Cynllun Hawliau Pobl Anabl drafft: 2025 i 2035
Drafft ymgynghori o'n cynllun 10 mlynedd i wella hawliau pobl anabl sy'n byw yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair y gweinidog
Rydyn ni’n falch o gyflwyno’r Cynllun Hawliau Pobl Anabl hwn i Gymru, a fydd yn ein helpu i hybu hawliau a chyfleoedd pobl anabl yng Nghymru, i gael gwared ar rwystrau, ac i herio’r rhagfarn a gwahaniaethu maen nhw’n eu hwynebu. Mae bywyd i bobl anabl yn aml yn anodd, yn llawn heriau o ddydd i ddydd a rhwystrau systemig sy’n amharu ar eu gallu i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas. Mae’r heriau hyn yn cyfyngu ar gyfleoedd pobl anabl ac yn gallu chwalu eu hymdeimlad o berthyn a chynhwysiant.
Mae’r cynllun hwn yn nodi ein huchelgais ar gyfer Cymru lle gall pobl anabl fwynhau hawliau, cynhwysiant a chyfranogiad cyfartal. Wrth wraidd ein dull gweithredu mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n ein helpu i ddeall sut gall pobl anabl gael eu dal yn ôl gan y byd o’u cwmpas, a sut gallwn ei gwneud hi’n haws i bawb gymryd rhan yn y byd. Rydyn ni hefyd yn cael ein harwain gan egwyddorion a rhwymedigaethau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl. Mae’r rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu yn gallu cynnwys adeiladau anhygyrch, gwasanaethau nad ydynt yn cael eu haddasu i fodloni eu hanghenion, ac agweddau rhai pobl atynt. Rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i gael gwared ar y rhwystrau hyn er mwyn creu cymdeithas gynhwysol a hygyrch i bawb.
Mae ein hymrwymiadau wedi’u hamlinellu mewn tair dogfen allweddol:
- y cynllun deg mlynedd hwn, sy’n nodi ein huchelgeisiau hirdymor
- y camau y byddwn yn eu rhoi ar waith yn ystod tymor y llywodraeth hon
- ein hadroddiad cynnydd sy’n dangos rhai o’r llwyddiannau hyd yma a’n gwaith parhaus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl, fel ein hymgyrch ‘Mae Casineb yn Brifo’ a’n Pwyllgor Ymgynghorol ar Gludiant Pobl Anabl
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu’r cynllun hwn drwy’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a’i weithgorau, ac i’r Athro Debbie Foster am ei harweinyddiaeth fel cyd-gadeirydd y Tasglu. Mae’r Tasglu wedi gweithio’n helaeth i ystyried yr heriau a nodwyd yn yr adroddiad ‘Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’, ac mae ei argymhellion wedi dylanwadu’n helaeth ar y cynllun hwn.
Dim ond os bydd sefydliadau a phobl ledled Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i’w gyflawni y bydd y cynllun hwn yn llwyddo. Byddwn yn sefydlu Bwrdd Ymgynghorol Allanol i ddarparu cyngor a chymorth ynghylch gweithredu, cyflawni ac effaith y Cynllun Hawliau Pobl Anabl.
Mae cyflawni ein huchelgais o Gymru lle gall pobl anabl fyw, gweithio a ffynnu fel dinasyddion cyfartal yn gofyn am ymdrech ar y cyd. Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth drwy gael gwared ar y rhwystrau sy’n wynebu pobl anabl a herio’r gwahaniaethu a’r rhagfarn y mae pobl anabl yn parhau i’w hwynebu bob dydd. Drwy gynnal hawliau pobl anabl a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’n bod yn gweithredu arnynt, gyda’n gilydd gallwn ni greu cymdeithas gynhwysol.
Eluned Morgan AS
Prif Weinidog Cymru
Jane Hutt AS.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Y Trefnydd a’r Prif Chwip.
1. Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi cymdeithas lle mae amrywiaeth yn cael ei chroesawu a’i gwerthfawrogi am yr effaith gadarnhaol y mae’n ei chael. Mae gan bobl anabl wahanol safbwyntiau, sgiliau ac arbenigedd, ac mae’n bwysig eu gwerthfawrogi, eu cydnabod a’u cryfhau.
Yn 2021, roedd cyfran y bobl anabl yng Nghymru yn 21% (670,000 o bobl). Roedd cyfran y bobl anabl yn y boblogaeth yn cynyddu gydag oedran, ac roedd merched yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod yn anabl. Rydyn ni’n gwybod bod pobl anabl yn wynebu nifer o fathau o wahaniaethu ac allgáu a hynny ym meysydd addysg, cyflogaeth, iechyd, tai, trafnidiaeth a mwy.
O’r boblogaeth oedran gweithio yn 2023, roedd pobl anabl (14%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (6%). Mae cyfraddau cyflogaeth pobl anabl rhwng 16 a 64 oed 31 pwynt canran yn is na phobl nad ydynt yn anabl (2023 i 2024). Roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol, o’i gymharu ag un o bob deg o bobl nad oeddent yn anabl (2022 i 2023).
Mae’r cynllun hwn yn nodi ein fframwaith deg mlynedd trawslywodraethol sy’n mynegi ein huchelgais a’r canlyniadau rydyn ni’n dymuno eu cyflawni i sicrhau bod pobl anabl yn gallu ffynnu fel aelodau cyfartal o gymdeithas Cymru, ac i herio gwahaniaethu a rhagfarn. Mae angen i bob sefydliad ledled Cymru, a ninnau fel pobl, weithio gyda’i gilydd i wireddu’r uchelgais hon.
Mae’r cynllun hwn yn cael ei ategu gan ddwy ddogfen arall, sy’n cael eu disgrifio isod. Mae’r ddogfen gyntaf yn amlinellu’r cynnydd hyd yma. Mae’r ail yn cynnwys y camau gweithredu tymor byr a fydd yn cael eu cyflawni yn ystod tymor y llywodraeth hon.
Mae’r cynllun wedi’i strwythuro yn erbyn pedwar maes gweithredu cyffredinol, sy’n cyd-fynd ag un o’r saith Nod Llesiant Cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru):
- Cymdogaethau a lleoedd.
- Cyflogaeth, incwm ac addysg.
- Byw’n annibynnol.
- Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol.
Ar gyfer pob un o’r meysydd gweithredu hyn, mae’r cynllun hwn yn nodi ein huchelgeisiau a’r canlyniadau cyffredinol rydyn ni am eu gweld dros y deg mlynedd nesaf. Mater i lywodraethau’r dyfodol fydd ystyried y canlyniadau a’r ffordd orau o’u cyflawni dros y cyfnod hwn.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud cynnydd sylweddol i gyflawni’r uchelgeisiau cyffredinol. Mae’r cynnydd hwn a’n gwaith parhaus yn cael eu disgrifio yn y ddogfen ‘Cynllun Hawliau Pobl Anabl, Cymru: Ein cynnydd i gefnogi ein huchelgais’. Mae’r camau tymor byr y bydd Llywodraeth Cymru’n eu cymryd tuag at gyflawni’r canlyniadau hirdymor sydd wedi’u nodi yn y cynllun yn cael eu hamlinellu yn y ddogfen ‘Cynllun Hawliau Pobl Anabl, Cymru: Ein camau gweithredu tymor byr’. Bydd llywodraethau’r dyfodol yn pennu’r camau gweithredu tymor canolig i dymor hir y byddant yn eu cymryd i gyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer pobl anabl sydd wedi’u nodi yn y cynllun deg mlynedd hwn.
Mae’r cynllun hwn yn disodli fframwaith a chynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol. Er bod llawer o gamau cadarnhaol wedi cael eu cymryd drwy’r cynllun hwn, rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â’r sgwrs ar wella canlyniadau i bobl anabl yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cynllun hwn.
Ein Huchelgais gyffredinol
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu hawliau pobl anabl ac i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys, a’u bod yn gallu cymryd rhan ym mhob cymuned yng Nghymru. Rydyn ni’n dymuno gwneud Cymru’n lle cynhwysol a hygyrch i bobl anabl; cymdeithas lle gall pobl anabl gymryd rhan heb gyfyngiadau a chael eu grymuso i fyw bywyd llawn, lle mae eu hawliau unigol a chyfunol yn cael eu cydnabod a’u cynnal, a lle mae eu cyfraniad yn cael ei gydnabod.
Mae’r adran hon o’r cynllun yn nodi’r uchelgeisiau cyffredinol o ran y newid hirdymor ar gyfer pobl anabl yn erbyn y pedwar maes gweithredu cyffredinol.
Cymdogaethau a lleoedd
Dyma’r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer Cymdogaethau a Lleoedd:
- Mae system drafnidiaeth hygyrch yn sicrhau bod ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn ddiogel, yn groesawgar ac yn gynhwysol. Rydyn ni’n grymuso pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hyderus ac yn rhwydd. Mae pobl anabl yn helpu gwasanaethau trafnidiaeth i ddeall y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth ac i gael trefniadau llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgais.
- Mae system dai hygyrch yn cyfuno datblygu polisïau cynhwysol â darparu gwasanaethau a gwybodaeth ddi-dor, gan leihau’r rhwystrau i dai hygyrch a diogelu hawliau ac anghenion preswylwyr anabl o bob cefndir.
- Mae cymunedau hygyrch yn sicrhau bod pobl anabl yn gallu defnyddio amwynderau a mannau cyhoeddus heb rwystrau, ac yn mynd ati i hybu cyfranogiad llawn pobl anabl yn y gymuned leol drwy gymorth cydlynol gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.
Cyflogaeth, incwm ac addysg
Dyma’r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer Cyflogaeth, Incwm ac Addysg:
- Mae agwedd gynhwysol at gyflogaeth, gwirfoddoli, incwm a chaffael cyhoeddus yn helpu pobl anabl i gael mynediad cyfartal at waith teg a boddhaus drwy fabwysiadu arferion gweithio cynhwysol, rhagor o gyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a gwell mynediad at gymorth hunangyflogaeth.
- Mae plant a phobl ifanc anabl yn gallu arfer eu hawl i addysg a theimlo’n ddiogel ac wedi’u cynnwys yn eu lleoliadau addysgol, lle mae eu hanghenion addysgol yn cael eu nodi a’u bodloni, yn ogystal â drwy ddysgu sy’n adlewyrchu anghenion, profiadau a hawliau pobl anabl.
Byw’n annibynnol
Dyma’r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer Byw’n Annibynnol:
- Llai o anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ymysg pobl anabl, gan gynnwys mynediad at fudd-daliadau lles sy’n galluogi pobl anabl i fyw’n annibynnol ac i dalu costau byw.
- Mae pobl anabl yn byw bywydau llawn, gan fwynhau hawliau lles a byw’n annibynnol. Mae systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn hygyrch ac mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd wedi’i wreiddio ar draws comisiynwyr a darparwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol i sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu bodloni, a hawliau’n cael eu diogelu.
Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
Dyma’r uchelgeisiau cyffredinol ar gyfer Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol:
- Mae gan bobl anabl yr ymreolaeth i fynegi eu hunain a chymryd rhan mewn profiadau cyfoethogi yn eu cymunedau lleol ac ochr yn ochr â’u cyfoedion, gan wneud hynny yn yr iaith o’u dewis heb ofni rhwystrau neu allgáu diangen.
- Mae profiadau pobl anabl o’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder – sifil a throseddol – yn cael eu gwella drwy wasanaethau wedi’u cyd-drefnu’n well, gwybodaeth am hawliau, cymorth ymatebol i oroeswyr camdriniaeth, a gwelliannau cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Mae hawliau a phrofiadau pobl anabl yn cael eu hybu a’u cefnogi gan Sefydliadau Pobl Anabl, gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol, a Llywodraeth Cymru sy’n gwerthfawrogi ac yn ymgorffori eu hawliau mewn polisi a’r gyfraith, er mwyn creu cymdeithas wirioneddol gynhwysol.
Tasglu hawliau pobl anabl
Roedd pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pobl ar draws y byd, gan ddwysáu anghydraddoldebau ac anfanteision economaidd-gymdeithasol. Cafodd Covid effaith anghymesur ar rai cymunedau yng Nghymru.
Ym mis Gorffennaf 2021, roedd yr adroddiad ‘Drws ar glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19’ wedi tynnu sylw at yr anghydraddoldebau sy’n wynebu pobl anabl mewn cymdeithas. Un o’r ymatebion i’r adroddiad oedd sefydlu’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl – partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid – wedi’i gyd-gadeirio gan Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip, a’r Athro Debbie Foster o Brifysgol Caerdydd ac awdur yr adroddiad ‘Drws ar glo’.
Ffurfiodd y Tasglu ddeg gweithgor thematig i argymell camau gweithredu a fyddai’n gwella bywydau pobl anabl, sef:
- gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ar draws Cymru)
- mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
- byw’n annibynnol: gofal cymdeithasol
- byw’n annibynnol: iechyd
- teithio
- cyflogaeth ac incwm
- tai fforddiadwy a hygyrch
- plant a phobl ifanc
- mynediad at gyfiawnder
- llesiant (fel gweithdy)
Roedd y Tasglu’n gweithredu ar sail yr egwyddor cydgynhyrchu. Gweithiodd dros 350 o randdeiliaid allanol a 200 o swyddogion polisi Llywodraeth Cymru gyda’i gilydd i ddatblygu argymhellion gyda’r nod o wella canlyniadau a sicrhau bod hawliau pobl anabl yng Nghymru yn cael eu gwireddu’n llawn. Roedd pobl anabl yn bartneriaid gweithredol ac yn arweinwyr ym mhroses y Tasglu, gan rannu gwybodaeth a phrofiadau bywyd sydd wedi llywio camau gweithredu i roi sylw i hawliau pobl anabl ac i chwalu’r rhwystrau presennol. Mae’r egwyddor “pwysigrwydd cynnwys pobl anabl mewn unrhyw benderfyniadau” yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn cymryd rhan weithredol mewn materion sy’n effeithio ar eu bywydau. Cafodd y mantra hwn ei fabwysiadu gan bobl anabl a sefydliadau cymorth oherwydd yn hanesyddol, mae pobl eraill wedi dweud wrth bobl anabl beth sydd orau iddyn nhw, yn hytrach na gofyn i bobl anabl eu hunain.
Mae argymhellion y Tasglu, a gafodd eu cydgynhyrchu, wedi cael eu defnyddio i lywio camau gweithredu a chanlyniadau’r cynllun pwysig hwn. Bydd yr argymhellion hyn yn parhau i fod yn adnodd pwysig y gall Llywodraeth Cymru ddychwelyd ato yn y dyfodol i nodi ei chamau gweithredu tymor canolig i hirdymor er mwyn cyflawni’r uchelgais a’r canlyniadau ar gyfer pobl anabl yn y cynllun deg mlynedd hwn.
Dulliau cyffredinol o ddatblygu’r cynllun hwn
Ochr yn ochr â gwaith pwysig ac argymhellion y Tasglu, mae’r gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn wedi cael ei lywio gan ystyriaethau, egwyddorion, rhwymedigaethau ac amcanion ehangach, sydd wedi’u nodi isod.
Gweithio gyda phobl anabl
Mae gweithio gyda phobl anabl yn hanfodol er mwyn datblygu cymdeithas gynhwysol, deg a ffyniannus. Mae cydweithio â phobl anabl i fynd i’r afael â’r problemau a’r heriau go iawn maen nhw’n eu hwynebu yn sicrhau bod polisïau’n effeithiol, ac yn fwy tebygol o gyflawni’r canlyniad a fwriedir sy’n parchu hawliau a chyfraniad pobl anabl.
Mae gan Sefydliadau Pobl Anabl ledled Cymru rôl strategol yn hybu hawliau pobl anabl yng Nghymru. Rydyn ni’n parhau i ariannu Anabledd Cymru, y gymdeithas genedlaethol o Sefydliadau Pobl Anabl yng Nghymru. Mae arbenigedd a gwerth Sefydliadau Pobl Anabl yn cefnogi Llywodraeth Cymru a’i gwaith o ddatblygu polisïau.
Byw’n annibynnol
Mae byw’n annibynnol yn golygu bod gan bob person anabl yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill, a hynny gartref, yn y gwaith, mewn addysg ac yn y gymuned. Nid yw’n golygu gorfod byw ar eich pen eich hun na gwneud popeth drosoch eich hun. Mae’n golygu hawliau i gymorth a chefnogaeth ymarferol i gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar yr un sail â phobl eraill, yn ogystal â llais, dewis a rheolaeth dros sut caiff hyn ei ddarparu. Mae’n ymwneud â sicrhau bod pobl o bob oed ac o bob cymuned yn gallu mwynhau llesiant a chael gafael ar gymorth priodol pan a sut mae ei angen arnynt.
Ategir hyn gan erthygl 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, a gafodd ei gadarnhau gan y DU yn 2009, sy’n nodi bod gan bobl anabl yr hawl i fyw yn y gymuned gyda’r un dewisiadau â phobl eraill. Mae hyn yn cynnwys y cyfle i ddewis eu man preswylio a gyda phwy maen nhw’n byw, heb orfod byw mewn trefniant penodol. Hefyd, rhaid i wasanaethau a chyfleusterau cymunedol sydd ar gael i’r boblogaeth gyffredinol fod yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion pobl anabl hefyd.
Cydraddoldeb
Mae deall sut mae agweddau ar hunaniaeth unigolyn, fel rhyw, hil, oedran ac anabledd yn cyfuno i greu profiadau gwahaniaethu unigryw yn gwella’r gwaith o ddatblygu polisïau. Mae'n galluogi llunwyr polisïau i gydnabod a mynd i'r afael â natur gymhleth a rhyng-gysylltiedig hunaniaethau a phrofiadau personol unigolion.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod cyflogwyr a darparwyr gwasanaethau’n gwneud addasiadau rhesymol i gael gwared ar yr anfanteision y mae pobl anabl yn eu hwynebu. Mae’r ddyletswydd hon yn sicrhau bod unigolion anabl yn cael yr un mynediad at wasanaethau, cyflogaeth a swyddogaethau cyhoeddus. Efallai y bydd peidio â gwneud yr addasiadau hyn yn cael ei ystyried yn wahaniaethu anghyfreithlon. Fel rhan o’n dyletswyddau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae gan Lywodraeth Cymru saith Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol, sef:
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hybu a lle maen nhw’n sail i bob polisi cyhoeddus.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.
- Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol – y saith nod llesiant – ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n rhoi manylion sut mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi’r nodau llesiant Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal a Chymru o gymunedau cydlynus.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Cadarnhaodd y DU y Confensiwn hwn yn 2009, er mwyn cynnal a hybu hawliau pobl anabl. Drwy gydol y cynllun hwn rydyn ni’n cyfeirio at y confensiwn fel y ‘Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl’, yn hytrach na’r enw a roddwyd iddo – Y Confensiwn ar Hawliau Pobl ag Anableddau – er mwyn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r Model Cymdeithasol o Anabledd, sy’n cael ei drafod yn fanylach isod.
Drwy ymdrechion y Gweithgor Opsiynau Deddfwriaethol, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i archwilio sut i wreiddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng Nghymru. Ym mhob un o’r pedwar maes allweddol, mae’r cynllun hirdymor hwn yn amlinellu sut mae ei gamau gweithredu a’i ganlyniadau’n cefnogi’r egwyddorion sydd wedi’u hamlinellu yn erthyglau perthnasol Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl. Drwy wneud yn siŵr bod ein camau gweithredu a’n canlyniadau yn cyd-fynd â’r egwyddorion hyn, ein nod yw sicrhau bod ein cynllun yn hybu mynediad at hawliau a chynhwysiant fel y bwriedir gan y confensiwn ar gyfer pob person anabl yng Nghymru.
Roedd adroddiad y Cenhedloedd Unedig yn 2024 ar ‘Hawliau Pobl ag Anableddau’ yn tanlinellu nifer o feysydd hollbwysig lle mae’n rhaid i’r DU wella bywydau unigolion anabl. Roedd yr adroddiad yn argymell strategaethau cynhwysfawr i fynd i’r afael â phrinder llafur mewn gwasanaethau anabledd ac iechyd meddwl, ac yn tynnu sylw at yr angen am gymorth personol, cymorth hamdden a thrafnidiaeth hygyrch digonol. Roedd yn pwysleisio’r angen i wella trefniadau nawdd cymdeithasol, gan gynnwys asesiadau manwl ac addasiadau i fudd-daliadau i dalu am gostau sy’n gysylltiedig ag anabledd. Roedd hefyd yn galw am gymorth wedi’i dargedu i grwpiau ar y cyrion i sicrhau eu bod yn gallu byw’n annibynnol ac yn tanlinellu pa mor bwysig yw atal pobl anabl rhag cael eu sefydliadoli oherwydd cymorth cymunedol annigonol.
Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru’n gyfrifol am feysydd datganoledig fel iechyd, addysg a rhai agweddau ar deithio, ond mae nawdd cymdeithasol yn dal yn un o gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Mae angen ymdrech drawslywodraethol unedig i ddatrys rhai o’r problemau trawsbynciol ar gyfer holl bobl anabl y DU.
Mae’r gwaith i wneud y grantiau a’r buddion sy’n cael eu llywodraethu gan Lywodraeth Cymru (a elwir weithiau’n fudd-daliadau Cymru) mor hawdd eu hawlio â phosibl yn creu potensial cadarnhaol i bobl anabl yng Nghymru. Roedd cyflwyno Siarter Budd-daliadau Cymru ym mis Ionawr 2024, sydd wedi cael ei fabwysiadu gan bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, yn arwydd o newid diwylliant tuag at ddylunio a darparu budd-daliadau a grantiau Cymru sy’n fwy cydlynol, sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n seiliedig ar hawliau. Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio ar y cyd â’i phartneriaid, yn cyflawni ymrwymiadau’r Siarter, a fydd yn sicrhau bod pawb yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deg, heb wahaniaethu, a bod pob partner yn dilyn y model cymdeithasol o anabledd wrth weinyddu budd-daliadau Cymru.
Y Model Cymdeithasol o Anabledd
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn canolbwyntio ar rwystrau cymdeithasol yn hytrach nag amhariadau, gan eirioli dros yr un hawliau i bobl anabl â’u cyfoedion. Mae’r Model yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gymdeithas, gan alw am gael gwared ar rwystrau – strwythurol, diwylliannol a gwahaniaethu – sy’n cyfyngu ar gyfranogiad pobl anabl. Mae rhwystrau strwythurol yn cynnwys adeiladau anhygyrch. Mae rhwystrau diwylliannol yn deillio o agweddau, credoau ac arferion mewn cymdeithas sy’n arwain at allgáu, gwahaniaethu a rhagfarn sy’n ffafrio pobl nad ydynt yn anabl. Drwy herio’r safbwyntiau hyn, gall cymdeithas ddangos nad rhywbeth negyddol yw bod yn anabl, a bod cymdeithas a chymunedau’n gryfach ac yn fwy cydlynol gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys pobl anabl. Mae’r model hwn yn grymuso pobl anabl i arfer eu hawliau ac yn dathlu eu hamrywiaeth a’u cyfraniadau.
Gwahaniaethu a rhagfarn
Mae pobl anabl yn aml yn wynebu gwahaniaethu sy’n ffafrio pobl nad ydynt yn anabl – mae llawer yn ei alw’n ableddiaeth. Byddai peidio â darparu seilwaith hygyrch fel rampiau a thoiledau hygyrch, a dulliau hygyrch o gyfathrebu a rhannu gwybodaeth, megis llythyrau print bras, yn enghraifft o hyn. Ar ben hynny, mae rhai pobl anabl yn wynebu gwahaniaethu bwriadol, fel allgáu a sarhau. Mae gwahaniaethu’n gallu arwain at ganlyniadau dwys i bobl anabl, gan gynnwys teimlo’n ynysig, llai o gyfleoedd mewn bywyd, a niwed emosiynol. Mae angen newidiadau cymdeithasol i fynd i’r afael â’r problemau hyn, gan gynnwys dylunio mannau cynhwysol, lledaenu ymwybyddiaeth, a sicrhau cydraddoldeb i bawb.
Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
Mae Iaith Arwyddion Prydain yn iaith unigryw gyda gramadeg, cystrawen a geirfa unigryw, a hon yw’r iaith gyntaf neu’r iaith o ddewis i lawer o bobl fyddar yng Nghymru. Cafodd ei chydnabod fel iaith swyddogol gan Lywodraeth y DU yn 2003 ac mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022 yn helpu i sicrhau bod gwasanaethau a gwybodaeth gyhoeddus ar gael i bobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Cafodd Iaith Arwyddion Prydain ei chydnabod fel un o ieithoedd Cymru yn 2004 gan Lywodraeth y Cynulliad ar y pryd, ac rydyn ni’n dal wedi ymrwymo i sicrhau bod y gymuned Iaith Arwyddion Prydain fyddar yn cael ei chynnwys a’i grymuso’n llawn ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru. Mae cydnabod Iaith Arwyddion Prydain fel iaith leiafrifol yn hanfodol ar gyfer eu llesiant a’u hawliau dynol. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod yr heriau sy’n wynebu pobl fyddar sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a’r angen i oresgyn y rhain er mwyn atal rhagfarn ac allgáu. Mae’r cynllun hwn yn pwysleisio’r angen am gyfraniad gan y llywodraeth a gan gymuned fyddar Iaith Arwyddion Prydain wrth ddylunio, darparu a gwerthuso polisïau a gwasanaethau perthnasol.
Y Gymraeg
Mae Cymraeg 2050, strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, yn anelu at filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg erbyn 2050. Credwn fod y Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom ni, lle bynnag yr ydym ar ein taith iaith Gymraeg. Nid dim ond mater o hunaniaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth yw’r iaith. Mae’n ymwneud â chynhwysiant cymdeithasol a chydraddoldeb hefyd.
Mae siaradwyr Cymraeg anabl yn gallu wynebu rhwystrau ychwanegol wrth geisio cael gafael ar wasanaethau, addysg a chyflogaeth yn Gymraeg. Mae technoleg yn gallu helpu pobl ag anghenion penodol i ddefnyddio’r Gymraeg. Gallai hyn gynnwys pobl anabl, pobl hŷn, pobl ag anghenion dysgu ychwanegol, neu bobl ag anghenion sy’n deillio o driniaeth feddygol neu amhariad gwybyddol neu gorfforol. Nid dim ond mater o ddefnyddio’r Gymraeg yw hyn – mae’n ymwneud â galluogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, heb unrhyw gamau ychwanegol, a heb achosi heriau ychwanegol iddynt. Yn unol ag egwyddor y Cynnig Rhagweithiol yn ein cynllun Mwy na geiriau ar gyfer gwreiddio’r Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae’r cyfrifoldeb ar ddarparwyr iechyd a gofal i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg, yn hytrach na bod y claf neu’r defnyddiwr gwasanaeth yn gorfod gofyn amdanynt.
Yn ein datganiad polisi ar dechnoleg iaith Gymraeg (mis Ionawr 2025), roedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio i helpu pawb i ddefnyddio mwy o’r Gymraeg sydd ganddynt mewn adnoddau lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei chefnogi i raddau digonol, ee mewn meddalwedd penodol ar gyfer pobl anabl.
Rydyn ni hefyd yn cydnabod pa mor bwysig yw sicrhau bod ein mannau cyfrwng Cymraeg, fel Eisteddfodau, ein gweithgareddau sy’n cael arian grant a gwyliau diwylliannol yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob person anabl.
2. Cymdogaethau a lleoedd
Er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau cyffredinol hirdymor ar gyfer Cymdogaethau a Lleoedd sy’n cael eu disgrifio ym Mhennod 1, mae’r bennod hon yn nodi’r canlyniadau rydyn ni’n disgwyl eu gweld dros gyfnod o ddeg mlynedd o ganlyniad i’r camau rhaid i bob un ohonom eu cymryd i sicrhau bod ein Cymdogaethau a’n Lleoedd yn gynhwysol, er mwyn i bobl anabl allu ffynnu. Mae Cymdogaethau a Lleoedd yn cynnwys y themâu canlynol: teithio, tai a’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Teithio
Canlyniad 1: gwasanaethau trafnidiaeth hygyrch
Mae gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith teithio yn gynhwysol, yn rhyng-gysylltiedig ac yn cefnogi hawl pobl anabl i gymryd rhan lawn yn y cymunedau lle maen nhw’n byw ac mewn cymdeithas yn ehangach.
Canlyniad 2: cefnogi staff
Mae hyfforddiant ac adnoddau ar gael i’r rhai sy’n rhan o bob lefel o gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth er mwyn deall a bodloni anghenion teithio pobl anabl, a chyflawni yn erbyn eu rhwymedigaethau eu hunain o dan gyfraith cydraddoldeb ac yn unol â’r Model Cymdeithasol o Anabledd.
Canlyniad 3: polisi cynhwysol
Wrth lunio polisïau, mae pobl anabl yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddylunio a darparu rhwydweithiau trafnidiaeth Cymru, gan sicrhau bod anghenion pob person anabl yn cael eu gwreiddio ar draws dulliau teithio a darparwyr trafnidiaeth yn y camau cynharaf.
Canlyniad 4: gwybodaeth hygyrch
Mae gwybodaeth teithio ar gael mewn amrywiaeth o ddulliau cyfathrebu gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, ac mae wedi’i chynllunio i alluogi pobl anabl i gynllunio, archebu a mynd ar eu taith heb rwystrau, ac i warchod eu hawl i gael gwybodaeth.
Canlyniad 5: llywodraethu effeithiol
Sefydlu trefniadau llywodraethu effeithiol sy’n canolbwyntio ar ddarparu dulliau teithio cynhwysol a hygyrch i bobl yng Nghymru, gan sicrhau bod eu profiadau bywyd yn cael eu gwerthfawrogi ac yn arwain at weithredu, a hynny drwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant ac ar draws dulliau teithio.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 9 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi bod angen i wledydd gymryd camau priodol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad, ar sail gyfartal â phobl eraill, at yr amgylchedd ffisegol, at drafnidiaeth, at wybodaeth a chyfathrebu, gan gynnwys technoleg a systemau gwybodaeth a chyfathrebu, ac at gyfleusterau a gwasanaethau eraill sy’n agored neu’n cael eu darparu i’r cyhoedd, a hynny mewn ardaloedd trefol a gwledig.
Mae teithio anhygyrch yn dal yn broblem sylweddol i bobl anabl, sy’n aml yn wynebu nifer o heriau o ran trafnidiaeth gynhwysol, fel rhwystro llwybrau ac mewn safleoedd bysiau, yn enwedig y safleoedd hynny lle mae’r bws yn tynnu i mewn ac mae diffyg cyrbiau isel, a lifftiau diffygiol mewn gorsafoedd rheilffordd. Mae hyn yn cael ei gydnabod yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a’r Cynllun Cyflawni sy’n tynnu sylw at y diffyg trafnidiaeth fforddiadwy neu gyfagos sydd ar gael fel rhwystr i waith, gwasanaethau a hamdden i rai unigolion, yn enwedig pobl hŷn a phobl anabl a allai hefyd fod angen gwasanaeth o ddrws i ddrws.
Mae’r ansicrwydd hwn yn gallu effeithio ar hyder ac ymddiriedaeth pobl anabl wrth symud o gwmpas cymunedau. Mae oedolion anabl neu bobl â salwch hirdymor cyfyngol yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn cerdded yn eu hardal leol neu’n teithio (56%) na phobl nad ydynt yn anabl (70%). Mewn byd sy’n dod yn fwy a mwy digidol, rhaid gwneud mwy na chanolbwyntio ar fannau ffisegol i sicrhau teithio hygyrch. Nawr, rhaid i unigolion hefyd ddefnyddio llwyfannau ar-lein a systemau tocynnau digidol i fynd o le i le. Rhaid gwella’r broses hygyrch a chynhwysol o gynllunio teithiau o’r dechrau i’r diwedd, ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae mynediad at drafnidiaeth yn aml yn waeth.
Mae pobl anabl yn aml yn teimlo bod eu hanghenion yn cael eu hanghofio pan fydd seilwaith trafnidiaeth yn cael ei ddylunio. Gall hyn gynnwys lonydd beiciau yn agos at fannau cerdded, er enghraifft. Mae ymchwil gan Guide Dogs UK yn dangos bod rhai dyluniadau lonydd beiciau mewn safleoedd bysiau yn peri risgiau diogelwch sylweddol i bobl ag amhariad ar eu golwg a phobl anabl eraill. Mae’r dyluniadau hyn yn lleihau mynediad at weithgareddau ac annibyniaeth, ac yn peri risg sylweddol i ddiogelwch pobl anabl, sy’n tynnu sylw at yr angen i ddylunio seilwaith trafnidiaeth gwell a chynhwysol, a chynllunio i hybu teithio llesol gan osgoi’r risgiau hyn a gwella mynediad i bawb.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella teithio i bobl anabl yng Nghymru a bydd yn dechrau gweithio i sefydlu ei phanel teithio aml-ddull cynhwysol cyntaf ar gyfer pobl anabl yn ystod 2025-26. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod hawliau a lleisiau pobl anabl yn rhan ganolog o lunio polisïau trafnidiaeth. Drwy integreiddio eu safbwyntiau a’u harbenigedd, ein nod yw creu seilwaith trafnidiaeth cynhwysol sy’n parchu ac yn cynnal hawliau pob person anabl.
Mae rhai cynlluniau ‘cymorth i deithwyr’ yn annigonol ac yn methu cydnabod anghenion pobl anabl. Mae gan Trafnidiaeth Cymru (TrC) ran hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau teithio cynhwysol a hygyrch i’r holl bobl anabl sy’n defnyddio ei wasanaethau rheilffyrdd. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda TrC i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd (gan roi’r pwyslais ar gael gwared ar unrhyw rwystrau) yn ei ddiwylliant a’i wasanaethau, drwy sicrhau bod yr holl staff rheng flaen yn cael hyfforddiant a gwybodaeth am y model.
Mae gwasanaethau bysiau, tacsis a cherbydau llogi preifat i gyd yn hanfodol i gefnogi mynediad pobl anabl at weithgareddau hanfodol gan gynnwys gwaith, apwyntiadau iechyd a hamdden. Yn aml, tacsis a cherbydau llogi preifat yw’r unig ffordd y mae llawer o bobl anabl yn gallu symud o amgylch eu trefi a’u dinasoedd oherwydd diffyg trafnidiaeth gyhoeddus gwbl hygyrch. Rydyn ni am gael system drwyddedu tacsis a cherbydau llogi preifat sy’n addas ar gyfer Cymru fodern, sy’n hybu diogelwch teithwyr a gyrwyr, sy’n cyfrannu at amgylchedd glanach, sy’n gwella profiad y cwsmer ac sy’n hygyrch i bawb. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phobl anabl i ddeall y ddarpariaeth bresennol o drafnidiaeth gymunedol yn well ac i nodi unrhyw fylchau mewn gwasanaethau trafnidiaeth i bobl anabl.
Tai
Canlyniad 1: gwybodaeth ac ymwybyddiaeth
Mae pobl anabl yn ymwybodol o’u hawliau tai a’r dewisiadau sydd ar gael iddynt o ran tai hygyrch a gwasanaethau cymorth.
Canlyniad 2: argaeledd tai hygyrch
Mae rhagor o dai addas a hygyrch ar gael, sy’n fforddiadwy, wedi’u dodrefnu a’u lleoli’n briodol i fodloni anghenion preswylwyr anabl, ac mae digon o dai o safon ar gael i helpu i ateb y galw a lleihau amseroedd aros.
Canlyniad 3: gwasanaethau tai hygyrch
Gwasanaethau tai mwy hygyrch, gan gynnwys prosesau ymgeisio, sy’n ddi-dor ac yn dryloyw, gan weithredu o dan ddull cyfannol, system gyfan i leihau rhwystrau i dai i breswylwyr anabl a sicrhau diogelwch i’r grwpiau mwyaf agored i niwed (ee pobl ddigartref neu bobl sy’n ffoi rhag trais).
Canlyniad 4: polisi cynhwysol
Mae strategaeth dai a pholisïau cysylltiedig yn cael eu datblygu drwy gynnwys pobl anabl ac ystyried anghenion croestoriadol.
Canlyniad 5: llywodraethu effeithiol
Mae gwasanaethau tai a chymorth i bobl anabl yn cael eu llywodraethu’n dda ac yn cael eu dal yn atebol drwy’r trefniadau monitro, rheoleiddio, gorfodi a chasglu data perthnasol.
Canlyniad 6: staff cefnogol
Mae pawb sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu a darparu materion sy’n ymwneud â thai hygyrch, gan gynnwys swyddogion etholedig, gweithwyr yn y sector cyhoeddus, darparwyr tai a landlordiaid yn meddu ar wybodaeth briodol am y Model Cymdeithasol o Anabledd ac anghenion pobl anabl.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 28 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi hawliau pobl anabl i safon byw ddigonol a diogelwch cymdeithasol. Mae’n cydnabod hawliau pobl anabl i safon byw ddigonol iddyn nhw eu hunain a’u teuluoedd, gan gynnwys tai digonol, a mynediad at raglenni tai cyhoeddus i bobl anabl.
Mae cael gwybodaeth hygyrch am dai yn hanfodol i bobl anabl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella mynediad pobl anabl at wybodaeth am dai, gan gynnwys pobl sydd wedi’u hallgáu’n ddigidol. Drwy ddarparu gwybodaeth hygyrch a chynhwysol, gallwn rymuso pobl anabl i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ynghylch ble a sut maen nhw’n byw, a gwella mynediad teg at gyfleoedd tai. Mae’r dull hwn yn helpu i atal pobl rhag teimlo’n unig ac yn ynysig, yn hybu llesiant ac annibyniaeth, ac yn helpu pobl anabl i gymryd rhan lawn yn y gymuned.
Mae sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar dai addas yn hanfodol er mwyn iddynt allu byw’n annibynnol a gwella ansawdd eu bywyd. Mae darparu cartrefi hygyrch o safon i bobl anabl yn gwella iechyd a llesiant, yn cefnogi gwell cyrhaeddiad addysgol, yn ogystal â manteision eraill. Mae diffyg tai fforddiadwy a hygyrch yn cyfyngu ar y dewisiadau sydd ar gael i bobl anabl, gan ei gwneud yn anodd iddynt ddod o hyd i lety sy’n cefnogi eu hannibyniaeth.
Gall addasu eiddo presennol i’w gwneud yn hygyrch fod yn rhy ddrud. Mae llawer o bobl anabl yn wynebu heriau ariannol ac mae cost uchel addasiadau angenrheidiol yn ychwanegu baich ychwanegol. Gall mynd i’r afael â’r rhwystrau ariannol hyn drwy grantiau, cymorthdaliadau a pholisïau tai cynhwysol helpu i sicrhau bod unigolion anabl yn cael mynediad cyfartal at amgylcheddau byw diogel, cyfforddus ac addas.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu pobl anabl i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Os oes angen i bobl anabl wneud newidiadau i’w cartrefi, maen nhw’n gallu gwneud cais am gymorth gan y Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl neu HWYLUSO: ein cynllun sy’n rhoi cymorth er mwyn byw'n annibynnol. Mae'r cynllun ‘HWYLUSO’ yn helpu pobl anabl gyda grantiau ar gyfer addasiadau fel canllawiau cydio a chanllawiau grisiau, cadeiriau codi ac adeiladu estyniad. Ar ben hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gydag Awdurdodau Lleol i wella hygyrchedd a chydlynu’r gwaith o gyflwyno addasiadau tai a chyflenwi offer.
Mae byw mewn llety anaddas yn gallu achosi i lesiant meddyliol pobl anabl ddirywio’n sylweddol. Mae diffyg llety diogel yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a llesiant corfforol, gan arwain at ragor o anawsterau o ran cael gwaith a chynnal perthnasoedd. Mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Roi Terfyn ar Ddigartrefedd yn nodi bod angen cymorth ychwanegol ar bobl anabl i leihau’r risg o ddigartrefedd.
Pan nad yw’n ddiogel iddynt aros yn eu cartref eu hunain, mae angen i bobl anabl a’u plant sy’n wynebu trais domestig ddianc o amgylchedd peryglus, yn ogystal â sicrhau llety sy’n cadw’r teuluoedd sy’n ffoi gyda’i gilydd ac sy’n bodloni eu gofynion hygyrchedd unigryw. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod pa mor bwysig yw gweithio gydag awdurdodau lleol a darparwyr gwasanaethau i wella’r ddarpariaeth o lety hygyrch i bobl anabl, eu gofalwyr a’u plant wrth ffoi rhag trais.
Gall diffyg llety hygyrch a fforddiadwy gael effaith negyddol ar bobl anabl o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr er enghraifft, gan gyfyngu ar eu hannibyniaeth a chyfrannu at ganlyniadau iechyd gwaeth ac ansawdd bywyd is. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â phob cymuned i ddeall a mynd i’r afael â rhwystrau penodol mewn cysylltiad â thai.
Gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
Canlyniad 1: mynediad at wasanaethau cyhoeddus
Mae hawl pobl anabl i fyw yn y gymuned yn cael ei harfer drwy waith cynllunio a dylunio cynhwysol, gan sicrhau mynediad cyfartal at amwynderau, cyfleusterau a mannau cyhoeddus, heb rwystrau.
Canlyniad 2: cymunedau cynhwysol a chydlynol
Mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli a’u galluogi i gymryd rhan lawn yn eu cymunedau lleol, gyda chydweithrediad y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, gan sicrhau bod unrhyw gyfleusterau a gwasanaethau newydd sy’n agored i’r cyhoedd yn adlewyrchu pob agwedd ar hygyrchedd i bobl anabl a’u rhwydweithiau cymorth.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 9 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi bod angen i wledydd gymryd camau priodol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad, ar sail gyfartal â phobl eraill, at yr amgylchedd ffisegol, at drafnidiaeth, ac at wybodaeth a chyfathrebu.
Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn dangos ffordd wahanol o feddwl am anabledd a rhwystrau i gynhwysiant. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cydnabod bod gan bobl anabl brofiadau gwahanol oherwydd y rhwystrau sy’n cael eu creu gan gymdeithas, drwy amgylcheddau anhygyrch, agweddau a gwerthoedd pobl, er enghraifft. O dan y model hwn, a drwy ddileu’r rhwystrau hynny, gall pobl anabl gymryd rhan lawn mewn cymdeithas ar sail gyfartal, ac mae cymdeithas yn elwa o gynhwysiant llawn pobl anabl.
Mae hyn yn cyferbynnu â’r Model Meddygol o Anabledd sy’n dweud nad yw pobl anabl yn gallu cymryd rhan mewn cymdeithas oherwydd eu hamhariadau neu eu gwahaniaethau. Gall y safbwynt hwn effeithio’n negyddol nid yn unig ar fywyd pobl anabl ond ar sut mae rhai pobl anabl yn gweld eu hunain, sy’n gallu gwneud pobl anabl yn llai tebygol o herio eu heithriad o gymdeithas prif ffrwd.
Mae arddel y Model Cymdeithasol o Anabledd yn helpu i greu cymdeithas deg lle mae hawliau a chyfraniadau pobl anabl yn cael eu gwerthfawrogi. Drwy fabwysiadu’r Model Cymdeithasol o Anabledd ar draws cymdeithas, gellir trawsnewid gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu amgylcheddau cynhwysol a hygyrch i bob person anabl, gall sefydliadau addysgol sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal i ddysgu a ffynnu, a gall cyflogwyr greu gweithleoedd hygyrch a chynhwysol sy’n defnyddio sgiliau a doniau gweithwyr anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r Model Cymdeithasol o Anabledd ac i sicrhau bod pobl anabl yn rhan o’r gwaith o ddylunio, gweithredu a monitro polisïau, arferion a gweithdrefnau newydd a gwell perthnasol, sydd ddim yn creu rhwystrau i bobl anabl. Drwy wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ein rhaglenni hyfforddi ac mewn arferion bob dydd, rydyn ni’n herio gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl ac yn meithrin cymdeithas gynhwysol a theg. Rydyn ni eisoes wedi darparu hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i dros 200 o aelodau’r Tasglu a’r gweithgorau, sydd ers hynny wedi integreiddio’r wybodaeth hon yn eu meysydd polisi, eu sefydliadau a’u harferion o ddydd i ddydd.
Mae Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd Llywodraeth Cymru yn gweithio i wella argaeledd, ansawdd a manylder y dystiolaeth am unigolion sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig i’n helpu i ddeall a yw ein huchelgais yn cael ei chyflawni ar gyfer gwahanol grwpiau o bobl. Mae’r Unedau Tystiolaeth yn dylunio ac yn profi cwestiynau arolwg safonol sy’n adlewyrchu’r Model Cymdeithasol o Anabledd, y gellid ei ymgorffori mewn gwaith casglu data ac ymchwil gymdeithasol yn y dyfodol. Mae pobl anabl wedi bod yn rhan annatod o bob cam o’r gwaith ymchwil.
3. Cyflogaeth, incwm ac addysg
Cyflogaeth ac Incwm
Canlyniad 1: cymorth cyflogaeth a busnes
Mae pobl anabl yn gallu cael gafael ar gyngor a gwasanaethau datganoledig prydlon a chydlynol sy’n wybodus ac yn hygyrch, er mwyn eu galluogi i gael mynediad teg at gyfleoedd gwirfoddoli / profiad gwaith cyflogedig a di-dâl, hunangyflogaeth, a chyfleoedd gwaith/gyrfaoedd hirdymor.
Canlyniad 2: polisïau ac ymarfer cynhwysol
Mae pobl anabl yn rhan o’r gwaith o hybu arferion recriwtio, cadw a datblygu cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r pwrs cyhoeddus i feithrin ymddygiadau sy’n cefnogi gweithlu cynhwysol, cael gwared ar rwystrau, a chreu amgylchedd cefnogol lle mae pobl anabl yn gallu ffynnu yn eu gyrfaoedd.
Canlyniad 3: cyflogwyr hygyrch
Mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli ar bob lefel yng ngweithlu Cymru. Mae cyflogwyr yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol a hawliau cyflogaeth gweithwyr anabl. Mae cyflogwyr yn cael eu hannog i fabwysiadu arferion cynhwysol i ddileu rhagfarn a gwahaniaethu yn y gweithle a hybu prosesau recriwtio, cadw a datblygu teg ar gyfer gweithwyr anabl, gan ddeall mai triniaeth wahanol, drwy ddarparu addasiadau rhesymol, yw’r ffordd o sicrhau tegwch o ran canlyniadau cyflogaeth yn aml.
Canlyniad 4: datblygu sgiliau
Mae ceiswyr gwaith a gweithwyr anabl o bob oed yn deall eu hawliau cyflogaeth ac yn gallu eu harfer, gan gynnwys drwy weithredu cadarnhaol i sicrhau cyfleoedd cyfartal ar gyfer dysgu gydol oes. Nid yw pobl anabl dan anfantais yn y farchnad swyddi oherwydd rhwystrau i addysg, hyfforddiant neu gymorth recriwtio. Mae gan bobl anabl fynediad at wybodaeth, cyngor, cymorth ac arweiniad gyrfaoedd a chyflogadwyedd proffesiynol, diduedd, personol.
Canlyniad 5: mynd i’r afael â’r rhwystrau i incwm
Mae safbwyntiau pobl anabl yn cael eu hystyried wrth drafod â Llywodraeth y DU ynghylch diwygiadau i’r system budd-daliadau sydd heb ei datganoli.
Canlyniad 6: llai o anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol
Mae canlyniadau economaidd-gymdeithasol pobl anabl yn gwella, a’r anghydraddoldebau’n lleihau, drwy weithredu cadarnhaol a chyflawni’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 27 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi hawl pobl anabl i fyw’n annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned. Rhaid i wledydd gymryd camau i wahardd gwahaniaethu ym mhob mater cyflogaeth a sicrhau amodau gwaith teg a ffafriol, gan gynnwys amddiffyn pobl rhag aflonyddu a’r hawl i gwyno. Dylid cymryd camau hefyd i hybu cyfleoedd cyflogaeth, datblygiad gyrfa a hunangyflogaeth i bobl anabl, yn ogystal â darparu addasiadau rhesymol yn y gweithle.
Mae llawer o bobl anabl sydd eisiau gwaith yn methu cael mynediad ato; mae’r rhwystrau’n cynnwys diffyg gweithleoedd hygyrch a chymorth yn y gwaith, sy’n eu hatal rhag ennill cyflog teg a chael boddhad o’u swydd. Er gwaethaf y gofynion cyfreithiol a nodir yn y Ddeddf Cydraddoldeb, mae llawer o gyflogwyr yn dal i fethu â deall yr addasiadau angenrheidiol sydd eu hangen i gefnogi pobl anabl i gael gwaith.
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2024, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 51%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 81%. Hefyd, mae gweithwyr anabl yn aml yn canfod eu hunain mewn swyddi sy’n talu llai. Mae Adroddiad Llesiant Cymru 2024 yn nodi bod y gwahaniaeth cyflog rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru yn £1.75 (12%) yn 2023. Mae cerrig milltir cenedlaethol yn gosod y targed hirdymor i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050.
Ymhlith oedolion o oedran gweithio, mae 25% o unigolion sy’n byw mewn teulu lle mae unigolyn anabl yn byw mewn tlodi incwm cymharol o’u cymharu â 18% o’r rhai mewn teuluoedd lle nad oes neb sy’n ystyried ei hun yn anabl. Yn 2022 i 2023, roedd un o bob pedwar o bobl anabl neu bobl â salwch cyfyngol hirdymor (25%) yn byw mewn cartref mewn amddifadedd materol o’u cymharu ag 11% o bobl nad oeddent yn anabl. Mae’r niferoedd hyn yn tynnu sylw at wahaniaeth sy’n peri pryder sy’n gwbl annerbyniol mewn cymdeithas deg a chyfiawn.
Mae sicrhau bod safon byw pobl anabl yn deg, drwy incwm a gwaith teg, yn hanfodol i hybu cymdeithas gynhwysol lle gall pawb gyfrannu’n ystyrlon. Mae tystiolaeth yn awgrymu bod annog ceisiadau am swyddi gan bobl anabl yn dda i fusnesau, gan roi mantais gystadleuol i sefydliadau. Gall helpu i gynyddu nifer yr ymgeiswyr o ansawdd uchel a chreu gweithlu sy’n adlewyrchu ei gymuned leol.
Mae’r Cynllun Hyderus o ran Anabledd yn fenter sy’n gweithredu ledled y DU i helpu cyflogwyr i fanteisio i’r eithaf ar y doniau y gall pobl anabl eu cynnig yn y gweithle. Fodd bynnag, fel y nodwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, mae yna rai diffygion i’r cynllun, gan gynnwys nifer isel y cyrff sector cyhoeddus sy’n cyrraedd y statws Arweinydd Lefel 3 uchaf, a hyder pobl anabl yn y cynllun. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â Llywodraeth y DU i fynd i’r afael â’r materion hyn. Rydym hefyd am gynyddu nifer y cyflogwyr yng Nghymru sy’n ennill statws arweinydd.
Mae ein Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl yn mynd ati i gefnogi cyflogwyr ar draws y sectorau preifat a chyhoeddus i gyflawni’r nod hwn. Caiff hyn ei ategu gan waith Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru sy’n helpu Busnesau Bach a Chanolig i wella eu harferion cyflogaeth, a drwy adnoddau digidol sydd ar gael drwy Busnes Cymru. Rydyn ni hefyd yn gweithio i wella ein perthynas â Chynghorwyr Anabledd yr Adran Gwaith a Phensiynau er mwyn ein galluogi i gydweithio’n fwy strategol yn ein hymdrechion i gynyddu nifer y sefydliadau sy’n symud ymlaen i ennill statws Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Yn ogystal, rydym wedi gweithio gydag aelodau o’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gyd-greu tystiolaeth er mwyn profi a yw cynllun penodol i Gymru yn ymarferol.
Busnes Cymru yw prif wasanaeth cymorth busnes dwyieithog Llywodraeth Cymru ar gyfer microfusnesau a Busnesau Bach a Chanolig yng Nghymru, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid o bob oed.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyflogi pum Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl, sy’n dod â phrofiad bywyd ac arbenigedd i’w rolau, fel aelodau parhaol o staff. Mae’r Hyrwyddwyr hyn yn cefnogi’r gwaith o gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau cyflogaeth i bobl anabl sy’n gweithio’n fewnol ac yn allanol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i hybu cynhwysiant a hawliau pobl anabl drwy annog sefydliadau a busnesau ledled Cymru i benodi hyrwyddwyr penodol i wella mynediad pobl anabl at waith.
Mae opsiynau gweithio hybrid neu hyblyg yn arbennig o bwysig i lawer o bobl anabl; mae trefniadau gweithio hybrid o fudd i gyflogwyr a gweithwyr anabl. Rhaid i drefniadau priodol fod ar gael pan fydd pobl anabl yn cael eu cyflogi er mwyn eu helpu i gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau ac i sicrhau bod cyflogwyr yn gweithio o fewn y fframweithiau cyfreithiol.
Mae angen cefnogaeth ar gyfer addysg uwch ar ôl ysgol, datblygu sgiliau a phrentisiaethau ar gyfer pobl ifanc anabl a’r rhai sy’n hŷn ac sy’n ystyried ailsgilio, gan gefnogi grymuso, annibyniaeth a chydraddoldeb. Drwy gefnogi polisïau ac arferion cynhwysol, gall Cymru osod meincnod ar gyfer creu cymdeithas lle mae pawb yn cael y cyfle i gyflawni eu potensial a chyfrannu mewn ffordd ystyrlon.
Yn aml, caiff pobl anabl eu hystyried fel rhai sy’n derbyn gwasanaethau fel gofal a chymorth mewn ffordd oddefol. Mewn gwirionedd, mae pobl anabl yn arweinwyr economaidd, yn entrepreneuriaid ac yn gyflogwyr. Mae economeg gynhwysol, lle mae pobl anabl yn dod â’u profiad o fywyd a’u harbenigedd, yn cefnogi’r economi i greu Cymru fwy llewyrchus.
Addysg i blant a phobl ifanc
Canlyniad 1: mynediad at addysg
Bydd y gwaith o ddatblygu polisi addysg ac iechyd yn nodi, yn ystyried ac yn ymateb i anghenion addysgol ac iechyd plant a phobl ifanc anabl.
Canlyniad 2: polisi addysg cynhwysol
Mae dysgwyr a staff anabl yn gallu cyfrannu’n ystyrlon at ddatblygu polisi addysg drwy ddull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau, ac yn cael llais yn y gwaith o gynllunio a darparu’r cymorth maen nhw’n ei gael ar draws yr holl sefydliadau addysg, gan gynnwys lle addysg sy’n cael ei darparu gartref.
Canlyniad 3: darparwyr addysg cefnogol
Mae gan ddarparwyr addysg yr adnoddau a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i ymgorffori’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn llawn ac i wreiddio hawliau dysgwyr anabl, fel plant a phobl ifanc ac fel pobl anabl, gan gynnwys drwy recriwtio staff addysgu anabl a darparu hyfforddiant ac offer arbenigol.
Canlyniad 4: arolygu, rheoleiddio a chydymffurfio
Mae addysg gynhwysol a hygyrch yn cael ei darparu ar gyfer dysgwyr anabl, gyda threfniadau cadarn ar gyfer rheoleiddio, arolygu a gorfodi wedi’u hategu gan raglen effeithiol o fonitro a gwerthuso sy’n adlewyrchu profiadau dysgwyr anabl, ac sy’n nodi ac yn hybu enghreifftiau o arferion da.
Canlyniad 5: lleoliadau addysgol hygyrch
Mae lleoliadau addysgol a sefydliadau academaidd eraill yn hygyrch o ran eu dyluniad ac o ran eu seilwaith ffisegol ategol, gan alluogi pobl anabl i ddysgu gyda’u cyfoedion ac yn eu cymunedau lleol.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthyglau 7 a 24 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl.
Mae Erthygl 7 yn nodi’r gofyniad i wledydd gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau bod plant anabl yn mwynhau eu hawliau dynol a’u rhyddid sylfaenol yn llawn yr un fath â phlant eraill.
Mae Erthygl 24 yn cydnabod hawl pobl anabl i addysg, gan orfodi system gynhwysol ar bob lefel. Rhaid i wledydd sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys mewn addysg gyffredinol, darparu addasiadau rhesymol, a chefnogi dysgu effeithiol. Mae hyn yn cynnwys dysgu Braille ac Iaith Arwyddion Prydain i bobl, cyflogi athrawon cymwysedig, a sicrhau mynediad at addysg uwch a dysgu gydol oes heb wahaniaethu. Mae cynhwysiant mewn lleoliadau prif ffrwd yn annog ymdeimlad o berthyn a chymuned, sy’n hanfodol i lesiant cymdeithasol ac emosiynol pob plentyn a pherson ifanc. Mae hawl plant anabl i gael mynediad at addysg prif ffrwd, ochr yn ochr â’u cyfoedion, yn dal i fod yn uchelgais inni.
Mae cynhwysiant a mynediad i blant anabl yn ystod eu blynyddoedd cynnar a drwy gydol eu bywyd ysgol yn hanfodol er mwyn iddynt gyflawni eu potensial. Mae cynnwys plant a gadael iddynt gymryd rhan yn gynnar yn sicrhau bod plant yn datblygu ymdeimlad cryf o berthyn a hunan-werth, sy’n sylfaenol ar gyfer eu datblygiad cyffredinol. Fodd bynnag, mae eu profiadau’n amrywio yn dibynnu ar argaeledd y gefnogaeth briodol a mynediad at brofiadau a chyfleoedd chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar.
Mae mynediad at y mathau cywir o adnoddau a chefnogaeth i blant anabl i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae ac addysgol yn hanfodol i ddatblygiad plant. Wrth iddynt symud ymlaen drwy’r ysgol, mae cynhwysiant parhaus a mynediad at gyfleoedd addysgol wedi’u teilwra yn eu helpu i feithrin sgiliau hanfodol, hyder ac annibyniaeth. Nid yn unig mae'r amgylchedd cefnogol hwn yn gwella eu cyflawniadau academaidd, mae hefyd yn paratoi plant a phobl ifanc ar gyfer dyfodol llwyddiannus a boddhaus, gan eu grymuso i gyfrannu'n ystyrlon at gymdeithas.
Mae plant a phobl ifanc anabl yn aml yn wynebu heriau ychwanegol y mae’n rhaid iddynt eu goresgyn os ydynt yn dymuno cymryd rhan lawn mewn cymdeithas a byw bywyd ar eu telerau eu hunain. Mae gwella hygyrchedd a chefnogaeth yn hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc anabl yn cael y dechrau gorau. Efallai y bydd angen mwy o help ar rai plant a phobl ifanc yn yr ysgol i gyflawni eu potensial llawn. Mae’n bwysig cydnabod nad oes gan bob plentyn a pherson ifanc anabl anghenion dysgu ychwanegol (ADY), gallai’r cymorth sydd ei angen fod yn fynediad gwell i adeilad, neu ardal dawelach yn yr ysgol, er enghraifft.
Mae rhai rhieni a gofalwyr yn dweud bod rhai plant ag ADY yn dal i wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at addysg, gan ehangu’r bwlch yn eu perfformiad addysgol o’i gymharu â’u cyfoedion. Yn 2023 i 2024, dyfarnwyd gradd A* i C i 34% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion dysgu ychwanegol yn eu harholiadau TGAU (i lawr o 37% yn 2022 i 2023). Roedd disgwyl gostyngiad yn y graddau TGAU cenedlaethol yn gyffredinol yn 2023 i 2024 ar ôl dychwelyd i’r safonau cyn y pandemig. O flwyddyn academaidd 2023 i 2024, roedd 2,597 o ddisgyblion yng Nghymru yn cael rhyw fath o addysg heblaw yn yr ysgol. Yn 2023 i 2024, yn ôl cyfran, roedd cryn dipyn yn fwy o ddisgyblion ag ADY yn cael eu haddysgu’n bennaf y tu allan i’r ysgol na’r boblogaeth gyffredinol o ddisgyblion.
Mae Llywodraeth Cymru’n dal wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn gallu arfer ei hawl i addysg waeth beth fo’i wahaniaethau, a chael addysg gynhwysol o ansawdd uchel a’r cyfle i lwyddo. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (y Ddeddf) yn nodi dyletswydd i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o Gonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn ac ar hawliau pobl anabl. Rhaid i ysgolion a lleoliadau eraill hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r ddau gonfensiwn ymysg y rhai sy’n dysgu ac yn addysgu mewn perthynas â chwricwlwm eu hysgol neu leoliad. Mae Hwb Llywodraeth Cymru’n darparu amrywiaeth o gynnwys ac offer digidol i leoliadau addysg yng Nghymru i gefnogi’r gwaith o drawsnewid arferion dysgu ac addysgu digidol, gan gynnwys canllawiau ar y ddau gonfensiwn. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod rhaglenni hyfforddi’n cael eu darparu i wella canlyniadau i blant a phobl ifanc anabl.
Gall plant ag ADY sy’n siarad Cymraeg wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at addysg. Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wella’r ddarpariaeth Gymraeg ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ac ar gyfer cynllunio’r gweithlu gyda’r sector anghenion dysgu ychwanegol. Caiff hyn ei fonitro drwy Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg awdurdodau lleol.
Mae prifysgolion yn cydweithio i gyflawni ymrwymiadau ym maes cydraddoldeb, gan gynnwys ehangu cyfranogiad, a nodi bylchau mewn cyrhaeddiad sy’n gysylltiedig â chydraddoldeb. Mae ganddynt rwydweithiau cymorth ac Arweinwyr Cydraddoldeb i gefnogi a monitro cynnydd.
Mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod pob plentyn anabl yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Mae darpariaeth blynyddoedd cynnar cynhwysol yn gosod sylfeini cryf ar gyfer datblygiad plentyn. Dylai gofal plant y blynyddoedd cynnar fod yn gwbl hygyrch i blant anabl. Rydyn ni wedi ymrwymo i adolygu sut mae’r Rhaglen Gyfalaf Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi hygyrchedd yr amgylchedd ffisegol ar gyfer gwasanaethau gofal plant a chwarae cofrestredig cynhwysol.
Mae un neu ddau o fabanod o bob 1,000 yn cael eu geni gydag amhariad ar y clyw, a allai effeithio ar ddatblygiad eu hiaith a’u lleferydd. Mae sgrinio clyw babanod newydd-anedig yn helpu i ddod o hyd i’r babanod hynny ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth o’r dechrau. Os canfyddir bod plentyn yn fyddar neu ag amhariad ar y clyw ar unrhyw oedran, bydd anghenion cyfathrebu ac iaith yn cael eu hystyried ar y cam cynharaf gan Awdiolegwyr yng Nghymru.
Os canfyddir angen cyfathrebu, yna bydd yn cael ei atgyfeirio at Athrawon Cymwysedig plant byddar y Therapyddion Iaith a Lleferydd. Gall y dewisiadau gynnwys iaith lafar, Iaith Arwyddion Prydain, Saesneg gyda Chymorth Arwyddion, Makaton neu gyfuniad o iaith lafar ac iaith arwyddion, gan gynnwys dwyieithrwydd, yn dibynnu ar beth sy’n cael ei ystyried orau ar gyfer y plentyn yn dilyn asesiad a chydweithio rhwng teuluoedd a gweithwyr proffesiynol. Caiff canlyniadau atgyfeiriadau eu monitro yng Nghynllun Rheoli Cleifion Unigol yr Adran Awdioleg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau hygyrch, ymatebol o ansawdd uchel sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sy’n bodloni anghenion holl bobl ddall fyddar Cymru.
Mae’n hanfodol bod pob baban yn caffael iaith. Dylid rhoi cyfle i rieni a babanod/plant byddar ddysgu Iaith Arwyddion Prydain a chael mynediad at fodelau rôl Iaith Arwyddion Prydain byddar. Mae cymorth asesu cynnar a mynediad at iaith i fabanod a phlant byddar yn hanfodol i’w datblygiad gwybyddol ac ieithyddol. Mae cyfathrebu cadarn ac effeithiol drwy BSL yn cefnogi perthnasoedd iach a chadarnhaol rhwng rhieni / gofalwyr a’u plant. Byddwn yn parhau i weithio i wella’r gwaith o asesu a chefnogi babanod a phlant byddar yn gynnar.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gefnogi Iaith Arwyddion Prydain ac i hybu defnyddio’r iaith yng Nghymru, a gwybodaeth am yr iaith ac arbenigedd ynddi. Ein bwriad yw dylunio a datblygu polisïau sy’n sicrhau’r effaith gadarnhaol fwyaf i gymuned arwyddion Iaith Arwyddion Prydain Cymru, gan wneud darpariaethau i hybu a hwyluso defnyddio Iaith Arwyddion Prydain a’i ffurfiau cyffyrddol a chael gwared â’r rhwystrau iaith presennol. Mae Iaith Arwyddion Prydain wedi’i hintegreiddio yn y cymhwyster Sgiliau Bywyd newydd, a fydd ar gael ym mhob ysgol o fis Medi 2027 ymlaen. Mae’r newid hwn yn caniatáu ar gyfer dull cynhwysfawr, gan fynd i’r afael â’r angen am athrawon cymwysedig a chroesawu gwahaniaethau mewn tafodieithoedd rhanbarthol mewn Iaith Arwyddion Prydain.
4. Byw’n annibynnol
Er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau cyffredinol hirdymor ar gyfer Byw'n Annibynnol a ddisgrifir ym Mhennod 1, mae’r bennod hon yn nodi’r canlyniadau rydyn ni’n disgwyl eu gweld dros gyfnod o ddeg mlynedd, o ganlyniad i’r camau y mae’n rhaid inni gyd eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn cael yr un rhyddid, urddas, dewis a rheolaeth â dinasyddion eraill gartref, yn y gwaith, ym myd addysg ac yn y gymuned. Mae Byw’n Annibynnol yn cynnwys y themâu canlynol: llesiant ac iechyd, gofal a chymorth.
Llesiant
Canlyniad 1: mynediad at brofiadau llesiant
Mae gan bobl anabl yr un cyfle a hawliau i ddarparu a mwynhau profiadau buddiol ar draws y celfyddydau, chwaraeon, treftadaeth a diwylliant. Maen nhw’n cael eu helpu i wneud hynny gan weithluoedd a sefydliadau sy’n gwerthfawrogi cyfraniad pobl anabl ac sy’n deall eu rôl yn gwarchod hawl pobl anabl i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol a chwaraeon.
Canlyniad 2: chwarae ac adloniant cynhwysol
Gall pobl anabl, o’u plentyndod ymlaen, gymryd rhan mewn gweithgareddau chwarae a hamdden hygyrch lleol ochr yn ochr â’u cyfoedion, gan gynnwys drwy ddigwyddiadau sy’n benodol i unigolion anabl, gyda’r offer a’r cyfarwyddyd angenrheidiol i oresgyn rhwystrau rhag cyfranogi.
Canlyniad 3: cyfathrebu a mynegi cyfartal
Gall pobl anabl ddefnyddio gwasanaethau lleol a mynegi eu hunain yn rhydd yn yr iaith o’u dewis, a hynny ar lafar ac yn ddieiriau. Maen nhw’n cael eu galluogi drwy ddarpariaeth o adnoddau a hyfforddiant i gael mynediad at dechnolegau sy’n cefnogi pob math o gyfathrebu, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain a’r Gymraeg.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 30 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi bod gan bobl anabl yr hawl i gymryd rhan mewn bywyd diwylliannol, hamdden, adloniant a chwaraeon ar sail gyfartal ag eraill. Hefyd, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) sy’n berthnasol i bob plentyn, mae Erthygl 15 yn nodi’r hawl i blant gwrdd ac ymuno â grwpiau, ac Erthygl 31 yn nodi’r hawl i chwarae.
Mae llesiant a chynnwys pobl anabl mewn digwyddiadau diwylliannol, treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden yn allweddol er mwyn cael cymdeithas fywiog a chynhwysol. Drwy gael gwared ar rwystrau a hybu hygyrchedd, rydyn ni’n gwneud bywydau pobl anabl yn well ac yn creu cymunedau lle gall pawb gymryd rhan a chyfrannu. Fodd bynnag, mae pobl anabl yn dal i wynebu rhwystrau rhag cael mynediad at weithgareddau diwylliannol, treftadaeth, y celfyddydau, chwaraeon a hamdden. Mae rhwystrau ffisegol, polisi’r hyrwyddwr/lleoliad, tocynnau ar sail gyfrannol, diffyg gwybodaeth, a hyfforddiant annigonol i staff yn broblemau cyffredin. Mae symud tuag at fod yn gymdeithas heb arian parod hefyd yn rhwystr i lawer o bobl anabl.
Gall cyfleusterau hamdden a manwerthu hygyrch helpu’r economi leol drwy ddenu mwy o gwsmeriaid. Yn ogystal, mae cyfleusterau hamdden a manwerthu hygyrch yn gwella cynhwysiant, cydraddoldeb ac ymgysylltiad y gymuned. Fodd bynnag, canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016 i 2017 mai’r math mwyaf cyffredin o adeilad yr oedd pobl anabl yn cael trafferth mynd i mewn iddo a’i ddefnyddio oedd siopau (45% o bobl anabl) ac yna ysbytai (38%). O’r rhai a oedd yn cael trafferth cael mynediad i adeiladau cyhoeddus, dywedodd 41% fod eu hanhawster yn ymwneud â ‘symud o gwmpas yr adeilad’, dywedodd 25% fod ‘problemau parcio’ yn peri anhawster iddynt a dywedodd 22% bod ‘lifftiau annigonol’ a ‘chyfleusterau toiled annigonol’ yn broblemau. Drwy wneud arddangosfeydd a pherfformiadau yn hygyrch drwy ddarpariaethau fel Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiadau sain ac amgylcheddau sy’n ystyriol o bobl niwrowahanol, mae cymdeithas yn helpu i sicrhau bod pobl anabl yn gallu ymgysylltu â’n treftadaeth ddiwylliannol amrywiol a chyfrannu at y gwaith o’i gwarchod a’i dathlu.
Mae’r celfyddydau’n ffordd wych i bobl fynegi eu hunain a chymryd rhan yn y gymuned leol. Mae rhaglenni celfyddydol cynhwysol a lleoliadau hygyrch yn rhoi cyfle i artistiaid anabl arddangos eu sgiliau a’u doniau a rhannu eu barn, herio stereoteipiau a hybu cynhwysiant. Mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi Hijinx - cwmni theatr proffesiynol sy’n gweithio i arloesi, cynhyrchu a hybu cyfleoedd i actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth greu cynyrchiadau theatr a ffilm.
Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chwaraeon yn bwysig ar gyfer iechyd corfforol, llesiant meddyliol a pherthnasoedd. Mae cyfleusterau chwaraeon hygyrch a rhaglenni cynhwysol yn helpu pobl anabl i fwynhau manteision ffordd egnïol o fyw. Mae chwaraeon hefyd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer gwaith tîm a chreu ymdeimlad o berthyn a chydgefnogaeth – bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i weithio gyda Chwaraeon Anabledd Cymru, sy’n ceisio creu sector chwaraeon cynhwysol.
Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd camau rhagweithiol i gynyddu nifer yr arddangosfeydd, y perfformiadau, y gemau a’r digwyddiadau hygyrch sydd ar gael, ac i wella eu hansawdd, gan sicrhau eu bod yn hygyrch ac yn gynhwysol. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i gael gwared ar rwystrau ffisegol, gyda pholisïau tocynnau gwahaniaethol yn dangos yn glir bod Iaith Arwyddion Prydain, disgrifiadau sain/perfformiadau addas ar gyfer awtistiaeth yn cael eu darparu.
Iechyd, gofal a chymorth
Canlyniad 1: gofal prydlon a chydlynol
Mae pobl anabl o bob oed yn cael eu grymuso i arfer eu hawl i’r safon iechyd uchaf posibl drwy fynediad cydlynol, di-dor a phrydlon at y gofal a’r cymorth priodol, sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau presennol ac yn goresgyn rhwystrau presennol, gan gynnwys y rhai a wynebir wrth drosglwyddo rhwng darparwyr neu wasanaethau sy’n gysylltiedig ag oedran.
Canlyniad 2: lleoliadau gofal hygyrch
Mae pobl anabl yn cael gofal a chymorth mewn lleoliadau gofal cymdeithasol (wyneb yn wyneb neu o bell) sy’n hygyrch, ac sydd â’r cyfleusterau a’r swyddogaethau i sicrhau bod yr holl anghenion mynediad yn cael eu bodloni ar draws pob oed. Mae gan bobl anabl ymreolaeth i ddewis sut a ble maen nhw’n cael eu gofal a’u cymorth.
Canlyniad 3: polisi gofal sy’n canolbwyntio ar hawliau ac ar yr unigolyn
Mae pobl anabl yn cyfrannu at lunio polisïau sy’n ymwneud â’u gofal a’u cymorth drwy ddulliau cynhwysol a chydweithredol. Nod y polisïau a’r canllawiau a roddir i Fyrddau Iechyd a Chyrff GIG Cymru yw adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wreiddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd a chwalu rhwystrau sy’n cyfyngu ar opsiynau sydd ar gael i bobl anabl i fyw’n annibynnol. Mae’r ymrwymiad hwn yn hybu hawliau pobl anabl ym maes iechyd, gofal cymdeithasol a byw’n annibynnol.
Canlyniad 4: darparwyr gofal cefnogol
Mae gan bobl anabl fynediad cyfartal at wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a chymorth yr adnoddau priodol i fodloni anghenion amrywiol a chroestoriadol plant ac oedolion anabl, gyda gweithluoedd sy’n deall hawliau pobl anabl, y Model Cymdeithasol o Anabledd, a’u rhwymedigaethau eu hunain o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy’n cydweithio ar draws sefydliadau i wella ansawdd mewn gofal.
Canlyniad 5: llai o anghydraddoldebau mewn gofal
Mae pobl anabl yn cael eu cynrychioli yn y gwaith o lywodraethu iechyd a gofal cymdeithasol, gan ganolbwyntio o’r newydd ar ddileu gwahaniaethu a hybu arferion rhagweithiol a hygyrch i wella safonau gwasanaeth ar gyfer pob person anabl, gan gynnwys y rhai ag anghenion croestoriadol.
Canlyniad 6: cyfathrebu tryloyw mewn gofal
Mae pobl anabl yn deall eu hawliau i gael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol ac maen nhw’n cael eu grymuso drwy’r Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Cyfathrebu a Gwybodaeth Hygyrch (pan gânt eu cyhoeddi) a chynnig rhagweithiol Gymraeg i gyfathrebu’n rhydd â’u darparwyr gofal a’u rhwydweithiau cymorth, gan ddefnyddio’r fformatau a’r ieithoedd sy’n bodloni eu hanghenion eu hunain orau.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthyglau 25 ac 19 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi hawl cyfartal pobl anabl i fwynhau’r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd heb wahaniaethu ar y sail eu bod yn berson anabl.
Mae Erthygl 25 yn nodi hawl cyfartal pobl anabl i fwynhau’r safon iechyd uchaf y gellir ei chyrraedd heb wahaniaethu ar y sail eu bod yn berson anabl.
Mae Erthygl 19 yn nodi hawl bellgyrhaeddol pobl anabl yn y cytundeb i fyw’n annibynnol a chymryd rhan yn y gymuned. Mae’n gofyn am fesurau gan wledydd i ganiatáu iddynt fwynhau’r hawl hon yn llawn, gan ganiatáu i unigolion ddewis ble a gyda phwy maen nhw’n byw heb gael eu gorfodi i wneud trefniadau byw penodol.
Yng Nghyfrifiad 2021, roedd cyfran y bobl yng Nghymru a ddywedodd eu bod yn anabl yn 21%. Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016 i 2017 yn dangos bod 38% o bobl yn dweud eu bod yn cael anawsterau cael mynediad i ysbytai. O’r rhai a roddodd wybod am anawsterau, nododd 44% broblemau gyda ‘symud o amgylch yr adeilad (grisiau, drysau, coridorau cul)’, ‘problemau parcio’ (38%), ‘lifftiau neu risiau symudol annigonol’ (26%),
Gall mynediad at ofal iechyd fod yn arbennig o heriol i bobl anabl, ac mae tystiolaeth yn dangos canlyniadau iechyd gwaeth i bobl anabl. Roedd y trosolwg o farwolaethau ymysg pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru rhwng 2012 a 2022 yn dangos bod gwahaniaeth o tua dau ddegawd yn yr oedran marw nodweddiadol o gymharu â’r boblogaeth ehangach. I’r rhai ag amhariad o ran symudedd, mae cyfleusterau parcio annigonol, clinigau anhygyrch ac ysbytai yn gallu ei gwneud hi’n anodd mynd i apwyntiadau.
Gall methu darparu gwasanaethau dehongli i bobl anabl, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, atal neu gymhlethu mynediad at wasanaethau gofal iechyd i bobl fyddar a phobl sydd ag amhariad ar eu synhwyrau, fel pobl ddall fyddar a phobl ddall neu rannol ddall. Gall y rhwystrau hyn arwain at fethu apwyntiadau, triniaethau’n cael eu gohirio, a chanlyniadau iechyd gwaeth. Er mwyn darparu gofal iechyd cynhwysol mae gofyn darparu cyfleusterau hygyrch, gan gynnwys parcio, a chymorth cyfathrebu effeithiol i sicrhau bod yr holl bobl anabl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.
Yn 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun deg mlynedd strategol cenedlaethol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol – Cymru Iachach. Mae Cymru Iachach yn nodi gweledigaeth i bawb yng Nghymru gael bywydau hirach, iachach a hapusach, a gallu parhau i fod yn egnïol, yn annibynnol ac yn eu cartrefi eu hunain am gyn hired â phosibl, gyda chymorth system iechyd a gofal integredig.
Er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu a gymerir o dan Cymru Iachach dros y blynyddoedd nesaf yn dal i fod y rhai cywir, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 35 o gamau gweithredu diwygiedig yn ddiweddar. Mae’r camau hyn wedi’u cynllunio o amgylch sut beth ddylai system iechyd a gofal effeithiol fod. Rydyn ni wedi dewis egwyddorion craidd sy’n adlewyrchu ein huchelgeisiau; un sy’n rhoi sylw i ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn lle rydyn ni am i’n dull gweithredu ganolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn i bobl allu cael y gofal priodol sydd ei angen arnynt ar yr adeg iawn ac yn y lle iawn; ac un sy’n ceisio lleihau anghydraddoldebau iechyd drwy sicrhau mynediad cyfartal at y system iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn sicrhau canlyniadau cyfartal.
Mae Llywodraeth Cymru’n benderfynol o sicrhau bod mynediad a chynhwysiant yn cael eu hystyried yn llawn o gychwyn cyntaf taith gofal iechyd pob person anabl. Mae hyn yn cynnwys hygyrchedd 111 ac Ap GIG Cymru, cyfleusterau parcio addas a chynwysoldeb meddygfeydd ac ysbytai. Mae’r Cynllun Gweithredu Strategol ar Anabledd Dysgu yn cyflawni’r ymrwymiadau a wnaed yn y rhaglen Gwella Bywydau, gan geisio gwella canlyniadau drwy gynyddu mynediad at archwiliadau iechyd blynyddol a darparu hyfforddiant anableddau dysgu Paul Ridd i staff iechyd.
Nod Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth i Bobl ag Amhariad ar y Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy 2013 (y safonau) yw sicrhau bod unigolion sydd ag amhariad ar y synhwyrau yn cael cymorth cyfathrebu priodol wrth gael gafael ar wasanaethau gofal iechyd. Mae’r safonau hyn yn disgwyl i ddarparwyr gofal iechyd gynnig gwybodaeth mewn fformatau hygyrch, fel print bras, Braille a sain, a sicrhau bod dulliau cyfathrebu effeithiol ar waith ar gyfer pobl sy’n fyddar, yn drwm eu clyw, yn ddall, neu’r rhai sy’n rhannol ddall.
Yn 2023, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ehangu ac adnewyddu’r safonau i sicrhau eu bod yn cynrychioli pobl sydd â mathau eraill o amhariadau. Bydd effeithiolrwydd y Safonau estynedig hyn, pan gânt eu gweithredu, yn cael ei adolygu’n rheolaidd i hybu gofal iechyd cynhwysol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys staff iechyd carchardai) yn wybodus o ran deall y Model Cymdeithasol o Anabledd a’u bod yn ei wreiddio yn eu hymarfer, drwy hyfforddiant cynhwysfawr i’r holl staff gofal iechyd ar anghenion amrywiol pobl anabl.
Mae prosesau rhyddhau prydlon a chydlynol o’r ysbyty yn cefnogi llesiant ac adferiad pobl anabl. Gall aros yn yr ysbyty am gyfnodau hir arafu’r broses o wella, cynyddu’r risg o ddal heintiau sy’n cael eu dal yn yr ysbyty, ac arwain at broblemau iechyd meddwl fel gorbryder. Weithiau, mae anghydbwysedd yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae cyfleoedd yn cael eu colli i atal ac ymyrryd yn gynnar yn y gymuned. Mae Canllawiau Llywodraeth Cymru ar Ryddhau o’r Ysbyty yn rhoi cyngor ar safonau Rhyddhau o’r Ysbyty ar gyfer partneriaid iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a phartneriaid yn y sector annibynnol yng Nghymru.
Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod cyfraddau uwch o bobl anabl yn marw o ganlyniad i hunanladdiad yng Nghymru a Lloegr na phobl nad ydynt yn anabl. Nod Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Llywodraeth Cymru yw gwella a diogelu iechyd meddwl a llesiant meddyliol pobl yng Nghymru. Mae’r Strategaeth yn cydnabod bod pobl anabl a phobl niwrowahanol mewn perygl penodol o ddioddef iechyd meddwl a llesiant meddyliol gwael. Mae’r strategaeth yn cydnabod yr angen i gydnabod hawliau penodol unigolion, fel bod gwasanaethau ar gael ar sail deg. Mae’r Strategaeth Atal Hunanladdiad ac Atal Hunan-niwed hefyd yn dilyn dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau ac yn cyfeirio at yr angen i wreiddio hawliau plant a hawliau pobl anabl yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Rhaid i weithwyr gofal iechyd proffesiynol adnabod ac ymateb i amhariadau mewn babanod yn brydlon er mwyn cefnogi eu datblygiad a’u llesiant. Mae ymyrraeth gynnar yn sicrhau bod plant yn cael y gofal a’r adnoddau angenrheidiol i ffynnu, gan leihau effaith unrhyw heriau y gallent eu hwynebu. Mae Rhaglen Plant Iach Cymru wedi cael ei chreu yn dilyn adolygiad o dan arweiniad GIG Cymru o’r ffordd rydyn ni’n cefnogi teuluoedd sydd â phlant ifanc yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion anabl yn cael mynediad di-dor at ofal iechyd, gan gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl. Rydyn ni wedi ymrwymo i hybu trefniadau pontio cadarnhaol hygyrch a chynhwysol i wasanaethau oedolion.
Nid yw hygyrchedd yn ymwneud â chydymffurfio yn unig - mae hefyd yn ymwneud â chreu amgylchedd digidol cynhwysol i bawb. Mae gobaith mawr y bydd Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gwella mynediad at ofal iechyd i bobl anabl, os caiff ei ddarparu mewn ffordd ddiogel, gyfrifol a moesegol. Bydd angen ystyried sut mae technolegau deallusrwydd artiffisial yn cael eu rhoi ar waith a dylid eu gwerthuso’n barhaus i sicrhau cydraddoldeb mewn gofal iechyd i bobl anabl. Rydyn ni wedi creu rhai egwyddorion lefel uchel i helpu i lywio sut mae’r sector cyhoeddus yn defnyddio deallusrwydd artiffisial yng Nghymru er mwyn sicrhau ei fod: yn foesegol, yn ddibynadwy, ac yn cyd-fynd â gwerthoedd a buddiannau pobl Cymru, yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn fuddiol i bawb, yn enwedig i’r rhai sydd fwyaf difreintiedig, yn arloesol, yn gydweithredol ac yn gefnogol i’n hecosystem Ymchwil a Datblygu, ac yn dryloyw, yn atebol ac yn ddarostyngedig i’r trefniadau llywodraethu a goruchwylio cywir.
Cyhoeddodd Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ei ganllawiau ‘Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn y Gwaith’, sy’n tynnu sylw at ystyriaethau moesegol defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Mae’r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol hefyd wedi cyhoeddi canllawiau ehangach, traws-sector ar ddefnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi canllawiau ar yr angen i ystyried Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o’r cychwyn cyntaf mewn unrhyw gynlluniau deallusrwydd artiffisial.
Mae’r Comisiwn Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn uwch grŵp cynghori o arbenigwyr ac arweinwyr, sy’n cynrychioli’r sectorau iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd. Mae’r Comisiwn yn gweithio ar y cyd ar draws y sector a gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i gynghori a darparu cyfarwyddyd ar reoleiddio a mabwysiadu deallusrwydd artiffisial mewn modd diogel, cyfrifol a moesegol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Roedd dadansoddiad o farwolaethau a oedd yn gysylltiedig â'r Coronafeirws (COVID-19) yn ôl ‘statws anabledd’ yng Nghymru a Lloegr: 2 Mawrth i 14 Gorffennaf 2020 yn dangos bod pobl anabl yng Nghymru yn cyfrif am bron i 7 o bob 10 (68%) o’r holl farwolaethau. Roedd yr adroddiad ‘Drws ar glo’ yn tynnu sylw at nifer o feysydd lle roedd effaith anghymesur ar bobl anabl yn ystod y pandemig, a gallai llawer ohonynt fod wedi cyfrannu at fwy o risgiau iechyd fel mynediad at ofal iechyd, tai, incwm, cyflogaeth ac allgáu cymdeithasol. Mae ymgorffori ystyriaethau moesegol mewn gofal iechyd yn hanfodol, yn enwedig wrth gyflawni anghenion a hawliau pobl anabl. Mae sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynnwys yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau gofal iechyd yn hybu tegwch a chynhwysiant.
Mae gan fesurau economeg iechyd rôl bwysig o ran ein helpu i ddeall a chymharu effaith gwahanol driniaethau a chyflyrau iechyd. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar rai adnoddau, fel blynyddoedd bywyd wedi’u haddasu yn ôl ansawdd, a allai or-symleiddio profiadau bywyd pobl anabl yn rhifau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod gofal iechyd yn cael ei ddarparu’n deg i bobl anabl yng Nghymru, drwy ei rhwydwaith i gefnogi safonau a swyddogaethau cyson ar gyfer grwpiau cynghori ar foeseg glinigol ar draws GIG Cymru.
Mae gan bobl anabl yr hawl i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cynhwysol, ond gall fod yn anodd cael mynediad atynt. Gall gwella seilwaith a thechnoleg gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, yn ogystal â helpu’r gweithlu i ddeall y Model Cymdeithasol o Anabledd, wella mynediad i bobl anabl. Gall llawer o bobl anabl barhau i fyw’n annibynnol, gyda’r cymorth priodol. Mae sefydliadau pobl anabl yn chwarae rhan hollbwysig yn y broses hon, gan ddarparu cymorth ac eiriolaeth amhrisiadwy. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi egwyddorion llais, dewis a rheolaeth ar gyfer pobl sydd angen gofal a chymorth, gan gynnwys pobl anabl.
Mae Cod Ymarfer Rhan 2 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi’r angen i awdurdodau lleol hybu llesiant a gwarchod unigolion. Mae’n canolbwyntio ar atal yr angen am ofal a chymorth drwy hybu llesiant a rhoi cymorth i bobl anabl a gofalwyr. Mae Awdurdodau Lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol, yn cynnig gwybodaeth am wasanaethau llesiant cymunedol, ac yn rhoi cyngor ar daliadau uniongyrchol a thaliadau gofal. Mae hyn yn helpu pobl i gynllunio ar gyfer eu hanghenion gofal yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae awdurdodau’n sicrhau bod ymarferwyr ac unigolion yn cydweithio fel partneriaid cyfartal i gynllunio a darparu gofal a chymorth.
Mae cefnogi llais, dewis a rheolaeth ac annibyniaeth pobl anabl yn gofyn am seilwaith cadarn mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, trafnidiaeth, cyflogaeth a Thaliadau Uniongyrchol. Mae Taliadau Uniongyrchol yn arian a ddarperir gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r taliadau wedi’u hanelu at bobl waeth beth fo’u hamhariadau, ond gallant gynnwys plant ac oedolion anabl. Ar 31 Mawrth 2023, roedd gan 50,144 o oedolion gynllun gofal a chymorth, ac roedd gan 11% ohonynt gynllun gofal a chymorth yn cael ei gefnogi gan Daliad Uniongyrchol.
Mae taliadau uniongyrchol ar gael ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol a gallant wella annibyniaeth yn sylweddol, ac o ganlyniad, ansawdd bywyd pobl anabl, a’r rhai ag anghenion gofal tymor hir drwy ddarparu mwy o lais, dewis a rheolaeth. Mae Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru), a gyflwynwyd ar 20 Mai 2024, yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n cyfrannu at gydgynhyrchu ymchwil i archwilio’r cysyniad o sefydlu Canolfan Genedlaethol Byw’n Annibynnol o dan arweiniad pobl anabl yng Nghymru. Bydd canfyddiadau’r ymchwil hwn yn cynrychioli safbwyntiau rhanddeiliaid ar amrywiaeth o agweddau ar gyfer Canolfan Genedlaethol, gan gynnwys y galluogwyr posibl, nodau, swyddogaethau ac ystyriaethau ymarferol.
Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio, a gyhoeddwyd yn 2021, yn nodi’r camau y byddwn ni’n eu cymryd i baratoi ar gyfer y dyfodol. Mae’n ystyried nifer o bethau sy’n dylanwadu ar sut rydyn ni’n heneiddio, fel iechyd a gofal cymdeithasol, trafnidiaeth a hyd yn oed y ffordd rydyn ni’n cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Nod y strategaeth yw newid y ffordd rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo am heneiddio. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau pob person hŷn yng Nghymru, gallwn weithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn.
Ein gweledigaeth yw Cymru sydd o blaid pobl hŷn, sy’n dathlu oedran ac, yn unol ag Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn, cenedl sy’n cynnal annibyniaeth, cyfranogiad, gofal, hunangyflawniad ac urddas pobl hŷn bob amser.
5. Cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol
Er mwyn cyflawni’r uchelgeisiau cyffredinol hirdymor ar gyfer Cyfiawnder ac Amgylcheddau Cefnogol a ddisgrifir ym Mhennod 1, mae’r bennod hon yn nodi’r canlyniadau rydyn ni’n disgwyl eu gweld dros gyfnod o ddeg mlynedd, o ganlyniad i’r camau rydyn ni’n eu cymryd i sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad at gyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol. Mae cyfiawnder ac amgylcheddau cefnogol yn cynnwys y themâu canlynol: mynediad at gyfiawnder ac amgylcheddau hygyrch a chefnogol.
Mynediad at gyfiawnder
Canlyniad 1: dylanwad ar bwerau a gedwir yn ôl
Mae profiadau pobl anabl o swyddogaethau a gedwir yn ôl y systemau cyfreithiol a chyfiawnder yn gwella diolch i ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU i hybu hawliau pobl anabl, gwasanaethau cymorth yn cael eu cydlynu’n well, a mynd ar drywydd canlyniadau gwell i’r rhai sy’n rhyngweithio ar bob cam o’r broses.
Canlyniad 2: mynediad effeithiol at gyfiawnder sifil a throseddol
Mae pobl anabl yng Nghymru yn cael eu haddysgu am eu hawliau mewn perthynas â chyfiawnder, boed hynny fel hawlydd, dioddefwr trosedd neu droseddwr. Maen nhw hefyd yn cael mynediad at gyngor cyfreithiol a gweithdrefnau cwyno priodol a lleol sy’n gallu bodloni eu hanghenion gofal cymunedol, addysg, tai, mewnfudo a lloches, a budd-daliadau lles, lle bynnag maen nhw yng Nghymru.
Canlyniad 3: trais, cam-drin rhywiol a thrais domestig
Mae gan bobl anabl sy’n ddioddefwyr/goroeswyr trais, cam-drin rhywiol a cham-drin domestig fynediad at wasanaethau ymatebol a chroestoriadol, o ansawdd uchel, sy’n cael eu harwain gan anghenion ac sy’n seiliedig ar gryfderau ledled Cymru.
Canlyniad 4: deddfwriaeth sy’n cynrychioli
Mae’r hawliau sydd wedi’u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl a’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn cael eu cydnabod mewn polisi a, lle bo hynny’n briodol ac yn bosibl, deddfwriaeth sy’n seiliedig ar yr adolygiad parhaus o’r ddeddfwriaeth bresennol.
Canlyniad 5: tystiolaeth
Drwy ymchwil annibynnol, dadansoddi data presennol, ac ymgysylltu ag asiantaethau partner, mae canlyniadau a phrofiadau pobl anabl o’r systemau cyfreithiol a chyfiawnder yn cael eu deall yn well, ac mae sylfaen dystiolaeth gadarn yn cael ei darparu i gefnogi’r achos dros system hygyrch a chynhwysol.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthygl 5 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n nodi bod pob unigolyn yn gyfartal gerbron y gyfraith a bod ganddo hawl i warchodaeth a buddion cyfartal heb wahaniaethu. Mae’n mynnu bod gwledydd yn gwahardd gwahaniaethu ar sail anabledd ac yn sicrhau gwarchodaeth gyfreithiol gyfartal i bobl anabl.
Mae troseddau casineb yn dal yn broblem sylweddol i bobl anabl ledled y DU, yn bennaf oherwydd rhagfarnau cymdeithasol parhaus a chamsyniadau am anabledd. Yn aml, nid yw unigolion yn rhoi gwybod am y troseddau hyn, yn rhannol oherwydd y gallai dioddefwyr ofni na fydd unrhyw un yn eu cymryd o ddifrif, neu efallai nad oes ganddynt hyder yn y systemau cymorth sydd ar gael. Ar ben hynny, weithiau, pobl sy’n agos at y dioddefwr sy’n gyfrifol am droseddau casineb yn erbyn pobl anabl, gan gymhlethu’r prosesau adrodd ac erlyn. Er bod troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yn y DU lle roedd anabledd yn ffactor ysgogol wedi gostwng o 849 yn 2022 i 2023 i 752 yn 2023 i 2024, mae nifer y troseddau hyn yn dal yn annerbyniol o uchel.
Yn ôl Prif Erlynydd y Goron a’r Arweinydd Cenedlaethol mewn Ymchwilio i Droseddau Casineb yn erbyn Pobl Anabl a’u Herlyn:
"Troseddau casineb yn erbyn pobl anabl yw un o’r troseddau mwyaf hollbresennol a heb eu cofnodi o droseddau casineb. Mae’n drosedd ddichellgar sy’n gallu amlygu ei hun mewn trais amlwg neu weithredoedd rhagfarnllyd sy’n targedu sy’n gallu bod yn gynnil ond yn niweidiol iawn. Mae effaith hyn ar unigolion a chymunedau yn parhau i fod yn bellgyrhaeddol ac yn ddwys.”
Rhaid inni barhau i gymryd camau i fynd i’r afael â’r troseddau erchyll hyn a’u hatal, gan sicrhau bod pobl anabl yn cael eu gwarchod a’u cefnogi ar bob lefel o gymdeithas.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i herio’r camsyniadau hyn ac eirioli dros hawliau a diogelwch pobl anabl. Er mwyn gwella’r ddealltwriaeth o droseddau casineb, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydweithio â Sefydliadau Pobl Anabl i sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch, yn enwedig i bobl ag anableddau dysgu, ac i sicrhau bod pobl anabl yn gwybod beth yw troseddau casineb, yn gwybod sut i roi gwybod am y troseddau hyn, ac yn deall ble i gael cymorth. Ar ben hynny, bydd ymgyrch Llywodraeth Cymru, Mae Casineb yn Brifo Cymru: 2025 i 2027 yn canolbwyntio ar droseddau yn erbyn pobl anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl anabl sydd wedi dioddef ac wedi goroesi troseddau yn cael mynediad cyfartal at wasanaethau ymatebol o ansawdd uchel ledled Cymru. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i eirioli dros well mynediad at ddata ar y boblogaeth anabl mewn carchardai, gan gynnwys merched o Gymru sydd yn y carchar yn Lloegr. Mae’r ymdrech hon yn hanfodol er mwyn deall a mynd i’r afael ag anghenion pobl anabl mewn carchardai.
Rydyn ni’n gwybod bod pobl anabl, yn enwedig y rhai sy’n niwrowahanol, yn cael eu gorgynrychioli yn y system cyfiawnder troseddol. Mae hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd i staff yn bwysig er mwyn meithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol i unigolion anabl yn y system gyfiawnder. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod carcharorion yn cael eu hasesu’n briodol ac yn gynnar er mwyn sicrhau mynediad cyfartal at addysg yng Nghymru.
Rydyn ni’n dyrannu £1.2m o gyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r Strategaeth Trais yn erbyn Menywod a Cham-drin Domestig a Thrais Rhywiol i roi cymorth a chyngor i ddioddefwyr ar hyd a lled Cymru drwy gyllid grant rhanbarthol. Ar ben hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth ar gyfer pobl anabl sydd wedi goroesi camdriniaeth yng Nghymru drwy ffrwd waith y Dull System Gyfan o gomisiynu cynaliadwy ar gyfer atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
Mae Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru wedi’i ddylunio i helpu aelodau o’r cyhoedd i ddewis ffynonellau cymorth drwy roi sicrwydd bod gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn cynnig ymyriadau o ansawdd uchel. Mae’r Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru yn canolbwyntio’n benodol ar bynciau cyngor lles cymdeithasol sy’n cefnogi’r nodau hyn yn uniongyrchol. Yn bwysicaf oll: budd-daliadau lles, cynhwysiant ariannol gan gynnwys cyngor ar ddyled ac arian, tai a digartrefedd, cyflogaeth, mewnfudo a gwahaniaethu. Bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Cymru i sicrhau bod adnoddau ar gael i gefnogi fframwaith strategol o wasanaethau cyngor lles cymdeithasol ledled Cymru sy’n targedu grwpiau allweddol o’r boblogaeth, gan gynnwys pobl anabl, gan wella eu mynediad at gyngor lles cymdeithasol diduedd gyda sicrwydd ansawdd.
Amgylcheddau hygyrch a chefnogol
Canlyniad 1: cymdeithas heb wahaniaethu
Mae bwlio plant anabl mewn ysgolion, agweddau niweidiol a gwahaniaethol at bobl anabl, gan gynnwys stereoteipiau, yn cael eu herio ar lefel gymdeithasol, gan sicrhau cyd-ddealltwriaeth o hawliau, profiadau, anghenion a hanes pobl anabl i ysgogi diwylliant cynhwysol, sy’n cael ei feithrin ledled y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i wella canlyniadau i bawb.
Canlyniad 2: cefnogaeth i sefydliadau pobl anabl
Mae gan Sefydliadau Pobl Anabl ledled Cymru rôl strategol yn eirioli dros hawliau pobl anabl ac maen nhw’n cael eu cefnogi drwy’r cyllid, y capasiti a’r sicrwydd ariannol sy’n angenrheidiol i hybu eu heffaith gadarnhaol. Adlewyrchir eu gwerth a’u harbenigedd yn y gefnogaeth a’r cyfleoedd a gânt gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, a’u rhan yn datblygu polisïau a gwasanaethau ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Canlyniad 3: gwasanaethau cyhoeddus cynhwysol
Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi cynyddu adnoddau, dealltwriaeth a phrofiad bywyd ar bob lefel i ymgorffori'r Model Cymdeithasol o Anabledd a chynnal hawliau pobl anabl. Maen nhw hefyd yn cael eu dwyn i gyfrif yn erbyn Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus gan gyrff arwain a chraffu sy'n sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynrychioli’n deg.
Canlyniad 4: gwleidyddiaeth gynhwysol
Mae pobl anabl yng Nghymru yn cymryd rhan weithredol mewn bywyd gwleidyddol a chyhoeddus, sy’n cyfoethogi’r broses ddemocrataidd, gan arwain at Gymru fwy cyfiawn a theg.
Canlyniad 5: Llywodraeth Cymru
Mae pobl anabl yng Nghymru yn cael eu cynrychioli gan lywodraeth sy’n eu gwerthfawrogi, yn eu deall ac yn eu parchu, gan ymgorffori hawliau pobl anabl mewn polisïau ac yn y gyfraith. Mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio profiad bywyd wrth arwain a drwy’r sefydliad i gyd, ac mae’n gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau newid cymdeithasol sylweddol.
Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau pobl anabl
Mae’r canlyniadau uchod yn cyd-fynd ag Erthyglau 9 ac 8 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl, sy’n canolbwyntio ar hygyrchedd, gan bwysleisio ar yr angen i wledydd sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar wasanaethau gwybodaeth, cyfathrebu a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau electronig.
Mae Erthygl 9 yn canolbwyntio ar hygyrchedd, gan bwysleisio ar yr angen i wledydd sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael gafael ar wasanaethau gwybodaeth, cyfathrebu a gwasanaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau electronig.
Mae Erthygl 8 yn nodi bod angen i wledydd godi ymwybyddiaeth y gymdeithas o bobl anabl, mynd i’r afael â stereoteipiau a rhagfarnau, a hybu parch at eu hawliau a’u hurddas. Mae’r mesurau’n cynnwys ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, mentrau addysg, canllawiau ar gyfer y cyfryngau, a rhaglenni hyfforddi i feithrin canfyddiadau cadarnhaol ac ymwybyddiaeth gymdeithasol.
Yn ein byd cynyddol ddigidol, mae allgáu pobl anabl oherwydd diffyg technoleg hygyrch yn parhau i fod yn rhwystr sylweddol i gydraddoldeb. Nid yw hygyrchedd wedi’i ystyried wrth gynllunio llawer o raglenni, ac mae hynny’n arwain at anawsterau o ran mynediad at drafnidiaeth, gwaith a hamdden. Mae tua 7% neu 170,000 o oedolion yng Nghymru yn dal i gael eu hallgáu’n ddigidol, ac mae’r newid i gymdeithas heb arian parod yn parhau i greu rhwystr i lawer o bobl anabl. Mae Mencap Cymru’n dymuno gweld arian parod a chardiau yn cael eu derbyn mewn siopau a bwytai, er mwyn sicrhau nad yw pobl anabl a phobl hŷn yn cael eu hallgáu a bod neb yn gwahaniaethu yn eu herbyn.
Mae’r diffyg technoleg hygyrch hwn yn rhwystro pobl anabl rhag gallu cymryd rhan lawn mewn gwahanol agweddau ar fywyd bob dydd. Fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, rhaid gwneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad cyfartal at y technolegau hyn. Fodd bynnag, heb dechnoleg hygyrch, mae potensial offer digidol i wella annibyniaeth a chynhwysiant yn cael ei golli, ac mae’r cylchoedd o allgáu ac anghydraddoldeb yn parhau. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo drwy ei Chynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Anabledd Dysgu i adolygu’r defnydd priodol o dechnoleg ac opsiynau digidol er mwyn ymgysylltu cymaint â phosibl a meithrin a gwella cysylltiadau ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio i sicrhau bod meddalwedd gynorthwyol Gymraeg briodol, gan gynnwys adnabod llais a synthesis dwyieithog, ar gael yn rhwydd i wella llesiant pobl anabl. Drwy ei Chynllun Gweithredu Technoleg Iaith Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu adnodd technegol arloesol i gefnogi siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais oherwydd cyflyrau iechyd fel Clefyd Niwronau Motor neu ganser y gwddf. Mae’r Lleisiwr yn caniatáu i unigolion ‘fancio’ eu llais eu hunain a chreu llais synthetig personol newydd y byddant yn gallu ei ddefnyddio os byddant yn colli eu llais. Mae Trawsgrifiwr yn adnodd llais-i-destun dwyieithog gan Brifysgol Bangor sy’n hwyluso’r broses o gynhyrchu trawsgrifiadau ac is-deitlau.
Mae gan newyddiaduraeth, y cyfryngau cymdeithasol a’r diwydiant cyfryngau rôl hollbwysig yn y gwaith o lunio canfyddiadau ac agweddau’r cyhoedd at bobl anabl. Gall portreadau negyddol gyfrannu at ymyleiddio pobl anabl, gan atgyfnerthu agweddau negyddol a chreu rhwystrau rhag cynhwysiant. Mae angen dull gweithredu gwybodus a chynhwysol, sy’n tynnu sylw at gyflawniadau, hawliau a chyfraniadau pobl anabl er mwyn gwella canlyniadau i bobl anabl.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o wahaniaethu yn erbyn pobl anabl, i hybu agweddau cadarnhaol at bobl anabl, ac i gydweithio â rhanddeiliaid i sicrhau bod polisïau’n gynhwysol. Nod Llywodraeth Cymru yw parhau i integreiddio barn ac arbenigedd pobl anabl ym mhob agwedd ar gymdeithas, gan gynnwys strwythurau democrataidd lleol a chenedlaethol. Mae’n bwysig bod profiad bywyd unigolion yn gallu llywio trafodaeth, a chanlyniadau, a bod hyn yn arwain at amgylchedd gwell a mwy cynhwysol i bobl anabl gymryd rhan weithredol yn y gwaith o lunio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd. Mae ymgysylltu â phleidiau gwleidyddol a chefnogi mentrau ehangach sy’n ceisio cynyddu cynrychiolaeth pobl anabl mewn gwleidyddiaeth yn allweddol i sicrhau’r cyfranogiad gweithredol hwn, sy’n cael ei sbarduno gan barch rhwng y naill a’r llall.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud y Senedd a llywodraeth leol yn fwy amrywiol ac yn fwy cynrychioliadol o’r bobl maen nhw’n eu gwasanaethu. Mae pobl anabl yn debygol o wynebu costau uwch wrth geisio swyddi etholedig. Un o gamau allweddol ein rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth oedd cyflwyno ein cynllun peilot Y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig yng Nghymru. Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol o’r trefniadau, a daeth yr adroddiad i’r casgliad fod cefnogaeth aruthrol i’r gronfa ac y dylid ei chadw. Mae Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 yn adeiladu ar ein gwaith hyd yma ac yn cynnwys amrywiaeth o fesurau sydd â’r nod o greu amgylchedd gwleidyddol mwy cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys y gofyniad i Weinidogion Cymru sefydlu a chynnal cronfa i gefnogi ymgeiswyr anabl gyda’r costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â sefyll mewn etholiad.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnal y trefniadau hyn. Rydyn ni wedi ymgynghori’n ddiweddar ar ganllawiau drafft i helpu pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru i wneud y canlynol:
- datblygu, cyhoeddi a gweithredu strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer etholiadau Cymreig, a’u hadolygu’n rheolaidd
- casglu a chyhoeddi gwybodaeth am amrywiaeth am ymgeiswyr ar gyfer etholiadau’r Senedd ac Aelodau etholedig
- ystyried camau y gallant eu cymryd mewn perthynas â chwotâu gwirfoddol ar gyfer merched
6. Llywodraethu, monitro a gwerthuso
Mae’r canlyniadau yn y cynllun hwn yn adlewyrchu hawliau dynol a dyheadau pobl anabl; rhaid i bobl anabl allu cymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar fywyd heb wynebu rhwystrau na gwahaniaethu.
Bydd y tîm Cynhwysiant Pobl Anabl yn gweithio gydag Uned Tystiolaeth Gwahaniaethau ar Sail Anabledd Llywodraeth Cymru i fesur y newid sy’n deillio o’r cynllun hwn. Bydd yr Uned yn nodi model sy’n egluro sut disgwylir i newid ddilyn y camau gweithredu a nodir a’r dystiolaeth sydd ei hangen i fesur newid. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth hon i asesu sut mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno ac a yw’n cael ei gyflawni mewn ffordd sy’n cyflawni’r canlyniadau a ddymunir.
Byddwn yn sefydlu Bwrdd Ymgynghorol Allanol i ddarparu cyngor a chymorth ynghylch gweithredu, cyflawni ac effaith y Cynllun Hawliau Pobl Anabl. Bydd y Bwrdd Ymgynghorol Allanol yn cynnwys pobl sydd ag arbenigedd a phrofiad bywyd, cynrychiolwyr o sefydliadau pobl anabl, a rhanddeiliaid allweddol eraill.
Bydd y Bwrdd yn ceisio barn oedolion a phlant anabl, gan sicrhau y gwrandewir ar eu barn. Bydd y dull cynhwysol hwn yn hybu tryloywder ac atebolrwydd, gan sbarduno gwelliant parhaus o ran y ffordd y mae’r cynllun yn cael ei weithredu. Ar ben hynny, bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda gwahanol sectorau, gan gynnwys y sectorau cyflogaeth, addysg a gofal iechyd, i sicrhau bod pobl anabl yn cael mynediad cyfartal at gyfleoedd ac adnoddau.
Drwy dynnu sylw at yr arferion gorau a mentrau llwyddiannus, bydd y Bwrdd yn helpu i efelychu strategaethau effeithiol ledled Cymru, gan gyfrannu at gymdeithas gynhwysol. Yn y pen draw, bydd y Bwrdd Ymgynghorol Allanol yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o wreiddio cydraddoldeb i bobl anabl ym mholisïau a chamau gweithredu Cymru, gan ymdrechu i gael dyfodol lle gall pawb gymryd rhan lawn a heb wahaniaethu.
Bydd y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl, sy’n cael ei arwain gan y Gweinidog, yn parhau i ddod â phobl anabl, llunwyr polisïau, darparwyr gwasanaethau, ymchwilwyr a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd. Bydd y Fforwm yn cael ei arwain gan egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd a bydd yn ceisio dylanwadu ar gynlluniau a strategaethau gwahanol sectorau a lefelau llywodraeth. Bydd y fforwm hefyd yn parhau i weithredu fel llwyfan i rannu arferion da, dysgu oddi wrth ei gilydd a meithrin cynghreiriau ar draws gwahanol grwpiau a diddordebau.
Byddwn yn parhau i weithio gyda Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru. Mae ein Gweithgor Cyflogaeth Pobl Anabl mewn sefyllfa dda i adolygu ein cynnydd o ran cynhwysiant a mynediad at waith a phrentisiaethau. Byddwn yn cwrdd yn rheolaidd â’n Harweinwyr Cydraddoldeb ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cynllun trawslywodraethol hwn yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bobl anabl.
Sefydliadau pobl anabl, sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, fydd yn parhau i fod y brif ffordd o gyfathrebu ac ymgysylltu â’r gymuned ehangach o bobl anabl yng Nghymru. Mae’r Sefydliadau hyn yn cynrychioli gwahanol leisiau a buddiannau pobl anabl, a bydd ganddynt rôl yn casglu safbwyntiau gan eu rhanddeiliaid ar lawr gwlad a chyflwyno eu hadborth, eu pryderon a’u hawgrymiadau i’r fforwm i’w trafod a’u herio.
Bydd y cynllun hwn yn defnyddio strategaethau presennol a rhai sy’n datblygu ar draws Llywodraeth Cymru fel dulliau o newid ein tirwedd. Mae prif ffrydio’r model cymdeithasol o anabledd ar draws polisïau yn golygu bod pob polisi a strategaeth yn cynnwys pobl anabl, eu hanghenion a’u dewisiadau, a bod cydraddoldeb i bobl anabl yn rhan annatod o’r holl brosesau gwneud penderfyniadau.
7. Rhestr termau
Croestoriadedd
Croestoriadedd: mae hyn yn gysylltiedig â’r ffordd y mae gwahanol fathau o wahaniaethu (hynny yw, trin unigolyn yn annheg oherwydd ei nodweddion gwarchodedig) yn gysylltiedig â’i gilydd ac yn effeithio ar ei gilydd.
Cydgynhyrchu
Cydgynhyrchu: Mae cydgynhyrchu’n ymwneud â chydweithio â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau i ddylunio a darparu’r gwasanaethau hynny. Mae’n rhoi gwerth i gyfraniad pawb yn gyfartal.
Llesiant
Llesiant: mae llesiant yn ymwneud â phrofiad person ei hun o deimlo’n dda mewn bywyd. Mae’n cynnwys llesiant meddyliol, corfforol ac emosiynol.
Profiad bywyd
Profiad bywyd: mae hyn yn cyfeirio at yr wybodaeth a’r arbenigedd sy’n deillio o brofiadau pobl eu hunain. Mae’n cael ei ddefnyddio’n aml fel sail i wasanaethau a pholisïau, ac i’w gwella.
Pwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl
Pwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl: diffinnir y berthynas rhwng y Deyrnas Unedig a Chymru gan system o bwerau datganoledig a phwerau a gedwir yn ôl. Pwerau datganoledig yw’r rhai sy’n cael eu trosglwyddo o Senedd y DU i Senedd Cymru, ac yn caniatáu i Gymru ddeddfu ar feysydd fel iechyd, addysg a llywodraeth leol. Mae pwerau a gedwir yn ôl yn parhau o dan reolaeth Senedd y DU ac yn cynnwys materion fel amddiffyn, materion tramor, lles a mewnfudo.
Rhwystrau
Rhwystrau: mae rhwystrau yn atal pobl rhag cael gafael ar wasanaethau neu obeithion i'r dyfodol. Gallant fod yn gorfforol, fel grisiau a dim rampiau, neu’n gymdeithasol, fel rhagfarn a gwahaniaethu.
Y Model Cymdeithasol o Anabledd
Y Model Cymdeithasol o Anabledd: mae’r model hwn yn ystyried anabledd o ganlyniad i rwystrau mewn cymdeithas, yn hytrach nag amhariad neu gyflwr iechyd yr unigolyn. Mae’n canolbwyntio ar chwalu’r rhwystrau hyn i sicrhau bod pobl yn gallu cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.
