Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal hawliau pobl anabl ac i sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys, a’u bod yn gallu cymryd rhan lawn mewn cymunedau ledled Cymru. Mae’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft yn cynrychioli ymrwymiad deng mlynedd i hyrwyddo cydraddoldeb a chanlyniadau cadarnhaol i bobl anabl yng Nghymru. Mae'r uchelgais hirdymor hwn yn cydnabod bod newid gwirioneddol a pharhaol yn gofyn am ymdrech a chydweithio parhaus, a hynny nid yn unig gan y llywodraeth ond gan bob rhan o'r sector cyhoeddus.

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft ar 15 Mai 2025 ac fe ddaeth i ben ar 7 Awst 2025. Mae’r ddogfen hon yn darparu crynodeb o’r ymatebion a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad hwnnw.

Methodoleg

Adolygwyd a rhoddwyd ystyriaeth i’r holl ymatebion a ddaeth i law wrth fynd ati i ddrafftio’r adroddiad hwn. Rhoddwyd cod unigryw i bob ymateb i’r ymgynghoriad. Cynhaliwyd dadansoddiad thematig ar y data ansoddol, gan archwilio ymatebion i bob cwestiwn yn unigol yn gyntaf er mwyn canfod themâu sy'n codi dro ar ôl tro a phwyntiau cysylltiedig. Yna edrychodd y dadansoddiad ar draws pob un o’r cwestiynau i dynnu sylw at feysydd cyffredinol o gonsensws, pryder a blaenoriaeth. Roedd y dull strwythuredig hwn yn golygu bod modd distyllu adborth cymhleth yn ôl themâu clir a rhoi dealltwriaeth ddyfnach o'r materion a godwyd.

Trosolwg o ddata meintiol 

Cafwyd cyfanswm o 157 o ymatebion i’r ymgynghoriad, fel a ganlyn:

  • 86 wedi’u cyflwyno ar-lein drwy arolwg yr ymgynghoriad
  • 58 wedi’u cyflwyno dros e-bost
  • 7 o ymatebion wedi'u comisiynu a gafodd eu cyflwyno gan grwpiau ffocws
  • 5 wedi’u cyflwyno mewn fformat Hawdd ei Ddeall

Nid oedd modd ystyried yr ymatebion a oedd wedi’u rhannol gwblhau na chafodd eu cyflwyno’n ffurfiol.

Gweithdai ar yr ymgynghoriad

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, gwnaethom gynnal nifer o weithdai. Roedd ein gwaith ymgysylltu'n cynnwys grwpiau ffocws wedi'u comisiynu dan arweiniad y canlynol:

  • Pobl yn Gyntaf Cymru
  • Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
  • Fforwm Golwg Cymru: Cŵn Tywys Cymru a Cyngor Cymru i’r Deillion
  • Fy Mywyd, Fy Llais: Celfyddydau Anabledd Cymru ac Autistic UK
  • Plant yng Nghymru
  • Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
  • Anabledd Cymru

Ymatebion hwyr

Cyflwynwyd pedwar ymateb ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben. Cafodd y rhain eu hadolygu a’u hystyried wrth baratoi’r adroddiad hwn.

Proffil yr ymatebydd

O'r 157 ymateb, roedd:

  • 40 wedi dod gan unigolion
  • 113 wedi dod gan sefydliadau neu gyrff eraill
  • 4 yn wag

Mae rhestr lawn o'r ymatebwyr, ac eithrio'r rheini a oedd wedi gofyn am gael aros yn ddienw, ar gael yn Atodiad A. Roedd cyfanswm o 37 o ymatebwyr wedi gofyn am gael aros yn ddienw, tra bo 40 heb ateb y cwestiwn ynghylch aros yn ddienw o gwbl.

Mae'r tabl isod yn rhoi dadansoddiad o’r ymatebion yn ôl y math o sefydliad:

Math o ymatebyddNifer
Swyddfa'r Comisiynydd3
Bwrdd Iechyd5
Unigolyn40
Awdurdod Lleol14
Sefydliad78
Cyrff Cyhoeddus yng Nghymru8
Rheoleiddiwr1
Prifysgol4
Anhysbys4

Iaith yr ymatebion

Cafodd y rhan fwyaf o'r ymatebion (155) eu cyflwyno yn Saesneg, a chafodd 2 eu cyflwyno yn Gymraeg.

Themâu’r ymatebion

Roedd cefnogaeth eang i’r cynllun, gan gynnwys ei nodau cyffredinol.

Dyma rai o’r themâu cryf a gafodd eu hailadrodd ar draws llawer o’r ymatebion:

  • Cydweithio, cyd-gynhyrchu, a phwysigrwydd profiad bywyd
  • Yr angen am ganlyniadau mesuradwy, atebolrwydd, a thryloywder
  • Cynhwysiant Digidol, trafnidiaeth, ac anghydraddoldeb gwledig
  • Plant a phobl ifanc
  • Rhieni, gofalwyr a gofalwr di-dâl
  • Hyfforddiant i’r gweithlu ac ymwybyddiaeth y cyhoedd, yn enwedig mewn perthynas ag ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd

Dyma rai o’r themâu cyson a oedd yn ymddangos mewn nifer o ymatebion:

  • Iechyd a lles
  • Addysg
  • Cyflogaeth
  • Y Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Dyma rai o’r themâu a oedd yn ymddangos mewn rhai o’r ymatebion:

  • Croestoriadedd a phrofiadau pobl anabl o grwpiau lleiafrifiedig
  • Cyllid ac adnoddau
  • Eiriolaeth a chymorth

Dyma rai o’r themâu a oedd yn ymddangos mewn ychydig o’r ymatebion:

  • Materion gwleidyddol a chyfreithiol
  • Rhwystrau systemig a strwythurol
  • Newid Hinsawdd a Chynllunio at Argyfyngau
  • Hamdden, chwaraeon a diwylliant
  • Pryderon am y broses ymgynghori
  • Tai a byw’n annibynnol

Crynodeb o themâu cyffredinol yr ymatebion

Mae’r themâu cryf wedi’u crynhoi isod.

Cydweithio, cyd-gynhyrchu, a phwysigrwydd profiad bywyd

Pwysleisiodd yr ymatebwyr gefnogaeth gref i'r egwyddor “pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau” ond dadleuwyd nad yw'n cael ei roi ar waith yn llawn. Er bod yr ymatebwyr yn dweud wrthym y dylid ymgynghori â phobl anabl, roeddent yn teimlo ei fod hefyd yn bwysig sicrhau eu bod yn weladwy mewn rolau arwain, gan osod blaenoriaethau a sbarduno'r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Disgrifiodd rhai'r broses o’u cynnwys fel rhywbeth ‘symbolaidd’, gyda phrofiadau o gael eu gwahodd i gymryd rhan mewn ymgynghoriadau ond heb weld fawr ddim tystiolaeth, os o gwbl, fod eu cyfraniadau wedi cael unrhyw ddylanwad ar y penderfyniadau. Roedd pwyslais cryf ar sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed gymaint, fel y rheini sydd ag anableddau dysgu, neu amhariadau sy'n plethu i’w gilydd, yn cael eu cynnwys yn fwriadol.

Roedd galwadau i bobl anabl gael eu cynrychioli'n uniongyrchol o fewn strwythurau'r llywodraeth (er enghraifft, person anabl i ddal swydd ar lefel y Cabinet) er mwyn sicrhau bod gan eu lleisiau awdurdod. Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod angen gweld newid gwirioneddol yn deillio o gyd-gynhyrchu, yn hytrach na gofyn iddynt am fewnbwn dro ar ôl tro heb ddilyniant. Tynnodd rhai sylw at yr angen i fuddsoddi mewn eiriolaeth sy'n cael ei harwain gan ddefnyddwyr, gyda chyllid parhaus a chymorth strwythurol i sefydliadau llawr gwlad arwain y gwaith o ymgysylltu a chyflawni.

Tynnwyd sylw ar draws pob sector at y galw am brosesau cyd-gynhyrchu ystyrlon â phobl anabl wrth ddylunio a darparu profiadau hygyrch. Roedd yr ymatebwyr yn eiriol dros gynnwys artistiaid, athletwyr a chynulleidfaoedd anabl, gan bwysleisio bod angen cyllid ac adnoddau ychwanegol i wireddu hyn. Roedd pwyslais cryf hefyd ar ymgynghori â'r rheini sydd â phrofiad bywyd er mwyn llywio’r prosesau comisiynu, yn enwedig mewn perthynas â thrafnidiaeth, tai, iechyd a gwasanaethau arbenigol.

Roedd yr ymatebwyr yn galw am gyd-gynhyrchu’n barhaus â phobl anabl ar bob cam o'r Cynllun, cynnwys Sefydliadau Pobl Anabl, a chryfhau safonau ymgysylltu. Ar ben hynny, roedd yr ymatebwyr yn galw am gynnwys sefydliadau cymunedol llai ar lawr gwlad, grwpiau trydydd sector, lleisiau plant a phobl ifanc anabl a chroestoriadedd yn y Bwrdd Cynghori Allanol newydd sy'n goruchwylio'r Cynllun a’r prosesau gwneud penderfyniadau, ac yn annog cyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda phobl anabl a'u cynrychiolwyr, gan gynnwys undebau llafur.

Canlyniadau mesuradwy, atebolrwydd, a thryloywder

Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod mecanweithiau monitro, adborth ac atebolrwydd yn hanfodol er mwyn sicrhau cynnydd gwirioneddol i bobl anabl yng Nghymru. Roeddent wedi dweud wrthym ei bod yn hanfodol cael ffyrdd clir i bobl anabl gynnig eu barn ar hygyrchedd a chynhwysiant, ac i'r llywodraeth a sefydliadau fod yn gyfrifol am gyflawni eu rhwymedigaethau. Pwysleisiwyd bod adolygiadau rheolaidd, monitro canlyniadau yn gyson, a chynnwys cwestiynau am anabledd mewn asesiadau, oll yn ffyrdd o sbarduno gwelliant parhaus.

Nodwyd dro ar ôl tro bod angen mecanweithiau atebolrwydd cryfach, gyda’r ymatebwyr yn mynnu bod cyfrifoldebau clir ar Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus. Pwysleisiwyd bod angen elfennau pendant i'w cyflawni, amserlenni diffiniedig a cherrig milltir ar gyfer y Cynllun, ac nid nodau uchelgeisiol yn unig. Dywedodd llawer o ymatebwyr wrthym y byddai cynllun gweithredu byw sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd yn helpu i olrhain cynnydd a dal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau i gyfrif.

Dywedodd yr ymatebwyr bod yn rhaid cael dull sy'n seiliedig ar hawliau ar gyfer y cynllun. Aethant ymlaen i danlinellu pwysigrwydd defnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau fel fframwaith, a nodwyd bod angen gwneud mwy i wella atebolrwydd o dan Ddyletswyddau Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Pwysleisiodd yr ymatebwyr hefyd y dylid cynllunio a darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffyrdd sy'n cynnal hawliau, urddas ac ymreolaeth pobl anabl. 

Pwysleisiodd yr ymatebwyr bwysigrwydd amserlenni clir, tryloywder, a metrigau wedi'u diffinio'n dda i fesur ac adrodd ar gynnydd gyda’r Cynllun. Roeddent wedi tynnu sylw at bryder sylweddol mewn perthynas â’r camau tymor byr: mae’n anodd olrhain llawer o'r camau o ran effaith, ac mae'r diffyg canlyniadau mesuradwy yn golygu ei bod yn amhosibl gwybod a yw’r camau wedi’u cyflawni.

Cyfeiriodd nifer o ymatebwyr at fylchau yn y Cynllun, yn enwedig diffyg strategaethau gweithredu, amserlenni, cyllid a chanlyniadau mesuradwy manwl. Maent yn credu y byddai'r Cynllun yn llawer mwy effeithiol pe bai'n cynnwys cynllun gweithredu hirdymor, cyllid cysylltiedig, ac ymrwymiad mwy cadarn i gynnal hawliau pobl anabl, o bosibl drwy osod yr hawliau hynny ar sail statudol yng Nghymru.

Dywedodd yr ymatebwyr fod yn rhaid i ni sicrhau bod data yn cael ei gasglu a bod adroddiadau blynyddol tryloyw yn cael eu llunio ar draws y sectorau, a bod yr holl gamau'n cyd-fynd â dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau fel y nodir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Dylid gwneud ymdrechion i wella hygyrchedd mewn trafnidiaeth, cyfiawnder a gofal cymdeithasol, gyda thargedau clir, canlyniadau mesuradwy a dyletswyddau cyfreithiol i sicrhau bod modd gorfodi’r cynnydd a’i fod yn atebol. 

Dylai'r cynllun osod amcanion penodol i gau'r bwlch cyflogaeth anabledd, gwella llwybrau addysg cynhwysol, a buddsoddi mewn seilwaith hygyrch. Dylid sicrhau atebolrwydd drwy Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb, adroddiadau cyhoeddus rheolaidd, a chanllawiau i awdurdodau cyhoeddus ar ddefnyddio egwyddorion hawliau dynol wrth wneud penderfyniadau. Rhaid i gydweithio â phobl anabl a'u sefydliadau fod yn ganolog i ddatblygu, monitro a chyflawni'r ymrwymiadau hyn.

Yn olaf, tynnodd yr ymatebwyr sylw at yr angen am ddata cyson i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol. Er y croesewir rhywfaint o gamau gweithredu tymor byr arfaethedig, ystyrir bod llawer yn rhy eang neu'n brin o dargedau mesuradwy, sy'n ei gwneud hi’n anodd gwerthuso llwyddiant. Pwysleisiodd yr ymatebwyr hefyd bwysigrwydd ymgynghori â phobl sydd ag anableddau dysgu a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed drwy gydol y broses.

Cynhwysiant digidol 

Pwysleisiodd yr ymatebwyr yr angen brys i'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl (y Cynllun) ymrwymo i hyfforddiant sgiliau digidol hygyrch i bobl anabl, yn enwedig ym meysydd addysg a chyflogaeth. Roeddent yn galw am raglenni yn y gymuned sydd wedi'u teilwra i ddysgwyr anabl, gan sicrhau bod gwasanaethau a llwyfannau digidol yn cefnogi pob unigolyn anabl. Pwysleisiwyd ei bod hi’n hanfodol cael gwared ar y bwlch sgiliau digidol er mwyn byw'n annibynnol a dysgu gydol oes. Dywedodd yr ymatebwyr hefyd y dylai Deallusrwydd Artiffisial a Diogelu Data gynnwys gwarchodaeth rhag rhagfarn algorithmig mewn cyflogaeth, budd-daliadau a gwasanaethau iechyd.

Soniwyd yn gyson bod hygyrchedd yn hanfodol mewn gwasanaethau digidol ar gyfer y cyhoedd. Roedd yr ymatebwyr yn annog safonau hygyrchedd clir ar draws yr holl systemau adrodd ar-lein a thros y ffôn, sicrhau cydnawsedd â thechnolegau cynorthwyol a darpariaeth mewn Iaith Arwyddion Prydain (BSL), a fformatau hygyrch fel Hawdd ei Ddeall, a llais-i-destun. Ar ben hynny, roedd galw ar lwyfannau a gwasanaethau digidol i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, gan sicrhau mynediad cyfartal i siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys siaradwyr Cymraeg anabl, ac atal rhwystrau ychwanegol rhag cymryd rhan. 

Nododd yr ymatebwyr fod cysylltiad agos rhwng cyfleoedd cyflogaeth a chynhwysiant digidol, gan eiriol dros ymgyrchoedd cyhoeddus i godi ymwybyddiaeth o dechnolegau cynorthwyol sy'n cael gwared ar rwystrau i waith, teithio, hamdden a gwasanaethau hanfodol, yn enwedig i bobl ddall a phobl sy'n rhannol ddall. Roeddent hefyd wedi pwysleisio pwysigrwydd grantiau a mentrau uwchsgilio sy'n annog sefydliadau i wneud technoleg yn fwy hygyrch, ochr yn ochr â chynllunio strategol ar gyfer dyfeisiau gan y GIG a systemau adrodd cadarn ar hygyrchedd. Roeddent wedi mynegi pryder bod perygl i dechnoleg ddod yn rhwystr yn hytrach nag yn ateb heb gamau digidol wedi'u targedu yn y Cynllun, yn enwedig i bobl anabl hŷn a phobl anabl mewn cymunedau gwledig. Tynnwyd sylw at yr angen am fap hirdymor ar gyfer technoleg ddigidol a chynorthwyol yng Nghymru er mwyn gwella canlyniadau i bobl anabl.

Plant a phobl ifanc

Roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod yr adrannau yn y Cynllun sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc wedi cael eu hysgrifennu o safbwynt oedolyn a bod angen iddynt adlewyrchu’r heriau sy'n wynebu plant a phobl ifanc yn well. Roedd yr ymatebwyr yn eiriol dros sefydlu thema benodol yn y Cynllun sy’n canolbwyntio ar Blant a Phobl Ifanc, ar wahân i'r thema Addysg, i adlewyrchu bod cefnogaeth gynnar yn hanfodol ar gyfer annibyniaeth hirdymor. Roeddent yn pwysleisio bod angen sôn yn benodol am gymorth yn y blynyddoedd cynnar - gan gynnwys beichiogrwydd, gofal plant, meithrinfeydd a grwpiau chwarae yn ogystal â chyfleoedd chwarae a chyfleoedd y tu allan i'r ysgol sy’n gynhwysol ac sydd wedi'u teilwra i blant a phobl ifanc anabl. 

Roedd galw i hyrwyddo eiriolaeth hawliau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl o bob oed. Pwysleisiodd yr ymatebwyr bwysigrwydd addysgu plant anabl am eu hawliau, y Model Cymdeithasol o Anabledd, a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Roeddent hefyd yn argymell ehangu'r addysg hon i rieni, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol wedi'u targedu, a darparwyr gwasanaethau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Ar ben hynny, roedd yr adborth yn tynnu sylw at yr angen i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gael eu teilwra'n benodol i anghenion plant a phobl ifanc anabl.

Roedd yr wybodaeth gan grŵp ffocws o bobl ifanc a gomisiynwyd yn canolbwyntio ar heriau symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion. Mynegodd y cyfranogwyr bryder ynghylch y diffyg mannau diogel a chymorth yng Nghymru i bobl ifanc anabl pan fyddant yn cyrraedd 25 oed, ac mae hynny'n gallu arwain at fwy o unigrwydd a theimlo’n ynysig. Gan bwysleisio'r angen am well mynediad at wasanaethau cymorth a chyngor, mynegwyd pryderon hefyd ynghylch addysg ôl-16 a datblygu sgiliau gydol oes, gan alw am fwy o weithdai sgiliau ar reoli arian a diogelwch yn y cartref i bobl ifanc sy'n byw'n annibynnol am y tro cyntaf. Roedd yr ymatebwyr eraill o blaid cynnwys cyfeiriad penodol at addysg ôl-16, hyfforddiant a llwybrau i’r coleg neu gyflogaeth, gan dynnu sylw at rôl allweddol sefydliadau Addysg Bellach yn ystod y cyfnod hwn.

Roedd adborth o'r grŵp ffocws hwn yn pwysleisio bod plant a phobl ifanc anabl yn dymuno cael eu clywed a’u cynnwys wrth wneud penderfyniadau a fydd yn effeithio arnynt. Dylai'r cynllun greu cyfleoedd i roi mwy o lais i bobl ifanc wrth lunio newid ystyrlon a'u galluogi i gynllunio ar gyfer eu dyfodol eu hunain.

Rhieni a gofalwyr (gan gynnwys gofalwyr di-dâl)

Dywedodd yr ymatebwyr y dylai'r Cynllun groesawu'r Model Cymdeithasol o Anabledd yn well drwy gydnabod yn glir bod gofalwyr a gofalwyr di-dâl yn hanfodol ym mywydau llawer o bobl anabl. Mae'r meysydd hollbwysig sydd wedi’u nodi yn y Cynllun fel rhai sydd angen eu gwella yn cynnwys rhoi cymorth ariannol cryfach ar waith i deuluoedd sy'n wynebu costau gofal iechyd a chostau sy'n gysylltiedig â gofal (yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw), darparu cymorth cyflogaeth ac addasiadau rhesymol cliriach i ofalwyr sy'n gweithio, a sefydlu gwell gwasanaethau seibiant a chydnabyddiaeth ariannol i ofalwyr cyflogedig a gofalwyr di-dâl, gyda'r nod o leihau gorweithio gofalwyr a chefnogi llesiant. 

Pwysleisiodd y cyfranwyr fod angen mwy o gefnogaeth i rieni plant anabl yn ystod y blynyddoedd cynnar a bod angen mwy o gefnogaeth i rieni a gofalwyr o ran cyfleoedd chwarae a hamdden i'w plant. Roedd hefyd angen sicrhau bod grwpiau llywio a chyd-gynhyrchu yn cynnwys rhieni a gofalwyr plant anabl o'r dechrau.

Dywedodd yr ymatebwyr hefyd y dylai'r cynllun fynd i'r afael â bylchau o ran cefnogi teuluoedd â phlant anabl, gan gynnwys sicrhau bod rhieni'n deall hawliau eu plant i gael addysg a hamdden gynhwysol. Byddai cynnwys mwy am fywyd teuluol a pherthnasoedd yn helpu i gyfleu darlun llawn ‘Byw'n Annibynnol’. 

Soniodd rhai teuluoedd am yr heriau maent yn eu hwynebu wrth i'w plant gael profiad o allgau mewn lleoliadau addysgol, ac mae hynny'n aml yn atgyfnerthu rhaniadau ehangach ac yn meithrin teimladau o bryder a diffyg ymddiriedaeth mewn cymunedau. Roeddent yn awgrymu bod mwy o botensial ar gyfer cynnydd yn y Cynllun gan ddychmygu strydoedd, siopau, caffis, mannau addoli, a chartrefi sy'n croesawu pawb. Yn anad dim, roeddent yn pwysleisio y dylai gofal iechyd a gwasanaethau eraill groesawu'r model cymdeithasol o anabledd yn gyson, gan sicrhau bod plant anabl yn cael eu cydnabod fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas o'r cychwyn cyntaf.

Dywedodd rhai ymatebwyr fod gofalwyr di-dâl yn aml yn cael eu hepgor o gynlluniau a thrafodaethau sy'n ymwneud â phobl ag anableddau dysgu, ac mae hynny'n achosi rhwystr ar unwaith i'r person ag anableddau rhag cael mynediad i gymdeithas. Roeddent yn dymuno gweld gofalwyr yn cael eu cydnabod a'u cynnwys ar bob lefel o gynllunio, cyflawni a monitro gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod lleisiau ac anghenion unigolion ag anableddau dysgu a'u gofalwyr yn cael eu gwerthfawrogi.

Hyfforddiant i’r gweithlu a’r Model Cymdeithasol o Anabledd

Roedd consensws bod hyfforddiant cynhwysfawr a gorfodol i'r gweithlu, sy’n canolbwyntio ar sgiliau ymarferol ac anabledd, yn hanfodol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, darparwyr gofal hanfodol, y system gyfiawnder, a gwasanaethau diwylliannol a hamdden, fel bod modd rhoi'r cynllun ar waith yn effeithiol. Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod yn rhaid i hyfforddiant fynd ymhell y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth sylfaenol o anabledd ac y dylai ymgorffori sgiliau ymarferol a'r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn ymarfer o ddydd i ddydd. Dylai’r hyfforddiant fod yn seiliedig ar hawliau ac osgoi fframio meddygol sy'n seiliedig ar ddiffygion. Yn hytrach, dylai gael ei gyd-gynllunio a'i gyd-gyflwyno gan bobl anabl i sicrhau dilysrwydd ac effaith. Tynnwyd sylw hefyd at hyfforddiant ar gyflogaeth cynhwysol; wrth ddarparu hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o anabledd a gwasanaeth cwsmeriaid dylid sicrhau bod cynnwys sy’n ymdrin â phwysigrwydd darparu gwasanaethau'n ddwyieithog a hyrwyddo'r Gymraeg fel hawl i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod rhaglenni TAR a lleoliadau addysgol angen hyfforddiant cadarn ynghylch Deddf Cydraddoldeb 2010, addasiadau rhesymol, a’r defnydd o dechnoleg gynorthwyol, gan ganolbwyntio'n benodol ar fynd i'r afael â phrinder addysgwyr sy’n arbenigo mewn awtistiaeth a sicrhau cymwysterau Iaith Arwyddion Prydain ar gyfer staff sy'n addysgu dysgwyr byddar. Awgrymodd rhai fod angen darparu hyfforddiant mewn Iaith Arwyddion Prydain ac ymwybyddiaeth o fyddardod ymysg staff rheng flaen mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn yr iaith o’u dewis heb oedi na chyfaddawdu, ac er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a lleihau stigma. 

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gofal cartref, nododd yr ymatebwyr fod hyfforddiant wyneb yn wyneb gorfodol gyda hyrwyddwyr anabledd, hyfforddiant dementia o ansawdd uchel, a gwasanaethau adsefydlu golwg hyfforddedig, yn hanfodol. Roedd yr ymatebwyr yn awyddus i weld canlyniadau yn ymwneud â sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant sy'n angenrheidiol i sicrhau urddas pobl ddall a rhannol ddall ac i gyfathrebu â nhw mewn ffordd sy’n diwallu eu hanghenion. Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod yn rhaid i hyfforddiant ar draws gwasanaethau fod yn destun mandad cyfreithiol yn hytrach na mentrau dros dro, a chael ei gyd-gynllunio a'i gyd-gyflwyno gan bobl anabl. Roedd lefel sylweddol o rwystredigaeth ynghylch y ffaith bod hyfforddiant yn aml yn methu ag arfogi staff i weithredu'n wahanol, ac mae hynny'n arwain at allgáu parhaus a darparu gwasanaeth gwael.

Er bod y rhan fwyaf yn croesawu cynnwys y Model Cymdeithasol o Anabledd, roedd rhai o'r ymatebwyr a oedd yn cynrychioli pobl â chyflyrau hirdymor neu gyfnewidiol yn dadlau dros fwy o gydbwysedd â dulliau meddygol, gan gydnabod bod triniaeth feddygol yn dal yn flaenoriaeth i rai pobl anabl.

Mater newydd a godwyd

Newid hinsawdd, cydnerthedd amgylcheddol a chynllunio at argyfyngau

Tynnodd yr ymatebwyr sylw at effaith anghymesur y newid yn yr hinsawdd ar bobl anabl, gan nodi bod llifogydd a thywydd poeth yn peri risgiau penodol, a bod newid yn yr hinsawdd yn absennol o'r Cynllun. Pwysleisiwyd yr angen am wasanaethau brys hygyrch ac ymateb i argyfwng. Argymhellwyd gwell hyfforddiant i ymatebwyr brys a llwybrau gofal clir yn ystod sefyllfaoedd brys. Roedd yr ymatebwyr hefyd wedi galw am fwy o bwyslais ar bynciau fel Newid Hinsawdd a Theithio Hygyrch.

Tynnodd nifer o ymatebwyr sylw at yr angen am drefniadau cryfach o ran cynllunio at argyfyngau ac ymateb iddynt mewn lleoliadau cymunedol, lleoliadau hamdden a gwasanaethau cyhoeddus. Dywedodd yr ymatebwyr ei bod yn hanfodol sicrhau bod pobl anabl yn cael eu diogelu rhag tywydd difrifol a thoriadau pŵer. Yn ogystal â hynny, rhaid dysgu o COVID-19 a'r effaith a gafodd hynny ar bobl anabl yng Nghymru.

Tynnodd yr ymatebwyr sylw hefyd at y ffaith bod cyfarpar addasol a phlastigau untro yn aml yn angenrheidiol ar gyfer pobl anabl, ac eto mae'r anghenion hyn yn aml yn cael eu hanwybyddu mewn strategaethau amgylcheddol. Weithiau mae pobl anabl yn cael eu beio'n annheg am ddibynnu ar gynhyrchion plastig untro, heb gydnabod nad oes dewisiadau amgen addas ar gael yn aml. Rhaid i gynllunio ar gyfer y newid yn yr hinsawdd gefnogi pobl anabl yn benodol a mynd i'r afael â'u hanghenion, yn enwedig wrth i dywydd eithafol ddod yn fwy cyffredin.

Data ansoddol manwl

Fformat y crynodeb ar gyfer pob cwestiwn yn yr ymgynghoriad:

  • Dyfyniadau: Mae’r prif bwyntiau’n cael eu pwysleisio gyda dyfyniadau i dynnu sylw at wybodaeth neu sylwadau arwyddocaol sydd wedi cael eu gwneud.
  • Penawdau Thematig: Mae’r adrannau’n cael eu rhannu yn ôl penawdau perthnasol, yn seiliedig ar adborth, fel ei bod hi’n hawdd eu defnyddio.
  • Argymhellion: Mae’r pwyntiau bwled yn rhestru prif argymhellion y cynllun; cafodd y rhain eu tynnu'n syth o'r ymatebion i sicrhau eglurder a chanllaw cyflym.
  • Crynodeb: Ar y diwedd, crynodeb byr sy’n nodi’r ymatebion craidd i’r cwestiwn hwn.

Cwestiwn 1: yr uchelgais

Dyma uchelgais gyffredinol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu hawliau pobl anabl ac i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys, a’u bod yn gallu cymryd rhan ym mhob cymuned yng Nghymru. Rydym am wneud Cymru’n lle cynhwysol a hygyrch i bobl anabl; cymdeithas lle gall pobl anabl gymryd rhan heb gyfyngiadau a chael eu grymuso i fyw bywyd llawn, lle mae eu hawliau unigol a chyfunol yn cael eu cydnabod a’u cynnal, a lle mae eu cyfraniad yn cael ei gydnabod.

Gofynnwyd i chi

Rhowch wybod inni eich barn am y datganiad o'n huchelgais a gynigir gennym. Ai dyma'r uchelgais iawn i wella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru? Beth, os oes rhywbeth, y gellid ei ychwanegu at yr uchelgais hon, neu ei dynnu ohoni?

Fe ddywedoch chi

“Ydym, rydym yn credu mai dyma'r uchelgais iawn i wella cydraddoldeb i bobl anabl yng Nghymru. Mae angen ymrwymiad hefyd y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phobl anabl i sicrhau bod cymunedau'n gynhwysol ac yn hygyrch ac i sicrhau bod gwaith monitro agos yn cael ei wneud drwy gydol y cynllun hwn i wneud yn siŵr bod y rhain yn cael eu cynnal.“

Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu.

“Dymuna Gofal Cymdeithasol Cymru i’r uchelgais nodi'n glir bod y nodau'n uchelgeisiol, a bydd angen i'r sector cyhoeddus cyfan gydweithio i sicrhau newid systemig hirdymor, sy'n mynd y tu hwnt i’r cynllun. Rydym hefyd yn teimlo y gallai'r uchelgais fynd ymhellach i fod yn gliriach ynghylch gwrth-wahaniaethu ehangach a sut mae’n mynd i'r afael ag ableddiaeth, sef profiad bywyd llawer o bobl anabl yng Nghymru yn anffodus.”

Gofal Cymdeithasol Cymru.

Atebolrwydd a goruchwylio
  • Mesur llwyddiant yn y pen draw yw bod pob unigolyn yn teimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi a'i fod yn perthyn i'w gymuned a'i wlad.
  • Mae angen iddo fod yn fesuradwy a chael ei gefnogi â chyllid.
  • [Mae angen] iaith gadarn am gamau ymarferol, cyd-gynhyrchu gyda phobl anabl, a chanlyniadau mesuradwy.
  • Pe byddai [Llywodraeth Cymru] wedi ymrwymo i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau ac wedi gwneud hynny'n iawn, ni fyddai angen y cynllun hwn arnom.
  • Dylid cynnwys cyfeiriad penodol at Siarter y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl fel meincnod, gan nodi bod y Cynllun Hawliau eisoes wedi'i strwythuro o amgylch y siarter.
  • Roeddent yn teimlo'n arbennig o gryf y dylai addysg yn enwedig hyfforddiant athrawon drwy raglenni TAR ac mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, gynnwys ymwybyddiaeth o'r cynllun hwn yn ogystal â dealltwriaeth gref o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys addasiadau rhesymol, ynghyd â'r model cymdeithasol o anabledd.
Gwahaniaethu, ghagfarn ac ableddiaeth 
  • Gellid mynd ymhellach i fod yn gliriach ynghylch gwrth-wahaniaethu ehangach a sut mae’n mynd i'r afael ag ableddiaeth, sef profiad bywyd llawer o bobl anabl yng Nghymru yn anffodus.
  • Nid oes cyfeiriad at ableddiaeth, gwahaniaethu nac anghydraddoldeb systemig. Er bod nod yr uchelgais yn gadarnhaol, mae peidio â chydnabod ac enwi'r materion craidd hyn yn golygu nad oes modd o fynd i'r afael â'r rhwystrau allweddol hyn, na mesur cynnydd, na chreu camau sy'n canolbwyntio ar y materion systemig hyn.
  • Mae angen cynnwys ymrwymiad cliriach i hawliau gorfodadwy, ymgysylltu ag undebau llafur, a dileu tlodi a gwahaniaethu strwythurol, sy'n parhau i fod yn rhwystrau sylweddol.
  • Dylid cynnwys ymrwymiad i herio rhagfarn, gwahaniaethu, a gelyniaeth tuag at bobl anabl a phobl â salwch cronig lle bynnag y mae'n digwydd.
Cynhwysiant a hawliau 
  • Er ei fod wedi'i fframio o safbwynt Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, mae absenoldeb unrhyw ymrwymiad cadarn i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r Confensiwn yng nghyfraith Cymru yn arwydd o wanhau, ac nid cryfhau, yr ymrwymiadau presennol i ddiogelu Hawliau.
  • Dylai fod yn glir beth rydym yn ei olygu wrth hawliau ac yn ddiamwys o ran yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud.
  • Mae angen cydnabod bod pobl anabl yn wynebu anghydraddoldebau haenedig oherwydd ffactorau fel hil, rhywedd, oedran neu statws economaidd-gymdeithasol.
  • Mae angen cynnal a chydnabod hawliau pobl anabl, dylai hynny fod y safon sylfaenol, ac nid yr uchelgais gyffredinol.
  • Dylid sôn yn benodol am drafnidiaeth, digidol a chynhwysiant economaidd.
  • Mae angen nodi’n glir at bwy mae'r cynllun yn cyfeirio gan fod gan bawb eu diffiniad eu hunain o bwy sy'n anabl.
  • Mae angen bod yn ymwybodol o waith arall sydd eisoes ar y gweill ar draws Llywodraeth Cymru a sicrhau cysondeb lle bo hynny'n briodol… Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Niwroamrywiaeth.
  • Rhaid i bobl anabl gael pŵer strwythurol, cymorth eiriolaeth, a threfniadau gorfodi hygyrch ar waith i arddel yr hawliau hynny'n effeithiol. Heb y rhain, bydd hyd yn oed uchelgeisiau sy'n llawn bwriadau da yn methu.
  • Dylid mynd i'r afael â lleihau anghydraddoldebau iechyd, sy'n elfen hanfodol o gyfiawnder anabledd.
Plant a phobl ifanc ac addysg 
  • Mae angen ymrwymo i addysg gynhwysol, rhywbeth sydd ar goll yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • Mae gwahanu teuluoedd yn arwain at barhad gwahanu mewn cymdeithas, ofn a diffyg ymddiriedaeth.
  • Dylid ychwanegu rhywbeth tebyg i “mae agweddau cymdeithasol yn cael eu creu yn ystod plentyndod”.
  • Mae angen ymdrechion cydlynol a pharhaus mewn ysgolion ac ar draws systemau addysg.
  • Dylid nodi rhwystrau i bresenoldeb, cyfranogiad a chyflawniad dysgwyr, ac fe ddylid mynd i'r afael â nhw. 
Cartrefi a thrafnidiaeth
  • Dylid sôn am dai fel rhan allweddol o uchelgais gyffredinol y cynllun hawliau pobl anabl.
  • Mae angen ymwreiddio cynhwysiant digidol o fewn yr uchelgais hon yng nghyd-destun gwneud Cymru'n lle cynhwysol a hygyrch.
  • Dylid cyfeirio at drafnidiaeth heb golli crynoder y datganiad.
  • Byddai cynnwys hygyrchedd digidol, targedau tai mwy uchelgeisiol, mwy o argaeledd gwasanaethau, a chyd-gynhyrchu mwy ystyrlon gyda phobl sydd â chyflyrau cymhleth fel clefyd niwronau motor, yn helpu i wella'r cynllun.
  • Mae angen sôn am drafnidiaeth, digidol, a chynhwysiant economaidd, Mae mynediad at gyflogaeth, gwasanaethau digidol, ac yn enwedig trafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy yn hanfodol er mwyn cymryd rhan lawn.
  • Dyma'r uchelgais iawn ychwanegu ymrwymiadau sy'n ymwneud ag atebolrwydd, croestoriadedd, a mynediad at drafnidiaeth a phethau eraill sy'n galluogi pobl i gymryd rhan.

Dylid cael gwared ar y rhwystrau sy'n atal pobl anabl rhag beicio.

Crynodeb

Yn gyffredinol, mae amrywiaeth eang o ymatebwyr yn croesawu'r uchelgais ar gyfer pobl anabl yng Nghymru, ac maent yn gwerthfawrogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau, cyfranogiad a chydraddoldeb. Mae llawer o sefydliadau ac unigolion yn cydnabod bod yr uchelgais yn gam ystyrlon ymlaen, ac yn cyd-fynd yn agos â gwerthoedd a chyd-gynhyrchu. 

Roedd cydnabyddiaeth o ddull gweithredu Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr uchelgais i feithrin cymunedau cynhwysol ac amserlen fwy realistig ar gyfer cyflawni newid systemig. Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi ymrwymiad yr uchelgais i wreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd, gan symud oddi wrth safbwyntiau modelau meddygol a rhoi pwyslais ar gymdeithas i ddileu'r rhwystrau y mae llawer o bobl anabl yn parhau i'w hwynebu.

Soniodd yr ymatebwyr am botensial yr uchelgais i wthio am newid systemig, hirdymor, ar yr amod ei fod yn cael cefnogaeth gan y sector cyhoeddus cyfan. Roeddent yn cefnogi'r pwyslais ar gynhwysiant, hygyrchedd a chyfranogiad ac yn gwerthfawrogi'r gydnabyddiaeth o hawl pobl anabl i gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r gwasanaethau sy'n effeithio arnynt. Tynnodd rhai ymatebwyr sylw at y ffaith y gallai'r uchelgais wella cyfranogiad cymunedol yn sylweddol, yn enwedig gydag ymrwymiadau i gyd-gynhyrchu ac atebolrwydd.

Roedd yr ymatebwyr hefyd wedi nodi heriau a meysydd i'w gwella. Nododd llawer ohonynt na fydd yr uchelgais, er i'w chanmol, yn cael effaith heb ymrwymiadau a chanlyniadau sy’n fwy mesuradwy, a digon o gyllid. Galwodd yr ymatebwyr am iaith gliriach mewn perthynas â gweithredu, atebolrwydd, a'r camau ymarferol y bydd y llywodraeth yn eu cymryd. Ar ben hynny, tynnodd rhai ymatebwyr sylw at yr angen am gyfeiriad clir at gymdeithas heb wahaniaethu, yn ogystal ag ymrwymiadau cryfach i fynd i'r afael ag ableddiaeth a mathau eraill o ragfarn y mae llawer o bobl anabl yn parhau i'w profi yng Nghymru. 

Roedd adborth pellach yn pwysleisio pwysigrwydd ehangu'r uchelgais i gydnabod croestoriadedd, gan gydnabod y gallai pobl anabl wynebu anghydraddoldebau sy’n gorgyffwrdd oherwydd ffactorau fel hil, rhywedd, oedran, a statws economaidd-gymdeithasol. Roedd yr ymatebwyr yn awyddus i weld digidol, addysg, trafnidiaeth a chynhwysiant economaidd yn cael ei fynegi'n glir fel rhywbeth sy'n hanfodol er mwyn cymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Disgrifiwyd hefyd fel mae angen i’r uchelgais gydnabod anghenion penodol cymunedau arwyddo byddar Iaith Arwyddion Prydain, gofalwyr (am dâl a heb dâl), a theuluoedd, yn ogystal â'r newidiadau sydd eu hangen mewn seilwaith, tai ac addysg.

Mae’r ymatebwyr hefyd yn pwysleisio y bydd cyrraedd yr uchelgais yn golygu newid diwylliannol sylweddol yn y gymdeithas yng Nghymru, gan herio’r stereoteipiau presennol a’r canfyddiadau negyddol o bobl anabl. Dywedodd rhai fod iaith ac agweddau mewn polisi ac yn y cyfryngau yn parhau i wthio pobl anabl i'r cyrion, ac mai dim ond drwy addysg eang a hyrwyddo iaith gadarnhaol y bydd cynnydd gwirioneddol yn bosibl.

Yn ogystal â hynny, roedd sicrhau hawliau pobl anabl ar sail statudol yng Nghymru yn awgrym polisi a oedd yn codi dro ar ôl tro.

Cwestiwn 2: 4 o themâu’r Cynllun

Mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl wedi'i rannu'n 4 thema:

  1. Cymdogaethau a Lleoedd
  2. Cyflogaeth, Incwm ac Addysg
  3. Byw’n Annibynnol
  4. Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol

Gofynnwyd i chi 

Rhowch wybod inni a ydych chi'n meddwl bod y themâu hyn yn addas ar gyfer y cynllun. A yw'r themâu hyn yn ymdrin â'r prif faterion neu’r prif rwystrau y mae pobl anabl yn eu profi? A oes unrhyw feysydd heb eu cynnwys y dylid eu hychwanegu at y themâu hyn? Os oes, beth ydyn nhw? 

Fe ddywedoch chi

Er bod iechyd yn cael ei grybwyll mewn rhai rhannau o'r cynllun (yn enwedig o dan y maes byw'n annibynnol) hoffem fod wedi gweld iechyd yn cael mwy o sylw, gyda’i thema ei hun.”

Cymdeithas Syndrom Down.

Mae'r themâu hyn yn cyffwrdd â rhannau pwysig o fywyd, lle mae pobl yn byw, sut maen nhw'n gweithio ac yn dysgu, sut maen nhw'n byw'n annibynnol, a sut maen nhw'n cael eu trin mewn cymdeithas. Mae’n dda gweld ffocws ar degwch ac annibyniaeth.”

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

  • Dylid mynd i'r afael â Newid yn yr Hinsawdd a Chydnerthedd Amgylcheddol, gan dynnu sylw at ei effaith anghymesur ar bobl anabl a chyd-fynd â nod llesiant ‘Cymru Gydnerth’ Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
  • Mae angen blaenoriaethu Teithio drwy ei ychwanegu at thema “Cymdogaethau a Lleoedd”, gan fynd i'r afael â'i rôl o ran lleihau arwahanrwydd cymdeithasol yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru.
  • Mae addysg yn hawl sylfaenol i bobl o bob oed, ac mae’n haeddu ei sylw ei hun.
  • Dylid ehangu'r thema Cyflogaeth i gynnwys Cymorth Ariannol, gan adlewyrchu effaith budd-daliadau, costau ychwanegol, ac oedi o ran Mynediad i Waith ar dlodi anabledd.
  • Dylid defnyddio iaith glir, gan ddefnyddio’r gair ‘arian’ yn lle ‘incwm’ er eglurder.
  • Dylid ychwanegu Cynhwysiant Digidol a Chyfathrebu Hygyrch fel thema annibynnol neu ei hintegreiddio'n glir ar draws yr holl rai presennol, gydag ymrwymiadau cadarn i gael gwared ar rwystrau digidol.
  • Rhaid croesawu a chefnogi myfyrwyr anabl yn ogystal â gweithio gyda chyflogwyr yng Nghymru a fydd yn cefnogi graddedigion anabl drwy gynlluniau profiad gwaith a recriwtio wedi'u targedu.
  • Mae angen harneisio’r rhwydwaith o Brifysgolion Cymru a Medr yng Nghymru i ddatblygu fforwm ar gyfer staff a myfyrwyr anabl. Gallai Fforwm o'r fath helpu i greu Nod Siarter Pobl Anabl ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru.  
Iechyd a lles 
  • Mae angen gwahanu Iechyd a Lles (gan gynnwys iechyd meddwl a hamdden) oddi wrth thema Byw'n Annibynnol i sicrhau bod ganddo ei ffocws ei hun a'i fod yn cael ei ddangos fel blaenoriaeth dros y degawd nesaf.
  • Mae'r themâu hyn yn ymdrin â'r prif faterion a rhwystrau i bobl sy'n byw gyda chlefyd Crohn’s a Cholitis y tu allan i gymorth meddygol ar gyfer eu cyflwr, gan gadw symptomau dan reolaeth.
  • Mae'n ymddangos bod mynediad at gymorth meddygol ar goll, a dyna'r rhwystr mwyaf a wynebwn, boed hynny’n adeiladau a chyfleusterau sydd wedi’u dylunio gyda mynediad cadeiriau olwyn wedi’i daflu i mewn fel ôl-ystyriaeth, neu fynnu bod pobl â chlefyd Alzheimer (neu broblemau eraill â'r cof) yn gorfod derbyn ymgynghoriadau meddygol dros y ffôn.
  • Dylid cyfeirio at les emosiynol a mynediad at wasanaethau iechyd meddwl yn y cynllun.
  • Mae angen cynnwys bywyd teuluol a pherthnasoedd yn y thema Byw'n Annibynnol i adlewyrchu rhwydweithiau cymorth pobl anabl a hyrwyddo cynhwysiant gwirioneddol.
  • Dylid sicrhau bod diwylliant yn fwy amlwg yn y cynllun gyda thargedau penodol a chyllid ar gyfer chwaraeon a diwylliant. Mae cymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a threftadaeth yn hawl o dan CCUHPA ac mae'n rhan hanfodol o fywyd sy'n rhoi boddhad. 
Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
  • Braf gweld thema Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol ond nid yw’n glir beth yw ystyr ‘Amgylcheddau Cefnogol’.
  • A yw’r adran yn cynnwys Plismona a Chyfiawnder Troseddol/Teuluol/Sifil?
  • Efallai y byddai'n well ailenwi'r thema fel Mynediad at Gyfiawnder Teuluol, Troseddol a Sifil.
  • Dylid ychwanegu cyngor i ddefnyddwyr fel cyngor lles cymdeithasol pwysig.
  • Mae angen asesu asesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae cynghorau yn iawn o ran anghenion amrywiol.
  • Dylid herio'r gwahanu sy'n parhau mewn llety byw â chymorth a gwasanaethau, a chynnal yr hawl i fywyd arferol, dan gyfarwyddyd yr unigolyn ei hun.
  • Mae angen canolbwyntio ar hamdden, dysgu, a chyfranogiad cymunedol: Mynediad at gyfleusterau hamdden, ffitrwydd, gweithgareddau dysgu, a chynhwysiant mewn bywyd cymunedol.

Crynodeb

Roedd yr ymatebwyr yn teimlo bod y themâu cyffredinol yn y Cynllun yn addas ar y cyfan ac yn adlewyrchu nifer o’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Serch hynny, cynigiwyd bod angen canolbwyntio mwy ar gymuned, ac awgrymodd yr ymatebwyr y gallai rhai themâu ‘fynd ar goll’ wrth grwpio themâu gyda’i gilydd, ac y gallai hynny arwain at ddiffyg ffocws neu sylw wedi’i dargedu.  Mae mynediad at dechnoleg ddigidol yn bwysig ar gyfer cymaint o agweddau ar fywyd, a bydd hynny’n bendant yn fater amlwg i bobl anabl dros oes y cynllun deng mlynedd hwn. 

Ar ben hynny, mae llawer o ymatebwyr yn awgrymu y dylid gwahanu Iechyd a Lles (gan gynnwys iechyd meddwl a hamdden) oddi wrth Byw'n Annibynnol a'i flaenoriaethu fel thema annibynnol yn y cynllun i ddangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru. Ystyriwyd bod natur a mannau gwyrdd yn hanfodol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, yn enwedig i bobl anabl, ac anogwyd cyfeirio'n benodol at hyn yn y cynllun.

At hynny, mae’r argymhellion yn galw am flaenoriaethu byw'n annibynnol, addysg gynhwysol, a chynhwysiant economaidd i bobl anabl drwy ymgorffori safonau cydraddoldeb a hawliau dynol mewn polisi ac ymarfer.

Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod addysg yn haeddu ei ffocws ei hun, ar wahân i Gyflogaeth ac Incwm. Mae’r ymatebwyr yn teimlo bod addysg yn hawl sylfaenol ac yn allweddol i annibyniaeth yn y dyfodol. 

Dywedodd yr ymatebwyr y dylai'r thema Cyflogaeth ac Incwm fod yn gliriach ac yn fwy cynhwysol. Mae llawer o bobl anabl yn wynebu tlodi nid yn unig oherwydd cyflogau isel, ond oherwydd problemau â budd-daliadau a chostau ychwanegol. Dylid defnyddio’r gair “arian” yn lle “incwm” i'w wneud yn haws ei ddeall. Dylai'r thema gynnwys cymorth ariannol, sgiliau cyllidebu, a mynediad at fudd-daliadau, yn enwedig i'r rheini nad ydynt yn gallu gweithio am resymau iechyd neu’r rheini sy'n byw'n annibynnol am y tro cyntaf.

Dywedodd rhai ymatebwyr y byddai'n fuddiol i’r cynllun egluro beth mae pob thema yn ei gynnwys. Er enghraifft, roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod termau amwys fel “Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol” a ‘Byw'n Annibynnol’ yn ddryslyd. Roeddent yn awyddus i weld yr adrannau hyn yn cael eu hegluro neu eu hailenwi oherwydd y graddau maent yn cael eu camddeall a’r ffaith eu bod yn agored i ddehongliadau amrywiol.

Dywedodd rhai o’r ymatebwyr bod graddedigion anabl yn gallu cael eu hanghofio, felly mae'n bwysig eu bod yn cael eu cefnogi o fewn addysg uwch ac yn ystod y cyfnod pwysig hwnnw pan fyddant yn gadael y brifysgol ac yn ymuno â'r farchnad lafur. Nid yw llawer o wasanaethau'r Llywodraeth sydd i fod i gefnogi pobl anabl yn darparu'n uniongyrchol ar gyfer graddedigion anabl ac mae tybiaethau am ddyheadau isel ynghylch y mathau o swyddi sy'n addas ar gyfer pobl anabl yn golygu nad ydynt yn cael eu cefnogi i ddilyn gyrfaoedd proffesiynol.

Dywedodd yr ymatebwyr y dylid blaenoriaethu addysg fel thema benodol yn y Cynllun yn hytrach na'i gosod o dan ‘Cyflogaeth, Incwm ac Addysg’, gan gydnabod bod addysg yn hawl sylfaenol i bobl o bob oed. Roeddent wedi mynegi siom nad oedd cyfeiriadau penodol at lwybrau hygyrch at gyflogaeth, symud o addysg i'r gweithle, cyflogaeth gefnogol, a mecanweithiau cymorth i helpu pobl anabl i aros mewn gwaith. Yn ychwanegol at hynny, tynnodd yr ymatebwyr sylw at y rôl hanfodol y mae staff yn ei chwarae o ran meithrin diwylliannau sefydliadol cynhwysol ar draws lleoliadau Addysg Bellach ac Uwch.

Roedd yr ymatebwyr hefyd wedi galw am fwy o bwyslais ar bynciau fel Newid Hinsawdd a Theithio Hygyrch, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle gall cysylltiadau trafnidiaeth gwael arwain at ynysigrwydd cymdeithasol. Awgrymodd rhai ymatebwyr y dylid ychwanegu Teithio at deitl y thema Cymdogaethau a Lleoedd. Galwodd grŵp ffocws o oedolion ag anableddau dysgu i Deithio fod yn thema annibynnol, ar wahân i Gymdogaethau a Lleoedd, i gydnabod ei rôl fel galluogwr sylfaenol ar gyfer annibyniaeth, cyflogaeth, gofal iechyd, mynediad a chyfranogiad cymdeithasol, sy’n cyfiawnhau'r angen am fwy o bwyslais.

Mae’r themâu eraill a argymhellir eu gwreiddio drwy gydol y cynllun yn cynnwys Croestoriadedd, ac Urddas Economaidd, ac i bobl ag anableddau dysgu. Roedd galw i'r cynllun adlewyrchu ymrwymiad i urddas economaidd a thegwch rhwng y cenedlaethau, yn enwedig i fynd i'r afael ag effeithiau hirdymor cyni, diwygio lles, a thlodi ar fywydau pobl anabl. Roedd yr ymatebwyr hyn yn eiriol dros ddull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n canolbwyntio ar urddas, diogelwch ac ymreolaeth.

Yn olaf, roedd llawer o'r cyfranogwyr iau yn teimlo'n gadarnhaol am y cynllun ond yn teimlo'n ddryslyd ynghylch faint o wybodaeth sydd yno a'r iaith a ddefnyddir. Dylai fersiwn plant y cynllun fod yn symlach ac yn haws ei ddeall, gyda nodau ac amserlenni clir i helpu pobl ifanc i weld sut y bydd y cynllun o fudd iddynt. 

Cwestiwn 3: prif bynciau

Mae'r Cynllun yn nodi'r prif bynciau canlynol. Mae’r pynciau hyn wedi’u rhannu’n 10 thema:

  1. sefydlu a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
  2. mynediad at wasanaethau
  3. byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
  4. byw’n annibynnol: iechyd
  5. teithio
  6. cyflogaeth ac incwm
  7. tai fforddiadwy a hygyrch
  8. plant a phobl ifanc
  9. mynediad at gyfiawnder
  10. llesiant

Gofynnwyd i chi 

A yw'r pynciau hyn yn ymdrin â'r prif faterion neu’r prif rwystrau y mae pobl anabl yn eu profi? A oes unrhyw feysydd heb eu cynnwys y dylid eu hychwanegu at y themâu hyn? Os oes, beth ydyn nhw?

Fe ddywedoch chi

“Mae'r pynciau yn y cynllun yn ymdrin â llawer o feysydd pwysig, ac mae'n galonogol gwybod eu bod wedi cael eu nodi drwy gynnwys pobl anabl, gan mai nhw sydd yn y sefyllfa orau i ddweud beth sydd bwysicaf.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

“Mae'r pynciau yn y cynllun wedi cael eu dewis yn dda, ond mae eu heffeithiolrwydd yn dibynnu ar gydnabod natur ryng-gysylltiedig y rhwystrau hyn ac effaith braint ac anghydraddoldeb economaidd. Mae Cymru wirioneddol gynhwysol nid yn unig yn golygu mynd i'r afael â phob maes ar ei ben ei hun ond hefyd deall sut maen nhw'n rhyngweithio i siapio bywydau pobl anabl.”

Grŵp Ffocws wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Iechyd, llesiant a gofal cymdeithasol
  • Llesiant i gwmpasu gofal seibiant, perthnasoedd iach, cynhwysiant cymdeithasol (i atal teimladau o unigrwydd), cyfranogiad mewn bywyd diwylliannol, cyfeiriad at fannau gwyrdd a glas, mynediad at hamdden, celf, diwylliant a chwaraeon yn unol â hawliau CCUHPA.
  • Gofal Cymdeithasol fel ei bwnc penodol ei hun, i sicrhau datblygiad polisïau. Dylai hyn fynd i’r afael â diogelu.
  • Dylid canolbwyntio ar fynediad at fudd-daliadau lles ac ehangu gwasanaethau cyngor ar fudd-daliadau ar draws lleoliadau gofal iechyd a'r trydydd sector.
  • Eiriolwyr dros anabledd mewn gorsafoedd heddlu ac ysbytai.
  • Absenoldeb Pobl Hŷn fel pwnc penodol ac argymhellir ei gynnwys yn benodol fel pwnc annibynnol i fynd i'r afael â'r rhwystrau unigryw y mae oedolion anabl hŷn yn eu hwynebu.
  • Mae angen sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau ar draws y gylchred oes yn cael ei chefnogi.
  • Rhagfarn ar sail rhyw mewn ymatebion iechyd.
  • Dylid blaenoriaethu casglu data diogelu am bobl anabl, yn enwedig y rheini sydd ag anableddau dysgu.
Trosglwyddo (plant i wasanaethau oedolion)
  • Roedd grŵp ffocws o oedolion ag anableddau dysgu hefyd yn galw am bwnc sy'n canolbwyntio ar ‘Trosglwyddiadau a Chyfnodau Bywyd’, gan nodi bod heriau pobl anabl yn aml yn newid dros amser.
  • Dylid rhoi mwy o sylw i bwyntiau trosglwyddo allweddol fel symud o addysg i gyflogaeth, neu o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion sef yr adegau pryd fydd systemau cymorth yn aml yn methu.
Plant a phobl ifanc
  • Mae angen mynd i'r afael ag arferion cyfyngol mewn addysg (defnyddio dulliau cyfyngu, ymneilltuo, cadw ar wahân).
  • Dylid gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc anabl yn gallu arfer eu hawl i addysg, teimlo’n ddiogel a chael eu cynnwys yn eu lleoliadau addysgol a gofal plant, lle mae eu hanghenion addysgol yn cael eu nodi a’u bodloni, yn ogystal â drwy ddysgu sy’n adlewyrchu anghenion, profiadau a hawliau pobl anabl.
Hygyrchedd a’r amgylchedd
  • Dylid ailenwi ‘Teithio’ yn ‘Teithio a Systemau Trafnidiaeth’ i sicrhau eglurder. Dylai'r thema hon fynd y tu hwnt i drafnidiaeth gyhoeddus prif ffrwd i gynnwys gwasanaethau trafnidiaeth dan arweiniad y gymuned ac opsiynau trafnidiaeth hygyrch ar gyfer gofal iechyd, cyflogaeth, addysg a gweithgareddau cymdeithasol.
  • Dylid ychwanegu ‘Strydoedd a Chymunedau’ fel prif bwnc i adlewyrchu rhwystrau amgylcheddol i annibyniaeth.
  • Mae galw am welliannau i'r amgylchedd adeiledig, gan gynnwys gwella hygyrchedd strydoedd a phalmentydd, cyrbau isel, llwybrau teithio llesol, adeiladau cyhoeddus a darpariaeth gofal personol mewn lleoliadau cymunedol. Gallai hefyd fynd i'r afael ag agweddau cyffredinol sy'n arwain at flocio palmentydd a chamddefnyddio mannau parcio i bobl anabl.
  • Mae galw am strategaeth dai gydgysylltiedig, cydnabyddiaeth gryfach i’r ffaith bod tai yn rhan hanfodol o fyw'n annibynnol.
  • Dylid gwella cymorth cyfreithiol ar gyfer anghydfodau tai sy'n gyfyngedig neu ddim ar gael yng Nghymru.
  • Dylid cael cysylltiadau cryfach rhwng y pwnc hwn a Theithio, mae’r ddau'n hanfodol ar gyfer byw'n annibynnol.
  • Mae pobl anabl yn wynebu rhwystrau cyfreithiol ac ymarferol o ran cael gafael ar dai addas.
  • Mae angen talu mwy o sylw yn y cynllun at Newid Hinsawdd, Cydnerthedd Amgylcheddol a Chynllunio at Argyfyngau.
Cyfathrebu a mynediad Iaith
  • Dylid gwella hygyrchedd cyfathrebu i unigolion sydd ag anghenion lleferydd ac iaith ychwanegol.
  • Mae angen egluro ac atgyfnerthu ymrwymiad y cynllun i’r Model Cymdeithasol o Anabledd ac ystyried y Model Ieithyddol ar gyfer arwyddwyr byddar i adlewyrchu profiadau yn well.
  • Dylid sicrhau bod cyfathrebu'n hygyrch ar draws Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg a Saesneg, ac mewn fformatau fel Hawdd ei Ddeall, gan gydnabod nad oes gan bob unigolyn anabl yr un anghenion ieithyddol neu wybyddol.
  • Nid yw Makaton a systemau darluniadol eraill yn rhan o'r cynllun ar hyn o bryd ac mae’n rhaid eu cynnwys i adlewyrchu'r sbectrwm llawn o anghenion cyfathrebu.
  • Dylid cryfhau ymrwymiadau i ehangu a hyrwyddo’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain ar draws gwasanaethau cyhoeddus.
  • Dylid ymgorffori argymhellion penodol ynghylch datblygu a buddsoddi yng ngweithlu dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.
Cyfranogiad cymunedol a chynrychiolaeth 
  • Y tu hwnt i fynediad at wasanaethau, mae pobl anabl yn awyddus i siapio eu cymunedau. Mae angen cynnwys ymgysylltiad dinesig, cyfleoedd arwain, a chyd-gynhyrchu wrth wneud penderfyniadau.
  • Dylid grymuso pobl anabl fel arweinwyr, pleidleiswyr, ymddiriedolwyr a phenderfynwyr wrth lunio polisïau sy'n effeithio ar eu bywydau.
  • Mae galw am ‘Democratiaeth a Chyfranogiad Dinesig’ fel pwnc craidd yn y cynllun.
  • Dylid cynnwys ‘Mynediad i Gymunedau’ fel pwnc allweddol, gan gynnwys gofal a chymorth symudedd.
  • Mae angen mynd i'r afael â mynediad at wasanaethau cyffredinol fel bancio, yn enwedig yng nghyd-destun cymdeithasau heb arian parod a chau banciau yng Nghymru.
System gyfreithiol 
  • Ehangu'r pwnc ‘Mynediad at Gyfiawnder’ i gynnwys bwlio ac aflonyddu, hygyrchedd adeiladau’r llysoedd, prosesau cyfreithiol cynhwysol a chynrychiolaeth gyfreithiol ddigonol.
  • Mae angen mesurau diogelu cryfach yn erbyn troseddau casineb.
  • Rhagor o wybodaeth a chymorth i ddioddefwyr sy'n ofni rhoi gwybod am gamdriniaeth neu wahaniaethu.
  • Mae galw am wasanaethau cyfreithiol hygyrch sy'n ystyriol o drawma (gan gynnwys cyngor a gwybodaeth) sydd wedi’u cynllunio ar y cyd â phobl anabl.

Crynodeb 

Mynegodd yr ymatebwyr gefnogaeth o ran sut mae'r Model Cymdeithasol o Anabledd wedi'i wreiddio drwy’r cynllun cyfan, gan gydnabod bod hwn yn sylfaen ar gyfer newid ystyrlon yng Nghymru. Dywedodd un ymatebydd ei fod yn hanfodol er mwyn newid agweddau, chwalu rhwystrau systematig a mynd i'r afael â rhagfarnau diarwybod /ymwybodol mewn cymdeithas. Roedd yr ymatebydd hwn yn cynnig newid y pwnc ‘Gwreiddio a Deall y Model Cymdeithasol o Anabledd’ yn ‘Model Cymdeithasol o Anabledd a Hawliau Dynol’ er mwyn bod yn fwy clir ynglŷn â hawliau pobl anabl yng Nghymru a sut y bydd y cynllun yn ceisio mynd i'r afael â nhw. 

Mynegodd grŵp ffocws o fenywod ag amhariadau anweladwy wybodaeth gyfyngedig am eu hawliau a'r Model Cymdeithasol, gan annog Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gallai ei negeseuon gryfhau perthnasedd y Model Cymdeithasol ymysg y rheini sy'n byw gyda chyflyrau iechyd anweladwy hirdymor, cyfnewidiol a rheolaidd fel bod y grŵp hwn o’r boblogaeth a grwpiau anabl eraill yn fwy hyderus wrth gyfeirio at y model hwn, gan gynnwys yng nghyd-destun ymyrraeth a rheolaeth feddygol. 

Roedd yr ymatebwyr yn gwerthfawrogi ymgysylltiad pobl anabl o ran pennu'r pynciau a nodir yn y cynllun, drwy waith y Tasglu Hawliau Pobl Anabl. Roedd yr adborth yn awgrymu bod y pynciau'n weddol gynrychioliadol o'r materion y mae llawer o bobl anabl yn eu hystyried yn rhwystrau. 

Er bod y cynllun yn gynhwysfawr mewn sawl ffordd, roedd rhai ymatebwyr yn teimlo bod ystyriaethau pwysig y dylid naill ai eu cynnwys neu eu cryfhau o fewn y pynciau presennol. 

Roedd yr adborth yn awgrymu y gellid dweud mwy yn y cynllun i fynd i'r afael yn briodol â chroestoriadedd (e.e. hil, rhywedd, anabledd). Dylai'r cynllun gydnabod yn benodol y rhwystrau cyfunedig cymhleth a wynebir gan rai grwpiau, ac ymrwymo i fynd i'r afael â nhw mewn ffordd integredig sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Roedd yr adborth yn argymell bod angen i'r cynllun gael uchelgais strategol tymor hir cliriach a dangos sut y bydd yn addasu i dueddiadau yn y dyfodol, fel poblogaeth sy'n heneiddio, technolegau datblygol, ac anghenion iechyd a gofal sy'n newid argymhellwyd yn gryf y dylid ychwanegu pob un o'r rhain at y pynciau presennol. Byddai ychwanegu'r pynciau hollbwysig hyn yn sicrhau bod y cynllun yn cael ei ystyried drwy lens hirdymor ac ataliol sy'n greiddiol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Cwestiwn 4: ein camau gweithredu

Mae’r camau gweithredu tymor byr a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r cynllun yn nodi’r camau rydym ni am eu cymryd nawr. Bydd rhagor o gamau gweithredu gan lywodraethau'r dyfodol i'n helpu i gyflawni'r canlyniadau hirdymor.

Gofynnwyd i chi 

Rhowch wybod inni a ydych chi'n meddwl y bydd y camau gweithredu tymor byr hyn yn helpu i gyflawni'r canlyniadau hirdymor? A fydd y camau gweithredu hyn yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.

Fe ddywedoch chi 

Canlyniadau mesuradwy, atebolrwydd a thryloywder

“Rydyn ni’n falch gweld ffocws ar gymryd camau cynnar. Mae'n bwysig bod cynlluniau tymor byr yn cael eu llunio ar y cyd â phobl anabl, yn enwedig y rheini sy'n wynebu llawer o rwystrau. Mae Llais yn poeni efallai na fydd syniadau da yn arwain at newid go iawn heb ffyrdd cynhwysol o olrhain cynnydd a chael adborth gan bobl. Mae’n rhaid sicrhau bod amserlenni a strwythurau monitro cliriach ar waith i wneud yn siŵr bod y camau hyn yn cael eu holrhain a'u haddasu ar sail adborth pobl am eu profiadau.” 

Llais.

“Mae'r camau gweithredu tymor byr a amlinellir yn ddechrau cadarnhaol, ond bydd eu heffaith yn dibynnu ar weithredu. Rydym yn argymell amserlenni a mesurau atebolrwydd cliriach.”

Cyngor Dinas Casnewydd.

  • [Y camau gweithredu] nid yw pob un wedi'i gyfeirio tuag at gyflawni'r canlyniadau.
  • Rhaid iddynt [y camau gweithredu] fod yn fwy uchelgeisiol, canolbwyntio mwy ar gyflawni, a chyd-fynd yn well â brys y materion y mae pobl anabl yn eu hwynebu.
  • Mae gormod o bwyslais ar gwmpasu, adolygu a threialu, a dim digon ar welliannau pendant ar unwaith.
  • Byddem yn croesawu pwyslais parhaus yn y tymor byr a'r tymor hwy ar roi Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma ar waith, gan gydnabod y rhwystrau.
  • Nid yw’r camau’n mynd i’r afael â materion cyllido mewn gwirionedd.
  • Mae angen cyllid ac adnoddau digonol i sicrhau nad symbolaidd yn unig yw’r camau, ond eu bod yn arwain at newid go iawn.
  • Croesewir y camau ar fesurau economeg iechyd gan gynnwys Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd a Blynyddoedd Bywyd a Addaswyd yn ôl Anabledd sy'n effeithio ar y GIG.
  • Dylid blaenoriaethu camau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd, megis ei gwneud hi’n ofynnol i gyflogwyr yn y sector cyhoeddus adrodd a lleihau bylchau cyflog.
  • Mae angen cynnwys mesurau tymor byr penodol i gryfhau hawliau anabledd yn y gwaith, gan gynnwys ymgynghori ag undebau llafur.
Gwybodaeth a chynhwysiant
  • Rhaid i arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gael eu hystyried wrth gymryd camau tymor byr. Er enghraifft, mae cyflwyno dysgu llwybr carlam i ddysgwyr Iaith Arwyddion Prydain symud ymlaen i fod yn ddehonglwyr cofrestredig yn gam tymor byr a ddylai arwain at fwy o gapasiti yn y dyfodol.
  • Dymunir gweld targed sy’n cynnwys y Cynllun Gweithredu Tymor Byr sy'n ymwneud ag argaeledd ehangach deunyddiau Hawdd eu Deall.
  • Nid yw'r camau gweithredu tymor byr yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael ag allgáu digidol.
  • Mae diffyg cynllunio strategol i sicrhau bod darpariaeth i dderbyn plant anabl mewn lleoliadau Cymraeg. Dylid cymryd camau i fynd i’r afael â’r annhegwch hwn ar frys.
  • Ymgyrch Cartrefi Nid Ysbytai mae hwn angen ymateb ar frys gan Lywodraeth Cymru ac fe ddylid ei gynnwys fel cam gweithredu tymor byr.
  • Yn ogystal â chefnogi'r hyrwyddwyr cyflogaeth gwych, mae angen sicrhau bod rhywle i bobl fynd pan fyddant yn wynebu rhwystrau at waith.
  • Dylid blaenoriaethu camau gweithredu sy'n mynd i'r afael â'r bwlch cyflogaeth anabledd.
  • Dylid sefydlu cyd-gynhyrchu fel dull craidd.
Mynediad at gymunedau
  • Mynd i'r afael â'r heriau unigryw sy'n wynebu cefn gwlad Cymru, gan gynnwys teimlo'n ynysig, seilwaith cyhoeddus cyfyngedig, a thlodi trafnidiaeth.
  • Mae trafnidiaeth gymunedol hygyrch yn hanfodol mewn ardaloedd gwledig.
  • O ran lleoliadau, dylai pobl sy'n defnyddio cadair olwyn allu mynd i bob lleoliad cerddoriaeth.
  • I bobl ifanc sy'n defnyddio cadair olwyn, cael y cyfarpar cywir gan Wasanaethau Cadeiriau Olwyn y GIG yw'r prif sbardun i sicrhau cymaint o annibyniaeth, hyder a lles â phosibl.
  • Mwy o docynnau teithio ar gyfer pob anabledd cudd.
  • Dylid ystyried cam ychwanegol sy'n canolbwyntio ar bobl fyddar sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl.
  • Mae angen cynnwys gweithio gyda chymdeithasau tai fel un o'r prif ffactorau sy'n cyfrannu at ddarparu cartrefi hygyrch sydd wedi'u haddasu.
  • Dylid cymell cyrff cyhoeddus i weithio gyda'i gilydd i sicrhau trafnidiaeth briodol i bobl anabl.
  • Mae'r gofynion datblygu presennol ar gyfer pobl anabl yn teimlo'n ddigyswllt. Er enghraifft, lle mae angen darparu ystafell wlyb, ond efallai na fydd safonau gofod mewn cyntedd bob amser yn golygu bod defnyddiwr cadair olwyn yn gallu cael mynediad iddi, sy'n peri bod y ddarpariaeth o ystafell wlyb yn teimlo'n symbolaidd. 
Plant a phobl ifanc
  • Dylai’r cymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer gofal plant fod yn seiliedig ar anghenion y plentyn a’r lleoliad ac nid ar gymhwysedd y rhieni.
  • Cynnig Gofal Plant mae angen gweithredu ar frys i sicrhau bod allbwn yr adolygiad o’r Grant Cymorth Ychwanegol yn mynd i’r afael â’r bwlch hwn.
  • Mae angen i addysg fod yn flaenllaw yn y prosiect hwn, gyda phlant yn dysgu mai bod yn wahanol sy’n normal ac nad oes unrhyw ddau berson yr un fath.
  • Mae plant a phobl ifanc yn haeddu cyfleoedd i chwarae, cymryd rhan mewn chwaraeon, a chymdeithasu.
  • Dylid codi ymwybyddiaeth mewn ysgolion a cholegau i ddysgu mwy am anableddau cudd.

Crynodeb

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn croesawu cyflwyno dogfen camau gweithredu tymor byr, ac roeddent yn ystyried ei bod yn ddechrau da tuag at wella canlyniadau i bobl anabl. Pwysleisiodd llawer fod angen mesuriadau ac atebolrwydd clir i sicrhau bod cynnydd yn amlwg ac yn cael ei gynnal. Mynegwyd pryderon bod y cynllun yn dibynnu gormod ar ‘adolygu’ a ‘chyfeirio’ yn hytrach na chyflawni gwelliannau pendant ar unwaith. Ar ben hynny, tynnodd yr ymatebwyr sylw at bwysigrwydd atebolrwydd cryfach, eglurder ynghylch cyllid, ac adroddiadau tryloyw rheolaidd i olrhain cynnydd a chynnal effeithiolrwydd y cynllun.

Argymhellwyd yn gryf y dylid integreiddio'r model cymdeithasol o anabledd yn well, yn enwedig mewn lleoliadau iechyd a gofal, gyda galwadau i uwchsgilio gweithwyr proffesiynol a sefydliadau, ac i wreiddio'r model hwn ar draws pob agwedd ar waith datblygu polisïau a gwasanaethau.

Er bod yr adran ar gyflogaeth wedi’i chroesawu, roedd yr ymatebwyr wedi annog mwy o uchelgais, gan gynnwys targedau ar gyfer cau'r bwlch cyflogaeth anabledd, gwell polisïau recriwtio a chadw staff, ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth. Roedd pwyslais ar gefnogi gofalwyr di-dâl mewn cyflogaeth a sicrhau bod addasiadau rhesymol yn cael eu deall yn glir ac yn hygyrch. Roeddent yn eiriol dros gyd-gynhyrchu strategaethau, gan gynnwys pobl anabl a'u teuluoedd yn y gwaith o gynllunio, gweithredu ac adolygu pob cam gweithredu. Roedd galw i gynyddu faint o ddeunyddiau Hawdd eu Deall sydd ar gael, yn enwedig i gefnogi'r rheini sydd ag anableddau dysgu.

Tynnwyd sylw at ddiffyg tai hygyrch fel rhwystr parhaus, gyda galw i gynllunio ar draws sectorau, darparu llety mwy hygyrch (yn enwedig i'r rheini sy'n dianc rhag trais), a chynnwys pobl ag anableddau dysgu mewn strategaethau tai. Roedd yr ymatebwyr hefyd wedi galw am integreiddio safonau dylunio cynhwysol a chefnogaeth ar gyfer byw'n annibynnol, gan gynnwys adsefydlu arbenigol. Er bod rhai camau i'w croesawu, roedd yr ymatebwyr wedi rhybuddio y gallai uchelgeisiau ar gyfer diwygio tai fod yn afrealistig yn y tymor byr heb fuddsoddiad sylweddol a phartneriaethau traws-sector. Mae galw hefyd am well trefniadau casglu data, gwell gwybodaeth i ofalwyr di-dâl, a darpariaeth fwy cyson o addasiadau tai a chyfarpar.

Mae diffyg trafnidiaeth hygyrch, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol. Roedd yr adborth yn galw am gamau mwy pendant i fynd i'r afael â thrafnidiaeth gyhoeddus hygyrch, cymorth i gynorthwywyr personol, a dulliau cydgysylltiedig ar draws addysg, trafnidiaeth a gofal cymdeithasol. Pwysleisiodd yr ymatebwyr bwysigrwydd cynnwys pobl anabl yn y gwaith o ddylunio ac adolygu atebion trafnidiaeth, gan gynnwys ymgynghoriadau rheolaidd a gwybodaeth hygyrch mewn sawl fformat. 

Mae’r ymatebwyr yn croesawu'r ffocws ar fapio mannau parcio hygyrch a phaneli trafnidiaeth cynhwysol ond maent yn tynnu sylw at hepgoriadau fel diffyg manylion ynghylch diwygio bysiau a heriau â thrafnidiaeth wledig. Mae’r adborth yn pwysleisio'r angen am wybodaeth hygyrch, ymgynghoriadau rheolaidd a gwirioneddol gynhwysol, a hyfforddiant parhaus i staff sy'n cynnwys pobl sydd â phrofiad uniongyrchol o anabledd. 

Ystyrir bod addysg ac ymwybyddiaeth ar draws pob sector yn allweddol i gyflawni’r canlyniadau hirdymor. Mae’r ymatebwyr yn galw am newid diwylliannol mewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedau, gyda gwell ymwybyddiaeth o anabledd, mentrau gwrth-wahaniaethu, ac addysg gynhwysol. 

Roedd yr ymatebwyr yn awyddus i weld mwy o bwyslais ar atal, ymyrryd yn gynnar, a chasglu data dibynadwy, yn enwedig ynghylch pobl ag anableddau dysgu. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y dull croestoriadol yn addawol, yn enwedig o ran ei ymrwymiad i ymgynghori â phobl anabl o gymunedau Sipsi, Roma a Theithwyr, i ddeall a mynd i'r afael yn well â'u rhwystrau unigryw.

Nodwyd bylchau ychwanegol mewn meysydd fel addysg gynhwysol, cymorth cyflogaeth, a mynediad i leoliadau a mannau cyhoeddus. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod agweddau cymdeithasol yn cael eu llunio adeg plentyndod, sy’n golygu bod addysg gynhwysol yn hanfodol er mwyn sicrhau newid parhaol. Yn gyffredinol, er bod y cynllun tymor byr yn rhoi sylfaen dda, mae’n rhaid iddo ddatblygu i ganolbwyntio ar gyflawni, atebolrwydd, ac anghenion penodol pobl anabl yng Nghymru, yn enwedig y rheini sydd mewn cymunedau heb ddigon o adnoddau.

Cwestiwn 5: cymdogaethau a lleoedd

Mae ‘cymdogaethau a lleoedd’ yn cynnwys y themâu canlynol: teithio, tai a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.

Gofynnwyd i chi

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes ‘Cymdogaethau a Lleoedd’ yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi. 

Fe ddywedoch chi 

Canlyniadau 

“Mae'r canlyniad hwn yn cydnabod bod gwybodaeth hygyrch yn un o gonglfeini teithio annibynnol.”

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall.

“Nid yw hygyrchedd yn ymwneud ag adeiladau neu balmentydd yn unig, mae'n dechrau ac yn gorffen gyda'r gallu i deithio. Heb drafnidiaeth gwbl hygyrch, fforddiadwy a dibynadwy, gan gynnwys gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol, mae pobl anabl i bob pwrpas yn cael eu heithrio rhag cymryd rhan mewn cymdeithas.”

Sefydliad Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.

Tai a llety
  • Mae angen cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy a hygyrch, yn enwedig tai cymdeithasol.
  • Dylai pobl anabl gael hawliau cryfach i addasu eu cartrefi, gan gynnwys mewn fflatiau ac eiddo rhent.
  • Dylid cryfhau iaith Canlyniad 2. Awgrymodd yr ymatebwyr newid “argaeledd” i “cyflenwad ac argaeledd tai hygyrch”.
  • Byddai cofrestrau tai hygyrch yn welliant sylweddol ac mae eu cynnwys yn y Bil ar Ddigartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol i'w groesawu.
  • Mae angen mynd i'r afael â rhwystrau yn y sector rhentu preifat, gyda phryderon y gall troi allan “heb fai” atal neu rwystro addasiadau. Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu ymchwil i gael deall yn llwyr y galw heb ei fodloni am dai hygyrch a'r ddarpariaeth bresennol.
  • Gyda dim ond ffocws ar dai, trafnidiaeth a'r model cymdeithasol, bydd cymhlethdod y ffordd y mae cymunedau'n rhyngweithio ac yn ffynnu yn cael ei fethu, ynghyd â chyfleoedd sylweddol i fynd i'r afael â'r unigrwydd a'r arwahanrwydd sy'n wynebu pobl anabl a phobl ag anableddau dysgu ledled Cymru.
Trafnidiaeth a theithio
  • Dylid cyflwyno safonau hygyrchedd cenedlaethol ar gyfer trafnidiaeth, gan gynnwys cyhoeddiadau clyweledol, safleoedd bysiau hygyrch, palmentydd botymog, dulliau canfod y ffordd, ac arwyddion cyson.
  • Mae angen rhagor o fanylion am y Panel Teithio Aml-ddull Cynhwysol Pobl Anabl, gan gynnwys amserlenni, a sylwadau pobl anabl.
  • Dylid cysoni'r cynllun â'r polisi presennol, fel y dogfennau "Teithio i Bawb".
  • Dylid blaenoriaethu teithio cymunedol fel rhan greiddiol o system drafnidiaeth gynhwysol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae dibyniaeth ar wirfoddolwyr yn golygu bod llawer yn gaeth.
  • Gofynnwyd am wybodaeth hygyrch am fannau parcio Bathodyn Glas a mwy o leoedd parcio. Awgrymodd un ymatebydd gategorïau gwahanol o fathodynnau ar gyfer pobl ag amhariadau symudedd a'r rheini ag anableddau anweledig.
  • Dylai gweithredwyr fod â phrotocolau clir ar gyfer argyfyngau meddygol i helpu teithwyr sydd â chyflyrau hirdymor.
  • Dylid blaenoriaethu trafnidiaeth gymunedol fel adnodd craidd sy’n galluogi mynediad.
  • Er mwyn atal pobl sydd â chlefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn gael eu hallgáu’n gymdeithasol, mae'n hanfodol bod trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig mynediad da, cyfleusterau digonol, a gwybodaeth ddibynadwy.
  • Dylid cynnwys a yw toiledau ar gael a beth yw cost eu defnyddio, unrhyw doiledau sydd wedi cau’n annisgwyl, a hygyrchedd gwasanaethau bws neu fws moethus sydd yn lle trenau.
Mynediad a seilwaith
  • Mae diffyg ffocws ar allu defnyddio mannau yn y sector preifat fel siopau, lleoliadau lletygarwch, campfeydd, mannau addoli, a digwyddiadau diwylliannol.
  • Rhaid ymrwymo i amwynderau sylfaenol fel toiledau cyhoeddus, seddi cyhoeddus, llwybrau diogel, arwyddion clir, a mannau sy'n ystyriol o'r synhwyrau.
  • Dylid datblygu Ap sydd â lleoedd hygyrch i ymweld â nhw yng Nghymru, ar gyfer teithiau diwrnod sy'n addas i gadeiriau olwyn, ac argymhellion a gweithgareddau hygyrch i bobl anabl.
  • Dylid ystyried safonau dylunio a mynediad ar gyfer lleoedd sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus, gan gynnwys nodweddion i gefnogi pobl sydd wedi colli eu clyw a phobl niwroamrywiol.
  • Rhaid cael hyfforddiant ar y model cymdeithasol o anabledd, ochr yn ochr â hyfforddiant ymwybyddiaeth o fod yn fyddar a defnyddio technoleg gynorthwyol.
  • Ystyriwyd bod gwella sut roedd pobl Fyddar a Phobl Anabl yn cael eu gweld yn allweddol i fynd i'r afael â gelyniaeth a throseddau casineb.
  • Byddai'r canlyniadau'n cael eu cryfhau'n sylweddol drwy gydnabod yn benodol rôl cynhwysiant digidol o ran galluogi cyfranogiad llawn mewn bywyd lleol.

Crynodeb 

Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebion yn cytuno y gallai'r canlyniadau arfaethedig o dan 'Cymdogaethau a Lleoedd' helpu i leihau'r rhwystrau i bobl anabl, ar yr amod eu bod yn cael eu rhoi ar waith gydag amserlenni clir, targedau mesuradwy, a chydgynhyrchu ystyrlon. Tynnwyd sylw at atebion sy'n cael eu harwain gan y gymuned ac ymgysylltiad â phobl anabl, gan gynnwys plant a phobl ifanc, fel elfennau hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau'n adlewyrchu profiad bywyd. Dywedodd un sefydliad trydydd sector y dylid gwreiddio’r cydgynhyrchu mewn prosesau gwneud penderfyniadau. 

Roedd hyfforddiant ymwybyddiaeth ac ymgysylltu â'r gymuned yn cael eu hystyried yn eang fel ffyrdd o leihau stigma ac “ableddiaeth bob dydd”, gwella agweddau'r cyhoedd, a chreu cymdogaethau mwy diogel a chefnogol. Pwysleisiodd un ymatebydd y dylai pobl anabl gydlunio a darparu gweithgaredd o’r fath.

Roedd safbwyntiau cymysg am y model cymdeithasol o anabledd. Roedd y rhan fwyaf yn croesawu ei gynnwys, tra bod eraill yn dadlau y gallai osod disgwyliadau afrealistig pe bai'n cael ei ddefnyddio ar ei ben ei hun. Teimlai rhai ymatebwyr, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli pobl â salwch cronig a / neu salwch cyfnewidiol, fod angen mwy o gydbwysedd rhwng y modelau cymdeithasol a meddygol, gan gydnabod bod triniaeth feddygol yn flaenoriaeth i rai pobl anabl. Cafodd trafnidiaeth sylw sylweddol. Roedd ymatebwyr yn galw am gydnabod trafnidiaeth gymunedol fel rhan allweddol o system gynhwysol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ymhlith y rhwystrau a godwyd roedd fforddiadwyedd a phrisiau anghyson, dibyniaeth ar systemau di-arian, a swyddfeydd tocynnau ar gau. Pwysleisiwyd bod gwybodaeth hygyrch yn bwysig pan fydd rhywbeth yn amharu ar wasanaethau, ac mae llawer yn nodi agweddau negyddol ac ymwybyddiaeth gyfyngedig ymysg staff o amhariadau anweledig. Y tu hwnt i wasanaethau, pwysleisiodd ymatebwyr yr angen am strydoedd diogel a mannau cyhoeddus hygyrch, gan gynnwys palmentydd, toiledau, a seddi. 

Codwyd cynhwysiant digidol hefyd, yn enwedig mewn perthynas â thrafnidiaeth. Roedd nifer o ymatebion yn tynnu sylw at bwysigrwydd hygyrchedd digidol ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth, yn enwedig i bobl sydd ag amhariad ar y synhwyrau, anableddau gwybyddol, neu gyflyrau y mae straen a sefyllfaoedd anrhagweladwy yn effeithio arnynt. Amlinellodd un ymatebydd dystiolaeth anecdotaidd bod technoleg (fel sgriniau arddangos gweledol, neu gyhoeddiadau lle nad oes modd eu clywed) yn aml wedi torri ac nad yw'r broblem yn cael ei datrys yn gyflym. Awgrymodd ymatebydd arall y dylai pob ap teithio weithio gyda llais. Yn fwy cyffredinol, nodwyd bod angen i'r cynllun gyd-fynd â’r Strategaeth Ddigidol i Gymru a'r Strategaeth Ddigidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.

Codwyd materion yn ymwneud â pharcio a symudedd drwy drafod cynllun y bathodyn glas. Galwodd ymatebwyr am fwy o fannau parcio a gwybodaeth well. Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys categorïau gwahanol o fathodynnau ar gyfer amhariadau symudedd a chyflyrau anweledig, a mwy o hyblygrwydd i adlewyrchu anghenion cyfnewidiol. 

O ran tai, tynnodd ymatebwyr sylw at y diffyg cartrefi hygyrch ac addasadwy ledled Cymru, yn ogystal â phwysigrwydd tai sy’n cael eu dylunio gyda hygyrchedd mewn golwg, gwell amddiffyniad i denantiaid yn y sector rhentu preifat, a mwy o gysondeb â pholisïau presennol, gan gynnwys defnyddio'r Gofrestr Tai Hygyrch 

Yn olaf, roedd atebolrwydd yn thema gref. Roedd ymatebwyr am weld mesurau cynnydd cliriach, adroddiadau rheolaidd i’r cyhoedd, a phrosesau cryfach o ran gorfodi safonau hygyrchedd. Roedd un ymatebydd o'r farn bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull mwy beiddgar o reoleiddio drwy gaffael, trwyddedu, cynllunio, ac arolygu i sicrhau bod ymrwymiadau'n cael eu cyflawni'n ymarferol. 

Cwestiwn 6: cyflogaeth, incwm ac addysg 

Gofynnwyd i chi

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes ‘Cyflogaeth, Incwm ac Addysg’ yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi. 

Fe ddywedoch chi 

“Mae angen atebolrwydd cryfach, gwydnwch o ran incwm, cydymffurfiaeth ystyrlon gan gyflogwyr, a chymorth croestoriadol i sicrhau bod pobl anabl nid yn unig yn gallu cael mynediad at swyddi ac addysg ond hefyd yn gallu cynnal a datblygu mewn gyrfaoedd sy’n rhoi boddhad.”

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

“Mae'r canlyniadau hyn yn gadarnhaol mewn theori, gan hyrwyddo cynhwysiant ac ymrwymiad i leihau'r rhwystrau y mae pobl ag anabledd dysgu yn eu hwynebu. Ond, mae diffyg terfynau amser a chanlyniadau mesuradwy o hyd.”

Anabledd Dysgu Cymru.

Y gallu i gyflawni a mesur
  • Bydd y camau gweithredu tymor byr yn mynd yn ddigon pell o ran ein bod yn symud ymlaen, ac nid oes unrhyw gamau gweithredu tymor canolig / hirdymor manwl sy'n nodi sut bydd y canlyniadau uchelgeisiol hyn yn cael eu cyflawni.
  • Mae'n bwysig nad yw ymyriadau'n cael eu hyrwyddo heb dystiolaeth glir y byddant yn cyflawni'r canlyniadau a fwriedir, ar sail newidiadau gwirioneddol i gyfraddau cyflogaeth a chanlyniadau.
  • Credwn yn gryf fod yn rhaid i [gefnogaeth] fod [ar gyfer] cyflogaeth hirdymor sy'n rhoi digon o sefydlogrwydd ariannol a boddhad i bobl anabl. Mae ymchwil yn dangos bod cymaint â 50% o'r gwaith a wneir gan bobl anabl yn isel o ran cyflog, yn rhan-amser neu hyd yn oed yn waith tymor byr.
Llwybrau cynhwysol a chefnogaeth sy’n cael ei chydgynhyrchu
  • Mae'n bwysig bod polisïau cyflogaeth ac addysg yn cael eu cydgynhyrchu â phobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd, er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r rhwystrau yn y byd go iawn a wynebir yn y gweithle ac yn yr ysgol.
  • Rhaid i newidiadau gynnwys mannau cynhwysol, gyda dysgwyr anabl a dysgwyr nad ydynt yn anabl yn dysgu gyda'i gilydd, yn union fel y mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRPD) yn ei ragweld.
  • Mae angen gorfodi pobl i ddarparu lifftiau, rampiau a mynediad ffisegol er mwyn i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn allu cael mynediad at fusnesau fel defnyddwyr, ymwelwyr a gweithwyr.
  • Dylai canlyniadau gynnwys mesurau i sicrhau bod lleoliadau prif ffrwd a lleoliadau addysg bellach yn cefnogi dysgwyr ag anableddau dysgu, gan gynnwys drwy addysgu priodol, gwybodaeth hygyrch, a hyfforddiant staff.
  • Dylai'r canlyniadau gynnwys ymrwymiadau i lwybrau cofleidiol wedi'u cydgynhyrchu sy'n cwmpasu cyflogaeth, gofal cymdeithasol, addysg, a budd-daliadau.
  • Er bod iechyd meddwl yn cael ei grybwyll, gallai'r cynllun wneud mwy i fynd i'r afael ag anghenion penodol pobl niwrowahanol, gan gynnwys cael diagnosis, cymorth mewn addysg a chyflogaeth, a gwasanaethau iechyd meddwl wedi'u teilwra.
  • Un o'r prif themâu oedd diffyg addasiadau rhesymol yn y gweithle.
Plant a phobl ifanc
  • Byddai’n dda gweld y rhan hon o'r cynllun yn cael ei chysylltu'n uniongyrchol â'r gwaith sy'n mynd rhagddo o ran cyflwyno'r cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthnasau. Bydd adnoddau, cynnwys ac arddulliau cyflwyno gwahaniaethol yn hanfodol i lwyddiant y gwaith hwn, a bydd y cysylltiad rhwng y ddau ddarn o ganllawiau yn sicrhau nad ydynt yn cael eu datblygu na'u rhoi ar waith ar eu pen eu hunain.
  • Dylid datblygu a chyhoeddi canllawiau cenedlaethol ar frys ar gyfer gwasanaethau lleol i wreiddio therapi llafar clywedol o fewn y strwythurau cymorth presennol, gan sicrhau bod teuluoedd plant byddar ledled Cymru yn cael yr un mynediad.
  • Dylid buddsoddi £80,000 bob blwyddyn am 10 mlynedd i hyfforddi cyfran fach o weithlu presennol y sector, therapyddion iaith a lleferydd, athrawon plant a phobl ifanc Fyddar, ac Awdiolegwyr, i fod yn therapyddion Llafar Clywedol ardystiedig i helpu i gau'r bwlch mewn canlyniadau addysgol a chymdeithasol i blant.
  • Dylai'r cynllun gael gwell cysylltiadau â'r cynllun Bywydau Plant Anabl yng Nghymru: Ein gwaith a’n heffaith eleni (1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025).
  • Dylid ymestyn cylch gwaith y Comisiynydd Plant i gynnwys plant a phobl ifanc anabl hyd at 21 oed o leiaf, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn derbyn cefnogaeth briodol yn ystod y cyfnod anodd hwn mewn bywyd.
  • Gwelwyd anghysondebau rhwng ardaloedd ar gyfer cefnogaeth i Gydlynwyr AAA.
  • Mae angen rhywbeth am fynediad o flynyddoedd cynnar iawn gan gynnwys lleoliadau gofal plant a meithrinfeydd.
Trafnidiaeth a chefn gwlad
  • Rhaid integreiddio trafnidiaeth hygyrch, yn hytrach na’i bod yn rhywbeth ynysig. Yn syml iawn, nid yw cyflogaeth ac addysg yn bosibl heb drafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy. Rhaid i hyn gynnwys darpariaeth trafnidiaeth a arweinir gan y gymuned nid trafnidiaeth gyhoeddus gonfensiynol yn unig.
  • Rhaid i'r cynllun sicrhau nad yw trafnidiaeth yn cael ei thrin fel mater ar ei ben ei hun, ond yn hytrach fel rhywbeth sydd wedi'i wreiddio ar draws pob thema, gan gynnwys yma.
  • Mae trafnidiaeth a hygyrchedd yn rhwystrau mawr. I lawer, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, roedd yr her o fynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith yn golygu bod cyflogaeth yn anymarferol.
  • Ac ystyried bod llawer o Gymru yn wledig ei natur, un o'r rhwystrau mwyaf sylweddol i lawer o bobl sydd â syndrom Down neu anableddau dysgu eraill rhag cael cyflogaeth â thâl yw diffyg system trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gyda thrafnidiaeth addas yn rhedeg ar adegau pan fydd angen i bobl deithio yn ôl ac ymlaen i'r gwaith.
  • Dylid cydnabod bod staff yn chwarae rôl hollbwysig wrth drawsnewid diwylliannau cynhwysol mewn sefydliadau Addysg Bellach ac Uwch.
  • Dylid casglu data am bobl anabl a gweithwyr hŷn anabl (yn benodol) yn y sector hwn drwy edrych ar ddiswyddiadau gwirfoddol yn ddiweddar.
  • I bobl sydd wedi colli eu golwg, mae heriau gyda Theithio’n Annibynnol. 

Crynodeb

Yn gyffredinol, roedd ymatebwyr yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau systemau addysg a chyflogaeth cynhwysol. Disgrifiwyd canlyniadau fel rhai sy'n cael eu harwain gan dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar feysydd allweddol lle mae pobl anabl yn parhau i wynebu anghydraddoldeb strwythurol sydd wedi ymwreiddio, gyda'r potensial i sbarduno newid ystyrlon. Roedd cefnogaeth benodol i'r pwyslais ar sicrhau bod cyflogwyr ac addysgwyr yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cyfreithiol a hawliau pobl anabl, yn ogystal â bod y Cynllun yn cydnabod pwysigrwydd gwreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn strwythurau cymdeithasol a chydgynhyrchu. Mynegodd ymatebwyr bryderon ynghylch y diffyg mecanweithiau gorfodi ac atebolrwydd yn y Cynllun. 

Ar ben hynny, galwodd ymatebwyr am i’r Cynllun wreiddio egwyddorion partneriaeth gymdeithasol, gan sicrhau bod gan bobl anabl rôl uniongyrchol yn y gwaith o ddylunio systemau hyfforddi a gweithleoedd hygyrch. Roeddent yn cynnig creu Is-grŵp Cydraddoldeb i gynrychioli pobl anabl a grwpiau eraill sydd â nodweddion gwarchodedig. Byddai'r grŵp hwn yn cydgynhyrchu canllawiau i hyrwyddo a gwreiddio arferion cyflogaeth cadarnhaol mewn contractau caffael cyhoeddus, gan gynnwys gofynion ynghylch addasiadau rhesymol a data cyflogaeth pobl anabl, a ddylai, yn eu barn nhw, gael eu hymgorffori yng nghamau gweithredu tymor byr y Cynllun.

Er bod y cynllun yn cyfeirio at recriwtio cynhwysol, roedd rhai ymatebwyr am weld hyn yn cael ei fabwysiadu’n orfodol ar draws sectorau, wedi'i atgyfnerthu drwy strategaethau caffael cyhoeddus sy'n defnyddio gwariant y llywodraeth i orfodi safonau hygyrchedd a thegwch. Ar ben hynny, pwysleisiodd yr ymgynghoriad yr angen i orfodi hawliau cyflogaeth yn gryfach, gan gynnwys addasiadau rhesymol ac amddiffyniad rhag gwahaniaethu, gan sicrhau bod dyletswyddau cyfreithiol yn cael eu cynnal yn weithredol.

Beirniadwyd y Cynllun Hyderus o ran Anabledd am ganolbwyntio ar arferion lle mae’r sefydliadau’n cofnodi eu hunain yn hytrach nag ar ganlyniadau mesuradwy, ac roedd galwadau i ddiwygio ei feini prawf ardystio. Soniodd ymatebwyr am brofiadau cadarnhaol o'r cynllun Mynediad i Waith, gan ddweud bod y cymorth a roddwyd drwyddo wedi datrys rhai o'r heriau a wynebwyd. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon ynghylch toriadau arfaethedig i'r cynllun a sut y gallai fod dan fygythiad, yn ogystal â'r ôl-groniadau sylweddol a wynebir ar hyn o bryd. 

Roedd galwadau i ehangu rhaglenni cyflogaeth â chymorth a hyfforddiant mewn swyddi, a mapio cynlluniau cymorth presennol mewn cyflogaeth i asesu pa mor hygyrch ac effeithiol ydynt. Ar ben hynny, roedd galw am fwy o gefnogaeth i lwybrau entrepreneuriaeth a hunangyflogaeth, gan gydnabod pwysigrwydd opsiynau gwaith hyblyg ac annibynnol i bobl anabl.

Roedd galw hefyd i gydnabod nad yw rhai unigolion, yn ogystal â'r teuluoedd a'r gofalwyr sy'n eu cefnogi, mewn sefyllfa i weithio, ac efallai na fyddant byth. I'r gymuned hon, y mae ei hanghenion yn aml yn fwy cymhleth, rhaid deall bod cymorth yn sylfaenol wahanol i lwybrau i addysg neu gyflogaeth.

Ym maes addysg, roedd yr ymatebwyr yn croesawu uchelgais gynhwysol y Cynllun ond yn pwysleisio'r angen i gryfhau'r gydnabyddiaeth bod addysg gynhwysol yn hawl gyfreithiol. Fe wnaethant argymell gwahaniaethu'n glir rhwng addysg gynhwysol–dull system gyfan lle mae ysgolion yn cael eu cynllunio i ddarparu ar gyfer pob dysgwr–a chynhwysiant mewn addysg, sy'n aml yn rhoi plant anabl mewn lleoliadau prif ffrwd heb y gefnogaeth, y gwerthoedd, na'r strwythurau angenrheidiol i sicrhau cyfranogiad ystyrlon. 

Roedd galwadau i wrthdroi tueddiadau gwahanu a sicrhau bod dysgwyr anabl yn cael eu haddysgu ochr yn ochr â'u cyfoedion, gyda chyrsiau wedi'u cynllunio ar gyfer amrywiaeth o alluoedd ac achrediadau hyblyg. Fe wnaeth yr ymatebwyr argymell hefyd y dylid cysoni'r Cynllun â chanllawiau a mentrau presennol sydd eisoes yn bodoli, fel Bywydau Plant Anabl yng Nghymru a darparu'r cwricwlwm Addysg Rhyw a Chydberthnasau, gan sicrhau bod datblygiad pob un yn gysylltiedig ac nad ydynt yn cael eu datblygu ar eu pen eu hunain.

Galwodd ymatebwyr hefyd am ganlyniadau penodol ar addysg gynnar, gan gynnwys lleoliadau gofal plant a meithrinfeydd, i sicrhau bod plant anabl yn cael eu cefnogi i ddeall eu hymreolaeth, eu hawliau, a'u hanghenion o oedran ifanc. Roedd yr argymhellion ehangach yn cynnwys cryfhau'r cymorth pontio o'r ysgol i gyflogaeth, gwella hyfforddiant athrawon ar y model cymdeithasol o anabledd, a mynd i'r afael â'r angen am addysgwyr sy'n arbenigo mewn Iaith Arwyddion Prydain ac awtistiaeth. 

Tynnwyd sylw at bwysigrwydd mynediad at lwyfannau dysgu digidol cynhwysol, ynghyd â'r angen am gymorth wedi'i deilwra ar gyfer dysgwyr niwrowahanol, y rheini sydd â gwahaniaethau neu amhariadau heb fod yn weladwy, ac unigolion sydd â chyflyrau cyfnewidiol.

Roedd galwadau ychwanegol yn cynnwys gwreiddio therapïau fel therapi Llafar Clywedol mewn gwasanaethau lleol i wella mynediad i blant byddar, ymestyn cylch gwaith y Comisiynydd Plant i gynnwys pobl ifanc anabl hyd at o leiaf 21 oed, a mynd i'r afael ag anghysondebau yng nghefnogaeth i Gydlynwyr AAA ar draws rhanbarthau.

Roedd adborth mewn cysylltiad ag incwm yn rhoi sylw penodol ar gyfathrebu cliriach ynghylch budd-daliadau lles, mwy o gydnabyddiaeth o’r costau ychwanegol o fod yn anabl, a gwell mynediad at gyngor a chymorth ariannol. Roedd ymatebwyr yn annog Llywodraeth Cymru i eiriol dros bobl anabl mewn diwygiadau lles ledled y DU ac i sicrhau bod budd-daliadau a chynlluniau cymorth yn hygyrch, yn cael eu hysbysebu'n dda, ac yn hawdd eu defnyddio. 

Yn olaf, mae'r argymhellion trawsbynciol yn cynnwys gwella hygyrchedd trafnidiaeth mewn ardaloedd gwledig, cynhwysiant digidol, a sicrhau hyfforddiant ymwybyddiaeth o anabledd ar draws sectorau. Tynnwyd sylw hefyd at bryderon ynghylch defnyddio terminoleg benodol, fel anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a oedd, ym marn rhai, yn adlewyrchu iaith model meddygol sy'n seiliedig ar ddiffygion ac yn anghyson â'r Ddeddf Cydraddoldeb. Yn gyffredinol, roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn tynnu sylw at yr angen am ddull cydgysylltiedig sydd wedi'i gydgynhyrchu ac y mae modd ei orfodi a fydd yn sicrhau newid ystyrlon i bobl anabl yng Nghymru. 

Cwestiwn 7: byw’n annibynnol

Mae Byw’n Annibynnol yn cynnwys y themâu canlynol: llesiant ac iechyd, gofal a chymorth.

Gofynnwyd i chi

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes ‘Byw'n Annibynnol’ yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi. 

Fe ddywedoch chi

“Mae byw'n annibynnol yn golygu mwy nag aros gartref gyda phecyn gofal. Mae'n gofyn am yr hawl i ddewis ble i fyw a sut, pwy sy'n darparu cefnogaeth i chi, a sut mae eich bywyd bob dydd wedi'i strwythuro. Dylai'r canlyniadau bwysleisio pwysigrwydd cynlluniau cymorth wedi'u cydgynhyrchu, cyllidebau hyblyg, a newid go iawn mewn pŵer tuag at bobl anabl.”

Dienw.

“...mae ffordd bell i fynd o ran sicrhau bod gan ddarparwyr gwasanaethau cymorth yr adnoddau priodol i ddiwallu anghenion amrywiol a chroestoriadol. Mae hyn yn cynnwys cyllid digonol er mwyn i wasanaethau allu parhau i weithredu, a bod gweithwyr rheng flaen yn gallu cael eu talu'n deg am y gwaith maen nhw'n ei wneud sy'n newid bywydau.”

Cartrefi Cymunedol Cymru.

Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Gall dechrau colli golwg achosi problemau iechyd meddwl i rywun sydd ag amhariad ar y golwg, felly mae'n bwysig bod cymorth iechyd meddwl ar gael.
  • Dylid ychwanegu rhywbeth am y blynyddoedd cynnar a sôn eto am gefnogi rhieni a gofalwyr i helpu eu plant gyda chwarae a hamdden.
  • Dylid adlewyrchu'r angen am systemau ymatebol, y gellir eu haddasu nad ydynt yn gorfodi pobl i ymgeisio dro ar ôl tro am yr un cymorth neu wynebu colledion cyllid 'sydyn a llym' yn ystod cyfnodau pontio (er enghraifft, o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion).
  • Yn ymwneud â Chanlyniad 3 ‘polisi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy'n canolbwyntio ar hawliau’, nid oes targed ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae'r canlyniad yn ymrwymo i'r gwaith hwn mewn Byrddau Iechyd a Chyrff GIG Cymru yn unig, ond gyda'r canlyniad cyffredinol o ‘hyrwyddo hawliau pobl anabl ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a byw'n annibynnol’.
  • Dylid cydnabod yr angen dybryd i fynd i'r afael â recriwtio a chadw'r gweithlu, yn enwedig mewn cymunedau gwledig a chymunedau Cymraeg eu hiaith.
  • I bobl â dementia, mae cael staff gofal cymdeithasol sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn golygu gwelliannau yn ansawdd eu bywyd o ddydd i ddydd, ac mewn llawer o achosion gostyngiad yn y defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig ac ataliaeth gorfforol, gyda staff yn gallu darparu dulliau iachach a mwy moesegol o gefnogi aflonyddwch.
  • I bobl â dementia, mae cael diagnosis cynnar yn hollbwysig.
  • Mae angen ymrwymo i wella cynllunio at argyfyngau a threfniadau ymateb i argyfwng ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y rheini sydd â chyflyrau fel epilepsi, mewn lleoliadau cymunedol, lleoliadau hamdden, a gwasanaethau cyhoeddus.
Tai a llety
  • Mae angen cynyddu nifer y lleoedd byw â chymorth sydd ar gael i bobl ag anabledd dysgu, gan gynnwys pobl sydd â syndrom Down.
  • Dylid ymateb i'r rheini sy'n cael eu lletya'n amhriodol mewn ysbytai gyda threfniadau byw â chymorth priodol yn y gymuned.
  • Mae angen gwasanaethau priodol yn y gymuned, gan leihau'r ddibyniaeth ar gadw pobl mewn sefydliadau.
  • Dylid parhau i ddarparu mannau diogel a chyfleoedd cymorth i bobl ifanc ag anghenion ychwanegol ac anableddau, gan gynnwys ar ôl pump ar hugain oed.
  • Mae mynediad at dai addas yn dal i fod yn rhwystr mawr i bobl awtistig.
  • Mae Taliadau Uniongyrchol yn bwysig ond mae angen gwneud llawer o waith i sicrhau eu bod yn gwneud yr hyn maent wedi'u cynllunio i'w wneud.
  • Byddai gweithredu i adolygu a gwella darpariaeth tai hygyrch gan gynnwys eiddo wedi'i addasu ac opsiynau byw â chymorth, yn llenwi bwlch presennol yn y thema hon.
Cyfathrebu a chynhwysiant
  • Nid yw'r canlyniad cyfathrebu cyfartal yn sôn am fathau eraill o gyfathrebu heblaw'r Gymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain.
  • Mae cynhwysiant digidol yn hollbwysig i fyw bywyd annibynnol modern.
  • Mae angen mwy o ymwybyddiaeth a hyrwyddo'r cyfleoedd a'r gweithgareddau sydd ar gael i bobl ifanc anabl a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol.
  • Dylid hyrwyddo dysgu braille, a dylid ei ddarparu fel ffordd o gyfathrebu.
  • Mae angen gwella dulliau cyfathrebu cwmnïau cyfleustodau ac Iechyd, er enghraifft, ar gyfer pobl sydd wedi colli eu golwg.
  • Nid oes digon o bobl i roi cyngor a chefnogaeth i unigolion; mae technoleg yn her i'w defnyddio a'i dysgu; ac nid oes digon o gefnogaeth na hyfforddiant i bobl sydd wedi colli eu golwg.
  • Mae angen i lythyrau gan ysbytai fod mewn print bras.
  • Mae angen cynnwys Gwasanaethau Digidol ac Ar-lein ar gyfer Cyfranogiad Diwylliannol a Chymdeithasol.
  • Dylid cyfeirio at yr angen i wasanaethau fodloni safonau hygyrchedd a chefnogi cyfranogiad pobl anabl mewn mannau ar-lein.
  • Yng nghanlyniad 3, byddem yn annog ymrwymiad cliriach i gydgynhyrchu fel cysyniad sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio'n eang mewn rhannau o'r sector cyhoeddus i ychwanegu mwy o ddiffiniad at y canlyniad hwn.
  • Byddai Canlyniad 5 yn cael ei gryfhau gyda chyfeiriad clir at gydgynhyrchu fel cysyniad ac ymddygiad.
  • Mae sefydlu bwrdd cynghori allanol yn cynnig dull pwysig ar gyfer cynnal prosesau goruchwylio, atebolrwydd, ac arweinyddiaeth drwy brofiad go iawn wrth roi'r cynllun ehangach ar waith.
Sgiliau a hyfforddiant staff 
  • Mae angen darparu hyfforddiant i ddarparwyr gofal cartref a gweithwyr gofal cymdeithasol.
  • Mae angen eiriolaeth a newid systemig pendant i fynd i'r afael â'r dioddefaint a'r gwahaniaethu y mae pobl awtistig yn eu hwynebu ac y gellid ei osgoi.
  • Mae angen gwella mynediad at hyfforddiant a chymorth ar gyfer sgiliau byw’n annibynnol, fel defnyddio technoleg a sicrhau diogelwch personol yn y cartref.
  • Dylid ehangu addysg a chyrsiau ar reolaeth ariannol a chyllidebu ar gyfer pobl ifanc, yn enwedig ar gyfer y rheini sy'n symud i fyw'n annibynnol.
  • Mae [angen] mwy o ymwybyddiaeth ac mae hyfforddi staff i gynghori ac asesu pobl sydd wedi colli eu golwg yn hanfodol.
  • Mae angen symud ymlaen yn y fframwaith tâl a dilyniant. Mae angen ymdrechion parhaus i hyrwyddo'r sector gofal cymdeithasol fel llwybr gyrfa deniadol yma yng Nghymru.
Cyllid ac adnoddau
  • Mae angen cymorth ariannol i barciau cenedlaethol addasu i fod yn hygyrch i bawb. Ni ddylai bod angen grwpiau a gofalwyr i gael mynediad at fannau yn yr awyr agored.
  • Ni fydd modd cyflawni'r un o'r canlyniadau oni bai fod gweithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy ar gael, sy'n cael ei dalu'n deg ac wedi'i hyfforddi'n dda.
  • Dylid gwarantu hawl i fyw'n annibynnol, gyda digon o gyllid ar gyfer gofal cymdeithasol.
  • Byddai isafswm incwm yng Nghymru ar gyfer byw'n annibynnol yn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol, sy'n arbennig o amlwg rhwng grwpiau pobl anabl a grwpiau pobl nad ydynt yn anabl.
  • Dylid cydnabod bod byw'n annibynnol hefyd yn dibynnu ar drafnidiaeth fforddiadwy a hygyrch ac opsiynau tai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
  • Mae gwreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd mewn prosesau gwerthuso grantiau a phrosiectau yn ffordd bwysig o sicrhau bod cynlluniau a ariennir yn mynd i'r afael â rhwystrau cymdeithasol ac amgylcheddol, yn hytrach na chanolbwyntio ar amhariadau unigolion yn unig.
  • Mae angen blaenoriaethu trawsnewid gwasanaethau strôc yn y Rhaglen Lywodraethu nesaf, gyda chyllid penodol, diweddaru safonau gwasanaeth, a chymorth traws-sector ar gyfer bywyd ar ôl strôc.
  • Mae angen ariannu cymorth iechyd meddwl arbenigol wedi'i deilwra ar gyfer y sawl sy’n goroesi strôc a'u teuluoedd, gan adlewyrchu effaith seicolegol benodol strôc.
Hamdden, chwaraeon, a diwylliant
  • Mae angen gweithio gyda sefydliadau diwylliannol, treftadaeth, chwaraeon a hamdden i wella mynediad ffisegol a rhaglenni cynhwysol i bobl anabl gymryd rhan mewn bywyd cymunedol a diwylliannol.
  • Rhan o fyw'n annibynnol yw cael mynediad at y celfyddydau a diwylliant (hawl ddynol). Dylai hyn gael ei gynnwys.
  • Dylid hyrwyddo ymwybyddiaeth o anableddau cudd mewn lleoliadau hamdden a lleoliadau diwylliannol.
  • Byddai ymgorffori cynlluniau codi ymwybyddiaeth ar gyfer darparwyr diwylliannol, hamdden a chwaraeon ar anableddau cudd, gan gynnwys cyflyrau fel epilepsi, sensitifrwydd synhwyraidd, a niwrowahaniaeth, yn helpu i sicrhau gwasanaethau mwy cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Crynodeb

Pwysleisiodd ymatebwyr fod angen mwy na dim ond mynediad at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn i bobl anabl fyw’n annibynnol. Fe wnaethant dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol trafnidiaeth a thai fforddiadwy a hygyrch, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gan dynnu sylw at y ffaith na all pobl anabl gymryd rhan ym mywyd y gymuned heb y cymorth gofal cymdeithasol cywir. Nodwyd bod diffyg mannau byw â chymorth, yn enwedig i bobl ag anableddau dysgu a'r rheini sy'n datblygu i fod yn oedolion, yn rhwystr sylweddol, gyda llawer o bobl yn gorfod aros yn hir neu gael eu lleoli’n amhriodol mewn ysbytai.

Ar ben hynny, roedd ymatebwyr yn galw am fwy o gydnabyddiaeth a hyfforddiant i ddarparwyr gofal cymdeithasol, gan nodi eu rôl hollbwysig o ran cefnogi pobl anabl ledled Cymru. Fe wnaethant bwysleisio'r angen am weithlu gofal cymdeithasol cynaliadwy, wedi'i hyfforddi'n dda ac yn cael ei dalu'n deg, gan roi sylw penodol i heriau recriwtio a chadw staff mewn cymunedau gwledig a chymunedau Cymraeg. Roeddent hefyd yn eiriol dros gynnwys ymrwymiad i isafswm incwm yng Nghymru ar gyfer byw'n annibynnol, gan ystyried bod hyn yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n wynebu pobl anabl.

Roedd galw cryf am systemau cymorth ymatebol y gellir eu haddasu sy'n cydnabod cyflyrau iechyd cyfnewidiol, fel nad yw pobl anabl yn gorfod wynebu ailasesiadau dro ar ôl tro na cholli cyllid yn sydyn yn ystod cyfnodau pontio. Roedd ymatebwyr yn gofyn bod yn rhaid i ganlyniadau polisi gofal gynnwys targedau clir ar gyfer gofal cymdeithasol a chysylltiadau cryfach â phrosesau datblygu'r gweithlu a chamu ymlaen mewn gyrfa, gan sicrhau bod hawliau ac urddas pobl anabl yn parhau i fod yn ganolog.

Nododd ymatebwyr fod y meysydd hyn yn ganolog i lesiant, hunaniaeth, a bywyd cymunedol pobl anabl. Roedd cyfathrebu hygyrch yn thema ganolog arall, gyda galwadau am fformatau hygyrch gorfodol ar gyfer deunyddiau hyrwyddo, systemau archebu, a gwybodaeth i'r cyhoedd. Pwysleisiodd ymatebwyr fod angen cyfathrebu'n effeithiol drwy ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain, dulliau cyfathrebu fel fformat Hawdd ei Ddeall, a hygyrchedd digidol ond nid fel ‘ychwanegiad’.

Daeth comisiynu croestoriadol a dealltwriaeth ehangach o hygyrchedd i'r amlwg fel blaenoriaethau, gyda llawer yn pwysleisio y dylai hygyrchedd fod yn berthnasol i niwrowahaniaeth ac amhariadau neu wahaniaethau anweledig. Roedd galwadau ar gomisiynwyr i gynnwys y rheini sydd â phrofiad go iawn mewn gwneud penderfyniadau, ac i fynd i'r afael â'r risgiau penodol sy'n wynebu oedolion agored i niwed, fel camfanteisio ac ansicrwydd o ran tai. 

Cwestiwn 8: cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol

Mae cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol yn cynnwys y themâu canlynol: mynediad at gyfiawnder ac amgylcheddau hygyrch a chefnogol.

Gofynnwyd

A fydd y canlyniadau arfaethedig a nodir o dan faes ‘Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol’ yn helpu i leihau'r problemau a'r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu? Beth, os oes rhywbeth, y dylid ei ychwanegu at y canlyniadau hyn, neu ei dynnu ohonynt? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi.

Fe ddywedoch chi

“Mae TUC Cymru yn cefnogi cynnwys cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol... Mynegodd cyfranogwyr yn ein trafodaeth bryderon difrifol am y diffyg atebolrwydd a’r dulliau gorfodi ar draws pob sector. Heb y rhain, dim ond mewn theori y mae hawliau'n bodoli, ac nid mewn gwirionedd.”

TUC Cymru.

Atebolrwydd a gorfodi
  • Rhaid i'r ddarpariaeth gael ei harwain gan Sefydliadau Pobl Anabl i sicrhau bod profiad bywyd go iawn yn ganolog.
  • Mae'r canlyniadau yn y cynllun yn uchelgeisiol ond nid oes modd eu gorfodi. Heb ddyletswyddau a chanlyniadau clir, ni fydd newid yn digwydd.
  • Mae mynediad at gymorth cyfreithiol yn annigonol. Mae cau llysoedd a'r angen am deithio’n bell yn creu rhwystrau sylweddol o ran cyfiawnder.
  • Mae angen cryfhau rôl y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Dylid cyflwyno systemau adrodd, arolygiadau, a mecanweithiau gwneud iawn sy’n dryloyw ar gyfer cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau.
Eiriolaeth
  • Mae eiriolaeth yn hanfodol i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad ystyrlon at gyfiawnder. Rhaid i hyn gael ei weld fel hawl yn hytrach na gwasanaeth dewisol.
  • Rhaid cael eiriolaeth hygyrch, gyda digon o adnoddau ar draws anghydfodau sy’n ymwneud â chyflogaeth, tai, apeliadau gofal cymdeithasol, a gweithdrefnau cyfreithiol.
  • Heb eiriolaeth, mae pobl anabl a'u teuluoedd yn gorfod “brwydro yn erbyn system nad yw wedi'i chynllunio i'w cefnogi.”
  • Rhaid gwarantu cymorth cyfathrebu ac eiriolaeth i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad ystyrlon at weithdrefnau cyfreithiol.
Data, mesur a gwerthuso
  • Mae'r data presennol yn dameidiog, yn anghyson neu ar goll yn gyfan gwbl, yn enwedig o ran profiadau pobl anabl mewn carchardai ac ar draws y system gyfiawnder.
  • Mae angen dangosfwrdd data cyfiawnder, gyda data wedi'i ddadgyfuno ar ganlyniadau llysoedd, erlyniadau am droseddau casineb, a phoblogaeth carchardai, wedi'i ddadansoddi yn ôl math o anabledd a nodweddion eraill.
  • Roedd galwadau hefyd am ddefnyddio Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn well.
Diogelu
  • Nid yw diogelu o fewn y canlyniadau wedi'i ddatblygu'n ddigonol a rhaid ei wneud yn fwy gweladwy ac eglur.
  • Yn aml, nid yw pobl anabl yn gallu cael mynediad at brosesau diogelu, naill ai oherwydd nad yw systemau'n cael cyhoeddusrwydd, nad ydynt yn hygyrch, neu nad yw pobl yn ymddiried ynddynt.
  • Rhaid cael prosesau diogelu hygyrch sydd wedi'u hysbysebu'n dda y gall pobl anabl ddibynnu arnynt.
  • Dylai systemau diogelu hefyd ehangu eu cwmpas i gynnwys meysydd fel cogio troseddol, caethwasiaeth fodern, a cham-drin domestig.
Rhwystrau systemig a strwythurol
  • Mae gwahaniaethu a rhwystrau systemig sydd wedi ymwreiddio yn parhau i fod yn broblem fawr, gyda llawer yn teimlo bod y system wedi'i llunio i'w heithrio yn hytrach na'u cefnogi.
  • Mae'r canlyniadau'n cael eu hystyried yn rhy gyfyngedig a bod yr hawliau'n bodoli “mewn theori, nid mewn gwirionedd.”
  • Mae diffyg ymddiriedaeth mewn prosesau cyfiawnder, gydag oedi o ran penderfyniadau, systemau cwyno anhygyrch, ac ymatebion diystyriol i droseddau difrifol.
  • Mae angen diwygio mwy uchelgeisiol i fynd i'r afael â sefydliadau a diwylliant, nid dim ond gwasanaethau unigol.
  • Nid oes llawer o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd ynghylch cam-drin pobl anabl yn systemig, gan bwysleisio'r angen am fwy o addysg i helpu pobl i adnabod hyn a'i herio.
Croestoriadedd
  • Rhaid i wasanaethau roi cyfrif gweithredol am brofiadau croestoriadol.
  • Rhaid i'r cynllun hwn gyd-fynd â chynlluniau eraill Llywodraeth Cymru fel Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+, a Chynllun Gweithredu HIV.
  • Mae pobl anabl sy'n LHDTC+, sydd o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, neu sy'n byw mewn tlodi yn wynebu nifer o rwystrau, ac mae'n rhaid eu cydnabod a mynd i'r afael â nhw.

Crynodeb

Yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn croesawu cynnwys cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol yn y cynllun drafft, gan gydnabod potensial hyn i fynd i'r afael â rhai o'r rhwystrau mwyaf dybryd sy'n wynebu pobl anabl. Fodd bynnag, fe wnaethant bwysleisio'r angen am fwy o atebolrwydd i sicrhau bod systemau'n cyflawni go iawn. Roedd yr argymhellion yn cynnwys mesurau perfformiad clir, adroddiadau tryloyw, dulliau gorfodi cadarn, a rolau arwain gwell fel Comisiynydd Anabledd. Gofynnwyd hefyd am gyhoeddi data cyfiawnder wedi'i ddadgyfuno yn rheolaidd i lywio polisïau ac olrhain cynnydd, gyda rhai'n awgrymu gwell defnydd o unedau tystiolaeth arbenigol Llywodraeth Cymru i gynhyrchu data o ansawdd uchel sy'n benodol i Gymru.

Roedd cefnogaeth gyson i ehangu a diogelu gwasanaethau eirioli, gyda galwadau am gyllid wedi'i neilltuo ar gyfer eiriolaeth gyfreithiol annibynnol a sefydliadau sy'n cael eu harwain gan gymheiriaid. Nododd ymatebwyr yr effaith sylweddol wrth golli rhwydweithiau eiriolaeth lleol ac anffurfiol, a phwysleisiwyd pa mor bwysig oedd gwreiddio darpariaeth eiriolaeth ym mhob cam o’r prosesau cyfiawnder.

Nodwyd bod cydgynhyrchu, yn enwedig gydag unigolion sydd â phrofiad go iawn o anabledd a'r system gyfiawnder, yn elfen hanfodol o ddylunio, darparu, a gwerthuso ymyriadau polisi effeithiol. Nododd ymatebwyr y dylai pobl anabl gael eu cynnwys nid yn unig fel ymgyngoreion ond fel pobl sy’n gwneud penderfyniadau ac fel partneriaid, gan sicrhau bod eu safbwyntiau'n siapio'r systemau y bwriedir iddynt eu gwasanaethu.

Roedd yr ymatebion yn tynnu sylw at natur groestoriadol a systemig y rhwystrau, gan alw am gydweithio cryfach ar draws sectorau a llywodraethau, cysoni â strategaethau cydraddoldeb ehangach a rhwymedigaethau hawliau dynol, a chreu gwasanaethau cynhwysol sy'n seiliedig ar hawliau ac sy'n diwallu anghenion amrywiol pobl anabl yng Nghymru.

Cwestiwn 9: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau

Gofynnwyd i chi

Rydym wedi amlinellu yn y Cynllun Hawliau Pobl Anabl sut mae'r camau gweithredu a'r canlyniadau yn cefnogi'r egwyddorion a nodir yn CCUHPA. A ydych chi'n meddwl bod y cynllun yn hyrwyddo'r prif egwyddorion, sy'n ymwneud â sicrhau hawliau a chynhwysiant, a nodir yn CCUHPA? Rhowch resymau am eich ateb os gallwch chi. 

Fe ddywedoch chi

“Ydy, mae'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn gwneud ymdrech ddiffuant i gyd-fynd ag egwyddorion craidd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (UNCRDP) yn enwedig o ran cynhwysiant, cydraddoldeb a'r hawl i fyw'n annibynnol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, nid yw'r cynllun yn llwyddo i ymgorffori egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn llawn mewn camau gweithredu ymarferol y gellir eu gorfodi yn enwedig yng nghyswllt trafnidiaeth hygyrch, sy'n elfen galluogi sylfaenol ar gyfer llawer o hawliau o dan y Confensiwn.”

Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.

At ei gilydd, mae'r cynllun yn gam cryf tuag at wireddu'r hawliau sydd wedi'u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau. Mae’n adlewyrchu’r gwerthoedd cynhwysiant, ymreolaeth, a chydraddoldeb, ac mae ganddo’r potensial i drawsnewid bywydau pobl anabl yng Nghymru. Er mwyn bodloni safonau'r Confensiwn yn llawn, rhaid cyfateb y cynllun yn awr â gweithredu beiddgar, atebolrwydd cadarn, ac arweinyddiaeth gynhwysol gyda phobl anabl wrth galon pob penderfyniad.” 

Grŵp Ffocws wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Ymrwymiadau cyfreithiol ac ymgorffori
  • Dylid cynnwys ymrwymiad clir i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yng nghyfraith Cymru.
  • Dylid sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu parchu, eu diogelu a'u cyflawni yng Nghymru, rhaid cael cam gweithredu clir a phenodol yn y cynllun i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn llawn yng nghyfraith Cymru.
  • Nid yw'r Cynllun Drafft yn cyfeirio at ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn neddfwriaeth ddomestig Cymru.
  • Mae'r Confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol i wladwriaethau sy’n rhan o’r confensiwn gymryd camau gweithredu ac adrodd ar gynnydd. Ar hyn o bryd, nid oes gan y cynllun ddulliau monitro a gorfodi clir. Ni all hawliau ddibynnu ar fwriadau da–mae angen atebolrwydd a chymorth pan na chânt eu gwireddu.
  • Dylid mynd i’r afael â chamfanteisio ar bobl anabl.
Cymorth a gofal iechyd 
  • Dylid ymateb i’r oedi yn narpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl a diffyg gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant ym maes awtistiaeth. Mae’r rhwystrau hyn yn torri amodau Erthygl 25 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, sy’n sefydlu’r hawl i gael safon iechyd uchaf posibl heb wahaniaethu.
  • Mae angen ymrwymiadau cryfach ynghylch: Mynediad at ofal iechyd (Erthygl 25), Amddiffyniadau yn y gweithle a chyflogaeth (Erthygl 27), ac amddiffyniadau cymdeithasol a chymorth lles (Erthygl 28).
  • Dylid sicrhau bod y model cymdeithasol o anabledd yn cael ei ddefnyddio'n gyson, yn enwedig ym maes gofal iechyd a dylunio gwasanaethau, gan symud oddi wrth rhagdybiaethau meddygol.
  • Gan nad yw penderfyniad ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol (DNACPR)’ yn orchymyn y mae'n rhaid ei ddilyn ym mhob sefyllfa, gallai fod yn ddefnyddiol darparu hyn fel enghraifft bwysig o hyfforddiant.
  • Dylid cynnwys anabledd ‘seicogymdeithasol’ yn unol â deddfwriaeth a chanllawiau ymarfer Iechyd Meddwl ar y cyd Sefydliad Iechyd y Byd a'r Cenhedloedd Unedig.
  • Mae angen mwy o bwyslais ar hawliau ac anghenion pobl ag anableddau cudd, anableddau cyfnewidiol, ac anableddau llai gweladwy fel epilepsi, awtistiaeth, neu gyflyrau iechyd meddwl, gan sicrhau bod eu profiadau'n cael eu gwreiddio yr un fath ym mhob cam gweithredu.
  • Mae angen cryfhau [y Cynllun] o ran amddiffyn hawliau'r rheini sydd ag anabledd cyfathrebu.
  • Dylid buddsoddi mewn eiriolaeth annibynnol, cefnogaeth gan gymheiriaid a chynrychiolaeth, yn enwedig mewn perthynas ag addysg, cyflogaeth, gofal cymdeithasol, a chyfiawnder.
Trafnidiaeth a Symudedd 
  • Dylid trin trafnidiaeth hygyrch fel mater hawliau dynol, sy'n hanfodol er mwyn arfer pob hawl arall
  • Mae'r cynllun presennol yn cyfeirio at deithio fel mater ar wahân, ond mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn egluro yn Erthygl 9 (Hygyrchedd) ac Erthygl 20 (Symudedd personol) bod trafnidiaeth yn ganolog i arfer bron pob hawl arall, boed hynny'n ymwneud ag addysg, gwaith, cyfiawnder, gofal iechyd, neu gyfranogiad gwleidyddol. 
Cyfranogiad, cydgynhyrchu, a llywodraethiant gynhwysol
  • Mae diffyg mynediad at ddehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain proffesiynol yn gwadu hawliau dynol.
  • Mae'r cynllun yn sôn am ymgysylltu, ond er mwyn cyrraedd y safon a osodwyd gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, rhaid cael ymrwymiad i gydgynhyrchu a gwneud penderfyniadau ar y cyd â phobl anabl ar bob lefel o bolisi cenedlaethol i ddarpariaeth leol.
  • Dylid sicrhau bod hawliau'n cael eu cyflawni'n deg ar draws pob ardal, gan gynnwys cymunedau gwledig.
  • Dechreuwch drwy addysgu ein cenhedlaeth nesaf o lunwyr penderfyniadau nawr bydd angen gweithlu sy'n ei ddeall yn llwyr hefyd.
  • Dim ond unwaith y cyfeirir at fenywod anabl yn y camau gweithredu tymor byr, ac nid yw'r cynllun drafft ei hun yn sôn llawer am fenywod anabl.
  • Dylid integreiddio sefydliadau pobl anabl, undebau llafur, a grwpiau cymunedol yn well o ran cyflawni a llywodraethu, yn unol â'r egwyddor pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau.
  • Efallai na fydd pobl anabl, yn enwedig unigolion ag anableddau dysgu, yn ymwybodol o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a allai effeithio ar eu dealltwriaeth o sut gallai'r cynllun hwn effeithio arnynt hwy a'u hawliau.
  • Erthygl 28 (Safon byw ddigonol ac amddiffyniad cymdeithasol): Mae'r hawl hon yn cael ei thanseilio gan y costau ariannol a'r heriau penodol sy'n wynebu plant a phobl ifanc sydd â chanser a'u teuluoedd.
  • O dan Erthygl 21, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn datgan y dylai partïon dderbyn a hwyluso'r defnydd o ieithoedd arwyddion a chydnabod a hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion, ond nid yw'r erthygl hon yn cael ei hystyried yn uniongyrchol.
Cyflogaeth, gweithle ac amddiffyniad cymdeithasol
  • Dylid mynd i'r afael â'r bwlch cyflog anabledd a'r lefelau anghymesur o dlodi mewn gwaith y mae unigolion anabl yn eu hwynebu.
  • Dylid hyrwyddo diwylliannau cynhwysol yn y gweithle sy'n gwerthfawrogi gweithwyr anabl fel cyfranwyr cyfartal.
  • Dylid ystyried bod interniaethau â chymorth yn rhannau annatod o strategaeth gynaliadwy i sicrhau cyflogaeth â thâl i bobl ifanc anabl.

Crynodeb

Pwysleisiodd ymatebwyr y dylai Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau gael ei ymgorffori yng nghyfraith Cymru i sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu hamddiffyn go iawn. Teimlai rhai ymatebwyr nad yw'r ymdrechion polisi presennol yn adlewyrchu natur integredig yr hawliau hyn fel mynediad at y celfyddydau a diwylliant, ac roeddent yn dadlau na ellir mynd i'r afael â meysydd o'r fath ar wahân i gynlluniau ehangach. Nodwyd bod camfanteisio ar bobl anabl yn bryder canolog o dan y Confensiwn, ac nad yw cynlluniau presennol y llywodraeth yn mynd i'r afael yn ddigonol â'r mater hwn.

Trafodwyd newidiadau mewn iaith a therminoleg sy'n ymwneud ag anabledd hefyd, gyda rhai ymatebwyr yn teimlo nad oedd y newidiadau hyn yn arwain at ymgysylltu'n ddilys ac nad oeddent yn cyfleu parch gwirioneddol at hawliau pobl anabl. Roedd cryn amheuaeth ynghylch bwriad llywodraeth Cymru i wella canlyniadau, yn enwedig o ran darparu a chadw budd-daliadau. Roedd llawer yn teimlo nad oedd y datganiadau polisi a chefnogaeth neu weithredu pendant yn cyfateb, a bod hyn yn arwain at ddiffyg ymddiriedaeth ehangach mewn ymrwymiadau swyddogol. Teimlai rhai, er gwaethaf addewidion o gefnogaeth, fod awdurdodau'n “ceisio mynd â’n holl fudd-daliadau ymaith”, gan adlewyrchu ofnau y gallai newidiadau i systemau lles neu systemau cymorth danseilio hawliau mewn gwirionedd, er na chafodd unrhyw ddiwygiadau lles penodol eu henwi.

Mynegodd ambell ymatebydd eu bod yn rhwystredig ynghylch absenoldeb camau gweithredu gan y llywodraeth y gellid eu mesur a’u gorfodi. Roedd pryderon ynghylch cyhoeddi argymhellion ‘Na cheisier dadebru cardio-anadlol’ yn tynnu sylw ymhellach at bryderon ynghylch yr hawl i fyw a pha mor ddigonol yw systemau gwneud penderfyniadau. Galwodd ymatebwyr am i'r argymhellion hyn gael eu defnyddio mewn hyfforddiant, gan bwysleisio'r angen am brosesau tosturiol, tryloyw, a hygyrch.

Er mwyn cynnal egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, dywedodd ymatebwyr fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi dulliau monitro, atebolrwydd, a gwerthuso cliriach ar waith. Roedd gwahaniaethau o ran mynediad, yn aml yn cael eu pennu gan ddaearyddiaeth, yn parhau i fod yn broblem fawr, gyda galwadau i sicrhau a monitro mynediad cyfartal at wasanaethau, trafnidiaeth, tai, a chyfiawnder i bob cymuned, nid dim ond y rheini sydd â mwy o adnoddau. Yn olaf, roedd ymatebwyr yn annog y cynllun i gydnabod a mynd i'r afael â rhwystrau sy'n gysylltiedig â thlodi, natur wledig, iaith, ethnigrwydd, a rhywedd, ac i lunio camau gweithredu sy'n ystyried y ffactorau croestoriadol hyn yn ystyrlon.

Cwestiwn 10: llywodraethu, monitro, a gwerthuso

Mae adran olaf y Cynllun Hawliau Pobl Anabl yn nodi'r trefniadau ar gyfer llywodraethu, monitro a gwerthuso'r cynllun. Mae hyn yn golygu monitro sut mae'r cynllun yn gweithio, gwneud yn siŵr ei fod yn mynd yn dda, a mesur pa mor dda y mae'r cynllun yn gwella bywydau pobl anabl.

Gofynnwyd i chi

A ydych chi'n meddwl y dylid ystyried defnyddio unrhyw ddulliau llywodraethu, monitro neu werthuso eraill?

Fe ddywedoch chi

“Mae angen rhagor o wybodaeth hefyd am sut y bydd plant a phobl ifanc anabl yn cael eu cynnwys mewn prosesau gwerthuso a mesur effaith.”

WhizzKidz.

“Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i osod cerrig milltir a chanlyniadau mesuradwy tymor byr a thymor hwy i ddangos uchelgais, cynnydd a llwyddiant y Cynllun. Rydym yn cydnabod bod newid diwylliannau a lleihau rhwystrau yn agenda hirdymor, ac rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn. Bydd canlyniadau mesuradwy yn allweddol i adrodd ar gynnydd a'i ddathlu.”

Medr.

Cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu ystyrlon
  • Mae angen dulliau gwerthuso wedi'u cydgynhyrchu, gan ddefnyddio fformatau hygyrch a darparu adnoddau ar gyfer cymryd rhan (er enghraifft, taliadau am arbenigedd mewn profiadau bywyd, lleoliadau hygyrch, offer digidol).
  • Dylid hyrwyddo dyheadau penodol y cynllun sy’n ymwneud â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
  • Mae angen ymgysylltu gorfodol ag undebau llafur, yn enwedig ar gyfer cyflogaeth a gwasanaethau.
  • Mae angen adroddiadau cynnydd cyhoeddus blynyddol gan gyhoeddi adroddiadau clir a hygyrch gyda chyflawniadau, meysydd i'w gwella, adborth, ac astudiaethau achos.
  • Rhaid i ddolenni adborth ganiatáu i bobl anabl roi sylwadau ar weithredu, gan sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn cael eu clywed yn aml a'r rheini sydd ag anghenion cymhleth yn cael eu cynnwys.
  • Dylid cynnwys gwerthusiadau hydredol, wedi'u cydlunio gyda phobl anabl, i fesur ansawdd bywyd a chynhwysiant.
  • Mae angen tracio profiadau bywyd drwy banel neu arolwg cenedlaethol fel Arolwg Cenedlaethol Cymru.
  • Dylid ymgysylltu â theuluoedd pobl anabl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig; mae angen gwneud mwy o waith ar gyfer cymunedau lle nad Saesneg yw'r iaith gyntaf.
  • Mae angen adborth parhaus gan bobl anabl drwy arolygon, fforymau, a grwpiau ffocws hygyrch.
  • Mae angen mwy o ystyriaeth ar sut mae llywio a chefnogi pob Sefydliad Pobl Anabl yng Nghymru i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a gwerthuso.
  • Dylid ymgysylltu â phobl sydd ag anableddau dysgu difrifol, dwys, neu luosog ac anghenion cyfathrebu cymhleth.
  • Mae angen egluro sut mae'r cynllun yn berthnasol i strategaethau presennol (er enghraifft, strategaeth Awtistiaeth, rhaglen Anabledd Dysgu).
  • Dylid sefydlu tasglu gwerthuso gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys pobl anabl, Sefydliadau Pobl Anabl, a sefydliadau sy’n eiriol dros garcharorion.
  • Rhaid i arweinwyr nyrsio (Prif Swyddogion Nyrsio, Nyrsys Ymgynghorol, Uwch Ymarferwyr Nyrsio) gael rôl ganolog, gan weithio'n agos gyda nyrsys anabl a'r rheini mewn gwasanaethau anabledd.
  • Dylai strwythurau llywodraethu gynnwys elusennau / sefydliadau trydydd sector sy'n ymwneud yn benodol â chyflwr.
  • Dylid sicrhau bod cynrychiolaeth ar Fwrdd Cynghori Allanol o'r sectorau gofal iechyd, gofal seicogymdeithasol, a hawliau lles.
  • Byddai strategaethau a fyddai'n cynnwys ceisio barn pobl anabl sydd ag anableddau dwys a lluosog neu sy'n ddi-eiriau yn cael eu croesawu gan nad yw safbwyntiau'r unigolion hyn yn cael eu cynrychioli’n aml o'i gymharu ag unigolion mwy abl neu lafar.
Plant, pobl ifanc
  • Mae grwpiau llywio a chydgynhyrchu yn cynnwys pobl anabl a hefyd pobl ifanc, plant a/neu eu cynrychiolwyr megis rhieni, o'r dechrau.
  • Sut byddai plant yn cael eu cynnwys mewn grŵp llywio fel yr un a helpodd i ffurfio'r cynllun hwn? Dylid defnyddio cynghorau ysgolion anghenion arbennig i wneud hyn ac i rannu arferion rhagorol yn y maes hwn.
  • Dylid cynnwys sefydliadau sydd ag arbenigedd o fod gyda phlant a phobl ifanc anabl: Dylai'r Bwrdd Cynghori Allanol ofyn am lefel sylfaenol o gynrychiolaeth o sefydliadau trydydd sector sy'n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc anabl.
  • Mae angen gwella’r broses casglu data ar gyfer pobl ifanc: Mae bwlch sylweddol yn y data sydd ar gael ar blant a phobl ifanc anabl yng Nghymru. 

Data, mesur a dangosyddion perfformiad

  • Dylid casglu a dadgyfuno data (yn ôl amhariad, oedran, rhyw, ethnigrwydd, daearyddiaeth, statws economaidd-gymdeithasol) a gweithredu pan na fydd y ddarpariaeth yn cyrraedd y nod.
  • Annibynnol, gyda phrofiad bywyd yn y canol; Wedi'i gydgynhyrchu, nid o'r brig i lawr; Yn seiliedig ar ddata, gan ganolbwyntio ar degwch ar draws pob cymuned.
  • Dylid cynnwys mesuriadau er enghraifft, yn symud o goch neu oren ar hygyrchedd tuag at wyrdd; nifer y gorsafoedd sydd â phlatfformau hygyrch; nifer y bobl sy'n cofnodi cwynion am strydoedd, siopau, neu dafarndai anhygyrch.
  • Dylid diffinio Dangosyddion Perfformiad Allweddol sy'n gysylltiedig â phob canlyniad, gydag adroddiadau cyhoeddus rheolaidd ar y cynnydd.
  • Mae angen dull ar gyfer tracio sut mae awdurdodau lleol, byrddau iechyd, a darparwyr trafnidiaeth yn gweithredu'r cynllun a'r canlyniadau os nad ydynt yn gwneud hynny.
  • Dylid ei gwneud yn ofynnol i gyrff sydd wedi'u cynnwys lunio cynllun gyda thargedau ac amserlenni penodol, a threfn arolygu sy'n gallu adolygu camau gweithredu a gofyn am newidiadau.
  • Mae angen nodau CAMPUS nid oes amserlenni clir, atebolrwydd, ffactor gorfodi na phwysau cyfreithiol i'r cynllun na'r camau gweithredu (nid yw'n ymddangos y bydd yn arwain at newid deddfwriaethol).
  • Dylid cryfhau'r gwaith o gasglu a monitro data drwy sicrhau bod data sydd wedi'i ddadgyfuno yn cael ei gasglu a'i ddadansoddi ar draws nodweddion, gan gynnwys math o amhariad, oedran, rhywedd, ethnigrwydd, rhywioldeb, a statws economaidd-gymdeithasol.
  • Rhaid i'r gwaith o gasglu ac adrodd ar ddata gynnwys pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain drwy sicrhau eu bod yn gallu darparu adborth a gwybodaeth.
  • Dylid cyhoeddi dangosfwrdd data sy'n dilyn y prif ddangosyddion ac yn cyhoeddi ystadegau gwaelodlin cyfredol, a diweddariadau blynyddol i ddangos gwelliannau.
Llywodraethu,goruchwyliaeth ac atebolrwydd
  • Rhaid darparu adnoddau llawn a phriodol ar gyfer gwerthuso a llywodraethu er mwyn sicrhau bod modd barnu ac asesu effaith cynigion yn effeithiol.
  • Dylid sicrhau bod pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn rhan barhaus a strwythuredig o drefniadau lywodraethu, drwy grwpiau cynghori neu fforymau sy'n adolygu cynnydd yn rheolaidd, yn codi pryderon, ac yn awgrymu gwelliannau.
  • Dylai llywodraethu enwi'n glir swydd/safle/rôl unigol sy'n gyfrifol am gyflawni a chanlyniadau.
  • Dylai prosesau llywodraethu, monitro a gwerthuso gael eu gwneud gan bobl anabl neu sefydliadau sy'n cael eu harwain gan bobl anabl.
  • Dylid croesawu'r cynllun i sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol i fonitro a dal llunwyr polisïau i gyfrif am gyflawni'r cynllun.
  • Rhaid gwreiddio cynhwysiant digidol mewn prosesau llywodraethu a monitro, gyda dulliau sy'n cynnwys pobl anabl sydd â phrofiad go iawn o allgáu digidol ac wedi’u llunio ar y cyd â sefydliadau perthnasol.
  • Mae angen ymrwymiad cyson, trawslywodraethol, gydag atebolrwydd clir am gydgynhyrchu a sut mae'n cael ei drin, ei fonitro a'i ariannu.
  • Dylid sefydlu Comisiwn Hawliau Pobl Anabl neu fwrdd cynghori annibynnol, sy'n cynnwys pobl anabl a Sefydliadau Pobl Anabl yn bennaf, i oruchwylio a chraffu ar gynnydd, cyhoeddi canfyddiadau, a chynghori Gweinidogion.
  • Mae angen Comisiynydd Anabledd annibynnol i Gymru i oruchwylio a chraffu.
  • Dylid cynnal archwiliadau o gyrff cyhoeddus a chyhoeddi dangosfwrdd data sy'n dilyn y prif ddangosyddion yn rheolaidd i sicrhau tryloywder ac atebolrwydd.
  • Mae angen eglurder ynghylch pwy fydd ar y Bwrdd Cynghori Allanol, ei gynrychiolwyr, a'i annibyniaeth.
  • Rhaid cael proses a lle clir i bobl anabl gofnodi eu rhwystrau o ddydd i ddydd yn eu cymunedau.

Crynodeb 

Roedd yr ymatebwyr yn deall ac yn cydnabod bod yn rhaid i gyfraniad ystyrlon gan bobl anabl, yn enwedig y rheini sydd ag anableddau dysgu, plant anabl a phobl ifanc, fod wrth galon prosesau llywodraethu a monitro. Fe wnaethant bwysleisio'r angen am fformatau hygyrch, gwerthusiad wedi'i gydgynhyrchu, a chyfranogiad uniongyrchol, gan rybuddio yn erbyn ymgynghori symbolaidd. Er mwyn i’r cynllun lwyddo, mae angen dylanwad go iawn, nid dim ond presenoldeb.

Dywedodd ymatebwyr fod yn rhaid i’r cydgynhyrchu fod yn rhan greiddiol drwy gydol y gwaith dylunio, cyflawni, ac asesu. Roedd yr ymatebwyr yn cytuno'n gyffredinol â sefydlu byrddau cynghori er bod rhai'n galw am gomisiwn dan arweiniad pobl anabl a sefydliadau pobl anabl, ochr yn ochr â dulliau adborth parhaus, i sicrhau bod profiad bywyd go iawn yn ganolog. 

Dywedodd ymatebwyr fod casglu data a thracio perfformiad yn hanfodol. Roeddent yn argymell y dylid cael archwiliadau rheolaidd, cyhoeddi ystadegau sylfaenol, a dangosfwrdd data i fonitro'r prif ddangosyddion. Yn bwysig, dylid dadgyfuno data ar draws amhariadau, daearyddiaeth, ethnigrwydd, oedran, a rhywedd. Rhaid mynd i'r afael â bylchau yn enwedig o ran pobl ifanc anabl, er mwyn mesur effaith a llwyddiant yn briodol.

Roedd yr ymatebwyr yn pwysleisio bod cael ymrwymiad cyson trawslywodraethol yn hollbwysig. Fe wnaethant dynnu sylw at bwysigrwydd llinellau atebolrwydd a rolau clir, cyllid sy'n clustnodi adnoddau ar gyfer anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol, ac osgoi gormod o faich gweinyddol. Gall gormod o bwyllgorau a chyfrifoldebau aneglur greu dryswch a gwanhau effaith; mae angen cyfuno.

Roedd y prif risgiau a amlygwyd yn cynnwys atebolrwydd arwynebol a thicio blychau os nad oes adnoddau llawn ar gyfer prosesau llywodraethu a monitro ac nad ydynt yn annibynnol. Rhybuddiodd ymatebwyr, heb adborth parhaus, ymgysylltu ystyrlon, a thryloywder, y gallai'r cynllun fethu â sicrhau gwelliannau gwirioneddol i bobl anabl yng Nghymru. Mae prosesau clir ar gyfer rhoi gwybod am rwystrau a chyfathrebu rheolaidd a hygyrch yn hanfodol er mwyn cynnal ymddiriedaeth a momentwm. 

Cwestiwn 11: Iaith arwyddion prydain

Gofynnwyd i chi

Beth ydych chi'n meddwl y bydd effeithiau tebygol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar arwyddwyr byddar Iaith Arwyddion Prydain (BSL)? Mae gennym ddiddordeb arbennig yn ei effaith bosibl ar gyfleoedd i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru.

  • Sut bydd y cynllun yn helpu i hyrwyddo a chryfhau'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru?
  • Sut bydd y cynllun yn helpu i chwalu'r rhwystrau y mae arwyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn eu profi wrth geisio cael mynediad at wybodaeth a gwasanaethau?

Fe ddywedoch chi

“Mae ymgorffori Iaith Arwyddion Prydain o fudd i bawb drwy hyrwyddo cynhwysiant, dealltwriaeth, a chyfathrebu i bawb. Dylai fod yn rhan greiddiol o system addysg sy’n rhoi gwerth ar hawl pob plentyn i gael ei glywed a’i gynnwys.”

Ymatebion gan unigolyn.

“Ar ôl rhoi Bil Iaith Arwyddion Prydain ar waith, bydd hyn yn cael effaith ar Awdurdodau Lleol i sicrhau bod hyn yn cael ei ymgorffori yn ein harferion. Bydd hyn yn golygu costau. Rwy'n credu y gellid adolygu'r cynllun ar ôl ei ddeddfu i sicrhau ei fod yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol.”

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.

  • Mae angen i'r Cynllun fynd ymhellach os yw am hyrwyddo a chryfhau'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain ledled Cymru a chwalu'r rhwystrau parhaus y mae pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn eu hwynebu wrth gael gafael ar wybodaeth, gwasanaethau, a chyfranogi’n gyfartal.
  • Nid yw rhai pobl sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn ystyried eu hunain yn anabl felly gallai eu cynnwys yn y cynllun hwn dramgwyddo rhai pobl yn y gymuned.
  • Dylid cynyddu ar fyrder faint o adnoddau addysgu Iaith Arwyddion Prydain sydd ar gael a chynyddu nifer dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain.
  • Dylid ceisio ariannu gwasanaethau dehongli neu gyfieithu newydd gyda dangosyddion perfformiad allweddol i fesur llwyddiant.
  • Dylid mynnu bod gwybodaeth allweddol i'r cyhoedd ar gael mewn Iaith Arwyddion Prydain fel mater o drefn, gan gynnwys diweddariadau argyfwng, negeseuon gan y llywodraeth, a phyrth ar-lein.
  • Dylid gwneud ymrwymiadau cryfach i roi cydnabyddiaeth gyfreithiol i Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru, yn unol â gwledydd eraill y DU.
  • Dylai proses gweithredu Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) gael ei hychwanegu at y cynllun gweithredu.
  • Dylid annog cydweithio â sefydliadau sy'n cael eu harwain gan bobl fyddar i gydlunio adnoddau hygyrch sy'n adlewyrchu anghenion y gymuned Iaith Arwyddion Prydain.
  • Mae angen canllawiau ac adnoddau clir ar gyrff y sector cyhoeddus i ddeall a diwallu anghenion defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn effeithiol.
  • Dylid cryfhau effaith y Cynllun ar ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, drwy gynnwys y canlyniadau canlynol:
    • Cynnwys y gellir cael gafael arno drwy Iaith Arwyddion Prydain ar draws pob llwyfan digidol a gwefan gwasanaeth i'r cyhoedd, gan gynnwys iechyd, gofal, addysg, a chyfiawnder.
    • Dylid ehangu gwasanaethau cyfnewid fideo i gefnogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gael gafael ar apwyntiadau, cyngor, a gwasanaethau cymorth
    • Mae angen cyllid ar gyfer dehonglwyr a chrewyr cynnwys Iaith Arwyddion Prydain, yn enwedig mewn canolfannau cynhwysiant digidol a llwyfannau dysgu ar-lein
    • Mae angen mwy o gyfleoedd i bobl fyddar a phobl sy'n clywed ddysgu Iaith Arwyddion Prydain

Crynodeb 

Fe wnaeth y rheini a oedd yn cytuno y byddai effaith gadarnhaol ar gyfleoedd i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain yng Nghymru gyfeirio at ffactorau cadarnhaol yn y cynllun, fel mwy o amlygrwydd a mynediad, gwell profiad o wasanaethau a chyfranogiad cynhwysol.

Pan oedd ymatebwyr yn teimlo y gellid cryfhau'r cynllun i gael yr effaith fwyaf bosibl, galwodd yr ymatebwyr hyn am normaleiddio Iaith Arwyddion Prydain wrth gynllunio'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a chydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith â statws cyfartal. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod gwybodaeth i’r cyhoedd ar gael mewn Iaith Arwyddion Prydain fel mater o drefn, gan gynnwys diweddariadau argyfwng a negeseuon gan y llywodraeth. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd gwahanol fathau o gyfathrebu, gan gynnwys Makaton, System Gyfathrebu Cyfnewid Lluniau (PECS) a byrddau cyfathrebu. Roedd un ymateb yn cynnwys diffiniad o “gyfathrebu1” ac “iaith” o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ac mae'n argymell bod y rhain yn cael eu cynnwys yn y cynllun. 

Roedd addysg yn thema allweddol drwy’r ymatebion, gydag ymatebwyr yn galw am addysgu Iaith Arwyddion Prydain yn eang ar draws ysgolion, fel rhan o'r cwricwlwm, ochr yn ochr â dysgu am ddiwylliant pobl fyddar, i annog rhuglder a chynhwysiant. Mewn ymateb a gomisiynwyd o gyfres o weithdai creadigol a thrafodaethau a gynhaliwyd gyda phobl Fyddar, pobl anabl a phobl niwrowahanol ledled Cymru, nodwyd mai'r unig ffordd o greu cynhwysiant gwirioneddol i bobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yw cynyddu nifer y bobl sy'n gallu defnyddio’r iaith honno ledled Cymru, gan gynnwys sicrhau bod dysgu’r iaith yn hygyrch i bobl fyddar a phobl drwm eu clyw. Roedd ymateb arall a gomisiynwyd o 2 weithdy gyda phobl sy'n colli eu clyw a phobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain wedi codi pryderon ynghylch diffyg athrawon pobl Fyddar a gweithwyr cymorth cyfathrebu sydd â'r lefel briodol o gymwysterau i gefnogi plant byddar. Dywedodd nifer o ymatebwyr mai prin yw'r dosbarthiadau Iaith Arwyddion Prydain i deuluoedd sydd ar gael ledled Cymru ar gyfer teuluoedd plant byddar, yn enwedig y tu hwnt i lefel 1, sy'n golygu bod sicrhau gwell rhuglder yn yr iaith yn dod yn ddewis costus sy'n aml yn anfforddiadwy.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod argaeledd a chywirdeb gwasanaethau dehongli ledled Cymru yn gryn her a’u bod yn hanfodol i sicrhau bod pobl fyddar yn gallu cymryd rhan lawn ym mywyd Cymru. Roedd llawer o'r ymatebion yn sôn am hygyrchedd Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dweud yn glir bod angen cynyddu, drwy recriwtio a hyfforddi, y dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain cymwys sydd ar gael fel mater o drefn ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus, digwyddiadau, ac ymgyngoriadau. Nododd ymatebwyr mai darpariaeth gyfyngedig sydd ar gael mewn lleoliadau gofal iechyd ac mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Roedd ymatebion a gomisiynwyd o weithdai gyda phobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain yn galw am gynllun gweithlu dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ac yn tynnu sylw at enghreifftiau pan fo angen dibynnu ar aelodau o'r teulu i gyfieithu ar eu cyfer mewn lleoliadau gofal iechyd. Roedd yr ymatebion a gomisiynwyd yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl fyddar yn colli eu preifatrwydd pan fydd yn rhaid iddynt ddibynnu ar aelodau o'r teulu neu ddehonglwyr pan fydd angen iddynt gael gafael ar wasanaethau neu wybodaeth. 

Awgrymodd rhai fod angen darparu hyfforddiant mewn Iaith Arwyddion Prydain ac ymwybyddiaeth o fyddardod ymysg staff rheng flaen mewn gwasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau bod defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn gallu cael gafael ar wasanaethau yn yr iaith o’u dewis heb oedi na chyfaddawdu, ac er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth ddiwylliannol a lleihau stigma. Argymhellwyd hyn yn arbennig ar gyfer staff gofal iechyd ac awdurdodau lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â chymorth cyfathrebu a dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain ac yn gallu trefnu eu cael pryd bynnag y bo angen, gan gynnwys mewn sefyllfaoedd brys.

Tynnwyd sylw at gynhwysiant digidol ar draws yr ymatebion. Ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, nodwyd bod angen cael cynnwys digidol hygyrch er mwyn arfer hawliau a chymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Teimlai un ymatebydd y gallai fod rhywfaint o gyfle i arloesi ym maes deallusrwydd artiffisial i helpu gyda negeseuon syml mewn Iaith Arwyddion Prydain. Mae llwyfan digidol cydnabyddedig arall yn brif ffordd o gael gafael ar wasanaethau cyhoeddus, gwybodaeth am iechyd, addysg, a chyfranogiad dinesig. Roedd ymatebion a gomisiynwyd o gyfres o weithdai a thrafodaethau a gynhaliwyd gyda phobl Fyddar, pobl drwm eu clyw, pobl anabl a phobl niwrowahanol ledled Cymru, yn nodi na all defnyddio technoleg gynorthwyol neu gymorth o bell ar gyfer defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain ddisodli'r angen i allu cyfathrebu wyneb yn wyneb yn uniongyrchol drwy’r iaith o’u dewis, heb fod angen dehonglwr. Fe wnaethant nodi hefyd bwysigrwydd sicrhau bod gan wasanaethau a mannau cyhoeddus y dechnoleg gywir, a'r wybodaeth gywir am sut mae'n gweithio, i gefnogi pobl fyddar a phobl sydd wedi colli eu clyw. 

Roedd nifer o ymatebion yn tynnu sylw at Fil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) a'r angen i adolygu'r camau gweithredu sydd yn y Cynllun, yn dilyn canlyniad pasio'r Bil drwy broses graffu'r Senedd. Argymhellwyd y dylai argymhellion Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhanddeiliaid Iaith Arwyddion Prydain Llywodraeth Cymru fod yn sail i’r Cynllun, ac mae angen mwy o gysondeb â'r camau blaenoriaeth ym Map Llwybrau Iaith Arwyddion Prydain arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Mae “cyfathrebu” yn cynnwys ieithoedd, dangos testun, Braille, cyfathrebu cyffyrddol, print bras, amlgyfrwng hygyrch yn ogystal â moddau, ffyrdd a fformatau cyfathrebu ysgrifenedig, sain, iaith-glir, darllenydd dynol a moddau amgen ac atgyfnerthol, gan gynnwys technoleg gwybodaeth a chyfathrebu hygyrch.

Mae “iaith” yn cynnwys ieithoedd llafar ac ieithoedd arwyddion a mathau eraill o ieithoedd nad ydynt yn cael eu siarad. 

Cwestiwn 12: y Gymraeg

Gofynnwyd i chi

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y Cynllun Hawliau Pobl Anabl ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

A ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i leihau effeithiau anfuddiol ar y Gymraeg yn y cynllun?
 

Fe ddywedoch chi

“Mae’r Gymraeg wedi cael ei dwyn oddi ar bobl anabl. Dydy’r iaith ddim wedi cael ei dysgu i ni. Mae angen ffyrdd i ni ddysgu’r Gymraeg hefyd”

Grŵp Ffocws wedi'i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

“Mewn ardaloedd fel gorllewin Cymru, lle mae llawer o bobl anabl yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf, nid dim ond dewis ydy hyn, mae'n golygu urddas a chysur. Os yw gweithiwr cymorth, eiriolwr, neu ddarparwr cludiant rhywun ddim yn gallu siarad Cymraeg, gall hyn wneud i bobl deimlo nad ydyn nhw’n rhan o’u cymunedau eu hunain.”

Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi.

Hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg ac osgoi ymyleiddio Ieithyddol
  • Mae defnyddio Braille, fformat Hawdd ei Ddeall ac Iaith Arwyddion Prydain (iaith gydnabyddedig gydag acenion Cymraeg, amrywiadau) yr un mor bwysig â'r angen am y Gymraeg. Heb allu cael gafael ar yr offer iaith a chyfathrebu cywir, mae cyfathrebu'n dod yn ffactor risg ac yn gallu arwain at anallu.
  • Dylid cydnabod croestoriadedd iaith ac anabledd, er enghraifft, sicrhau bod unigolion B/byddar a thrwm eu clyw sy'n siarad Cymraeg yn gallu cael gafael ar ddehonglwyr a chapsiynau Iaith Arwyddion Prydain Cymraeg.
  • Gall ffafrio'r Gymraeg a blaenoriaethu siaradwyr Cymraeg ar gyfer swyddi a rolau fod yn rhwystr rhag cydraddoldeb gydag effaith negyddol ar bobl ag anghenion iaith ychwanegol neu anableddau, fel dyslecsia a phobl niwrowahanol.
  • Mae angen cyflogi staff sy’n siarad Cymraeg i leihau’r effeithiau negyddol ar y Gymraeg.
  • Mae angen sicrhau nad yw gwasanaethau arbenigol neu wasanaethau sy'n canolbwyntio ar bobl anabl yn cael eu darparu'n Saesneg yn unig yn awtomatig, a bod gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i wella hygyrchedd ar gael yn y Gymraeg i'r un graddau.
  • Mae angen hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr anabl a defnyddwyr gwasanaethau fel nad oes neb yn teimlo bod hygyrchedd yn dod ar draul hawliau'r Gymraeg.
Mynediad cyfartal a hawliau Iaith
  • Dylai Llywodraeth Cymru weithio'n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg a sefydliadau pobl anabl i fonitro'r ddarpariaeth ac atal system ddwy haen o hawliau a mynediad.
  • Dylai fod ymrwymiad clir i sicrhau nad yw hygyrchedd yn dod ar draul hawliau'r Gymraeg – neu fel arall. Os yw rhywbeth yn cael ei gyhoeddi mewn Iaith Arwyddion Prydain neu fformat Hawdd ei Ddeall, dylai hefyd fod yn y Gymraeg.
  • Dylid sicrhau bod ysgolion a cholegau cyfrwng Cymraeg yn hygyrch i ddysgwyr anabl a bod siaradwyr Cymraeg anabl yn gallu cael gafael ar eiriolaeth a chymorth yn yr iaith o’u dewis.

Gofynnwyd i chi

A ydych chi'n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo effeithiau cadarnhaol o ran y Gymraeg yn y Cynllun?

Fe ddywedoch chi

Y Gymraeg ac Iaith arwyddion prydain
  • Mae angen archwilio a chefnogi'r defnydd o ddehongli drwy Iaith Arwyddion Prydain yn y Gymraeg, lle bo hynny'n briodol, i adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru a chefnogi siaradwyr Cymraeg byddar.
  • Mae angen sicrhau bod holl ddarpariaethau gwasanaethau cyhoeddus, iechyd, gofal cymdeithasol, a chyfiawnder y mae'r cynllun yn mynd i'r afael â nhw ar gael yn y Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, Cymraeg Hawdd ei Deall, a dehongli drwy gyfrwng y Gymraeg.
Diwylliant
  • Dylid ymgorffori mynediad cynhwysol yn y Gymraeg i fannau cyhoeddus, gwasanaethau, a bywyd diwylliannol, er enghraifft, drwy sicrhau bod Eisteddfodau, ysgolion, a digwyddiadau cymunedol yn gwbl hygyrch i bobl anabl.
  • Dylid sicrhau bod y cynllun yn cyd-fynd â strategaeth Cymraeg 2050 ac yn atgyfnerthu’r Cynnig Rhagweithiol i sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
  • Mae’r celfyddydau a diwylliant yn gyfleoedd rhagorol i hyrwyddo effeithiau cadarnhaol mewn perthynas â’r iaith Gymraeg.
Sefydliadau pobl anabl
  • Dylai Sefydliadau Pobl Anabl sy’n gweithredu yn y Gymraeg fod yn rhan ganolog o gydgynhyrchu, llywodraethu, a gwerthuso’r cynllun.
  • Dylid sicrhau bod y croestoriad rhwng anabledd a hunaniaeth Gymraeg yn cael ei gydnabod yn llawn i hyrwyddo cydraddoldeb, cynhwysiant, a pharch at ddiwylliant.
  • Mae angen cefnogi Sefydliadau Pobl Anabl a grwpiau cymunedol Cymraeg eu hiaith i siapio'r ddarpariaeth.
  • Rhaid ymgorffori ‘Mwy na Geiriau’ yn ymrwymiadau byw'n annibynnol y cynllun.
Hawliau ac Iaith 
  • Dylid hyrwyddo dwyieithrwydd fel hawl a sicrhau bod y ddwy iaith yn cael eu trin yn gydradd. Gall cynllunio annigonol roi siaradwyr Cymraeg anabl dan anfantais rhaid mynd ati i liniaru hyn.
  • Dylid cynnwys pobl anabl sy'n siarad Cymraeg yn y gwaith o ddatblygu a monitro'r cynllun.
  • Dylid cydgynhyrchu deunyddiau gyda siaradwyr Cymraeg anabl i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg mewn rhwydweithiau a gwasanaethau cymorth.
Sylwadau Ychwanegol 
  • Mae pobl ag anableddau dysgu yn dal i gael eu hannog i beidio â dilyn y Gymraeg mewn addysg gan ei bod yn cael ei hystyried yn rhywbeth sy’n ‘cymhlethu’ eu haddysg, yn hytrach na bod addasiadau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith.
  • Mae diffyg cyrsiau Cymraeg addas i bobl Fyddar / Ddall fyddar.
  • Mae ystyried pobl sydd ag anghenion cyfathrebu ychwanegol sy'n siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf yn cael ei groesawu, yn ogystal ag annog y llywodraeth i ymgynghori â'r rheini sydd â phrofiad bywyd uniongyrchol.
  • Mae dehonglwyr yn rhan annatod o gymuned Iaith Arwyddion Prydain. Byddem yn croesawu dulliau tebyg i’r rheini sydd yn y ddogfen Cymraeg 2050.
  • Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol i gefnogi anghenion unigolion pan maent yn ifanc. Byddai’n dda gweld asesiad a chymorth cynnar i fabanod a phlant byddar i sicrhau eu datblygiad gwybyddol ac ieithyddol.

Crynodeb 

Tynnodd ymatebwyr sylw at y ffaith bod fformatau hygyrch fel fformat Hawdd ei Ddeall a sain yn aml yn cael eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig, gan eithrio siaradwyr Cymraeg anabl rhag cymryd rhan lawn. Mae gwasanaethau i bobl anabl yn aml yn cael eu cynnig yn Saesneg yn unig a gwasanaethau digidol yn unig yn ddiofyn, a gall hyn roi rhai siaradwyr Cymraeg dan anfantais yn anfwriadol. Pwysleisiodd ymatebwyr fod yn rhaid i hygyrchedd a hawliau yn y Gymraeg gael eu hintegreiddio ym mhob gwasanaeth, nid eu trin fel blaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd.

Argymhellwyd bod yr holl fformatau hygyrch, gan gynnwys Hawdd ei Ddeall, ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Pwysleisiodd yr ymatebwyr fod angen ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer dysgwyr a defnyddwyr gwasanaethau anabl ac roeddent yn galw’n gryf am recriwtio a hyfforddi staff sy'n siarad Cymraeg ym maes gofal iechyd, addysg a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar ymwybyddiaeth o anabledd. Roedd awgrymiadau i gynnwys defnydd o'r Gymraeg mewn hyfforddiant, ac roedd yr ymatebwyr yn cefnogi ymdrechion i alluogi staff rheng flaen i ddarparu Cynnig Rhagweithiol y Gymraeg.

Ystyriwyd bod cynnwys pobl anabl sy'n siarad Cymraeg mewn ymgynghoriadau, cyd-gynhyrchu, llywodraethu a monitro yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau'n adlewyrchu eu hanghenion. Roedd yr ymatebwyr yn argymell datblygu llwyfannau a chynnwys digidol Cymraeg i gyd-fynd â'r Strategaeth Ddigidol i Gymru, ochr yn ochr â monitro effaith y cynllun ar gydraddoldeb a hygyrchedd ieithyddol yn barhaus.

Anogwyd hefyd gwreiddio mynediad Cymraeg cynhwysol mewn mannau cyhoeddus, digwyddiadau diwylliannol a bywyd cymunedol, yn ogystal â mwy o gefnogaeth i grwpiau cymunedol a Sefydliadau Pobl Anabl sy'n siarad Cymraeg.

Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod agweddau tuag at bobl ag anableddau dysgu yn gallu peri rhwystrau i addysg a chyflogaeth yn y Gymraeg, yn aml oherwydd cymhlethdod tybiedig neu ofynion iaith. Galwodd eiriolwyr i Iaith Arwyddion Prydain gael ei chydnabod fel trydedd iaith genedlaethol yng Nghymru, gyda chynlluniau ar gyfer trefniadau hyfforddi a dehongli hygyrch ar gyfer Iaith Arwyddion Prydain drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae pobl fyddar a phobl ddall fyddar yn wynebu heriau penodol o ran cael mynediad at gyrsiau a gwasanaethau yng Nghymru, ac mae angen cefnogaeth a chyfranogiad cynhwysol gan y llywodraeth ar y rheini sydd â gwahaniaethau anweladwy. 

Mae'r adborth yn cefnogi cysoni â Safonau'r Gymraeg ac yn awgrymu y dylai'r cynllun atgyfnerthu'r Cynnig Rhagweithiol a strategaeth Cymraeg 2050 i ehangu cyfleoedd i bobl anabl sy'n dewis Cymraeg yn gyntaf. Nododd yr ymatebwyr fod y camau gweithredu Cymraeg yn y cynllun yn gyfyngedig ar hyn o bryd ac y dylid eu cryfhau.

Cwestiwn 13: unrhyw beth arall am y cynllun

Gofynnwyd i chi 

Rydym wedi gofyn cwestiynau penodol ichi am y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Os oes gennych chi unrhyw beth arall yr hoffech ei ddweud wrthym am unrhyw ran o'r cynllun, defnyddiwch y gofod hwn i roi gwybod inni.

Fe ddywedoch chi

“…does dim llawer o ddadansoddi croestoriadol yn y cynllun, h.y. sy’n mynd i'r afael yn benodol ag anghenion menywod anabl, pobl LHDTC+ anabl, a'r mwyafrif byd-eang o bobl anabl.”

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru.

Croestoriadedd, gwahaniaethau neu amhariadau anweledig, a thegwch o ran cyfathrebu
  • Nid yw'r Cynllun yn adlewyrchu profiadau croestoriadol. Ni roddir sylw manwl i'r rhwystrau sy'n wynebu menywod anabl, pobl anabl LHDTC+, a phobl anabl o gymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig.
  • Mae anableddau anweledig, cyflyrau cyfnewidiol, a niwrowahaniaeth (fel awtistiaeth, ADHD, a chyflyrau iechyd meddwl) yn cael eu hanwybyddu. Mae'r grwpiau hyn yn wynebu rhwystrau penodol y mae'n rhaid eu cydnabod.
  • Mae anghenion mynediad yn aml wedi’u cydblethu. Rhaid cynllunio gwasanaethau i gefnogi pobl sydd â nifer o anghenion croestoriadol, er enghraifft, unigolyn byddar sydd hefyd yn awtistig.
  • Nid oes gan wasanaethau cyhoeddus na gweithwyr proffesiynol yr wybodaeth na'r hyfforddiant i adnabod a chefnogi anableddau cudd, ac mae hynny'n arwain at allgáu ac oedi cyn cael diagnosis. Mae angen cyfathrebu'n well ar draws gweithwyr proffesiynol er mwyn cau'r bylchau a darparu gofal cydgysylltiedig.
  • Rhaid i'r Cynllun gysylltu â strategaethau eraill Llywodraeth Cymru (e.e. cynllun gweithredu gwrth-hiliol, cynllun gweithredu LHDTC+) i greu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig sy'n adlewyrchu'r amlhunaniaethau sydd gan lawer o bobl anabl.
  • Mae’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ar goll o’r cynllun. Mae ei absenoldeb yn gyfle a gollwyd i gryfhau amddiffyniadau.
  • Dylid blaenoriaethu tegwch o ran iaith a chyfathrebu. Mae siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain yn cael eu tangynrychioli yn y Cynllun. Mae angen terminoleg anabledd Gymraeg safonol, ochr yn ochr ag ymgorffori'r Gymraeg ac Iaith Arwyddion Prydain ar draws pob cam gweithredu, a sicrhau digwyddiadau ymgynghori sy'n hygyrch i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.
  • Mae fersiwn y cynllun i Blant a Phobl Ifanc yn anodd. Mae angen ei symleiddio, gydag amserlen glir i ddangos sut y bydd y newidiadau o fudd cyn iddynt ddod yn oedolion. Nid yn unig y dylid ymgynghori â phobl anabl, dylid sicrhau eu bod yn cael arwain. Rhaid iddynt fod mewn rolau gwneud penderfyniadau, gan osod blaenoriaethau a sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. 
Cyllid ac adnoddau
  • Nid yw camau gweithredu tymor byr yn cael eu hariannu'n llawn ac felly mae perygl iddynt fethu cyn y gellir cyflawni unrhyw ganlyniadau tymor hir.
  • Nid yw maint yr uchelgais yn y Cynllun yn cyd-fynd â'r ymrwymiadau ariannol neu staffio sydd eu hangen i'w chyflawni. Heb fuddsoddiad ychwanegol bydd y Cynllun yn parhau i fod yn ddyhead yn hytrach nag yn rhywbeth y mae modd gweithredu arno.
  • Mae angen manylion cyflawni clir: dyddiadau, cerrig milltir, costau a strwythurau atebolrwydd i olrhain cynnydd ar draws adrannau'r llywodraeth.
Pryderon â’r broses ymgynghori
  • Roedd y broses ymgynghori yn anhygyrch ac yn ddryslyd, gyda dogfennau wedi'u gwasgaru ar draws nifer o ffeiliau, cynllun gwefan anodd, ac roedd rhai grwpiau (e.e. ymatebwyr Hawdd eu Deall) wedi'u heithrio rhag ymateb yn electronig.
  • Barnwyd bod y dulliau cyfathrebu a chyhoeddusrwydd yn wan. Dywedodd rhai nad oeddent yn aml yn gwybod bod ymgynghoriad yn cael ei gynnal, ac awgrymwyd defnyddio sianeli mwy amlwg (e.e. cylchlythyrau ysgol, hysbysfyrddau cymunedol, posteri mewn mannau cyhoeddus, meddygfeydd meddygon teulu, a chyfryngau cymdeithasol Llywodraeth Cymru).
  • Rhaid i ymgynghoriadau fod yn fwy cynhwysol. Mae angen gweithdai, sesiynau creadigol ac anffurfiol, digwyddiadau sy'n hygyrch i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain, apiau hygyrch, mynediad i'r Gymraeg, a sesiynau gwybodaeth wedi'u targedu. Dylai digwyddiadau ymgysylltu ddigwydd yn rheolaidd ac yn lleol, nid ar lefel genedlaethol yn unig.
  • Mae syrffed ar ymgynghoriadau yn broblem. Mae arolygon ticio blychau ailadroddus ac ymgynghoriadau sy'n gorgyffwrdd (yn enwedig â phrosesau Llywodraeth y DU) yn golygu bod pobl yn syrffedu ac yn colli diddordeb.
  • Mae tlodi digidol yn rhwystr. Mae’n rhaid i opsiynau heb fod yn rhai digidol fod ar gael i sicrhau bod pawb yn gallu cymryd rhan.
  • Mae angen amserlenni cliriach, diweddariadau rheolaidd, a hysbysiadau cynharach ynghylch digwyddiadau fel bod pobl yn gallu cynllunio a pharhau i gymryd rhan.
Datganoli a Materion a Gedwir yn Ôl
  • Mae diwygiadau lles Llywodraeth y DU (fel newidiadau i PIP neu Fynediad i Waith) yn tanseilio cynnydd yng Nghymru. Nododd un ymatebydd fod ymddiriedaeth yn cael ei herydu gan ddiwygiadau lles ar lefel y DU a galwodd ar ASau Cymru i eirioli'n gryfach yn y Senedd ar ran pobl anabl yng Nghymru.
  • Dylai'r Cynllun gyfeirio'n ystyrlon at rôl y system fudd-daliadau ac effeithiau parhaus diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar ddiogelwch a llesiant ariannol pobl anabl.
  • Dylid datganoli cymorth cyflogaeth a budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd er mwyn i Lywodraeth Cymru allu sicrhau darpariaeth decach.
  • Mae dryswch ynghylch pa gyfrifoldebau sy'n perthyn i Lywodraeth Cymru, a pha rai sy'n parhau i fod wedi’u cadw'n ôl i San Steffan. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd deall beth all y Cynllun ei gyflawni, yn realistig.
  • Mae lansio'r Cynllun mor agos at etholiad nesaf y Senedd yn creu pryder ynghylch parhad gwleidyddol. Mae pryder y gallai blaenoriaethau newid o dan weinyddiaeth newydd.
Adeiladu Cymru’r dyfodol ar gyfer pobl anabl
  • Dylai'r Cynllun ystyried newidiadau demograffig yn y dyfodol, gan gynnwys poblogaethau sy'n heneiddio, cyfraddau anabledd cynyddol, ac anghenion gofal sy'n esblygu.
  • Mae gan Gymru rôl fyd-eang o ran hyrwyddo hawliau anabledd. Dylai’r cynllun gyd-fynd â fframweithiau hawliau dynol rhyngwladol.
Sylwadau eraill
  • Hoffem weld camau [y cyflogwyr hygyrch] yn cael eu rhannu'n wahanol sectorau sydd wedi'u datganoli o fewn Llywodraeth Cymru.
  • Roedd y cyfranogwyr wedi annog y llunwyr polisïau i wneud y canlynol:
    • Gwrthwynebu diwygiadau i nodiadau ffitrwydd sy'n peryglu ymreolaeth feddygol.
    • Mapio effeithiau croestoriadol polisïau’r DU ar hawlwyr yng Nghymru.
    • Sicrhau bod Sefydliadau Pobl Anabl yn arwain y gwaith o ymgysylltu ag ymgynghoriadau yn y DU.
    • Ehangu rhaglenni cyflogadwyedd cynhwysol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
    • Ailddatgan a gorfodi Erthygl 4 y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau yn gyhoeddus.
  • Annog Llywodraeth Cymru i gynnwys dechrau datblygu Hwb Gwybodaeth Anabledd i Gyflogwyr yn ei chynllun gweithredu tymor byr.
  • Rydym hefyd yn teimlo nad yw'r ffocws ar ‘ddefnyddio'r pwrs cyhoeddus i feithrin ymddygiadau sy'n cefnogi gweithle cynhwysol’ yn cael sylw yn unrhyw un o'r camau gweithredu tymor byr.
  • Dylid ymwreiddio cydnabyddiaeth i’r undebau llafur a hawliau cydfargeinio mewn safonau cyflogaeth ar gyfer gweithwyr anabl.
  • Mae creu mannau i gyflogwyr, undebau a Sefydliadau Pobl Anabl gydweithio yn meithrin dysgu ac atebolrwydd ar y cyd.
  • Rhagor o eglurder ynghylch sut y bydd y cymorth cyflogaeth hygyrch hwn yn cael ei ddarparu. Ai'r bwriad yw hyfforddi darparwyr presennol ar ymwybyddiaeth o hygyrchedd, byddardod ac anabledd? Neu gyllido rhaglenni cymorth cyflogaeth newydd sydd wedi'u targedu'n benodol at bobl anabl ac o bosibl eu darparu gan Sefydliadau Pobl Anabl? Nid oes unrhyw gam yn y cynllun gweithredu tymor byr sy'n cyd-fynd â'r amcan hwn.
  • Croesewir ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau hygyrch, ymatebol o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy'n diwallu anghenion yr holl bobl ddall fyddar yng Nghymru…mae gennym bryderon ynghylch sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol ac a allai hyn ddod yn loteri cod post yn dibynnu ar ble mae’r unigolion yn byw.

Crynodeb

Mae'r ymatebion i Gwestiwn 13 yn yr ymgynghoriad yn adlewyrchu galwad gyson i'r Cynllun Hawliau Pobl Anabl gael ei ategu gan adnoddau digonol, amserlenni clir, a mecanweithiau atebolrwydd cadarn. Er bod llawer o’r ymatebwyr yn croesawu uchelgais y Cynllun, roeddent wedi pwysleisio y gallai'r ymrwymiadau barhau i fod yn ddyhead heb gostau diffiniedig, cerrig milltir a strwythurau cyflawni. Lleisiwyd pryderon hefyd ynghylch natur tymor byr y camau gweithredu, ac a fyddai cynnydd yn goroesi newidiadau gwleidyddol yn y dyfodol, yn enwedig yng ngoleuni diwygiadau lles arfaethedig y DU a allai danseilio cynnydd yng Nghymru. Galwodd nifer o ymatebwyr am ddatganoli budd-daliadau sy'n gysylltiedig ag anabledd er mwyn rhoi mwy o reolaeth i Lywodraeth Cymru.

Thema ganolog oedd yr angen am gyd-gynhyrchu dilys. Roedd yr ymatebwyr yn annog ymgynghori â phobl anabl yn ogystal â sicrhau eu bod yn cael rolau arwain i lunio a chyflawni polisïau. Teimlai llawer fod y dulliau presennol yn parhau i fod yn symbolaidd, gyda thystiolaeth gyfyngedig bod cyfraniadau gan bobl anabl yn dylanwadu ar y penderfyniadau terfynol. Cafodd y rhwystredigaeth hon ei dwysau gan feirniadaeth o'r broses ymgynghori ei hun, a oedd yn anhygyrch, yn ddryslyd neu'n cael ei hysbysebu'n wael ym marn rhai cyfranogwyr. Roedd yr ymatebwyr hefyd yn galw am ddulliau cyfathrebu mwy tryloyw, gan gynnwys diweddariadau cynnydd rheolaidd a rhybudd ymlaen llaw am gyfleoedd ymgysylltu fel digwyddiadau sy'n hygyrch i ddefnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain.

Nodwyd bod croestoriadedd a chynnwys gwahaniaethau neu amhariadau anweledig yn fylchau mawr yn y Cynllun. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith bod menywod anabl, pobl niwrowahanol, y rheini sydd â chyflyrau iechyd meddwl, a phobl o gefndiroedd Du a lleiafrifoedd ethnig yn wynebu rhwystrau penodol nad oeddent yn cael digon o sylw. Lleisiwyd pryderon hefyd ynglŷn â’r diffyg cyfeiriad penodol at y Ddeddf Galluedd Meddyliol yng Nghymru, a thangynrychiolaeth siaradwyr Cymraeg a defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain. Ar draws pob sector, pwysleisiodd yr ymatebwyr nad yw gweithwyr proffesiynol yn aml yn cael yr hyfforddiant i gefnogi'r grwpiau hyn yn effeithiol. 

Roedd hygyrchedd yn fater arall a oedd yn codi dro ar ôl tro. Disgrifiodd y cyfranogwyr rwystrau yn yr amgylchedd adeiledig, fel palmentydd gorlawn, biniau ac arwyddion, ochr yn ochr ag allgáu digidol a achosir gan systemau anhygyrch. Roedd yr ymatebwyr yn galw am wreiddio cynhwysiant digidol ar draws yr holl wasanaethau, mynediad teg at gyfarpar ac addasiadau, a chynllunio tymor hir ar gyfer technoleg gynorthwyol.

Yn olaf, pwysleisiodd y cyfranogwyr bwysigrwydd atebolrwydd. Roeddent yn galw am fframweithiau monitro a gwerthuso cryfach, gyda thargedau mesuradwy, gofynion y gellir eu cyflawni, ac amserlenni diffiniedig. Roedd y cynigion yn cynnwys gorchymyn awdurdodau lleol i fod yn aelodau o Anabledd Cymru a chreu systemau adrodd ar gyfer gwahaniaethu a rhwystrau hygyrchedd. Argymhellwyd cynllun gweithredu byw sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd er mwyn caniatáu i bobl anabl a'r cyhoedd olrhain y ddarpariaeth a dal llywodraethau’n atebol. Heb y mesurau hyn, roedd yr ymatebwyr yn ofni y gallai'r Cynllun ailadrodd y diffygion blaenorol a methu â sicrhau newid ystyrlon. 

Y camau nesaf

Ar ôl gwerthuso’r ymatebion i'r ymgynghoriad, bydd y Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru. 

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu sydd eisoes ar waith, gan gynnal momentwm ar y prif flaenoriaethau, fel gweithio gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen o randdeiliaid, gan roi cyngor ar sefydlu Bwrdd Cynghori Allanol. Byddwn hefyd yn mynd ati'n rheolaidd i asesu a oes angen cymryd camau pellach i gryfhau ein dull gweithredu. 

Byddwn yn adolygu’r Asesiadau Effaith Integredig yn unol â’r newidiadau a wnaed i’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl. 

Atodiad A: sefydliadau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Adran Seicoleg Plant a Theuluoedd
Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu 
Pobl yn Gyntaf Cymru 
Cymdeithas Alzheimer's
Auditory Verbal UK
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Gyrfa Cymru 
Gofalwyr Cymru 
Cerebra
Plant yng Nghymru 
Comisiynydd Plant Cymru
Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru
CIH Cymru
Cyngor ar Bopeth Conwy-Gwynedd
Colegau Cymru
Cartrefi Cymunedol Cymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
Centre Of Sign 
Crohn's & Colitis UK 
Cwmpas
Cycling UK
Cyngor Sir Ceredigion
Iechyd a Gofal Digidol Cymru 
Celfyddydau Anabledd Cymru
Anabledd Dysgu Cymru
Anabledd Cymru 
Trafnidiaeth Gymunedol Dolen Teifi
Cymdeithas Syndrom Down 
Epilepsy Action Cymru
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
Triniaeth Deg i Fenywod Cymru 
Cronfa’r Teulu 
Cŵn Tywys 
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Mirus Cymru 
Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor
Mudiad Meithrin
Rhwydwaith Cynghori Cenedlaethol
Cyngor Dinas Casnewydd
Swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Parkinson’s UK Cymru
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys 
Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall 
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar
Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru
Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
Gofal Cymdeithasol Cymru
Gofal Canser Tenovus
Tros Gynnal Plant (TGP Cymru)
Yr Ymddiriedolaeth Thalidomide 
Unite The Union Cymru
Fforwm Golwg Cymru
Cymorth i Ferched Cymru
Whizz Kidz