Neidio i'r prif gynnwy

Sut y byddwn yn defnyddio seibergadernid, sgiliau ac arloesedd i gefnogi’n pobl a'n heconomi.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae’n Cynllun Gweithredu Seiber yn amlinellu’n gweledigaeth ar gyfer Cymru a fydd yn ffynnu drwy fod yn seibergadarn a thrwy feithrin talent ac arloesedd yn y maes. Mae hynny’n golygu bod pobl, busnesau a’r gwasanaethau cyhoeddus mor ddiogel â phosibl rhag seiberymosodiadau a’u bod mor barod â phosibl ar eu cyfer. Mae hefyd yn golygu bod gennym y sgiliau a'r gweithlu cywir i wireddu’n gweledigaeth a bod gennym seibereconomi ffyniannus.

Er mwyn helpu i wireddu’n gweledigaeth, rydym yn annog sefydliadau i gydweithio, gan gynnwys:

  • byd diwydiant
  • y byd academaidd
  • llywodraeth
  • y gwasanaethau cyhoeddus ehangach
  • cyrff hyd braich
  • cyrff gorfodi'r gyfraith

Mae pedwar maes yn cael blaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Seiber:

  • Tyfu’n ecosystem seiber
  • Creu llif o dalent yn y maes seiber
  • Cryfhau’n seibergadernid
  • Diogelu’n gwasanaethau cyhoeddus

Buom yn gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu'r Cynllun hwn, sy'n ategu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru. Mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn amlinellu sut y byddwn yn defnyddio gwasanaethau digidol, data a thechnoleg i wella bywydau pobl yng Nghymru. Er mwyn cyrraedd nodau'r Strategaeth Ddigidol i Gymru mae'n hanfodol bod gennym:

  • amddiffynfeydd seiber effeithiol
  • sector seiberfusnes cryf
  • pobl, busnesau a gweision cyhoeddus sy'n seiber-effro