Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ar gyfer pwy mae’r Cod Ymarfer hwn?

Mae’r 5 egwyddor a’r canllawiau cysylltiedig sydd wedi’u nodi yn y ddogfen hon ar gyfer sefydliadau’r trydydd sector (gan gynnwys gwirfoddol), adrannau cyllido Llywodraeth Cymru a chyrff cyllido eraill y sector cyhoeddus sy’n cefnogi’r sector.

Pam mae'n bwysig defnyddio’r Cod a’i egwyddorion?

  • Er mwyn datblygu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru drwy ddatblygu partneriaethau cyfartal gyda rhanddeiliaid y trydydd sector.
  • Er mwyn annog cysondeb yn y dull a ddefnyddir gan gyrff cyhoeddus sy’n ariannu’r trydydd sector. Mae’r Cod hefyd yn rhoi arweiniad clir ar ddefnyddio'r 5 egwyddor.
  • Er mwyn annog datblygu cysylltiadau cyllido gwell i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol. 

Sut mae defnyddio’r egwyddorion?

Cyfres o egwyddorion rhyng-gysylltiedig ydy hon. Mae wedi’i chynllunio fel nad oes blaenoriaeth yn cael ei rhoi i’r un ohonynt. Nid oes angen dechrau mewn unrhyw le penodol.

Sut mae'r Cod wedi cael ei ddatblygu?

Mae'r Cod Ymarfer yn rhan o Gynllun statudol y Trydydd Sector. Cafodd ei gyd-gynhyrchu gyda’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus drwy Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i sicrhau ei fod yn ddefnyddiol, yn berthnasol ac yn gyfredol.

Bydd y Cod yn cael ei adolygu’n flynyddol.

Deialog gynnar a pharhaus

Sicrhau ymgysylltiad ystyrlon a rheolaidd rhwng cyllidwyr a chyrff y sector gwirfoddol.

Bydd sicrhau bod ymgysylltiad ystyrlon rhwng y cyllidwr a chorff y trydydd sector cyn gynted â phosibl a thrwy gydol y cylch cyllido (gan gynnwys datblygu polisi) yn helpu i sicrhau bod ein gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu’n well ar gyfer y buddiolwyr terfynol. Bydd hyn hefyd yn golygu eu bod yn fwy tebygol o ddatrys y broblem iawn ac arwain at y canlyniadau iawn.

Beth yw manteision yr egwyddor hon?

Meddwl am y tymor hir

Bydd datblygu cysylltiadau â’ch rhanddeiliaid ar draws sectorau yn gwneud y gwaith o ddatblygu polisïau yn fwy effeithlon ac effeithiol ar gyfer y tymor hwy.  Gan fod sefydliadau’r trydydd sector yn aml yn gweithio’n agos gyda buddiolwyr terfynol a defnyddwyr gwasanaethau, maent mewn sefyllfa unigryw i ddeall a mynegi'r materion sylfaenol y mae angen rhoi sylw iddynt.

Atal

Gall ymyrryd yn gynnar i helpu unigolion atal problemau rhag digwydd neu waethygu, a bydd hynny'n golygu nad oes angen cymryd camau aciwt. Mae hyn yn dda i’r unigolyn/unigolion dan sylw a gall hefyd arbed arian i gyrff cyhoeddus yn ddiweddarach. Gellir defnyddio'r arbedion hyn ar amcanion a blaenoriaethau eraill. Mae gan y trydydd sector berthynas o ymddiriedaeth gyda’i fuddiolwyr terfynol. Mae’r rhain yn aml yn bobl nad ydynt o bosibl yn ymddiried yn y sector cyhoeddus. Mae ymgysylltu’n gynnar â’r grwpiau hyn yn helpu i leihau’r angen i wasanaethau cyhoeddus gymryd camau aciwt.

Integreiddio

Bydd gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid yn y trydydd sector yn helpu i sicrhau bod ein penderfyniadau polisi a dyluniad ein gwasanaethau’n ystyried anghenion amrywiol pawb. Bydd hyn yn creu proses wirioneddol gydgysylltiedig, gan arwain at ganlyniadau gwell. Mae perygl y bydd cyllidwyr y sector cyhoeddus yn aml yn gweithredu ar sail mater unigol yng nghyswllt darparu gwasanaethau.  Er mwyn gwella effeithiolrwydd ein hymyriadau niferus, mae angen i gyrff cyhoeddus ddeall yr effaith y gall eu gweithgareddau ei chael ar amcanion ei gilydd. Gall y trydydd sector yn aml weithredu fel y glud rhwng ymyriadau yn sgil ei ddealltwriaeth o anghenion lleol a phrofiadau bywyd defnyddwyr gwasanaeth presennol a darpar ddefnyddwyr. Mae ymgysylltu â nhw’n gynnar yn golygu bod rhanddeiliaid yn gallu dod at ei gilydd a gweithio gyda’i gilydd er budd unigolion a chymunedau; mae hyn yn galluogi prosesau cydgysylltiedig a chanlyniadau gwell.

Cydweithio

Mae gweithredu gyda phobl eraill (o wahanol sectorau, a chymunedau) yn helpu pob un ohonom i gyflawni ein hamcanion yn well a chyfrannu safbwyntiau newydd wrth ddylunio gwasanaethau. Bydd partneriaeth gref a thryloyw gyda rhanddeiliaid, sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth, yn galluogi hyblygrwydd yn y berthynas ac yn helpu pob parti i addasu pan fydd angen gwneud newidiadau.

Cynnwys

Bydd cynnwys pob parti (gan gynnwys cymunedau a buddiolwyr terfynol) yn y broses gyllido neu ddatblygu polisïau cyn gynted â phosibl yn dod â syniadau newydd sy’n seiliedig ar brofiadau bywyd, a fydd yn arwain at wasanaethau gwell sy’n mynd i’r afael yn briodol ag anghenion y cyllidwr, darparwyr y gwasanaethau a’r defnyddwyr. Gan eu bod eisoes yn gweithio’n agos gyda chymunedau a defnyddwyr terfynol, gall ymgysylltu’n gynnar â’r trydydd sector helpu’r broses hon a sicrhau ei bod yn adlewyrchiad gwirioneddol o amrywiaeth yr ardal.

Sut mae rhoi’r egwyddor hon ar waith?

Er mwyn defnyddio’r egwyddor hon, mae’n rhaid i ni feithrin perthynas gref â’n rhanddeiliaid a chysylltu’n rheolaidd â nhw. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, drwy ddigwyddiadau ymgynghori neu randdeiliaid, drwy brosesau ymgeisio ac asesu, a/neu drwy sefydlu trefn fonitro reolaidd neu amserlen cyfarfodydd rheolaidd.

Mae angen datblygu ein cysylltiadau cyllido mewn amgylchedd o ymddiriedaeth, tryloywder a chreu lle diogel ar gyfer sgwrs agored. Dan Gynllun y Trydydd Sector, dylid ymgynghori â sefydliadau'r trydydd sector yn gynnar, yn agored ac yn ystyrlon ynghylch newidiadau polisi a datblygiadau polisi newydd.  Dylid sicrhau bod cyfnod ymgynghori o 12 wythnos ynghylch newidiadau o’r fath.

Disgwylir bod cyfnod hysbysu o 12 wythnos o leiaf yn cael ei roi cyn gwneud unrhyw newidiadau i bolisi neu benderfyniadau a fyddai’n arwain at barhad annisgwyl, tynnu cyllid yn ôl neu ei leihau’n sylweddol. Os yw cyllid yn cael ei dynnu’n ôl a bod angen dileu swyddi, yna dylid rhoi rhybudd cyn gynted â phosibl.

Mae’n bwysig cydnabod y gall fod angen cymorth ar sefydliadau’r trydydd sector i sicrhau eu bod yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau ynghylch y cylch cyllido. Mae hefyd yn bwysig bod ceisiadau am gyllid, prosesau tendro a gweithgareddau monitro yn gymesur â gwerth y grant neu’r contract.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r sector i ganfod meysydd arbenigedd ac i gynorthwyo sefydliadau ac unigolion i gymryd yr awenau neu i gyfrannu at y gwaith o weithredu polisïau newydd. Bydd mecanweithiau cyllido yn cael eu cynllunio gyda’r nod hwn mewn golwg, a bydd arian i gyrff seilwaith y trydydd sector yn benodol yn cynnwys meithrin galluoedd sefydliadau’r trydydd sector ar bob lefel i sicrhau bod eu gwasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol.

Gwerth a chanlyniadau

Sicrhau ein bod yn seilio ein penderfyniadau cyllido ar ystyriaeth eang o ganlyniadau gwerth cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

Dylai penderfyniadau cyllido fod yn seiliedig, lle bo modd, ar gyd-ddynodi a dadansoddi’r materion, y canlyniadau rydym am eu gweld a’r ffyrdd posibl o’u cyflawni gyda’i gilydd. Mae hyn yn golygu peidio â seilio ein penderfyniadau cyllido bob amser ar y prosesau ariannol a chystadleuol yn unig. Cael ystyriaeth ehangach o werth a chanlyniadau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol gyda mwy o bwyslais ar weithio mewn partneriaeth a chydweithio lle bo hynny’n briodol. Mae’r trydydd sector yn allweddol yn hyn o beth gan ei fod yn cael ei yrru gan werth, yn cael ei gymell gan amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol, ac mae wedi ymrwymo i ail-fuddsoddi arian dros ben i hybu ei nodau cymdeithasol er budd pobl a chymunedau yng Nghymru.

Beth yw manteision yr egwyddor hon?

Meddwl am y tymor hir

Mae’r trydydd sector yn dod â dealltwriaeth fanwl o anghenion newidiol cymunedau sy’n ein helpu i bennu’r canlyniadau iawn ar gyfer y dyfodol. Gall gweithio gyda’r sector hefyd arwain at gyfres ehangach o ganlyniadau (y tu hwnt i’r gweithgaredd gwreiddiol), na llwybrau cyllido eraill. Gall ddod â hyblygrwydd ac arloesedd, gan helpu i warchod cyfoeth yn lleol, creu sgiliau a chyflogaeth leol o ansawdd da. Mae hyn yn aml yn galluogi unigolion i newid eu bywydau a lleihau eu dibyniaeth hirdymor ar wasanaethau cyhoeddus.

Atal

Mae’r trydydd sector yn cynnig llawer iawn mwy na dim ond darparu gwasanaethau. Mae’r sector yn ail-fuddsoddi arian dros ben mewn cymorth ychwanegol ar gyfer ei fuddiolwyr. Mae’n darparu manteision cymdeithasol, diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol na fyddai o bosibl yn cael eu gwireddu wrth weithio gyda sefydliadau o sectorau eraill.

Integreiddio

Bydd cyrff y sector cyhoeddus yn cael llawer mwy nag y maent yn talu amdano, efallai y bydd partner y trydydd sector yn cyflogi’r rheini ymhellach o’r farchnad lafur, efallai y bydd yn cynnwys gwirfoddolwyr a fydd yn ennill sgiliau trosglwyddadwy, neu efallai y bydd yn buddsoddi arian dros ben er mwyn sicrhau buddion amgylcheddol.

Cydweithio

Mae gan sefydliadau’r trydydd sector eisoes berthynas o ymddiriedaeth â chymunedau, sy’n golygu bod modd gwireddu canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y rheini a allai gael eu heithrio’n aml o wasanaethau prif ffrwd, yn ogystal â gyda rhanddeiliaid eraill fel gweithwyr iechyd proffesiynol. Gall adnoddau fel adenillion cymdeithasol o fuddsoddi wneud y manteision ychwanegol hyn yn fwy amlwg a dangos y gwerth ehangach am arian a sicrhawyd.

Cynnwys

Mae ymchwil a thystiolaeth yn dangos bod gan sefydliadau’r trydydd sector well dealltwriaeth o anghenion a phrofiadau cymunedau gan eu bod yn gweithio’n agos â buddiolwyr. Drwy gynnwys y trydydd sector yn gynnar yn ein gwaith o ddylunio gwasanaethau, gallwn hefyd ddefnyddio profiadau bywyd y buddiolwyr hynny. Mae hyn yn ein helpu i fynd i’r afael â’r problemau iawn o’r dechrau.

Sut mae rhoi’r egwyddor hon ar waith?

Mae meithrin perthynas dda gyda’ch rhanddeiliaid a sicrhau eich bod yn cael deialog gynnar a pharhaus gyda’r trydydd sector wrth ddatblygu polisïau, yn dangos bod y cyllidwr yn cydnabod y gwerth ychwanegol a’r syniadau ffres y gall y sector eu cynnig.

Mae angen i ni gydnabod y gall fod her rhwng y gyllideb sydd ar gael a pha ganlyniadau y gellir eu cyflawni. Os yw’r gyllideb yn gyfyngedig, yna mae’n rhaid i ni fod yn realistig â’n disgwyliadau ynghylch lefel a maint y gweithgarwch y gellir ei gyflawni a’r effaith ar y buddiolwyr terfynol. Mae modd canfod hyn drwy sgyrsiau agored ac effeithiol, a gallwn ystyried sefyllfa pob sefydliad, anghenion blaenoriaethol a chostau realistig i gyflawni gweithgaredd.

Bydd gosod amcanion sy’n Gyraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Penodol, Uchelgeisiol a Synhwyrol (CAMPUS) yn golygu bod modd i’r perfformiad gael ei fonitro’n effeithiol. Daw hyn yn fwyfwy pwysig os yw grantiau’n cael eu dyfarnu ar sail tymor hwy sy’n golygu bod angen meincnodi cyn ymestyn y cytundeb cyllido.

Gyda dulliau cyllido wedi’u caffael, mae’n hanfodol rhoi ystyriaeth gadarn i ffactorau anariannol yn y broses sgorio bidiau a dyfarnu contractau, ochr yn ochr â’r elfennau ariannol, er mwyn sicrhau gwerth am arian go iawn yn ei ystyr ehangaf.

Os mai grant yw’r mecanwaith cyllido priodol, bydd ystyried cyllid tymor hwy, os yw’n briodol, yn golygu bod modd gwreiddio canlyniadau yn y gymuned a gefnogir. Yn y tymor hir gallai arwain at arbedion cost gan ei fod yn galluogi mabwysiadu agenda ataliol. 

Mecanwaith cyllido priodol

Sicrhau bod cyllidwyr yn ystyried yr holl opsiynau ac yn dewis y mecanwaith/mecanweithiau priodol a fydd yn cyflawni’r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn effeithiol drwy gydol y cyfnod cyllido.

Bydd cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a chyllidwyr eraill yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl a chymunedau yng Nghymru. Mewn nifer o achosion mae’r rhain yn cael eu gwneud drwy gysylltiadau ariannu ffurfiol er mwyn sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu’n effeithiol a bod y canlyniadau y cytunwyd arnynt yn cael eu cyflawni. Drwy ddewis mecanwaith priodol, mae’r sector yn cael ei gryfhau, ac mae modd sicrhau buddion cymdeithasol ehangach.

Beth yw manteision yr egwyddor hon?

Meddwl am y tymor hir

Defnyddio mecanwaith sy’n cefnogi buddsoddiad hirdymor, o ran amser ac adnoddau, sy’n fuddiol i’r ariannwr, y corff a ariennir a’r gymuned dros oes y cyllid ac i’r dyfodol.

Atal

Mae ystyried yr holl opsiynau ar gyfer rhaglen gyllido’n sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd effeithiol ac effeithlon. Drwy ddewis y mecanwaith cyllido mwyaf priodol gallwn greu sefydlogrwydd a galluogi sefydliadau i symud tuag at fodel sy’n helpu i atal yr angen am wasanaethau mwy aciwt.

Integreiddio

Un o gryfderau’r trydydd sector yw’r gallu i gynnig amrywiaeth o atebion i ddiwallu nifer o amcanion. Er enghraifft, mae cymorth iechyd meddwl drwy wirfoddoli nid yn unig o fudd i’r gwirfoddolwr ond hefyd i’r sawl sy'n ei dderbyn a’r gymuned ehangach.

Cydweithio

Drwy weithio gyda’r trydydd sector a rhanddeiliaid eraill, lle bo hynny’n briodol, i ddatblygu’r mecanwaith cyllido, mae potensial i alluogi cyllidwyr eraill i ategu yn hytrach na dyblygu gweithgarwch a chreu gwerth ychwanegol.

Cynnwys

Mae’n bwysig sicrhau bod gan bob sefydliad fynediad cyfartal at gyfleoedd cyllido a bod y prosesau ymgeisio’n briodol i’r gynulleidfa darged. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod prosesau cyllido’n wirioneddol gynhwysol.

Sut mae rhoi’r egwyddor hon ar waith?

Ystyried newidiadau syml, a all gael effaith sylweddol. Er enghraifft, gallai osgoi lotiau caffael mawr, pan fydd mwy o lotiau llai yn gallu cynnig llawer mwy o amrywiaeth o ran cynigwyr, gan arwain at syniadau newydd ac arloesedd wrth gyflawni.

Gall defnyddio cytundebau cyllido tymor hwy, lle bo hynny’n briodol, leihau beichiau gweinyddol a helpu cyrff a ariennir i ddarparu gwasanaeth gwell. Mae dyfarniadau neu gontractau hirach yn galluogi cynllunio yn fwy effeithiol, ac yn golygu bod sefydliadau’n gallu cynnig contractau gwell i staff, sy’n helpu i recriwtio a dal gafael ar arbenigedd.

Mae contractau tymor hwy yn galluogi rhywfaint o sefydlogrwydd. Dylem hefyd ystyried cydnabod twf cyflog ac effeithiau chwyddiant eraill. Mae sefydliadau llai yn y trydydd sector yn fwy agored i beidio ag ystyried y rhain yn y bidiau. Gall hyn arwain at broblemau o ran cyflawni yn y tymor hir wrth i’r contract fynd rhagddo.

Dylem gydnabod y gallai fod angen cydnabod cyllid rhai sefydliadau fel cyllid craidd, yn hytrach nag arian prosiect.

Mae’n bwysig cydnabod costau llawn darparu gwasanaethau (Adfer Costau Llawn). Mae’n rhaid i sefydliadau’r trydydd sector fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y costau hyn, ac mae’n rhaid i gyllidwyr fod yn glir ac yn gyson ynghylch pa gostau y gellir eu cynnwys.  Rydym yn deall y bydd gan wahanol sefydliadau farn wahanol ynghylch y cyfrifiad hwn - dyna pam y dylai cyllidwyr amlinellu beth yn union maent yn ei ddisgwyl. Mae gan sefydliadau’r trydydd sector a chyllidwyr gyfrifoldeb i sicrhau y bydd y costau hyn yn cael eu talu. Os na fydd hyn yn cael ei gyflawni, yna bydd yn rhaid i’r sefydliad neu gyllidwr arall dalu’r costau sydd heb eu cyllido. Gallai methu â mynd i’r afael â’r costau hyn beryglu’r gallu i ddarparu’r gwasanaeth.

Dylid ystyried a fyddai talu ymlaen llaw yn briodol. Er mai polisi Llywodraeth Cymru yw talu cyllid fel ôl-daliad, mae mecanwaith ar gael i dalu ymlaen llaw pan fydd sefydliadau’r trydydd sector yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Dylai cyllidwyr gadw at bolisïau talu'n brydlon eu sefydliadau unigol. Yr arfer gorau gan Lywodraeth Cymru yw talu o fewn 10 diwrnod gwaith i dderbyn anfoneb ddilys sydd wedi’i chyfeirio’n gywir, neu 20 diwrnod busnes ar gyfer hawliad grant.

Dylai cyllid, lle bo’n bosibl, alluogi sefydliadau’r trydydd sector i ddod yn gyflogwyr cyflog byw gwirioneddol. Gallai hyn olygu bod gwasanaethau’n costio mwy yn y tymor byr, ond mae ansawdd a chysondeb y gwasanaeth yn debygol o fod yn uwch a chynnig mwy o werth am arian yn y tymor hir.

Ar ôl i gyllidwyr nodi’r mecanwaith cyllido cywir, dylai gynnig hyblygrwydd a galluogi’r naill barti a’r llall i ymateb i newidiadau cymdeithasol neu economaidd.

Tegwch

Sicrhau mynediad teg i bawb - creu amgylchedd cyllido sy’n gymesur, sy’n chwalu rhwystrau i gynhwysiant ac sy’n meithrin cefnogaeth.

Mae angen amrywiaeth o wasanaethau hygyrch ar ein cymunedau i fodloni amrywiaeth o anghenion unigol a chyfunol; mae amrywiaeth o ddarpariaethau gwahanol yn ein galluogi i ddiwallu gwahanol anghenion defnyddwyr er mwyn sicrhau canlyniadau cyfartal.  Felly, mae’n rhaid i ni sicrhau tegwch o ran mynediad at gyllid gydag arferion cyllido sy’n gymesur, sy’n chwalu rhwystrau i gynhwysiant ac sy’n meithrin cefnogaeth ar gyfer sefydliadau sy’n ei chael hi’n fwy anodd ymgysylltu. Mae’n rhaid i ni greu amgylchedd cyllido sy’n hyrwyddo ymddiriedaeth, tryloywder a pharch at ein gilydd sy’n arwain at ecosystem o wasanaethau amrywiol. Dylai hyn hefyd annog cydweithio pan fydd hynny’n briodol.

Beth yw manteision defnyddio’r egwyddor hon? 

Meddwl am y tymor hir

Mae hyn yn ymwneud â sicrhau ein bod yn helpu i feithrin cadernid yn ein darparwyr gwasanaeth yn y trydydd sector. Gall darparu mynediad at gytundebau cyllido tymor hwy helpu sefydliadau i gynllunio’n well ac osgoi natur stopio a chychwyn gwasanaethau sy’n cael eu hariannu’n flynyddol, sef rhywbeth nad oes gan sefydliadau’r trydydd sector yr un gallu i’w ysgwyddo. Mae hyn yn rhoi gwell gwerth am arian ac yn atal colli ymarferwyr profiadol oherwydd ansicrwydd ynghylch cyllid.

Atal

Er mwyn cymryd camau ataliol, mae'n rhaid i ni ddeall beth sydd ei angen ar ein cymunedau a’r risgiau maent yn eu hwynebu. Bydd gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gydag amrywiaeth o safbwyntiau gwahanol, yn sicrhau ein bod yn ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer y presennol a’r dyfodol. Bydd sicrhau bod ein cyfleoedd cyllido a datblygu polisïau mor gynhwysol â phosibl yn ein helpu i gyflawni hyn.

Integreiddio

Mae llawer o sefydliadau’r trydydd sector wedi cael eu sefydlu i helpu i ddelio â phroblemau penodol. Mae pobl leol yn ymddiried ynddynt, a thrwy rwydweithiau lleol maent yn aml yn gallu helpu cyrff y sector cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus i gyrraedd y rheini sydd mewn angen. Mae hyn yn gwneud ein gwasanaethau’n fwy effeithiol.

Cydweithio

Gall annog a hwyluso bidiau ar y cyd helpu sefydliadau llai neu lai profiadol i gael gafael ar gyllid drwy grantiau neu gontractau, gan sicrhau bod pob sefydliad yn y trydydd sector yn gallu manteisio ar arian cyhoeddus. Nod yr egwyddor hon yw lleihau’r rhwystrau rhag cael gafael ar gyllid. Bydd hyn yn arwain at drydydd sector sy’n fwy effeithiol, bywiog, amrywiol a chadarn yng Nghymru.

Cynnwys

Mae cynnwys grwpiau nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed yn aml a’r rhai sydd â gwybodaeth arbenigol am ein buddiolwyr targed yn arwain at syniadau newydd a gwasanaethau gwell a mwy cynhwysol.

Sut mae rhoi’r egwyddor hon ar waith?

Dylai adrannau cyllido ystyried yn ofalus beth mae angen ei gyflawni â’r cyllid, pwy yw’r buddiolwyr, pwy yw’r darparwyr gwasanaethau posibl a beth yw’r ffyrdd gorau o gyrraedd y ddau? A oes modd cyrraedd pob darpar ymgeisydd drwy’r rhanddeiliaid presennol, a oes angen hysbysebu’r cyfle cyllido mewn ffordd newydd, fel drwy Cyllido Cymru, neu lwyfannau tebyg eraill ar-lein; neu drwy rwydwaith presennol y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector.

Os yw hon yn rownd newydd o gyllid presennol, a oes modd gwella mynediad ati er mwyn denu ymgeiswyr newydd a allai fod â syniadau newydd? A oes modd symleiddio ei phroses ymgeisio i helpu sefydliadau llai yn y trydydd sector i wneud cais? Mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr bod ein prosesau cyllido yn gymesur ac nad ydynt yn creu rhwystrau anfwriadol sy’n atal mynediad i rai grwpiau. A oes modd cynnwys cynllun grantiau bach neu lotiau caffael llai.

A ganiateir ceisiadau partneriaeth neu a oes modd eu caniatáu. Gall geisiadau ar y cyd neu bartneriaethau fod yn ffordd o helpu sefydliadau llai profiadol i gael gafael ar gyllid. Gall y sefydliadau hyn hefyd gael profiad gwerthfawr i’w helpu i wneud cais ar eu pennau eu hunain y tro nesaf. Os caniateir ceisiadau partneriaeth, neu os ydynt yn cael eu hannog, a yw’r broses ymgeisio a’r amserlen yn hwyluso datblygu partneriaethau o’r fath?

Gall sefydliadau llawr gwlad yn y trydydd sector yn aml ymgysylltu â buddiolwyr na fyddent yn gweithio gyda sefydliadau mwy na’r sector cyhoeddus. Gall hyn fod oherwydd rhwystrau ieithyddol, diffyg ymddiriedaeth mewn sefydliadau mwy neu brofiad drwg yn y gorffennol. Os ydym eisiau rhaglenni cyllido gwirioneddol gynhwysol sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau, yna dylem wneud popeth o fewn ein gallu i gynnwys pawb drwy wneud cyllid yn hygyrch i’r sefydliadau llawr gwlad hyn.

Mae’n arfer da sicrhau bod pob un o’ch rhanddeiliaid yn gallu cael gafael ar gyllid. Gall addasiadau rhesymol fel cynnig fersiynau hawdd eu deall o ffurflenni cais a chanllawiau’r cynllun helpu rhai grwpiau i gael gafael ar gyllid.

Dylai Rheolwyr Cyllid, lle bo’n berthnasol, sicrhau bod holl sefydliadau'r trydydd sector sy’n ymwneud â phrosiect a ariennir neu gontract yn cael eu hariannu’n deg ar gyfer eu cyfraniadau, gan gynnwys y rheini sy’n cyfrannu at lwybrau atgyfeirio, gan herio ymgeiswyr pan nad yw hyn yn glir mewn ceisiadau neu dendrau. Yn yr un modd, dylid gofyn am eglurhad i weld a yw’r sefydliadau sy’n ymgeisio wedi sicrhau cytundeb ymlaen llaw gan randdeiliaid/sefydliadau cymunedol, a sut maent wedi gwneud hynny, ar gyfer unrhyw weithgareddau y cyfeirir atynt yn y prosiect neu ddyluniad y gwasanaeth e.e. ar gyfer llwybrau atgyfeirio, cyhoeddusrwydd a hyd yn oed darpariaeth. Mae’n hanfodol adolygu cyllidebau i sicrhau eu bod yn adlewyrchu partneriaethau o’r fath.

Yn ddelfrydol, dylid ystyried yr egwyddor hon ar yr un pryd â’r Deialog Gynnar a Pharhaus.

Beth sy’n digwydd os bydd lefelau cyllido’n newid?

Dylai unrhyw gynnydd mewn lefelau cyllido, o ganlyniad i gostau byw neu chwyddiant, gael ei gymhwyso’n deg ac yn gyfartal cyn gynted â phosibl i’r sawl sy’n cael arian yn y trydydd sector lle bo’n briodol.

Pan fydd cyllid o dan bwysau neu am gael ei leihau, yna efallai y bydd yn rhaid i adrannau cyllido hefyd leihau’r cyllid i sefydliadau’r trydydd sector. Dylid rhoi cymaint o rybudd â phosibl, o leiaf 12 wythnos yn ddelfrydol, pan fydd cynlluniau i leihau cyllid. 

Hyblygrwydd

Sicrhau, os bydd tystiolaeth neu amgylchiadau’n cefnogi’r angen, y gall y cyllidwr a’r sefydliadau a ariennir awgrymu addasiadau ar gyfer cytundeb ar y cyd.

Weithiau bydd pethau’n newid yn ystod oes eich perthynas gyllido (yn enwedig os yw’n berthynas hirdymor).  Mae angen parodrwydd, lle bo’n briodol, gan y cyllidwr a’r sefydliad sy’n cael ei ariannu i ystyried gyda'i gilydd ail-werthuso canlyniadau, gweithgareddau, amseriadau, a phatrymau cyllido os oes tystiolaeth, neu amgylchiadau, yn awgrymu bod angen. Dylid cyflawni hyn drwy broses gadarn y cytunir arni sy'n destun penderfyniad ar ddechrau’r cytundeb cyllido.

Beth yw manteision bod yn hyblyg?

Meddwl am y tymor hir

Bydd caniatáu hyblygrwydd mewn cysylltiadau cyllido, lle bo modd, yn galluogi’r cysylltiadau hynny i dyfu a datblygu ar gyfer y tymor hir.  Bydd bod mor hyblyg â phosibl hefyd yn helpu ein prosesau darparu gwasanaethau i addasu drwy gydol ei gylch bywyd. Bydd hyn yn ein helpu i ddarparu gwasanaethau gwell a mwy effeithiol.

Atal

Mae camau ataliol yn ymwneud â chanfod problemau’n gynnar a chymryd camau priodol i sicrhau eu bod yn cael sylw cyn iddynt waethygu. Gall hyblygrwydd fod yn allweddol i helpu i addasu ein polisïau, ein trefniadau cyllido a’n gwasanaethau i ddiwallu anghenion sy’n newid.

Integreiddio

Bydd hyblygrwydd yn ein trefniadau cyllido yn ein helpu i sicrhau ein bod yn gallu ategu gweithgareddau arall yn ein meysydd polisi ac osgoi dyblygu ymdrechion. Gallwn ddefnyddio’r hyblygrwydd hwn i wneud yn siŵr nad ydym yn tanseilio nac yn gwrthbwyso effeithiau gwasanaethau eraill sy’n cael eu darparu i’n buddiolwyr ond dod â gwelliannau a gwerth ychwanegol.

Cydweithio

Mae hyblygrwydd yn hanfodol wrth weithio gyda sefydliadau eraill. Mae’n helpu i sicrhau bod pawb yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt o’r trefniant ac yn parhau i ganolbwyntio ar yr un canlyniadau cadarnhaol. Mae hefyd yn ein helpu i weithio’n well gyda’n gilydd ac i ddeall sut mae ein camau’n effeithio ar bobl eraill.

Cynnwys

Gall defnyddio hyblygrwydd i wneud newidiadau bach i annog cyfranogiad gan grŵp mwy amrywiol o randdeiliaid ein helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau o’n hadnoddau cyfyngedig.

Sut mae rhoi’r egwyddor hon ar waith?

Mae hyblygrwydd yn elfen mewn unrhyw berthynas gyllido dda. Mae cyllidwyr eisiau sicrhau bod gwasanaethau / gweithgareddau a ariennir yn bodloni anghenion y buddiolwyr. Mae’n bwysig bod y berthynas gyllido yn caniatáu lle agored a diogel i gyllidwyr a darparwyr gwasanaethau fynd ati’n rheolaidd i adolygu sut mae’r gwasanaeth a ariennir yn gweithio. Rydym yn cydnabod nad yw hyblygrwydd yn briodol nac yn bosibl ym mhob sefyllfa.

Gall hyblygrwydd dros oes prosiect roi hyder i sefydliadau a ariennir (gan gynnwys hyder ac ymddiriedaeth yn y cyllidwr) a’r gallu i addasu ac arloesi wrth i’w gwybodaeth a’u profiadau uniongyrchol lywio eu harferion a’r gwasanaethau a ddarperir, gan arwain at ganlyniadau gwell (ac o bosibl mwy cost-effeithiol) i ddefnyddwyr terfynol.

Gall cynnwys hyblygrwydd o fewn dibenion y grant sicrhau, pan fydd pethau’n newid, y gellir newid cytundebau cyllido i ystyried hynny. Mae hyn yn ein galluogi i ymateb i newidiadau o ran galw ac i beidio â gwastraffu arian ar barhau i gynnig gwasanaethau nad oes eu hangen mwyach.

Gall diffyg hyblygrwydd ymddangosiadol olygu risg na fydd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu. Er enghraifft, os bydd rhywbeth yn newid sy’n golygu nad oes modd darparu gwasanaeth mwyach, yna dylem ystyried a ellir gwneud addasiadau a fydd yn golygu bod modd i’r gwasanaeth barhau.

Mae cysylltiadau da yn hanfodol i sicrhau bod modd sicrhau hyblygrwydd o ran cyllid. Heb ddeialog gref, ystyrlon a pharhaus rhwng y cyllidwr a’r corff sy’n cael ei ariannu, yna nid yw’r ymddiriedaeth sydd ei hangen i ystyried (neu wneud cais am) hyblygrwydd yn datblygu. Gallai hyn atal sefydliadau’r trydydd sector rhag codi materion neu fe all arwain at ddiffyg hyder i siarad yn agored ac yn gynhyrchiol.

Atodiad 1

Diffiniadau

Ar gyfer swyddogion polisi a rheolwyr grantiau Llywodraeth Cymru sy’n darllen y ddogfen hon, gwnewch yn siŵr eich bod hefyd yn cyfeirio at ganllawiau’r Ganolfan Ragoriaeth Grantiau.

Wrth ystyried eich mecanwaith cyllido, efallai y byddwch am ystyried Procurement or Grant Funding: Signposts to Deciding.

Beth yw arian grant wedi’i neilltuo a heb ei neilltuo?

Mae arian grant weithiau’n cael ei ddosbarthu naill ai fel arian wedi’i neilltuo ac arian heb ei neilltuo:

  • mae grant wedi’i neilltuo yn golygu arian wedi’i glustnodi sy'n benodol i brosiect, ac mae'n rhaid ei wario'n unol â'r dibenion penodol y cytunwyd arnynt adeg dyfarnu'r grant.
  • mae grant heb ei neilltuo’n golygu arian heb ei glustnodi, a gall y cyrff sy’n cael y grant hwn ei wario’n ôl eu disgresiwn -mae hyn yn cynnwys Grantiau Cymorth Refeniw sy’n cael eu talu i awdurdodau lleol. Ychydig iawn o grantiau sy’n cael eu dyfarnu ar sail heb ei neilltuo.

Beth yw cyllid prosiect?

Gellir defnyddio cyllid prosiect tuag at gostau refeniw e.e. cyflogau a chostau cynnal o ddydd i ddydd, a/neu gostau cyfalaf e.e. costau sy’n gysylltiedig â datblygu neu brynu eitemau cyfalaf megis adeiladau. Bydd cyllid ar gyfer gweithgareddau prosiect am amser cyfyngedig yn unig. Os oes cyfyngiad amser ar gyfer prosiect penodol (llai na 12 mis yn aml), a'i fod y tu allan i gylch blwyddyn ariannol, ni fydd tri mis o rybudd ynghylch cyllid cyn dechrau'r prosiect bob amser yn realistig nac yn ddymunol.

Beth yw cyllid craidd?

Mae gan sefydliad ddau fath o gost. Costau uniongyrchol neu sefydlog nad ydynt yn newid gyda nifer y prosiectau neu wasanaethau a ddarperir, e.e. rhent neu ardrethi busnes. Costau newidiol neu orbenion yw’r rheini sy’n newid pan fydd nifer y prosiectau neu wasanaethau a ddarperir yn cynyddu neu’n lleihau e.e. costau staff.

Cyllid craidd yw’r cyfraniad mae cyllidwr yn ei wneud tuag at gostau gorbenion neu gostau rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd.

Dylai costau cymwys ac anghymwys gael eu nodi’n glir yng nghanllawiau’r cynllun grant neu mewn dogfennau cysylltiedig.

Adennill costau llawn

Mae adennill costau llawn yn golygu sicrhau cyllid ar gyfer yr holl gostau sy’n gysylltiedig â rhedeg prosiect, boed yn rhai uniongyrchol neu orbenion. Mae hyn yn golygu dyrannu cyfran gymesur o gostau uniongyrchol y sefydliad i gost gyffredinol cyflawni’r prosiect.

Gan y bydd gan bob prosiect ofynion gwahanol ar bob elfen o orbenion y sefydliad, argymhellir gwneud cyfrifiad ar wahân ar gyfer pob prosiect.

Mae peidio ag adennill costau llawn prosiect yn creu diffyg y mae’n rhaid ei dalu drwy godi arian ychwanegol neu drwy gymhorthdal o gronfeydd anghyfyngedig y sefydliad.

Fel man cychwyn i gael rhagor o wybodaeth am adennill costau llawn, ewch i: Hwb Gwybodaeth.

Gwerth cymdeithasol

Gwerth Cymdeithasol yw’r gydnabyddiaeth bod gweithgareddau’n cael effaith ar ffactorau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol. Mae’n anodd meintoli a phennu gwerth ariannol llawer o’r effeithiau hyn.

Mae sawl ffordd o fesur yr effaith, ond mae pob un ohonynt yn mesur y newid y mae’r gweithgaredd yn ei gael ar y rheini sy’n ei brofi. O’r herwydd, mae’n adnodd defnyddiol ar gyfer amlinellu'r achos dros gyllid ychwanegol yn ogystal â nodi’r meysydd sy’n cael yr effaith fwyaf.

Fel man cychwyn i gael rhagor o wybodaeth am Werth Cymdeithasol, ewch i: Social Value Cymru.

Caffael

Diffiniad Llywodraeth Cymru o gaffael yw’r broses sy’n galluogi sefydliadau i ddiwallu eu hangen am nwyddau, gwasanaethau, gwaith a chyfleustodau.

Mae caffael yn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn gyfrwng pwerus sy’n gallu arwain at newid parhaus er mwyn sicrhau canlyniadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer llesiant Cymru. Mae Datganiad Polisi Caffael Cymru yn nodi’r egwyddorion y dylid eu dilyn wrth fynd ati i gaffael gydag arian cyhoeddus.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut y dylid mynd ati i gaffael yn y sector cyhoeddus a gwneud ceisiadau ar y cyd am gontractau cyhoeddus.

Atodiad 2

Cydymffurfio â'r Cod Ymarfer

Cyn dod ag unrhyw fater gerbron Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, gofynnir i sefydliadau ystyried proses gwyno Llywodraeth Cymru.

Is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector sy'n gyfrifol am ystyried a gydymffurfiwyd â’r Cod. Bydd yr is-bwyllgor yn adolygu pryderon i nodi unrhyw faterion systemig a godir gan sefydliadau’r trydydd sector.

Cyfeirir at gydymffurfio â’r Cod o fewn Safonau Sylfaenol Grantiau Llywodraeth Cymru. Canllawiau mewnol yw’r Safonau Sylfaenol i gefnogi rheolwyr grantiau Llywodraeth Cymru. Maent yn dod o dystiolaeth ddibynadwy, profiad ac arferion gorau ym maes rheoli grantiau.  Fel y nodwyd, y rhain yw’r safonau sylfaenol y disgwylir i reolwyr grantiau Llywodraeth Cymru lynu atynt.  Felly, bydd llawer o reolwyr grantiau’n addasu ac yn adeiladu arnynt, fel y bo’n briodol, er mwyn cyrraedd y safon uchaf o ran darparu cyllid grant.

Gall sefydliadau gysylltu â’r is-bwyllgor drwy anfon e-bost at thirdsectorqueries@gov.wales neu funding@wcva.cymru.

Rhaid i holl adrannau Llywodraeth Cymru gydymffurfio â’r Cod Ymarfer hwn.

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio hyrwyddo a dylanwadu ar yr arferion ariannu gorau, ac yn argymell bod cyrff eraill sy'n ariannu'r sefydliadau trydydd sector yn mabwysiadu egwyddorion y Cod hwn.

Os yw Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid wedi’i neilltuo neu gyllid drwy gytundeb fframwaith, bydd rhaid i’r rheini sy’n cael y grant gydymffurfio â’r Cod Ymarfer hwn.

Ym mis Ionawr 2025, fe wnaeth Cabinet Llywodraeth Cymru ailddatgan ymrwymiad i Gynllun y Trydydd Sector a’r Cod Ymarfer hwn. Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu o fewn yr egwyddorion a amlinellir yn Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.

Atodiad 3

Mae’r cyrff y mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â’r Cod hwn o ran cyllid wedi'i neilltuo neu gyllid fframwaith yn cynnwys:

Llywodraeth Leol: cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Dinas a Sir Abertawe
  • Cyngor Sir Caerdydd
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Cyngor Sir y Fflint
  • Cyngor Gwynedd
  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Cyngor Sir Fynwy
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
  • Cyngor Dinas Casnewydd
  • Cyngor Sir Benfro
  • Cyngor Sir Powys
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
  • Cyngor Bro Morgannwg
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru

  • Cyngor Celfyddydau Cymru
  • Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru
  • Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Amgueddfa Cymru
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Cymwysterau Cymru
  • Chwaraeon Cymru

Gwasanaeth Iechyd Gwladol

Byrddau iechyd lleol

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bwrdd Iechyd Hywel Dda
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Ymddiriedolaethau’r GIG

  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre
  • Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Llais: eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Awdurdodau tân ac achub

  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru

Awdurdodau parciau cenedlaethol

  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri

Cyrff addysgol

  • Cyngor y Gweithlu Addysg (Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gynt)
  • Estyn
  • Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
  • Cymwysterau Cymru

Awdurdodau cyhoeddus eraill

  • Archwilio Cymru
  • Archwilydd Cyffredinol Cymru
  • Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Awdurdod Cyllid Cymru

Comisiynwyr Cymru

  • Comisiynydd Plant Cymru
  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
  • Comisiynydd y Gymraeg
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru