chydnabod Rhywedd.
  • Nodi ffyrdd o gefnogi’r rhai sy’n gwneud cais am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd yng Nghymru.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’n cymunedau traws yn weladwy.
  • Mae’r pwerau perthnasol yn cael eu datganoli.
  • Mae pobl draws yn cael cymorth i gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor byr.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 8: mae ymgysylltu rhyngwladol yn dangos ein gwerthoedd a’n cymorth i bobl LHDTC+ yng Nghymru ac yn fyd-eang

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Ystyried sut i fabwysiadu dull caffael cynhwysol sy’n lleihau ac yn dileu’r rhwystrau gwirioneddol a chanfyddedig sy’n atal cyflenwyr amrywiol rhag ymgynnig am gontractau Llywodraeth Cymru.
  • Ystyried sut i bennu targedau ystyrlon yn y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir er mwyn cynyddu amrywiaeth ymhlith cadwyni cyflenwi Llywodraeth Cymru. Fel cam cyntaf, byddwn yn dadansoddi cadwyni cyflenwi Llywodraeth Cymru i ganfod lefel bresennol amrywiaeth cyflenwyr.
  • Arddangos ein gwerthoedd yng Nghymru fel cenedl sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+ ar lwyfan ehangach drwy ymgysylltu diplomyddol a’n rhwydwaith tramor, gan gynnwys gyda gwledydd nad ydynt o reidrwydd yn rhannu’r safbwyntiau hyn, ac adolygu’n rheolaidd y ffordd rydym yn gweithredu.
  • Gweithio gyda Map Enfys ILGA-Europe o ran safleoedd LHDTC+-gynhwysol yn Ewrop er mwyn tynnu sylw at safle Cymru fel rhan o’r dadansoddiad ehangach o’r DU: sicrhau bod Cymru yn cael ei chynrychioli’n fanylach yn yr Adolygiad Blynyddol.
  • Codi pwysigrwydd hawliau LHDTC+ pan fyddwn yn ymgysylltu’n rhyngwladol a gweithio gyda gwledydd neu sefydliadau rhynglywodraethol eraill i wella bywydau pobl LHDTC+ ledled y byd.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae Cymru yn cael ei gweld fel cenedl sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+ yn Ewrop ac yn fyd-eang.
  • Mae cysylltiadau rhyngwladol ac arferion caffael Cymru yn adlewyrchu ei nod o fod yn genedl sy’n gyfeillgar i bobl LHDTC+.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus, i’w adolygu’n flynyddol.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru.
  • Cyfarwyddiaeth Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru.

B. Diogelwch a rhyddid rhag gwahaniaethu

Cam gweithredu 9: dileu rhwystrau sy’n atal pobl LHDTC+ rhag rhoi gwybod am droseddau casineb

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio gyda Phlismona yng Nghymru i ystyried a gwella gweithdrefnau’r heddlu a chanllawiau i swyddogion ynglyˆn â throseddau casineb.
  • Parhau â’r sgyrsiau ar ddosbarthu troseddau casineb yn erbyn pobl LHDTC+.
  • Casglu tystiolaeth gan gymunedau LHDTC+ o brofiadau cadarnhaol a negyddol wrth roi gwybod am droseddau casineb a deall unrhyw rwystrau sy’n atal pobl rhag rhoi gwybod amdanynt. Gan ddefnyddio’r dystiolaeth hon, cefnogi gwaith y Bwrdd Tensiynau Cymunedol i roi adborth i’r heddluoedd yng Nghymru.
  • Adolygu’r ystadegau ynglyˆn ag amrywiaeth Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru a roddir i’r Grŵp Llywio ar gyfer Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu bob blwyddyn, er mwyn deall a gwella cyfansoddiad y gweithlu hwn, i fod yn gynrychioliadol o gymunedau LHDTC+.

Beth fydd yr effaith?

  • Gwella lefelau rhoi gwybod am droseddau casineb ar sail LHDTC+ a lefelau cofnodi.
  • Mae pobl LHDTC+ yn hyderus i roi gwybod am droseddau casineb.
  • Gweithlu mwy cynrychioliadol ac amrywiol o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, ac yn gyffredinol mewn heddluoedd yng Nghymru, gan ennyn mwy o ymddiriedaeth yn y gwasanaeth ymhlith pobl LHDTC+.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid, ynghyd â phartneriaid eraill ym maes cyfiawnder troseddol a chyfiawnder cymdeithasol
  • Tîm Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru, gan weithio’n agos gyda Phlismona yng Nghymru
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”)

Cam gweithredu 10: parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni atal troseddau casineb ledled Cymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Lansio fersiwn ddiwygiedig o ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru, gyda ffocws ar weithio gyda phobl a sefydliadau LHDTC+, yn enwedig o ran casineb ac aflonyddu yn erbyn pobl drawsryweddol a phobl anneuaidd.

Beth fydd yr effaith?

  • Codi ymwybyddiaeth o ystyr trosedd casineb, sut i roi gwybod am drosedd casineb, a’r cymorth a’r gwasanaeth eiriolaeth sydd ar gael i bobl LHDTC+ drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru.
  • Mwy o ddealltwriaeth o’r ffyrdd gwahanol o roi gwybod am drosedd casineb, yn hytrach nag yn uniongyrchol i’r heddlu.
  • Dangosir i unigolion a allai gyflawni troseddau casineb o bosibl ganlyniadau troseddau casineb, ar eu bywydau eu hunain a bywydau’r dioddefwyr.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Cydlyniant Cymunedol a Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 11: gwrthsefyll agweddau gwrth-LHDTC+ ar-lein a throseddau casineb

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Mae “Hawliau, parch, cydraddoldeb canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir” yn cynnwys bygythiadau digidol a rhagfarn a fynegir ar-lein, gan gynnwys bwlio ac ymddygiad ymosodol ar-lein.
  • Mae ymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ yn cynnwys enghreifftiau o gasineb ar-lein ac yn dangos ffyrdd clir o roi gwybod am gasineb ar-lein i oroeswyr ac unigolion wedi’u targedu.
  • Diweddaru adnoddau “HWB”, y llwyfan dysgu ac addysgu digidol i ysgolion yng Nghymru, a’r adrannau “cadw’n ddiogel ar-lein” er mwyn mynd i’r afael â diogelwch ac adnoddau ar-lein.
  • Helpu ysgolion i roi Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb orfodol ar waith lle mae diogelwch ar-lein yn un o’r nodweddion allweddol.
  • Rhoi dirnadaethau ynglyˆn ag anghenion penodol pobl LHDTC+ er mwyn i Lywodraeth Cymru ddylanwadu ar y Bil Diogelwch Ar-lein cyfredol.

Beth fydd yr effaith?

  • Sicrhau mwy o ddealltwriaeth o agweddau gwrth-LHDTC+ ar-lein.
  • Mae cyrff cyhoeddus yn deall yn well yr hyn sy’n gweithio o ran tarfu ar ledaenu cynnwys llawn casineb ar-lein.
  • Codi ymwybyddiaeth o gasineb ar-lein, sut i roi gwybod amdano, a’r cymorth a’r gwasanaeth eiriolaeth sydd ar gael i bobl LHDTC+ drwy Ganolfan Cymorth Casineb Cymru.
  • Caiff dysgwyr eu helpu i feithrin dealltwriaeth o natur ac effaith gymdeithasol, emosiynol, gorfforol a chyfreithiol ymddygiadau niweidiol, gan gynnwys bwlio yn seiliedig ar LHDTC+ mewn nifer o gyd-destunau, gan gynnwys ar-lein.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru.
  • Tîm HWB Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Cwricwlwm Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 12: gwella perthynas cymunedau LHDTC+ â Phlismona yng Nghymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio gyda Phlismona yng Nghymru i’w annog i ddarparu fforwm i’r heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill gyfarfod â chymunedau a chynrychiolwyr LHDTC+.
  • Hwyluso trafodaethau â phobl anabl LHDTC+ a phobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol LHDTC+ er mwyn deall eu profiadau o swyddogion ymdrin â galwadau’r heddlu ac aelodau eraill o’r staff rheng flaen.
  • Byddwn yn gweithredu ar yr ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu, a gaiff ei gefnogi a’i adlewyrchu yn y Cytundeb Cydweithio, i ddadlau dros ddatganoli plismona a chyfiawnder, fel modd i sicrhau system sy’n briodol i Gymru, sy’n gwbl gynhwysol i bobl LHDTC+ ac sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae cymunedau LHDTC+ yn teimlo’n hyderus i ymgysylltu â gwasanaethu gorfodi’r gyfraith, ac yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u deall pan fyddant yn gwneud hynny.
  • Mae anghenion croestoriadol penodol pobl LHDTC+, yn enwedig y rhai o gymunedau anabl a chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, yn cael eu diwallu.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
  • Bwrdd Casineb a Thensiynau Cymunedol Cymru.
  • Prif Gwnstabliaid.
  • Cymdeithasau Sifil LHDTC+.
  • Tîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Diogelwch Cymunedol Llywodraeth Cymru.
  • Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru, sy’n cynnwys Plismona yng Nghymru.

Cam gweithredu 13: targedu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ymhlith cymunedau LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Darparu cyllid hirdymor cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig a thrais rhywiol arbenigol.
  • Mae rhaglen waith Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru yn cael ei chyflwyno mewn ffordd sy’n cynnwys pawb sy’n LHDTC+.
  • Gwneud gwaith ymchwil pellach i ddeall profiadau goroeswyr cam-drin domestig ethnig leiafrifol LHDTC+ ac anabl LHDTC+ yn well a’r rhwystrau y maent yn eu hwynebu sy’n eu hatal rhag rhoi gwybod am achosion o gam-drin, cael gafael ar gymorth, ac ymwneud â’r system cyfiawnder troseddol.
  • Gwella’r ffordd y caiff data gan ddarparwyr gwasanaethau VAWDASV, gan gynnwys data’r heddlu, eu casglu er mwyn cofnodi profiadau pobl LHDTC+ o roi gwybod am achosion, atgyfeiriadau a digwyddiadau.
  • Mae’r holl lenyddiaeth, negeseuon a mentrau codi ymwybyddiaeth yn LHDTC+ gynhwysol.

Beth fydd yr effaith?

  • Gwell profiad i bobl LHDTC+ sy’n rhoi gwybod am achosion o VAWDASV.
  • Gwell dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n atal pobl rhag rhoi gwybod am achosion.
  • Mae anghenion dynion cisryweddol a thrawsryweddol, gan gynnwys dynion hoyw a deurywiol, yn cael eu hystyried.
  • Mae goroeswyr LHDTC+ yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn llenyddiaeth a chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm VAWDASV Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”).

Cam gweithredu 14: mae gwasanaethau digartrefedd yn gynhwysol o ran anghenion penodol pobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Sicrhau bod pobl LHDTC+ yn rhan o ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol newydd sy’n ymwneud ag atal digartrefedd ac yn gallu dylanwadu arnynt.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr cartrefi gofal i sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant llawn mewn perthynas â hawliau a rhwystrau pobl LHDTC+, yn enwedig y rhai sy’n gweithio gyda phobl LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd.
  • Fel rhan o werthusiad eang ei gwmpas o brosiectau digartrefedd, byddwn yn gwerthuso prosiectau LHDTC+ penodol, megis prosiect Tyˆ Pride, a chasglu arferion gorau ac egwyddorion ynghyd i’w rhannu ag awdurdodau lleol o ran digartrefedd LHDTC+.
  • Parhau i gadw llygad ar ddatblygiadau arloesol mewn prosiectau cydraddoldebau a digartrefedd a’u rhannu â rhanddeiliaid fel y bo’n briodol.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ sy’n wynebu digartrefedd yn teimlo bod y cymorth yn hawdd i’w ddeall, a bodd modd cael gafael ar adnoddau.
  • Mae gwasanaethau digartrefedd yn ymgysylltu â phobl LHDTC+ mewn ffordd sensitif.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Atal Digartrefedd Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Polisi Tai Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.
  • Awdurdodau Lleol.
  • CLlLC.

C. Cenedl noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid

Cam gweithredu 15: adnabod, diogelu a chyfeirio pobl LHDTC+ sy’n hawlio lloches

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Dechrau cyd-drafod â Llywodraeth y DU i ddiwygio’r Ffurflen Gais am Gymorth Lloches (ASF1) i gofnodi gwybodaeth am gyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd er mwyn cynnig mesurau cyfeirio a diogelu wedi’u teilwra.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid LHDTC+ yn teimlo bod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn Genedl Noddfa yn cynnwys pobl LHDTC+.
  • Mae ffurflen ASF1 a’r Canllawiau i Weithwyr Achos Lloches wedi’u diwygio a’u diweddaru.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Llywodraeth y DU.
  • Gweinidog Mewnfudo’r DU.
  • Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU.
  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 16: annog y broses o ddatblygu eiddo i geiswyr lloches LHDTC+ yn unig yng Nghymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio gyda’r holl asiantaethau priodol i hwyluso’r gwaith o ddiwallu anghenion gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth ceiswyr lloches LHDTC+ mewn perthynas â chael cartrefi priodol.
  • Casglu tystiolaeth o brofiadau cadarnhaol a negyddol ceiswyr lloches LHDTC+ mewn perthynas â thai er mwyn dangos y gofyniad i ystyried eu hanghenion yn benodol.

Beth fydd yr effaith?

  • Daw gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, yn gwbl hygyrch i’r amrywiaeth lawn o geiswyr lloches.
  • Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid LHDTC+ yn teimlo bod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn Genedl Noddfa yn cynnwys pobl LHDTC+.
  • Mae gwasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau cynghori, yn dangos sut y maent wedi dod yn fwy hygyrch, gyda’r ystyriaethau angenrheidiol o ran diogelu a lles wedi’u gweithredu.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU.
  • Clearsprings Ready Homes.
  • Sefydliadau a arweinir gan leiafrifoedd ethnig.
  • CLlLC.
  • Tîm Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”).

Cam gweithredu 17: sicrhau bod Cymru fel Cenedl Noddfa yn parhau i gynnwys pobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio gyda gwasanaethau cymorth arbenigol ar gyfer ceiswyr lloches a ffoaduriaid LHDTC+ er mwyn ymgysylltu a deall anghenion ceiswyr lloches a ffoaduriaid LHDTC+.
  • Casglu tystiolaeth o brofiadau cadarnhaol a negyddol ceiswyr lloches LHDTC+ mewn perthynas â’r broses lloches ac integreiddio yng Nghymru er mwyn deall ac ystyried eu hanghenion.
  • Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a’r profiadau uchod, creu hyfforddiant wedi’i deilwra i ddarparwyr gwasanaethau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau perthnasol yng Nghymru ynglyˆn â hawliau a materion ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+ yng Nghymru.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae ceiswyr lloches a ffoaduriaid LHDTC+ yn teimlo bod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i wneud Cymru yn Genedl Noddfa yn cynnwys pobl LHDTC+.
  • Mae safbwyntiau ceiswyr lloches LHDTC+ yng Nghymru yn cael eu rhannu â’r Swyddfa Gartref.
  • Mae staff awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus a’r trydydd sector wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf oll am hawliau grwpiau mudwyr LHDTC+.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Polisi Cynhwysiant a Chydlyniant Llywodraeth Cymru.
  • CLlLC.
  • Awdurdodau lleol.

D. Iechyd, gofal cymdeithasol a llesiant

Cam gweithredu 18: Deall a gwella profiad pobl LHDTC+ yn y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

18.1: hyfforddiant a’r gweithle
  • Cynnal adolygiad o’r hyfforddiant presennol i staff GIG Cymru ar arferion gofal iechyd cynhwysol, gan nodi unrhyw fylchau a mynd i’r afael â nhw.
  • Gweithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Fforwm Partneriaeth GIG Cymru, i ddeall profiad staff LHDTC+ yng ngweithle’r GIG. Cymryd unrhyw gamau priodol (gan gynnwys datblygu hyfforddiant) o ganlyniad i hynny.
  • Gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i lunio, cyflwyno a gwerthuso effaith hyfforddiant penodol i staff mwn lleoliadau gofal cymdeithasol.
18.2: arolygu
  • Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn ystyried defnyddwyr gwasanaethau a chleifion LHDTC+ wrth adolygu ei methodoleg arolygu yn unol â’r chwe pharth Ansawdd (yn benodol ‘teg’).
  • Fel rhan o’i gwaith arolygu, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn ystyried i ba raddau y mae pobl sy’n cael gofal a chymorth, gan gynnwys unigolion LHDTC+, yn cael eu trin gyda pharch a sensitifrwydd, gan roi sylw i unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol.
18.3: cwynion
  • Annog cyrff iechyd i gofnodi data ar gydraddoldeb, lle y bo modd, er mwyn canfod a yw pobl LHDTC+ yn gwneud cwynion am eu gofal. Dylent adolygu’r data a chyflwyno adroddiadau i’w Pwyllgorau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac Ansawdd a Diogelwch.
  • Yng nghyd-destun gofal cymdeithasol, gwella i ba raddau y mae defnyddwyr gwasanaethau yn rhoi gwybod am bryderon a chwynion a chofnodi camau gweithredu dilynol [gan ymgysylltu â’r corff annibynnol newydd, Llais y Dinesydd], darparwyr gwasanaethau eiriolaeth, ac awdurdodau lleol.
  • Ystyried anghenion pobl LHDTC+ o bob oedran yn y broses o adolygu codau ymarfer a chanllawiau statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru (Cymru) 2016.
18.4: canlyniadau a phrofiadau
  • Drwy adolygiad o’r ymchwil a’r dystiolaeth sy’n bodoli eisoes, nodi’r rhwystrau y mae pobl LHDTC+ yn eu hwynebu wrth gael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys unrhyw brofiadau o agweddau gwrth-LHDTC+, ac effaith y rhwystrau hyn ar ymddygiadau pobl o ran cadw’n iach a’u llesiant. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, sgrinio rhag canser a darpariaethau iechyd rhywiol. Rhannu canlyniadau’r adolygiadau ymchwil â Grŵp Anghydraddoldebau Iechyd y GIG a Chymdeithas Cyfarwyddwyr.
  • Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru er mwyn ystyried gweithredu arnynt. Yng nghyd-destun gofal iechyd a gofal cymdeithasol, adolygu’r dystiolaeth ynglyˆn ag effaith ymddygiadau penodol (e.e., ymddygiad camddefnyddio sylweddau, defnyddio tybaco, iechyd rhywiol, ac iechyd meddwl) a all gael effaith anghymesur ar unigolion LHDTC+. Defnyddio’r adolygiad i nodi’r llwybrau gorau i gomisiynu gwasanaethau.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu a’u deall wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Mae pobl LHDTC+ yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu a’u deall mewn cartrefi gofal.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus a thymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Sefydliadau GIG Cymru.
  • Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • ADSS Cymru.
  • Corff Llais y Dinesydd.
  • Rhwydweithiau Cydraddoldeb ar gyfer staff.
  • Memorandwm.
  • Cyd-ddealltwriaeth ar Wahardd Therapi Trosi.
  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Cyfarwyddiaeth Ansawdd a Nyrsio Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Iechyd y Boblogaeth Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio Llywodraeth Cymru.
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”).

Cam gweithredu 19: sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a ffrwythlondeb yn hygyrch ac yn syml i’w defnyddio i bobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Adolygu a gwella llwybrau atgyfeirio a gwasanaethau ym maes ffrwythlondeb i bobl LHDTC+.
  • Nodi, adolygu a gwella mynediad at driniaeth ffrwythloni in vitro, gan gynnwys costau ariannol i bob LHDTC+.
  • Bydd canllawiau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru ar ffrwythlondeb ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod mis Tachwedd/ Rhagfyr 2022 yn cyfeirio at bennu’n fenyw ar adeg geni a phennu’n wryw ar adeg geni a chleifion ar lwybr a ariennir gan y GIG tuag at ailbennu rhywedd, a chynnwys gwybodaeth ynglyˆn â sut y maent yn cadw eu ffrwythlondeb.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall teuluoedd o’r un rhyw gael gafael ar driniaeth ffrwythlondeb yn yr un modd â phawb arall.
  • Caiff pobl draws fynediad amserol at ddulliau storio gametau nad ydynt yn achosi gormod o oedi cyn trawsnewid yn feddygol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Ansawdd a Nyrsio Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 20: sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r strategaeth iechyd meddwl newydd yn ystyried pobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Nodi ac ystyried anghenion pobl, ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+ fel rhan o’r gwaith ymgysylltu i ddatblygu’r Strategaeth.
  • Datblygu camau gweithredu i leihau anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl a chanlyniadau.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ yn hyderus bod gwasanaethau iechyd meddwl yn diwallu eu hanghenion.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Ansawdd a Nyrsio Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 21: cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV newydd a gweithredu arno

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV drafft i Gymru a chynnal ymgynghoriad.
  • Adolygu ymatebion a chyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV diwygiedig i Gymru sy’n cynnwys ffocws ar atal, diagnosis hwyr, addysg, darparu gwasanaethau’n deg, a dileu stigma.
  • Sefydlu grŵp trosolwg i fonitro’r gwaith o weithredu’r camau yn ein Cynllun HIV.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl sy’n byw gyda HIV yn teimlo’n fodlon ar ansawdd eu bywyd ac ansawdd eu gofal.
  • Llai o achosion o ddiagnosis hwyr.
  • Mae Cymru yn cyrraedd y targed o ddim trosglwyddiadau HIV newydd erbyn 2030.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru Byrddau iechyd.
  • Tîm Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 22: goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl LHDTC+ rhag defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Codi ymwybyddiaeth, drwy ymgyrchoedd wedi’u targedu, gyda phobl LHDTC+, o’r gwasanaethau o bell sydd ar gael, gan gynnwys profion drwy’r post (gweler Cynllun Gweithredu HIV Cymru).
  • Cynyddu gwasanaethau telefeddygaeth a gwasanaethau o bell er mwyn darparu ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru nad ydynt yn cael gwasanaeth digonol ar hyn o bryd, gan ystyried pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ ym mhob rhanbarth yng Nghymru yn teimlo eu bod yn gallu cael mynediad hawdd, preifat, a chyfrinachol at wasanaeth iechyd rhywiol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau.
  • Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru Byrddau iechyd.
  • Tîm Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 23: adolygu’r llwybr Datblygu Hunaniaeth Rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Sicrhau bod pobl ifanc a rhanddeiliaid yng Nghymru yn rhan o’r ymgynghoriad ar fanyleb gwasanaeth dros dro.
  • Ystyried opsiynau ar gyfer datblygu gwasanaeth yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu â phobl ifanc, defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall plant a phobl ifanc draws yng Nghymru gael gwasanaethau’n agosach i’w cartref.
  • Mae gwasanaethau iechyd ar gyfer plant a phobl ifanc draws yn canolbwyntio ar angen clinigol ac yn seiliedig ar dystiolaeth glinigol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Gwasanaeth Rhywedd Cymru.
  • Comisiynwyr Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.

Cam gweithredu 24: parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Lleihau amseroedd aros ymhellach ar gyfer Gwasanaeth Rhywedd Cymru a thimau rhywedd lleol.
  • Galluogi meddygon teulu i ddechrau therapi hormonau fel rhan o’r llwybr i oedolion.
  • Deall anghenion pobl anneuaidd o ran defnyddio Gwasanaeth Rhywedd Cymru.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall defnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru gael gafael ar wasanaethau hunaniaeth rhywedd yn fwy amserol ac yn agosach i’w cartrefi.
  • Mae pobl anneuaidd yn hyderus bod Gwasanaeth Rhywedd Cymru yn diwallu eu hanghenion gofal iechyd.
  • Yn unol â Cham Gweithredu 18, Gweithgaredd 18.4 o’r Cynllun hwn, caiff canlyniadau iechyd cyffredinol a phrofiadau pobl draws ac anneuaidd eu hystyried.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
  • Gwasanaeth Rhywedd Cymru.

Cam gweithredu 25: gwella’r ffordd y cofnodir data a’r prosesau newid ar gyfer cynnal cofnodion meddygol pobl draws, anneuaidd a rhyngryw

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Ymgysylltu â phaneli o arbenigwyr a grwpiau rhanddeiliaid er mwyn deall anghenion pobl draws, anneuaidd a rhyngryw mewn perthynas â chofnodi data demograffig a chlinigol.
  • Defnyddio’r canfyddiadau hyn i wella gwybodaeth am wasanaethau rhyw-benodol y GIG i gleifion (e.e., sgrinio serfigol, y fron a’r brostad).
  • Adolygiad ehangach o’r defnydd o ddynodwyr rhyw a rhywedd er mwyn sicrhau bod gwybodaeth am newid manylion yn cael ei throsglwyddo i systemau demograffig eraill y GIG.
  • Ystyried opsiynau ar gyfer diwygio neu ddatblygu gwasanaethau digidol i gyflawni nodau’r polisi uchod a fyddai’n gysylltiedig â chynnwys dinasyddion traws, anneuaidd, a rhyngryw yn well.

Beth fydd yr effaith?

  • Gwell mynediad at wasanaethau gofal iechyd a llai o risg o allgáu.
  • Mae’r ffordd y mae’r GIG yn cyfathrebu yn adlewyrchu anghenion pobl draws ac anneuaidd.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

E. Addysg gynhwysol

Cam gweithredu 26: rhoi canllawiau cenedlaethol ar faterion traws i ysgolion ac awdurdodau lleol

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Cyhoeddi’r Canllawiau ar Drawsrywedd i ysgolion yn llawn.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall ysgolion ac awdurdodau lleol roi’r canllawiau cenedlaethol ar waith yn hyderus.
  • Gellir ymdrin â heriau i’r canllawiau yn genedlaethol, yn hytrach na chan ysgolion ac awdurdodau lleol unigol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Haf 2023.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 27: cefnogi pobl ifanc LHDTC+ a mynd i’r afael â bwlio homoffobig, deuffobig, a thrawsffobig

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Darparu adnoddau dysgu proffesiynol a chymorth i ymarferwyr o ran adnabod, cofnodi a herio bwlio ac aflonyddu sy’n seiliedig ar ragfarn, yn ystod yr hyfforddiant cychwynnol ac fel rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Dylai hyn ystyried sut mae gweithwyr proffesiynol yn cefnogi pobl ifanc LHDTC+ drwy atal a mynd i’r afael â bwlio homoffobig, deuffobig, a thrawsffobig drwy ymgorffori dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau.
  • Ymgysylltu ag awdurdodau lleol i wella mynediad at ddata a gesglir gan ysgolion ynglyˆn â bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+ a gwneud gwell defnydd o’r data hynny, yn unol â’u cyfrifoldebau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Mae rhaglenni Addysg Gychwynnol i Athrawon wedi’u hachredu yn cael eu haddysgu mewn ffordd sy’n sicrhau nad yw disgyblion/myfyrwyr LHDTC+ yn destun gwahaniaethu ac sy’n mynd ati’n weithredol i ymdrin ag anghydraddoldebau allweddol, deall ac atal bwlio a phwysau negyddol gan gyfoedion, a chael gwybodaeth am faterion a gweithdrefnau diogelu.
  • Gwella “Hawliau, parch, cydraddoldeb canllawiau statudol ar gyfer cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir” a chyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl ifanc LHDTC+ yn nodi lefelau is o fwlio a gwahaniaethu.
  • Mae pobl ifanc LHDTC+ yn deall sut i gael cymorth pan fyddant yn wynebu gwahaniaethu neu fwlio.
  • Mae pobl ifanc LHDTC+ yn ddigon hyderus i herio bwlio a gwahaniaethu.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Adolygiad o aflonyddu rhywiol rhwng cyd-fyfyrwyr mewn addysg bellach i’w gyhoeddi yn 2023.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cwricwlwm Llywodraeth Cymru
  • Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru
  • Tîm Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”)

Cam gweithredu 28: llunio dull gweithredu ysgol gyfan sy’n gwbl LHDTC+ gynhwysol a’i roi ar waith

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Cefnogi ysgolion o ran gofynion gorfodol y Cod a’r canllawiau statudol ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n LHDTC+-gynhwysol.
  • Sicrhau bod adnoddau addysgol yn cynnwys deunyddiau sy’n LHDTC+ gynhwysol, gan gynnwys yn y Gymraeg.
  • Rhoi cyfleoedd dysgu proffesiynol i bob aelod o staff mewn ysgolion a lleoliadau addysgol er mwyn iddynt ddeall elfennau craidd darparu addysg sy’n LHDTC+ gynhwysol.
  • Helpu ysgolion yng Nghymru, ynghyd ag awdurdodau lleol, i gydymffurfio â’u rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, yn enwedig y gofyniad i gyhoeddi Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol ac amcanion cydraddoldeb.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae gan ysgolion a lleoliadau addysgol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i roi’r Cod a’r Canllawiau ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ar waith yn llwyddiannus ym mhob lleoliad addysgol, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Mae amrywiaeth o lenyddiaeth ac adnoddau sy’n LHDTC+ gynhwysol ar gael ym mhob ysgol a lleoliad addysgol, yn Gymraeg ac yn Saesneg.
  • Mae pobl ifanc LHDTC+ sy’n siarad Cymraeg yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu yn amgylchedd eu hysgol, mewn addysg, ac mewn llenyddiaeth Gymraeg.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Tegwch mewn Addysg Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Cwricwlwm Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Addysgeg, Arweinyddiaeth a Dysgu Proffesiynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 29: sicrhau bod pob coleg a phrifysgol yng Nghymru yn amgylcheddau LHDTC+ gynhwysol i ddysgwyr, myfyrwyr, a staff

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i annog prifysgolion i ystyried materion sy’n ymwneud â chroestoriadedd, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol ac ailbennu rhywedd, wrth ystyried sut maent yn cefnogi eu staff a’u myfyrwyr amrywiol.
  • Gweithio gyda phrifysgolion a cholegau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod eu Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys o ran sut mae hyn yn ymwneud ag ailbennu rhywedd a chyfeiriadedd rhywiol.
  • Comisiynu adolygiad thematig o aflonyddu rhywiol rhwng cyd-fyfyrwyr mewn addysg bellach eleni, a fydd yn cynnwys nodi problemau o ran gwahaniaethu neu fwlio homoffobig.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall myfyrwyr LHDTC+ astudio a dilyn eu gyrfaoedd mewn amgylchedd lle nad oes unrhyw aflonyddu, gwahaniaethu nac erledigaeth.
  • Galluogi pob myfyriwr a myfyrwraig i gyflawni eu llawn botensial, i gael eu cefnogi’n llawn ac i chwarae rhan lawn yn eu hastudiaethau drwy gydol eu cwrs.
  • Mae polisïau a phrosesau cwyno cadarn ar waith i fyfyrwyr a staff. System lle y gall myfyrwyr fod yn hyderus y gallant godi unrhyw bryderon a rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau heb ofn, gan wybod y bydd y sefydliad yn ymdrin â nhw mewn ffordd briodol.
  • Mwy o ymwybyddiaeth o ddulliau sefydliad cyfan cyson o fynd i’r afael â thrais, aflonyddu a bwlio ar sail LHDTC+.
  • Gwell sylfaen dystiolaeth ynglyˆn â phrofiadau dysgwyr LHDTC+ ac argymhellion ynglyˆn â chamau gweithredu i fynd i’r afael â phroblemau o ran gwahaniaethu homoffobig mewn addysg bellach.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Polisi a Chyflawni Addysg Uwch Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Addysg Bellach a Phrentisiaethau Llywodraeth Cymru.
  • CCAUC.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

F. Cymunedau, bywyd preifat a bywyd teuluol

Cam gweithredu 30: cefnogi bywydau teuluol pobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a chyda darparwyr allanol er mwyn sicrhau bod adnoddau gwasanaethau presennol, megis ymgyrch “Magu plant. Rhowch amser iddo” Llywodraeth Cymru, yn diwallu anghenion rhieni a theuluoedd pobl ifanc LHDTC+.
  • Helpu i baratoi adnoddau ar gyfer pob oedran ar deuluoedd LHDTC+, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Dylai’r rhain gynnwys cynrychioliad o gydberthnasau teuluol amrywiol gyda phobl LHDTC+, megis rhieni, gofalwyr, brodyr a chwiorydd, plant ac ati sy’n LHDTC+.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pob aelod o’r teulu yn teimlo’n hyderus ynglyˆn â sut i gefnogi’r aelodau o’r teulu sy’n LHDTC+, gan gynnwys plant a phobl ifanc.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd Llywodraeth Cymru
  • Cangen Rianta Llywodraeth Cymru
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”)

Cam gweithredu 31: cefnogi’r sector gwaith ieuenctid LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Ystyried opsiynau ar gyfer model cyllido cynaliadwy yn y tymor hwy i sefydliadau, gan gynnwys yn y sector gwirfoddol, sy’n rhoi cymorth i amrywiaeth eang o bobl ifanc sydd â chefndiroedd ac anghenion gwahanol, gan gynnwys cymorth i bobl ifanc LHDTC+.
  • Ymgysylltu â’r sector gwaith ieuenctid er mwyn gwella mynediad at ddarpariaeth Gwaith Ieuenctid a lleoedd diogel i bobl ifanc â chefndiroedd ac anghenion gwahanol, gan gynnwys pobl ifanc LHDTC+, a sicrhau mwy o amrywiaeth yn y gweithlu gwaith ieuenctid.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall pobl ifanc LHDTC+ gael gafael ar wasanaethau gwaith ieuenctid sy’n berthnasol iddynt, ac mae lleoedd diogel ar gael iddynt.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Gorffennaf 2023 - Mehefin 2024 ac yn y tymor hwy.
  • O fis Hydref 2022 ac yn y tymor hwy.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Ymgysylltu ag Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Cymorth Dysgu Llywodraeth Cymru.
  • Bwrdd Gweithredu’r Strategaeth Gwaith Ieuenctid.

Cam gweithredu 32: cefnogi deialog agored rhwng grwpiau ffydd a phobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Mynd ati i ddechrau sgyrsiau rhyng-ffydd i alluogi rhyngweithio cadarnhaol rhwng grwpiau ffydd a chymunedau LHDTC+.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ grefyddol yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn yn eu cymunedau ffydd.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 33: sicrhau bod gwasanaethau cymorth Cymraeg ar gael i siaradwyr Cymraeg LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Mae gwasanaethau a ddarperir gan wasanaethau cyhoeddus a phartneriaid wedi’u cyllido ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn unol â Safonau’r Gymraeg a pholisi Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhai sy’n cael grantiau a gwasanaethau sy’n cael eu cyllido.

Beth fydd yr effaith?

  • Gall siaradwyr Cymraeg LHDTC+ gael gafael ar wasanaethau yn eu dewis iaith.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran y Gymraeg.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 34: rhoi cymorth i bobl ifanc LHDTC+ gymryd rhan mewn democratiaeth, gan gynnwys sefyll am swyddi etholedig.

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Hyrwyddo mynediad at fodelau rôl amrywiol o ran cymryd rhan mewn democratiaeth, gan gynnwys sefyll etholiad am swydd.
  • Parhau â’r cymorth i gynlluniau mentora megis “Pŵer Cyfwerth Llais Cyfwerth” Rhaglen Mentora Bywyd Cyhoeddus.
  • Ymgynghori â grwpiau rhanddeiliaid LHDTC+ ynglyˆn â chynigion ar gyfer Papur Gwyn ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol, gan gynnwys mesurau i leihau achosion o gam-drin ymgeiswyr etholiadol a chynigion i ehangu’r Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ yn cael eu cynrychioli’n well mewn bywyd cyhoeddus.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Etholiadau Llywodraeth Cymru.
  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 35: cefnogi sefydliadau Pride ledled Cymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Parhau â’n cymorth i Pride Cymru.
  • Drwy “Cronfa Llawr Gwlad LHDTC+ Cymru Gyfan ar gyfer digwyddiadau Pride”, cefnogi sefydliadau Pride a digwyddiadau Pride lleol.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae digwyddiadau Pride lleol yn cael eu cyllido’n well ac yn gallu gwasanaethu eu poblogaethau LHDTC+ yn well.
  • Gwella cysylltedd a phrofiadau cymunedau LHDTC+ o ran dimensiynau gwledig a rhanbarthol.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 36: defnyddio digwyddiadau ymwybyddiaeth o faterion LHDTC+ er mwyn cryfhau llais pobl LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Mae dyddiadau pwysig i bobl LHDTC+, gan gynnwys Mis Hanes LHDTC+, yn cael eu cydnabod yn neunydd cyfathrebu Llywodraeth Cymru.
  • Mae baneri priodol yn cael eu codi yn adeiladau’r sector cyhoeddus, yn enwedig baneri cymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol (e.e., deurywiol; arywiol; aramantaidd).
  • Mae swyddogion etholedig yn cefnogi digwyddiadau er mwyn nodi dyddiadau pwysig.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae cymunedau unigol o fewn y gymuned LHDTC+ ehangach yn teimlo eu bod yn cael eu gweld a’u clywed.
  • Mae lleisiau rhannau o gymunedau LHDTC+ heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael eu clywed.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Cyfathrebu Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 37: cefnogi cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Darparu adnoddau i gyflwyno grŵp cymorth i gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+ yng Nghaerdydd a’r Fro, ac yn ardal Cwm Taf.
  • Rhoi cymorth i’r elusen “Fighting with Pride”, er mwyn gwella a chefnogi iechyd a llesiant cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog yng Nghymru sy’n LHDTC+ yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi fel rhan annatod o’r gymuned ehangach o gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog.
  • Mae cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+ yn ymwybodol o’r cyfle i gymryd rhan yn yr Adolygiad Annibynnol o Gyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Erbyn diwedd mis Hydref 2022.
  • Erbyn mis Mawrth 2023.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.
  • Cangen y Lluoedd Arfog Llywodraeth Cymru.

G. Cymryd rhan ym mywyd Cymru: diwylliant a chwaraeon

Cam gweithredu 38: gwella cynrychiolaeth, cynhwysiant, a chyfranogiad pobl LHDTC+ ym myd chwaraeon

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Arddangos gwerthoedd Llywodraeth Cymru ynglŷn â hawliau LHDTC+ ar lwyfannau chwaraeon rhyngwladol.
  • Gwella cynrychiolaeth LHDTC+ yn y sectorau chwaraeon yng Nghymru ar bob lefel, gan gynnwys ar lefel Byrddau, y gweithlu a gwirfoddolwyr.
  • Rhoi mwy o ffocws ar gydraddoldeb fel rhan o weithgareddau a chyfleoedd sy’n ymwneud â datblygu sgiliau, profiadau gwaith, gwirfoddoli, mentora a phrentisiaethau yn y sector chwaraeon.
  • Sicrhau bod y gweithlu chwaraeon yn ymwybodol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol ac yn ymgysylltu â nhw.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae’r gymuned LHDTC+ yn cael ei chynrychioli’n well a’i derbyn yn y sector chwaraeon.
  • Cyfraniad at sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+ erbyn 2030.
  • Mae arferion gorau y gellir eu cyflwyno’n unol â’r anghenion yn cael eu rhannu, ac mae hyn yn arwain at well prosesau llunio a gweithredu polisïau.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 39: gwella mynediad a chyfranogiad pobl drawsryweddol ym myd chwaraeon

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Asesu’r broses o roi’r canllawiau Cynhwysiant Trawsryweddol mewn Chwaraeon Domestig ar waith a’i effeithiolrwydd.
  • Comisiynu rhagor o ymchwil i brofiadau pobl drawsryweddol ym myd chwaraeon.
  • Gweithio gyda chyrff chwaraeon i wella polisïau a chanllawiau ar gynnwys pobl draws ledled Cymru.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl drawsryweddol yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u derbyn yn y sector chwaraeon.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig i’r tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Chwaraeon Llywodraeth Cymru.
  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”).

Cam gweithredu 40: dathlu a gwella cynrychiolaeth cymunedau LHDTC+ yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio gyda sefydliadau partner er mwyn helpu cymunedau LHDTC+ i goladu a rhoi casgliadaau i archifau ac amgueddfeydd lleol.
  • Sefydlu mentrau cydweithredol â chasgliadau cenedlaethol a lleol i gefnogi gweithgarwch Pride ledled Cymru, gan gynnwys yn ystod mis Pride.
  • Defnyddio casgliadau cenedlaethol a lleol yng Nghymru i ddathlu a rhannu straeon a hanesion LHDTC+, gan roi cyllid lle y bo’n briodol.
  • Gwella cynrychiolaeth pobl LHDTC+ yn y sector diwylliant yng Nghymru ar bob lefel, gan gynnwys ar lefel Byrddau, y gweithlu, a gwirfoddolwyr.
  • Cydweithio â sefydliadau LHDTC+ a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu yn y ffordd y caiff diwylliant LHDTC+ ei gynrychioli. Un enghraifft o’r fath yw partneriaeth Mas ar y Maes.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae diwylliant a hanes LHDTC+ yn cael eu cynrychioli’n well yn y sector diwylliannol.
  • Mae anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu yn y ffordd y caiff diwylliant LHDTC+ ei gynrychioli.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig i’r tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Nawdd Diwylliant Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 41: cael mwy o gyfranogiad gan bobl a sefydliadau LHDTC+ wrth lunio trefniadau a gweithgareddau diwylliannol

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Annog cyrff cyhoeddus ym maes diwylliant i gynnwys cymunedau LHDTC+ yn eu nodau a’u hamcanion.
  • Datblygu a rhannu arferion gorau y gellir eu cyflwyno’n unol â’r anghenion.
  • Rhoi mwy o ffocws ar gydraddoldeb fel rhan o weithgareddau a chyfleoedd sy’n ymwneud â datblygu sgiliau, profiadau gwaith, gwirfoddoli, mentora a phrentisiaethau yn y sector diwylliannol.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae’r rhai sy’n darparu gwasanaethau diwylliannol yn ymwybodol o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlathol ac yn ymgysylltu â nhw.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig i’r tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Grŵp Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru.
  • Tîm Nawdd Diwylliant Llywodraeth Cymru.

H. Gweithleoedd cynhwysol

Cam gweithredu 42: dileu prosesau adnabod personol diangen mewn arferion recriwtio

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Rhoi system recriwtio newydd Llywodraeth Cymru, sy’n cefnogi arferion recriwtio dienw, ar waith.
  • Bydd dynodwyr fel enw, teitlau, oedran a rhywedd yn cael eu dileu neu eu rhoi ar ffurf gyfyngedig lle y tybir bod hynny’n angenrheidiol.
  • Adolygu iaith ryweddol a dynodwyr rhywedd er mwyn cydnabod pobl anneuaidd a rhyngryw ym mhrosesau recriwtio Llywodraeth Cymru.
  • Casglu gwybodaeth am gydraddoldebau ar wahân i’r prif ddogfennau recriwtio a’u hanonymeiddio i’w defnyddio wrth gynllunio polisi.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae rhwystrau mewn arferion recriwtio wedi cael eu dileu ac mae ymgeiswyr yn fwy hyderus.
  • Nid yw’n ofynnol i bobl anneuaidd na phobl ryngryw ddewis rhyw/rhywedd nad yw’n berthnasol iddynt.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Erbyn mis Mawrth 2023.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Adnoddau Dynol Llywodraeth Cymru.
  • CLlLC.
  • Cymdeithasau sifil LHDTC+.

Cam gweithredu 43: rhoi hyfforddiant ar gydraddoldebau sy’n cynnwys anghenion pobl LHDTC+ i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Adolygu rheoliadau a phrosesau adrodd Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys hyfforddiant.
  • Nodi adnoddau hyfforddiant sy’n bodoli eisoes sydd eu hangen ar sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth gyfredol yn y maes hwn a gweithio gyda grwpiau cydraddoldebau eraill er mwyn sicrhau bod y bylchau hynny’n cael eu cau.
  • Sicrhau bod hyfforddiant ar gydraddoldeb croestoriadol yn cael ei lunio a’i gyflwyno i sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
  • Cydweithio â TUC Cymru ac undebau llafur, lle y bo’n briodol, er mwyn sicrhau cymaint o adnoddau a chyrhaeddiad yn y gweithle â phosibl.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pob gweithiwr mewn gwasanaeth cyhoeddus yn deall hawliau, anghenion a rhwystrau pobl LHDTC+.
  • Mae cyflogwyr yn y sector cyhoeddus yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â deddfwriaeth cydraddoldeb.
  • Mae’r hyfforddiant sy’n ofynnol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn diwallu anghenion LHDTC+.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig i’r tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Tîm Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru, Cydraddoldeb Strategol.
  • Awdurdodau Lleol.
  • CLlLC.
  • Cyrff cyhoeddus.
  • TUC Cymru.
  • Undebau Llafur.
  • Tîm Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 44: annog cyflogwyr yn y sector preifat i fod yn LHDTC+-gynhwysol 

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i annog cyflogwyr i hyrwyddo, rhannu a mabwysiadu arferion gorau mewn perthynas â gweithleoedd cynhwysol, gan gynnwys lledaenu astudiaethau achos.
  • Gwella mynediad at wybodaeth, cyngor, arweiniad a chymorth i gyflogwyr ynglyˆn â chyflogi gweithwyr LHDTC+, gan gynnwys gwybodaeth am gyfrifoldebau cyfreithiol.
  • Gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr i annog cyflogwyr i fabwysiadu polisïau a gweithdrefnau o ran cydraddoldebau sy’n diogelu rhag gwahaniaethu yn erbyn pobl LHDTC+.
  • Gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr i roi arweiniad i gyflogwyr ar bwysigrwydd casglu data ar amrywiaeth a’u defnyddio i hyrwyddo cynhwysiant.

Beth fydd yr effaith?

  • Gweithleoedd sy’n fwy LHDTC+-gynhwysol.
  • Mae pobl LHDTC+ yn deall ac yn defnyddio llwybrau i roi gwybod am wahaniaethu ar sail LHDTC+ mewn gweithleoedd yng Nghymru.
  • Gwell gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau LHDTC+ yn y gweithle a chyfrifoldebau cyflogwyr.
  • Mae lefelau o wahaniaethu ar sail LHDTC+ y rhoddwyd gwybod amdano yn gostwng mewn gweithleoedd yng Nghymru.
  • Mae mwy o ddata ar amrywiaeth ar gael gan y sector preifat.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Tymor canolig i’r tymor hir.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Gwaith Teg Llywodraeth Cymru.
  • TUC Cymru Uned Tystiolaeth.
  • Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”).

I. Effaith COVID-19

Cam gweithredu 45: wrth gynllunio ymateb adfer ar ôl COVID-19 a’i roi ar waith, ystyried profiadau pobl LHDTC+, yn enwedig yr effaith ar iechyd meddwl

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Cefnogi lleoedd a gwasanaethau LHDTC+ drwy gyllid arbennig sy’n gysylltiedig â COVID-19 sydd wedi’i dargedu.
  • Rhoi mesurau ar waith i wella bywydau LHDTC+ ar ôl y pandemig.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i oresgyn effeithiau negyddol a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.

Cam gweithredu 46: cynnal ymchwiliad trylwyr i’r ffordd y mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bobl LHDTC+, yn enwedig pobl ifanc LHDTC+ a phobl anabl LHDTC+, yng Nghymru

Sut byddwn ni'n cyflawni hynny?

  • Cyhoeddi adolygiad cyflym o’r dystiolaeth sydd ar gael ar effaith COVID-19 ar bobl LHDTC+.

Beth fydd yr effaith?

  • Mae pobl LHDTC+ yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth i oresgyn effeithiau negyddol a achoswyd gan bandemig y Coronafeirws.

Pryd byddwn ni'n gwneud hynny?

  • Yn barhaus.

Pwy fydd yn helpu i gyflawni hyn?

  • Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd/Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru (gweler yr adran “Data ac Ymchwil”).