Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru: adroddiad cynnydd blwyddyn 4
Diweddariad ar y cynnydd a wnaed yn ystod pedwerydd flwyddyn y cynllun.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021, yn esbonio sut y byddwn yn gwireddu'n hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu ynghyd â'n blaenoriaethau eraill ar gyfer lles anifeiliaid. Ein huchelgais yw bod pob anifail yng Nghymru yn byw bywyd o ansawdd da. Mae hyn yn adlewyrchu amcan strategol Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru, sy'n sail i'n Cynllun Lles Anifeiliaid pum mlynedd.
Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r hyn gafodd ei wneud yn 2025, pedwaredd flwyddyn y cynllun, a hyd yn hyn yn 2026. Mae adroddiadau cynnydd blynyddol ar gael yma Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru 2021 i 2026.
Crynodeb
Rydym yn parhau i gyflawni er lles anifeiliaid:
- Fe wnaethon ni gyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd lles anifeiliaid, ynghyd â'n camau nesaf. Rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth i gynigion ar gyfer rheoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid, gan gynnwys canolfannau achub, adsefydlu ac ailgartrefu a llochesi.
- Rydym am weld gwahardd rasio milgwn cyn gynted â phosib. Cyflwynwyd y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) ger bron y Senedd ym mis Medi 2025 a phasiodd Cyfnod 4 mis Mawrth. Disgwylir iddo dderbyn Cydsyniad Brenhinol yn y misoedd i ddod.
- Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru yn sicrhau canlyniadau gwell i anifeiliaid o ran eu hiechyd a’u lles, gan gefnogi Awdurdodau Lleol i ddelio ag achosion lles anifeiliaid cymhleth. Rydym wedi dyfarnu £1 miliwn arall o gyllid i Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ar gyfer 2026/27.
- Rydym yn gweithio ar y cyd â gweinyddiaethau eraill i gryfhau eto ein safonau lles anifeiliaid fferm, gan gynnwys drwy ymgynghoriadau ar y cyd ar lefel y DU ar les ŵyn ac ar ddileu cewyll ieir dodwy.
- Fe wnaethon ni gyhoeddi safonau newydd o ran arferion modern swau sy'n cadarnhau ein hymrwymiad i reoli bywyd gwyllt mewn ffodd gyfrifol a moesegol.
- Mae Deddf Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) 2025 yn rhoi pwerau i ni ddelio ag anifeiliaid anwes sy'n cael eu mewnforio heb ystyriaeth i'w lles, taclo smyglo cŵn a chathod bach, ac atal mewnforio anifeiliaid sy'n agored i niwed neu sydd wedi'u hanffurfio.
- Mae Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) 2025 yn moderneiddio hen ddeddfwriaeth i amddiffyn da byw yn well rhag ymosodiadau cŵn, gan gysoni'r gyfraith ag arferion ffermio, safonau lles anifeiliaid ac anghenion plismona heddiw.
Ymrwymiadau'n Rhaglen Lywodraethu
Ymrwymiad 1 y Rhaglen Lywodraethu: Datblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer eu saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid
- Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Materion Gwledig, ddatganiad ysgrifenedig yn nodi ein hymateb i'r ymgynghoriad ar drwyddedu sefydliadau, gweithgareddau ac arddangosfeydd lles anifeiliaid, ynghyd â'r camau nesaf. Roedd hyn yn garreg filltir bwysig yn ein hymrwymiad di-dor i gryfhau safonau lles anifeiliaid.
- Rydym yn cymryd camau tuag at wahardd rasio milgwn yng Nghymru. Cyflwynwyd y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) ger bron y Senedd ym mis Medi 2025 a gafodd y Bil ei phasio gan y Senedd mis Mawrth 2026. Os caiff ei deddfu, bydd y Bil yn ei gwneud yn drosedd rhedeg stadiwm neu leoliad tebyg ar gyfer rasio milgwn, neu i fod ynghlwm wrth drefnu rasys milgwn.
- Rydym wedi sefydlu Grŵp Gweithredu o randdeiliaid allweddol i'n helpu i fynd ati i wahardd rasio milgwn. Mae'r Grŵp Gweithredu yn darparu cyngor ymarferol i ni allu cyflwyno gwaharddiad sy'n cael cyn lleied o effaith ar filgwn a'r gymuned leol â phosibl.
- Rydym yn cydnabod yr effaith bosibl ar wasanaethau ailgartrefu. Mae sefydliadau lles wedi ymrwymo i helpu i ofalu am unrhyw gynnydd yn nifer y milgwn fydd yn ymddeol. Bydd y Grŵp Gweithredu yn cefnogi'r dull cydgysylltiedig hwn, gyda phartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i reoli'r pwysau ar ganolfannau achub ac ailgartrefu ac i sicrhau bod lles milgwn yn parhau i fod yn ganolog gydol y cyfnod pontio.
- Roedd yr ymateb i'r ymgynghoriad yn tanlinellu'r angen i roi blaenoriaeth i gynigion i reoleiddio sefydliadau lles anifeiliaid, gan gynnwys canolfannau achub, adsefydlu ac ailgartrefu a llochesi. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd safonau clir, cyson a gorfodadwy sy'n diogelu iechyd a lles anifeiliaid, sydd hefyd yn cefnogi'r gwaith gwerthfawr y mae'r sefydliadau hyn yn ei wneud i atal niwed a chamdriniaeth.
- Mae hon yn rhaglen datblygu polisi sylweddol, sy'n cwmpasu amrywiaeth eang o rywogaethau a mathau o sefydliadau, ac mae'n bwysig ein bod yn neilltuo'r amser i'w wneud yn iawn. Mae ein huchelgais yn y maes hwn yn arwyddocaol ac ni chaiff ei wireddu dros nos.
- Rydym am weithio fesul cam i sefydlu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd â rhanddeiliaid, cyrff gweithredu, partneriaid y diwydiant a sefydliadau'r trydydd sector. Ein blaenoriaeth yw canolbwyntio ar feysydd lle gall rheoleiddio gael yr effaith bositif fwyaf.
- Sefydliadau twtio anifeiliaid anwes fydd yn cael eu hystyried yng ngham nesaf y model rheoleiddio cenedlaethol. Mae hwn yn sector crefftus ac arbenigol nad yw'n cael ei reoleiddio. Amcangyfrifir bod mwy na 500 o fusnesau twtio anifeiliaid anwes yng Nghymru.
Ymrwymiad 2 y Rhaglen Lywodraethu: Gwella'r cymwysterau i arolygwyr lles anifeiliaid er mwyn codi eu statws proffesiynol
- Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru bellach wedi hen gael ei draed dano ac mae'n dal i gryfhau mesurau gorfodi, arwain a chymorth gweithredu, gan gyfrannu'n uniongyrchol at wella canlyniadau i anifeiliaid o ran eu hiechyd a'u lles, ledled Cymru. Mae'r gallu arbenigol hwn yn gwella gallu Awdurdodau Lleol i ymdrin ag achosion lles anifeiliaid cymhleth.
- Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi gwella statws proffesiynol arolygwyr lles anifeiliaid Awdurdodau Lleol drwy ddarparu hyfforddiant ar Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 ("y rheoliadau bridio cŵn") a Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) (Cymru) 2021 ("rheoliadau LAIA").
- Mae Dyfarniad Lefel 3 newydd VTEC VetSkill mewn Trwyddedu Gwerthwyr Anifeiliaid Anwesyn garreg filltir bwysig ar gyfer safonau proffesiynol mewn trwyddedu gwerthwyr anifeiliaid ledled Cymru. Mae'r cymhwyster hwn yn ddyfarniad cydnabyddedig, annibynnol a reoleiddir gan Ofqual sy'n bodloni gofynion deddfwriaethol rheoliadau LAIA. Mae'n bodloni'r gofyniad statudol i swyddogion trwyddedu gael eu "hyfforddi'n briodol" wrth arolygu lleoedd sy'n gwerthu anifeiliaid anwes, gan eu harfogi â'r wybodaeth berthnasol, sgiliau ymarferol a dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth.
- Mae tîm arbenigol ymroddedig yn darparu cyngor cyson a chefnogaeth weithredol i Awdurdodau Lleol, gyda chymorth seilwaith digidol newydd sy'n cynnwys porth trwyddedu canolog ar gyfer bridwyr cŵn. Mae amodau safonol ar gyfer archwilio bridfeydd cŵn yn cael eu datblygu, ac mae hyfforddiant milfeddygol arbenigol wedi'i gyflwyno ledled Cymru.
- Mae Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi cyfrannu'n sylweddol at ddatblygu polisi a rheoliadau cenedlaethol, gan gynnwys grŵp llywio ar fridio a pherchnogaeth gyfrifol ar gwn, a bydd yn chwarae rhan hanfodol pan ddown i adolygu ein rheoliadau bridio cŵn.
- Mae'r tîm wedi cefnogi ymchwiliadau mawr i les anifeiliaid ac wedi rhoi help ymarferol i gynnal cyrchoedd mewn porthladdoedd. Mae'r tîm wedi cynrychioli Cymru hefyd wrth ddelio â materion ar lefel y DU, gan gynnwys cyfraniadau arbenigol i'r gwaharddiad ar gŵn XL Bully.
- Mae gwaith Trwyddedu Anifeiliaid Cymru wedi cael ei gydnabod trwy'r wlad, gyda gwobr arbennig PawPrints gan yr RSPCA yn 2024 a gwobr aur yn 2025, gan wneud Cymru'n arweinydd yn y DU ym maes gorfodi lles anifeiliaid.
- Rydym wedi dyfarnu £1 miliwn arall o gyllid i Trwyddedu Anifeiliaid Cymru ar gyfer 2026/27 i gefnogi ymhellach eu gwaith rhagorol gyda'n partneriaid.
Ymrwymiad 3 y Rhaglen Lywodraethu: Gwneud CCTV yn ofynnol ym mhob lladd-dy
- Mae CCTV bellach yn orfodol ym mhob lladd-dy yng Nghymru. Ers mis Mehefin 2024, mae'n ofynnol i ladd-dai osod camerâu CCTV yn y mannau lle mae anifeiliaid byw yn cael eu dadlwytho, eu cadw, eu trin, eu stynio a'u lladd, a rhaid iddynt gadw eu delweddau am o leiaf 90 diwrnod. Cyhoeddon ni ganllawiau i helpu lladd-dai i gydymffurfio â'r rheoliadau.
- Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn defnyddio CCTV yn ei rôl orfodi mewn lladd-dai. Mae CCTV yn gwneud gwaith monitro a gorfodi yn fwy effeithlon. Mae hyn yn helpu i wella hyder y cyhoedd bod safonau lles yn cael eu bodloni.
Ymrwymiad 4 y Rhaglen Lywodraethu: Cyfyngu ar ddefnyddio cewyll ar gyfer anifeiliaid a ffermir
- Gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, rydym wedi ymrwymo i wella lles ieir dodwy drwy symud tuag at systemau heb gewyll.
- Lansiwyd ymgynghoriad ar y cyd, ledled y DU, ar gynnig i wahardd cadw ieir dodwy, cywennod ac ieir bridio mewn cewyll ym mis Ionawr 2026. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar gynigion i ddileu'r defnydd o gewyll yn y sector ieir dodwy yn y DU, gwahardd y defnydd o gewyll 'coloni' wedi'u hymgyfoethogi ar gyfer ieir dodwy, cywennod ac ieir bridio, ac i ddileu'n raddol y cewyll 'batri' confensiynol sy'n weddill a ddefnyddir mewn unedau dodwy sydd â llai na 350 o adar. Nod ein cynigion yw gwella safonau lles anifeiliaid mewn ffordd sy'n gynaliadwy ac yn economaidd hyfyw i ddiwydiant wyau'r DU.
- Rydym hefyd wedi comisiynu'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid i baratoi cyngor ar systemau di-gewyll presennol ac amgen ar gyfer ieir dodwy. Bydd y cyngor hwn, ynghyd â'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yn ein helpu i benderfynu ar ein camau nesaf.
- Rydym yn dal i ystyried opsiynau ar gyfer rhoi'r gorau i ddefnyddio cratiau esgor ar gyfer hychod. Mae hyn yn cynnwys ystyried systemau amgen, megis systemau esgor hyblyg, lle mae hychod yn cael eu cadw'n sownd dim ond am y cyfnod tyngedfennol cyn ac ar ôl esgor, a systemau esgor rhydd lle nad oes cyfyngiadau arnyn nhw yn ystod y cyfnod esgor na llaetha.
Ein blaenoriaethau eraill ar gyfer lles anifeiliaid
Anifeiliaid anwes
Mae cydweithredu â rhanddeiliaid yn dal i fod yn sylfaen i'n gwaith. Trwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn gallu hybu'n cyd-flaenoriaethau o wella gwybodaeth gyhoeddus, addysg ac atebolrwydd perchnogion.
Rydym yn gweithio'n agos gyda sefydliadau'r trydydd sector, heddluoedd ac Awdurdodau Lleol, i hyrwyddo pwysigrwydd a manteision bridio cŵn yn gyfrifol a pherchnogaeth gyfrifol ar gŵn, ac rydym wedi ymrwymo o hyd i ddiweddaru ein rheoliadau bridio cŵn.
Ym mis Tachwedd 2025, lansiwyd yr offeryn Innate Health Assessment (IHA) gan Grŵp Seneddol Hollbleidiol y DU ar Lles Anifeiliaid a chafodd ei gymeradwyo ar ein gwe-dudalennau a chan ein rhanddeiliaid. Mae'r IHA yn cynnig rhestr wirio am ddim, hawdd ei defnyddio i aelodau'r cyhoedd, bridwyr ac awdurdodau gorfodi i'w helpu i asesu iechyd corfforol gast a'i haddasrwydd i fridio. Mae'n ymdrin â deg o deithi iechyd allweddol, fel anadlu clir, coesau syth, a chynffon sy'n siglo. Nid oes angen offer arbennig na chymorth milfeddyg.
Mae ymosodiadau gan gŵn yn dal i fod yn destun pryder, gyda phlentyn arall yn cael ei ladd yn 2025 ac achosion rheolaidd o anafiadau yn cael eu cofnodi ledled Cymru. Rydym yn ystyried beth arall y gellir ei wneud yma yng Nghymru i atal y peryglon sy'n gysylltiedig â bod yn berchen ar gi a bridio cŵn.
Mae microsglodynnu, hyrwyddo a rhagor o ddiwygio yn dal i fod yn feysydd sy'n cael eu hystyried, gan gynnwys ymdrechion ar draws y Llywodraeth i wella sut mae cronfeydd data microsglodion yn cael eu gweithredu. Nid yw'n fwriad ar y funud i ficrosglodynnu cathod yn ogystal â chŵn, mae canfyddiadau diweddar o Adroddiad Cats Protection, Cats and Their Stats Wales 2025, yn dangos bod lefelau microsglodynnu gwirfoddol yng Nghymru yn dal i fod yn uchel, sef 74%, gyda 96% o'r cofnodion hyn yn cael eu cadw'n gyfoes. Mae tystiolaeth o Loegr, lle mae'n orfodol microsglodynnu cathod ers 2024, yn dangos nad yw'r newid yn y gyfraith wedi cynyddu'r defnydd. Gyda'i gilydd, mae'r data'n awgrymu bod Cymru'n gwneud yn dda heb gyflwyno gofyn cyfreithiol i ficrosglodynnu cathod ac mae cydnabyddiaeth dda bod perchenogion cyfrifol yn derbyn hyn fel rhan o'u rôl.
Sŵau ac acwaria
Cyhoeddwyd Y Safonau ar gyfer arferion sŵau modern newydd ym mis Mai 2025. Mae hyn yn dilyn blynyddoedd o waith gan y Pwyllgor Arbenigwyr ar Sŵau, mewn cydweithrediad â Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban. Bydd y safonau yn dod i rym ym mis Mai 2027 a byddant yn moderneiddio'r ffordd y gofelir am anifeiliaid mewn sŵau ac acwaria, gan gadarnhau ein hymrwymiad cyffredin i iechyd a lles anifeiliaid a rheoli bywyd gwyllt mewn ffordd gyfrifol a moesegol. Bydd y cyfnod pontio o ddwy flynedd yn rhoi cyfle i sŵau ac acwaria addasu i'r newidiadau, gydag amserlenni cymalog pellach ar gyfer rhai newidiadau mewn cysylltiad â rhywogaethau penodol.
Anifeiliaid fferm
Dim ond pan fydd angen y dylid cludo anifeiliaid, a dylai teithiau fod mor fyr ag y bo modd. Dyna pam y gwnaethom gefnogi'r gwaharddiad ar allforio gwartheg, defaid, geifr, moch a cheffylau byw i'w lladd a'u pesgi. Daeth Rheoliadau Gorfodi Lles Anifeiliaid (Allforion Da Byw) 2024 i rym ym mis Ionawr 2025, gan roi'r pwerau i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac Awdurdodau Lleol orfodi'r gwaharddiad. Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraethau'r DU a'r Alban, a rhanddeiliaid i ystyried mesurau pellach i atal allforio ceffylau i'w lladd.
Lansiwyd ymgynghoriad ar y cyd ledled y DU ar les ŵyn, sy'n ymdrin â'r newidiadau arfaethedig i arferion ysbaddu a thorri cynffonnau, ym mis Ionawr 2026. Rydym yn ymgynghori ar gynigion i ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol i sicrhau trefn gyson ledled y DU, lleihau anffurfio diangen a gwella lles anifeiliaid. Rydym am leihau'r effeithiau sy'n gysylltiedig â'r arferion hyn ar les yr wyn trwy annog mwy o ddefnydd ar ddulliau llai niweidiol, gofyn am ddefnyddio cyffuriau lleddfu poen ar gyfer gweithdrefnau penodol, a gosod cyfyngiadau clir ar bwy all gynnal pob dull, yn ogystal â sut a phryd y gellir eu defnyddio. Bydd ymatebion i'r ymgynghoriad yn ein helpu i benderfynu ar bolisi yn y dyfodol yn y maes hwn.
Cydweithio â Llywodraeth y DU
Mae lles anifeiliaid yn bwnc sydd wedi'i ddatganoli, sy'n golygu y gallwn wneud ein deddfau a'n polisïau ein hunain yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU lle gall cydweithio ychwanegu at werth, sicrhau cysondeb, lleihau cymhlethdod diangen a chryfhau mesurau gorfodi gan ddarparu fframweithiau cyfreithiol clir, i sicrhau canlyniadau gwell i anifeiliaid.
Ym mis Medi 2025, rhoddodd y Senedd ganiatâd deddfwriaethol i ddau ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth.
Mae Deddf Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) 2025 yn rhoi pwerau i wahardd mewnforio cŵn a chathod bach o dan chwe mis oed i Brydain Fawr, yn ogystal â chŵn a chathod sydd wedi'u hanffurfio ac sy'n feichiog iawn. Mae hefyd yn mynd i'r afael â phobl sy'n camfanteisio'n fwriadol ar reolau teithio anfasnachol trwy gyfyngu ar nifer y cŵn, cathod a ffuredau y gellir eu symud o dan y trefniadau hynny. Byddwn nawr yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu is-ddeddfwriaeth i orfodi'r gwaharddiadau o fewn y Ddeddf. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar les anifeiliaid anwes sy'n cael eu mewnforio i Brydain Fawr.
Daw Deddf Cŵn (Diogelu Da Byw) (Diwygio) 2025 i rym ar 18 Mawrth 2026. Mae'n mynd i'r afael â phroblem ddifrifol ymosodiadau gan gŵn ar dda byw trwy foderneiddio cyfraith a oedd dros 70 oed ac nad oedd bellach yn addas i'r diben. Fe wnaethom groesawu'r diwygiad hir-ddisgwyliedig a mawr ei angen hwn. Gall ymosodiadau gan gŵn ar dda byw fod yn ddinistriol, gan arwain at farwolaethau, anafu ac erthylu heb sôn am straen emosiynol a cholled ariannol i ffermwyr. Mae newidiadau allweddol yn cynnwys pwerau cryfach i'r heddlu, gan gynnwys pwerau i fynd ar dir, atafaelu a chadw cŵn a chasglu tystiolaeth. Mae'r gosb uchaf i droseddwyr wedi'i chynyddu i ddirwy ddiderfyn. Mae hon yn garreg filltir bwysig i gymunedau ffermio a gwledig a bydd yn help i'r heddlu wrth ymchwilio i ddigwyddiadau ac yn sbardun ychwanegol i atal digwyddiadau yn y dyfodol.
Tystiolaeth ac ymchwil wrth ddatblygu polisi
Mae datblygiadau mewn tystiolaeth a thechnoleg, ynghyd â fframweithiau moesegol ac agweddau cyhoeddus sy'n esblygu, yn dylanwadu ar ddatblygiad polisi lles anifeiliaid. Ein blaenoriaeth yw canolbwyntio ar feysydd lle gallwn gael yr effaith bositif fwyaf arnyn nhw. Rydym yn comisiynu ymchwil lle ceir bylchau gwybodaeth, a chyngor arbenigol oddi wrth Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru a phwyllgorau ymgynghorol fel y Pwyllgor Lles Anifeiliaid a'r Pwyllgor Arbenigol Sŵau i lunio polisi sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
