Neidio i'r prif gynnwy

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych yn ei ddarparu fel rhan o ddefnyddio cynnig gofal plant Cymru: Gwasanaeth Rhieni / Gwarcheidwaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Pa ddata personol a ddelir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod. Caiff data categori arbennig megis grŵp ethnig neu gyflwr iechyd eu diogelu ymhellach o dan  gyfraith diogelu data.

Caiff y data a gesglir am rieni, gwarcheidwaid a phlant drwy’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru (‘ y Cynnig’) ei egluro'n fanylach yn Atodiad 1 i'r hysbysiad preifatrwydd hwn.

Caiff rhaglen y Cynnig ei gwerthuso o bryd i'w gilydd er mwyn asesu perfformiad y rhaglen a helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi mewn perthynas â'r Cynnig. Os bydd rhywun yn cysylltu â chi ynghylch cymryd rhan mewn gweithgareddau ymchwil sy'n gysylltiedig â'r Cynnig Gofal Plant, cewch Hysbysiad Preifatrwydd ar wahân yn amlinellu sut y bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan yr ymchwil yn cael ei chasglu, ei chadw a'i defnyddio. Mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn wirfoddol ac ni chewch eich enwi yn unrhyw adroddiad.

Cysylltir eich data'n ddienw â ffynonellau data eraill fel rhan o'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) at ddibenion ymchwil anfasnachol yn unig, oni bai eich bod yn gofyn nad yw hynny'n digwydd (gweler y nodyn esboniadol).

Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru hefyd yn cael gweld rhan o'ch data personol am gyfnod o dri mis, nes bod y broses o gysylltu'r data â ffynonellau eraill drwy'r banc data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw wedi'i chwblhau.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu’r wybodaeth yn y broses gasglu data hon yw ein tasg gyhoeddus: hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data rydym yn eu casglu yn 'ddata categori arbennig' ('ethnigrwydd' yn yr achos hwn) a'r sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.

Mae hyn yn ei gwneud yn bosibl i weithredu'r Cynnig Gofal Plant, ac yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi, sy'n cael ei gyflwyno i wella llesiant economaidd a chymdeithasol yng Nghymru yn unol ag adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Bydd y data'n cael eu defnyddio gan Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol ar gyfer y canlynol:

  • asesu cymhwysedd ar gyfer y Cynnig Gofal Plant i Gymru a chymeradwyo neu wrthod eich cais
  • mesur pa mor dda  mae Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol yn darparu eu gwasanaethau i chi, eich plentyn ac eraill
  • cefnogi gwelliannau i'r gwasanaethau hyn
  • gwneud taliadau i ddarparwyr gofal plant ar gyfer oriau'r Cynnig Gofal Plant i Gymru
  • dyrannu cyllid i Awdurdodau Lleol ac eraill
  • cefnogi ymchwil ehangach i'r gwasanaethau a ddarperir i chi a'ch plentyn, neu eraill
  • gwerthuso effaith Cynnig Gofal Plant i Gymru. Mae hyn yn cynnwys cysylltu data o'ch cais â ffynonellau data eraill

Ni fydd y data'n cael eu defnyddio:

  • i'w gwneud yn bosibl i’ch adnabod chi na’ch plentyn mewn unrhyw adroddiadau.

Efallai y byddwn hefyd yn rhannu rhywfaint o ddata a ddarperir gennych gydag awdurdodau lleol ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaethau cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru er mwyn gwirio pwy ydych chi a datrys problemau TG mewn perthynas â chael mynediad at wasanaeth digidol y Cynnig Gofal Plant i Gymru. Gweler Atodiad 1 am restr o'r data a gasglwn a phwy gaiff eu gweld.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

O dan GDPR y DU, mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn gennych. Rydym yn defnyddio technolegau blaenllaw a meddalwedd amgryptio i ddiogelu eich data a chadw safonau diogelwch llym i atal unrhyw fynediad heb awdurdod atynt. 

Dim ond chi a staff awdurdodedig sy'n gweithio mewn awdurdodau lleol, darparwyr gofal plant a Llywodraeth Cymru (neu ein contractwyr penodedig) fydd â mynediadat eich data.

Bydd yr holl ddata a gesglir yn cael eu defnyddio'n ddienw mewn adroddiadau ystadegol neu adroddiadau ymchwil. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu cynnwys mewn unrhyw adroddiadau, nac unrhyw wybodaeth y gellid eu defnyddio i'ch adnabod. Bydd data cyfun hefyd yn cael eu rhoi ar wefan StatsCymru.

Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal gwerthusiad o'r Cynnig Gofal Plant i Gymru, gall y gwaith hwn cael ei wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud heblaw o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer y contractau hyn yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Byddwn yn cadw at y terfynau amser canlynol ar gyfer dinistrio data:

Rhieni (a phlant) sy’n defnyddio’r Cynnig Gofal Plant:

  • ystiolaeth o gymhwystra: o fewn 21 diwrnod o ddiwedd y tymor olaf y mae’r plentyn yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant
  • data arall: o fewn 18 mis o ddiwedd y tymor olaf y mae’r plentyn yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant

Rhieni (a phlant) sy’n gwneud cais llwyddiannus ond nad ydynt yn defnyddio’r Cynnig Gofal Plant:

  • o fewn 21 diwrnod o ddiwedd y tymor olaf y mae’r plentyn yn gymwys i gael y Cynnig Gofal Plant

Rhieni (a phlant) sy’n gwneud cais aflwyddiannus:

  • o fewn 21 diwrnod o naill ai (i) diwedd y cyfnod a ganiateir ar gyfer cyflwyno apêl, neu (ii) diwedd y broses apelio ffurfiol, os cyflwynir apêl o’r fath

Hawliau unigol

O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei darparu fel rhan o'r Cynnig Gofal Plant. Mae hawl gennych i wneud y canlynol:

  • gweld copi o'ch data;
  • gofyn inni gywiro unrhyw wybodaeth anghywir yn y data hynny;
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (mewn rai amgylchiadau);
  • mynnu bod eich data yn cael eu ‘dileu’ (o dan rai amgylchiadau);
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am sut y bydd Llywodraeth Cymru'n defnyddio eich data, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:

Tîm y Cynnig Gofal Plant
CP2, Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Trafodgofalplant@llyw.cymru

Gweler y manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru isod:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru  

Rydym yn egluro ar ein gwefan sut mae'r Deddf Rhyddid Gwybodaeth a chyfraith diogelu data yn gweithio gyda'i gilydd.

Nodyn esboniadol

Mae Banc Data SAIL yn cynnwys data dienw am boblogaeth Cymru. Caiff ei gydnabod yn rhyngwladol am ei system storio gadarn a diogel a'r defnydd o ddata personol dienw ar gyfer ymchwil i wella iechyd, lles a gwasanaethau. Gall ymatebwyr ddewis a ydynt eisiau i'w hatebion gael eu cysylltu â ffynonellau eraill ai peidio. I gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hynny neu ynghylch cysylltu data.

Atodiad 1: data a gedwir ar rieni, gofalwyr a phlant

Rhieni a/neu ofalwyr sy'n gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant a'r plentyn/plant y maent yn hawlio oriau gofal plant a ariennir ar eu cyfer.

Prif riant/gofalwr
Eich data personol Pwy all weld y wybodaeth hon
Enw llawn Chi, staff dynodedig yr Awdurdod Lleol (ALl), eich lleoliad gofal plant, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gyflenwr neu gontractwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gyflenwr neu gontractwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Eich dewis iaith (Cymraeg/Saesneg) Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gyflenwr neu gontractwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Ethnigrwydd (dewisol) Chi & Llywodraeth Cymru
Rhif Yswiriant Gwladol Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cartref a chod post Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Ardal awdurdod lleol a ward etholiadol rydych chi'n byw ynddi Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Statws Cyflogaeth Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Enw a chyfeiriad y cyflogwr, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Oriau gwaith wythnosol ar gyfartaledd Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Cyflog blynyddol gros Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Unrhyw incwm ychwanegol – ffynhonnell a swm Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
P’un a rydych mewn addysg neu hyfforddiant Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Partner ar yr aelwyd
Eich data personol Pwy all weld y wybodaeth hon
Enw llawn, dyddiad geni, cyfeiriad e-bost a rhif cyswllt, Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Ethnigrwydd (dewisol) Chi a Llywodraeth Cymru
Rhif Yswiriant Gwladol Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Cyfeiriad cartref a chod post Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Ardal awdurdod lleol a ward etholiadol rydych chi'n byw ynddi Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Statws Cyflogaeth Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Enw a chyfeiriad y cyflogwr, cyfeiriad e-bost, rhif cyswllt Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Oriau gwaith wythnosol ar gyfartaledd Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Cyflog blynyddol gros Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Unrhyw incwm ychwanegol – ffynhonnell a swm Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Plentyn/plant
Eich data personol Pwy all weld y wybodaeth hon
Enw cyfreithiol llawn a dyddiad geni Chi, staff dynodedig yr ALl, eich lleoliad gofal plant, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Darpariaeth addysg gynnar y mae eich plentyn yn mynd iddi Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Manylion y lleoliad gofal plant y mae eich plentyn yn mynd iddo, gan gynnwys yr oriau ac unrhyw gymorth ychwanegol Chi, staff dynodedig yr ALl, eich lleoliad gofal plant, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
A eich plentyn yn cymryd rhan yn Dechrau'n Deg Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
A yw eich plentyn yn un o enedigaethau lluosog (efeilliaid/ tripledi, ac ati) Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Os yw'r plentyn yn 'Derbyn Gofal' (mewn gofal cyhoeddus) neu wedi bod yn 'Derbyn Gofal' erioed Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Os yw'r plentyn o dan Orchymyn Gofal ar hyn o bryd Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Gallai dogfennau sy’n cael eu lanlwytho fel tystiolaeth gynnwys
Eich data personol Pwy all weld y wybodaeth hon
Prawf oedran y plentyn - fersiwn llawn o dystysgrif geni pob plentyn Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Prawf o gyfeiriad – y bil cyfleustodau diweddaraf, datganiad treth y cyngor, cyfriflen banc Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Prawf o enillion cyflogedig – slipiau cyflog y 3 mis diwethaf, copi o gontract, llythyr gan y cyflogwr yn cadarnhau eich bod yn gweithio iddo, dyddiad dechrau ac enillion Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Hunangyflogedig - ffurflen SA302, copi o'r cyfrifon diweddaraf, llythyr gan gyfrifydd yn nodi faint rydych yn ei ennill, y ffurflen dreth Hunanasesiad ddiweddaraf (gan gynnwys cyfeirnod Treth Unigryw a dyddiad cofrestru) Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Mewn hyfforddiant ac addysg – prawf o’r cwrs Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Budd-daliadau cymwys a gwyliau â thâl statudol – y datganiad budd-dal diweddaraf, llythyr gan y cyflogwr Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Prawf o incwm ychwanegol – y ffurflen dreth ddiweddaraf gyda phrawf o bob eitem incwm, llythyr gan gyfrifydd Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru
Prawf o faethu  - cynllun gofal a chymorth y plentyn Chi, staff dynodedig yr ALl, Llywodraeth Cymru ac unrhyw gontractwr neu gyflenwr sy'n darparu gwasanaeth cymorth digidol ar ran Llywodraeth Cymru