Telerau ac Amodau ar gyfer dyfarnu cyllid i ddarparwyr gofal plant mewn perthynas â'r Cynnig Gofal Plant i Gymru
Cynnwys
1. Dyfarnu cyllid
(a) Pan fo'ch hawliad wedi'i gwblhau a'i gyflwyno'n gywir, dyfernir cyllid ichi at y Dibenion (fel y'i diffinnir yn yr Amod a) (y 'Cyllid').
(b) Mae'r Cyllid yn ymwneud â'r cyfnod sy'n berthnasol i'r hawliad a gyflwynwyd.
(c) Bydd yr Amodau yn dod i rym ac yn rhwymo'n gyfreithiol ar y dyddiad y byddwch yn cofrestru ar wasanaeth digidol Cynnig Gofal Plant Cymru ac yn darllen ac yn derbyn yr Amodau hyn.
(d) Mae gan dermau mewn priflythrennau a ddefnyddir yr ystyr a roddir iddynt yn Amod 3.
(e) Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r dyfarniad Cyllid hwn neu'r Amodau a nodir yn y llythyr hwn, cysylltwch â thîm Gofal Plant eich awdurdod lleol a fydd yn barod i'ch helpu.
2. Awdurdod statudol
(a) Gwneir y dyfarniad Cyllid hwn yn ddarostyngedig i'r Amodau ac o dan awdurdod y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol sy’n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru, sy'n gweithredu yn unol â swyddogaethau a drosglwyddwyd o dan adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac adran 28 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009.
(b) Rhaid ichi sicrhau bod y defnydd o’r Cyllid yn cydymffurfio â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 a’r cytundebau cymwys yn rheolau Sefydliad Masnach y Byd, Cytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU a’r UE ac unrhyw gytundeb masnach rydd sy’n cynnwys y DU a Phrotocol Gogledd Iwerddon.
3. Dehongli’r Amodau hyn
(a) Yn yr Amodau hyn, bydd i'r termau a ganlyn yr ystyron a ganlyn:
Addysg Feithrin
Addysg gynnar a ariennir ar gyfer plant 3 a 4 oed yw addysg feithrin, cyn iddynt ddechrau cael addysg statudol yn yr ysgol. Mae'n cael ei hariannu gan yr awdurdod lleol ac yn cael ei darparu mewn ysgol neu leoliad gofal plant cofrestredig, fel meithrinfa, cylch chwarae, neu gyda gwarchodwr plant.
Amodau
y telerau ac amodau a nodir, gan gynnwys ei Atodlenni.
Ased a Ariennir
unrhyw adeilad, adeiladu newydd, tir, estyniadau ac addasiadau i adeiladau presennol neu bryniant unrhyw ased sefydlog arall (h.y. peirianwaith, peiriannau, cyfarpar a cherbydau) sydd ag oes weithio ddisgwyliedig o fwy na blwyddyn, ond dim ond pan fydd eu caffael neu eu creu yn cael ei ariannu (boed yn gyfan gwbl neu'n rhannol) gan y Cyllid neu pan mai diben datganedig y Cyllid yw ariannu cost gyfan neu rannol atgyweirio, adnewyddu neu fel arall wella'r ased.
Cyfnod Perchnogi Asedau a Ariennir
cyfnod o bum mlynedd o ddiwedd y Cyfnod Ariannu.
Atodlen
yr atodlen berthnasol sydd ynghlwm wrth yr Amodau hyn.
Costau a Ysgwyddwyd
y gost ichi ar gyfer nwyddau a/neu wasanaethau yr ydych wedi ymrwymo i'w cael ni waeth a fyddwch wedi talu amdanynt erbyn dyddiad eich hawliad.
Costau a Ysgwyddwyd ac a Dalwyd
y gost ar anfoneb ar gyfer nwyddau a/neu wasanaethau y byddwch wedi’u cael ac y byddwch wedi talu amdanynt ag arian wedi’i glirio erbyn dyddiad eich hawliad.
Cyfnod Argaeledd
y cyfnod a bennir yn Amod 1(b).
Cyfnod Ariannu
yr ystyr a roddir i'r term hwnnw yn Amod 1(b).
Cyfrif
y cyfrif banc a agorwyd ac a gynhelir gennych gyda banc clirio yn y DU - cyfrif sydd yn eich enw eich hun a dim ond chi sydd â'r hawliau llofnodi ar ei gyfer - neu gyfrif arall o'r fath y gallwn ei gymeradwyo'n ysgrifenedig at ddiben yr Amodau ac yn ôl ein disgresiwn absoliwt o bryd i'w gilydd.
Cynnig Gofal Plant Cymru, Cynnig Gofal Plant
yn cyfeirio at gynllun cyllido Llywodraeth Cymru i ddarparu hyd at 48 wythnos o ofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni cymwys plant 3 a 4 oed.
Cyllid
yr ystyr a roddir i'r term hwnnw yn Amod 1(a).
Chi, Eich
yn cyfeirio at enw eich lleoliad cofrestredig.
Datganiad Sicrwydd
y Datganiad Sicrwydd: gweithdrefnau gwrth-dwyll a llywodraethiant yn Atodlen 3.
Darparwyr Gofal Plant
yn cyfeirio at ddarparwr gofal plant neu leoliad gofal plant sydd wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (neu Ofsted yn Lloegr) sydd hefyd wedi'i gofrestru i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant.
Dibenion
y dibenion a nodir yn Atodlen 1.
Digwyddiad Hysbysadwy
unrhyw ddigwyddiad a restrir yn Atodlen 2.
Diwrnod Busnes
Diwrnod heblaw am ddydd Sadwrn, dydd Sul neu wyliau cyhoeddus statudol yng Nghymru a/neu Loegr.
Gwaredu
Gwaredu, gwerthu, lesio neu drosglwyddo Ased a Ariennir, unrhyw ran ohono neu unrhyw fuddiant mewn unrhyw Ased a Ariennir gan gynnwys unrhyw gontract i'w waredu.
Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol
yn cyfeirio at y platfform ar-lein lle gall rhieni wneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru, a lle gall darparwyr gofal plant reoli oriau a hawlio cyllid.
Ni, Ein
Gweinidogion Cymru.
Personel
eich cyfarwyddwyr, eich swyddogion, eich cyflogeion, eich contractwyr, eich is-gontractwyr a'ch cyflenwyr neu unrhyw berson arall a benodir neu a gymerir ymlaen gennych mewn perthynas â'r Dibenion.
Rheolwr Hawliadau
yn cyfeirio at eich Personél sy’n gyfrifol am reoli’r dyfarniad Cyllid hwn o ddydd i ddydd.
Rhestr Sancsiynau
unrhyw un neu ragor o'r rhestrau a ddyroddir neu a gynhelir gan y DU a'r Cenhedloedd Unedig, ac ym mhob achos eu sefydliadau, eu hasiantaethau, eu hadrannau a'u hawdurdodau llywodraethol, barnwrol neu reoleiddiol, sy'n dynodi neu'n nodi personau sy'n destun sancsiynau, ym mhob achos fel y'u diwygir, yr ychwanegir atynt neu y'u disodlir o bryd i'w gilydd, gan gynnwys Rhestr Sancsiynau'r DU, Rhestr Gyfunol Targedau Sancsiynau Ariannol yn y DU a Rhestr Gyfunol Sancsiynau Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig.
Swyddog Llywodraeth Cymru
Aelodau tîm Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru
Yr Is-adran Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar
Parc Cathays 2
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: YCynnigGofalPlant@llyw.cymru
neu unrhyw swyddog arall yn Llywodraeth Cymru y’ch hysbysir amdano gennym o bryd i'w gilydd; a.
(b) Mae unrhyw gyfeiriad at ddeddfwriaeth unrhyw awdurdodaeth yn cynnwys yr holl ddiwygiadau ac amnewidiadau i’r ddeddfwriaeth honno, a’r holl ailddeddfiadau ohoni, a fydd mewn grym o bryd i’w gilydd.
(c) Bernir y daw'r geiriau 'heb gyfyngiad' yn syth ar ôl y geiriau 'gan gynnwys' a 'cynnwys'.
4. Defnyddio'r cyllid
(a) Rhaid ichi ddefnyddio’r Cyllid at y Dibenion a nodir yn Atodlen 1, ac at y Dibenion hynny yn unig.
(b) Os bydd angen gwneud unrhyw newidiadau i’r Dibenion, bydd angen i chi gael ein caniatâd ysgrifenedig cyn gweithredu’r newidiadau hynny. Nodwch nad oes rhaid inni roi ein cydsyniad, ond byddwn yn ystyried pob cais ysgrifenedig yn ôl ein disgresiwn absoliwt.
(c) Ni chaniateir ichi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ar gyfer unrhyw fath o weithgaredd a allai, yn ein barn ni yn unig, ddwyn anfri arnom, gan gynnwys: (1) dibenion gwleidyddiaeth plaid, (2) hyrwyddo safbwyntiau seciwlar, crefyddol neu wleidyddol, (3) gamblo, (4) pornograffi neu gynnig gwasanaethau rhywiol, neu (5) unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
(d) Ni chaniateir ichi ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid: (1) i ariannu, yn llawn neu'n rhannol, gaffael, creu neu wella'n sylweddol unrhyw asedau gan gynnwys unrhyw adeilad, adeiladu newydd, tir, estyniadau ac addasiadau i adeiladau presennol neu bryniant unrhyw ased sefydlog arall (h.y. peirianwaith, peiriannau, cyfarpar a cherbydau) sydd ag oes weithio ddisgwyliedig o fwy na blwyddyn (ac eithrio Asedau a Ariennir a nodir yn benodol yn y Dibenion), (2) ar gyfer ffioedd cyfreithiol sy'n daladwy gennych mewn perthynas â’ch Cais, na (3) ar gyfer Costau a Ysgwyddwyd neu Gostau a Ysgwyddwyd ac a Dalwyd gennych cyn y Cyfnod Argaeledd.
5. Rhagamodau’r cyllid
(a) Ni fyddwn yn talu unrhyw Gyllid ichi hyd nes y byddwch wedi darparu’r holl wybodaeth a dogfennau a ganlyn inni:
i) eich bod yn derbyn y telerau ac amodau ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Cynnig Gofal Plant;
ii) ac
iii) unrhyw wybodaeth, dogfen, barn neu sicrwydd arall yr ydym wedi gofyn amdani/amdano yr ydym yn ystyried sy'n angenrheidiol neu’n ddymunol mewn cysylltiad â’r dyfarniad Cyllid hwn neu’r Dibenion, neu mewn cysylltiad ag ymgymryd â’r dyfarniad Cyllid hwn, ei gyflawni, ei ddilysrwydd neu ei orfodadwyedd.
(b) Pan fydd angen ichi ddarparu unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau inni fel tystiolaeth eich bod wedi bodloni rhagamod neu Amod benodol neu fel arall i ategu hawliad, rhaid i’r wybodaeth a/neu’r dogfennau fod yn dderbyniol inni o ran ffurf a sylwedd. Yr ydym yn cadw’r hawl i wrthod unrhyw wybodaeth/dogfennau sydd, am unrhyw reswm, yn annerbyniol inni, a/neu ofyn am unrhyw wybodaeth a/neu ddogfennau pellach neu ychwanegol i gefnogi’r cais am Gyllid.
6. Sut i hawlio’r cyllid
Gallwch hawlio'r Cyllid yn wythnosol mewn ôl-daliadau gan ddefnyddio'r ddolen hon: Darparwyr yn hawlio taliadau o Gynnig Gofal Plant Cymru. Rhaid ichi hawlio’r holl gyllid o fewn dau fis calendr yn seiliedig ar y Costau a Ysgwyddwyd gennych wrth gyflawni'r Dibenion.
(a) Yr ydym yn cadw’r hawl i dynnu’n ôl unrhyw ran o’r Cyllid na fyddwch wedi’i hawlio o fewn y Cyfnod Argaeledd.
i) tystiolaeth sy’n foddhaol inni o ran ffurf a sylwedd fod gennych systemau priodol ar waith i sicrhau y cynhelir diwydrwydd dyladwy parhaus mewn perthynas ag unrhyw ran o’r Cyllid sy’n cael ei defnyddio gennych i ddarparu grant a/neu i gaffael unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan drydydd parti.
(b) Rhaid ichi ddarparu inni'n brydlon unrhyw wybodaeth, dogfen, barn neu sicrwydd arall yr ydym yn ystyried sy’n angenrheidiol neu’n ddymunol (os ydym wedi’ch hysbysu’n briodol) mewn cysylltiad â’ch hawliad ar gyfer y Cyllid. Gall unrhyw fethiant gennych i ddarparu gwybodaeth, dogfen, barn neu sicrwydd o'r fath arwain at wrthod hawliad a/neu at dynnu'n ôl y Cyllid cyfan neu unrhyw ran ohono.
(c) Byddwn yn anelu at dalu pob hawliad dilys cyn gynted ag y bo modd ac fel arfer o fewn 3-5 Diwrnod Busnes ar ôl cael hawliad dilys a wnaed yn unol â darpariaethau’r Amodau hwn, a bob amser cyhyd â bod rhagamodau’r Cyllid a nodir yn Amod 5 uchod wedi’u bodloni ac, ar ddyddiad yr hawliad a dyddiad talu’r Cyllid ichi:
i) bod y datganiadau a wnaed yn Amod 8 isod yn wir ac yn gywir ac y byddant yn wir ac yn gywir yn union ar ôl i’r Cyllid perthnasol gael ei dalu ichi; a
ii) nad oes Digwyddiad Hysbysadwy yn mynd rhagddo neu nad oes posibilrwydd i Ddigwyddiad Hysbysadwy ddeillio o’r Cyllid arfaethedig.
(d) Bydd unrhyw daliadau o’r Cyllid yn cael eu gwneud i’r Cyfrif yn unig ac ni fyddant yn cael eu talu i unrhyw gyfrif banc arall
7. Eich ymrwymiadau cyffredinol i ni
Rhaid ichi:
(a) diogelu’r Cyllid rhag twyll yn gyffredinol ac, yn benodol, twyll ar ran eich Personél, a rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith os bydd gennych reswm i amau bod twyll wedi digwydd yn eich sefydliad, yn digwydd neu’n debygol o ddigwydd, ni waeth a yw'n ymwneud â'r Cyllid ai peidio. Rhaid ichi hefyd gymryd rhan mewn unrhyw fentrau atal twyll y byddwn yn eu gwneud yn ofynnol o bryd i’w gilydd;
(b) cynnal gweithdrefnau priodol ar gyfer delio ag unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r Cyllid, boed yn wrthdaro gwirioneddol, yn wrthdaro posibl neu’n wrthdaro canfyddedig;
(c) cydymffurfio â'r holl gyfreithiau a rheoliadau domestig neu ryngwladol cymwys, a chyfarwyddebau swyddogol;
(d) cynnal yswiriant digonol ar gyfer y risgiau a allai godi mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo neu unrhyw weithgaredd yr ymgymerir ag ef wrth gyflawni’r Dibenion. Yr ydym yn cadw’r hawl i’w gwneud yn ofynnol ichi gyflwyno tystiolaeth o’ch yswiriant;
(e) cynnal systemau ariannol, systemau risg a systemau rheoli priodol wrth ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid ar gyfer y Dibenion;
(f) cynnal systemau ariannol, systemau risg a systemau diwydrwydd dyladwy priodol wrth ddefnyddio unrhyw ran o’r Cyllid i ddarparu grant a/neu i gaffael unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan drydydd parti;
(g) cydweithredu’n llawn â Swyddog Llywodraeth Cymru ac unrhyw un neu ragor o gyflogeion eraill Llywodraeth Cymru neu unrhyw ymgynghorydd a benodir gennym i fonitro’ch defnydd o’r Cyllid a’ch cydymffurfedd â’r Amodau;
(h) rhoi gwybod inni ar unwaith os bydd unrhyw ddatganiad a wnaed yn Amod 8 yn anghywir mewn unrhyw fodd neu, o’i ailadrodd ar unrhyw adeg gan gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fodolai bryd hynny, y byddai’n anghywir; ac
(i) ein hysbysu am unrhyw gyllid yr ydych wedi’i gael o unrhyw ffynhonnell a gaffaelir neu a ddefnyddir ar y cyd â’r Cyllid i gefnogi’r Dibenion yn uniongyrchol, gan gynnwys eich darparwr yswiriant (yswiriant canslo/amharu ar fusnes), unrhyw gronfa/cynllun a gynigir gan Weinidogion Cymru neu Lywodraeth y DU a/neu unrhyw gyllidwyr eraill. Bwriad yr Amod hwn yw osgoi dyblygu cyllid mewn perthynas â’r Dibenion
8. Datganiadau
(a) Yr ydych yn datgan:
i) bod gennych y pŵer i ymgymryd â’r rhwymedigaethau a nodir yn yr Amodau a’u cyflawni, a’ch bod wedi cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau’r awdurdod ichi ymgymryd â’r rhwymedigaethau o dan yr Amodau a’u cyflawni;
ii) nad eir y tu hwnt i unrhyw gyfyngiad ar eich pwerau (gan gynnwys pwerau benthyca) o ganlyniad i hawlio’r Cyllid, nac o ganlyniad i roi unrhyw sicrwydd a ystyrir gan yr Amodau;
iii) nad yw ac na fydd ymgymryd ag unrhyw un neu ragor o’r trafodiadau a ystyrir gan yr Amodau, na’u cyflawni gennych, yn mynd yn groes i’r canlynol nac yn gwrthdaro â’r canlynol:
I. eich dogfennau cyfansoddiadol;
II. unrhyw gytundeb neu offeryn sy’n rhwymol arnoch chi neu’ch asedau neu sy’n gyfystyr â diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn o’r fath; na
III. unrhyw ddeddf neu reoliad neu orchymyn barnwrol neu swyddogol, sy’n gymwys ichi neu'r gweithgareddau a gyflawnir gennych;
iv) nad oes Digwyddiad Hysbysadwy yn mynd rhagddo neu na ellid yn rhesymol ddisgwyl i Ddigwyddiad Hysbysadwy ddeillio o ddarparu’r Cyllid ac nad oes digwyddiad nac amgylchiad arall heb ei ddatrys sy’n gyfystyr â (neu a fyddai, ar ôl i gyfnod gras ddod i ben, ar ôl i hysbysiad gael ei roi, ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud, neu unrhyw gyfuniad o’r rhain, yn gyfystyr â) diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn arall sy’n rhwymol arnoch neu y mae unrhyw un neu ragor o’ch asedau yn ddarostyngedig iddo;
v) nad oes achos o ymgyfreitha na chymrodeddu nac achos gweinyddol yn mynd rhagddo, wedi'i fygwth neu yn yr arfaeth, sy’n cael, neu a allai gael, effaith anffafriol ar eich gallu i barhau i weithredu, neu gyflawni neu gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r Amodau;
vi) eich bod wedi datgelu inni yr holl ffeithiau neu amgylchiadau perthnasol y mae angen eu datgelu i’n galluogi i gael darlun gwir a chywir o’ch busnes a’ch gweithgarwch (cyfredol ac arfaethedig), neu y dylid eu darparu i unrhyw berson sy’n ystyried darparu cyllid ichi;
vii) nad ydych chi, ar hyn o bryd nac unrhyw bryd yn y gorffennol, wedi'ch rhestru ar unrhyw Restr Sancsiynau, ac nad yw neb o'ch Personél neu bersonau sy'n gysylltiedig â chi wedi'u rhestru ar unrhyw Restr Sancsiynau nac wedi cymryd rhan mewn ymddygiad a fyddai'n arwain at eich dynodi ar unrhyw Restr Sancsiynau;
viii) bod unrhyw wybodaeth, ar ffurf ysgrifenedig neu electronig, a ddarperir gennych inni mewn cysylltiad â’r Cyllid, ar yr adeg y’i darparwyd neu’r dyddiad y nodwyd ei bod wedi’i darparu (yn ôl y digwydd):
I. yn achos gwybodaeth ffeithiol, yn gyflawn, yn wir ac yn gywir ym mhob agwedd berthnasol;
II. yn achos amcanestyniad neu ragolwg ariannol, wedi’i pharatoi ar sail gwybodaeth hanesyddol ddiweddar ac ar sail rhagdybiaethau rhesymol ac ar ôl ystyriaeth ofalus;
III. yn achos barn neu fwriad, wedi’i gwneud ar sail resymol ac ar ôl ystyriaeth ofalus a’i bod yn deg; a
IV. nad yw gwybodaeth o’r fath yn gamarweiniol mewn unrhyw agwedd berthnasol, nac yn gamarweiniol oherwydd methiant i ddatgelu gwybodaeth arall,
ac eithrio i’r graddau y mae wedi'i diwygio, ei disodli neu ei diweddaru gan wybodaeth ddiweddarach a ddarperir gennych inni;
ix) nad oes unrhyw wrthdaro buddiannau mewn perthynas â’r Cyllid, boed yn wrthdaro gwirioneddol, yn wrthdaro posibl neu’n wrthdaro canfyddedig, boed mewn perthynas â chi neu unrhyw un neu ragor o'ch Personél;
x) na fydd derbyn y dyfarniad Cyllid hwn yn arwain at ddyblygu cyllid mewn perthynas â’r gweithgareddau sy'n angenrheidiol i gyflawni’r Dibenion o unrhyw ffynhonnell arall. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw daliadau gan eich darparwr yswiriant, neu unrhyw gronfa neu gynllun arall gan Lywodraeth Cymru neu Llywodraeth y DU; a
xi) bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y Datganiad Sicrwydd yn gyflawn, yn wir ac yn gywir.
(b) Bernir y byddwch yn ailadrodd y datganiadau yn yr Amod 8 hwn ar:
i) pob dyddiad pan fyddwch yn cyflwyno hawliad ar gyfer taliad o’r Cyllid yn unol â’r Amodau; a
ii) pob dyddiad pan allai fod gennych unrhyw rwymedigaeth inni o dan neu mewn perthynas â’r Amodau neu’r dyfarniad Cyllid,
ym mhob achos drwy gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fydd yn bodoli ar ddyddiad o’r fath.
9. Digwyddiadau hysbysadwy a’u canlyniadau
(a) Heb leihau effaith darpariaethau Amod 9, os byddwch yn dod yn ymwybodol o unrhyw ddigwyddiadau neu amgylchiadau sy'n codi yn ystod y Cyfnod Ariannu a/neu wrth gyflawni'r Dibenion ac yr ydych yn ansicr a ydynt yn gyfystyr â Digwyddiad Hysbysadwy neu â'r potensial i ddod yn Ddigwyddiad Hysbysadwy, byddem yn eich annog i gysylltu â Swyddog Llywodraeth Cymru yn brydlon i drafod y digwyddiadau neu'r amgylchiadau hyn.
(b) Rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith am unrhyw Ddigwyddiad Hysbysadwy a fydd wedi digwydd neu a fydd yn debygol o ddigwydd; ond rydym hefyd yn cadw’r hawl i’ch hysbysu chi os credwn fod Digwyddiad Hysbysadwy wedi digwydd neu y gallai ddigwydd.
(c) Pan fydd Digwyddiad Hysbysadwy wedi digwydd, ac ar unrhyw adeg ar ôl hynny, cawn, drwy roi hysbysiad ichi:
(i) cadarnhau bod Digwyddiad Hysbysadwy wedi digwydd a chadw ein holl hawliau mewn perthynas â'r Cyllid a'r Amodau o bryd i'w gilydd; a/neu
(ii) nodi a ydym o'r farn, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, fod modd unioni'r Digwyddiad Hysbysadwy; a/neu
(iii) nodi a ydym o’r farn, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, fod modd unioni'r Digwyddiad Hysbysadwy, a cheisio trafod y Digwyddiad Hysbysadwy â chi gyda golwg ar gytuno ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy, ei unioni neu ei liniaru, a/neu i fynd i'r afael â'r digwyddiadau neu'r amgylchiadau a arweiniodd ato, eu hunioni neu eu lliniaru; a/neu
(iv) cymryd unrhyw gamau yr ydym yn ystyried sy'n angenrheidiol neu'n ddymunol o bryd i'w gilydd mewn perthynas â'r Digwyddiad Hysbysadwy hwnnw neu'r digwyddiadau neu'r amgylchiadau a arweiniodd ato.
(d) Er gwaethaf darpariaethau Amod 9(c), pan fydd Digwyddiad Hysbysadwy wedi digwydd, ac ar ôl hynny, cawn gymryd unrhyw un neu ragor o'r camau a restrir yn Amod 9(e):
i) os na fyddwn, er gwaethaf ein hymdrechion, wedi llwyddo i drafod y Digwyddiad Hysbysadwy â chi; neu
ii) os byddwn yn eich hysbysu nad oes modd, yn ein barn ni, unioni’r Digwyddiad Hysbysadwy; neu
iii) os na chytunir â chi ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy a/neu i’w unioni; neu
iv) os cytunir â chi ar gamau gweithredu i fynd i'r afael â'r Digwyddiad Hysbysadwy a/neu i’w unioni a chithau wedyn yn methu â dilyn y camau hynny, neu os na fodlonir unrhyw amod sy’n gysylltiedig â’r camau gweithredu (gan gynnwys yr amserlen ar gyfer camau gweithredu o’r fath) mewn modd sydd wrth ein bodd; neu
v) os yw’r camau gweithredu yn methu ag unioni’r Digwyddiad Hysbysadwy mewn modd sydd wrth ein bodd.
(e) Os digwydd unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir yn Amod 9(d), cawn, yn ôl ein disgresiwn absoliwt, drwy roi hysbysiad ichi:
i) tynnu'r dyfarniad Cyllid yn ôl; a/neu
ii) datgan bod swm cyfanredol y Cyllid a dalwyd ichi yn ddyledus ac yn daladwy ar unwaith, ac ar hynny daw'n ddyledus ac yn daladwy ar unwaith; a/neu
iii) ei gwneud yn ofynnol ichi ad-dalu ar unwaith y Cyllid cyfan neu ran ohono; a/neu
iv) atal dros dro neu’n derfynol bob taliad pellach o’r Cyllid; a/neu
v) gwneud pob taliad pellach o’r Cyllid yn ddarostyngedig i ba Amodau ychwanegol bynnag a bennir gennym; a/neu
vi) tynnu pob swm sy’n ddyledus inni o dan yr Amodau hyn o unrhyw gyllid arall yr ydym wedi’i ddyfarnu ichi neu a allai gael ei ddyfarnu ichi; a/neu
vii) arfer yn eich erbyn unrhyw hawliau eraill a allai fod gennym mewn perthynas â’r Cyllid neu sy'n codi o dan yr Amodau hwn.
(f) Rhaid i ad-daliad o unrhyw Gyllid gael ei wneud o fewn ugain Diwrnod Busnes i ddyddiad ein gorchymyn.
10. Gofynion archwilio
(a) Rhaid ichi:
i) cadw cofnodion cyfrifyddu cyflawn, cywir a dilys sy’n nodi’r holl incwm a gwariant mewn perthynas â’r Dibenion;
ii) yn ddi-dâl, caniatáu i unrhyw un neu ragor o swyddogion Llywodraeth Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw un neu ragor o gyrff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, ar unrhyw adeg resymol ac ar ôl ichi gael cyfnod rhesymol o rybudd (o dan amgylchiadau eithriadol, megis atal neu ganfod twyll, efallai na fydd yn ymarferol rhoi rhybudd rhesymol ichi), ymweld â’ch mangre a/neu arolygu unrhyw un neu ragor o’ch gweithgareddau a/neu archwilio a gwneud copïau o’ch llyfrau cyfrifon a pha ddogfennau neu gofnodion bynnag eraill, sut bynnag y'u cedwir, a allai, ym marn resymol y swyddog, ymwneud mewn unrhyw ffordd â’ch defnydd o'r Cyllid. Nid yw’r ymrwymiad hwn yn lleihau effaith unrhyw hawliau a phwerau statudol eraill sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru, Archwilio Cymru neu unrhyw un neu ragor o gyrff gorfodi cymorthdaliadau’r DU, neu unrhyw swyddog, gwas neu asiant unrhyw un neu ragor o’r uchod, ac y mae’r ymrwymiad yn ddarostyngedig i’r hawliau a’r pwerau statudol hynny;
iii) cadw'r holl ddogfennau gwreiddiol sy'n ymwneud â'r Cyllid am saith mlynedd i ddyddiad taliad olaf y Cyllid;
(b) O dan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae gan Archwilydd Cyffredinol Cymru hawliau mynediad eang at ddogfennau a gwybodaeth sy’n ymwneud ag arian a ddarperir gan Lywodraeth Cymru. Mae ganddo ef a’i swyddogion y pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau perthnasol, sy’n rheoli neu’n dal dogfennau, roi pa gymorth, gwybodaeth ac esboniadau bynnag y gofynnant amdanynt; a’i gwneud yn ofynnol i’r personau hynny ymddangos ger eu bron at ddiben o’r fath. Caiff yr Archwilydd Cyffredinol a’i staff arfer yr hawl hon ar unrhyw adeg resymol.
11. Rhwymedigaethau i drydydd partïon
(a) Nid oes dim yn yr Amodau yn gosod unrhyw atebolrwydd arnom mewn perthynas ag:
(i) unrhyw atebolrwydd sydd gennych i unrhyw drydydd parti (gan gynnwys eich cyflogeion a’ch contractwyr).
(b) Trwy dderbyn yr Amodau, yr ydych yn cytuno i'n hindemnio, ar alw, rhag pob atebolrwydd, hawliad, achos cyfreithiol, archeb, dyfarndal, dyfarniad, setliad, cam cyfreithiol, iawndal, colled, cost a thraul, a ddaw i’n rhan yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, o ganlyniad i unrhyw fethiant ar eich rhan, neu mewn perthynas ag unrhyw fethiant ar eich rhan, i gyflawni, yn llawn neu’n rhannol, unrhyw rwymedigaeth a allai fod arnoch i drydydd parti o bryd i’w gilydd.
12. Hawliau eiddo deallusol a chyhoeddusrwydd
(a) Nid oes dim yn yr Amodau yn trosglwyddo inni unrhyw hawliau mewn unrhyw eiddo deallusol a grëir gennych o ganlyniad i’r Dibenion.
(b) Rhaid ichi gydnabod ein cymorth mewn perthynas â’r Dibenion. Rhaid i’r gydnabyddiaeth honno neu’r cydnabyddiaethau hynny fod ar ffurf a gymeradwyir gennym, a rhaid i’r gydnabyddiaeth honno neu’r cydnabyddiaethau hynny gydymffurfio â chanllawiau brandio Llywodraeth Cymru.
(c) Rhaid ichi ddarparu i Swyddog Llywodraeth Cymru fanylion pob cydnabyddiaeth y cyfeirir ati yn Amod 13(b) i’w chymeradwyo gennym cyn ei defnyddio ac ni chaniateir ichi ddefnyddio cydnabyddiaethau o’r fath heb gael ein cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw. Byddwn yn ceisio ymateb i bob cais ysgrifenedig am gymeradwyaeth o fewn 10 Diwrnod Busnes.
(d) Rydych yn cytuno, o ddyddiad eich derbyniad o'r Amodau hyn hyd at 5 mlynedd o ddyddiad taliad olaf y Cyllid, i gynnwys yn neunyddiau hyrwyddo Llywodraeth Cymru fanylion am eich sefydliad a’ch busnes, ac am y Cyllid a’r Dibenion, ac yr ydych hefyd yn cytuno i gydweithredu â cheisiadau rhesymol gennym i’n galluogi i lunio deunyddiau o’r fath.
13. Gwybodaeth
(a) Yr ydych yn cydnabod ein bod yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (yr “FOIA”), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr “EIR”), Deddf Diogelu Data 2018 a’r fersiwn cyfraith yr UE a ddargedwir o’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data ((EU) 2016/679).
(b) Yr ydych yn cydnabod mai ni sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn absoliwt:
i) a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth y byddwn wedi’i chael o dan y Cyllid neu mewn cysylltiad ag ef, i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu gwybodaeth o’r fath i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan yr FOIA neu’r EIR; a/neu
ii) a oes unrhyw wybodaeth o'r fath yn esempt rhag y gofynion datgelu o dan yr FOIA neu’r EIR.
(c) Yr ydych yn cydnabod y cawn rannu unrhyw wybodaeth neu ddata a gawn gennych neu mewn cysylltiad â'r Cyllid ag asiantaethau atal twyll a thrydydd partïon at ddibenion atal a chanfod twyll a sicrhau cydymffurfedd â'r Amodau. Rheolir unrhyw ddata personol a gesglir gennym yn unol â’n Hysbysiad Preifatrwydd sydd i’w weld yma Cynnig Gofal Plant Cymru: hysbysiad preifatrwydd darparwyr gofal plant.
Gweler Atodlen 4 sy'n darparu manylion eich rhwymedigaethau mewn perthynas â diogelu data.
14. Prynu nwyddau a gwasanaethau
(a) Os byddwch yn penderfynu prynu unrhyw nwyddau a/neu wasanaethau i gyflawni’r Dibenion, rhaid eu prynu mewn modd cystadleuol a chynaliadwy er mwyn dangos eich bod: (i) wedi sicrhau’r gwerth gorau wrth ddefnyddio arian cyhoeddus, a (ii) wedi cydymffurfio â’ch polisi gwrthdaro buddiannau ar yr adeg berthnasol.
(b) O bryd i’w gilydd, cawn ofyn ichi am dystiolaeth i ddangos eich bod yn cydymffurfio â’r Amod 15 hwn. Gallai tystiolaeth o’r fath fod ar ffurf tystiolaeth eich bod:
i) yn cydymffurfio ag unrhyw reoliadau, deddfwriaeth neu ganllawiau caffael a fydd mewn grym o bryd i’w gilydd ac yr ydych chi, neu unrhyw berson sy’n cynnal busnes neu swyddogaeth o’r un natur â’ch un chi neu natur debyg, yn ddarostyngedig iddynt; neu
ii) yn cydymffurfio â’ch polisi caffael a fydd mewn grym ar yr adeg berthnasol; neu
iii) wedi cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig ar gyfer y nwyddau a/neu’r gwasanaethau perthnasol.
(c) Rhaid ichi ddarparu tystiolaeth o’r fath inni yn brydlon ar ôl inni wneud cais ysgrifenedig am dystiolaeth o’r fath.
15. Asedau a Ariennir
(a) Rhaid i chi:
i) sicrhau bod yr holl Asedau a Ariennir yn cael eu cynnal mewn cyflwr da yn ystod y Cyfnod Perchnogi Asedau a Ariennir;
ii) peidio â chreu unrhyw arwystl, morgais cyfreithiol, dyledeb neu hawlrwym dros unrhyw Ased a Ariennir heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw; a
iii) peidio â symud neu adleoli unrhyw Ased a Ariennir o'ch man busnes arferol yng Nghymru heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw.
(b) Ni chaniateir ichi waredu unrhyw Asedau a Ariennir heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw. Os byddwn yn rhoi cydsyniad i Waredu, gall cydsyniad o'r fath fod yn amodol ar fodloni amodau penodol, i'w pennu gennym ni.
(c) Os byddwch yn gwaredu unrhyw Ased a Ariennir heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw, rhaid ichi ddal holl enillion y gwarediad hwnnw mewn ymddiriedolaeth ar ein cyfer, a'u talu neu eu trosglwyddo inni, i'w defnyddio tuag at glirio unrhyw arian sy'n ddyledus ac yn daladwy, neu a allai ddod yn ddyledus ac yn daladwy, o dan yr Amodau neu fel y cawn benderfynu fel arall yn ôl ein disgresiwn absoliwt.
16. Hysbysu
(a) Pan fydd yn ofynnol rhoi hysbysiad o dan yr Amodau rhaid gwneud hynny’n ysgrifenedig (nid yw hynny’n cynnwys e-bost, ond caiff gynnwys copi PDF o lythyr a atodir i e-bost) a rhaid iddo ddangos y canlynol yn amlwg ar yr hysbysiad (yn achos llythyr) neu yn y llinell bwnc (yn achos e-bost): "Hysbysiad mewn perthynas â chostau Cynnig Gofal Plant Cymru a delir i Ddarparwyr Gofal Plant".
(b) Dyma’r cyfeiriad a’r manylion cyswllt at ddibenion rhoi hysbysiad o dan yr Amodau:
Chi: y Rheolwr Hawliadau yn y cyfeiriad sydd wedi'i gofrestru ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol.
Ni: tîm Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru yn y cyfeiriad a nodir yn Amod 3.
(c) Bernir bod hysbysiad wedi'i gyflwyno’n briodol fel a ganlyn:
Post dosbarth cyntaf rhagdaledig: ar yr ail Ddiwrnod Busnes ar ôl y dyddiad postio.
 llaw: ar yr adeg y’i danfonir i’r cyfeiriad neu’r Diwrnod Busnes nesaf os yw hi ar ôl 4pm neu ar ddiwrnod nad yw'n Ddiwrnod Busnes.
Trwy atodiad e-bost: ar yr adeg y’i trawsyrrir neu os y’i trawsyrrir ar ôl 4pm ar Ddiwrnod Busnes, neu ar ddiwrnod nad yw'n Ddiwrnod Busnes, y Diwrnod Busnes nesaf
17. Cydraddoldeb
Rhaid ichi fod â pholisïau cydraddoldeb ar waith ynghylch cyflogaeth, defnyddio gwirfoddolwyr a darparu gwasanaethau, yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010.
18. Y Gymraeg
a) Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r Gymraeg a’i diwylliant ac mae strategaeth 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg' yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer tyfu a datblygu’r Gymraeg ymhellach.
b) Pan fo’r Dibenion yn cynnwys darparu gwasanaethau yng Nghymru neu’n ymwneud â darparu gwasanaethau yng Nghymru, rhaid iddynt gael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg oni bai y byddai’n afresymol neu’n anghymesur gwneud hynny. Rhaid eu darparu mewn modd nad yw'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
c) Pan fo darpariaeth gwasanaethau yn ffurfio rhan o’r Dibenion, rhaid ichi weithredu yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 ac amcanion Cymraeg 2050. Yn ymarferol, bydd hynny’n golygu bod y canlynol yn ofynnol:
i) sicrhau bod unrhyw ddeunydd ysgrifenedig a gaiff ei lunio, gan gynnwys deunydd digidol, yn ddwyieithog;
ii) sicrhau bod unrhyw arwyddion yn ddwyieithog;
iii) sicrhau y cynhelir unrhyw ddigwyddiadau hyfforddi neu ddigwyddiadau cyhoeddus yn ddwyieithog; a
iv) hyrwyddo a hwyluso’r Gymraeg yn weithredol (gan gynnwys darparu gwasanaethau a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg) o fewn y Dibenion.
I gael cyngor cyffredinol ar sut i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eich sefydliad, cysylltwch â “Helo Blod”, sef gwasanaeth sy’n rhoi cyngor ar y Gymraeg, ar 03000 25 88 88 neu e-bostiwch heloblod@llyw.cymru. Mae partneriaid Cwlwm yn darparu cymorth ac arweiniad ar ddatblygu'r Gymraeg mewn lleoliadau gofal plant, blynyddoedd cynnar a chwarae. Ewch i wefan Cwlwm am fanylion cyswllt.
19. Datblygu cynaliadwy
Rhaid ichi ddefnyddio’r Cyllid mewn ffordd sy’n cyfrannu at gyflawni'r amcanion llesiant sydd wedi'u nodi yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Rhaid ichi weithio mewn modd cynaliadwy (gweithredu yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy) wrth gyflawni'r Dibenion er mwyn sicrhau eich bod yn gweithio mewn ffordd ataliol, integredig, hirdymor a chydweithredol sy'n cynnwys pobl sy'n adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
20. Swyddogaethau Gweinidogion Cymru
Yr ydych yn cydnabod bod gan Weinidogion Cymru ystod o swyddogaethau a fydd yn parhau i gynyddu a chael eu diwygio, a bod rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â phob swyddogaeth unigol o’r fath yng ngoleuni’r holl ystyriaethau perthnasol, gan ymwrthod â phob ystyriaeth amherthnasol. Yr ydych yn cytuno na fydd dim sydd yn yr Amodau neu sydd ymhlyg ynddynt, neu sy’n codi oddi tanynt neu mewn cysylltiad â hwy, mewn unrhyw fodd yn lleihau, yn llyffetheirio, neu’n effeithio ar unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Gweinidogion Cymru, nac yn rhoi rhwymedigaeth ar unrhyw un neu ragor o Weinidogion Cymru i arfer eu swyddogaethau, neu i ymatal rhag eu harfer, mewn unrhyw fodd penodol.
21. Cyffredinol
(a) Os bernir, ar unrhyw adeg, fod neu y bydd un neu ragor o’r Amodau yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy mewn unrhyw fodd o dan unrhyw gyfraith gymwys, nid effeithir ac nid amherir mewn unrhyw fodd ar ddilysrwydd, cyfreithlondeb a gorfodadwyedd gweddill y darpariaethau.
(b) Ni fydd methiant neu oedi ar ein rhan i arfer unrhyw bŵer, hawl neu rwymedi o dan yr Amodau yn golygu y ceir hepgor pŵer, hawl neu rwymedi o’r fath, nac yn ein rhwystro rhag arfer pŵer, hawl neu rwymedi o’r fath ymhellach, neu rhag arfer unrhyw bŵer, hawl neu rwymedi arall. Mae’r pwerau, yr hawliau neu’r rhwymedïau a ddarperir drwy hyn yn rhai cronnus ac nid ydynt yn nacáu unrhyw bwerau, hawliau neu rwymedïau y darperir ar eu cyfer drwy’r gyfraith.
(c) Rhaid i unrhyw ddiwygiad neu amrywiad i’r Amodau fod yn ysgrifenedig ac wedi’i lofnodi gennym ni a chennych chi mewn modd sy’n foddhaol inni o ran ffurf a sylwedd o bryd i’w gilydd.
(d) Ni chaniateir ichi aseinio, is-gontractio na gwaredu mewn unrhyw ffordd arall, eich hawliau, eich buddion, eich rhwymedigaethau na’ch dyletswyddau o dan yr Amodau.
(e) Bydd Amodau 7, 9, 11, 13, 14, a 22(e), ac Amodau eraill o’r fath y mae angen iddynt, drwy oblygiad, barhau mewn grym y tu hwnt i daliad olaf y Cyllid, yn parhau felly yn eu llawn rym ac effaith.
(f) I chi yn unig y gwneir y dyfarniad Cyllid ac nid oes gan neb arall yr hawl i wneud unrhyw hawliad mewn perthynas â’r Cyllid na cheisio dibynnu ar unrhyw un neu ragor o’r Amodau na’u gorfodi.
(g) Os ydych chi’n ddau neu ragor o bersonau neu gyrff, bydd rhwymedigaethau’r personau neu’r cyrff hynny yn rhai ar y cyd ac yn unigol, a bydd diffyg ar ran un o’r personau neu’r cyrff yn cael ei ystyried yn ddiffyg gan bob un ohonynt.
(h) Llywodraethir a dehonglir unrhyw anghydfodau neu hawliadau (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau anghontractiol) sy’n deillio o'r Amodau hwn, ei ffurfio neu ei bwnc, neu mewn cysylltiad â'r llythyr hwn, ei ffurfio neu ei bwnc, neu'r Cyllid, yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr fel y’u cymhwysir yng Nghymru, ac mae’r partïon yn cytuno i ymostwng i awdurdodaeth unigryw Llysoedd Cymru a Lloegr i glywed unrhyw anghydfodau neu hawliadau o'r fath mewn perthynas â hynny.
22. Sut i dderbyn y dyfarniad Cyllid hwn
Drwy gofrestru ar Wasanaeth Digidol Cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru, rydych yn derbyn y Telerau a'r Amodau hyn.
Atodlen 1: y dibenion
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn gynllun cyllido a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i rieni plant 3 a 4 oed am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys darparu hyd at 20 awr o ofal plant i bob plentyn bob wythnos dros 39 wythnos yn y tymor ysgol a hyd at 30 awr o ofal plant i bob plentyn bob wythnos dros 9 wythnos yn y gwyliau ysgol.
Prif nodau polisi y Cynnig Gofal Plant yw:
- galluogi mwy o rieni, yn enwedig mamau, i ddychwelyd i’r gwaith;
- cynyddu incwm gwario pobl sy’n gweithio, a helpu i ddileu tlodi ar gyfer pobl mewn swyddi sy’n talu cyflogau isel; a
- helpu plant i ddatblygu ac i fod yn barod ar gyfer yr ysgol.
Diben y Cyllid yw galluogi Darparwyr Gofal Plant i ddarparu gofal plant i rieni cymwys o dan Gynnig Gofal Plant Cymru.
Mae canllawiau Cynnig Gofal Plant Cymru i ddarparwyr yn darparu rhagor o wybodaeth.
Cymhwystra Darparwr
Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru fel darparwr gofal plant gyda rheoleiddiwr. Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yw'r rheoleiddiwr a'r arolygiaeth ar gyfer gofal plant yng Nghymru. Ofstedsy'n gyfrifol am hynny yn Lloegr.
Mae’n ofynnol ichi fodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer gofal plant, ymgyfarwyddo â Fframwaith Ansawdd AGGCC a chael eich arolygu’n unol â hynny.
Os yw eich lleoliad yn Lloegr, byddwch yn ddarostyngedig i arolygiadau Ofsted ac mae’n ofynnol ichi fodloni eu safonau.
Nid oes angen ichi fod yn ddarparwr Addysg Feithrin i ddarparu gofal plant a ariennir o dan y Cynnig Gofal Plant.
Ni all darparwyr gofal plant nad ydynt wedi’u cofrestru gyda AGC nac Ofsted ddarparu’r Cynnig.
Os yw eich cofrestriad wedi'i atal dros dro, hyd yn oed os yw hynny'n wirfoddol, ni fyddwch yn gallu darparu'r Cynnig nes bod y cyfnod atal wedi dod i ben.
Faint fydda i'n cael fy nhalu
Gofal plant
O 6 Ebrill 2026, byddwch yn cael £6.67 yr awr am bob plentyn sydd â hawl i'r Cynnig Gofal Plant yn eich gofal. Gallwch hawlio ar gyfer sesiynau hanner awr ar gyfradd o £3.34.
Nid yw’n ofynnol ichi godi cyfradd fesul awr y Cynnig Gofal Plant ar gyfer darpariaeth nad yw’n cael ei darparu o dan y cynnig hwn.
Cyfraddau atodol pan fydd eich cyfradd arferol yn uwch
Ni chewch godi tâl atodol fesul awr os byddwch yn codi mwy na £6.67 yr awr yn arferol.
Ni fydd darparwyr sy'n torri telerau ac amodau'r Cynnig Gofal Plant ac yn codi ffioedd atodol fesul awr yn cael cyllid i ddarparu'r Cynnig Gofal Plant o hynny ymlaen.
Bwyd
Gallwch godi tâl am brydau bwyd rydych chi'n eu darparu ond dim ond os ydych fel arfer yn codi tâl am fwyd ar wahân.
Os ydych chi'n codi ffioedd ychwanegol am fwyd fel rhan o ddarparu'r Cynnig, dylech ei gwneud yn glir i'r rhieni am beth y mae'r tâl hwnnw cyn iddynt ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant.
Os ydych fel arfer yn caniatáu i rieni ddarparu pecynnau bwyd i'w plant, rhaid caniatáu i rieni sy'n defnyddio'r Cynnig Gofal Plant wneud hynny hefyd.
Mewn sesiwn diwrnod llawn (tua 10 awr), ni ddylid codi mwy na £11.25 ar rieni am brydau bwyd. Byddai'r tâl hwn yn cynnwys:
- 3 pryd ar tua £3.13 y pryd
- 2 fyrbryd am 94c y byrbryd
Am brydau a ddarperir yn ystod sesiwn hanner diwrnod (tua 5.5 awr) ni ddylid codi mwy na £7.20 ar rieni. Mae hyn yn caniatáu ar gyfer
- 2 bryd am £3.13 y pryd, un byrbryd am 94c y byrbryd
Os ydych chi'n darparu gofal dydd sesiynol, ni ddylech godi mwy na 94c y dydd.
Costau Cludiant (casglu a gollwng)
Caniateir ichi godi tâl ar rieni am gludiant. Nid Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r taliadau hyn. Gan y bydd costau cludiant yn amrywio yn ôl y lleoliad, y math o leoliad gofal plant, y math o gludiant sy’n cael ei ddarparu a’r costau sy’n gysylltiedig â staffio a chynnal cerbydau cludiant i safon ddiogel.
Dylai unrhyw gostau cludiant fod yn rhesymol ac ni ddylid codi mwy am gludiant ar rieni sy'n defnyddio'r Cynnig na'r rhai nad ydynt yn ei ddefnyddio.
Dylech roi gwybod i'r rhiant am unrhyw gostau cludiant disgwyliedig sy'n berthnasol i'ch trefniant gyda nhw cyn i'r gofal plant ddechrau
Costau am weithgareddau oddi ar y safle
Caniateir ichi godi ar rieni am weithgareddau oddi ar y safle, sydd â chostau cysylltiedig. Ni chaiff y cyfraddau ar gyfer y gweithgareddau hyn eu pennu gan Lywodraeth Cymru gan y bydd costau'n amrywio yn unol â natur y gweithgareddau.
Dylai rhieni sy’n defnyddio’r Cynnig Gofal Plant allu dewis peidio â chaniatáu i’w plentyn gymryd rhan mewn gweithgareddau oddi ar y safle ac ni ddylai hynny fod yn amod ar ddefnyddio’r lleoliad gofal plant.
Dylai gweithgareddau oddi ar y safle fod yn eithriadol ac yn achlysurol yn hytrach na bod yn rhan arferol o wythnos y lleoliad
Costau am weithgareddau ar y safle
Ni ddylech godi tâl ychwanegol ar rieni sy'n defnyddio'r Cynnig Gofal Plant am weithgareddau arferol ar y safle.
Costau eraill
Ni ellir defnyddio’r Cynnig Gofal Plant i dalu am gostau gofal plant anuniongyrchol fel ffi gwyliau, ffi weinyddol neu ffi gadw ymlaen llaw. Ni all Llywodraeth Cymru dalu am ffioedd neu gyfnodau hysbysu nad ydynt yn dod o dan gyllid Llywodraeth Cymru. Y rhiant sy'n gyfrifol am dalu'r costau hyn.
Ni ddylech godi unrhyw ffioedd ychwanegol ar rieni sy'n defnyddio'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer unrhyw elfennau uwchlaw y costau gofal plant eu hunain, os nad ydych hefyd yn codi ffioedd ar gyfer yr elfennau hynny ar rieni nad ydynt yn defnyddio'r Cynnig.
Er enghraifft, dylai unrhyw wasanaethau ychwanegol sydd wedi'u cynnwys fel arfer yn y ffioedd rheolaidd i rieni nad ydynt yn defnyddio'r Cynnig Gofal Plant, hefyd gael eu cynnwys fel arfer i rieni sy'n defnyddio'r Cynnig.
Cytundebau gyda rhieni
Er mwyn diogelu arian cyhoeddus, dim ond am nifer yr oriau a drafodwyd ac a gytunwyd gyda'r rhiant y gall Darparwyr hawlio, ac a nodir yn y Cytundeb a wnaed ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol. Gallai hyn fod yn llai na nifer yr oriau y mae rhiant yn gymwys ar eu cyfer gan ei bod yn bosibl rhannu oriau rhwng darparwyr gofal plant yn ôl gofynion y rhiant. Er enghraifft, pan fo rhieni'n rhannu trefniadau gwarchod, ac yn defnyddio gwahanol ddarparwyr, neu lle mai dim ond gofal rhan-amser sydd ei angen ar rieni.
Pan na fydd plant yn mynd i sesiynau sydd wedi'u trefnu
Os na fydd plentyn yn gallu mynd, neu os na fydd yn mynd, i sesiwn sydd wedi'i threfnu, byddwch yn dal i gael eich talu am yr oriau a drefnwyd. Os yw plentyn yn parhau i beidio â mynychu am gyfnod o 4 wythnos, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Gwiriadau awdurdodau lleol
Pan fydd darparwyr yn cyflwyno eu hawliadau, hysbysir rhieni o'r oriau a hawliwyd trwy'r Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol. Os bydd rhieni yn codi pryderon a bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod angen gweithredu ymhellach, mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i ddweud wrth awdurdodau lleol am archwilio safleoedd, gan gynnwys archwiliadau agor a chau. Gall hyn gynnwys adolygu dogfennaeth fel cofrestrau.
Gordaliadau i Ddarparwyr
Pan fo darparwyr wedi hawlio cyllid yn anghywir, byddant yn cael cynnig cyfle i wneud ad-daliad. Gellir gwneud hyn trwy ad-dalu'r swm llawn neu drwy ei wrthbwyso yn erbyn unrhyw hawliadau yn y dyfodol. Ar y cam hwn, timau gofal plant awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ymgysylltu â'r darparwr. Dim ond pan na fo modd dod i gytundeb ar ad-daliad y dylid cyfeirio achosion i Lywodraeth Cymru.
Diffyg Cydymffurfio â'r Amodau
Os nad yw darparwyr gofal plant yn cydymffurfio â'r telerau ac amodau, rydym yn cadw'r hawl i gymryd camau yn unol ag Atodlen 2 (Digwyddiadau Hysbysu).
Atodlen 2: digwyddiadau hysbysadwy
Mae'r Digwyddiadau Hysbysadwy y cyfeirir atynt yn Amod 9 yn cael eu rhestru isod:
1. bod ad-dalu unrhyw ran o’r Cyllid yn ofynnol yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol;
2. eich bod yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r Amodau;
3. nad yw’r Cyllid, yn llawn neu’n rhannol, yn cael ei ddefnyddio at y Dibenion
4. eich bod yn methu â darparu gwybodaeth am y Dibenion y byddwn ni neu unrhyw un neu ragor o gyrff gorfodi cymorthdaliadau'r DU, neu unrhyw rai o’i archwilwyr, ei asiantiaid neu ei gynrychiolwyr, yn gofyn amdani;
5. bod rheswm gennym dros gredu eich bod chi a/neu unrhyw un neu ragor o'ch Personél yn cymryd rhan mewn gweithgarwch twyllodrus neu drosedd feddiangar neu wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch twyllodrus neu drosedd feddiangar, boed hynny’n ymwneud â’r Cyllid, neu’n gysylltiedig ag ef mewn unrhyw ffordd, ai peidio;
6. ein bod ni wedi gordalu Cyllid ichi;
7. eich bod yn cael cyllid dyblyg mewn perthynas ag unrhyw elfen o'r Dibenion o unrhyw ffynhonnell arall, gan gynnwys unrhyw gronfa neu gynllun gan Lywodraeth y DU neu Weinidogion Cymru;
8. bod unrhyw ddatganiad a wneir yn Amod 8 yn anghyflawn, yn anwir, yn gamarweiniol neu’n anghywir mewn unrhyw fodd, neu y gwelir ei fod felly, neu o’i ailadrodd ar unrhyw adeg gan gyfeirio at y ffeithiau a’r amgylchiadau a fodolai bryd hynny, y byddai’n anghywir;
9. bod addasiad yn cael ei wneud i farn yr archwilydd (sy’n golygu bod y farn honno yn un amodol, yn anffafriol neu o dan ymwadiad) am eich datganiadau ariannol;
10. bod digwyddiad neu amgylchiad wedi codi sydd heb ei ddatrys ac sy’n gyfystyr â (neu a fyddai, ar ôl i gyfnod gras ddod i ben, ar ôl i hysbysiad gael ei roi, ar ôl i unrhyw benderfyniad gael ei wneud neu ar ôl unrhyw gyfuniad o’r rhain, yn gyfystyr â) diffyg neu ddigwyddiad terfynu (sut bynnag y caiff ei ddisgrifio) o dan unrhyw gytundeb neu offeryn arall sy’n rhwymol arnoch chi neu y mae unrhyw un neu ragor o’ch asedau yn ddarostyngedig iddo;
11. bod moratoriwm mewn perthynas â’r cyfan neu unrhyw un neu ragor o’ch dyledion neu’ch asedau, neu fod compównd neu gytundeb â’ch credydwyr, wedi’i gytuno, ei orchymyn neu’i ddatgan;
12. eich bod yn atal neu’n gohirio talu unrhyw ddyledion neu nad ydych yn gallu talu’ch dyledion, neu eich bod yn cyfaddef yn ysgrifenedig nad ydych yn gallu talu eich dyledion wrth iddynt ddod yn ddyledus;
13. bod gwerth eich asedau yn llai na’ch atebolrwyddau (gan ystyried atebolrwyddau dibynnol a darpar atebolrwyddau);
14. eich bod yn dechrau negodiadau, neu’n ymgymryd ag unrhyw gompównd, cytundeb cyfaddawdol, aseiniad neu drefniant, gydag un neu ragor o’ch credydwyr gyda golwg ar ad-drefnu unrhyw un neu ragor o’ch dyledion (oherwydd anawsterau ariannol gwirioneddol neu ddisgwyliedig);
15. bod unrhyw weithredu, achos, gweithdrefn neu gam yn cael ei gymryd mewn perthynas â chi ynghylch:
(a) gohirio taliadau, moratoriwm mewn perthynas ag unrhyw ddyled, dirwyn i ben, diddymu, mynd i ddwylo gweinyddwyr neu ad-drefnu (gan ddefnyddio trefniant neu gynllun gwirfoddol neu fel arall); neu
(b) compównd, cytundeb cyfaddawdol, aseiniad neu drefniant gydag unrhyw un neu ragor o’ch credydwyr; neu
(c) penodi datodwr, derbynnydd, derbynnydd gweinyddol, gweinyddwr, rheolwr gorfodol neu swyddog tebyg arall mewn perthynas â chi neu unrhyw un neu ragor o’ch asedau.
16. bod archeb statudol yn cael ei dyroddi yn eich erbyn;
17. eich bod yn rhoi’r gorau, neu’n bygwth gohirio neu roi’r gorau, i gynnal y cyfan neu ran sylweddol o’ch busnes;
18. bod newid yn eich cyfansoddiad, eich statws, eich rheolaeth neu’ch perchnogaeth a/neu fod eich archwilwyr allanol yn ymddiswyddo;
19. eich bod yn methu â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaethau adrodd statudol neu reoleiddiol sy’n gymwys ichi (gan gynnwys gofynion ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol);
20. bod ymchwiliad gan gorff statudol, rheoleiddiol neu lywodraethol yn dechrau mewn perthynas â chi, eich busnes neu unrhyw aelod o'ch tîm o uwch-reolwyr (gan gynnwys ymchwiliadau gan Dŷ'r Cwmnïau, y Comisiwn Elusennau, yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu'r heddlu);
21. bod unrhyw newid, gan gynnwys anghymhwyso, terfynu heb rybudd neu daliad yn lle rhybudd neu o ganlyniad i berfformiad neu ymddygiad gwael y person hwnnw, neu ymddiswyddiad ar unwaith yn eich tîm o uwch-reolwyr neu ymhlith y rhai sy'n eich rheoli (gan gynnwys eich cyfarwyddwyr, eich ymddiriedolwyr neu eich partneriaid, fel y bo'n berthnasol) a allai effeithio ar eich gallu i gyflawni'r Dibenion;
22. bod unrhyw newid, parhaol neu dros dro yn eich Personél a allai effeithio ar eich gallu i gyflawni’r Dibenion;
23. Gwaredu Ased a Ariennir neu Asedau a Ariennir heb ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw;
24. bod unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad yn codi a fydd, yn ein barn ni, yn rhoi sail resymol dros gredu y gallai darparu’r Cyllid, a/neu barhau â’r trefniadau a ystyrir gan yr Amodau hwn, ddwyn anfri arnom; neu
25. fod unrhyw ddigwyddiad neu amgylchiad yn codi a fydd, yn ein barn ni, yn rhoi sail resymol dros gredu y gallech beidio â chyflawni neu gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’ch rhwymedigaethau o dan yr Amodau, neu y gallech fod yn analluog i wneud hynny.
Atodlen 3: Datganiad Sicrwydd: Gweithdrefnau Gwrth-dwyll a Llywodraethiant
Mae dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cronfeydd cyhoeddus, gan sicrhau eu bod yn cael eu trin ag uniondeb ac er budd y cyhoedd. Mae'n bwysig bod pobl yng Nghymru yn gallu bod â hyder yn Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau y mae'n eu hariannu. Mae angen sicrwydd ar swyddogion Llywodraeth Cymru bod trefniadau llywodraethiant a gweithdrefnau gwrth-dwyll rhesymol a digonol yn bodoli yn y sefydliadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Wrth gyflwyno hawliad am daliad, rydych chi'n datgan eich bod chi, eich cyflogeion, eich swyddogion, eich cyfarwyddwyr, eich ymddiriedolwyr ac aelodau'r bwrdd (fel y bo'n berthnasol):
• pan fo’n berthnasol, yn deall yn llawn eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â chwmnïau ac elusennau
• yn meddu ar wybodaeth ddigonol am faterion llywodraethu i gyflawni eu rolau mewn ffordd sy'n cydymffurfio'n llawn â'r ddeddfwriaeth berthnasol
• craffu a goruchwylio'n briodol ar waith y rhai sydd â'r prif gyfrifoldeb am eich rheolaeth ariannol, er mwyn lliniaru'r risg o dwyll a chyllid dwbl o ffynonellau cyhoeddus; a
• bydd yn datgelu, os oes angen, fanylion unrhyw gyllid arall gan unrhyw sefydliad arall (gan gynnwys ceisiadau sydd yn yr arfaeth) i gefnogi'r Dibenion gan gynnwys symiau o gyllid arall, swyddi a ariennir a ffynhonnell y cyllid.
Atodlen 4: Gofynion GDPR y DU
Bydd cyflawni'r Dibenion yn gofyn am brosesu Data Personol ar ein rhan. Ni fydd y Rheolwr Data ac mae'r adran ganlynol yn rhoi manylion am y prosesu a ganiateir i'w wneud wrth gyflawni'r Dibenion.
Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau ysgrifenedig pellach gennym ni mewn perthynas â phrosesu ar ein rhan. Bydd unrhyw gyfarwyddiadau pellach o'r fath yn cael eu hymgorffori yn yr adran ganlynol:
Rhan 1
Sail Gyfreithiol dros y Gweithgarwch Prosesu
Mae casglu a phrosesu’r data hyn yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd ac arfer ein hawdurdod swyddogol (hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru). Bydd yn hyn yn galluogi gweithredu'r Cynnig Gofal Plant, ac yn darparu gwybodaeth a fydd yn helpu Gweinidogion Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch datblygu'r polisi'n ymwneud â'r Cynnig Gofal Plant, sy'n cael ei weithredu i wella llesiant economaidd a chymdeithasol yng Nghymru yn unol ag adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Testun y Prosesu
Byddwch yn prosesu data personol rhieni a phlant sydd wedi'u cymeradwyo i dderbyn gofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant.
Hyd y Gweithgarwch Prosesu
Byddwch yn prosesu data personol rhieni a phlant am y cyfnod y maent yn parhau i fod yn gymwys i dderbyn gofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant, neu hyd nes y bydd eu cytundeb o dan y Cynnig Gofal Plant wedi dod i ben a bod yr holl daliadau cysylltiedig wedi'u hawlio.
Lleoliad y Gweithgarwch Prosesu
Rhaid i'r data gael eu prosesu yn y Deyrnas Unedig ac ni chaniateir eu trosglwyddo y tu allan i’r DU oni bai y gwneir hynny yn unol ag Amod 2.6.6.
Natur y Gweithgarwch Prosesu
Byddwch yn defnyddio'r data ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol i ffurfio cytundebau gyda rhieni i ddarparu gofal plant wedi'i ariannu i'w plentyn o dan y Cynnig Gofal Plant ac i hawlio'r cyllid ar gyfer pob plentyn cymwys.
Dibenion y Gweithgarwch Prosesu
Pwrpas ymgymryd â'r gweithgareddau hyn fel prosesydd data yw sicrhau bod cytundebau gyda rhieni yn cael eu cofnodi'n gywir ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol er mwyn galluogi'r taliadau Cyllid cywir i gael eu gwneud i chi ar gyfer darparu gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant.
Y Mathau o Ddata Personol a gaiff eu Prosesu
- Enw’r rhiant arweiniol
- Enw’r plentyn
Categorïau’r Testunau Data
Byddwch yn prosesu data personol sy'n ymwneud â rhieni sydd wedi'u cymeradwyo i dderbyn gofal plant wedi'i ariannu drwy'r Cynnig Gofal Plant a'u plant cymwys.
Cynllun ar gyfer dychwelyd y data a/neu eu dinistrio unwaith y cwblheir y gweithgarwch prosesu onid yw'n ofynnol yn ôl y Gyfraith i gadw'r math hwnnw o ddata
Amherthnasol ar gyfer cofnodion a gedwir ar y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol gan y bydd data ar Wasanaeth Digidol Cenedlaethol y Cynnig Gofal Plant yn cael eu cadw yn unol ag adran Cynnig Gofal Plant Cymru o atodlen cadw a gwaredu Llywodraeth Cymru
Rhaid i leoliadau gofal plant gadw cofnodion, megis cofrestrau sy'n ymwneud â gofal plant a ariennir drwy'r Cynnig Gofal Plant am gyfnod o 7 mlynedd o'r dyddiad y daw cyllid Cynnig Gofal Plant Cymru i ben.
Rhan 2
1. Bydd y diffiniadau o’r termau a ganlyn yn cael eu defnyddio yn yr Atodlen hon am GDPR y DU:
Asesiad Effaith Diogelu Data
asesiad gan y Rheolydd o effaith y gweithgarwch Prosesu a ragwelir ar ddiogelu Data Personol.
Cais am fynediad at ddata gan y testun
cais a wneir gan neu ar ran Testun Data yn unol â hawliau a roddwyd o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data i gael mynediad at ei Ddata Personol.
Deddfwriaeth Diogelu Data
yr holl ddeddfwriaeth gymwys ar ddiogelu data a phreifatrwydd sydd mewn grym o bryd i'w gilydd yn y DU gan gynnwys GDPR y DU; Deddf Diogelu Data 2018 (a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno); Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig 2003 (OS 2003/2426) fel y'u diwygiwyd; a'r canllawiau a'r codau ymarfer a gyhoeddir gan y Comisiynydd ac sy'n gymwys i barti.
Digwyddiad Diogelwch Data
unrhyw ddigwyddiad sy'n arwain, neu a allai arwain, at fynediad diawdurdod at Ddata Personol yr ydych yn eu cadw o dan y Dyfarniad Cyllid, a/neu at golli a/neu ddinistrio, neu at y posibilrwydd o golli a/neu ddinistrio Data Personol yn groes i’r Dyfarniad Cyllid hwn, gan gynnwys unrhyw achos o Dor Diogelwch Data Personol (fel y'i diffinnir yn GDPR y DU).
DPA 2018
Deddf Diogelu Data 2018.
GDPR y DU
Rheoliad (EU) 2016/679 Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 27 Ebrill 2016 ar ddiogelu personau naturiol o ran prosesu data personol ac ar symud data o’r fath yn rhydd fel y mae'n ffurfio rhan o gyfraith Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon drwy rinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Y Gyfraith
Sef:
(a) unrhyw statud neu broclamasiwn cymwys neu unrhyw ddeddfwriaeth ddirprwyedig neu is-ddeddfwriaeth;
(b) unrhyw ganllawiau, cod ymarfer, cyfarwyddyd neu benderfyniad cymwys yr ydym ni a/neu yr ydych chi yn rhwym i gydymffurfio â hwy i'r graddau y cânt eu cyhoeddi a'u bod ar gael i'r cyhoedd neu yr ydym ni wedi eich hysbysu chi am eu bodolaeth neu am eu cynnwys; ac
(c) unrhyw ddyfarniad neu orchymyn cymwys a wneir/a roddir gan lys barn perthnasol ac sy'n gynsail rwymol yng Nghymru a Lloegr;
ym mhob achos, mewn grym neu'n gymwys yng Nghymru a Lloegr, neu yng Nghymru yn unig.
Is-brosesydd
unrhyw drydydd parti a benodir i Brosesu Data Personol ar eich rhan mewn perthynas â'r Dyfarniad Cyllid.
Mesurau Diogelu
mesurau technegol a sefydliadol priodol a all gynnwys gwneud Data Personol yn ddienw neu eu hamgryptio, sicrhau cyfrinachedd, uniondeb, argaeledd a gwydnwch systemau a gwasanaethau, sicrhau bod Data Personol ar gael, a’i bod yn bosibl cael mynediad atynt, unwaith eto mewn modd amserol ar ôl digwyddiad, a mynd ati’n rheolaidd i asesu a gwerthuso effeithiolrwydd y mesurau a fabwysiedir ganddo.
Parti
ni neu chi, neu, gyda’i gilydd, 'y Partïon';
2. Diogelau Data Personol
2.1 Yn yr Atodlen hon am GDPR y DU, bydd i'r termau a ganlyn yr ystyr a roddir iddynt yn GDPR y DU: Rheolydd (“Controller”), Prosesydd (“Processor”), Testun Data (“Data Subject”), Data Personol (“Personal Data”), Prosesu (“Process”), Tor Diogelwch Data Personol (“Personal Data Breach”), Swyddog Diogelu Data (“Data Protection Officer”).
2.2 Mae'r Partïon yn cydnabod, at ddibenion y Ddeddfwriaeth Diogelu Data, mai ni yw'r Rheolydd a chi yw'r Prosesydd.
2.3 Oni bai ei bod yn ofynnol fel arall yn unol â’r Gyfraith ichi wneud hynny (ac os ydyw, byddwch yn ein hysbysu am y gofyniad cyfreithiol hwnnw cyn Prosesu, oni bai bod y gyfraith yn gwahardd gwybodaeth o'r fath ar sail bwysig er budd y cyhoedd), mae’r unig weithgarwch Prosesu Data Personol yr ydych chi wedi eich awdurdodi i ymgymryd ag ef yn cael ei ddisgrifio yn yr Atodlen hon am GDPR y DU neu mae'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw gennym ni ac ni chewch chi wneud y penderfyniad. Ni fyddwch yn prosesu'r Data Personol at unrhyw ddiben arall nac mewn ffordd nad yw'n cydymffurfio â'r Dyfarniad Cyllid hwn neu’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Rhaid ichi gydymffurfio'n brydlon â chyfarwyddiadau ysgrifenedig gennym ni sy'n ei gwneud yn ofynnol ichi ddiwygio, trosglwyddo, dileu neu brosesu'r Data Personol fel arall, neu i atal, lliniaru neu unioni unrhyw brosesu nad yw wedi’i awdurdodi.
2.4 Rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith os ydych o’r farn bod unrhyw gyfarwyddiadau a roddwn yn groes i'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
2.5 Rhaid ichi roi pob cymorth rhesymol inni mewn perthynas ag unrhyw Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data a gynhelir cyn ac ar ôl dechrau unrhyw weithgarwch Prosesu. Gall cymorth o’r fath, yn ôl ein disgresiwn, gynnwys:
2.5.1 disgrifiad systematig o'r gweithrediadau Prosesu a ragwelir a diben y Prosesu;
2.5.2 asesiad o’r angen am y gweithrediadau Prosesu a’u cymesuredd mewn perthynas â'r Dibenion;
2.5.3 asesiad o'r risgiau i hawliau a rhyddid Testunau Data; a
2.5.4 disgrifiad systematig o’r mesurau a ragwelir er mwyn mynd i'r afael â'r risgiau, gan gynnwys camau diogelu, mesurau diogelwch a ffyrdd o sicrhau diogelwch Data Personol.
2.6 Mewn perthynas ag unrhyw Ddata Personol a Brosesir mewn cysylltiad â'ch rhwymedigaethau o dan y Dyfarniad Cyllid rhaid ichi:
2.6.1 prosesu’r Data Personol hynny yn unol ag Amod 2.3 o’r Atodlen hon am GDPR y DU, ac fel hynny yn unig, oni fydd yn ofynnol yn ôl y Gyfraith ichi wneud hynny fel arall. Os yw'n ofynnol ichi wneud hynny, rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith cyn Prosesu'r Data Personol onid yw'r Gyfraith yn eich gwahardd rhag gwneud hynny;
2.6.2 sicrhau bod gennych Fesurau Diogelu, a adolygwyd ac a gymeradwywyd gennym fel sy'n briodol, i ddiogelu rhag Digwyddiad Diogelwch Data, gan ystyried:
- natur y data sydd i'w diogelu;
- y niwed y gallai Digwyddiad Diogelwch Data ei wneud
- datblygiadau technolegol; a
- cost gweithredu unrhyw fesurau;
2.6.3 rhaid i chi, os yw'n ofynnol i chi hysbysu Gwrthrych y Data am ddiben a manylion y gweithgarwch Prosesu a wneir, gydweithredu â ni er mwyn cytuno ar hysbysiad priodol sy'n cydymffurfio â'r Ddeddfwriaeth Diogelu Data. Rhaid i'r hysbysiad gael ei gymeradwyo’n ysgrifenedig gennym ymlaen llaw. Rhaid ichi beidio ag addasu na newid yr hysbysiad mewn unrhyw ffordd heb gael ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw;
2.6.4 sicrhau nad yw eich Personél yn Prosesu Data Personol ac eithrio yn unol â'r Dyfarniad Cyllid;
2.6.5 sicrhau eich bod yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod unrhyw un neu ragor o'ch Personél sydd â mynediad at Ddata Personol yn ddibynadwy ac yn onest a sicrhau eu bod:
(i) yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau o dan yr Amodau a'u bod yn cydymffurfio â hwy;
(ii) yn ddarostyngedig i ymrwymiadau priodol o ran cyfrinachedd gyda chi neu unrhyw Is-brosesydd;
(iii) yn cael eu hysbysu am natur gyfrinachol y Data Personol ac nad ydynt yn cyhoeddi, yn datgelu nac yn dadlennu unrhyw Ddata Personol i unrhyw drydydd parti oni bai eu bod yn cael cyfarwyddyd ysgrifenedig gennym i wneud hynny neu fel y caniateir fel arall o dan y Dyfarniad Cyllid; a
(iv) wedi cael hyfforddiant digonol ar sut i ddefnyddio, diogelu a thrin Data Personol, a gofalu amdanynt;
2.6.6 peidio â throsglwyddo Data Personol y tu allan i'r DU heb gael ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw neu pan fo Erthygl 28(3)(a) o GDPR y DU yn gymwys;
2.6.7 Yn unol â chyfarwyddyd ysgrifenedig a roddir gennym, dileu neu ddychwelyd Data Personol (ac unrhyw gopïau ohonynt) atom pan fydd y Dyfarniad Cyllid yn dod i ben onid yw'n ofynnol yn ôl y Gyfraith ichi gadw'r Data Personol.
2.7 Yn ddarostyngedig i Amod 2.8, rhaid ichi ein hysbysu ar unwaith os byddwch, mewn cysylltiad â'r Dyfarniad Cyllid:
2.7.1 yn cael Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (neu Gais honedig am Fynediad at Ddata gan y Testun);
2.7.2 yn cael cais i gywiro unrhyw Ddata Personol, i’w hatal rhag cael eu prosesu neu i’w dileu;
2.7.3 yn cael unrhyw gais, cwyn neu gyfathrebiad arall sy'n ymwneud â rhwymedigaethau'r naill Barti neu’r llall o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data;
2.7.4 yn cael unrhyw gyfathrebiad gan y Comisiynydd Gwybodaeth neu unrhyw awdurdod rheoleiddio arall mewn cysylltiad â Data Personol a Brosesir o dan y Dyfarniad Cyllid;
2.7.5 yn cael cais gan unrhyw drydydd parti i ddatgelu Data Personol pan fo cydymffurfio â chais o’r fath yn ofynnol yn ôl y Gyfraith neu yr honnir bod hynny’n ofynnol yn ôl y Gyfraith;
2.7.6 yn dod i wybod am Ddigwyddiad Diogelwch Data.
2.8 Mae eich rhwymedigaeth i hysbysu o dan Amod 2.7 o'r Atodlen hon am GDPR y DU yn cynnwys darparu rhagor o wybodaeth inni o bryd i’w gilydd, heb oedi gormodol, wrth i fanylion ddod ar gael.
2.9 Gan ystyried natur y gweithgarwch Prosesu, rhaid ichi roi cymorth llawn inni mewn perthynas â rhwymedigaethau'r naill Barti neu’r llall o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data ac mewn perthynas ag unrhyw gŵyn, cyfathrebiad neu gais a wneir o dan Amod 2.7 o'r Atodlen hon am GDPR y DU (ac i'r graddau y mae hynny’n bosibl o fewn yr amserlenni a fydd yn rhesymol ofynnol gennym) gan gynnwys rhoi inni’n brydlon yr hyn a ganlyn:
2.9.1 manylion llawn a chopïau o'r gŵyn, y cyfathrebiad neu'r cais;
2.9.2 unrhyw gymorth rhesymol y byddwn yn gofyn amdano i'n galluogi i gydymffurfio â Chais am Fynediad gan Destun y Data o fewn yr amserlenni perthnasol a nodir yn y Ddeddfwriaeth Diogelu Data;
2.9.3 ar ôl inni wneud cais, unrhyw Ddata Personol yr ydych yn eu cadw mewn perthynas â Thestun Data;
2.9.4 cymorth y gallwn yn rhesymol ofyn amdano ar ôl unrhyw Ddigwyddiad Diogelwch Data;
2.9.5 cymorth y gallwn yn rhesymol ofyn amdano mewn perthynas ag unrhyw gais gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu mewn perthynas ag unrhyw ymgynghoriad rhyngom a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
2.10 Rhaid ichi gadw cofnodion a gwybodaeth lawn a chywir i ddangos eich bod yn cydymffurfio ag Amod 2 o’r Atodlen hon am GDPR y DU. Nid yw'r gofyniad hwn yn gymwys pan fyddwch yn cyflogi llai na 250 o aelodau o staff oni bai:
2.10.1 ein bod yn penderfynu nad yw'r gweithgarwch Prosesu yn achlysurol; neu
2.10.2 ein bod yn penderfynu bod y gweithgarwch Prosesu yn cynnwys categorïau arbennig o ddata y cyfeirir atynt yn Erthygl 9(1) o GDPR y DU neu Ddata Personol sy'n ymwneud ag euogfarnau troseddol a throseddau y cyfeirir atynt yn Erthygl 10 o GDPR y DU; neu
2.10.3 ein bod yn penderfynu bod y gweithgarwch Prosesu yn debygol o beryglu hawliau a rhyddid Testunau Data.
2.11 Rhaid ichi ddarparu ar gyfer archwiliadau gennym ni neu ein harchwilydd dynodedig o'ch gweithgarwch Prosesu Data.
2.12 Rhaid ichi ddynodi swyddog diogelu data os yw'n ofynnol o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
2.13 Cyn caniatáu i unrhyw Is-brosesydd brosesu unrhyw Ddata Personol yn gysylltiedig â'r Dyfarniad Cyllid, rhaid ichi:
2.13.1 ein hysbysu’n ysgrifenedig am yr Is-brosesydd a'r gweithgarwch Prosesu arfaethedig;
2.13.2 cael ein cydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw;
2.13.2 ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig â'r Is-brosesydd sy'n rhoi effaith i'r telerau a nodir yn Amod 2 o’r Atodlen hon am GDPR y DU fel y maent yn gymwys i'r Is-brosesydd; a
2.13.3 rhoi inni’r cyfryw wybodaeth ynglŷn â'r Is-brosesydd ag y gallwn yn rhesymol ofyn amdani.
2.14 Byddwch yn parhau'n gwbl atebol am bob gweithred neu anweithred gan Is-brosesydd.
2.15 Ar unrhyw adeg a chan roi o leiaf 30 Diwrnod Busnes o rybudd, cawn adolygu'r Amod 2 hwn o'r Atodlen 6 hon am GDPR y DU drwy roi yn ei le unrhyw gymalau rheolydd i brosesydd safonol cymwys neu delerau tebyg sy'n rhan o gynllun ardystio cymwys (a fydd yn gymwys pan y'u hymgorfforir drwy eu hatodi i'r Dyfarniad Cyllid).
2.16 Mae'r Partïon yn cytuno i ystyried unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ac unrhyw ganllawiau eraill pan fo hynny’n briodol. Ar ôl rhoi o leiaf 30 Diwrnod Busnes o rybudd ichi, cawn ddiwygio'r Dyfarniad Cyllid er mwyn sicrhau ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
2.17 Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, ni fydd dim yn y Dyfarniad Cyllid yn eich rhyddhau o'ch cyfrifoldebau a'ch atebolrwyddau uniongyrchol o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data.
2.18 Yr ydych yn cytuno i’n hindemnio ac i barhau i’n hindemnio rhag unrhyw hawliadau ac achosion ac unrhyw atebolrwydd, colled, costau a threuliau a ddaw i’n rhan o ganlyniad i unrhyw hawliad a wneir neu a ddygir gan unrhyw unigolyn neu berson cyfreithiol arall mewn perthynas ag unrhyw golled, niwed neu drallod a achosir i'r unigolyn neu'r person cyfreithiol hwnnw o ganlyniad i weithgarwch prosesu gennych sydd heb ei awdurdodi, o ganlyniad i weithgarwch prosesu sy’n anghyfreithlon, o ganlyniad i ddifrod a/neu niwed i unrhyw broses Data Personol a wneir gennych chi, eich cyflogeion neu’ch asiantiaid wrth gyflawni'r Dyfarniad Cyllid neu fel y cytunir fel arall rhwng y Partïon.
2.19 Bydd darpariaethau'r Amod 2 hwn o’r Atodlen hon am GDPR y DU yn gymwys tra pery'r Dyfarniad Cyllid ac am gyfnod amhenodol ar ôl iddo ddod i ben
