Neidio i'r prif gynnwy

Data blynyddol yn edrych ar gyraeddiadau disgyblion yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3, yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Cyhoeddiadau blaenorol

Newidiadau i Feysydd Dysgu y Cyfnod Sylfaen

Cafodd y Meysydd Dysgu diwygiedig eu cyflwyno ar sail statudol o fis Medi 2015 ymlaen. Golyga hyn mai’r cohort o blant a ddechreuodd yn y Derbyn ym mis Medi 2015 fydd yr un cyntaf i gael ei asesu’n ffurfiol yn erbyn y deilliannau ar eu newydd wedd ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen yn haf 2018.

Felly, dylai cymariaethau o ganlyniadau'r Cyfnod Sylfaen gyda blynyddoedd blaenorol gael eu hosgoi gan nad ydynt yn cael eu mesur ar sail gymharol.

Newidiadau i gyhoeddi’r ystadegau yma ar lefel is na Chymru

Yn dilyn ymgynghoriad ar gyhoeddiadau asesiadau athrawon yn y dyfodol, ni fydd y Datganiad Ystadegol hwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Am yr un rheswm nid ydym bellach yn cyhoeddi y model ystadegol yn dangos y perthynas rhwng prydau ysgol am ddim a chyraeddiadau (ond mae’r data ar gael trwy gais).

Paru Data

Casglir statws hawl i brydau ysgol am ddim y disgyblion ym mis Ionawr o ysgolion yn y Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol Lefel Disgybl (CYBLD). Cesglir canlyniadau'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 o'r ysgolion yn y Casgliad Data Cenedlaethol ym mis Mai i fis Mehefin bob blwyddyn. Mae'r setiau data hyn wedi'i baru i gynhyrchu'r data a gyflwynir yma.

Oherwydd symudiad disgyblion rhwng y dyddiad cyfrifiad CYBLD ym mis Ionawr a'r cyfnod asesu, nid yw’n bosib sicrhau cwmpas llawn o ddata cymhwyster a chyrhaeddiad prydau ysgol. Mae hyn oherwydd nad yw disgyblion sy'n gadael neu'n ymuno â'r system addysg yng Nghymru rhwng diwrnod cyfrifiad CYBLD ac amser yr asesiadau (Mai i Fehefin) wedi'u cynnwys. Bydd disgyblion o'r fath naill ai'n colli data prydau ysgol am ddim neu lefel cyrhaeddiad.

Dangosir y cyfraddau cyfatebol yn y tabl 'Cyfraddau Cyfatebol' yn y daenlen sy'n cyd-fynd. Mae dros 99 y cant o ddisgyblion yn y data cyrhaeddiad wedi cael ei gydweddu'n llwyddiannus â chyfrifiad yr ysgol ym mhob blwyddyn ac ym mhob cyfnod.

Gwybodaeth bellach

Ceir Gwybodaeth allweddol am ansawdd yn y datganiad 'Deilliannau diwedd y cyfnod sylfaen ac asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol o’r pynciau craidd yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3' a’r datganiad 'Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion'.

Mae'r cyfernod a ddefnyddir yn y modelau sy'n tynnu sylw at y berthynas rhwng cyrhaeddiad yn y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 a hawl i brydau ysgol am ddim ar gael ar gais.