Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Arolwg Iaith Gymraeg Amrywiaeth Bwrdd Cyrff Cyhoeddus Rheoleiddiedig 2025 i 2026.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym yn cynnal arolwg i gasglu data am amrywiaeth a data am y Gymraeg gan aelodau byrddau Cyrff Cyhoeddus Rheoleiddiedig. Mae hyn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru o dan y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol i sicrhau bod uwch arweinyddiaeth yn gynrychioliadol ac yn gynhwysol.
Bydd y tîm Penodiadau Cyhoeddus yn casglu gwybodaeth gan Gyrff Cyhoeddus Rheoleiddiedig am eu nodweddion personol. Rydym wedi gofyn i'n hunigolyn cyswllt yn eich sefydliad eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg yn rhinwedd eich rôl fel aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth eich sefydliad.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Ni fyddwn yn rhannu ymatebion aelodau unigol o’r bwrdd gydag eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.
Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol, ond mae eich mewnbwn yn bwysig i helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru a monitro cynnydd tuag at nodau amrywiaeth a chynhwysiant.
Pa ddata personol sy'n cael eu cadw gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth honno?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei defnyddio i'w adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Anfonwyd yr arolwg hwn atoch fel dolen we gan gynrychiolydd o'ch sefydliad. Nid oes gennym eich manylion cyswllt. Ni fyddwn yn rhannu eich ymateb i'r arolwg gyda'r unigolyn neu sefydliad a anfonodd ddolen yr arolwg atoch.
Fel rhan o'r ymchwil hon, byddwn yn casglu'r data personol canlynol:
- Oedran
- Anabledd
- Rhyw (wedi'i gofrestru adeg geni)
- Sefydliad
- Sgiliau yn y Gymraeg
- Corff cyhoeddus rheoleiddiedig
- Lleoliad daearyddol
- bydd cyfeiriadau e-bost yn cael eu cadw dim ond ar gyfer y diben o gysylltu ag aelodau’r Bwrdd.
Yn ogystal â'r data categori arbennig canlynol:
- Ethnigrwydd
- Crefydd
- Hunaniaeth Rhywedd
- Hunaniaeth Rywiol
Does dim rhaid ateb pob cwestiwn. Mae pob cwestiwn yn cynnwys opsiwn ‘mae'n well gen i beidio â dweud’. Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan neu dderbyn nodiadau atgoffa, rhowch wybod i'r cynrychiolydd a anfonodd ddolen yr arolwg atoch.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros ddefnyddio’ch data?
Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn y gwaith ymchwil hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Gelwir rhywfaint o'r data rydym yn eu casglu yn ‘ddata categori arbennig’ (gweler y rhestr yn yr adran uchod) a'r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw ei bod at ddibenion ystadegol neu ymchwil.
Mae ymchwil fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn yr ymchwil hon yn cael ei defnyddio i ddeall amrywiaeth mewn swyddi arwain o fewn Cyrff y Sector Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru a monitro hyn dros amser.
Sut rydym yn defnyddio eich data personol
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn cael ei defnyddio i wneud y canlynol:
- Asesu amrywiaeth Cyrff Cyhoeddus Rheoleiddiedig yng Nghymru.
- Hysbysu penderfyniadau Gweinidogol ar benodiadau cyhoeddus.
- Llunio strategaethau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
- Galluogi craffu yn y Senedd.
- Rhoi mewnwelediad cyhoeddus ynghylch a yw recriwtio i fyrddau cyhoeddus yn bodloni blaenoriaethau amrywiaeth.
Bydd yr holl ddadansoddiadau yn cael eu cynnal ar ffurf gyfanredol. Ni fydd modd adnabod unrhyw unigolion mewn adroddiadau.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Bydd data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Mae ffolder wedi’i chreu ar gyfer y prosiect hwn, a dim ond y tîm Penodiadau Cyhoeddus sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosiect sydd â mynediad ati. Bydd y data yr ydych yn eu darparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon.
Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio rhaglen o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU, ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr ymarfer hwn yn cael ei defnyddio i asesu amrywiaeth Cyrff Cyhoeddus Rheoleiddiedig yng Nghymru, llywio penderfyniadau Gweinidogol ar ymgyrchoedd unigol, llunio strategaethau a chamau gweithredu yn y dyfodol, galluogi craffu yn y Senedd, a rhoi mewnwelediad i'r cyhoedd ynghylch a yw recriwtio i fyrddau cyhoeddus yn cyflawni'r nodau amrywiaeth a osodwyd fel blaenoriaeth Gweinidogol; ni fydd unrhyw wybodaeth a allai arwain at adnabod cyfranogwyr unigol yn cael ei defnyddio at y dibenion hyn.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?
Bydd ymatebion unigol i'r arolwg yn cael eu dileu gan Dîm Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru o fewn dwy flynedd i gyhoeddi'r adroddiad. Bydd yr ymatebion i'r arolwg yn cael eu defnyddio ar gyfer dadansoddiad ymchwil yn unig.
Hawliau'r unigolyn
O dan GDPR y DU mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon i amrywiaeth Byrddau Cyrff Sector Cyhoeddus rheoleiddiedig. Yn benodol, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
- Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
- Gofyn inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data (o dan amgylchiadau penodol);
- Gofyn inni ‘ddileu’ eich data (o dan amgylchiadau penodol);
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif ffôn:
0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych am arfer eich hawliau drwy ddefnyddio GDPR y DU, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caredydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
