Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Hoffem glywed eich barn ar bolisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r amgylchedd sain yn yr awyr. Rydym wedi crynhoi'r dystiolaeth, ein polisïau presennol a'n blaenoriaethau ar gyfer y pum mlynedd nesaf yng Nghynllun Sŵn a Seinwedd drafft 2023-2028. Pan gaiff ei fabwysiadu, y Cynllun hwn fydd ein strategaeth genedlaethol ar seinweddau nes y caiff ei adolygu a'i ddiweddaru nesaf. Disgwylir i hynny ddigwydd yn 2028.

Cyflwyniad

Mae sŵn, sef sain ddiangen neu niweidiol, yn effeithio ar iechyd a llesiant mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys tarfu ar gwsg, niwsans, effeithio ar ddysgu, lleihau cynhyrchiant, colli clyw a chynyddu'r risg o glefyd cardiofasgwlaidd. Gall ddeillio o amrywiaeth eang o weithgareddau dynol, gan gynnwys ffynonellau domestig, masnachol a thrafnidiaeth.

Diffinnir seinwedd fel yr amgylchedd acwstig (neu sain) fel y'i canfyddir neu y'i profir a/neu y'i deellir gan unigolion neu bobl, yn ei gyd-destun. Mae'n cynnwys y seiniau y mae pobl am eu clywed yn ogystal â'r synau nad ydynt am eu clywed. Mae Polisi Cynllunio Cymru yn rhestru seinweddau priodol, sy'n golygu'r amgylchedd sain priodol ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir, ymhlith ein Canlyniadau Creu Lleoedd Cynaliadwy.

Yn 2018, gwnaethom gyhoeddi Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd 2018-2023, a oedd yn ail-lunio polisi sŵn yng Nghymru o ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”). O ganlyniad i hyn, cafodd Cymru ei chydnabod fel y wlad gyntaf i gynnwys seinweddau mewn polisi cenedlaethol, a chyfeiriwyd at hyn yn adroddiad Frontiers 2022 Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig.

Yn gynharach eleni, gwnaethom gyflwyno Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru), a fydd yn ei gwneud yn ofynnol inni lunio strategaeth genedlaethol ar seinweddau. Yn 2018, gwnaethom hyn o'n gwirfodd ar ffurf y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd, ond credwn y bydd rhoi sail gyfreithiol fwy cadarn i'r Cynllun newydd, sef Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028, yn codi ei broffil ac yn ei wneud yn fwy effeithiol o ran arwain prosesau gwneud penderfyniadau cytbwys.

Mae Cynllun Sŵn a Seinwedd 2023-2028 yn cadw ac yn mireinio negeseuon craidd y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn a Seinwedd, sy'n cynnwys:

  • ein huchelgais, sef seinweddau priodol;
  • ein hymrwymiad i wreiddio'r pum ffordd o weithio yn Neddf 2015;
  • ein hymrwymiad i gydgysylltu camau gweithredu ynghylch sŵn ac ansawdd aer ble bynnag y bydd hynny'n gwneud synnwyr.

Mae'r Cynllun drafft yn ymdrin â phynciau newydd sydd wedi dod i'r amlwg dros y pum mlynedd diwethaf, megis materion yn ymwneud â gweithio o bell, amrywiaeth glywedol, pympiau gwres ffynhonnell aer, newidiadau i derfynau cyflymder, a thân gwyllt. Mae hefyd yn nodi'r hyn rydym wedi'i gyflawni dros y pum mlynedd diwethaf, megis gwaith lliniaru sŵn a gwblhawyd ar y rhwydwaith cefnffyrdd.

Mae datblygiadau ym maes polisi a chanllawiau cynllunio, yn enwedig gwaith tuag at gyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol newydd (TAN 11) a chanllawiau cysylltiedig ar ddylunio seinweddau a'u rhoi ar waith, y gwnaethom ymgynghori arnynt yn ddiweddar, hefyd wedi'u cynnwys yn y Cynllun, yn ogystal â'n mapiau sŵn diweddaraf o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2021-22.

Bydd pobl yn profi manteision newid o fesurau rheoli sŵn traddodiadol i ddull mwy cynhwysol sy'n seiliedig ar seinweddau pan fyddant yn gallu gweld cyrff cyhoeddus yn ystyried safbwyntiau cymunedau lleol ar eu hamgylcheddau sain, o ran yr hyn sy'n werthfawr iddynt a'r hyn y maent yn credu y mae angen ei wella.

Sut i ymateb

Anfonwch eich barn ar yr ymgynghoriad hwn at environmentalnoise@llyw.cymru erbyn 2 Hydref 2023.

Mae sawl ffordd o ymateb:

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Ebost: environmentalnoise@llyw.cymru
Post: Ymgynghoriad Cynllun Sŵn a Seinwedd
Is-adran Diogelu'r Amgylchedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Mae'r ddogfen hon hefyd ar gael yn Gymraeg.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod:
 
Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
e-bost: Swyddogdiogelwchdata@llyw.cymru
 
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113