Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â’r Fforwm Manwerthu, wedi paratoi Cynllun Gweithredu Manwerthu (Cynllun) drwy ddull partneriaeth gymdeithasol, gyda’r nod o gyfleu ei hymrwymiad a’i chefnogaeth i’r sector manwerthu yng Nghymru. Bydd hyn yn adeiladu’n uniongyrchol ar y Weledigaeth strategol ar rennir ar gyfer y sector manwerthu (Gweledigaeth) a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2022.  

Prif bwrpas y Cynllun yw hyrwyddo’r Weledigaeth ar gyfer Manwerthu, ond mae hefyd yn cefnogi’r amcanion a amlinellir yn y Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi (Gweledigaeth) a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2021, dull y Llywodraeth o ymdrin â’r Economi Sylfaenol y mae Manwerthu’n rhan ohoni, a nodau ehangach, mwy strategol y llywodraeth hon.

Mae’r Genhadaeth yn rhoi pwys sylweddol ar ein hamcanion strategol sy’n cyfrannu at hyrwyddo ymagwedd llesiant at yr Economi, y mae Cynghrair yr Economi Llesiant yn ei ddisgrifio fel mudiad “y tu hwnt i ffocws ar ‘ddulliau’, h.y. twf economaidd, i ganolbwyntio ar gyflawni ‘dibenion’, h.y. ein llesiant ar y cyd.” ac “Mae datblygu Economi Llesiant, felly, yn ymwneud â gwahanol fesurau neu bolisïau, ond hefyd yn ymwneud â newid ein perthynas â’r economi a’n dull o’i reoli a’i lywodraethu.”

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth i’r sector manwerthu yng Nghymru drwy gamau gweithredu penodol sy’n ymwneud â thair colofn – Pobl, Lle a Chydnerthedd. Mae ein hymgysylltiad cynnar â’r Fforwm Manwerthu, rhanddeiliaid yn y diwydiant ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru wedi ffafrio ffocws clir ar y sector hwn, er mwyn sicrhau y bydd ein camau gweithredu’n gwireddu’r canlyniadau arfaethedig. Nid oes unrhyw gyllid ychwanegol yn gysylltiedig â’r Cynllun hwn, ond mae’n canolbwyntio ar gydlynu gweithgareddau ar draws y Llywodraeth, a harneisio ewyllys ac awydd y Fforwm Manwerthu i wneud newidiadau cadarnhaol drwy bartneriaeth gymdeithasol.

Ffocws y Cynllun yw manteisio ar y sgiliau a’r adnoddau sydd gan y Fforwm Manwerthu a gynrychiolir gan sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau (Ffederasiwn Busnesau Bach, Siambrau Cymru, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain), grwpiau cynrychioli rhanddeiliaid (Consortiwm Manwerthu Cymru a'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS), TUC Cymru a’r Undebau Llafur, a’r Llywodraeth.

Bydd y Cynllun hefyd yn dilyn y newid mewn cyfeiriad polisi fel y nodir yn y Genhadaeth ac a ymgorfforir yn y Contract Economaidd fel sail i’r nodau cenedlaethol o dwf teg a chynaliadwy. Drwy’r camau gweithredu a nodir yn y Cynllun, bydd y Fforwm Manwerthu yn cefnogi’r sector i gymryd camau gweithredu a fydd yn cyfrannu at nodau’r Genhadaeth o waith teg, swyddi gwell yn nes at adref, datgarboneiddio, a gwaith seiliedig ar leoedd i gefnogi amgylchedd manwerthu bywiog sy’n gallu cefnogi strydoedd mawr bioamrywiol a chynaliadwy. Mae’r Cynllun hefyd yn nodi argymhellion pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a amlinellir yn ei adroddiad; Codi’r Safonau - Sicrhau dyfodol y sectorau Lletygarwch, Twristiaeth a Manwerthu, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2022 (Codi’r Safonau: Sicrhau dyfodol y sectorsau Lletygarwch, Twristiaeth a Manwerthu (senedd.cymru)).

Mae’r sector manwerthu yn ganolog i bob un ohonom, felly mae’r sector yn cyffwrdd ag ystod eang o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n amrywio o lafur a sgiliau, hyd at ddatgarboneiddio a gwastraff. Ni fwriedir i’r Cynllun hwn fynd i’r afael â’r holl bryderon cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n ymwneud â manwerthu, a fydd yn cadw ei ffocws ar ddarparu cymorth i’r sector manwerthu yng Nghymru gan ganolbwyntio ar bobl, lleoedd a chydnerthedd. Fodd bynnag, wrth gydnabod bod y sector manwerthu yng Nghymru yn rhan bwysig o’r economi ehangach, bydd y Cynllun yn integreiddio’n well â nodau ehangach ein Strategaeth Genedlaethol.

Yr hirdymor

Mae canol trefi a’r strydoedd mawr wedi cael trafferth yn ystod y pandemig a chyn hynny. Mae siopau manwerthu a siopau lleol yn chwarae rhan allweddol yn eu hadfywio, lle mae'r Gymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) wedi tynnu sylw yn ei adroddiad diweddaraf at y gwerth cymdeithasol y mae manwerthwyr yn ei gyfrannu drwy ddarparu gwasanaethau ehangach y mae mawr eu hangen fel bancio/rhannu gwybodaeth gymunedol/ pensiynau a thaliadau biliau, yn ogystal â bod yn hwyluswyr ar gyfer gwasanaethau eraill. Gall y gwasanaethau hyn fod yn achubiaeth i bobl hŷn a’r rheini sy’n dioddef tlodi nad ydynt yn gallu cael gafael ar ddarpariaethau ar-lein yn hawdd. Mae’r sector manwerthu’n eithriadol o bwysig i economi Cymru a’i chymunedau lleol. Roedd yn darparu swyddi i 139,000 (Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth (BRES), Swyddfa Ystadegau Gwladol) o bobl yn 2021, mwy nag mewn gweithgynhyrchu (137,000 (Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth (BRES), Swyddfa Ystadegau Gwladol)), ac roedd wedi cyfrannu 5.7% o allbwn economaidd Cymru (Gwerth Ychwanegol Gros) (Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau Gwlado) yn 2021. O ran Gwerth Ychwanegol Gros, mae hyn yn gyfran fwy o'r economi nag yn yr Alban a phob rhanbarth yn Lloegr ac eithrio Gogledd-orllewin Lloegr (6.2%).

Mae’r Cynllun yn nodi dechrau ymrwymiad hirdymor i wireddu gweledigaeth sector manwerthu bywiog sy’n cynnig gwaith deniadol a theg ac sy’n cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a’n cymunedau.

Cynigir y bydd hyd oes y Cynllun am ddwy flynedd o’i gyhoeddi, gyda’r nod o werthuso camau gweithredu gan wneud cynnydd tuag at y Weledigaeth. Ar ôl dwy flynedd, byddwn yn ailedrych ar y Cynllun, lle bydd camau gweithredu’n cael eu diweddaru i sicrhau eu bod yn gyfredol ac yn adlewyrchu’r ansicrwydd a’r cynnwrf y mae’r sector yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd. 

Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol iawn nad oes atebion cyflym, atebion hawdd na chyllidebau diddiwedd ar gael i gefnogi’r agenda hon. Nod y Cynllun yw manteisio ar y parodrwydd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol gyda Llywodraeth Cymru, cyflogwyr, cyrff sy’n cynrychioli busnesau ac undebau llafur yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall lle rydym nawr, i ble rydym eisiau cyrraedd a sut gallwn ni gyrraedd y nod.  Mae Llywodraeth Cymru yn ymateb i bryderon rhanddeiliaid (Dechrau anesmwyth i'r flwyddyn manwerthu yng Nghymru wrth i'r gostyngiad yn nifer y siopwyr stryd fawr ysgogi'r galw am gymorth) ac wedi ystyried safbwyntiau wrth ddatblygu’r Cynllun hwn.

Roedd ein gwaith casglu tystiolaeth cychwynnol yn pwysleisio’r angen am ragor o ffocws ar gamau gweithredu i godi proffil materion manwerthu a lle mae dulliau llywodraethu ar gael, i ganolbwyntio ymdrechion ar gefnogi pobl yn y sector manwerthu, y gofod manwerthu ffisegol a mesurau i feithrin cydnerthedd yn y sector wrth iddo barhau i adfer o siociau sylweddol sy’n cael eu teimlo o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, y pandemig a phwysau byd-eang fel canlyniad y gwrthdaro yn Wcráin a’r sgil effeithiau ar chwyddiant a'r argyfwng ynni.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu buddsoddiad cyhoeddus uniongyrchol i’r sector drwy gamau gweithredu a nodir yn y Cynllun. Bydd ymyriadau eraill yn targedu’r sbardunau ar gyfer newid hirdymor fel y nodwyd drwy ein hymgysylltiad â’r diwydiant a rhanddeiliaid. Mae’r Camau Gweithredu yn dwyn ynghyd nifer o raglenni o bob rhan o’r Llywodraeth a gweithgareddau’r bartneriaeth gymdeithasol sy’n cynnwys gwaith i gefnogi adfywio canol y dref (Safle Canol Tref (ychwanegu dolen pan gaiff ei chyhoeddi)), gan gydnabod yr heriau gyda rhai strydoedd mawr yn dirywio. Bydd mesurau eraill yn canolbwyntio ar gymorth ardrethi annomestig (Ardrethi Busnes yng Nghymru) y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo ar ôl y pandemig. Elfen allweddol o’r Cynllun fydd datblygu ymchwil i ddeall sut mae targedu cymorth yn well i weithwyr yn y sector, deall sut mae hyrwyddo datblygu sgiliau a hyrwyddo amcanion cymdeithasol fel mwy o weithwyr yn cael y Cyflog Byw Go Iawn ar draws y sector drwy ymgysylltu â Cynnal Cymru er enghraifft i ddeall y rhwystrau sy’n atal cyflogwyr rhag mabwysiadu.

Roedd y pandemig yn gyfnod heriol a llawn straen i fanwerthwyr, busnesau a gweithwyr. Mae’r sector manwerthu yn amrywiol ac yn ddeinamig, ac mae’n mynd drwy gyfnod o drawsnewid sylweddol, gyda newidiadau mewn ymddygiad defnyddwyr, datblygiadau technolegol, a thwf cyflym mewn siopa ar-lein. Mewn rhai achosion, mae’r tueddiadau hyn yn cael effaith negyddol (lleihau nifer yr ymwelwyr yn ein stryd fawr, cau siopau) ac effaith drosiannol ar y sector. Felly, mae’n anodd iawn cynllunio ar gyfer yr hirdymor. Fodd bynnag, mae gan fanwerthwyr hanes llwyddiannus o ddulliau entrepreneuraidd ac arloesol o ddiwallu anghenion cwsmeriaid a darparu’r profiad siopa gorau posibl. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i fanwerthu a’i rôl ar y stryd fawr.

Nid yw pwysigrwydd y sector wedi’i gyfyngu i dwf economaidd a chyfleoedd swyddi. Mae’r manteision cymunedol sy’n cael eu cynnig gan fanwerthwyr cenedlaethol a lleol yn mynd ymhell y tu hwnt i hyn ac yn gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant unigolion a llesiant cymdeithasol.

I lawer, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn cymunedau anghysbell neu wledig, mae’r sector yn darparu cyfle hollbwysig ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol ynghyd â gwasanaethau pwysig eraill fel mynediad at wasanaethau swyddfa’r post a pheiriannau arian parod.  Hefyd, bob blwyddyn, mae manwerthwyr yn buddsoddi’n sylweddol yn eu cymunedau lleol ac yn rhoi rhoddion iddynt, gan helpu i gyfrannu at ddatblygu lleoedd cynhwysol, llwyddiannus a chadarn. Nododd y Cyngor yn ei adroddiad “Rhoi Elusennol gan y Diwydiant Manwerthu yng Nghymru” (2019) fod y sector manwerthu yng Nghymru wedi cyfrannu £9.8 miliwn at achosion da yn 2019 a oedd 28% yn uwch na’r flwyddyn flaenorol (Elusennau Cymru’n parhau i elwa o roi elusennol gan fanwerthwyr).

Fe wnaeth y Gymdeithas Siopau Cyfleustra adrodd yn eu hadroddiad siopau lleol yn 2023 fod 3025 o siopau cyfleustra wedi’u lleoli ledled Cymru gyda 63% mewn ardaloedd gwledig, gan ddarparu dros 23,000 o swyddi, gyda'r mwyafrif o weithwyr yn ferched. O’r rhain, mae 63% yn wledig, 22% yn faestrefol, 16% mewn ardaloedd trefol, a 37% mewn ardal anghysbell heb unrhyw siopau na busnesau eraill yn agos.

Atal

Ar ôl Covid, mae’r sector wedi wynebu ymdrech sylweddol i ddenu defnyddwyr yn ôl i’r stryd fawr ac mae wedi bod yn destun rhywfaint o wasg negyddol wrth nodi telerau ac amodau gwael sy’n gysylltiedig â gwaith yn y sector hwn (Pam mae gweithwyr gwasanaeth wedi'u gorweithio gymaint). 

Mae adroddiad monitro marchnad manwerthu’r UE: Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer gwella amodau byw a gwaith Amodau gwaith yn y sector manwerthu, yn tynnu sylw at y ffaith bod y gostyngiad parhaus mewn busnesau bach o ganlyniad i bwysau cystadleuol gan fanwerthwyr mawr wedi codi cynyddu materion cydlyniant tiriogaethol a chymdeithasol. Er enghraifft, mae siopau lleol sy’n cynnig nwyddau a gwasanaethau hanfodol fel bwyd, sydd fel arfer yn cael eu rhedeg fel busnesau bach, yn dod yn fwyfwy pwysig i ddau grŵp sydd â hygyrchedd sy’n dirywio; pobl hŷn ac anabl a phobl sydd wedi’u hynysu’n gymdeithasol, hynny yw, y rheini sy’n byw mewn ardaloedd prin eu poblogaeth a’r rheini heb gar. 

Pobl

Mae’r Cynllun yn cynnwys mesurau i atal problemau sydd wedi’u sefydlu’n ddwfn ac sy’n wynebu’r sector manwerthu, y mae rhai ohonynt wedi’u codi yn adroddiad Sefydliad Bevan, gan gynnwys cyflogau isel yn y sector, yr angen i fuddsoddi mewn hyfforddiant i staff ac aelodaeth gymharol isel o undebau llafur (Gwaith teg yn yr economi sylfaenol: profiadau ym maes manwerthu). Dangosodd ymchwil a gynhaliwyd yn benodol yn y sector Bwyd fod tua thraean (32%) o sefydliadau bwyd a diod Cymru wedi nodi bylchau mewn sgiliau, yn enwedig ym maes gwyddoniaeth bwyd, peirianneg a sgiliau masnachol. Mae’r enghraifft hon yn cynrychioli rhan fach o’r sector manwerthu ehangach ac mae’n dangos maint y broblem.

Nod y Cynllun yw gwella cyflogau, telerau ac amodau’r rheini sy’n gweithio yn y sector manwerthu, gwella bywoliaeth a rhagolygon gweithwyr, a mynd i’r afael â thlodi a thangyflogaeth yn ei dro. Yn benodol, bydd y Cynllun yn hyrwyddo’r Cyflog Byw Go Iawn, yn cyflawni camau i gynyddu aelodaeth undebau llafur ac yn gweithio gyda manwerthwyr i wella telerau ac amodau cyflogaeth.

Lle

Mae’r stryd fawr wedi bod yn dirywio ers blynyddoedd. Mae’r gostyngiad hwn wedi cael ei gyflymu’n rhannol gan faterion sy’n ymwneud â newid yn ymddygiad defnyddwyr ac effaith uniongyrchol y Pandemig. Nod y Cynllun yw codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo cefnogaeth i fanwerthwyr yng Nghymru drwy strategaeth Adfywio Canol Trefi (?) sy’n bwydo i Gymru’r Dyfodol (Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040), Y Cynllun Cenedlaethol 2040. Mae mesurau hefyd yn cefnogi cynlluniau lleol i ddelio ag adeiladau gwag ar y stryd fawr, cynllunio, ac ymrwymiadau’r sector cyhoeddus i leoli mewn lleoliadau ar y stryd fawr. Mae cymorth i’r sector drwy ryddhad treth hefyd i’w weld yn y Cynllun.

Cydnerthedd

Bydd y Cynllun yn cryfhau cydnerthedd hirdymor y sector drwy gynnwys camau gweithredu sy’n cefnogi’r gwaith o gyflawni Cynllun Strategol Sero Net Llywodraeth Cymru. Mae manteision camau gweithredu sy’n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni yn driphlyg: maent yn helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau costau ynni a chynyddu cynhyrchiant yn y sector.  Yn fwy penodol, yn achos oergelloedd â drysau, gallant leihau gwastraff bwyd gan y gellir oeri bwyd ar dymheredd is am gyfnod hirach a gwella oes silff.

Integreiddio

Mae’r Cynllun yn cydnabod yr angen am integreiddio, drwy gynnwys camau gweithredu sy’n gofyn am weithio ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaethau cymdeithasol i gyflawni agenda sy’n mynd y tu hwnt i ffocws penodol ar dwf economaidd yn unig. Mae’r Cynllun wedi’i strwythuro o amgylch tair thema neu biler. Caiff y camau gweithredu allweddol a fydd yn cael sylw eu disgrifio yn y Cynllun fel hyn fel ei bod yn glir sut y byddant yn integreiddio â strategaethau ehangach y Llywodraeth, gan gynnwys y Nodau Llesiant a chyfrannu at Ddangosyddion Cenedlaethol. Gweler Ffigur 1 isod.

Yn ychwanegol at y llwybr integredig a nodir yn Ffigur 1, mae hyn hefyd yn cyfrannu ac yn cysylltu â gwaith ehangach ar draws Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: gwaith teg, adfywio canol trefi, seilwaith a chynllunio, yn ogystal â chydlyniant cymdeithasol a chefnogi diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg.

Mewn sawl ardal, gall y manwerthwyr lleol bach yn aml fod yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg a chynnyrch Cymreig lleol, sy’n dangos pa mor bwysig yw cefnogi’r sector.  Mae manwerthwyr mwy hefyd yn arwain mentrau i hyrwyddo ac ymgysylltu defnyddwyr â’r Gymraeg. Lidl yw’r archfarchnad gyntaf i ennill ardystiad mawreddog Cynnig Cymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg ym mis Ionawr 2023 (Mae lidl yn siarad cymraeg:manwerthwr yn cyhoeddi eu hardystiad iaith gymraeg). Mae manwerthwyr eraill wedi datblygu polisi iaith Gymraeg (Polisi Iaith Gymraeg Morrisons) a bydd gwaith gyda’r manwerthwyr yn edrych ar fwy o gyfleoedd i ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ei blatfformau ac wrth ymgysylltu â chwsmeriaid.

Mae lle i wella bob amser ac mae mesurau wedi cael eu datblygu i gefnogi ac annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn y sector manwerthu, ond mae angen llawer mwy o waith (Y Gymraeg a’r Economi: Sefydliad Materion Cymreig).

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru wedi dangos Gwerth Cymreictod a sut y gall hyn ddarparu manteision masnachol o ran manwerthu i gynhyrchwyr. Mae gan economi ehangach Cymru y gallu i ddatblygu a gwneud y Gymraeg yn gyfarwydd ym mhob agwedd ar fywyd y defnyddiwr (Y Gymraeg a’r economi) ac mae ganddi rôl i atal yr iaith rhag cael ei gwthio i’r cyrion. Bydd y Cynllun yn tynnu sylw at hyn ac mae wedi nodi mesurau i ddatblygu’r iaith gyda’r sector. 

Ffigur 1: Integreiddio strategol y Cynllun Gweithredu Manwerthu 

Image

Cydweithio

Mae’r Cynllun Gweithredu Manwerthu wedi cael ei gyflawni drwy bartneriaeth gymdeithasol rhwng Llywodraeth Cymru, undebau llafur a chyrff sy’n cynrychioli cyflogwyr. Fe wnaeth y Fforwm Manwerthu gyfarfod ym mis Mehefin 2022 a chynnal digwyddiad i randdeiliaid, gan ymgysylltu â phartïon sydd â diddordeb. Yn dilyn hyn, cysylltwyd â rhanddeiliaid pellach, gan gynnwys y rheini sy’n cynrychioli materion gwyrdd (Heddwch Gwyrdd/Mae Cyfeillion y Ddaear), materion hygyrchedd (Cŵn Tywys i’r Deillion), tâl ac amodau (Undebau) a chyda rhanddeiliaid eraill yn cynnwys y rheini sy’n cynrychioli pobl ifanc, yn ogystal â phryderon yn ymwneud â hil.

Yn ystod y digwyddiadau ymgynghori a’r gweithdai, cafodd safbwyntiau a materion eu bwydo i mewn i ddatblygiad y Cynllun. Mae hyn wedi sicrhau bod y mesurau’n adlewyrchu’r materion sector presennol ac mae’r gwahanol grwpiau rhanddeiliaid wedi cael llais yn y broses o lunio’r cynllun.

Mae aelodau’r Senedd (Carolyn Thomas, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru; cwestiynau am ddrysau oergelloedd mewn siopau) hefyd wedi craffu ar Weinidog yr Economi a’i weithredoedd yn y maes hwn, ac mae’r rhain hefyd wedi cyfrannu at ffurfio’r camau gweithredu yn y Cynllun.

Er nad yw Bwrdd Cynghori’r Gweinidog yn ymwneud yn uniongyrchol â datblygu’r Cynllun, mae wedi cynghori’r Gweinidog ar nifer o faterion ac mae ei adroddiad chwe misol a rannwyd â Gweinidog yr Economi ym mis Rhagfyr 2022 wedi nodi themâu allweddol ar gyfer cadw a denu llafur yng Nghymru. Mae mesurau yn y Cynllun yn ystyried y Cyflog Byw Go Iawn ymlaen llaw a mesurau eraill i helpu gweithwyr yn y sector manwerthu i gael mynediad at sgiliau a hyfforddiant sy’n cael eu hystyried yn gamau gweithredu anuniongyrchol o’r gwaith hwn.

Cynnwys

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal ymarfer ymgysylltu er mwyn casglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i lywio cwmpas y Cynllun. Mae hyn wedi cynnwys cymdeithasau masnach allweddol, grwpiau buddiant, darparwyr diwydiant ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod y penderfyniadau a’r camau gweithredu ynddo yn cael eu llywio’n dda ac yn mynd i’r afael ag anghenion y diwydiant yn gywir.  

Mae gwaith craidd yr ymarfer ymgysylltu wedi’i seilio ar gyfarfodydd un-i-un, i hwyluso trafodaeth ar gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau’r diwydiant, yn ôl pwynt diddordeb y rhanddeiliad. Rydym hefyd wedi defnyddio’r cyfarfodydd hyn i adolygu a chasglu barn ar waith presennol Llywodraeth Cymru ac aelodau’r Fforwm Manwerthu.

Mae hyn wedi cael ei ategu drwy gyhoeddi tudalen we benodol ar wefan Busnes Cymru, a defnyddio cyfryngau cymdeithasol i wahodd ac annog pobl i gyfrannu safbwyntiau a syniadau drwy Gonsortiwm Manwerthu Cymru a defnyddio rhwydweithiau fforwm manwerthu.

Roedd yr ymgysylltu’n cynnwys cynrychiolwyr y trydydd sector, gan gynnwys trafodaethau â phartïon (Ymgyrchoedd Cŵn Tywys - Ymgyrchu dros Gŵn Tywys | Guide Dogs) (Pam y dylai archfarchnadoedd roi drysau ar eu hoergelloedd? | Cyfeillion y Ddaear Cymru) gyda diddordeb ac adolygu tystiolaeth o’r Senedd, yn ogystal ag adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Cynllun yn cael ei lywio gan ystod eang o safbwyntiau.

Mae angen mwy o ymgysylltu’n benodol â grwpiau sy’n cynrychioli’r rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, a bydd hyn yn waith parhaus wrth i’r Cynllun gael ei gyflwyno. Y nod cychwynnol fydd canfod rhanddeiliaid newydd i ymgysylltu â nhw am y sector manwerthu, a chasglu gwybodaeth a fydd yn helpu i lunio cyfeiriad y dyfodol a chamau gweithredu posibl, gan gyfrannu at y broses werthuso a gynlluniwyd ar gyfer dwy flynedd ar ôl cyhoeddi’r Cynllun. 

Effaith

Nid oes gan y Cynllun unrhyw gyllid newydd ar gael i ddatblygu cynlluniau pwrpasol neu newydd ond mae’n adeiladu ar waith sy’n mynd rhagddo ar draws y llywodraeth a gweithgareddau y gall y bartneriaeth gymdeithasol eu cyflawni’n benodol yn y sector manwerthu.

Cydnabyddir hefyd na ellir datgysylltu’r sector manwerthu yng Nghymru mewn termau economaidd oddi wrth gadwyn gyflenwi ehangach Lloegr neu’r DU, gyda’r rhan fwyaf o fusnesau sylweddol wedi’u lleoli’n agos yn Lloegr neu yn Ewrop. Mae hyn yn cyfyngu ar gyrhaeddiad cynlluniau neu’r adnoddau sydd ar gael i’r Llywodraeth ddylanwadu ar bolisïau newydd arwyddocaol a’u mabwysiadu.

Mae liferi economaidd deddfwriaethol a strategol wedi’u cadw’n bennaf mewn termau polisi ac maent yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth y DU. Bydd hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ddeddfu neu ariannu mesurau penodol. O ganlyniad i’r rhain, mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar gamau gweithredu y gall Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth gymdeithasol, eu cyflawni a’u rhoi ar waith o safbwynt datganoledig.

Mae angen ymchwilio i ragor o rwystrau a chyfleoedd yn y sector manwerthu yng Nghymru, lle mae camau gweithredu wedi cael eu hystyried i ddatblygu ymchwil i ddeall lle gellir datblygu camau ystyrlon yn benodol i hyrwyddo telerau cyflogaeth mwy ffafriol i weithwyr yn y sector yng Nghymru, a fydd yn cael eu hystyried gan waith a wnaed yn ystod cyfnod y Cynllun i edrych ar ddatblygu’r Cyflog Byw Go Iawn ar draws y sector.

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio’n gymharol fyr ar gyflenwi, (dwy flynedd ar ôl cyhoeddi) mae hyn i gydnabod yr ansefydlogrwydd ymddangosiadol yn y sector sy’n cael ei brofi oherwydd nifer o ffactorau gan gynnwys newidiadau ar ôl y pandemig mewn ymddygiad defnyddwyr, effeithiau gadael yr UE o ran cyflenwi ac argaeledd nwyddau, a phwysau chwyddiant ac effeithiau’r argyfwng ynni. Bydd y Cynllun yn cael ei adolygu, a bydd y camau gweithredu’n cael eu gwerthuso ymhen dwy-flynedd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyfredol a bod unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i gefnogi’r sector yn gallu cael eu mabwysiadu, yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant a'r data sy’n cael ei gasglu i sicrhau bod y Cynllun yn parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol.

Mae cydnabyddiaeth gynyddol bod canol trefi’n wynebu newidiadau sylweddol sy’n rheswm arall i barhau i ganolbwyntio ar y Cynllun. Yn y dyfodol, bydd ein stryd fawr a chanol ein trefi yn edrych yn wahanol i’r rhai rydym yn gyfarwydd â nhw heddiw. Nid yw llawer o’r effeithiau’n hysbys eto – fel y cynnydd mewn gweithio o bell (Our Work-from-Anywhere Future), twf mewn prynu ar-lein (Twf siopa ar-lein yn y DU heddiw ac yn y dyfodol), a bydd angen i ni ddefnyddio dulliau arloesol i sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn fywiog (Gweithio o gartref: sut mae wedi ein newid ni am byth | Gweithio o gartref).

Costau ac arbedion

Nid oes unrhyw gyllid newydd i gefnogi’r Cynllun hwn. Nod y Cynllun yw cydlynu gweithgareddau o bob rhan o’r Llywodraeth a darparu ffocws penodol wedi’i dargedu ar y rhain i’r sector manwerthu.

Mae’r mesurau allweddol a ariennir yn cynnwys y rheini sy’n dod o’r cynllun rhyddhad ardrethi annomestig y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddo ar gyfer 2023-2024 (Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023 i 2024).

Bydd rhywfaint o gyllid ymchwil hefyd yn cael ei ddyrannu i gefnogi Cynnal Cymru i gynnal ymchwil ar draws y sector manwerthu er mwyn deall y rhwystrau go iawn neu rwystrau ymddangosiadol i fabwysiadu’r Cyflog Byw Go Iawn. Bydd ymchwil hefyd yn edrych ar y gwaith mynegai brand cenedlaethol yn cael ei ystyried i gefnogi neges gryfach am effaith defnyddio’r Gymraeg, bod yng Nghymru ac atgyfnerthu negeseuon am weithio yng Nghymru.

Mae’r Cynllun wedi cael ei gyflwyno drwy ddull partneriaeth gymdeithasol, ac er nad yw’n fesuradwy, mae’r dull hwn yn cefnogi’r aelodau sy’n cymryd rhan i gyd i gyfrannu at gyflawni camau gweithredu allweddol yn y Cynllun ac i gymryd perchnogaeth ar ei ddatblygiad. Mae’r camau gweithredu allweddol yn y Cynllun yn nwylo aelodau’r fforwm manwerthu ac yn manteisio ar eu hadnoddau a’u gallu i hyrwyddo nodau’r Weledigaeth drwy weithredu ar lefel busnes.

Adran 8: Casgliad

Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o deimlo effeithiau’r cynnig wedi bod yn rhan o’r gwaith o’i ddatblygu? 

Mae’r Cynllun Gweithredu Manwerthu wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth gymdeithasol â chynrychiolwyr sy’n ymwneud â busnesau manwerthu, cynrychiolwyr y sector, undebau llafur a Llywodraeth Cymru sy’n cynrychioli pobl a busnesau yn y sector. Mae pawb wedi cyfrannu’n frwd at ddatblygu a chymeradwyo’r Cynllun ac wedi bod yn rhan o'r ymgynghori. Mae’r dull partneriaeth gymdeithasol a’r cyfarfodydd rheolaidd gyda’r Fforwm Manwerthu wedi cyfrannu at ddatblygiad y Cynlluniau, gan arwain at gynnig, yn ogystal â rhestr o’r camau y bwriedir eu cymryd, a fydd yn cael eu cyflawni drwy rannu cyfrifoldeb. Mae cydweithio agos wedi sicrhau bod ein gwaith wedi cael ei lywio’n llawn i leihau effeithiau anfwriadol gan sicrhau bod y Cynllun yn cael ei dargedu a’i fod yn berthnasol.

Er gwaethaf y gwaith o ddatblygu’r Cynllun hwn, cydnabyddir na fydd y Cynllun yn gallu mynd i’r afael â holl feysydd strategaeth y Llywodraeth yn llawn, ond mae’n mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at ysgogi newid yn y sector sy’n cyd-fynd ag amcanion ehangach Llywodraeth Cymru, gyda bwriad gonest i adolygu a gwerthuso effaith y Cynlluniau mewn 2 flynedd, i ailedrych ar y camau gweithredu, fel eu bod yn parhau i fod yn gyfredol ac yn canolbwyntio ar gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth.

Ar ôl lansio’r Weledigaeth yn 2022, cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau i randdeiliaid i gasglu tystiolaeth gan ymgyngoreion. Cafodd yr adborth wedyn ei ystyried gan aelodau’r bartneriaeth gymdeithasol a’r Fforwm Manwerthu. Mae hyn wedi arwain at nifer o gamau gweithredu i liniaru problemau a nodwyd yn y sector, er enghraifft y rhai sy’n ymwneud â hygyrchedd, lle mae adegau o hyd pan fydd pobl anabl yn gweld yr amgylchedd yn heriol ac mae manwerthwyr wedi gwrthod mynediad i gwsmer sydd ag anifail gwasanaethu neu’n defnyddio sgwter symudedd, a bod cynllun yr ardal manwerthu neu faint y fynedfa yn cyfyngu ar eu mynediad neu eu gallu i fynd i mewn i adeilad.

Rydym hefyd wedi ceisio casglu amrywiaeth eang o safbwyntiau a barn drwy ymarfer ymgysylltu yn ystod 2022, i gasglu’r dystiolaeth sydd ei hangen i ffurfio cwmpas a ffocws y Cynllun. Mae hyn wedi cynnwys cymdeithasau masnach allweddol, grwpiau buddiant, darparwyr diwydiant ac adrannau eraill Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod y Cynllun yn mynd i’r afael ag anghenion y diwydiant yn gywir.  

Beth yw’r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?

Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut bydd y cynnig: 

  1. Yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
  2. Yn osgoi, yn lleihau neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae’r Cynllun yn canolbwyntio ar gyfres o gamau gweithredu sy’n berthnasol nawr, gellir eu cyflawni mewn partneriaeth gymdeithasol ac mae’n mynd i’r afael â materion a heriau yn y sector sy'n cael eu cyflwyno yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Heb gyllid ychwanegol, mae’r camau gweithredu hyn yn cydblethu yng ngweithgareddau’r Cynllun hwn ar draws Llywodraeth Cymru gyda chamau gweithredu y gall y bartneriaeth gymdeithasol eu symud ymlaen i un lle gyda’r nod o nesáu tuag at gyflawni’r Weledigaeth ar gyfer y sector. 

Gan ddilyn themâu’r Cynllun, bydd yr effeithiau’n canolbwyntio ar dri maes:

  1. Pobl: i fynd i’r afael â chyflogau isel a thelerau cyflogaeth gwael y mae rhai gweithwyr manwerthu yn eu profi, ac i wella cyfleoedd a rhagolygon y rheini sy’n cael eu cyflogi drwy hyrwyddo datblygiadau sgiliau. Bydd gweithredu hefyd yn mynd i'r afael â phryderon am droseddau manwerthu a cham-drin sy'n ymddangos fel pe baent yn parhau i effeithio ar fanwerthwyr.
  2. Lle: i fynd i’r afael â’r materion sy’n ymwneud â thirwedd ffisegol manwerthu a’i seilwaith drwy fesurau i gefnogi rhyddhad ardrethi Annomestig a thrafod yn barhaus am gostau gwneud busnes a lleoliad ar strydoedd mawr Cymru, sydd fel petai’n mynd drwy gyfnod o newid sylweddol. 
  3. Cydnerthedd: parhau i feithrin cydnerthedd drwy gefnogi manwerthwyr i addasu a lliniaru heriau fel costau cynyddol ynni drwy fabwysiadu mesurau ynni adnewyddadwy. Hefyd yn cefnogi manwerthwyr i fabwysiadu newidiadau rheoleiddiol fel cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ar gyfer Cymru. 

Drwy gefnogi’r sector manwerthu yng Nghymru yn uniongyrchol, bydd y Cynllun yn cefnogi cyfleoedd cyflogaeth i bobl ledled Cymru ac mewn llawer o’n cefnwlad wledig a chymunedau Cymraeg allweddol. Mae manwerthu hefyd yn darparu cymysgedd o gyfleoedd cyflogaeth i rieni sy’n gweithio, pobl anabl a chymunedau lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Bydd y camau gweithredu yn y Cynllun yn cefnogi amrywiaeth o gymunedau ledled Cymru.

Bydd camau gweithredu’r Cynllun yn cyfrannu’n uniongyrchol at Nodau Llesiant i sicrhau:

  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru sy'n Fwy Cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Sut bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a’i gwerthuso wrth i’r cynnig ddatblygu, ac ar ôl iddo ddod i ben?  

Mae ymrwymiad wedi’i amlinellu yn y Cynllun i werthuso ei effaith mewn dau flynedd. Bydd y Gwerthusiad wedyn yn ceisio darparu tystiolaeth ynghylch sut mae'r camau gweithredu wedi datblygu'r sector tuag at ei Weledigaeth, gan gyfrannu at ddatblygu Cynllun diwygiedig fel bod y camau gweithredu'n aros yn gyfredol a'u bod yn cynnwys holl ddulliau'r Llywodraeth a'r rhai sydd ar gael i'r bartneriaeth gymdeithasol dros amser. 

Asesiad o’r effaith ar hawliau plant

Dadansoddi’r dystiolaeth ac asesu’r effaith

Mae’r Cynllun wedi cael ei ddatblygu gan roi sylw dyledus i Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Yn ystod ein hymarfer casglu tystiolaeth a gynhaliwyd yn 2022, roedd adborth gan randdeiliaid yn nodi potensial ar gyfer effeithiau cadarnhaol anuniongyrchol ar les plant a phobl ifanc sy’n deillio o fesurau i gefnogi’r sector manwerthu yng Nghymru. Mae busnesau manwerthu wedi’u gwreiddio mewn economïau lleol ledled Cymru ac yn cynnig cyfle i ategu’r agenda yn y Genhadaeth i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhanbarthol a gwella lefelau cyfoeth yn deg dros yr hirdymor.

Mae’r sector manwerthu yn cyflogi nifer sylweddol o bobl rhwng 25-60 oed, yn ogystal â phobl iau dan 25 oed. Nod y Cynllun yw gweithio gyda’r sector manwerthu i wella’r telerau cyflogaeth, megis hyrwyddo’r Cyflog Byw Go Iawn, annog aelodau undebau llafur, hyrwyddo datblygu sgiliau. Mesurau yw’r rhain a fydd yn gwella bywydau a rhagolygon y rhai sy’n cael eu cyflogi yn y sector ac, o ganlyniad, yn cefnogi pobl ifanc sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gefnogi rhieni sy’n gweithio.

Roedd canlyniadau ymgysylltu â rhanddeiliaid hefyd yn tynnu sylw at bryderon (gan blant a phobl ifanc yn unig) ynghylch o ble y daw’r genhedlaeth nesaf o weithwyr yn y sector manwerthu. Nod y Cynllun yw mynd i’r afael â hyn drwy weithio ar draws y sector i wella amodau gwaith a chyfleoedd a hyrwyddo’r sector fel gyrfa bosibl.  Bydd y cam nesaf o ymgysylltu a’r broses o gasglu tystiolaeth fel sail i’r gwerthusiad yn cynnwys pobl ifanc yn uniongyrchol. Wrth i’r Cynllun fynd rhagddo, bydd gwaith pwrpasol yn cael ei wneud i ymgysylltu â’ch pobl yn uniongyrchol, gan gynnwys drwy’r Bwrdd Cynghori Gwarant i Bobl Ifanc a fydd yn cael ei sefydlu yn ystod haf 2023.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn gyffredinol, oherwydd nifer o ffactorau, mae merched yn dal yn fwy tebygol o weithio’n rhan-amser nag yn llawn amser pan fydd ganddynt ddibynyddion ifanc (Teuluoedd a’r farchnad lafur, DU – Y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae’r sector manwerthu’n darparu shifftiau gweithio rhan-amser a shifftiau gweithio hyblyg eraill sy’n gallu cefnogi rhieni sydd angen gweithio llai o oriau i gyflawni cyfrifoldebau gofalu. Nod y Cynllun yw cryfhau ymhellach delerau ac amodau gweithwyr y sector manwerthu a fydd yn cael effaith gadarnhaol anuniongyrchol ar blant y rheini sy’n cael eu cyflogi yn y sector. Roedd argymhellion o’r papur gan Brifysgol Glasgow (Merched mewn Sawl Swydd Cyflog Isel: Cydbwyso Amser ac Arian) yn cyfeirio at yr angen i fynd i’r afael â chyflogau isel a rhoi sicrwydd mewn swyddi fel y byddai merched yn gorfod ymdopi â llai o swyddi i ddiwallu anghenion eu teulu.

Bydd meithrin a hyrwyddo twf economaidd a chydnerthedd ar draws y sector yn cyfrannu at nodau’r Genhadaeth drwy greu economi sy’n tyfu, yn gynaliadwy ac yn gynhwysol. Fel hyn, bydd ein camau i gefnogi’r sector yn cefnogi Erthygl 27 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) i ryw raddau er mwyn i blant gael hawl i safon byw sy’n ddigon da i ddiwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Bydd ymyriadau i gefnogi busnesau manwerthu llwyddiannus yn cael effaith gadarnhaol ar y cyfleoedd mewn ardaloedd trefol a gwledig fel ei gilydd. Bydd hyn yn sail i nodau Cenhadaeth gwaith teg a chyfleoedd i bawb, ac felly’n cyfrannu’n anuniongyrchol at wella amgylchiadau plant drwy helpu i gryfhau’r cymunedau lle maent yn byw. 

Bydd y Cynllun yn cynnwys camau gweithredu tuag at wella gwaith sector ac amodau cyflog, a chyfleoedd drwy ddatblygu sgiliau. Bydd y Cynllun yn ceisio codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd gyrfa a hyfforddiant, a bydd yn meithrin ymgysylltiad rhwng busnesau a darparwyr addysg. Fel hyn, bydd y Cynllun yn ymwneud ag Erthygl 29 CCUHP ar gyfer addysg er mwyn datblygu personoliaeth a thalent pob plentyn i’r eithaf.

Gan ddefnyddio’r bartneriaeth gymdeithasol sy’n ymwneud â datblygu’r Cynllun hwn, bydd cyfleoedd i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar fesurau drwy gydol y Cynllun i sicrhau eu bod yn cael eu targedu a’u deall, yn unol ag Erthygl 12 CCUHP, “mae gan blant hawl i ddweud beth maen nhw’n meddwl ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt, ac i’w barn gael ei hystyried”.

Mae ymrwymiad wedi’i wneud i werthuso effaith y Cynllun ar ôl dwy flynedd. Bydd hyn yn ffordd o gael gafael ar yr effaith y mae camau gweithredu’r Cynlluniau yn ei chael ar blant a phobl ifanc, a darparu adborth i lywio Cynllun pellach gyda chamau gweithredu wedi’u diwygio a’u diweddaru. Felly, gellir ailystyried unrhyw gyfyngiadau ar gamau gweithredu nad ydynt wedi cyflawni eu hamcanion, a chasglu tystiolaeth newydd.

Asesiad o'r effaith ar y gymraeg

Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llwyr i’r strategaeth newydd, gyda’r targed o filiwn o siaradwyr wedi’i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae iaith Gymraeg ffyniannus hefyd wedi’i chynnwys yn un o’r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cyfeirnod yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg: 04/04/2023

1. A yw’r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg? – Cymraeg 2050 Miliwn o siaradwyr Cymraeg a’r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2017-2021?

Nod y Cynllun yw cefnogi’r sector manwerthu i wneud cynnydd tuag at y Weledigaeth Strategol a Rennir sy’n amlinellu pwysigrwydd y sector manwerthu oherwydd ei effaith ar fywydau bob dydd pobl ar hyd a lled Cymru. Bydd camau gweithredu’r Cynllun yn cefnogi’n anuniongyrchol y gwaith o hyrwyddo amcanion Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg drwy gyflawni camau gweithredu a fydd yn helpu manwerthwyr i addasu a mynd i’r afael â’r pwysau economaidd y maent yn eu hwynebu, gan weithio tuag at sector mwy cydnerth, a chefnogi manwerthwyr i aros mewn lleoliadau ar y stryd fawr a gwasanaethu cymunedau ledled Cymru.

Mae’r Cynllun hefyd yn anelu at fynd i’r afael â materion cyflogaeth yn y sector er mwyn hyrwyddo egwyddorion gwaith teg. Mae natur swyddi manwerthu yn golygu mewn llawer o achosion bod y sector yn darparu cyfleoedd cyflogaeth gwerthfawr mewn cymunedau trefol, gwledig neu gymunedau anghysbell eraill. Bydd y Cynllun yn cyfrannu’n anuniongyrchol at ddarparu gwell swyddi yn nes at adref a gwella cyfleoedd mewn cymunedau sy’n siarad Cymraeg.

Nod y Cynllun yw cydlynu camau gweithredu ar draws y Llywodraeth a fydd yn cefnogi’r sector manwerthu i gyflawni ei Weledigaeth. Bydd y Cynllun yn cysylltu â strategaethau eraill fel y rhai i’w hadeiladu a’u datblygu i greu brand eiconig ar gyfer bwyd a diod o Gymru o dan y prosiect Gwerthoedd Brand Cynaliadwy, a fydd yn cael ei ddefnyddio i ategu brand newydd Cymru (Gwerth “Cymreictod” | Busnes Cymru - Bwyd a diod). Bydd defnyddio ein hunaniaeth genedlaethol wrth hyrwyddo bwyd a diod o Gymru mewn manwerthu yn cynnwys hyrwyddo ein hiaith gartref, yn y DU ac ar draws marchnadoedd byd-eang yn anuniongyrchol. Mae’r Sector Manwerthu eisoes yn gwneud gwaith da yn y maes hwn (Y brandiau manwerthu mawr sy’n dweud bod y Gymraeg yn rhoi hwb i fusnesau - efallai y bydd rhai yn eich synnu chi – North Wales Live) a nod y Cynllun yw cefnogi manwerthwyr i adeiladu ar y gwaith da.

Mae manwerthwyr yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn rhagweithiol (Mae Lidl yn siarad cymraeg:manwerthwr yn cyhoeddi eu hardystiad iaith gymraeg), er y nodir nad yw’r dull gweithredu ar draws y sector yn gyson â rhai manwerthwyr sy’n rhagori ac eraill nad ydynt yn ymgysylltu o gwbl. Nid yw’r Cynllun yn ceisio mynd i’r afael â hyn yn uniongyrchol gyda chamau gweithredu penodol. Fodd bynnag, mae’r Fforwm Manwerthu mewn partneriaeth gymdeithasol â Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n llawn o fewn y safonau a thrwy ei ymgyrchoedd, a bydd ei waith hyrwyddo a nodir yn y Cynllun yn cydymffurfio’n llawn â Safonau’r Gymraeg. Lle nodir cyfleoedd, bydd y Cynllun hefyd yn gweithio gyda manwerthwyr i rannu arferion gorau, yn enwedig lle mae manwerthwyr wrthi’n datblygu mentrau i ddarparu cyfleoedd pellach i ddefnyddio ac ymgysylltu â’r Gymraeg a’i diwylliant. Mae manwerthwyr eisoes yn deall bod defnyddwyr yng Nghymru yn chwilio am gyfleoedd i ymgysylltu â’r iaith ac yn ymateb i hyn (Gwerth y Gymraeg i’r sector bwyd a diod yng Nghymru Adroddiad ymchwil).

2. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac eglurwch sut byddwch yn mynd i’r afael â’r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau i’r Gymraeg. Sut bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu niweidiol)? Dylech nodi eich ymatebion i’r canlynol wrth ateb y cwestiwn hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall:

Mae’r sector manwerthu wedi cael ei nodi fel Sector Sylfaen sy’n seiliedig ar bwysigrwydd y diwydiant o ran cael ei wreiddio yng nghymunedau Cymru. Mae effaith bosibl y sector o ran cynhyrchu nwyddau sy’n ganolog i les a diogelwch cymunedau Cymru yn cael ei hatgyfnerthu gan wasgariad daearyddol busnesau manwerthu ledled Cymru.

Mae gan y sector bresenoldeb mewn ardaloedd lleol a gwledig yng Nghymru (gweler adroddiad Cymdeithas Siopau Cyfleustra 2023 a amlygwyd uchod yn yr asesiad effaith), sy’n cynnwys cadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg lle mae tua 40% neu fwy o siaradwyr Cymraeg.

Mae Cymru 2050 ar gyfer holl bobl Cymru, gan gynnwys cadarnleoedd mewn ardaloedd trefol a’r Cymry hynny nad ydynt yn cyfathrebu yn Gymraeg, ond y bydd dod i gysylltiad â’r Gymraeg drwy arwyddion a sain ac ati yn hybu’r Gymraeg yn isymwybodol mewn cymunedau o’r fath. Gall manwerthu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gyflawni’r nodau hyn.

Bydd cefnogi’r sector manwerthu i gyflawni ei Weledigaeth yn helpu i wella cyfleoedd lleol i siaradwyr Cymraeg ddod o hyd i waith yn eu cymunedau eu hunain. Wrth wneud hynny, byddwn yn annog canlyniadau teg drwy helpu i wella rhagolygon economaidd yn deg rhwng cymunedau a rhanbarthau Cymraeg eu hiaith ledled Cymru.

Mae ein cefnogaeth i fusnesau micro a bach a chanolig, sy’n rhan annatod o economïau lleol a gwledig, eisoes wedi’i hegluro yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gefn Gwlad.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu gwasanaethau a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ar draws busnesau (Mae Cymraeg mewn Busnes yn dda i Fusnes). Bydd y Cynllun hwn yn llwyfan pellach i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn busnesau er mwyn cefnogi’r iaith, megis drwy gyfleoedd hyfforddi a chymorth gydag arwyddion dwyieithog, er enghraifft.

Wrth ddatblygu’r Cynllun ymhellach, byddwn yn parhau i ymgysylltu’n agos â gwaith parhaus i nodi ffyrdd o gefnogi’r ymrwymiad yn strategaeth y Gymraeg i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.