Neidio i'r prif gynnwy

Mae canlyniadau’r dadansoddiad hwn wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r sylfaen dystiolaeth sy’n sail i ddogfen Llywodraeth Cymru, y Cynllun Gweithredu Allforio a gyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2020.

Cefndir

Er mwyn deall cryfderau Cymru yn well o ran allforio nwyddau, mae data masnach wedi cael ei ddadansoddi i sefydlu meysydd o fantais gymharol hy lle mae Cymru’n perfformio’n well na chyfartaledd y byd o ran allforio mewn sectorau penodol. Roedd diffyg data manwl am wasanaethau yng Nghymru yn golygu bod y dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar allforio nwyddau Cymru yn unig. Cafodd y dadansoddiad hwn ei wneud drwy ddefnyddio Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEM a COMTRADE y Cenhedloedd Unedig (CU) ar gyfer mewnforion (a) y byd, gan ddefnyddio cyfartaledd tair blynedd (2015 i 2017) i wrthweithio anwadalrwydd data masnach.

Cafodd perfformiad allforio Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd hefyd ei gymharu â gwledydd â mantais gymharol debyg i Gymru.

Mae damcaniaeth economaidd mantais gymharol sy’n seiliedig ar waith David Ricardo yn creu cysylltiadau rhwng cynhyrchiant ac allforion. Mae’n dadlau y dylai gwledydd ganolbwyntio eu hadnoddau ar gynhyrchu nwyddau y mae ganddynt fantais gymharol o ran cost ar eu cyfer. Mae’r ddamcaniaeth yn rhagdybio bod patrymau masnachu rhwng gwledydd yn cael eu llywodraethu gan wahaniaethau mewn cynhyrchiant. Er bod iddi gyfyngiadau, mae’r ddamcaniaeth yn creu sail ar gyfer archwilio data masnach i ddatgelu’r gwahaniaethau hyn mewn cynhyrchiant a’r fantais neu’r anfantais gymharol sydd gan wlad mewn dosbarth penodol o nwyddau. Mae Atodiad 1 yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ddamcaniaeth mantais gymharol.

(a) Defnyddir data mewnforio i fesur y fasnach sy’n llifo rhwng gwledydd, a ddefnyddir i gyfrifo gwerth allforion. Ystyrir bod data mewnforion yn fwy cywir gan y gall mewnforion gynhyrchu refeniw tariff, ond yn gyffredinol nid yw allforion yn gwneud hynny. Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio data COMTRADE ar gael o The World Bank: World Integrated Trade Solution.

Methodoleg

Data

Gwnaed y dadansoddiad hwn gan ddefnyddio data a oedd ar gael yn gyhoeddus, Ystadegau Masnach Ranbarthol CThEM ar gyfer allforion Cymru a COMTRADE (CU) ar gyfer mewnforion y byd. Defnyddiwyd cyfartaledd tair blynedd i wrthbwyso anwadalrwydd data masnach.  Cafodd y dadansoddiad ei gynnal yn wreiddiol yn 2019, ac roedd yn seiliedig ar y data diweddaraf a oedd ar gael ar y pryd, ac nid yw’n adlewyrchu data mwy diweddar sydd wedi dod ar gael ers hynny. Fodd bynnag, mae’r profion anwadalrwydd a gynhaliwyd ar sail cyfres hirach cyn-2017 yn awgrymu mai bach iawn yw’r newidiadau mewn mantais gymharol dros amser.

Adroddir ar ddata Comtrade y Cenhedloedd Unedig mewn doleri’r Unol Daleithiau ($), felly defnyddiwyd y cyfraddau cyfnewid canlynol i drosi i £ sterling.

Cyfradd cyfnewid
  2015 2016 2017
£/$ 1.529 1.354 1.289

Ffynhonnell: Banc Lloegr

Ymagwedd

Roedd y dadansoddiad yn cynnwys dau gam, y cyntaf i nodi mantais gymharol Cymru (gan ganolbwyntio ar gryfderau allforio) a’r ail i nodi bylchau mewn gwerth allforio a modelu cyfleoedd posibl ar gyfer cynyddu allforion nwyddau Cymru.

Dadansoddiad o’r Fantais Gymharol a Ddatgelwyd

Perfformiad Cymru ar allforio o’i gymharu â chyfartaledd y byd ar gyfer y sector hwnnw i ganfod meysydd allweddol lle y mae Cymru’n dangos cryfder o ran allforio. Mae’r dadansoddiad yn defnyddio data gwerth masnach ryngwladol.

Lluniwyd y mynegai mantais gymharol (RCA) ar gyfer nwydd i yng Nghymru gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

RCA(i) [(Allforion Cymru o nwydd i i’r byd)/(Allforion Cymru o bob nwydd i’r byd)] [(Allforion y Byd o nwydd i i’r byd)/(Allforion y Byd o bob nwydd i’r byd)]

O’r fan hon, lluniwyd fersiwn wedi’i normaleiddio o RCA (o’r enw NRCA) gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

NRCA(i) = (RCA(i) – 1)/(RCA(i) + 1)

Roedd hyn yn golygu bod modd dehongli’r canlyniadau’n rhwydd gan fod gwerth positif yn dangos mantais gymharol tra bod gwerth negyddol yn dangos anfantais gymharol.

Model Bwlch Gwerth Allforio

Perfformiad allforio Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd o’i gymharu â pherfformiad gwledydd cymharol penodol i nodi ‘bwlch gwerth allforio’, hy gwerth ychwanegol allforion y gallai Cymru eu cyflawni, pe baent yn gwella eu perfformiad i gyfateb i’r wlad gymharol yn y sector a’r farchnad honno.

Mae’r model Bwlch Gwerth Allforio yn defnyddio data ar lefel Cymru ac yn ei gysylltu â data masnach ryngwladol a gasglwyd gan UN COMTRADE. Mae’r cyfateb hwn yn ei gwneud yn bosibl cymharu allforion Cymru â rhai gwlad sy’n cystadlu ar draws gwahanol sectorau a gwledydd. Lle mae Cymru’n tanberfformio o’i chymharu â gwlad debyg sy’n cystadlu, mae’r model yn meintioli ‘bwlch gwerth allforio’, hy y gwerth ychwanegol y gellid ei sicrhau pe bai Cymru’n gwella ei pherfformiad allforio i gyfateb â pherfformiad y cystadleuydd.

Mae’r model yn cael ei gyfrifo ar draws 66 o sectorau nwyddau a 99 o wledydd gan ddefnyddio cyfartaledd tair blynedd (2015 i 17).

Dewis gwledydd cymharol

Mae’r model yn gofyn am ddetholiad o wledydd cymharol rhyngwladol tebyg i gymharu allforion Cymru yn eu herbyn. Dewiswyd y cymaryddion ar sail bod ganddynt boblogaeth debyg, cymysgedd o allforion a threfniadau masnachu cyfredol gyda gwledydd eraill. Maent hefyd yn cael eu dewis ar sail eu lleoliad daearyddol, mae’r llenyddiaeth economaidd yn cefnogi’n gryf y syniad bod y pellter daearyddol rhwng dwy wlad yn benderfynydd pwysig o ran y swm y maent yn ei fasnachu, felly mae’r holl wledydd a ddewiswyd yn Ewrop.

Oherwydd anawsterau o ran canfod cymaryddion o faint tebyg i Gymru, roedd y rhai a ddewiswyd yn seiliedig yn bennaf ar gymysgedd allforio ac amodau masnachu. Er mwyn sicrhau cymhariaeth deg, cafodd y bylchau mewn gwerth allforio eu haddasu i gyfrif am wahaniaethau maint rhwng Cymru a’r wlad a ddewiswyd i gymharu.

Dewiswyd y cystadleuydd mwyaf tebyg o grŵp o gymaryddion drwy nodi’r wlad sydd â’r NRCA tebycaf i Gymru ar gyfer pob grŵp cynnyrch. Ni chafodd gwledydd cymharol gyda mantais gymharol fwy o lawer na Chyrmu eu hystyried. Roedd hyn yn un cam i sicrhau bod y bylchau gwerth a nodwyd yn parhau’n realistig ac nad oedd cymhariaeth yn cael ei gwneud â gwledydd â mantais sylweddol dros Gymru.

Mae’r dadansoddiad hwn wedi’i gwblhau gan ddefnyddio’r canlynol fel gwledydd cymharol:

  • Norwy
  • Y Ffindir
  • Denmarc
  • Iwerddon
  • Yr Alban
Tabl 1: Cynnyrch domestig gros (GDP) y wlad gymharol a’i maint cymharol
Gwlad  GDP, 2017 (£bn) Gwahaniaeth maint o gymharu â Chymru 
Cymru  70.3 1.0
Y Ffindir  176.9 2.5
Norwy (a) 215.4 3.1
Denmarc 217.2 3.1
Yr Alban  156.2 2.2

Ffynhonnell: Eurostat

(a) Mae’r data diweddaraf sydd ar gael ar gyfer 2016.

I sicrhau bod y gymhariaeth â phob cystadleuydd a ddewiswyd yn deg, caiff y dewis o gystadleuydd ei sgrinio i gael gwared ar barau cyffiniol (e.e. byddai’n gymhariaeth annheg cymharu allforion Cymru âi’r Almaen â’r rhai i Ddenmarc, gan fod Denmarc yn rhannu ffin tir â’r Almaen). Os yw’r cystadleuydd a’r farchnad darged a ddewiswyd yn gyffiniol, caiff y cystadleuydd sy’n ail ddewis gorau ei ddewis yn lle hynny. Mae gwybodaeth am y wlad gystadleuol a ddewiswyd ar gyfer pob grŵp cynnyrch ar gael yn Atodiad 5.

Cyfrifo’r bwlch gwerth allforio

Diffinnir y ‘bwlch gwerth allforio’ fel y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng allforion Cymru i farchnad benodol ac allforion y cystadleuydd a ddewiswyd i’r un farchnad. Mae ‘bylchau gwerth allforio’ yn cael eu cyfrifo ar gyfer pob pâr sector-gwlad. Gellir agregu’r rhain wedyn drwy grynhoi’r gwledydd neu’r sectorau.

Nid yw’r bylchau gwerth a nodwyd gan y model yn edrych yn unig ar faint o werth ychwanegol y mae’r cystadleuwr tebycaf yn ei allforio i farchnad benodol. Mae maint cymharol cyfanswm yr allforion rhwng y cystadleuydd a Chymru hefyd yn cael ei ystyried ac mae’r bwlch gwerth yn cael ei addasu yn unol â hynny. Er enghraifft, y Ffindir yw cystadleuydd tebycaf Cymru ar gyfer Haearn a Dur. Fodd bynnag, mae gan y Ffindir economi fwy na Chymru, felly er bod ganddi NRCA tebyg, dim ond 35% o allforion y Ffindir yw Haearn a Dur. I gyfrif am y gwahaniaeth hwn ym maint y sector, mae’r bwlch gwerth rhwng Cymru a’r Ffindir yn cael ei leihau i’r un ganran.  Mae’r bylchau gwerth wedi’u haddasu yn cael eu rhoi yn eu cyd-destun yn y model drwy gyflwyno’r cynnydd yng nghyfanswm allforion sector Cymru sydd ei angen i gau’r bwlch gwerth wedi’i addasu.

Ffactorau i’w hystyried a chyfyngiadau

Dylid edrych ar ganlyniadau’r dadansoddiad hwn yng nghyd-destun ffactorau ehangach nad ydynt yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y gwaith hwn. Amlinellir y rhain yn fyr isod.

Twf byd-eang

Mae twf masnach byd-eang wedi arafu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, wedi’i ysgogi’n rhannol gan ddiffyndollaeth masnach a chynnydd cysylltiedig mewn ansicrwydd byd-eang, sydd wedi’i waethygu ymhellach gan bandemig Covid-19. Mae amcangyfrifon WTO yn dangos bod masnach eisoes yn arafu; roedd nifer y nwyddau a fasnechir wedi gostwng 0.1% yn 2019, ac roedd cyflymder yr ehangu ym masnachu gwasanaethau byd-eang wedi arafu i 2% (i lawr o 9% yn 2018).  Byddai twf arafach yn y byd yn awgrymu bod llai o alw am allforion yn gyffredinol, ac felly’n lleihau’r potensial i Gymru gyflawni’r perfformiad allforio gwell a amlinellir yn Nhabl 2.

Twf sector

Mae’r llwybrau twf yn y sectorau penodol a nodwyd angen eu hystyried, gan fod sector sy’n profi twf sefydlog neu sy’n dirywio yn dangos y gallai’r posibiliadau ar gyfer tyfu allforion o Gymru yn y sector hwn fod yn gyfyngedig.

Effaith amnewid

Mae Cymru’n wlad lai o’i chymharu â rhai o’i chystadleuwyr, o ran maint y boblogaeth a’r economi. Mae’r cyfyngiadau hyn ar gapasiti Cymru yn golygu y gallai’r cyfle i sicrhau cynnydd mawr mewn allforion mewn cyfnod byr fod yn heriol.  O ystyried hyn, mae’n debygol, er mwyn manteisio ar y cyfleoedd a nodwyd, y bydd rhywfaint o amnewid yn digwydd lle y gall allforwyr symud eu ffocws tuag at sectorau penodol ac oddi wrth sectorau eraill.  Wrth wneud hyn, dylid ystyried gwerth ychwanegol y sectorau hyn o ran Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) a chyflogaeth er mwyn cynyddu i’r eithaf effaith y cyfleoedd hyn ar yr economi ddomestig.

Amodau masnachu

Bydd gallu allforwyr Cymru i wella eu perfformiad yn dibynnu ar delerau eu cysylltiadau masnachu â gwledydd eraill hy pa rwystrau masnach maent yn eu hwynebu.  Mae hwn yn ffactor allweddol i’w ystyried wrth sefydlu gwir botensial y cyfleoedd a nodwyd, yn enwedig yng nghyd-destun ymadael â’r UE.

Elastigedd y galw

Mae dadansoddiad gan BEIS yn dangos bod elastigedd y galw yn wahanol ar draws cynnyrch a gwledydd, felly bydd angen ystyried hyn wrth ddehongli gwir werth y cyfleoedd posibl ar gyfer allforio nwyddau o Gymru.

Sefydlogrwydd dros amser

Mae data masnach nwyddau lefel Cymru ar gael o 2007, ond newidiodd CThEM ei fethodoleg yn 2013. Felly, er ein bod yn gwybod bod mantais gymharol Cymru wedi parhau’n sefydlog dros y 5 mlynedd diwethaf (2013 i 2017), nid ydym yn gwybod llawer am ba mor sefydlog ydyw dros gyfnod hwy o amser.

Cafeatau

Er bod y dadansoddiad hwn yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gryfderau allforio Cymru 2015 i 2017, mae nifer o gafeatau sy’n golygu mai dangosol yn unig yw’r canfyddiadau hyn.  Mae’r cafeatau hyn yn cynnwys:

Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar ystadegau masnach ranbarthol CThEM sy’n dosrannu masnach nwyddau’r DU i ranbarthau ar sail cyflogaeth – gall y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r dull dosrannu olygu bod cryfder Cymru mewn rhai sectorau wedi’i amcangyfrif yn rhy uchel neu’n rhy isel.   

Er gwaethaf llunio’r mynegeion yn seiliedig ar gyfartaledd o 3 blynedd i leihau effaith anwadalrwydd masnach, mae’r ffaith bod allforio nwyddau o Gymru yn seiliedig ar nifer cymharol fach o gwmnïau yn golygu y gall fod cysylltiad agos rhwng mantais gymharol Cymru mewn rhai sectorau a gweithgareddau nifer fach o gwmnïau. 

Nid yw dadansoddi ond yn rhoi cipolwg ar fantais gymharol Cymru yn y gorffennol – nid yw’n rhoi llawer o syniad o beth fydd mantais gymharol Cymru yn y dyfodol, er bod dadansoddiad pellach yn dangos bod y fantais gymharol yn weddol sefydlog dros amser.   

Mae’r dadansoddiad wedi’i ddiffinio ar lefel dosbarthiad SITC2 ar gyfer nwyddau, sef y lefel fwyaf manwl o ddata sydd ar gael ar gyfer allforion nwyddau o Gymru. Er bod hyn yn darparu lefel resymol o ddadgyfuno, mae’r categorïau’n dal i gynnwys amrywiaeth o gynnyrch sydd weithiau’n eithaf gwahanol.  Mae hyn yn awgrymu y byddai’n bosibl i’r dadansoddiad ddefnyddio cystadleuydd sy’n eithaf tebyg i Gymru ar lefel y sector ehangach, ond sydd mewn gwirionedd yn cynhyrchu nwyddau o fewn cod y sector hwnnw sy’n eithaf gwahanol i’r rhai y mae busnesau Cymru’n eu cynhyrchu. Er enghraifft, mae ‘79 - Cyfarpar trafnidiaeth arall’ yn cynnwys masnachu mewn cerbydau rheilffordd, awyrennau, llongau a chychod ymysg eraill. Felly, mae’n bwysig deall y cynnyrch mae cystadleuydd yn ei fasnachu ym mhob dosbarthiad SITC2.

Ac ystyried y cyfyngiadau hollbwysig hyn, mae’n bwysig nodi mai bwriad y dadansoddiad hwn yw tynnu sylw at gyfleoedd posibl ar gyfer allforio nwyddau o Gymru, y dylid eu hystyried ochr yn ochr â thystiolaeth arall.

Canlyniadau

Grwpiau cynnyrch gyda mantais gymharol

Yn ôl cam cyntaf y dadansoddiad hwn, roedd gan Gymru fantais gymharol mewn 8 o’r 66 grŵp cynnyrch eang dros gyfnod 2015 i 2017. Mae Atodiad 2 yn cynnwys rhestr gyflawn o grwpiau cynnyrch a’u sgôr mantais (neu anfantais) gymharol.

Y fantais gymharol fwyaf oedd o fewn ‘Darnau arian (ac eithrio aur), nad ydynt yn arian cyfreithiol’ a ‘chyfarpar trafnidiaeth arall’. Ceir rhestr lawn o fantais gymharol Cymru yn Nhabl 2.

Tabl 2: Grwpiau cynnyrch lle roedd gan Gymru fantais gymharol (2015 i 2017)
Grwpiau Cynnyrch  Mantais Gymharol a Ddatgelwyd wedi’i Normaleiddio (cyfartaledd 2015 i 2017) (a)
96 Darnau Arian (ac eithrio darnau arian aur), nad ydynt yn arian cyfreithlon 0.91
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall 0.86
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer 0.66
67 Haearn a dur 0.41
35 Cerrynt trydanol 0.20
02 Cynnyrch llaeth ac wyau adar 0.19
58 Plastigion mewn ffurfiau nad ydynt yn rhai sylfaenol 0.15
82 Celfi a rhannau ohonynt; dillad gwely, matresi ac ati 0.12
00 Anifeiliaid byw ac eithrio anifeiliaid adran 03 0.12

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach a Ranbarthol CThEM a comtrade y CU

(a) Defnyddiwyd fersiwn wedi’i normaleiddio o fantais gymharol i helpu i ddehongli, roedd gwerth cadarnhaol yn dangos mantais gymharol, gan dyfu’n gryfach wrth ddynesu at 1. Er mwyn osgoi camadnabod y fantais gymharol, dim ond grwpiau cynnyrch sydd â sgorau NRCA o > 1.10 a gafodd eu hamlygu fel rhai â mantais gymharol. Mae cyfyngiadau a chafeatau’r data yn golygu y dylid dehongli’r canlyniadau hyn gan ddefnyddio gwybodaeth y sector a’r farchnad i archwilio eu hygrededd.

Bylchau gwerth allforio

Roedd ail ran y dadansoddiad yn cynnwys cymharu perfformiad allforio nwyddau Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd unigol â pherfformiad gwledydd cymharol tebyg ar sail ffactorau yn cynnwys cysylltiadau masnachu, lleoliad daearyddol a chymysgedd allforio. Roedd natur gymharol unigryw Cymru ar draws y ffactorau hyn yn golygu bod dewis gwledydd cymharol addas yn heriol. Fodd bynnag, y gwledydd cymharol addas a nodwyd oedd Norwy, y Ffindir, Denmarc, Iwerddon a’r Alban. O’r grŵp hwn o wledydd cymharol, dewiswyd y cystadleuydd tebycaf. Dyma’r wlad sydd â’r NRCA agosaf at Gymru.

Roedd y dadansoddiad yn cynnwys 66 o sectorau nwyddau a 99(b) o wledydd ac yn golygu bod modd adnabod bylchau mewn gwerth allforio nwyddau ar gyfer Nghymru (hy gwerth ychwanegol allforio nwyddau y gallai gwlad ei sicrhau o fewn sector a marchnad benodol pe baent yn gwella eu perfformiad i gyfateb i berfformiad y wlad sy’n gystadleuydd agosaf iddynt). Roedd hyn yn helpu i ddod o hyd i feysydd a allai gynnig cyfleoedd posibl ar gyfer tyfu allforion nwyddau o Gymru

(b) Cafodd y data ar gyfer 13 o’r gwledydd hyn eu hatal, mae Atodiad 3 yn cynnwys rhestr gyflawn o’r gwledydd sydd wedi’u cynnwys yn y dadansoddiad yr oedd data ar gael ar ei gyfer     

O gofio’r anhawster o ran canfod gwledydd cymharol addas i Gymru, ychwanegwyd cymhariaeth rhwng maint y sectorau cymharol rhwng y gwledydd cymharol a Chymru at y model, gan addasu’r bwlch i roi amcangyfrif mwy realistig o’r cynnydd yn y gwerth posibl i allforion Cymru, yn seiliedig ar faint cymharol yr economi. Cyfrifwyd hefyd y cynnydd canrannol sydd ei angen ym mherfformiad allforio nwyddau Cymru i gau’r bwlch er mwyn darparu cyd-destun pellach. 

Gellir dadansoddi’r cyfleoedd a nodwyd ar gyfer allforio mwy o nwyddau o Gymru yn ôl gwlad neu sector. Dangosir yr 20 bwlch allforio uchaf yn ôl gwerth yn Nhabl 3 isod ac mae Atodiad 4 yn cynnwys crynodeb o ddadansoddiadau bylchau gwerth allforion ar gyfer marchnadoedd allweddol.

Er enghraifft, dangosodd y dadansoddiad hwn mai’r bwlch mwyaf o ran gwerth allforion Cymru oedd Haearn a Dur i’r Iseldiroedd. Wrth gyfateb perfformiad y Ffindir (y wlad gymharol) o ran allforio haearn a dur i’r Iseldiroedd, gallai Cymru fod wedi ychwanegu £280m at ei hallforion. I gyflawni hyn, byddai angen i sector Haearn a Dur Cymru gynyddu ei allforion 35%.

Tabl 3: 20 bwlch allforio a addaswyd uchaf ar gyfer Cymru yn ôl grwp cynnyrch a marchnad, 2015 i 2017(a)
Grwpiau cynnyrch (b) Marchnad Y cystadleuydd tebycaf  Bwlch gwerth wedi’i addasu gyda’r cystadleuydd, (£miliynau) Cynnydd yn allforion sector Cymru er mwyn cau’r bwlch gwerth wedi’i addasu
67 Haearn a dur Yr Iseldiroedd Y Ffindir 280.6 35%
77 Peiriannau, cyfarpar a chyfarpar trydanol, n.e.s a rhannau trydanol ohonynt. Yr Unol Daleithiau Iwerddon 266.2 37%
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall Norwy Yr Alban 232.9 6%
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig Yr Iseldiroedd Y Ffindir 166.6 12%
77 Peiriannau, cyfarpar a chyfarpar trydanol, n.e.s a rhannau trydanol ohonynt. Tsieina Iwerddon 153.7 21%
67 Haearn a dur Yr Almaen Y Ffindir 128.9 16%
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig Gwlad Belg Y Ffindir 116.6 8%
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall Yr Unol Daleithiau Yr Alban 101.5 3%
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig Latfia Y Ffindir 87.3 6%
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall Saudi Arabia Yr Alban 75.1 2%
77 Peiriannau, cyfarpar a chyfarpar trydanol, n.e.s a rhannau trydanol ohonynt. Israel Iwerddon 73.9 10%
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig Yr Almaen Y Ffindir 68.0 5%
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer Singapôr Yr Alban 64.7 4%
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer India Yr Alban 62.8 3%
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer Malaysia Yr Alban 62.2 3%
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall India Yr Alban 62.1 2%
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig Estonia Y Ffindir 59.7 4%
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer Canada Yr Alban 52.4 3%
72 Peiriannau arbennig ar gyfer diwydiannau penodol Norwy Yr Alban 51.8 17%
68 Metel anfferrus Gweriniaeth Gogledd Macedonia Yr Alban 51.2 15%

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach Ranbarthol a CThEM a comtrade y CU

(a) Er mwyn sicrhau cymhariaeth deg, addaswyd y bylchau gwerth allforio i gyfrif am wahaniaethau maint rhwng Cymru a'r wlad gymharol a ddewiswyd.
(b) n.e.s. = heb ei nodi mewn man arall.

Atodiad 1: Model Ricardaidd

Mae damcaniaeth economaidd mantais gymharol sy’n seiliedig ar waith David Ricardo yn cynnig dadl o blaid gwledydd sy’n canolbwyntio eu hadnoddau ar gynhyrchu nwyddau y mae ganddynt fantais gymharol o ran cost ar eu cyfer ac yn allforio’r rhain i weddill y byd. Dylent hwythau, yn eu tro, fewnforio’r nwyddau hynny y mae ganddynt anfantais gymharol wrth eu cynhyrchu. Dylai hyn, mewn theori, arwain at gynnydd yng nghyfanswm yr enillion masnach a lles, gan fod y cynhyrchu wedi’i leoli lle mae’n fwyaf effeithlon.

Mae’r Model Ricardaidd yn tybio bod dwy wlad, sy’n cynhyrchu dau fath o nwyddau, gan ddefnyddio un ffactor cynhyrchu, fel arfer llafur. Mae’r model yn fodel cydbwysedd cyffredinol lle mae pob marchnad yn gwbl gystadleuol a’r holl nwyddau sy’n cael eu cynhyrchu yn unffurf ar draws gwledydd. Mae llafur yn unffurf ac yn gwbl symudol o fewn gwlad ond efallai fod cynhyrchiant yn wahanol ac yn ddisymud ar draws gwledydd.  Rhagdybir defnydd llawn o lafur.  Gellir cludo nwyddau rhwng gwledydd heb unrhyw gostau cludo.

Mae prif gyfyngiadau’r ddamcaniaeth hon yn cynnwys tybiaethau afrealistig ynghylch costau hy ni roddir cyfrif am yr holl gostau cynhyrchu nad ydynt yn gysylltiedig â llafur, ac ni roddir ystyriaeth i rôl costau trafnidiaeth.  Tybir bod y costau’n gyson, ac felly methir rhoi cyfrif am effeithiau o ran darbodion maint wrth i lefelau cynhyrchu gynyddu.

Atodiad 2: mantais gymharol a ddatgelwyd wedi’i normaleiddio (cyfartaledd 2015 i 2017)

Table 4: NRCA ar draws holl grwpiau cynnyrch SITC 2, cyfartaledd 2015 i 2017
Grŵp Cynnyrch (SITC 2) (a) Mantais Gymharol a Ddatgelwyd wedi’i Normaleiddio (cyfartaledd 2015-17)
00 Anifeiliaid byw ac eithrio anifeiliaid adran 03 0.12
01 Cig a pharatoadau chig -0.09
02 Cynnyrch llaeth ac wyau adar 0.19
03 Pysgod, cramenogion, molysgiaid ac anifeiliaid dŵr di-asgwrn-cefn a pharatoadau ohonynt -0.61
04 Grawnfwydydd a pharatoadau grawnfwydydd -0.37
05 Llysiau a ffrwythau -0.94
06 Siwgr, paratoadau siwgr a mêl -0.64
07 Coffi, te, coco, sbeisys a’u cynnyrch  -0.80
08 Deunyddiau bwydo anifeiliaid (heb gynnwys grawnfwyd heb ei falu) -0.48
09 Cynnyrch a pharatoadau bwytadwy amrywiol -0.07
11 Diodydd -0.46
12 Tybaco a chynnyrch tybaco  -1.00
21 Crwyn a chrwyn ffwr, crai -0.05
22 Hadau olew a ffrwythau oeliog -1.00
23 Rwber crai (gan gynnwys synthetig ac adferedig) -0.61
24 Corc & phren -0.95
25 Mwydion a gwastraff papur -0.85
26 Ffibrau tecstilau heb eu gweithgynhyrchu a’u gwastraff ac ati -0.79
27 Gwrtaith crai a mwynau crai (ac eithrio tanwyddau ac ati) -0.82
28 Mwynau metelog a metel sgrap -0.22
29 Deunyddiau crai anifeiliaid a llysiau n.e.s. -0.78
32 Glo, golosg a brics glo -0.83
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig 0.07
34 Nwy, naturiol a gwneuthuredig -0.85
35 Cerrynt trydanol 0.20
41 Olewau a brasterau anifeiliaid -0.67
42 Brasterau ac olewau llysiau sefydlog, crai, puredig, wedi’u ffracsiynu -0.97
43 Brasterau ac olewau anifeiliaid neu lysiau, wedi’u prosesu, a chwyrau -0.87
51 Cemegion organig -0.16
52 Cemegau anorganig -0.52
53 Deunyddiau lliwio a barcio 0.05
54 Cynnyrch meddyginiaethol a fferyllol 0.08
55 Olewau hanfodol a deunyddiau persawr; paratoadau toiled ac ati 0.02
56 Gwrteithiau (heblaw am rai grŵp 272) -0.83
57 Plastigion ar ffurfiau sylfaenol -0.11
58 Plastigion ar ffurfiau nad ydynt yn sylfaenol 0.15
59 Deunyddiau a chynhyrchion cemegol n.e.s. 0.09
61 Lledr, cynhyrchion lledr n.e.s. a chrwyn ffwr wedi’u trin -0.92
62 Cynhyrchion rwber n.e.s. 0.02
63 Cynhyrchion corc a phren (ac eithrio dodrefn) -0.72
64 Papur, byrddau papur a chynhyrchion ohonynt -0.07
65 Edafedd tecstilau, ffabrigau, eitemau wedi’u gwneud ac ati -0.70
66 Cynhyrchion mwynau anfetelaidd n.e.s. -0.32
67 Haearn a dur 0.41
68 Metelau anfferrus 0.07
69 Cynhyrchion metel n.e.s. -0.02
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer 0.66
72 Peiriannau arbennig ar gyfer diwydiannau penodol -0.08
73 Peiriannau trin metel -0.32
74 Peiriannau ac offer diwydiannol cyffredinol a rhannau peiriannau n.e.s -0.39
75 Peiriannau swyddfa a pheiriannau adp -0.50
76 Offer a chyfarpar telegyfathrebu, recordio sain ac atgynhyrchu  sain -0.76
77 Peiriannau trydanol, offer a chyfarpar a darnau trydanol ohonynt n.e.s. -0.35
78 Cerbydau ffordd (gan gynnwys cerbydau clustogau aer) -0.44
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall 0.86
81 Adeiladau p/fab; gosodiadau glanhau, plymio, gwresogi a goleuo -0.35
82 Celfi a rhannau ohonynt; dillad gwely, matresi ac ati 0.12
83 Nwyddau teithio, bagiau llaw a chynwysyddion tebyg -0.66
84 Eitemau dillad ac ategolion dillad -0.57
85 Esgidiau -0.65
87 Gosodiadau a chyfarpar proffesiynol, gwyddonol a rheoli n.e.s. 0.01
88 Nwyddau ffotograffig a gweledol, n.e.s.; oriorau a chlociau -0.40
89 Amrywiol eitemau cynnyrch n.e.s. -0.15
93 Trafodiadau arbennig a nwyddau heb dosbarthu yn ôl math -0.70
96 Darnau Arian (ac eithrio darnau arian aur), nad ydynt yn arian cyfreithlon 0.91
98 Bwledi a chetris milwrol ..

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach a Ranbarthol CThEM a comtrade y CU

(a) n.e.s. = heb ei nodi mewn man arall.

Atodiad 3: gwledydd sydd wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad bwlch gwerth allforio

Gwledydd bwlch gwerth allforio
Algeria Gweriniaeth Dominica Kuwait Rwsia
Angola Ecwador Latfia Sawdi-Arabia
Ariannin Yr Aifft Lithwania Senegal
Awstralia Estonia Lwcsembwrg Serbia
Awstria Ethiopia Malaysia Singapôr
Azerbaijan Y Ffindir Malta Slofacia
Bahrain Ffrainc Mauritius Slofenia
Bangladesh Georgia Mecsico De Affrica
Gwlad Belg Yr Almaen Moroco Sbaen
Brasil Ghana Yr Iseldiroedd Sri Lanka
Bwlgaria Gwlad Groeg Seland Newydd Sweden
Camerŵn Hwngari Nigeria Y Swistir
Canada Gwlad yr Iâ Norwy Gweriniaeth Gogledd Macedonia
Chile India Oman Gwlad Thai
Tsieina Indonesia Pacistan Trinidad a Tobago
Hong Kong Gweriniaeth Iwerddon Panama Twrci
Colombia Israel Periw Yr Wcrain
Costa Rica Yr Eidal Gwlad Pwyl Yr Emiraethau Arabaidd Unedig
Croatia Japan Portiwgal Uruguay
Cyprus Gwlad Iorddonen Qatar Yr Unol Daleithiau
Y Weriniaeth Tsiec Kazakhstan De Korea Fietnam
Denmarc Cenia Rwmania  

Atodiad 4: trosolwg o ddadansoddiad o’r bwlch gwerth allforio ar gyfer marchnadoedd allweddol

Mae perfformiad allforio Cymru ar draws sectorau a marchnadoedd wedi cael ei gymharu â chystadleuwyr byd-eang eraill er mwyn dod o hyd i feysydd a allai gynnig cyfleoedd i allforio o Gymru, sy’n cael eu galw yn ‘fylchau gwerth allforio’.  Mae modd defnyddio’r dadansoddiad hwn i helpu i benderfynu ar y prif wledydd sydd â blaenoriaeth ar gyfer allforio o Gymru, er enghraifft, drwy edrych ar y 10 marchnad allforio uchaf ar gyfer 2019, a’r rheini lle mae gan Lywodraeth Cymru swyddfa:

Yr Almaen

Y brif gyrchfan ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£2.87bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Haearn a dur, Celfi a Phlastigion lle mae gan Gymru fantais gymharol gymedrol.

Ffrainc

Cyrchfan rhif 2 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (2.81bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Unol Daleithiau America

Cyrchfan Rhif 3 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (2.74bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Phlastigion lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.

Iwerddon

Cyrchfan rhif 4 ar gyfer allforio o Gymru (£1.69bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall a Pheiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Yr Iseldiroedd

Cyrchfan Rhif 5 ar gyfer allforio o Gymru (£0.97bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau. Allforio haearn a dur i’r Iseldiroedd sydd â’r bwlch gwerth mwyaf o’r holl gyfuniadau marchnad-sector. Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer, lle mae gan Gymru fantais gymharol gref, mae hefyd yn dangos bwlch gwerth.

Gwlad Belg

Cyrchfan Rhif 6 ar gyfer allforio o Gymru (£0.54bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Sbaen

Cyrchfan Rhif 7 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.46bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Plastigion a Chelfi lle mae gan Gymru fantais gymharol gymedrol.

Yr Emiraethau Arabaidd Unedig

Cyrchfan Rhif 8 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.46bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.

Tsieina

Cyrchfan Rhif 9 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.41bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.

Twrci

Cyrchfan rhif 10 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (0.34bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Cyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.

Japan

Cyrchfan Rhif 11 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.30bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer lle mae gan Gymru fantais gymharol gref a Haearn a dur lle mae ganddi fantais gymharol gymedrol.

Canada

Cyrchfan Rhif 14 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.23bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer a Chyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Qatar

Cyrchfan Rhif 17 ar gyfer allforio o Gymru (£0.20bn). Mae ein perfformiad allforio eisoes yn rhagori ar ein cystadleuwyr yn y sectorau lle mae gennym fantais gymharol. Mae nifer o sectorau eraill yn dangos bwlch gwerth wrth gymharu â’n cystadleuwyr.

India

Cyrchfan Rhif 21 ar gyfer allforio nwyddau o Gymru (£0.13bn). Canfuwyd bylchau gwerth ar draws nifer o sectorau, gan gynnwys Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer a Chyfarpar trafnidiaeth arall lle mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Gwledydd eraill i’w hystyried wrth ddadansoddi’r bwlch gwerth allforio.  Gan edrych ar sectorau penodol lle mae gan Gymru fantais gymharol, gwelir bylchau gwerth allforio gyda’r gwledydd canlynol:

Haearn a dur

Mae gan Gymru fantais gymharol gymedrol.

Wrth gymharu â’r Ffindir, y cystadleuydd sydd fwyaf tebyg i ni, mae’n datgelu bylchau gwerth allforio > £10miliwn ar gyfer y gwledydd ychwanegol hyn; yr Eidal, Rwsia, Gwlad Pwyl, Denmarc, Norwy.

Peiriannau sy’n cynhyrchu pŵer

Mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Wrth gymharu â’r Alban, y cystadleuydd sydd fwyaf tebyg i ni, mae’n datgelu bylchau gwerth allforio > £10miliwn ar gyfer y gwledydd ychwanegol hyn; Singapôr, Malaysia, Hong Kong, Gwlad Thai, Norwy.

Cyfarpar trafnidiaeth arall

Mae gan Gymru fantais gymharol gref.

Wrth gymharu â’r Alban, y cystadleuydd sydd fwyaf tebyg i ni, mae’n datgelu bylchau gwerth allforio > £10miliwn ar gyfer y gwledydd ychwanegol hyn; Norwy, Saudi Arabia, Brasil, Oman, yr Eidal, Malaysia, Twrci.

Atodiad 5: gwledydd cymharu ar gyfer grwpiau cynnyrch SITC 2

Tabl 5: Cystadleuydd tebycaf Cymru ar gyfer pob grŵp cynnyrch
Grŵp Cynnyrch (SITC 2) (a) Y cystadleuydd tebycaf 
00 Anifeiliaid byw ac eithrio anifeiliaid adran 03 Yr Alban
01 Cig a pharatoadau chig Yr Alban
02 Cynnyrch llaeth ac wyau adar Y Ffindir
03 Pysgod, cramenogion, molysgiaid ac anifeiliaid dŵr di-asgwrn-cefn a pharatoadau ohonynt Y Ffindir
04 Grawnfwydydd a pharatoadau grawnfwydydd Y Ffindir
05 Llysiau a ffrwythau Norwy
06 Siwgr, paratoadau siwgr a mêl Yr Alban
07 Coffi, te, coco, sbeisys a chynhyrchion ohonynt Yr Alban
08 Deunyddiau bwydo anifeiliaid (heb gynnwys grawnfwyd heb ei falu) Y Ffindir
09 Cynnyrch a pharatoadau bwytadwy amrywiol Norwy
11 Diodydd Y Ffindir
12 Tybaco a chynnyrch tybaco Norwy
21 Crwyn a chrwyn ffwr, crai Yr Alban
22 Hadau olew a ffrwythau oeliog Norwy
23 Rwber crai (gan gynnwys synthetig ac adferedig) Y Ffindir
24 Corc & phren Yr Alban
25 Mwydion a gwastraff papur Yr Alban
26 Ffibrau tecstilau heb eu cynhyrchu a’u gwastraff ac ati Norwy
27 Gwrtaith crai a mwynau crai (ac eithrio tanwyddau ac ati) Yr Alban
28 Mwynau metelog a metel sgrap Y Ffindir
29 Deunyddiau crai anifeiliaid a llysiau n.e.s. Y Ffindir
32 Glo, golosg a brics glo Iwerddon
33 Petrolewm, cynhyrchion petrolewm a deunyddiau cysylltiedig Y Ffindir
34 Nwy, naturiol a gwneuthuredig Y Ffindir
35 Cerrynt trydanol Denmarc
41 Olewau a brasterau anifeiliaid Y Ffindir
42 Brasterau ac olewau llysiau sefydlog, crai, puredig, wedi’u ffracsiynu Yr Alban
43 Brasterau ac olewau anifeiliaid neu lysiau, wedi’u prosesu, a chwyrau Iwerddon
51 Cemegion organig Y Ffindir
52 Cemegau anorganig Denmarc
53 Deunyddiau lliwio a barcio Denmarc
54 Cynnyrch meddyginiaethol a fferyllol Yr Alban
55 Olewau hanfodol a deunyddiau persawr; paratoadau toiled ac ati Denmarc
56 Gwrteithiau (heblaw am rai grŵp 272) Y Ffindir
57 Plastigion ar ffurfiau sylfaenol Y Ffindir
58 Plastigion mewn ffurfiau nad ydynt yn rhai sylfaenol Denmarc
59 Deunyddiau a chynhyrchion cemegol n.e.s. Denmarc
61 Lledr, cynhyrchion lledr n.e.s. a chrwyn ffwr wedi’u trin Norwy
62 Cynhyrchion rwber n.e.s. Y Ffindir
63 Cynhyrchion corc a phren (ac eithrio dodrefn) Yr Alban
64 Papur, byrddau papur a chynhyrchion ohonynt Denmarc
65 Edafedd tecstilau, ffabrigau, eitemau wedi’u gwneud ac ati Norwy
66 Cynhyrchion mwynau anfetelaidd n.e.s. Denmarc
67 Haearn a dur Y Ffindir
68 Metelau anfferrus Yr Alban
69 Cynhyrchion metel n.e.s. Yr Alban
71 Peiriannau a chyfarpar sy’n cynhyrchu pŵer Yr Alban
72 Peiriannau arbennig ar gyfer diwydiannau penodol Yr Alban
73 Peiriannau trin metel Denmarc
74 Peiriannau ac offer diwydiannol cyffredinol a rhannau peiriannau n.e.s Iwerddon
75 Peiriannau swyddfa a pheiriannau adp Yr Alban
76 Offer a chyfarpar telegyfathrebu, recordio sain ac atgynhyrchu sain Norwy
77 Peiriannau trydanol, offer a chyfarpar a darnau trydanol ohonynt n.e.s. Iwerddon
78 Cerbydau ffordd (gan gynnwys cerbydau clustogau aer) Denmarc
79 Cyfarpar trafnidiaeth arall Yr Alban
81 Adeiladau p/fab; gosodiadau glanhau, plymio, gwresogi a goleuo Norwy
82 Celfi a rhannau ohonynt; dillad gwely, matresi ac ati Norwy
83 Nwyddau teithio, bagiau llaw a chynwysyddion tebyg Yr Alban
84 Eitemau dillad ac ategolion dillad Y Ffindir
85 Esgidiau Y Ffindir
87 Gosodiadau a chyfarpar proffesiynol, gwyddonol a rheoli n.e.s. Denmarc
88 Nwyddau ffotograffig a gweledol, n.e.s.; oriorau a chlociau Denmarc
89 Amrywiol eitemau cynnyrch n.e.s. Yr Alban
93 Trafodiadau arbennig a nwyddau heb dosbarthu yn ôl math Yr Alban
96 Darnau Arian (ac eithrio darnau arian aur), nad ydynt yn arian cyfreithlon Y Ffindir
98 Bwledi a chetris milwrol Dim

Ffynhonnell: Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o Ystadegau Masnach a Ranbarthol CThEM a comtrade y CU

(a) n.e.s. = heb ei nodi mewn man arall.

Nodiadau ar y defnydd o erthyglau ystadegol

Yn gyffredinol, mae a wnelo erthyglau ystadegol â dadansoddiadau untro lle na fwriedir eu diweddaru, yn y byrdymor o leiaf, a'u diben yw sicrhau bod y fath ddadansoddiadau ar gael i gynulleidfa ehangach nag a fyddai'n wir fel arall. Fe'u defnyddir yn bennaf i gyhoeddi dadansoddiadau archwiliadol mewn rhyw ffordd, er enghraifft:

  • cyflwyno cyfres newydd o ddata arbrofol
  • dadansoddiad rhannol o fater sy'n darparu man cychwyn defnyddiol i gyflawni rhagor o ymchwil ond sydd, serch hynny, yn ddadansoddiad defnyddiol yn ei rinwedd ei hun
  • tynnu sylw at ymchwil sydd wedi'i chynnal gan sefydliadau eraill, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, lle mae'n ddefnyddiol tanlinellu'r casgliadau, neu adeiladu ar yr ymchwil ymhellach
  • dadansoddiad lle nad yw'r canlyniadau o ansawdd mor uchel â'r rhai yn ein datganiadau ystadegol a'n bwletinau arferol efallai, ond lle gellir dod i gasgliadau ystyrlon o hyd gan ddefnyddio'r canlyniadau

Pan fo ansawdd yn broblem, gall hyn godi mewn un neu fwy o'r ffyrdd canlynol:

  • ni ellir nodi'r cyfnod o amser a ddefnyddir yn gywir (a all ddigwydd pan ddefnyddir ffynhonnell weinyddol)
  • ansawdd y ffynhonnell ddata neu'r data a ddefnyddir
  • resymau eraill a nodir

Fodd bynnag, bydd lefel yr ansawdd yn golygu nad yw'n cael effaith sylweddol ar y casgliadau. Er enghraifft, efallai na fydd yr union gyfnod o amser yn ganolog i'r casgliadau y gellir eu llunio, neu drefn maint y canlyniadau, yn hytrach na'r union ganlyniadau, sydd o ddiddordeb i'r gynulleidfa.

Nid yw'r dadansoddiad a gyflwynir yn gyfystyr ag Ystadegyn Gwladol, ond gellir ei ddefnyddio gydag allbynnau Ystadegau Gwladol a bydd, serch hynny, wedi cael ei ystyried yn ofalus a'i archwilio'n fanwl cyn ei gyhoeddi. Bydd asesiad o gryfderau a gwendidau'r dadansoddiad wedi'i gynnwys yn yr erthygl, er enghraifft cymhariaeth â ffynonellau eraill, ynghyd â chanllawiau ar sut y gellir defnyddio'r dadansoddiad, a disgrifiad o'r fethodoleg sydd ar waith.

Mae erthyglau yn dilyn yr arferion rhyddhau a ddiffinnir yn y protocol arferion rhyddhau ac, felly, er enghraifft, fe'u cyhoeddir ar ddyddiad a bennir ymlaen llaw yn yr un ffordd ag allbynnau ystadegol eraill.

Mae symbolau gwerth coll a ddefnyddir yn yr erthygl yn dilyn y safonau a ddefnyddir mewn allbynnau ystadegol eraill, fel yr amlinellir isod.

.. Nid yw'r eitem o ddata ar gael

. Nid yw'r eitem o ddata yn gymwys

- Nid yw'r eitem o ddata yn cyfateb i sero'n union, ond fe'i hamcangyfrifwyd yn sero neu'n llai na hanner y digid terfynol a ddangosir

* Mae'r eitem o ddata yn ddatgelol neu nid yw'n ddigon cadarn i'w chyhoeddi

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Matt Evans
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.masnach@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099