Neidio i'r prif gynnwy

A. Hawliau dynol a chydnabyddiaeth

Gweledigaeth: byddwn yn cryfhau cydraddoldeb a hawliau dynol

Byddwn yn parhau i gefnogi pobl LHDTC+ drwy amddiffyn a hyrwyddo eu hawl i chwarae rhan lawn a chydradd mewn cymdeithas yng Nghymru. Nododd ymchwil a wnaed wrth baratoi’r Cynllun Gweithredu hwn bryderon gan bobl anneuaidd a rhyngryw ynglŷn â diffyg cydnabyddiaeth mewn cymdeithas ac o ran sut y cânt eu hadlewyrchu yn y ffordd y mae gwasanaethau yn gweithredu (Llywodraeth Cymru 2021). Hefyd, dywedodd pobl draws yng Nghymru wrthym yr hoffent weld Llywodraeth Cymru yn mynd ymhellach na Llywodraeth San Steffan wrth ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl draws. Mae ymchwil i agweddau tuag at bobl draws ym Mhrydain gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awgrymu bod agweddau negyddol tuag at bobl draws yn cynyddu dros amser o bosibl ymhlith y cyhoedd mewn rhai rhannau o fywyd, gan gynnwys defnyddio llochesi i oroeswyr trais domestig (Morgan et al.2020).

Arferion trosi

Ceir pryder penodol ynglŷn ag ymarfer ‘arferion troi’ o hyd, a elwir weithiau yn ‘therapi trosi’. Defnyddir ‘arferion trosi’ fel term cyffredinol i ddisgrifio ymyriadau niweidiol eang eu cwmpas, sydd i gyd yn seiliedig ar y camsyniad y gall cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd, gan gynnwys hunaniaeth rhywedd, gael ei newid neu ei reoli. Felly, mae arferion o’r fath wedi’u hanelu’n gyson at sicrhau newid o beidio â bod yn heterorywiol i fod yn heterorywiol a/neu o fod yn draws neu’n rhywedd-amrywiol i fod yn cisryweddol. Yn dibynnu ar y cyd-destun, defnyddir y term am nifer fawr o arferion a dulliau, y mae rhai ohonynt yn ddirgel ac felly na wyddys llawer amdanynt (y Cyngor Hawliau Dynol 2020).

Wrth inni geisio symud tuag at wahardd arferion trosi i’r holl bobl LHDTC+ yng Nghymru, mae’n bwysig deall effaith a chyffredinrwydd arferion trosi ar gymunedau LHDTC+ (Llywodraeth Cymru 2022d). Canfu arolwg LHDT Cenedlaethol 2018 fod 4.8% o bobl LHDC+ cisryweddol yng Nghymru wedi cael cynnig arferion trosi ond nad aethant drwy’r broses (GEO 2018a), ond bod 2.1% wedi mynd drwy’r broses. Roedd hyn yn uwch i boblogaethau traws, lle roedd 9.0% o ymatebwyr yng Nghymru wedi cael cynnig arferion trosi ond nad oeddent wedi mynd drwy’r broses ac roedd 5.6% arall wedi mynd drwy’r broses. Canfu’r adroddiad, o ran ymatebwyr yn y DU a oedd wedi mynd drwy arferion trosi, fod y rhain wedi cael eu cynnal gan sefydliadau ffydd mewn mwy na hanner yr achosion.

Yn 2020, cynhaliodd Galop, sef elusen sy’n atal camdriniaeth yn erbyn pobl LHDTC+ yn y DU, arolwg o bobl LHDTC+ sydd wedi goroesi ymosodiadau rhywiol yn y DU, gan ganfod bod 23.5% o ymatebwyr wedi nodi bod y cyflawnwr yn ‘bwriadu trosi’ neu gosbi eu hunaniaeth LHDTC+ (Galop 2022:t.3). Roedd y ganran hon yn uwch i bobl arywiol (34.4%), pobl anneuaidd (31.9%), dynion traws (34.7%) a menywod traws (29.6%).

Ni ddefnyddir arferion trosi yn y GIG. Llofnododd GIG Cymru y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ar Wahardd Arferion Trosi (BACP 2022), sef cytundeb gan sefydliadau sy’n gweithio ym maes gwasanaethau iechyd meddwl neu seicolegol neu sy’n eu comisiynu, er mwyn ceisio sicrhau nad ydynt yn comisiynu nac yn darparu therapi trosi.

Rydym am i bob person LHDTC+ gael ei drin â’r un gwerth, bod yn ddiogel a byw’n ddiffuant ac yn agored fel nhw eu hunain. Dyna pam mae’r Rhaglen Lywodraethu, a’r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, yn nodi y byddwn yn gwahardd pob agwedd ar arferion trosi LHDTC+ sydd o fewn ein pwerau ac yn ceisio datganoli unrhyw bwerau ychwanegol angenrheidiol i’n galluogi i gyflawni hyn. At hynny, byddwn yn ceisio datganoli pwerau mewn perthynas â Chydnabod Rhywedd a chefnogi ein cymuned draws.

Nododd y mwyafrif llethol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad y dylid rhoi terfyn ar arferion trosi sy’n ceisio gorfodi pobl i newid eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu rhywedd. Roedd angen diffiniad clir o arferion trosi er mwyn sicrhau na fyddai trafodaethau dilys na chymorth ynghylch teimladau unigolyn am eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu rhywedd yn cael eu cynnwys mewn unrhyw waharddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Gweithgor penodol ar Wahardd Arferion Trosi a fydd yn rhoi cyngor ac arweiniad i Lywodraeth Cymru ar y gwaith hwn a fydd yn cael ei arwain gan yr Is-adran Cyfiawnder Cymdeithasol, Partneriaeth Gymdeithasol, a Chydraddoldeb a Hawliau Dynol.

Ein camau gweithredu

  1. Cryfhau dealltwriaeth o hawliau dynol pobl LHDTC+.
  2. Helpu pobl LHDTC+ i ddeall yn well sut i fynnu eu hawliau dynol.
  3. Gwahardd pob agwedd ar Arferion Trosi LHDTC+.
  4. Cryfhau cynrychiolaeth LHDTC+ ar fforymau cydraddoldeb.
  5. Cynnwys cymunedau LHDTC+ wrth lunio gwasanaethau cyhoeddus.
  6. Cydnabod pobl anneuaidd a phobl ryngryw .
  7. Ceisio datganoli pwerau mewn perthynas â Chydnabod Rhywedd.
  8. Ymgysylltu’n rhyngwladol i ddangos ein gwerthoedd a’n cymorth i bobl LHDTC+ yng Nghymru ac yn fyd-eang.

B. A. Diogelwch a rhyddid rhag gwahaniaethu

Gweledigaeth: byddwn yn gwneud Cymru yn lle mwy diogel i bawb sy’n LHDTC+

Drwy deimlo’n fwy diogel yng Nghymru bydd modd i bobl LHDTC+ ffynnu a byw heb ofn, yn eu bywyd personol ac mewn cymdeithas. Mae llawer o bobl LHDTC+ yng Nghymru yn parhau i deimlo’n anniogel ac yn wynebu risg uchel o camdriniaeth neu wahaniaethu (Stonewall Cymru 2017a), ac felly mae’n hollbwysig bod camau yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â hyn ac i geisio gwneud pobl LHDTC+ yng Nghymru yn fwy diogel.

Cyhoeddwyd Ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol 2021i 2022 i Gymru a Lloegr gan y Swyddfa Gartref ym mis Hydref 2022. Mae’r ystadegau yn dangos cynnydd o 35% yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru o gymharu â 2020 i 2021 (Llywodraeth Cymru 2022e; Swyddfa Gartref 2022a). Cofnodwyd 6,295 o droseddau casineb gan y pedwar heddlu yng Nghymru ac o’r rhain:

  • roedd 1,329 (21%) yn droseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol
  • roedd 247 (4%) yn droseddau casineb ar sail trawsrywedd

Ar gyfer y flwyddyn rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, cofnododd yr heddlu fod troseddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru wedi cynyddu 50% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol (o 884 i 1,329) a bod troseddau casineb yn erbyn pobl drawsryweddol (h.y., troseddau casineb ar sail trawsrywedd) wedi cynyddu 43% (o 173 i 247 o achosion) (Swyddfa Gartref 2021a; Swyddfa Gartref 2022a; Swyddfa Gartref 2021b: Tabl o’r Atodiad; Swyddfa Gartref 2022b: Tabl o’r Atodiad).

Gall nifer o ffactorau ysgogi troseddau casineb, ac mae’r ystadegau uchod yn nodi’r troseddau hynny lle y cafodd cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd eu cynnwys yn y ffactorau ysgogol a gofnodwyd.

Yn ôl adroddiad “A yw Cymru’n Decach?” (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018b: t.94; gweler hefyd Stonewall Cymru 2017a) mae’r dystiolaeth o’r sector gwirfoddol yn awgrymu y gall y cynnydd hwn mewn troseddau a gofnodwyd hefyd adlewyrchu cynnydd mewn achosion: yn 2017, roedd 20% o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol (LHD) yng Nghymru wedi dioddef trosedd neu ddigwyddiad casineb yn ystod y 12 mis blaenorol, o gymharu ag 11% yn 2013; nododd hanner (52%) y bobl draws eu bod wedi dioddef trosedd neu ddigwyddiad casineb yn 2017. Mae hyn yn achos pryder, ond gwyddom hefyd mai canran fach yn unig yw’r rhain, a bod llawer mwy o droseddau casineb yn cael eu cyflawni ac na roddir gwybod amdanynt. Soniodd yr adroddiad hefyd nad oedd y mwyafrif o bobl LHD a thraws a ddioddefodd drosedd neu ddigwyddiad casineb (82%) wedi rhoi gwybod i’r heddlu. Soniodd yr un adroddiad hefyd fod pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod wedi goroesi neu wedi dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol na’r boblogaeth ehangach yn 2016/17. Mae’r rhan fwyaf o astudiaethau cydnabyddedig yn nodi y bydd hyd at 40% o’r boblogaeth LHDTC+ yn profi cam-drin domestig o ryw fath yn ystod eu bywydau, sy’n cynyddu i tua 80% i’r gymuned draws (Llywodraeth Cymru 2022f).

Mae’r dystiolaeth yn dangos bod pobl LHDTC+ ethnig leiafrifol yn wynebu mwy o risg o wahaniaethu. Nodwyd yn yr adroddiad Home and Communities (Stonewall 2018a), ym Mhrydain, fod 11% o ymatebwyr LHDTC+ wedi cael eu cam-drin gan eu partner. Cynyddodd hyn i 17% i ymatebwyr LHDTC+ ethnig leiafrifol. Hefyd, nododd 51% o ymatebwyr ethnig leiafrifrol bod eraill wedi gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hethnigrwydd yn eu cymunedau LHDTC+ lleol yn ystod y flwyddyn flaenorol mae hyn yn cynyddu eto i 61% ar gyfer pobl Ddu.

Er bod y mwyafrif o bobl LHDTC+ yng Nghymru yn byw bywydau boddhaus a chadarnhaol, gwyddom hefyd fod gormod yn byw gydag ofn gwahaniaethu a rhagfarn, ac mae pobl yng Nghymru yn parhau i wynebu  gwahaniaethu gartref ac yn eu priod gymunedau. Nododd bron hanner (46%) yr ymatebwyr i arolwg 2020 Stonewall Cymru a lywiodd adroddiad y Panel Arbenigwyr (Llywodraeth Cymru 2021c; Llywodraeth Cymru 2021d), eu bod wedi bod yn destun aflonyddu geiriol yn ystod y flwyddyn flaenorol, nododd 26% eu bod wedi bod yn destun cam-drin neu aflonyddu ar-lein a nododd 13% eu bod wedi cael eu bygwth ag aflonyddu a thrais corfforol neu rywiol yn ystod yr un cyfnod. Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos faint yn fwy y mae’n rhaid ei wneud i sicrhau bod cartrefi a chymunedau yng Nghymru yn ddiogel i bawb.

Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod pobl LHDTC+ yn enwedig yn wynebu risg o fynd yn ddigartref (Llamau 2019), gyda’r data i’r DU gyfan yn awgrymu bod pobl ifanc LHDTC+ yn cael eu gorgynrychioli o dipyn ymhlith poblogaethau o bobl ifanc ddigartref (Ymddiriedolaeth Albert Kennedy 2015). Yn y DU, canfu ymchwil gan Ymddiriedolaeth Albert Kennedy fod pobl ifanc LHDT yn fwy tebygol o fynd yn ddigartref na phobl ifanc heterorywiol a cisryweddol, gan nodi bod pobl ifanc LHDT yn cyfrif am 24% o’r boblogaeth ddigartref. Fodd bynnag, mae bwlch sylweddol o hyd yn y set ddata i Gymru ar ddigartrefedd pobl ifanc a’u nodweddion, ac awgrymodd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hefyd fod canfyddiad o risgiau o hyd o ran gwahaniaethu yn y sector rhentu preifat.

Gwyddom fod llawer o wasanaethau sy’n rhoi gofal i bobl sy’n oroeswyr trais neu gamdriniaeth eisoes wedi darparu ar gyfer cynnwys pobl LHDTC+, gan gynnwys anghenion menywod lesbiaidd a menywod traws. Mae’n bwysig bod y gwasanaethau hyn yn parhau, a bod anghenion pobl LHDTC+ sy’n rhoi gwybod am achosion o drais a/neu gamdriniaeth ac sy’n cael gofal ar ôl eu goroesi yn cael eu cydnabod a’u hystyried. Edrychwn ymlaen hefyd at weithio gyda phartneriaid cyfiawnder troseddol, yn y gobaith y byddwn yn gallu mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn effeithiol a chreu system cyfiawnder troseddol LHDTC+-gynhwysol.

Ysgrifennodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS at Lywodraeth y DU i ofyn am i’r argymhelliad gael ei dderbyn mewn perthynas ag estyn y troseddau gwaethygedig sy’n bodoli ar gyfer hil a chrefydd ar hyn o bryd i bob nodwedd arall sydd eisoes yn dod o dan gyfundrefn ddeddfwriaethol troseddau casineb, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd.Byddai hyn yn anfon neges glir bod trosedddau casineb ar sail cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd yn annerbyniol ac y bydd goblygiadau i’r rhai sy’n cyflawni’r gweithredoedd cas hyn. Byddwn yn parhau i ddadlau dros wneud troseddau casineb ar sail LHDTC+ yn droseddau gwaethygedig, a byddwn hefyd yn ceisio cyflawni’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i ddadlau dros ddatganoli plismona a chyfiawnder.

Ein camau gweithredu

  1. Dileu rhwystrau sy’n atal pobl LHDTC+ rhag rhoi gwybod am droseddau casineb.
  2. Parhau i fuddsoddi mewn rhaglenni atal troseddau casineb ledled Cymru .
  3. Gwrthsefyll agweddau gwrth-LHDTC+ ar-lein a throseddau casineb.
  4. Gwella perthynas cymunedau LHDTC+ â phlismona yng Nghymru.
  5. Targedu trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ymhlith cymunedau LHDTC+.
  6. Sicrhau bod gwasanaethau digartrefedd yn gynhwysol o ran anghenion penodol pobl LHDTC+.

C. Cenedl noddfa i geiswyr lloches a ffoaduriaid

Gweledigaeth: byddwn yn gwneud Cymru yn Genedl Noddfa i fudwyr LHDTC+

Rydym yn anelu at wneud Cymru’n ‘Genedl Noddfa’ gyntaf y byd, sy’n dathlu lletygarwch Cymreig a’n hanes o fudo a diogelwch. Yr uchelgais yw ble bynnag yng Nghymru y bydd pobl sy’n ceisio noddfa yn mynd, y bydd croeso, dealltwriaeth a dathliad o’u cyfraniad unigryw i fywyd cyfoethog Cymru.

Credwn fod cytundeb Llywodraeth y DU â Llywodraeth Rwanda i brosesu ceiswyr lloches yn ergyd fawr i ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDTC+, sy’n rhoi pobl LHDTC+ mewn perygl mawr o driniaeth wael, gwahaniaethu, arestio mympwyol, a chadw dan orchymyn. Yn asesiad Llywodraeth y DU o effaith y polisi ar gydraddoldeb, tynnwyd sylw at y risgiau gwirioneddol y byddai’r cytundeb hwn yn eu hachosi i bobl LHDTC+ (Swyddfa Gartref 2022c). Mae ein gweledigaeth a’n cynllun ar gyfer Cenedl Noddfa yn ymwneud â sicrhau bod Cymru, nid yn unig yn croesawu mudwyr, ond ein bod hefyd yn manteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil mudo er mwyn i’n heconomi a’n cymunedau ffynnu. Mae’r bwriad i anfon ceiswyr lloches i Rwanda yn gwbl groes i’r weledigaeth honno.

Mae llawer o geiswyr lloches yn ffoi o’u gwlad eu hunain am eu bod yn cael eu herlid am bwy ydynt a phwy maent yn ei garu, gan ddianc rhag trais a chamdriniaeth o ganlyniad i’w cyfeiriadedd rhywiol neu eu hunaniaeth rhywedd (Mole 2021; Dyck 2019). Felly, mae un o’n camau gweithredu yn canolbwyntio ar bwysigrwydd gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella prosesau i adnabod pobl LHDTC+ mewn ffordd sensitif, eu trefniadau diogelu, a mesurau cyfeirio, gan gynnwys drwy wella adnoddau megis y Ffurflen Gais am Gymorth Lloches (Ffurflen ASF1).

Rydym yn ymrwymedig i weithio ar y cyd ag awdurdodau lleol a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod darpariaethau tai ar gyfer ceiswyr lloches (Glitter Cymru a DPIA 2022) a ffoaduriaid LHDTC+ yn diwallu eu hanghenion.

Ein camau gweithredu

  1. Adnabod, diogelu a chyfeirio pobl LHDTC+ sy’n hawlio lloches.
  2. Annog y broses o ddatblygu eiddo i geiswyr lloches LHDTC+ yn unig yng Nghymru.
  3. Sicrhau bod Cymru fel Cenedl Noddfa yn parhau i gynnwys pobl LHDTC+.

D. Gofal iechyd, gofal cymdeithasol, a lles

Gweledigaeth: byddwn yn gwella canlyniadau gofal iechyd i bawb sy’n LHDTC+

Mewn lleoliadau gofal iechyd mae pobl LHDTC+ yn teimlo y gallant wynebu triniaeth anghyfartal a gwahaniaethu. Tynnir sylw at enghreifftiau o’r anghydraddoldebau hyn yn yr adroddiad ar Iechyd LHDT (Stonewall 2018b). Er enghraifft, mae’r adroddiad yn nodi bod bron un o bob pedwar o bobl LHDTC+ (23%) wedi bod yn dyst i sylwadau gwahaniaethol neu negyddol yn erbyn pobl LHDTC+ gan staff gofal iechyd rywbryd neu’i gilydd. At hynny, gwnaeth 14% o ymatebwyr osgoi triniaeth gofal iechyd oherwydd pryderon y byddai gwahaniaethu yn eu herbyn o ganlyniad i’w hunaniaeth LHDTC+.

Mae ymchwil hefyd wedi dangos nad yw rhai pobl LHDTC+ yn datgelu eu rhywedd/cyfeiriadedd rhywiol i wasanaethau gofal iechyd. Nododd yr Arolwg LHDT Cenedlaethol, o’r sampl o Gymru, fod 50% o bobl LHDTC+ cisryweddol wedi dweud nad oeddent erioed wedi rhannu eu cyfeiriadedd rhywiol â staff gofal iechyd (GEO 2018b) yn ystod y 12 mis cyn yr arolwg. At hynny, nododd 19.6% o ymatebwyr traws yng Nghymru yn yr Arolwg LHDT Cenedlaethol fod eu hanghenion penodol yn cael eu hanwybyddu pan oeddent yn defnyddio neu’n ceisio defnyddio gwasanaethau gofal iechyd.

Nododd ymchwil yn Lloegr (NatCen Social Research et al. 2021) fod pobl LHD yn fwy tebygol o fod yn smygwyr (27%) o’u cymharu ag oedolion heterorywiol (18%). Cofnodwyd patrymau tebyg o ran cyffredinrwydd yfed alcohol, sef mwy o risg neu risg uwch (32% i oedolion LHD o gymharu â 24% i bobl heterorywiol).

Dengys adroddiadau blaenorol fod pobl anabl LHDTC+ yn parhau i wynebu gwahaniaethu ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu eu hunaniaeth rhywedd gan y rhai sy’n darparu gofal (SSCR 2017). Mae ymchwil i brofiadau pobl LHDTC+ mewn lleoliadau gofal cymdeithasol wedi dangos ei bod wedi’i nodi’n aml nad yw anghenion pobl hŷn bob amser yn cael eu diwallu (PolicyBristol 2017Hafford-Letchfield et al 2018).

Daeth sylwadaeth Westwood (2018) ar y gamdriniaeth roedd pobl LHDT hŷn yn ei hwynebu i’r casgliad eu bod yn agored i gael eu cam-drin ar lefel sefydliadol yn ogystal â lefel rhyngbersonol. Mae Westwood yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl LHDT hŷn, er eu bod yn cael eu cam-drin ar sail eu rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol, yn llai tebygol o roi gwybod am hyn o ganlyniad i’r ymyleiddio cymdeithasol y gallant ei wynebu o bosibl wrth fyw fel person LHDT hŷn.

Mae pob un o’r canfyddiadau hyn yn dangos bod yn rhaid gwneud gwaith i sicrhau bod pobl LHDTC+ yng Nghymru yn teimlo’n ddiogel ac yn ddigon hyderus i droi at y system iechyd a gofal cymdeithasol. Ceir hefyd sawl maes arall lle yr effeithir yn anghymesur ar bobl LHDTC+, megis iselder a defnyddio sylweddau (Stonewall 2018b; Pitman et al 2021).

Dangosodd data o Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru 2021f) rhwng 2019-2020 fod pobl LHDTC+ ddwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig (30%) o’u cymharu â’u cymheiriaid heterorywiol (15%). Yn ôl yr adroddiad “A yw Cymru’n Decach?” (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018b: t.102), mae unigrwydd, ynysigrwydd a llai o ymdeimlad o berthyn ymhlith rhai o’r problemau mwyaf sylweddol a wynebir gan grwpiau penodol, gan gynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol neu drawsryweddol, a phobl o rai lleiafrifoedd ethnig.

Mae’n rhaid inni weithredu er mwyn deall yr anghymesuriaethau hyn, yn enwedig i bobl drawsryweddol ac anneuaidd, yn well a’u lliniaru. Dylai bod yn drawsryweddol gael ei ddathlu fel rhan werthfawr a phwysig o deuluoedd, cymunedau a chymdeithasau (AusPATH 2021Sefydliad Iechyd y Byd 2018). Gall oedi cyn parchu hunaniaeth rhywun neu atal hunaniaeth rhywun rhag cael ei pharchu gael effaith negyddol ar fywyd y person hwnnw (Ashley 2019). Mae ymchwil wedi dangos y niweidiau sy’n deillio o oedi cyn trawsnewid, gydag ymchwil yn y DU yn dangos heriau, rhwystredigaeth, a thrawma pobl draws, gan gynnwys pobl ifanc, sydd wedi cael profiad o oedi neu gael eu gwrthod. Mae tystiolaeth yn dangos effaith gadarnhaol trawsnewid cymdeithasol cyn y glasoed (Durwood et al. 2021; Horton 2022). Mae ymchwil i blant traws sydd wedi trawsnewid yn gymdeithasol wedi dangos iechyd meddwl a chanlyniadau llesiant cadarnhaol (Durwood et al., 2017; Olson et al. 2016). Mae’r canfyddiadau hyn hefyd yn atgyfnerthu ymchwil ôl- weithredol i niwed i iechyd meddwl os gwrthodir hunaniaeth plentyn yn ystod ei blentyndod, a ddaw o ymchwil i oedolion traws a phobl ifanc draws (Katz-Wise et al. 2018; Klein a Golub 2016; Pollitt et al. 2021; Russell et al. 2018; Simons et al. 2013; Travers et al. 2012; Wallace a Russell 2013).

Er bod gan Gymru ei wasanaeth rhywedd ei hun, dim ond darpariaeth i oedolion ydyw. Yn syml: nid oes unrhyw wasanaethau rhywedd i blant na phobl ifanc drawsryweddol yng Nghymru. Felly, maent yn aml yn cael eu cyfeirio at wasanaethau yn Lloegr. Mae adroddiad arolygu ar wasanaethau hunaniaeth rhywedd (Comisiwn Ansawdd Gofal 2019) wedi canfod bod Gwasanaethau Rhywedd i bobl ifanc yn annigonol o hyd yn Lloegr, gan ddweud “The service was difficult to access. There were over 4600 young people on the waiting list. Young people waited over two years for their first appointment”. Mae’r ymchwil a grybwyllwyd ymhlith y rhesymau lu sy’n ein hannog i wneud rhagor a pharhau i ddatblygu ein gwasanaethau rhywedd i oedolion yng Nghymru, ac ystyried opsiynau ar gyfer datblygu gwasanaeth rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys gweithredu ar sail tystiolaeth ac ymgysylltu â phobl ifanc, defnyddwyr gwasanaethau, a rhanddeiliaid.

Yn unol â Cham Gweithredu 18, Gweithgaredd 18.4 o’r Cynllun hwn (gweler isod), ein huchelgais yw y caiff canlyniadau iechyd cyffredinol a phrofiadau pobl draws ac anneuaidd eu hystyried ar bob cam o’r broses ailbennu rhywedd. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, sgrinio rhag canser a darpariaethau iechyd rhywiol.

Ein camau gweithredu

  1. Deall a gwella profiad pobl LHDTC+ yn y sector iechyd a’r sector gofal cymdeithasol.
  2. Sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a ffrwythlondeb yn hygyrch ac yn syml i’w defnyddio i bobl LHDTC+.
  3. Sicrhau bod y gwaith o ddatblygu’r strategaeth iechyd meddwl newydd yn ystyried pobl LHDTC+.
  4. Cyhoeddi Cynllun Gweithredu HIV newydd a gweithredu arno.
  5. Goresgyn y rhwystrau sy’n atal pobl LHDTC+ rhag defnyddio gwasanaethau iechyd rhywiol.
  6. Adolygu’r llwybr Datblygiad Hunaniaeth Rhywedd i bobl ifanc yng Nghymru.
  7. Parhau i ddatblygu Gwasanaeth Rhywedd Cymru.
  8. Gwella’r ffordd y cofnodir data a newid prosesau ar gyfer cynnal cofnodion meddygol pobl draws, anneuaidd a rhyngryw.

E. Addysg gynhwysol

Gweledigaeth: byddwn yn darparu addysg sy’n LHDTC+- gynhwysol ledled Cymru

Yn 2017, edrychodd y Panel o Arbenigwyr Addysg Rhyw a Pherthnasoedd ar amrywiaeth eang o ymchwil genedlaethol a rhyngwladol (Renold and McGeeney 2017a; 2017b). Un o ganfyddiadau allweddol y panel oedd bod bwlch rhwng profiadau bywyd plant a phobl ifanc o gydberthnasoedd a rhywioldeb a chynnwys darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

Noda ymchwil yn Adroddiad Ysgol Cymru (Stonewall Cymru 2017b) nad yw 58% o fyfyrwyr LHDT yng Nghymru wedi cael eu haddysgu am faterion LHDT, nad oedd 84% erioed wedi cael eu haddysgu am ddeurywioldeb ac nad oedd 87% erioed wedi cael eu haddysgu am bobl drawsryweddol na rhyweddau eraill. Fodd bynnag, cafwyd newidiadau yn ddiweddar. Yn sgil cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022 daeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb briodol yn ddatblygiadol yn orfodol i bob dysgwr. Bydd y Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn anelu at sicrhau y ‘gall y dysgwyr i gyd weld eu hunain, eu teuluoedd, eu cymunedau a’i gilydd yn cael eu hadlewyrchu ym mhob rhan o’r cwricwlwm a dysgu sut i werthfawrogi gwahaniaeth ac amrywiaeth fel ffynhonnell cryfder’ (Hwb Llywodraeth Cymru 2022).

Mae gan ysgolion a lleoliadau rôl bwysig i’w chwarae i greu amgylcheddau diogel a grymusol sy’n cefnogi hawliau dysgwyr i fwynhau cydberthnasau cadarnhaol, iach a diogel drwy gydol eu bywydau. Rydym yn galluogi addysg fwy cynhwysol, drwy ymrwymo i roi canllawiau cenedlaethol i ysgolion erbyn haf 2023 er mwyn helpu ysgolion i gefnogi disgyblion trawsryweddol i’r eithaf.

Nododd y canfyddiadau o arolwg dros y DU gyfan gan Just Like Us (Milsom 2021) mai dim ond 58% o fyfyrwyr LHDTC+ a ddywedodd eu bod yn teimlo’n ddiogel bob dydd yn yr ysgol yn ystod y 12 mis blaenorol o gymharu â’r ffigur uwch o 73% i fyfyrwyr nad oeddent yn LHDT. Hefyd, dywedodd 43% o fyfyrwyr LHDT+ eu bod yn cael eu bwlio, o gymharu ag 21% o fyfyrwyr nad oeddent yn LHDT.

Nododd Adroddiad Ysgol Cymru (Stonewall 2017a), ymhlith myfyrwyr 11 i 19 oed yng Nghymru, fod 54% o fyfyrwyr LHDT gan gynnwys 73% o fyfyrwyr traws yn cael eu bwlio yn yr ysgol ynglŷn â’u cyfeiriadedd rhywiol neu eu rhywedd. At hynny, nododd yr adroddiad fod 60% o ymatebwyr yn clywed iaith homoffobig yn yr ysgol ‘yn gyson’ neu ‘yn aml’, bod 49% wedi nodi eu bod yn clywed iaith ddeuffobig a bod 51% wedi nodi eu bod yn clywed iaith drawsffobig.

Yn ôl adroddiad “A yw Cymru’n Decach?” (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2018: t.25), mae’r rhai ag anghenion arbennig neu anabledd, disgyblion lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol, a’r rhai o gefndir ethnig lleiafrifol neu grefyddol yn wynebu risg benodol o gael eu bwlio; mae seiberfwlio hefyd yn cynyddu (Estyn 2014).

Mae ysgolion yn lleoedd lle y dylai dysgwyr deimlo’n ddiogel ac yn barod i ddysgu. Mae unrhyw fath o fwlio neu aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol.

Rydym am weld terfyn ar bob math o fwlio. Nod ein hymrwymiad i fynd i’r afael â’r mater hwn yw sicrhau bod pobl ifanc LHDTC+ yn deall sut i gael cymorth ac yn magu’r hyder i herio bwlio, aflonyddu a gwahaniaethu.

Ein camau gweithredu

  1. Rhoi canllawiau cenedlaethol ar faterion traws i ysgolion ac awdurdodau lleol.
  2. Cefnogi pobl ifanc LHDTC+ a mynd i’r afael â bwlio homoffobig, deuffobig, a thrawsffobig.
  3. Llunio dull gweithredu ysgol gyfan sy’n gwbl LHDTC+-gynhwysol a’i roi ar waith.
  4. Sicrhau bod pob coleg a phrifysgol yng Nghymru yn amgylcheddau LHDTC+- gynhwysol i ddysgwyr, myfyrwyr, a staff.

F. Cymunedau, bywyd preifat a bywyd teuluol

Gweledigaeth: byddwn yn gwella cynhwysiant a chyfranogiad i bobl LHDTC+ ym mhob rhan o fywyd

Mae Cymru yn wlad o gymunedau, ieithoedd, hunaniaethau a diwylliannau amrywiol. Dylai fod modd i bawb, ni waeth beth fo’u hunaniaeth neu ble maent yn byw, gael ymdeimlad o berthyn i’w cymunedau ac i Gymru. O gymunedau gwledig a threfol i gymunedau ffydd, diwylliant a’r celfyddydau.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021f), yn 2018-19 cytunodd 72.4% o oedolion yng Nghymru eu bod yn teimlo eu bod yn perthyn i’w hardal leol. Fodd bynnag, roedd pobl sy’n uniaethu â bod yn hoyw, yn lesbiaidd, neu’n ddeurywiol (63.2%) yn llai tebygol o gytuno na’r rhai a oedd yn uniaethu â bod yn heterorywiol/strêt (72.6%). Er enghraifft, roedd pobl hoyw, lesbiaidd a deurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru yn dal i gael eu trin yn wael yn ystod eu bywydau pob dydd. Bydd cefnogi pobl ifanc a’u teuluoedd yn rhan allweddol o wella cynhwysiant a chyfranogiad i bobl LHDTC+. Drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhanbarthol, yn enwedig mewn rhannau gwledig o Gymru ac mewn ardaloedd lle siaredir y Gymraeg fel y brif iaith, bydd hynny’n helpu pawb sy’n LHDTC+ i gael ymdeimlad o berthyn. Rydym yn cydnabod yr effaith y mae digwyddiadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru a’i phartneriaeth Mas ar y Maes, ac eraill, wedi’i chael. Ein huchelgais yw sicrhau bod anghenion siaradwyr Cymraeg yn cael eu diwallu yn y ffordd y caiff diwylliant LHDTC+ ei gynrychioli.

Bydd angen mwy o ymchwil er mwyn deall y materion gwledig a rhanbarthol yng Nghymru a wynebir gan bobl LHDTC+.

Rydym eisoes wedi dechrau rhoi cyllid i ddigwyddiadau Pride lleol a byddwn yn parhau i gefnogi grwpiau lleol Pride. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd arbennig y digwyddiadau hyn o ran creu ymdeimlad o gynhwysiant a chymuned.

Lansiwyd “Cais am Dystiolaeth” yn ddiweddar i rannu safbwyntiau ynglŷn â sut i drin cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog yr effeithiwyd arnynt gan y gwaharddiad ar gyfunrhywiaeth yn y lluoedd arfog cyn 2000 (LGBT Veterans Independent Review 2022). Bydd yr adolygiad yn ystyried profiadau cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+ a’u teuluoedd cyn y gwaharddiad a’r effaith ar eu bywydau. Daeth y ‘Cais am Dystiolaeth’ i ben ar 1 Rhagfyr 2022 ac ni fydd y canlyniadau llawn yn hysbys am beth amser eto. Fodd bynnag, mae rhai o’r camau gweithredu a’r gweithgareddau yn y cynllun hwn yn ceisio mynd i’r afael â rhai o’r materion a’r pryderon hyn. Bydd swyddogion yn adolygu canlyniadau’r Cais am Dystiolaeth pan fyddant ar gael ac yn ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau pellach o ganlyniad iddynt. Fel cefndir, cyn 2000 ystyriwyd bod gweithredoedd cyfunrhywiol yn drosedd pe ceid rhywun yn euog o dan Ddeddf y Fyddin 1955, Deddf yr Awyrlu 1955, a Deddf Disgyblaeth y Llynges 1957. Cafodd gweithredoedd cyfunrhywiol rhwng oedolion eu dad-droseddoli o dan adran 1(1) o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967 (diwygio’r gyfraith a oedd yn ymwneud â gweithredoedd cyfunrhywiol yn breifat), a ddiddymwyd gan Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 adrannau 139, 140, Atodlen 6, paragraff 15(a), Atodlen 1, yn weithredol o 1 Mai 2004.

Ein camau gweithredu

  1. Cefnogi bywydau teuluol pobl LHDTC+.
  2. Cefnogi’r sector gwaith ieuenctid LHDTC+.
  3. Cefnogi deialog agored rhwng grwpiau ffydd a phobl LHDTC+.
  4. Sicrhau bod gwasanaethau cymorth Cymraeg ar gael i siaradwyr Cymraeg LHDTC+.
  5. Rhoi cymorth i bobl ifanc LHDTC+ gymryd rhan mewn democratiaeth, gan gynnwys sefyll am swyddi etholedig.
  6. Cefnogi sefydliadau Pride ledled Cymru.
  7. Defnyddio digwyddiadau ymwybyddiaeth o faterion LHDTC+ er mwyn cryfhau llais pobl LHDTC+.
  8. Cefnogi cyn-aelodau o’r Lluoedd Arfog sy’n LHDTC+.

G. Cymryd rhan ym mywyd Cymru: diwylliant a chwaraeon

Gweledigaeth: byddwn yn gwella cynhwysiant a chyfranogiad i bobl LHDTC+ ym mhob rhan o fywyd

Mae hanes, diwylliant, a threftadaeth LHDTC+ Cymreig yng Nghymru wedi cyfrannu at ein gwaddol a’n profiadau fel cenedl ac mae angen i’r straeon hyn gael eu hadrodd. Dros y degawd diwethaf, mae’r gwaith o arddangos cyfeiriadeddau rhywiol a rhywedd, gan gynnwys hunaniaeth a mynegiant rhywedd, mewn hanes, llenyddiaeth a threftadaeth, wedi cynyddu’n fawr, fel y profwyd gan ymdrech Amgueddfa Cymru a Queer Britain i arddangos ac archifo straeon a phrofiadau LHDTC+. Fodd bynnag, mae diffyg cynefindra, gwybodaeth a diddordeb yn y pwnc o hyd (Llywodraeth Cymru 2021g).

Rydym hefyd yn ymwybodol bod rhai o’r bobl greadigol fwyaf talentog yn y byd yma yng Nghymru. Drwy Cymru Greadigol, rydym am hyrwyddo amgylchedd lle mae modd meithrin talent o bob cymuned, gan gynnwys cymunedau LHDTC+, drwy ddatblygu sgiliau a lle y gall diwydiannau creadigol barhau i dyfu. Felly, rydym yn argymell y dylid darllen y Cynllun Gweithredu hwn ochr yn ochr â Blaenoriaethau ar gyfer Sector y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru (Llywodraeth Cymru 2020d) a’r Cynllun Sgiliau Creadigol tair blynedd newydd (2022 i 2025) sy’n cyd-fynd ag ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu Corff Sgiliau Creadigol (Llywodraeth Cymru 2022g).

Mae chwaraeon hefyd yn elfen bwysig o fywyd yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae gwahanol gyrff chwaraeon rhyngwladol a domestig wedi cyhoeddi polisïau nad ydynt yn cynnwys pobl draws yn gyfan gwbl, yn enwedig menywod traws. Mae perygl y bydd gwaharddiad llwyr ar bobl drawsryweddol ac anneuaidd yn anfon neges anghywir i bobl ifanc draws na allant gael yr un cyfleoedd â’u ffrindiau na phlant eraill, ac i bob person ifanc bod yn rhaid iddynt ymgyflwyno mewn ffordd benodol er mwyn cael eu parchu am bwy ydynt, sydd â goblygiadau ehangach.

Mae chwaraeon yn amrywiol eu natur, ac mae dull unffurf o ymdrin â mater cymhleth iawn yn heriol. Mae’n amlwg bod cefnogaeth gyffredinol i sicrhau bod croeso i bawb ym myd chwaraeon, gan gynnwys pobl drawsryweddol. Mae ein safbwynt ynglŷn â chynhwysiant mewn chwaraeon yn glir: hawliau dynol yw hawliau LHDTC+, gan gynnwys hawliau traws, ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, ein man cychwyn yw bod menywod trawsryweddol yn fenywod (Senedd Cymru 2022b). Dylai chwaraeon fod i bawb, lle y gall pawb gymryd rhan a lle y caiff pawb ei drin â charedigrwydd, urddas, a pharch. Mae’n rhaid inni weithio’n galed i chwilio am gyfleoedd i gynnal deialog, dod o hyd i ffyrdd o hyrwyddo dealltwriaeth yn hytrach na gwrthdaro, a dangos parch yn hytrach nag ystyried allgáu.

Ein camau gweithredu

  1. Gwella cynrychiolaeth, cynhwysiant, a chyfranogiad pobl LHDTC+ ym myd chwaraeon.
  2. Gwella mynediad a chyfranogiad pobl drawsryweddol ym myd chwaraeon.
  3. Dathlu a gwella cynrychiolaeth cymunedau LHDTC+ yn nhreftadaeth a diwylliant Cymru.
  4. Cael mwy o gyfranogiad gan bobl a sefydliadau LHDTC+ wrth lunio trefniadau a gweithgareddau diwylliannol.

H. Gweithleoedd cynhwysol

Gweledigaeth: byddwn yn gwella cynhwysiant a chyfranogiad i bobl LHDTC+ ym mhob rhan o fywyd

Er bod sefydliadau yn ymfalchïo’n fwyfwy yn eu hymrwymiad i staff, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaethau LHDTC+, erys cryn wahaniaethu yn y gweithle o hyd. Nododd yr Arolwg LHDT Cenedlaethol fod 22.4% o ymatebwyr yng Nghymru wedi cael ymateb anffafriol yn y gweithle oherwydd eu rhywedd neu eu cyfeiriadedd rhywiol neu’r canfyddiad eu bod yn LHDT (GEO 2017). Hefyd, nododd 11.1% eu bod wedi bod yn destun sylwadau neu ymddygiad ‘amhriodol’ a nododd 9.3% achosion o aflonyddu geiriol. Nododd data 2019-2020 o Arolwg Cenedlaethol Cymru (Llywodraeth Cymru 2021f) fod 19% o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol wedi cael eu bwlio yn y gweithle yn ystod y flwyddyn cyn cymryd rhan yn yr arolwg. Mae hyn yn cymharu ag 11% o bobl heterorywiol. At hynny, nododd 20% o bobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol eu bod wedi bod yn destun gwahaniaethu yn eu gweithle yn ystod y 12 mis diwethaf, o gymharu â 10% o bobl heterorywiol.

Dangosodd adroddiad Work (Stonewall 2018c) fod mwy na thraean o staff LHDT (35%) yn cuddio’r ffaith mai LHDT oeddent yn y gweithle rhag ofn y byddai eraill yn gwahaniaethu yn eu herbyn; roedd un o bob deg cyflogai Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (10%) wedi bod yn destun ymosodiad corfforol gan gwsmeriaid neu gydweithwyr yn ystod y flwyddyn flaenorol; ac nid oedd bron ddau o bob pum person deurywiol (38%) wedi dod allan i unrhyw un yn y gweithle.

Mae amlygrwydd y nenfwd wydr yn y gweithle i reolwyr hoyw a lesbiaidd yn ffenomenon a welir o hyd yn y DU (Frank 2006; Aksoy et al. 2019). Mae’r ymchwil ddiweddar a hanesyddol yn awgrymu bod “lleiafrifoedd rhywiol” yn llai tebygol o fod mewn uwch swyddi rheoli o gymharu â’u cymheiriaid heterorywiol ac awgrymir bod hyn i’w briodoli i gydnabyddiaeth wahaniaethol i reolwyr hoyw a lesbiaidd o gymharu â’u cymheiriaid heterorywiol am eu haddysg a’u sgiliau ychwanegol.

Mewn arolwg a grwpiau ffocws a gynhaliwyd wrth ddatblygu’r cynllun gweithredu hwn (Llywodraeth Cymru 2021c), canfuwyd, er i 45% o bobl nodi mai ymateb cadarnhaol yn unig a gafwyd gan gydweithwyr yn y gweithle pan oeddent yn ymwybodol eu bod yn LHDTC+, fod 24% wedi nodi bod eu hunaniaeth LHDTC+ wedi cael ei datgelu mewn ffordd annerbyniol yn y gweithle (‘outing’) a bod 10% wedi dweud eu bod wedi cael profiad o aflonyddu geiriol. Mae angen i hyn newid; mae hapusrwydd yn y gweithle yn bwysig. Mae’n gwella iechyd gweithwyr, yn arwain at well cydberthnasau gwaith, a gall roi hwb i greadigrwydd a chynhyrchiant. Mae gweithleoedd yng Nghymru wedi gwella, ond eto mae angen inni fynd ymhellach er mwyn dileu gwahaniaethu a grymuso pawb sydd mewn swydd i fod yn nhw eu hunain, yn ogystal â hyrwyddo’r effaith gadarnhaol y gall amrywiaeth ei chael mewn pob math o sefydliad.

Ein camau gweithredu

  1. Dileu prosesau adnabod personol diangen mewn arferion recriwtio.
  2. Rhoi hyfforddiant ar gydraddoldebau sy’n cynnwys anghenion pobl LHDTC+ i bob sefydliad yn y sector cyhoeddus.
  3. Annog cyflogwyr yn y sector preifat i fod yn LHDTC+-gynhwysol.

I. Effaith COVID-19

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn awgrymu bod COVID-19 wedi cael effaith anghymesur ymhlith cymunedau LHDTC+ yng Nghymru. Yn fwy cyffredinol yn y DU, mae arolygon ar-lein wedi awgrymu bod pobl LHDTC+ wedi profi anghydraddoldebau drwy gydol COVID-19. Er enghraifft, mae adroddiad LGBTQ+ Lockdown Wellbeing LGBT Hero (2020) yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl LHDTC+ wedi dweud eu bod wedi profi cyfraddau uchel o drais a chamdriniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud. Nodwyd hyn yn benodol gan bobl ifanc, ond hefyd gan bobl draws a rhywedd-amrywiol a nododd ddwywaith gymaint o drais a chamdriniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud na phobl cisryweddol. Mae’r adroddiad yn nodi, o’i sampl o LHDTC+, fod 15% wedi dweud eu bod wedi profi trais neu gamdriniaeth yn ystod y cyfyngiadau symud. Roedd y ffigur hwn fwy na dwywaith yn uwch i bobl Ddu a De Asiaidd LHDTC+ o’u cymharu â’u cymheiriaid gwyn. Hefyd, nododd yr adroddiad fod 79% o’i sampl yn y DU wedi dweud bod cyfyngiadau symud COVID-19 wedi cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Mae adroddiad gan LGBT Foundation (2020) yn nodi bod 30% o’r ymatebwyr LHDT yn y DU yn byw ar eu pen eu hunain yn ystod y pandemig, mae pobl LHDT hŷn yn fwy tebygol o fod wedi byw ar eu pen eu hunain drwy gydol y pandemig, gyda 40% o bobl 50 oed a hŷn yn nodi hyn. At hynny, nododd yr adroddiad nad oedd 8% o’r ymatebwyr yn teimlo’n ddiogel yn eu trefniadau byw pan wnaethant ymateb i’r arolwg yn ystod y cyfyngiadau symud. Nid yw’r profiad hwn yr un fath ym mhob cymuned LHDTC+ oherwydd ymhlith pobl LHDT ethnig leiafrifol gwelwyd canran o 9%, a 15% ymhlith pobl anabl LHDT, 17% ymhlith pobl draws a 17% ymhlith pobl anneuaidd.

Mae’n hollbwysig casglu a deall data yn gyntaf, er mwyn llwyr werthfawrogi’r effeithiau hyn a nodi a blaenoriaethu camau gweithredu i leihau effaith bresennol pandemig COVID-19 a’i effaith yn y dyfodol a phandemigau posibl yn y dyfodol ar gymunedau LHDTC+ sy’n byw yng Nghymru.

Ein camau gweithredu

  1. Wrth gynllunio ymateb adfer ar ôl COVID-19 a’i roi ar waith, ystyried profiadau pobl LHDTC+, yn enwedig yr effaith ar iechyd meddwl.
  2. Cynnal ymchwiliad trylwyr i’r ffordd y mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bobl LHDTC+, yn enwedig pobl ifanc LHDTC+ a phobl anabl LHDTC+, yng Nghymru.