Sut mae cynghorau'n gweithio gyda'i gilydd i wella teithio lleol dros y 5 mlynedd nesaf.
Cynnwys
Beth yw cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol?
Mae cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn amlinellu sut y bwriedir mynd ati i wella teithio dros y 5 mlynedd nesaf.
Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol, gan gydweithio mewn Cyd-bwyllgorau Corfforedig, yw’r cynlluniau hyn.
Mae 4 Cyd-bwyllgor Corfforedig yng Nghymru, un ar gyfer pob rhanbarth:
- y gogledd
- y canolbarth
- y de-ddwyrain
- y de-orllewin
Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â pham y sefydlwyd Cyd-bwyllgorau Corfforedig i’w gweld ar Senedd Cymru.
Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn rhoi mwy o lais i gynrychiolwyr lleol ynglŷn â sut mae arian yn cael ei wario ar drafnidiaeth yn eu rhanbarth.
Maent yn disodli cynlluniau trafnidiaeth lleol, a oedd yn cael eu paratoi gan yr awdurdodau unigol.
Yr hyn y mae cynllun yn ei gynnwys
Dylai cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol ystyried anghenion pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n teithio mewn ardal. Dylent roi sylw i gludo nwyddau, traffig masnachol, cerddwyr a phobl â phroblemau symudedd.
Dylai'r cynlluniau ganolbwyntio ar:
- wneud y defnydd gorau o'r seilwaith trafnidiaeth sy’n bodoli eisoes
- gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus
- annog pobl i deithio ar droed, ar olwynion neu ar feic yn amlach
Hefyd, mae'n rhaid iddynt:
- fod yn gyson â Strategaeth Trafnidiaeth Cymru
- bod yn briodol ar gyfer daearyddiaeth ac anghenion y rhanbarth
- ystyried y canllawiau ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforedig
Rhaid i bob pwyllgor hefyd esbonio sut y bydd yn cyflawni’r amcanion yn ei gynllun trafnidiaeth rhanbarthol. Bydd yn gwneud hynny mewn dogfen a elwir yn gynllun cyflawni.
Cymeradwyo'r cynlluniau
Mae angen i gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i dderbyn neu wrthod y cynlluniau.
Os caiff cynllun ei wrthod, rhaid i’r Cyd-bwyllgor Corfforedig gyflwyno cynllun arall o fewn amserlen benodol.
Ar ôl i gynllun gael ei gymeradwyo, bydd yn dod i rym ar unwaith.
Dweud eich dweud
Ar hyn o bryd mae'r 4 rhanbarth yn ymgynghori ar eu cynlluniau drafft.
Mae cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol yn effeithio ar bawb, felly mae pawb yn cael eu gwahodd i weld y cynlluniau ac i gynnig adborth.
Y gogledd
Mae'r ardal hon yn cynnwys:
- Conwy
- Fflint
- Gwynedd
- Sir Ddinbych
- Wrecsam
- Ynys Môn
Gallwch weld a chyflwyno sylwadau am y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer y Gogledd ar Uchelgais Gogledd Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 11:59pm ar 14 Ebrill 2025.
Y canolbarth
Mae'r ardal hon yn cynnwys:
- Ceredigion
- Powys
- Wrecsam
Gallwch weld a chyflwyno sylwadau am y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer y Canolbarth ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 11:59pm ar 4 Ebrill 2025.
Y de-orllewin
Mae'r ardal hon yn cynnwys:
- Abertawe
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Gaerfyrddin
- Sir Benfro
Gallwch weld a chyflwyno sylwadau am y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer y de-orllewin ar wefan y Cyd-bwyllgor Corfforedig ar gyfer De-orllewin Cymru.
Y dyddiad cau ar gyfer adborth yw hanner nos ar 6 Ebrill 2025.
Y de-ddwyrain
Mae'r ardal hon yn cynnwys:
- Blaenau Gwent
- Bro Morgannwg
- Caerffili
- Caerdydd
- Casnewydd
- Merthyr Tudful
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Rhondda Cynon Taf
- Sir Fynwy
- Torfaen
Gallwch weld a chyflwyno sylwadau am y cynllun trafnidiaeth rhanbarthol ar gyfer y de-ddwyrain ar wefan Prifddinas Ranbarth Caerdydd.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adborth yw 11:59pm ar 19 Mai 2025.