Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad tymor hir i ddatblygu’r Trydydd Sector yng Nghymru. Mae’n cydnabod yr angen i gynorthwyo mudiadau cymunedol a llawr gwlad i dyfu a datblygu ac y bydd hynny, yn ei dro, yn helpu i sicrhau cymdeithas deg, gyfiawn a chynhwysol lle gall cymunedau feithrin gallu unigolion i fynd i’r afael â thlodi, sgiliau, diweithdra a chynaliadwyedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen cymorth ar y mudiadau hyn, ac mae’n ymroi i gynnal seilwaith cydlynus. Mae’r cymorth hwn ar gael drwy strwythur cymorth integredig sy’n cael ei alw’n ‘Seilwaith y Trydydd Sector’ sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA), y Cynghorau Gwirfoddol Sirol (CGS) a Chanolfannau Gwirfoddolwyr (CG). Gan edrych i’r dyfodol, disgwylir y bydd y Seilwaith yn datblygu’n unol â modelau newydd gwasanaethau cyhoeddus a strwythurau i gynnal trefniadau gweithio cenedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan gadw mewn cof yr egwyddorion hynny a amlinellwyd ym Mhennod 4 y Cynllun hwn.

Mae’r seilwaith hwn yn ymestyn ar draws Cymru gyfan ac mae’n cael ei gydnabod yn gyffredinol, yng Nghymru a thu hwnt, fel un o gryfderau’r Trydydd Sector yng Nghymru, gan roi set gytunedig o wasanaethau craidd sy’n hygyrch i lawer iawn o bobl a mudiadau ledled y wlad. Mae cyrff y seilwaith mewn cysylltiad rheolaidd nid yn unig â’u haelodau eu hunain, ond hefyd â llawer o grwpiau eraill yn y sector drwy eu gwasanaethau a’u rhwydweithiau. Drwy gyfrwng y rhain, maent yn ymestyn allan i bob cymuned a miloedd lawer o unigolion. Un o nodweddion hanfodol y seilwaith yw ei aelodaeth ac atebolrwydd i’r sector. Mae gan fudiadau’r seilwaith aelodaeth eang a chynhwysol, maent yn agored i unrhyw fath o fudiad trydydd sector; a chydag ymddiriedolwyr a etholwyd gan eu haelodau. Mae hyn yn sicrhau bod eu gwasanaethau a’u gweithgareddau yn atebol i’r Sector ac yn adlewyrchu anghenion y Sector.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai rôl y Seilwaith hwn yw:

  • galluogi mudiadau Trydydd Sector eraill i dyfu a datblygu
  • cynorthwyo gwirfoddolwyr unigol a gweithredu gwirfoddol ar y cyd
  • hyrwyddo llywodraethu da a diogel ar draws y Trydydd Sector
  • cynorthwyo i ddylunio a chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus
  • rhoi llais a chynrychiolaeth i’r sector ehangach; a Rhannu arferion da ac arloesedd

Mae’r dull cyffredinol o gynnal trefniadau gweithio lleol, rhanbarthol a chenedlaethol yn cynnwys ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i gefnogi WCVA, y corff seilwaith cenedlaethol sy’n cynrychioli ystod o

leisiau yn y Trydydd Sector. Mae rôl y WCVA yn cynnwys gweithio gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a darparu gwasanaethau priodol ar lefel genedlaethol, er enghraifft ymgysylltu a chynrychioli; darparu adnoddau ar-lein ac adnoddau gwybodaeth eraill ar gyfer y sector; rheoli’r gronfa ddata genedlaethol o wirfoddolwyr ac adnoddau ar gyfer mudiadau sy'n ymwneud â gwirfoddolwyr; ymchwil; hyfforddiant; cefnogaeth ar gyfer llywodraethu ac ymddiriedolwyr; ac ymwneud â’r gwaith o reoli grant y Seilwaith a chynlluniau cyllid eraill.

Yn ogystal â'r cyrff seilwaith sy'n rhan o’r seilwaith cyffredinol, mae cyrff ymbarél trydydd sector eraill yn cefnogi rhannau penodol o’r sector ac sydd ag arbenigedd polisi arbenigol mewn maes penodol ac sy’n cynorthwyo'r sector mewn gwahanol ffyrdd. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhai o'r rhain. Yn yr achosion hynny, disgwylir i gefnogaeth o'r fath ategu gwasanaethau craidd y cyrff Seilwaith a hwyluso'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo’r Trydydd Sector hefyd drwy ei Thîm Trydydd Sector, a fydd yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Trydydd Sector yng Nghymru ac a fydd yn:

  • gweithio ar draws adrannau i rannu gwybodaeth ag adrannau eraill Llywodraeth Cymru, gan roi sylw arbennig i’r polisïau a’r blaenoriaethau hynny sy’n ymwneud â’r Trydydd Sector
  • cynnal cysylltiadau rhwng y llywodraeth i gadw mewn cysylltiad â materion ehangach sy’n ymwneud â’r Trydydd Sector
  • rhoi cymorth a monitro sut mae’r strwythurau ymgysylltu a amlinellir yn y Cynllun hwn yn gweithio ac yn cydlynu’r gwaith o baratoi’r Adroddiad Blynyddol ar y Cynllun

Trefniadau adolygu ac adrodd

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai’r Prif Weinidog sydd â chyfrifoldeb cyffredinol dros Gynllun y Trydydd Sector, a bydd gan un o Weinidogion Cymru gyfrifoldeb penodol dros fuddiannau’r Trydydd Sector.

Mewn ymgynghoriad â’r Trydydd Sector, bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn cynnal mecanweithiau i fonitro perfformiad y Cynllun yn effeithiol.

Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ystyried ac yn gwneud argymhellion ar y mesurau sydd eu hangen i wella perfformiad Llywodraeth Cymru, ei hasiantaethau a’i chyrff noddedig a’r trydydd sector. Bydd enghreifftiau o arferion da’n cael eu hyrwyddo.

Bydd y modd y mae’r Cynllun yn cael ei weithredu a’r effaith mae’n ei chael yn cael eu hasesu’n flynyddol, a bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn ceisio datrys unrhyw anghydfodau rhwng y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru. Bydd cwynion yn cael eu cyfeirio at weithdrefnau cwyno Llywodraeth Cymru.