Neidio i'r prif gynnwy

Disgrifiwch ac esboniwch effeithiau’r cynnig ar bobl â nodweddion gwarchodedig fel y’u disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cymdeithas lle mae amrywiaeth yn cael ei chroesawu a’i gwerthfawrogi am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael. Rydym wedi llunio Cynllun Hawliau Pobl Anabl, wedi'i siapio gan brofiadau bywyd pobl anabl, sefydliadau pobl anabl ac arweinwyr polisi'r llywodraeth.

Yn 2021, roedd cyfran y bobl yng Nghymru yn 21% (670,000 o bobl.) Roedd cyfran y bobl anabl yn y boblogaeth yn cynyddu gydag oedran, ac roedd merched yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod yn anabl. Rydyn ni’n gwybod bod pobl anabl yn wynebu nifer o fathau o wahaniaethu ac allgáu a hynny ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, trafnidiaeth a mwy.

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cydnabod y gall pobl anabl wynebu anghydraddoldebau sy'n gorgyffwrdd oherwydd ffactorau fel hil, rhyw, oedran a statws economaidd-gymdeithasol. Gelwir hyn yn aml yn groestoriadedd. Mae croestoriadedd yn gysylltiedig â’r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu (hynny yw, trin unigolyn yn annheg oherwydd ei nodweddion gwarchodedig) yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd.

Mae’r Cynllun hwn yn nodi ein fframwaith 10 mlynedd trawslywodraethol sy’n mynegi ein huchelgais a’r canlyniadau rydyn ni eisiau eu cyflawni, i sicrhau bod pobl anabl yn gallu ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, ac i herio gwahaniaethu a rhagfarn.

Cawn ein harwain hefyd gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy'n cynnwys yr hawl i fyw'n annibynnol ac sy'n nodi mesurau ar gyfer amddiffyn cymdeithasol. Mae'r confensiwn yn cydnabod hawl pob person anabl i gael safon byw briodol iddynt hwy eu hunain a'u teuluoedd, a'r hawl i amddiffyniadau cymdeithasol ac i fwynhau'r hawl honno heb wahaniaethu.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn rhan o’r cynllun ac mae'n canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol, y saith nod llesiant, ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n rhoi manylion sut mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi Nodau Llesiant

  • Cymru Lewyrchus
  • Cymru Gydnerth
  • Cymru Iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o Gymunedau Cydlynus
  • Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu
  • Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang

Mae’r Cynllun wedi’i strwythuro yn erbyn pedwar maes gweithredu cyffredinol, sy’n cyd-fynd ag un o’r saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):

  • Cymdogaeth, lleoedd a thrafnidiaeth.
  • Cyflogaeth, incwm ac addysg.
  • Byw'n annibynnol, iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol.

Ar gyfer pob un o’r pedwar maes, mae’r cynllun hwn yn nodi ein canlyniadau lefel uchel cyffredinol a’r canlyniadau mwy manwl a’r camau tymor byr rydym am eu cyflawni dros y deng mlynedd nesaf. 

Cafodd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ei chydnabod fel un o ieithoedd Cymru yn 2004 gan Lywodraeth y Cynulliad ar y pryd, ac rydyn ni’n dal wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned Iaith Arwyddion Prydain fyddar yn cael ei chynnwys a’i grymuso’n llawn ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod y rhwystrau sy’n wynebu pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a’r angen i oresgyn y rhain er mwyn atal rhagfarn ac allgáu. Mae’r Cynllun hwn yn pwysleisio’r angen am gyfraniad gan y llywodraeth a gan gymuned fyddar Iaith Arwyddion Prydain wrth ddylunio, darparu a gwerthuso polisïau a gwasanaethau perthnasol.

Mae Cymraeg 2050, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, yn anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. Rydym yn credu bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, lle bynnag rydym ar ein taith Gymraeg. Mae'r Gymraeg yn fwy na dim ond mater o hunaniaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth. Mae’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb hefyd. 

Deddf Cydraddoldeb

Mae Deddf Cydraddoldeb (2010) yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth sy'n ceisio amddiffyn pobl anabl rhag gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i gyflogwyr, darparwyr addysg, darparwyr gwasanaethau ac eraill wahaniaethu yn erbyn person anabl oherwydd rhywbeth sy'n codi o ganlyniad i'w gwahaniaeth, eu hamhariad neu eu cyflwr iechyd.

Rhan sylweddol o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw'r gofyniad i gyflogwyr, darparwyr gwasanaethau ac eraill wneud 'addasiadau rhesymol' ar gyfer pobl anabl. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i gael gwared ar rwystrau a allai atal unigolion anabl rhag cael mynediad at gyflogaeth, addysg neu wasanaethau. Mae'r Ddeddf hefyd yn amddiffyn pobl rhag cael eu trin yn annheg oherwydd eu bod yn ofalwr neu'n weithiwr cymorth i berson anabl.

Mae gan Weinidogion Cymru ddyletswydd o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (“PSED”), yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (“Deddf 2010”), i ystyried sut mae eu polisïau’n effeithio ar y rheini sydd â nodwedd warchodedig berthnasol dan Ddeddf 2010. Mae anabledd yn nodwedd warchodedig dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r Ddeddf yn sicrhau bod unigolion anabl yn cael yr un mynediad at wasanaethau, cyflogaeth a swyddogaethau cyhoeddus. Mae pobl anabl yn fwy tebygol o brofi ableddiaeth a gwahaniaethu, a gwahaniaethu croestoriadol lle mae gan bobl gyfuniad o nodweddion gwarchodedig.

Mae angen newid systemig a diwylliannol er mwyn gwreiddio dulliau cydraddoldeb a hawliau dynol yng ngwaith Llywodraeth Cymru, a bydd hynny’n cymryd amser. Drwy ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol a'n Datganiad Hawliau Dynol, mae'r cynllun hwn yn cyflwyno fframwaith cydlynol ar gyfer cynllunio a chyflawni.

Fel rhan o'n dyletswyddau eraill o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol Llywodraeth Cymru 2025 i 2029 wedi nodi 7 Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol, sef:

  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hybu a lle maen nhw’n sail i bob polisi cyhoeddus.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn cynnwys ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau anghydraddoldeb ar draws cymdeithas, gan weithredu drwy ein cynlluniau cydraddoldeb, gan gynnwys Hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau: cynllun gweithreduCynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliolChynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol, sy'n nodi sut rydyn ni'n cefnogi cymunedau Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol yng Nghymru.

Er mwyn sicrhau goruchwyliaeth briodol drwy gydol y gwaith o weithredu'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl, rydym yn sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol annibynnol. Bydd y Bwrdd hwn yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o lunio cyfeiriad, monitro cynnydd, a chynyddu effaith y Cynllun, gan weithredu fel cyswllt rhwng pobl anabl, llunwyr polisïau a darparwyr gwasanaethau. 

Mae'r Unedau Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd, sef tîm o broffesiwn Ymchwil, yn gyfrifol am oruchwylio'r trefniadau monitro a gwerthuso ar gyfer y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Mae hyn yn cynnwys mesur cynnydd parhaus y Cynllun yn erbyn camau gweithredu unigol, yn ogystal ag asesiad ehangach o'r effaith gyffredinol a wnaed yn erbyn ei ganlyniadau arfaethedig yn y tymor hirach.

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft ar 15 Mai 2025 ac fe ddaeth i ben ar 7 Awst 2025. Edrychodd y dadansoddiad ar draws pob un o’r cwestiynau i dynnu sylw at feysydd cyffredinol o gonsensws, pryder a blaenoriaeth.

Gweithdai ar yr ymgynghoriad

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, fe wnaethom gynnal nifer o weithdai, gan gynnwys grwpiau ffocws wedi'u comisiynu dan arweiniad:

  • Pobl yn Gyntaf Cymru
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
  • Fforwm Golwg Cymru: Cŵn Tywys Cymru a Cyngor Cymru i’r Deillion
  • Fy Mywyd, Fy Llais: Celfyddydau Anabledd Cymru ac Autistic UK
  • Plant yng Nghymru
  • Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
  • Anabledd Cymru.

Roedd sylwadau’r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn cynnwys: 

  • galwad i gryfhau'r gwaith o gasglu a monitro data drwy sicrhau bod data sydd wedi'i ddadgyfuno yn cael ei gasglu a'i ddadansoddi ar draws nodweddion, gan gynnwys math o amhariad, oedran, rhywedd, ethnigrwydd, rhywioldeb, a statws economaidd-gymdeithasol
  • defnyddio Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn well

Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella argaeledd, ansawdd a manylder y dystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig i’n helpu i ddeall a yw ein huchelgais yn cael ei chyflawni ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl. Mae’r Unedau Tystiolaeth yn dylunio ac yn profi cwestiynau arolwg safonol sy’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, y gellid ei ymgorffori mewn gwaith casglu data ac ymchwil gymdeithasolyn y dyfodol. Mae pobl anabl wedi mynd ati i gymryd rhan weithredol ym mhob cam o'r ymchwil.

Cofnod o’r Effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig

  • Grŵp neu nodwedd warchodedig
  • Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
  • Y rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
  • Sut byddwch chi’n lliniaru’r effeithiau?

Grŵp/nodwedd warchodedig: oedran

Meddyliwch am wahanol grwpiau oedran.

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Nod y canlyniadau a’r camau gweithredu arfaethedig yw creu effaith gadarnhaol ar bobl anabl o bob oed, gan gynnwys plant a phobl hŷn, a sicrhau bod gwahanol grwpiau o fewn cymdeithas hefyd yn gynhwysol ar gyfer pob ystod oedran.

Lliniaru

Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'r ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl, mae Llywodraeth Cymru wedi gwella'r cynllun a'r camau gweithredu tymor byr i gryfhau ymhellach ei effaith gadarnhaol ar blant ac oedolion anabl ledled Cymru.

Grŵp/nodwedd warchodedig: anabledd

Ystyriwch fodel cymdeithasol o anabledd a’r ffordd y gallai eich cynnig achosi, neu y gellid ei ddefnyddio i ddileu, y rhwystrau sy’n gwneud pobl â gwahanol fathau o namau yn anabl.

Mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r model cymdeithasol o anabledd. Rydym yn deall nad eu hamhariadau sy’n gwneud pobl yn anabl, ond y rhwystrau maent yn dod ar eu traws mewn cymdeithas. 

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Wrth wraidd ein dull gweithredu mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n ein helpu i ddeall sut gall pobl anabl gael eu dal yn ôl gan y byd o’u cwmpas, a sut gallwn ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y byd.

Nod y cynllun yw mynd i’r afael â’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yng Nghymru, gan sicrhau bod pob cam gweithredu o fudd i bobl anabl mewn ffordd gadarnhaol. 

Lliniaru

Bydd camau gweithredu tymor byr ychwanegol a gyflwynir i'r cynllun o ganlyniad i'r ymgynghoriad yn helpu ymhellach i chwalu'r rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag cael eu cynnwys a chymryd rhan mewn cymdeithas.

Grŵp/nodwedd warchodedig: ailbennu rhywedd

Y weithred o drawsnewid a phobl drawsryweddol.

Effaith y cynnig

Ni nodwyd unrhyw effaith.

Rhesymau

Bydd y cynigion sy’n hwyluso mynediad at ofal iechyd yn cael effaith gadarnhaol ar bobl traws anabl. Gallai mynediad haws at wybodaeth a chyngor annog pobl traws anabl i fod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gwasanaethau Hunaniaeth Rhywedd. 

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: beichiogrwydd a mamolaeth

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Bydd y cynigion sy’n hwyluso mynediad at ofal iechyd yn cael effaith gadarnhaol ar fenywod beichiog anabl.

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: hil

Gan gynnwys gwahanol leiafrifoedd ethnig, Sipsiwn a Theithwyr, a Mudwyr, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid.

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Mae’r cynllun yn nodi diffyg llety hygyrch a fforddiadwy gael effaith negyddol ar bobl anabl o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr er enghraifft, gan gyfyngu ar eu hannibyniaeth a chyfrannu at ganlyniadau iechyd gwaeth ac ansawdd bywyd is. 

Mae cam gweithredu penodol yn y Cynllun i fynd i'r afael â'r mater hwn. 

Mae’r camau gweithredu yn y cynllun yn nodi’r holl bobl anabl yng Nghymru beth bynnag fo’u hil neu eu statws mudwr. Nod y camau gweithredu yw darparu gwasanaethau gwybodaeth ac eiriolaeth hygyrch a fydd yn arbennig o fuddiol i’r cymunedau hyn.

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: crefydd, cred a dim cred

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Nod y canlyniadau a’r camau gweithredu yn y cynllun yw gwella lleoliadau ac adeiladau hygyrch a fyddai’n gwella mynediad i bobl anabl i fannau addoli.

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: rhyw / rhywedd

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Mae’r cynllun yn nodi bod cyfran y bobl anabl yn y boblogaeth yn cynyddu gydag oedran, ac roedd merched yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod yn anabl. Mae camau ar waith i wella mynediad at ofal iechyd i bob person anabl. 

Mae cam gweithredu penodol yn y cynllun i wella mynediad at ddata ar y boblogaeth anabl mewn carchardai, gan gynnwys merched sydd yn y carchar yn Lloegr. 

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: cyfeiriadedd rhywiol

Lesbiaidd, Hoyw a Deurywiol.

Effaith y cynnig

Dim effaith.

Rhesymau

Ni nodwyd unrhyw effeithiau, er gallai mynediad haws at wybodaeth a chyngor annog pobl LHDT+ anabl i fod yn fwy hyderus wrth gyrchu gwasanaethau gwybodaeth a chymorth.

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: priodas a phartneriaeth sifil

Effaith y cynnig

Dim effaith.

Rhesymau

Ni nodwyd unrhyw effaith. Nid yw’r cynigion yn mynd i’r afael â statws partneriaeth, a rhagwelir y bydd y polisi’n cael effaith fach iawn.

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: plant a phobl ifanc hyd at 18 oed

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant ar wahân wedi’i gwblhau.

Lliniaru

Amherthnasol.

Grŵp/nodwedd warchodedig: aelwydydd incwm isel

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Mae canlyniadau a chamau gweithredu'r cynllun wedi'u cynllunio i wella canlyniadau i bobl anabl, gan gynnwys y rheini sy'n byw mewn aelwydydd incwm isel.

Lliniaru

Amherthnasol.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

A fydd y polisi hwn yn cael effaith ar hawliau dynol pobl yn eich barn chi?

Bydd.

Effaith y cynnig

Cadarnhaol.

Rhesymau

Mae’r cynllun yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad cyfartal. Rydym ni hefyd yn cael ein harwain gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.

Mae parch at hawliau dynol sylfaenol, yn ogystal â chydraddoldeb, yn rhan anatod o holl waith Llywodraeth Cymru a’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl.

Lliniaru

Amherthnasol.

Hawliau Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd/yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir

Mae Rhan 2 o Gytundeb Ymadael yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig, ynghyd â Chytundeb Gwahanu yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Ardal Masnach Rydd Ewropeaidd (EEA EFTA) (Mae’r Ardal yn cynnwys gwledydd yr UE yn ogystal â Gwlad yr Iâ, Liechtenstein a Norwy) a Chytundeb Hawliau Dinasyddion y Swistir (“Cytundebau Hawliau Dinasyddion”) yn rhoi sicrwydd i ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir a oedd yn preswylio’n gyfreithlon yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 y bydd eu hawliau dinasyddion yn cael eu diogelu. 

Mae’r Cytundebau Hawliau Dinasyddion yn cael eu gweithredu mewn cyfraith ddomestig gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (EUWAA) (Adrannau 5 a 6 o EUWAA).

Bydd gan unigolion cymwys sy'n dod o fewn cwmpas y Cytundebau Hawliau Dinasyddion fwy neu lai yr un hawliau parhaus i weithio, astudio a chael mynediad at wasanaethau cyhoeddus a budd-daliadau, i'r graddau y mae'r hawliau hyn wedi deillio o aelodaeth y DU o'r UE yn ogystal â'u cyfranogiad yng Nghytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a Chytundeb Rhyddid Pobl i Symud yr Undeb Ewropeaidd a’r Swistir. 

Yn amodol ar rai eithriadau cyfyngedig (e.e. lle mae gan unigolyn ddinasyddiaeth Wyddelig (gan gynnwys dinasyddiaeth ddeuol Brydeinig a Gwyddelig) neu lle’r oedd ganddo ganiatâd amhenodol i ddod i’r Du neu aros yno), bydd angen i unigolion fod wedi gwneud cais am statws preswyl newydd (naill ai cyn setlo neu statws preswylydd sefydlog) drwy’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Daeth y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais o’r fath i ben ar 30 Mehefin 2021. 

Preswylio

Yr hawl i breswylio a hawliau eraill sy’n ymwneud â phreswylio: hawliau ymadael a mynediad, ceisiadau am breswylio, cyfyngiadau ar hawliau mynediad a phreswylio;

Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i waith y Tasglu a’r Cynllun sydd ar y gweill. Yn fwy cyffredinol, mae’r Cynllun yn fframwaith i gryfhau a gwella hawliau dynol pobl anabl mewn modd cadarnhaol.

Cydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol, parhau i gydnabod cymwysterau proffesiynol a enillwyd gan ddinasyddion yr UE/yr Ardal Economaidd Ewropeaidd/y Swistir yn eu gwledydd (ac a gydnabyddir eisoes yn y DU);

Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i waith y Tasglu a’r Cynllun sydd ar y gweill. Yn fwy cyffredinol, mae’r Cynllun yn fframwaith i gryfhau a gwella hawliau dynol pobl anabl mewn ffordd gadarnhaol

Mynediad at systemau nawdd cymdeithasol, mae’r rhain yn cynnwys budd-daliadau, mynediad at addysg, tai a mynediad at ofal iechyd

Roedd archwiliad diweddar (Chwefror 2025) y Cenhedloedd Unedig o’r Confensiwn Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol (ICESCR) yn cydnabod nad yw’r mater hwn wedi’i ddatganoli. Mae gan Lywodraeth Cymru rywfaint o gyfrifoldeb o dan Erthygl 10, ond dim ond mewn perthynas ag amddiffyn y teulu a phlant, a chyfrifoldeb rhannol o dan dlodi, bwyd a thai.   

Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i waith y Tasglu a’r Cynllun sydd ar y gweill. Yn fwy cyffredinol, mae’r Cynllun yn fframwaith i gryfhau a gwella hawliau dynol pobl anabl mewn ffordd gadarnhaol

Triniaeth gyfartal

Mae hyn yn cynnwys peidio â gwahaniaethu, triniaeth gyfartal a hawliau gweithwyr.

O dan ICESCR, mae hawliau cyfartal dynion a menywod yn cael sylw yn Erthygl 3. Nid yw ICESCR wedi’i ddatganoli’n llawn, ac nid yw wedi’i ymgorffori. Nid yw’r Asesiad Effaith Integredig hwn yn effeithio ar y rhaglen Pŵer Cyfartal Llais Cyfartal.

Mae gwaith yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru i weithio tuag at ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu ar ymgorffori CEDAW a’r UNCRDP. 

Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i waith y Tasglu a’r Cynllun sydd ar y gweill. Yn fwy cyffredinol, mae’r Cynllun yn fframwaith i gryfhau a gwella hawliau dynol pobl anabl mewn ffordd gadarnhaol

Hawliau gweithwyr

Mae gweithwyr a phobl hunangyflogedig sy’n dod o dan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion yn cael eu gwarantu, yn gyffredinol, yr un hawliau ag yr oeddent yn eu mwynhau pan oedd y DU yn Aelod-wladwriaeth. Mae ganddynt hawl i beidio â chael eu gwahaniaethu oherwydd eu cenedligrwydd, a’r hawl i gael eu trin yn gyfartal â dinasyddion y DU.

Ni ddisgwylir unrhyw effeithiau negyddol o ganlyniad i waith y Tasglu a’r Cynllun sydd ar y gweill. Yn fwy cyffredinol, mae’r Cynllun yn fframwaith i gryfhau a gwella hawliau dynol pobl anabl mewn ffordd gadarnhaol.