Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Mae ar bobl Cymru eisiau, ac yn haeddu, gweld eu llywodraethau cenedlaethol a lleol yn cynnal perthynas adeiladol ac yn cysoni ein hymdrechion i ddarparu gwasanaethau sy’n diwallu eu hanghenion sylfaenol ac yn cefnogi eu dyheadau. 

Daw adnewyddu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol hwn (y Cytundeb) yn dilyn ffurfio Llywodraeth newydd yng Nghymru, ac mae’n adlewyrchu cyd-ymrwymiad i gryfhau’r bartneriaeth ddibynadwy rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Bydd y bartneriaeth hon yn hanfodol i sbarduno’r camau gweithredu ymarferol a’r canlyniadau mesuradwy sydd eu hangen i sicrhau newid parhaol, diwygio tymor hwy, a gwella bywydau ledled Cymru, yn unol â chwe ymrwymiad allweddol Llywodraeth Cymru.

Wrth adnewyddu’r Cytundeb, bydd hyn yn gyfle i gadarnhau’r gwerthoedd sy’n sail i’n perthynas, ein hatgoffa o'r gyd-ddealltwriaeth o sut byddwn yn gweithio gyda’n gilydd, ac adeiladu ar y sylfeini cryf a sefydlwyd drwy’r Cytundeb hyd yma. Ar yr un pryd, mae’n cydnabod, er bod llywodraethau ac arweinyddiaeth yn gallu newid, bod ein cydgyfrifoldeb i wella canlyniadau i bobl Cymru yn parhau. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf o wreiddio’r Cytundeb, mae ei werth a’i botensial wedi cael eu cydnabod gan y ddau bartner, ac rydym yn awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwnnw drwy ymrwymo gyda’n gilydd i egwyddorion, pwrpas, ethos ac ysbryd y Cytundeb. Mae’r Cytundeb yn parhau i ddarparu fframwaith ar gyfer ymgysylltu’n well ac yn gynharach cyn penderfyniadau sy’n effeithio ar y gwasanaethau hanfodol rydym yn eu darparu, gan sicrhau ein bod yn gallu gwneud y penderfyniadau hynny’n fwy effeithiol. 

Mae’r Cytundeb hefyd yn ymrwymo llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol i sefyll dros Gymru yng nghyd-destun polisi Llywodraeth y DU, gan siarad â llais ar y cyd er budd ein pobl a’n cymunedau.

Ac yn y pen draw, mae’r Cytundeb yn rhoi fframwaith ymarferol i ni ymateb i’r heriau sy’n wynebu Cymru drwy gyfeirio ein hymdrechion at le gallant wneud y gwahaniaeth mwyaf. Edrychwn ymlaen at symud ymlaen gyda Chytundeb newydd a phartneriaeth agos ac effeithiol i bobl Cymru.

Llofnodwyd ar ran Llywodraeth Cymru

Rhun ap Iorwerth AS, Prif Weinidog Cymru

Siân Gwenllian AS, Y Gweinidog Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio

Llofnodwyd ar ran llywodraeth leol

Y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd CLlLC/Arweinydd Grŵp Llafur

Llafur Y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby Llywydd CLlLC

Rhan Un: Cytundeb Partneriaeth Strategol Drafft rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol

Pennod Un: Cyflwyniad

Adnewyddu’r Cytundeb

Mae’r ymrwymiadau a nodir yn y Cytundeb hwn yn cael effaith ar draws y llywodraeth. Mae’r fersiwn newydd hon o’r Cytundeb, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2026, yn adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb gwreiddiol, ac mae'n adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth newydd Cymru a llywodraeth leol i ddyfnhau a chryfhau’r berthynas.

Adnewyddu Rhan 1 y Cytundeb

Mae’r fersiwn newydd hon o’r Cytundeb yn canolbwyntio ar Ran 1 y Cytundeb gwreiddiol yn unig. Bydd hyn yn ategu ein hymrwymiad ar y cyd i weithio mewn partneriaeth ddibynadwy ac egwyddorion sylfaenol hynny, gan gynnwys cyfres o gyd-ymrwymiadau a ffocws cyffredin ar gyllid teg, lleihau biwrocratiaeth, ac ar welliannau sy'n cael eu harwain gan y sector. 

Bydd ymgysylltu a chynnwys yn gynnar ac yn ystyrlon yn parhau i fod yn allweddol i’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd.

Adnewyddu Rhan 2 y Cytundeb

Yn ystod tymor yr hydref 2026, bydd Rhan 2 newydd o’r Cytundeb yn cael ei datblygu mewn partneriaeth. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod pobl Cymru yn gweld manteision go iawn yr uchelgeisiau perthnasol cyffredin sy’n cyd-fynd â Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru a fydd yn cael ei chyflwyno ar y cyd â llywodraeth leol. 

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn atebol wrth fonitro ein cynnydd ar y cyd, gan ddibynnu ar dystiolaeth a data i helpu i gyfleu effaith ein cynnydd yn y byd go iawn.

Gosod y Cyd-destun

Y saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw sylfaen ein partneriaeth a sylfaen holl wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Cymru yw’r unig wlad yn y byd i ddangos ei hymrwymiad i gynaliadwyedd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol drwy gyfraith. Rhaid i wasanaethau cyhoeddus sicrhau bod y pum ffordd o weithio yn rhan ganolog o bopeth a wnawn – cydweithio, integreiddio, cynnwys, hirdymor ac atal[1]

Mae’r Cytundeb hwn yn cael ei lunio yn y pum ffordd hynny o weithio ac mae’n tanlinellu pwysigrwydd perthynas waith effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. 

Yn unol â'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, rydym wedi ymrwymo i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae hyn yn cynnwys ein hymrwymiad ar y cyd i hyrwyddo a chynnal hawliau, llesiant a chyfleoedd pawb yng Nghymru, gan gynnwys plant a phobl ifanc, pobl hŷn a chenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu clywed a’u parchu, a bod ein partneriaeth yn adlewyrchu anghenion a dyheadau’r bobl a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’r egwyddorion hyn yn helpu i siapio’r ffordd rydym yn gweithio gyda’n gilydd ac yn sail i’r Cytundeb hwn.

Mae’r Cytundeb[2] yn garreg filltir bwysig i wasanaeth cyhoeddus Cymru. Mae’n effeithio ar bron pob perthynas waith ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn ehangach. Yn ôl profiad, pan fydd llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yn gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy, mae sylfaen gref i holl wasanaeth cyhoeddus Cymru ddod yn unedig fel ‘Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru’. 

Felly, bydd y Cytundeb hwn yn:

  • diffinio ein rolau a’n cyfrifoldebau;
  • nodi egwyddorion y cytunwyd arnynt ar gyfer partneriaeth ddibynadwy;
  • nodi ein cyd-ymrwymiadau;
  • nodi egwyddorion ar gyfer cyllido, lleihau biwrocratiaeth a gwella;
  • nodi’r fframwaith ar gyfer cydweithio mewn partneriaeth ddibynadwy;
  • esbonio sut bydd y Cytundeb hwn yn gwneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru.

[1] Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015: yr hanfodion [HTML] | LLYW.CYMRU 

[2] Nid yw’r Cytundeb hwn yn cynnwys teulu llywodraeth leol yn ehangach, cynghorau tref a chymuned, yr Awdurdod Tân ac Achub, na’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Mae cytundebau ar wahân gyda nhw, a gellir eu hadolygu yng ngoleuni'r Cytundeb hwn.

Pennod Dau: Gweithio mewn Partneriaeth Ddibynadwy

Rolau a chyfrifoldebau

Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi mandad democrataidd ein gilydd. Mae aelodau Llywodraeth Cymru a’r cynghorau yn cael eu hethol gan bobl Cymru i weithio er budd y cymunedau rydym ni’n eu gwasanaethu. Ond mae cyfrifoldebau’r ddau fandad yn wahanol ac ar wahân.

Rydym yn parchu’r cyfrifoldebau ar wahân sydd gan lywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol yng Nghymru ynghyd â threfniadau llywodraethu rhanbarthol. Credwn mewn sybsidiaredd ac atebolrwydd, felly gwneir penderfyniadau gan y cynrychiolwyr etholedig sydd yn y sefyllfa orau i’w gwneud.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gosod y fframwaith deddfwriaethol a’r amgylchedd polisi cenedlaethol ar draws yr ystod o feysydd datganoledig er mwyn galluogi llywodraeth leol i benderfynu ar y ffordd orau o wasanaethu ei chymunedau. Mae’n gyfrifol drwy etholiadau cenedlaethol i bobl Cymru.

Mae llywodraeth leol yn gyfrifol am ddatblygu, cynllunio a darparu ystod eang o wasanaethau statudol a dewisol. Mae’n arwain partneriaethau lleol a rhanbarthol, gan weithio gyda chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector, ac yn darparu arweinyddiaeth ddemocrataidd strategol gref i’w chymunedau drwy’r mecanweithiau hyn. Mae’n atebol i’w hetholwyr lleol am y penderfyniadau y mae’n eu gwneud. 

Fodd bynnag, mater cymhleth yw llywodraethu, ac nid yw’r ddwy lefel hon o atebolrwydd yn annibynnol ar ei gilydd, yn hytrach gallant atgyfnerthu a chryfhau ei gilydd os ydynt yn gweithredu’n effeithiol. Cylchoedd ydynt, yn hytrach na haenau, o lywodraethu democrataidd yng Nghymru.

Yn ogystal â pharchu rolau a chyfrifoldebau ein gilydd, bydd gennym hefyd uchelgeisiau cyffredin ac rydym yn cydnabod y bydd daearyddiaeth ranbarthol weithiau’n darparu’r mecanwaith gorau i gyflawni’r uchelgeisiau hynny. Mae Cyd-bwyllgorau Corfforedig wedi cael eu sefydlu fel cyrff gwneud penderfyniadau democrataidd ar gyfer gweithio’n rhanbarthol mewn meysydd penodol. 

Mae’r pedwar Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â chynllunio datblygiadau strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Maent hefyd yn gallu hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd.

Mae’r dull gweithredu ar gyfer datblygu’r model Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn parhau i fod yn un o gydweithio rhwng llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol, gan gydnabod nad yw un datrysiad yn addas i bawb.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i hybu cydweithio rhanbarthol effeithiol, pan fo’n synhwyrol gwneud hynny, gan adlewyrchu arweinyddiaeth ddemocrataidd leol yn ogystal â helpu i gyflawni ein huchelgeisiau a rennir o ran Cymru.

Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni gwell cydlyniaeth rhwng ardaloedd strwythurau rhanbarthol a fydd yn grymuso llywodraeth leol i gyflawni gyda llai o fiwrocratiaeth a dyblygu.

Rydym hefyd yn cydnabod bod rhai cyfleoedd a heriau’n ymestyn y tu hwnt i ffiniau sefydliad neu ffiniau daearyddol sydd wedi'u sefydlu. Yn yr amgylchiadau hynny, rydym yn cefnogi gweithio mewn partneriaeth mewn modd hyblyg a phragmataidd, gan alluogi sefydliadau i gydweithio ar draws ffiniau lle mae hyn yn cyfrannu at flaenoriaethau cyffredin a chanlyniadau gwell i bobl a chymunedau.

Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Genedlaethol, Llywodraeth Leol a Llywodraethu Rhanbarthol yng Nghymru

Cenedlaethol

Rôl Llywodraeth Cymru yw: 

  • Pennu ac egluro ei gweledigaeth genedlaethol ar gyfer Cymru, a darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwireddu’r weledigaeth.
  • Datblygu rhaglenni a pholisïau i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r weledigaeth.
  • Darparu’r amgylchiadau iawn er mwyn i sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus allu gwella ansawdd, effeithiolrwydd a chynaliadwyedd gwasanaethau cyhoeddus yn barhaus.
  • Ymgysylltu ac ymgynghori â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus i sicrhau bod rhaglenni a pholisïau’n cael eu cynllunio a’u cyflwyno’n effeithiol.
  • Hyrwyddo arferion da ac arloesedd.
  • Cydnabod yr amgylchiadau economaidd ac ariannol presennol, a rhoi arweiniad ariannol i bartneriaid i’w helpu gyda dewisiadau anodd y bydd yn rhaid eu gwneud.

Lleol

Rôl llywodraeth leol yw:

  • Darparu arweinyddiaeth gymunedol a democrataidd.
  • Gweithio gyda’r llywodraeth genedlaethol i helpu i gyflawni blaenoriaethau a rhaglenni cenedlaethol ac i bennu’r blaenoriaethau ar gyfer cymunedau lleol.
  • Cyflawni’r ystod o ddyletswyddau a swyddogaethau statudol llywodraeth leol.
  • Ymrwymo i welliannau sy’n cael eu harwain gan y sector a chyflawni ei dyletswyddau statudol ar gyfer hunanasesu ac asesu cymheiriaid o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, er mwyn gwella ansawdd ac effeithiolrwydd ei gwasanaethau’n barhaus. 
  • Ymgynghori â phartneriaid a gweithio gyda dinasyddion lleol ac eraill yn y sector cyhoeddus i sicrhau bod rhaglenni cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn cael eu cynllunio’n dda a’u cyflwyno’n effeithiol.
  • Ffurfio ac arwain Cyd-bwyllgorau Corfforedig fel mecanwaith ar gyfer cydweithio a chyflawni rhanbarthol.
  • Cydweithio ag eraill i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu gan y sefydliad cywir ac ar y raddfa fwyaf darbodus.

Llywodraethiant Rhanbarthol 

Rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig yw

  • Ymgymryd â’r ddyletswydd i baratoi Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.
  • Arfer pŵer llesiant economaidd, gan roi'r pŵer i Gyd-Bwyllgor Corfforedig wneud unrhyw beth i wella neu hyrwyddo llesiant economaidd ei ardal.
  • Darparu fframwaith cyson a ffurfiol i gefnogi cydweithio rhanbarthol.
  • Gwella darpariaeth strategol ar draws meysydd annibynnol hanfodol fel llesiant economaidd, cynllunio trafnidiaeth a chynllunio defnydd tir.

Rydym hefyd yn cydnabod ein bod yn gweithredu o fewn cyd-destun y DU gyfan a byddwn yn defnyddio ein partneriaeth i hyrwyddo’r berthynas deirochrog ar faterion y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanynt, gan gydweithio i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU ar faterion sy’n effeithio ar Gymru.

Pennod Tri: Egwyddorion Partneriaeth Ddibynadwy

Mae rhyngweithio dyddiol dirifedi’n digwydd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, o’r strategol i’r gweithredol, o’r polisi i’r ariannol. Mae’r egwyddorion yn y Cytundeb hwn yn creu’r fframwaith ar gyfer yr holl ryngweithio hwnnw a phopeth a wnawn gyda’n gilydd, boed hynny’n ymgynghori a gwneud penderfyniadau gan gynrychiolwyr etholedig neu’n ymgysylltu mwy ymarferol gan ein swyddogion. 

Egwyddorion

Cyd-ymddiriedaeth a Pharch

  • Cyd-ymddiriedaeth yw sylfaen y berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Rydym yn cydnabod ac yn parchu mandad democrataidd, rolau, cyfrifoldebau a chyfraniadau ein gilydd at lywodraethiant democrataidd Cymru. Dangosir yr egwyddor hon drwy ddeialog barchus a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd ymreolaeth y naill a’r llall.

Tryloywder a Bod yn agored

  • Mae tryloywder a bod yn agored yn hanfodol ar gyfer atebolrwydd a meithrin ymddiriedaeth. Rydym yn ymrwymo i gyfathrebu’n agored a sicrhau bod gwybodaeth a data yn hygyrch er mwyn helpu i wneud penderfyniadau effeithiol. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i ddeall a datblygu’r dystiolaeth sydd ei hangen i asesu effaith a gwneud gwelliannau cadarnhaol. Byddwn yn ymdrechu i ddilyn canllawiau Data Agored cenedlaethol.

Gweithio gyda’n gilydd ar Gyllid Teg 

  • Rydym yn cydnabod yr angen i wasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu’n deg a’u darparu’n effeithiol ac effeithlon.
     
  • Byddwn yn parhau i gydweithio i fireinio, diwygio a gwella’r fformiwlâu cyllido a ddefnyddir i ddosbarthu cyllid refeniw craidd gan ddefnyddio sianeli gwleidyddol llwyddiannus Cyngor Partneriaeth Cymru a’r Is-grŵp Cyllid. 
  • Byddwn yn cyflwyno’r achos ar y cyd i Lywodraeth y DU lle bo hynny’n briodol dros gyllid teg i Gymru. 
     
  • Mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i esblygu. Wrth i gynlluniau a chyfrifoldebau newydd ddod i’r amlwg yn y dyfodol, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i nodi bwriad y polisi a’r blaenoriaethau allweddol i’w cyflawni, yn ogystal â sicrhau bod y goblygiadau ariannol (ac o ran gwasanaethau) yn cael eu deall ar y cyd. 
     
  • Pan fo cyfrifoldeb newydd yn dibynnu ar gyflwyno deddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth, bydd y goblygiadau ariannol cysylltiedig yn cael eu hasesu drwy gynnal yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol perthnasol, neu asesiad priodol arall. Bydd yr asesiad hwn yn cael ei ddatblygu ar y cyd cyn belled ag y bo modd.
     
  • Dylai’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol adlewyrchu costau a chanlyniadau’r gwaith gweithredu, gan gynnwys goblygiadau cyllido a newid gwasanaethau. Dylai ganolbwyntio ar y costau a’r goblygiadau ychwanegol sy’n deillio o’r ddeddfwriaeth neu’r polisi arfaethedig, yn hytrach na’r pwysau sy’n bodoli eisoes o ran cyflawni gwasanaethau. 
     
  • Bydd llywodraeth leol yn cael ei chynnwys yn gynnar yn y gwaith o baratoi’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a bydd yn cymryd rhan drwy CLlLC a rhwydweithiau proffesiynol perthnasol. 
     
  • Bydd CLlLC yn gweithio gyda chynghorau i ddarparu’r data y mae ei angen i lywio’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Bydd llywodraeth leol felly yn gyfrifol am ddarparu amcangyfrifon amserol a chadarn o’r goblygiadau ariannol er mwyn cyfrannu at y broses ddeddfwriaethol a’r broses gosod cyllideb.
     
  • Pan fydd costau ychwanegol ynghlwm wrth gyfrifoldebau newydd, efallai nad chwilio am arian ychwanegol fydd y nod bob amser, ond dod o hyd i gyllid y gellid ei ailgyfeirio o rywle arall er mwyn cael yr effaith fwyaf bosibl. Y tu hwnt i hynny, byddai unrhyw gyfrifoldebau newydd yn cael eu hariannu. 

Atebolrwydd a Chyfrifoldeb

  • Mae cyfrifoldebau penodol i bob cylch o lywodraeth. Rydym yn atebol am ein gweithredoedd a’n penderfyniadau ein hunain. Mae gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy yn golygu dangos yn glir ein cyfraniadau at ganlyniadau cyffredin, gan barchu ein hatebolrwydd gwahanol i’r cyhoedd.

Arloesi a Hyblygrwydd

  • Mae angen arloesi a hyblygrwydd i fynd i’r afael â heriau cymhleth ac i addasu i amgylchiadau sy’n newid. Rydym yn ymrwymo i wella’n barhaus a chroesawu datrysiadau arloesol.
     
  • Bydd cofleidio ffyrdd digidol o weithio gyda’n gilydd yn ein helpu i sicrhau mwy o gyfleoedd economaidd a chymdeithas fwy ffyniannus a gwydn. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu dylunio ar gyfer ein cymunedau a gyda nhw, ar gyfer y tymor hir mewn ffordd sydd hefyd yn cefnogi effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ariannol.

Pennod Pedwar: Ein Cyd-ymrwymiadau

Yn ogystal â’r egwyddorion uchod, hoffem ailddatgan ein cyd-ymrwymiad i rai meysydd o bwys ac o werth cyffredin:

Cymraeg 2050 a Chymunedau Cymraeg

  • Byddwn yn cynllunio ac yn darparu gwasanaethau cyhoeddus yn gyfartal drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, a byddwn yn hyrwyddo’r Gymraeg yn y gweithle; Cymraeg a thechnoleg; a Chymraeg bob dydd, wrth ddarparu gwasanaethau.
     
  • Byddwn yn cydweithio i gryfhau’r Gymraeg yn ein cymunedau, drwy weithredu argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg mewn meysydd sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dai, cynllunio a gweithleoedd. 

Tegwch, Cynhwysiant a Chyfranogiad

  • Mae cynhwysiant a chyfranogiad y cyhoedd yn hanfodol ar gyfer llywodraethu democrataidd. Mae Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol yn ymdrechu i ymgysylltu, cynnwys ac adlewyrchu amrywiaeth lawn safbwyntiau ac anghenion ein cymunedau wrth wneud penderfyniadau, gan sicrhau bod lleisiau amrywiol yn cael eu clywed a’u hystyried. 
     
  • Mae gennym gyd-ymrwymiad ers tro i hyrwyddo cydlyniant cymunedol, ac mae gennym hanes da o gydweithio i wneud hynny. Byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd i ddeall yr hyn yn y bôn sy'n achosi rhaniadau mewn cymdeithas, mynd i’r afael â chamwybodaeth a thwyllwybodaeth a’u herio, a chymryd camau rhagweithiol i feithrin cysylltiadau da ac ymddiriedaeth mewn cymunedau ledled Cymru, a rhyngddynt, gan wneud i bobl deimlo’n fwy diogel a theimlo eu bod yn perthyn. 
     
  • Rydym yn ymrwymo i ddylunio gwasanaethau o amgylch pobl er mwyn gwella cydlyniant cymdeithasol, creu cymdeithas fwy iach, unedig a mwy teg gyda chymunedau sydd â chysylltiadau da, a chyfrannu at sefyllfa lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Byddwn yn sicrhau nad yw trawsnewid digidol yn creu unrhyw allgáu nac yn achosi mwy o hynny, a byddwn yn meithrin hyder a gallu digidol gweithlu’r gwasanaethau cyhoeddus i alluogi sefydliadau i wneud penderfyniadau gwybodus a chefnogi cymunedau’n effeithiol
     
  • Bydd mynd i’r afael â gwahaniaethu a lleihau anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol wrth galon ein penderfyniadau a’n darpariaeth gwasanaethau. Byddwn yn hyrwyddo canlyniadau gwell i bawb, beth bynnag fo’u nodweddion gwarchodedig, ac yn ymgorffori dull gwrth-hiliol o weithredu fel sefydliadau, gan gefnogi pob cymuned i gyflawni ei photensial llawn.

Mynd i’r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd

  • Rydym yn ymrwymo i gydweithio i ddatblygu dull gweithredu Cymru gyfan i fynd ymhellach ac yn gyflymach wrth wreiddio dulliau atal i wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol y genedl, drwy fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, canolbwyntio ar yr elfennau ehangach sy'n dylanwadu ar faterion iechyd a’r materion cymdeithasol sy’n effeithio ar iechyd a llesiant. Gyda’n gilydd, byddwn yn cefnogi arweinwyr lleol ac yn cefnogi cymunedau i nodi ac i wella cyfleoedd i rymuso unigolion a chymunedau i helpu i greu a datblygu lleoedd cynaliadwy ac iach i fyw a gweithio ynddynt, a sicrhau canlyniadau gwell. 

Trechu Tlodi

  • Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i wella bywydau pobl sy’n byw mewn tlodi ac i leihau tlodi yn y tymor hir, gan ganolbwyntio ar fynd i'r afael â thlodi plant fel bod plant yn cael cychwyn teg mewn bywyd. Defnyddio ein pwerau i ddod â phartneriaid at ei gilydd ar lefel genedlaethol a lleol a chanolbwyntio ar weithredu ymarferol lle mae ei angen fwyaf a lle bydd yn cael yr effaith fwyaf. 

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

  • Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi pwysigrwydd a rhyngddibyniaeth yr holl sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sy’n gweithio gyda’i gilydd, a chyda’r trydydd sector a phartneriaid eraill, i ddarparu gwasanaethau effeithiol a di-dor i bobl ledled Cymru. 

Gweithlu a Sgiliau

  • Mae gweithlu llywodraeth leol yn darparu arweinyddiaeth a gwasanaethau hanfodol. Fodd bynnag, mae llawer o alwedigaethau'n wynebu heriau o ran recriwtio a chadw staff, fel gofal cymdeithasol, cynllunio, ac arbenigeddau amgylcheddol a pheirianneg. Rhaid i ni hefyd recriwtio a datblygu sgiliau newydd, gan amrywio ein sylfaen sgiliau i ddiwallu anghenion a chyfleoedd yn y dyfodol. 
     
  • Bydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo llywodraeth leol fel cyflogwr o ddewis ac i ddenu unigolion amrywiol a medrus. Byddwn yn cefnogi mentrau recriwtio a chadw staff, ac yn croesawu cyfleoedd digidol i ddatblygu sgiliau digidol ac arweinyddiaeth. Byddwn hefyd yn hyrwyddo rhaglenni datblygiad proffesiynol, yn cynyddu amrywiaeth y gweithlu, gan gynnwys mewn rolau arwain, ac yn gweithio i roi terfyn ar ymddygiad difrïol tuag at weithlu llywodraeth leol.

Partneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg

  • Mae partneriaeth gymdeithasol a gwaith teg yn egwyddorion hanfodol yn y berthynas rhwng Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru. Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo a chryfhau cydweithio effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a’n hundebau llafur cydnabyddedig er mwyn cynyddu llesiant a darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Arwain drwy esiampl drwy hyrwyddo ymddygiadau a ffyrdd o weithio sy’n seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch at ein gilydd, er mwyn adeiladu ar y dyletswyddau a’r egwyddorion sylfaenol a amlinellir yn Neddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023.

Mynd i'r afael â difrïo mewn gwleidyddiaeth

  • Mae bygwth a difrïo cynghorwyr, boed hynny wyneb yn wyneb neu drwy ddulliau eraill, yn peryglu democratiaeth. Gall rwystro swyddogion etholedig rhag gwasanaethu eu cymunedau, gwneud i unigolion beidio â sefyll i gael eu hethol, ac erydu hyder y cyhoedd mewn systemau democrataidd. 
     
  • Wrth fynd i’r afael â difrïo mewn gwleidyddiaeth, gallwn hyrwyddo llywodraeth leol fel llwybr cadarnhaol i fenywod, pobl iau ac eraill gyfrannu at eu cymunedau, eu gwlad, ac at ddemocratiaeth leol.
     
  • Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol wedi ymrwymo i gydweithio i fynd i’r afael â difrïo ar bob lefel. Gall y rhai sy’n cael eu hethol ar lefel genedlaethol neu leol wynebu difrïo wyneb yn wyneb neu ar-lein, a byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gael gwared ar ymddygiad gwael ac annerbyniol o fywyd democrataidd. 
     
  • Gall ymddygiad difrïol fod tuag at weithlu llywodraeth leol hefyd, a gallai’r bygythiad o hynny atal ymgeiswyr da rhag gwneud cais i ymuno. Gyda’n gilydd, rydym wedi ymrwymo i roi terfyn ar ymddygiad difrïol ac annerbyniol ar bob lefel o lywodraeth leol. 

Datblygu cynaliadwy

  • Mae ein gwaith partneriaeth yn cwmpasu ystyriaethau diogelu’r amgylchedd, tegwch cymdeithasol, ffyniant economaidd a llesiant diwylliannol, yn unol â’r nodau llesiant a’r ffyrdd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae sicrhau ‘pontio teg’ a meithrin gwydnwch cymunedol yn wyneb newid yn yr hinsawdd yn ystyriaethau allweddol yn yr ymgyrch dros weithgareddau a chanlyniadau mwy cynaliadwy. 

Datblygu ac Adfywio Economaidd

  • Rydym yn cydnabod cyfraniad llywodraeth leol at ddatblygu economi Cymru, yn enwedig ei rôl fel sbardun i adfywio a gweithgarwch economaidd lleol, a’i rôl strategol ehangach.
     
  • Byddwn yn cydweithio i fynd ar drywydd adfywio trefol a gwledig yn ein cymunedau, gan gynnwys gweithredu ar ganol trefi, cefnogi eu rôl o ran creu lleoedd a bywyd cymunedol.

Pennod Pump: Cyllid, lleihau biwrocratiaeth, a gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y sector

Cyllid

  • Rydym yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth leol, gan gynnwys eu heffeithiau ehangach. Rydym hefyd yn cydnabod bod angen i Lywodraeth Cymru gydbwyso cyllid ar gyfer llywodraeth leol o fewn yr amlen ariannol sydd ar gael i gefnogi ehangder ei chyfrifoldebau a’i blaenoriaethau. 
     
  • Mae gweithio mewn partneriaeth ddibynadwy yn golygu y bydd llywodraeth leol yn cael cyfleoedd i ymgysylltu’n gynnar â phroses gyllidebol Llywodraeth Cymru. Bydd y prosesau ymgysylltu a nodir ym Mhennod Chwech yn hwyluso hyn ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn deall y pwysau sy’n wynebu llywodraeth leol, eu goblygiadau a phopeth a ofynnir o lywodraeth leol ar draws ystod lawn o bortffolios y Llywodraeth.
     
  • Cytunir ar setliadau ariannol aml-flwyddyn lle bynnag y bo modd, yn unol â chyllid Llywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru a chylchoedd ariannol a gwleidyddol.
     
  • Bydd gwaith ar y cyd hefyd yn cael ei wneud i ddatblygu dull mwy strategol a chynaliadwy o ymdrin â chyllid trawsnewid digidol, gyda buddsoddiad yn canolbwyntio ar ganlyniadau wedi'u diffinio ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac anghenion ar sail tystiolaeth. Byddwn yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn galluoedd cyffredin hirdymor, cynnyrch y gellir eu hailddefnyddio a sylfeini cyffredin i sicrhau mwy o werth i Gymru. 

Dulliau ar gyfer neilltuo cyllid

  • Mae’r Grant Cynnal Refeniw yn rhoi hyblygrwydd i gynghorau gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol a lleol, gan flaenoriaethu cyllid i ddarparu gwasanaethau i ddiwallu anghenion cymunedau lleol. Bydd lefelau’r cyllid a gaiff ei neilltuo o dan y setliad llywodraeth leol yn cael eu hadolygu ar y cyd, a bydd grantiau’n cael eu dad-neilltuo neu eu cyfuno ymhellach lle bo hynny’n bosibl. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i gynghorau gael yr hyblygrwydd i reoli eu hadnoddau’n effeithiol.
     
  • Mae’r Protocol ar Grantiau wedi’u Neilltuo, sydd wrthi'n cael ei ddatblygu ar y cyd fel rhan o’r gyfres hon o gytundebau, yn nodi’r dull gweithredu y cytunir arno gan Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol ar gyfer pennu, gweithredu, ac adolygu cynlluniau grantiau wedi’u neilltuo.
     
  • Bydd y protocol yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu cymaint o sicrwydd ariannol â phosibl mewn perthynas â chyllid wedi’i neilltuo ac i gael strategaeth tymor hir wedi’i datgan a’i chytuno’n glir ar gyfer pob un. 

Trethi Lleol

  • Mae cynghorau lleol yn atebol i’w hetholwyr. Credwn y dylid rheoli pwysau treth gyngor ar aelwydydd gymaint ag y bo modd o fewn yr amlen wariant eang sydd ar gael a’r dewisiadau sydd i’w gwneud ar wasanaethau. Mae penderfyniadau ynghylch pennu lefelau’r dreth gyngor yn lleol yn rhan bwysig o fandadau democrataidd lleol, a dylid defnyddio pwerau Gweinidogion Cymru i gapio’r dreth gyngor fel dewis olaf ar ôl ymgysylltu’n llawn â llywodraeth leol drwy’r Is-grŵp Cyllid a CLlLC. Bydd awdurdodau lleol yn ystyried cynlluniau tymor canolig ar gyfer codiadau yn y dreth gyngor, a bydd ymgysylltiad cynnar rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru bob blwyddyn yn helpu i liniaru’r pwysau tymor byr ar drethdalwyr. 
     
  • Pan fydd diwygiadau wedi’u cynllunio ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig yn y dyfodol, byddwn yn ymgysylltu ar y cyd drwy gydol y broses o ddatblygu a chyflawni polisi er mwyn sicrhau bod y systemau treth lleol yn aros yn sefydlog ac effeithiol.
     
  • Rydym yn cytuno i weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod gweinyddu trethi lleol mor effeithiol â phosibl, gan gynnal arferion casglu teg a lleihau achosion o osgoi trethi. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi’n ddigonol mewn systemau gweithredol a staff allweddol sy’n hanfodol i briodoldeb ariannol. 
     
  • Mae Llywodraeth Cymru yn agored i archwilio hyblygrwydd ariannol ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol i’w helpu i reoli eu harian eu hunain yn fwy effeithiol, cynhyrchu refeniw ychwanegol a galluogi gwasanaethau lleol i gael eu darparu’n well.

Lleihau biwrocratiaeth 

  • Byddwn yn parhau i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ac yn gwreiddio ymddygiad partneriaeth ddibynadwy drwy gydol y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau, cynllunio, monitro a gwerthuso.
     
  • Rydym wedi ymrwymo i leihau llwyth gwaith ac osgoi gwastraffu adnoddau, gan ganolbwyntio ar ymdrechion cydweithredol nad ydynt yn dibynnu ar systemau gweinyddol helaeth.
     
  • Bydd dull digidol yn gwella cydweithio, yn cael gwared ar ddyblygu, ac yn gwella dulliau safoni prosesau. 
     
  • Dim ond data angenrheidiol a gwerthfawr y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gasglu’n genedlaethol, a bydd llywodraeth leol yn darparu adroddiadau data amserol o ansawdd uchel wedi’u hategu gan systemau digidol a data effeithlon.

Gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y sector

  • Mae gennym yr un ymrwymiad i ddefnyddio dulliau cadarn ac uchelgeisiol ar gyfer sicrhau gwelliannau sy'n cael eu harwain gan y sector sy’n cefnogi cynghorau i ymateb i heriau presennol wrth baratoi ar gyfer cyfleoedd a gofynion yn y dyfodol. Mae'r dull hwn yn seiliedig ar atebolrwydd democrataidd lleol, cydweithio a dysgu parhaus, a bydd yn helpu i sicrhau bod llywodraeth leol yng Nghymru yn fwy gwydn, effeithiol a chynaliadwy. 
     
  • Bydd llywodraeth leol a CLlLC yn cydweithio i gryfhau trefniadau gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y sector, fel eu bod yn edrych tua’r dyfodol, yn gymesur ac yn canolbwyntio ar anghenion yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys nodi themâu a phwysau sy’n dod i’r amlwg, rhannu dysgu ac arferion da, datblygu cymorth lle mae angen ar raddfa dorfol, a defnyddio egwyddorion gwelliannau sy’n cael eu harwain gan y sector drwy ganolbwyntio'n gytbwys ar wella gwasanaethau corfforaethol a blaenoriaethau cenedlaethol cyffredin. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad hollbwysig y sector a bydd yn parhau i’w gefnogi.
     
  • Rydym yn cydnabod bod llywodraeth leol yn gweithredu mewn amgylchedd cynyddol gymhleth. Gyda’n gilydd, byddwn yn datblygu gweledigaeth a model gweithredu cynaliadwy ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, gyda fframwaith canlyniadau ar gyfer llywodraeth leol sy’n cefnogi atebolrwydd lleol, gwelliannau a dysgu. Bydd y dull hwn yn cryfhau cyd-ddealltwriaeth o ganlyniadau, yn darparu gwybodaeth i lywio’r broses o wneud penderfyniadau, ac yn cefnogi’r gwaith o fonitro’r uchelgeisiau a’r blaenoriaethau cyffredin a nodir yn y Cytundeb hwn. 
     
  • Byddwn yn defnyddio gwybodaeth am y sector i nodi heriau, cyfleoedd a dulliau llwyddiannus a’u rhannu ar draws cynghorau i nodi gwersi i’w dysgu a sicrhau gwelliannau. 
     
  • Byddwn yn dylunio gwasanaethau a pholisïau o amgylch anghenion a phrofiadau pobl a chymunedau, gan ddefnyddio dulliau digidol, lle maent yn gwella canlyniadau a gwerth cyhoeddus.
     
  • Byddwn yn cryfhau’r arweinyddiaeth, y gallu a’r capasiti sydd ei angen i wireddu manteision trawsnewid digidol a deallusrwydd artiffisial. Byddwn yn nodi cyfleoedd i ddatblygu, caffael, ailddefnyddio ac ehangu atebion cyffredin er mwyn sicrhau mwy o werth a lleihau dyblygu. Gyda’n gilydd, byddwn yn mynd ar drywydd trawsnewid digidol ac yn defnyddio deallusrwydd artiffisial mewn ffyrdd sy’n ddiogel, yn foesegol, yn ddwyieithog, yn hygyrch, yn gynhwysol ac yn amgylcheddol gyfrifol. 

Pennod Chwech: Fframwaith ar gyfer Gweithio gyda’n Gilydd

Sut byddwn ni’n gweithio gyda’n gilydd

  • Mae trafodaethau cyson a thryloyw yn hanfodol er mwyn cydweithio mewn partneriaeth ddibynadwy. Byddwn yn harneisio manteision ein hyblygrwydd fel gwlad fach drwy gydweithio’n effeithiol ac effeithlon i leihau biwrocratiaeth a sicrhau gwerth i’n cymunedau.
     
  • Fel rhan o hyn, rydym yn ymrwymo i ymgysylltu ffurfiol a rheolaidd rhwng Cabinet Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr awdurdodau lleol i ganolbwyntio ar heriau a chyfleoedd cyffredin a fydd yn helpu i wella bywydau a phrofiadau pobl. Bydd codeiddio ein dull ar gyfer ymgysylltu drwy’r Cytundeb hwn yn helpu i ddiogelu’r berthynas at y dyfodol ac yn sicrhau ei bod yn parhau’n effeithiol y tu hwnt i newidiadau mewn arweinyddiaeth wleidyddol ar lefel genedlaethol neu leol.
     
  • Mae’r Cytundeb hwn yn ategu’r mecanweithiau ymgysylltu sy’n bodoli eisoes rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, gan gynnwys mecanwaith ymgysylltu statudol Cyngor Partneriaeth Cymru. Mae hefyd yn cydnabod pwysigrwydd yr amrywiaeth o ymgysylltu rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr awdurdodau lleol ar heriau cyffredin. 
     
  • Mae gan CLlLC amrywiaeth o fecanweithiau ar gyfer ymgysylltu â’i haelodau ar lefelau strategol a pholisi, er enghraifft, cyfarfodydd gwleidyddol, rhwydweithiau aelodau cabinet a chyfarfodydd dwyochrog. Mae CLlLC yn gwerthfawrogi cyfraniad Gweinidogion Cymru i’r cyfarfodydd hyn a hoffai i’r lefel hon o ymgysylltu barhau yn y dyfodol. Bydd Llywodraeth Cymru yn dibynnu ar CLlLC i ddarparu grym cynnull ac un sianel ar gyfer lleisio barn gyfunol awdurdodau lleol.
Mecanweithiau ymgysylltu Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol
Ymgysylltu â Phartneriaethau StatudolYmgysylltu â Phartneriaethau Anstatudol

Cyngor Partneriaeth Cymru

Y prif fforwm statudol ar gyfer cynnal trafodaethau a chydweithio rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol 

Caiff ei gadeirio gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am Lywodraeth Leol 

Cyfarfodydd rheolaidd rhwng Gweinidogion perthnasol Llywodraeth Cymru 

ac 

Arweinwyr Cynghorau

Cânt eu cadeirio gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am Lywodraeth Leol 

Yr Is-grŵp Cyllid

(gwleidyddol)

Ymgysylltu amserol a rheolaidd ar faterion cyllid llywodraeth leol 

Caiff ei gadeirio gan y Gweinidog sy’n gyfrifol am Lywodraeth Leol

Cyfarfodydd dwyochrog rhwng  Gweinidogion Llywodraeth Cymru ac Arweinwyr Cynghorau / llefarwyr CLlLC ar agendâu polisi cyffredin

Yr Is-grŵp Dosbarthu 

(swyddog) 

Yn gyfrifol am gynghori ar fformiwla gyllido llywodraeth leol

Cyfarfodydd o dan arweiniad CLlLC 

Cyfarfodydd rhwydwaith aelodau Cabinet CLlLC 

Cynhadledd a Chyfarfod Cyffredinol Blynyddol CLlLC 

Cyfarfodydd Gweithredol CLlLC a Chyngorau

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn mynychu fel y bo’n briodol/ar wahoddiad

Rhaid i’r holl ymgysylltu fod yn ystyrlon ac yn canolbwyntio ar gamau gweithredu a chanlyniadau er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr adnoddau a rannwn a darparu gwelliannau pendant i’r dulliau ar gyfer darparu gwasanaethau cyhoeddus.

Strwythurau a Mecanweithiau Partneriaeth

  • Ni fyddwn yn creu unrhyw strwythurau partneriaeth newydd heb fod yn glir ynghylch diben y polisi dan sylw a pha ganlyniadau a ddymunir. Yn gyntaf, rhaid i ni ddeall a defnyddio’r mecanweithiau partneriaeth sy’n bodoli eisoes ac y gellid o bosibl eu defnyddio i ymgysylltu ar bolisi neu fater cysylltiedig arall. Byddwn yn galluogi ein gilydd i herio unrhyw gynigion ar gyfer partneriaeth newydd a manteisio ar gyfleoedd i adolygu a rhesymoli lle y bo hynny'n briodol.

Datblygu Polisïau

Bydd arbenigedd mewn digidol, data a thechnoleg yn cael ei gynnwys yng nghamau cynnar y broses o lunio polisïau er mwyn sicrhau nad yw polisïau newydd yn cynyddu’r rhwystrau rhag trawsnewid digidol, a bydd timau cyflawni llywodraeth leol yn cael eu cynnwys drwy gydol y broses i gefnogi cynigion polisi newydd.

  • Byddwn yn ymgysylltu’n gynnar ac yn ystyrlon wrth ddatblygu polisïau sy’n effeithio ar lywodraeth leol i ddatblygu modelau ymarferol ar gyfer gweithredu, a dealltwriaeth o’r costau a’r canlyniadau i bobl.

Asesiadau Effaith Integredig

  • Mae Asesiadau Effaith Integredig, a ddatblygir ar y cyd, yn ffordd dda o sicrhau bod yr holl themâu ac egwyddorion sylfaenol yn cael eu hystyried. Bydd hyn yn cynnwys ‘prawfesur polisïau o safbwynt anghenion cefn gwlad’. Cynhelir asesiadau effaith integredig mewn ffyrdd sy’n gymesur â’r materion dan sylw. 

Pennod Saith: Adolygu, gwerthuso a datblygu’r Cytundeb

Wrth lofnodi’r Cytundeb newydd, mae hyn yn dangos ymrwymiad pawb i barhau â’r berthynas gadarnhaol er mwyn sicrhau canlyniadau gwell. Bydd y Cytundeb yn parhau i esblygu, yn enwedig wrth i’r Rhaglen Lywodraethu gael ei sefydlu ac wrth i Ran Dau newydd gael ei datblygu i ddarparu’r fframwaith ar gyfer nodi a mesur canlyniadau ac effaith.

Bydd y Cytundeb yn cael ei ddiweddaru a'i adolygu fel sy'n briodol, drwy’r mecanweithiau ymgysylltu presennol i sicrhau ei fod yn parhau i gyflawni ei fwriadau ac i asesu statws y berthynas. 

Dogfennau ategol a chytundebau

Ein bwriad bob amser fydd datblygu dogfennau ar wahân i gefnogi ac ategu’r ffyrdd o weithio. Bydd y rhain yn cael eu cyflwyno wrth iddynt gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru ac Arweinwyr awdurdodau lleol.