Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad sy'n rhoi amcangyfrif o faint yr holl fentrau sy'n gweithredu yng Nghymru ar gyfer 2021.

Prif bwyntiau

  • Amcangyfrifwyd bod 262,800 o fentrau'n weithredol yng Nghymru, gan gyflogi tua 1.2 miliwn o bobl.
  • Roedd y rhan fwyaf o fentrau gweithredol yn fusnesau bach a chanolig eu maint gyda 0 i 249 o weithwyr. Roeddent yn cyfrif am 99.4% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru yn 2021. Roedd microfusnesau (0 i 9 o weithwyr) yn cyfrif am 95.0% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru.
  • Roedd 37.4% o gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o fewn mentrau mawr (y rhai sydd â 250 neu fwy o weithwyr), o'i gymharu â 39.7% ar gyfer y DU cyfan.
  • Ers 2003 bu lleihad o 4.2 pwynt canran yng nghyfran y gyflogaeth mewn mentrau mawr.
  • Roedd tua 0.5 % o fentrau byw yng Nghymru a pherchentyaeth tu allan i’r DU. Roedd y rhain yn cynrychioli 14.2% o’r gyflogaeth.
  • Roedd amrywiad sylweddol rhwng sectorau diwydiant, gyda swyddi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a pysgota wedi eu dominyddu gan ficrofusnesau (87.3%) a chyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu wedi eu crynhoi yn y band maint mwyaf (50.1%).

Adroddiadau

Dadansoddiad o faint y busnesau: 2021 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 541 KB

PDF
Saesneg yn unig
541 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.