Dadansoddiad o ymatebion i arolwg ac adolygiad o dystiolaeth ynghylch profiad bywyd o dlodi plant
Adroddiad a gynhaliwyd gan Arad Research ar y profiad bywyd o dlodi plant yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ynglŷn â'r adroddiad hwn
Mae’r dadansoddiad ffeithiol hwn wedi’i gasglu gan ymchwilwyr Arad ar ran Llywodraeth Cymru.
Cyflwyniad
Cefndir
Comisiynwyd Ymchwil Arad gan Lywodraeth Cymru i gynnal dadansoddiad o adborth gan ymatebwyr i ymarfer ymgysylltu Llywodraeth Cymru ar brofiad bywyd o dlodi plant. Roedd yn ofynnol i Arad hefyd grynhoi deg ffynhonnell o dystiolaeth gyhoeddedig ar brofiad bywyd o dlodi yng Nghymru a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob 3 blynedd ar y cynnydd tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Mae'r amcanion hyn, sy'n seiliedig ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud sy'n gallu cael yr effaith fwyaf, yn canolbwyntio ar leihau nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith, cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc, lleihau anghydraddoldebau mewn addysg, iechyd a chanlyniadau economaidd, creu economi a marchnad lafur gref, a chynyddu incwm aelwydydd.
Bwriad Adroddiad Cynnydd y Strategaeth Tlodi Plant yw dangos y cynnydd o ran cyflawni'r amcanion tlodi plant, y profiad o dlodi plant yng Nghymru ac a oes unrhyw rai o ymyriadau Llywodraeth Cymru yn gwneud gwahaniaeth. Un o'r prif lwybrau adrodd fel rhan o'r adroddiad hwn yw dadansoddi tystiolaeth gan bobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi. Felly, mae'r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o'r themâu allweddol sy'n dod i'r amlwg o'r dystiolaeth a adolygwyd sy'n ymwneud ag effeithiau tlodi, effaith y cymorth sydd ar gael a'r rhwystrau rhag cael mynediad at gymorth.
Methodoleg
Roedd y dull desg yn cynnwys dwy elfen: dadansoddi ymatebion ysgrifenedig i arolwg ymgysylltu'n ymwneud â phrofiad bywyd, ac adolygu tystiolaeth gyhoeddedig ddethol o brofiad bywyd.
Dadansoddiad thematig o ymatebion ysgrifenedig i arolwg ymgysylltu'n ymwneud â phrofiad bywyd
Dyrannodd Llywodraeth Cymru gyllid grant bach i’r trydydd sector, grwpiau cymunedol, neu sefydliadau sy’n arbenigo mewn cefnogi, ymgysylltu â, neu weithio ochr yn ochr ag unigolion sydd wedi profi tlodi, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig. Cynhaliodd y grwpiau hyn drafodaethau a digwyddiadau ymgysylltu er mwyn casglu barn a phrofiadau’r cyfranogwyr.
Comisiynwyd cyfanswm o 39 o sefydliadau i gefnogi'r gwaith hwn. Darparwyd cyllid hefyd ar gyfer y Cynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru drwy Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGCC). Darparodd wyth Cyngor Gwirfoddol Sirol ymatebion yn deillio o ddigwyddiadau drwy CGCC. Rhyngddynt, hwylusodd y sefydliadau hyn o leiaf 221 o ddigwyddiadau ymgynghori ar draws 19 o ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod haf 2025 (gweler Atodiad 1 am fwy o fanylion). Roedd y digwyddiadau hyn yn amrywio o ran maint, ac roedd rhai yn cynnwys grwpiau bach o tua phedwar o bobl, tra bod eraill yn ddigwyddiadau mwy gyda thros 100 o gyfranogwyr. Fodd bynnag, gan nad oedd cyfrifiadau manwl o'r cyfranogwyr yn cael eu cofnodi bob tro, nid yw'n bosibl amcangyfrif cyfanswm yr unigolion a gymerodd ran. Lle y casglwyd y wybodaeth hon, nododd y sefydliadau eu bod wedi cyrraedd dros 3,000 o bobl.
Yn ogystal â thrafodaethau grŵp, rhoddwyd cyfle hefyd i unigolion gwblhau'r arolwg eu hunain. Daeth cyfanswm o 892 o ymatebion i law. Mae'r rhain yn cynnwys 313 o ymatebion unigol, gyda'r gweddill yn ymatebion grŵp, a oedd naill ai wedi'u crynhoi gan hwyluswyr neu wedi'u cwblhau gan unigolion o fewn grŵp. O ran rhai o'r ymatebion o blith yr 892, nid yw'n bosibl canfod ai ymatebion gan unigolion oeddent ynteu gan grŵp. Felly, drwy'r adroddiad cyfan, rydym yn cyfeirio at 892 o 'ymatebion', gan nad yw union nifer yr unigolion a gyfrannodd at yr arolwg ran yn hysbys.
Er mwyn sicrhau bod proses yr arolwg mor syml â phosibl, ni chasglwyd unrhyw ddata demograffig ffurfiol. Fodd bynnag, gofynnwyd i'r sefydliadau gadarnhau eu bod yn gweithio gydag ystod eang o gymunedau a phobl sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig. Mae rhestr o'r sefydliadau wedi'i chynnwys yn Atodiad 1. O edrych ar gynnwys yr ymatebion, mae'n amlwg bod rhai yn ymatebion gan bobl ifanc, a bod eraill wedi'u cyflwyno gan hwyluswyr a oedd yn gweithio gyda grwpiau o blant neu bobl ifanc. Mae llawer yn ymatebion gan rieni a gofalwyr plant o wahanol oedrannau. Mewn rhai achosion, cyfeiriodd y cyfranogwyr at eu cefndir ethnig, eu hanabledd, neu eu cyfrifoldebau gofalu wrth ddisgrifio eu profiadau.
Datblygwyd fframwaith codio cychwynnol yn seiliedig ar dri chwestiwn craidd yr arolwg (C1.b, C2 a C3). Mireiniwyd y fframwaith hwn droeon wrth i themâu ddod i'r amlwg o'r data. Nodwyd themâu o fewn ac ar draws y tri chwestiwn:
- Effaith y cymorth a dderbyniwyd: sy'n trafod y newidiadau canfyddedig mewn llesiant, sefydlogrwydd a chyfleoedd.
- Rhwystrau rhag cael mynediad at gymorth: sy'n nodi rhwystrau systemig, cymdeithasol a logistaidd.
- Anghenion cymorth yn y dyfodol: sy'n cofnodi dyheadau a blaenoriaethau mewn perthynas â chamau gweithredu gan Lywodraeth Cymru.
Adolygiad o'r dystiolaeth
Gofynnwyd i Grŵp Cyfeirio Allanol Llywodraeth Cymru ar Dlodi Plant ddarparu manylion grwpiau profiad bywyd a chyflwyno tystiolaeth berthnasol gyhoeddedig fel ymarfer mapio cychwynnol. Yn ogystal â hynny, cynhaliodd swyddogion Llywodraeth Cymru chwiliad pellach o adroddiadau profiad bywyd diweddar a pherthnasol yng Nghymru a'r DU. Dewiswyd deg ffynhonnell dystiolaeth gan dîm Llywodraeth Cymru i'w hadolygu fel rhan o'r ymchwil hwn. Roedd tair o'r ffynonellau hyn yn fersiynau gwahanol o un set o ganfyddiadau ac felly adolygwyd cyfanswm o wyth adroddiad ymchwil. Defnyddiodd Arad ddull Asesiad Cyflym o Dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar echdynnu data manwl ac asesu'r dystiolaeth yn fanwl.
Mae crynodeb o'r camau sy'n gysylltiedig â'r elfen hon o'r astudiaeth fel a ganlyn:
- Ymgyfarwyddo â'r data (adolygiad cychwynnol o'r ffynonellau tystiolaeth i sefydlu'r math o dystiolaeth neu astudiaeth, a chwmpas a ffocws y dogfennau).
- Datblygu ffurflen archwilio tystiolaeth, a ddefnyddiwyd i echdynnu canfyddiadau allweddol o'r ffynonellau mewn perthynas â phrofiad bywyd o dlodi mewn ffordd strwythuredig a systematig.
- Adolygu testun llawn yr holl ffynonellau a chwblhau'r ffurflenni archwilio tystiolaeth ar gyfer pob ffynhonnell.
Mae crynodeb o bob ffynhonnell dystiolaeth i'w weld yn Atodiad 2.
Canfyddiadau'r ymatebion i'r arolwg
Mathau o gymorth
Cwestiwn 1a yr arolwg
“Rhwng 2022 a 2025, pa fathau o help neu gymorth ydych chi'n cofio eu derbyn? (ticiwch bopeth sy'n berthnasol)”
Mewn ymateb i'r cwestiwn hwn yn yr arolwg, dewisodd yr ymatebwyr o ystod o wasanaethau yr oeddent wedi'u defnyddio. Mae Ffigur 1 yn cyflwyno canran yr ymatebwyr a nododd eu bod wedi derbyn pob math o gymorth, a Phrydau Ysgol Am Ddim (Ysgol Gynradd) oedd y cymorth a nodwyd amlaf.
Ffigur 1: Y Cymorth a Dderbyniwyd (% yr ymatebion cadarnhaol)
- Cronfa Cymorth Dewisol: 19.7%
- Banciau Bwyd / Pantri Bwyd: 37.1%
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) (Ôl-16): 10.0%
- Y Gronfa Gynghori Sengl (Cyngor ar Bopeth a Phartneriaid): 10.3%
- Talebau Banc Tanwydd: 7.8%
- Prydau Ysgol Am Ddim (Ysgol Gynradd): 45.0%
- Help gyda'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau): 30.2%
- Rhaglen Cartrefi Clyd, NEST: 10.8%
- Prydau Ysgol Am Ddim (Ysgol Uwchradd): 23.5%
- Talebau Cychwyn Iach: 11.3%
- Gofal Plant Am Ddim / â Chymhorthdal: 12.1%
- Grant Hanfodion Ysgol: 25.0%
- Grant Cyfleusterau i'r Anabl (Addasiadau Cartref): 5.3%
- Grant Dysgu Addysg Bellach: 6.3%
- Gofal Llygaid neu Driniaeth Ddeintyddol Am Ddim / â Chymhorthdal: 40.4%
- Arall (nodwch os gwelwch yn dda): 40.4%
Cafwyd 892 o ymatebion i'r cwestiwn hwn: roedd rhai yn atebion gan unigolion, a rhai yn grynodeb o drafodaeth grŵp.
Nodyn ar ddehongli'r data
Mae'r 892 o ymatebion yn cynnwys ymatebion a gyflwynwyd gan unigolion yn ogystal â grwpiau. Mewn rhai achosion, gall un ymateb adlewyrchu profiadau nifer o bobl (e.e. hwylusydd yn crynhoi trafodaeth grŵp), ond mewn achosion eraill, bydd unigolion o fewn grŵp yn cyflwyno ymatebion ar wahân. O ganlyniad, mae'r canrannau a ddangosir yn Ffigur 1 yn adlewyrchu nifer yr ymatebion a nododd y math penodol hwnnw o gymorth, nid nifer yr unigolion a'i derbyniodd. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli'r data'n ofalus. Er enghraifft, efallai bod grŵp o 20 o bobl wedi cyflwyno un ymateb yn cyfeirio at y defnydd o wasanaeth penodol, tra bod grŵp arall wedi cyflwyno 20 ymateb unigol, a gallai hynny gamliwio'r ffigurau cyffredinol. Yn yr un modd, nid yw'n bosibl pennu pa mor aml y defnyddiwyd math penodol o gymorth na pha mor eang oedd y profiad. Er enghraifft, crybwyllwyd Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn aml fel ffynhonnell gymorth, ond roedd hyn i'w weld mewn ymatebion unigol a ddeilliodd o sesiynau grŵp a hwyluswyd gan y sefydliad. Mae hyn yn golygu y gallai nifer fawr o gyfeiriadau at fath penodol o gymorth adlewyrchu strwythur yr ymgynghoriad a'r sefydliadau dan sylw yn hytrach na nifer gwirioneddol y bobl a dderbyniodd y cymorth.
O dan y categori 'Arall', dewisodd llawer o ymatebwyr ymhelaethu ar eu profiadau gyda chymorth bwyd, gan enwi banciau bwyd neu egluro natur y cymorth a dderbyniwyd drwy'r cynllun prydau ysgol am ddim.
Y ffynhonnell gymorth arall a grybwyllwyd amlaf yn yr ymatebion oedd Cyngor Ffoaduriaid Cymru, a grybwyllwyd droeon yng nghyd-destun darparu bwyd, dillad, cludiant a chymorth brys. Fodd bynnag, dylid nodi mai ymatebion unigol oedd y rhan fwyaf o'r rhain o ganlyniad i sesiynau grŵp a hwyluswyd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru. Yn dilyn hyn, cyfeiriwyd yn gyffredin at grŵp o fudd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP), a Lwfans Byw i'r Anabl (DLA). Y grŵp nesaf o eitemau penodedig a grybwyllwyd amlaf oedd y rhai a oedd yn gysylltiedig â'r blynyddoedd cynnar - Dechrau'n Deg a Grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn. Ymddangosodd cludiant am ddim i'r ysgol neu'r coleg mewn sawl ymateb hefyd. Cyfeiriodd nifer llai o gyfranogwyr at wasanaethau cynghori, yn enwedig drwy Gyngor ar Bopeth; at gymorth iechyd meddwl; ac at gyngor a chymorth uniongyrchol gan elusennau ac eraill (e.e. Gweithredu dros Blant, Ymddiriedolaeth Cavell ar gyfer nyrsys, ymddiriedolaeth elusennol Glasspool, ochr yn ochr â llond llaw o grantiau'n ymwneud ag awdurdodau lleol penodol.)
Effaith Cymorth ar Deuluoedd a Phlant
Cwestiwn 1b yr arolwg
“A wnaeth y cymorth a gawsoch chi gael unrhyw effaith arnoch chi neu'ch teulu (yn gadarnhaol neu'n negyddol)?”
Nod y cwestiwn hwn oedd sefydlu a oes unrhyw newidiadau i bolisi neu ymyrraeth sydd wedi digwydd dros y tair blynedd diwethaf wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar fywydau plant/pobl ifanc/teuluoedd yn uniongyrchol (ymateb i argyfwng) neu dros dymor hwy (cymorth i ddatblygu llwybrau allan o dlodi). Gwahoddwyd yr ymatebwyr i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn blwch sylwadau testun agored.
O blith yr 892 o ymatebion a gafwyd i'r cwestiwn hwn, rhai yn ymatebion unigol, rhai yn grynodeb o ymatebion grŵp, nododd tua dwy ran o dair (590 o'r ymatebion) ryw fath o effaith gadarnhaol. Yn fwy penodol, nododd 360 o ymatebion gymorth a gafodd effaith arnynt ar unwaith yn ystod cyfnod o argyfwng, a nododd 419 o ymatebion gymorth a gafodd effaith tymor hwy ar eu bywydau neu ar eu teuluoedd. Fodd bynnag, mae'r nifer gwirioneddol yn debygol o fod yn uwch, gan fod rhai ymatebion a ddewisodd “Na” ar gyfer y cwestiwn hwn wedi mynd ymlaen i ddisgrifio canlyniadau cadarnhaol yn eu hymatebion testun agored i gwestiwn diweddarach.
Y prif themâu
Gwahoddwyd yr ymatebwyr i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn blwch testun agored. Roedd y rhan fwyaf o'r atebion yn ymwneud ag effaith gadarnhaol y cymorth a dderbyniwyd. Roedd y sylwadau negyddol yn tueddu i ganolbwyntio ar gymorth annigonol neu rwystrau i fynediad, a thrafodir hyn ymhellach yn yr ymatebion i Gwestiwn 2.
Mae'n bwysig nodi bod y materion a godwyd yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd. Yn aml, disgrifiodd yr ymatebwyr effeithiau a rhwystrau lluosog, cydgysylltiedig. Er bod yr ymatebion wedi'u grwpio yn ôl thema er eglurder, mae llawer o sylwadau'n cwmpasu sawl thema. Yn yr un modd, mae'r dyfyniadau sydd wedi'u cynnwys yn yr adran hon yn aml yn cyfeirio at fwy nag un mater neu brofiad. Mae’r dyfyniadau hyn yn ddyfyniadau gan gymysgedd o ymatebwyr, unigolion a hwyluswyr, ac nid ydynt wedi'u priodoli i ymatebwyr penodol.
Trosolwg
Mae'r ymatebion yn dangos bod cymorth gan Lywodraeth Cymru ac o fannau eraill wedi cael effaith gadarnhaol ar yr ymatebwyr ar y cyfan, yn enwedig o ran eu helpu i ymdopi â chostau byw a diwallu anghenion sylfaenol. Disgrifiodd llawer o'r cyfranogwyr y gwahanol gymorth fel “hanfodol,” “rhaff achub,” neu “hynod ddefnyddiol,” yn enwedig yn ystod cyfnodau o argyfwng. Y mathau o gymorth a grybwyllwyd amlaf oedd y rhai a oedd yn darparu cymorth ar unwaith, fel banciau bwyd, prydau ysgol am ddim, a grantiau mewn argyfwng, yn ogystal â'r rhai a oedd yn galluogi sefydlogrwydd tymor hwy, fel talu costau gofal plant a grantiau addysg / gwisg ysgol. Fodd bynnag, roedd yna hefyd bwyntiau a oedd yn codi droeon yn yr atebion i'r cwestiwn ar effaith yn ymwneud â bylchau mewn cymhwystra, stigma, a chymhlethdod cael mynediad at gymorth, yn enwedig i geiswyr lloches, unigolion anabl, a theuluoedd ag anghenion sy'n amrywio.
Nid oedd llawer o'r ymatebion yn manylu ar hynny, gan restru'r mathau o gymorth a dderbyniwyd heb nodi'n benodol a oedd effaith y cymorth yn gadarnhaol neu'n negyddol, nac egluro sut yr oedd wedi gwneud gwahaniaeth. Fe wnaethant ddefnyddio'r blwch testun agored i roi atebion fel “banc bwyd,” “gofal plant,” neu “gwisg ysgol”.
Lle y darparwyd mwy o fanylion, y themâu a oedd yn codi amlaf oedd:
- Cymorth sy'n gysylltiedig â bwyd, wedi'i restru fel y math o gymorth (y rhan fwyaf o'r ymatebwyr) neu esboniad o sut yr oedd hyn yn gwneud gwahaniaeth (nifer bach o ymatebwyr)
- Banciau Bwyd.
- Prydau Ysgol Am Ddim.
- Help a chymorth ariannol brys gyda chostau hanfodol (megis talebau cychwyn iach, a grantiau argyfwng),
- Cymorth tai (gan gynnwys gwresogi, help gyda biliau cyfleustodau, help gyda dodrefn)
- Mynediad at addysg
- Grantiau tuag at wisg ysgol.
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg.
- Gofal plant
- Mynediad at gyngor a chymorth
- Sylwadau ar sut y mae'r cymorth hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth, llai o orbryder, cael eu bwydo ar unwaith.
Noder fod y rhan fwyaf o'r ymatebwyr wedi cyfeirio'n uniongyrchol at y 15 math o gymorth a restrir yn Ffigur 1, gan mai'r rhain oedd yr awgrymiadau a ragflaenodd y cwestiwn agored. Fodd bynnag, soniodd rhai unigolion a grwpiau am ystod ehangach o bynciau, gan gynnwys cymorth gan elusennau, sefydliadau amrywiol, neu fudd-daliadau ar lefel y DU. Mae'r ymatebion hyn wedi'u cynnwys, ond gan na chawsant eu cynnwys fel awgrymiadau, ni allwn ddod i gasgliadau pendant ynghylch eu pwysigrwydd.
Cymorth bwyd
Banciau bwyd a phantris bwyd oedd y math o gymorth a grybwyllwyd amlaf, a nodwyd yn aml eu bod yn rhywbeth a oedd yn hanfodol yn ystod cyfnodau o argyfwng. Roedd dibyniaeth arbennig arnynt os oedd oedi gyda thalu budd-daliadau, argyfyngau ariannol, neu gyfnodau o newid, fel perthynas yn chwalu, neu golli incwm.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Fe wnaeth banciau bwyd helpu teuluoedd i oroesi cyfnodau anodd, gan gynnig cymorth ar unwaith pan nad oedd cymorth arall ar gael.
“Fe wnaeth y banc bwyd ein help pan oedden ni mewn sefyllfa enbyd.”
Mae prydau ysgol am ddim wedi bod yn achubiaeth o ran cymorth tymor hwy, oherwydd fe wnes i golli llawer o arian ar ôl rhoi'r gorau i weithio. Helpodd y gostyngiad yn y dreth gyngor a'r Grant Hanfodion Ysgol hefyd i leddfu'r ergyd honno, felly fe wnaethon ni lwyddo i ymdopi pan wnaethon ni symud. Pan oedd yn rhaid i mi gymryd gwarchodaeth lawn o'r plant, ac nad oeddwn i'n gallu gweithio cymaint, roedd hynny'n fwy o argyfwng ac roedd y banc bwyd yn ddefnyddiol. Fe wnes i wrthod ei ddefnyddio unwaith yr oeddwn i'n ôl ar fy nhraed ond rydyn ni'n dal i'w ddefnyddio i gael help adeg y Nadolig. Gyda'r ffordd mae prisiau pethau'n cynyddu, efallai y bydd yn rhaid i ni ddefnyddio'r banc bwyd eto; rydyn ni'n gwneud ein gorau i beidio. Pan wnes i ei ddefnyddio, roedd yn hanfodol ar y pryd, ac adeg y Nadolig mae'n help aruthrol i ni."
“Roedd prydau ysgol am ddim a bwyd o fanciau bwyd yn lleihau'r pwysau gartref ac yn golygu bod y plant yn gallu cael rhywbeth i'w fwyta cyn mynd i'r ysgol, ac roedd hynny'n eu helpu i ganolbwyntio a theimlo yr un fath â'u cyfoedion.”
Hwylusydd grŵp.
“Fe wnaeth y parseli bwyd fy helpu i fwydo fy mhlant pan oedd gen i ddim byd. Fe wnes i ffonio llinell gymorth y Cyngor ac rwy'n cael y cymorth.”
- Roeddent yn arbennig o bwysig i rieni sengl a'r rhai sy'n wynebu tlodi ynni, gyda rhai yn nodi gwerth bwyd nad oedd angen ei goginio.
“Mae banciau bwyd yn bwysig i rieni sengl. Weithiau gallwch chi gael bwyd sydd ddim angen ei goginio, sy'n help pan does dim nwy na thrydan.”
- Roedd rhai cyfyngiadau a rhwystredigaethau, megis diffyg bwyd sy'n ddiwylliannol briodol, argaeledd cyfyngedig neu broblemau gyda mynediad. Ar ben hynny, er gwaethaf eu gwerth, roedd rhai teuluoedd wedi profi stigma neu gywilydd wrth ddefnyddio banciau bwyd.
“Dywedodd rhieni eu bod yn teimlo’n amharod i’w defnyddio, ond roedden nhw'n gwerthfawrogi’r opsiwn o gasglu bagiau plaen, wedi’u pacio ymlaen llaw, a oedd yn lleihau’r teimlad o gywilydd."
Hwylusydd grŵp.
“Soniodd rhai rhieni hefyd am ddefnyddio'r banc bwyd. Er eu bod wedi mynegi cywilydd o fod angen ei ddefnyddio a'u bod yn amharod i gyfaddef hyn i eraill, dywedwyd bod gallu casglu bag plaen, wedi'i bacio ymlaen llaw yn creu llai o stigma. Roedden nhw hefyd yn gwerthfawrogi'r ffaith ei fod wedi cyflwyno eu teuluoedd i fwydydd na fydden nhw wedi'u prynu fel arall, a oedd mewn rhai achosion yn eu hannog i roi cynnig ar brydau newydd.”
Hwylusydd grŵp.
“Rhannodd rhieni a gymerodd ran yn y digwyddiad straeon am y rhyddhad yr oedden nhw'n ei deimlo pan gawsant wybod y gallen nhw ddefnyddio banc bwyd, fodd bynnag, dywedodd rhieni nad oeddent eisiau mynd i'w banc bwyd agosaf rhag ofn iddyn nhw gael eu hadnabod. Roedd y cywilydd hwn yn golygu bod angen iddyn nhw deithio a dywedodd un rhiant wrthym pa mor anodd oedd hynny pan nad oedd ganddyn nhw arian i dalu am fws a neb i ofalu am eu plentyn ieuengaf a oedd yn golygu nad oedden nhw'n gallu cario'r eitemau adref. Roedd yr holl rieni'n cytuno nad yw'r system yn addas i bobl fynychu banciau lleol (cywilydd) a'r rhai nad ydyn nhw'n gyrru neu sydd â phlant gyda nhw.”
Hwylusydd grŵp.
- Roedd y cymorth yn cael effaith ar unwaith ac yn y tymor hwy, gyda banciau bwyd yn helpu teuluoedd i ymdopi yn ystod argyfyngau ac yn hwyluso pontio'n ôl i waith neu sefydlogrwydd. Yn gryno, roedd banciau bwyd yn helpu i leihau biliau bwyd ac yn darparu rhwyd ddiogelwch hanfodol.
Cymorth Bwyd: Prydau Ysgol Am Ddim
Disgrifiwyd prydau ysgol am ddim hefyd fel “help mawr,” “achubiaeth,” a “hanfodol ar gyfer llesiant.” Tynnodd yr ymatebwyr sylw at eu rôl o ran lleihau stigma, lleddfu pwysau ariannol, a sicrhau bod plant yn cael eu bwydo yn ystod y diwrnod ysgol, gan gyfrannu at y gallu i ganolbwyntio well a gwell cynhwysiant a llesiant cyffredinol.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Dywedwyd bod prydau ysgol am ddim yn lleihau straen a phwysau ariannol ar deuluoedd, yn enwedig yn ystod y tymor. Roedd rhieni'n teimlo rhyddhad nad oedd yn rhaid iddynt boeni am ddarparu prydau bob dydd.
“Mae prydau ysgol am ddim wedi bod yn help mawr. Dyna un gost sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ein bywydau. Anaml y bydd fy mab yn cael pecyn cinio gan fod y prydau bwyd am ddim ac mae hynny'n arbed arian i ni ar ein siopa wythnosol.”
“Does dim rhaid i ni boeni am brydau bwyd yn ystod y tymor.”
“Mae prydau ysgol yn ddefnyddiol iawn gan eu bod yn lleihau straen a phryderon ariannol"
“Fyddwn i ddim yn gallu fforddio bwyd pe bai’n rhaid i mi dalu am ginio ysgol yn ogystal â darparu prydau bwyd eraill.”
- Ystyriwyd bod darparu pryd poeth ac iach bob dydd yn fantais fawr. Cafodd y cynllun ei ganmol am hyrwyddo tegwch a lleihau stigma, gan helpu plant i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn gallu canolbwyntio yn yr ysgol.
“Mae prydau ysgol am ddim wedi gwneud ein bywydau’n llawer haws ac wedi sicrhau bod y plant yn cael pryd poeth bob dydd."
“Mae'n dysgu plant sut i fwyta'n iach. Rwy'n teimlo eu bod nhw'n cael eu trin yn gyfartal."
Codwyd problemau hefyd:
- Roedd pryderon, er bod y cynllun yn gadarnhaol ar y cyfan, nad yw'n mynd i'r afael yn llawn ag anghenion pob teulu, yn enwedig y rhai â gofynion deietegol neu hygyrchedd. Efallai na fydd rhai teuluoedd â phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn elwa'n gyfartal.
“Mae prydau ysgol am ddim wedi helpu ond gan fod gen i blant ag ADY dw i ddim yn elwa rhyw lawer gan fod yn rhaid i mi ddarparu pecyn cinio o hyd sy’n gost i mi fel rhiant.”
“Cododd un teulu bryder am brydau ysgol. Er eu bod wedi cael prydau ysgol am ddim o'r blaen ac yn parhau i'w cael o dan y cynllun presennol, dywedwyd nad yw eu plant yn hoffi'r bwyd sydd ar gael. O ganlyniad, maen nhw'n dal i deimlo'r angen i ddarparu pecynnau cinio a thalu am hynny eu hunain, sy'n lleihau budd cyffredinol yr ymyrraeth iddyn nhw.”
Hwylusydd grŵp.
- Awgrymodd yr ymatebion ei fod yn gwneud gwahaniaeth i rieni yn ystod y blynyddoedd cynradd (lle mae prydau ysgol am ddim bellach ar gael i bawb), ond nododd rhai ymatebwyr eu bod yn dal i gael trafferth gyda chostau ar gyfer plant ysgol uwchradd.
“Fe wnaeth prydau ysgol am ddim ein helpu i arbed arian, ac yna roedden ni’n gallu defnyddio’r arian hwnnw i dalu am weithgareddau ar ôl ysgol y plant. Mae'n rhywbeth cadarnhaol, mae'n drueni nad yw ar gael mewn ysgolion uwchradd.”
“Fe wnes i aros am amser maith am hyn, roedd yn help gan nad oedd gwres yn y tŷ; cefais brydau ysgol am ddim pan gawsant eu cyflwyno i bob plentyn yn yr ysgol gynradd ac fe wnaeth hynny wahaniaeth i’m sefyllfa ariannol.”
Cymorth ariannol brys a chymorth gyda chostau hanfodol
Cafodd cynlluniau cymorth ariannol fel y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF), Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, a Thalebau Cychwyn Iach eu crybwyll yn aml fel cymorth yn ystod cyfnodau o argyfwng. Cyfeiriodd nifer bach at fudd-daliadau plant. Disgrifiodd yr ymatebwyr yr ymyriadau hyn fel rhai a oedd yn eu helpu i “gael dau ben llinyn ynghyd,” “talu biliau,” a “chadw’n gynnes,” a defnyddiodd llawer ohonynt yr ymarfer ymgysylltu fel cyfle i fynegi eu diolch am y cymorth a gawsant.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Soniwyd am y DAF yn aml, fel arfer yng nghyd-destun angen dybryd. Er bod llawer wedi dweud iddynt gael mynediad at y gronfa, prin oedd y rhai a roddodd fanylion am sut y defnyddiwyd yr arian.
“Fe wnaeth arian o'r DAF fy helpu i fwydo fy mhlant pan oedd gen i ddim byd.”
“Roedd grant y DAF yn arian a oedd ar gael ar unwaith a chafodd ei dalu’n syth i’m cyfrif banc. Roedd hyn yn ddefnyddiol i dalu am fwyd a nwy.”
“Cefais ffrïwr aer drwy'r DAF er mwyn i mi allu coginio oherwydd nad oedd gen i gyfleusterau coginio yn y llety brys.”
- Fe wnaeth y cymorth helpu teuluoedd drwy gyfnodau o argyfwng, gan gynnwys pontio i waith neu dŷ.
“Fe wnaeth fy helpu yn ystod cyfnod o argyfwng cyn i mi gael swydd.”
“Pan gefais gynnig tŷ cyngor ac roeddwn i’n ddi-waith, doeddwn i ddim yn gwybod sut i brynu dodrefn ar gyfer fy nhŷ. Ond, gyda chymorth y DAF, llwyddais i brynu dodrefn sylfaenol.”
“Cafodd y cymorth a dderbyniwyd yn ystod cyfnodau anodd effaith uniongyrchol ddofn, gan wneud i un rhiant deimlo ei fod wedi cael "helpu mawr yn ystod cyfnod tywyll yn fy mywyd" a'i alluogi i "weld bod golau ym mhen draw'r twnnel" ar ôl wynebu cael ei throi allan a cheisio cael lle mewn ysgol arbennig i'w merch.”
Hwylusydd grŵp.
- Roedd cymorth ychwanegol fel gofal llygaid, cardiau SIM, a gwasanaethau cynghori am ddim, hefyd yn cael eu gwerthfawrogi. Cyfeiriwyd yn gyson at ofal deintyddol yn arbennig.
“Fe wnaethon nhw roi cerdyn SIM i mi gyda data am ddim er mwyn i mi allu cadw mewn cysylltiad â phobl.”
“Fe wnaeth fy ngweithiwr cymorth fy helpu i wneud cais am arian o'r DAF pan nad oedd gen i unrhyw arian arall ac angen prynu eitemau hanfodol.”
“Efallai fod y pethau hyn [gofal deintyddol] yn ymddangos yn fach, ond maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n hyder ni a sut rydym yn teimlo amdanon ni ein hunain.”
- Cafodd Talebau Cychwyn Iach eu canmol am wneud bwyd maethlon yn fwy fforddiadwy, er bod rhai yn teimlo y dylid ymestyn y terfyn oedran i deuluoedd â phlant oedran ysgol. Roedd rhai yn gwerthfawrogi'r hyblygrwydd i ddefnyddio'r cerdyn mewn siopau lleol yn ystod cyfnodau o argyfwng, dywedodd eraill ei fod wedi eu helpu i gael mynediad at eitemau a gwasanaethau na fyddent yn gwybod eu bod ar gael fel arall.
“Rydych chi'n talu 30c y dydd am ffrwyth yn yr ysgol… ond gallech chi eu swmp brynu gyda thalebau Cychwyn Iach ac roedd hynny'n llawer gwell.”
- Cafodd cymorth bwyd a gofal plant eu crybwyll yn aml ochr yn ochr â'r DAF a chymorth a chyngor arall, gan ddangos sut roedd gwahanol fathau o gymorth yn gweithio gyda'i gilydd i leddfu pwysau.
“Mae'r DAF a’r Banc Bwyd wedi helpu i fwydo/darparu ar gyfer fy nheulu pan oedden ni mewn sefyllfa enbyd. Fe wnaeth gofal plant fy helpu i weithio.”
Fodd bynnag, cododd rhai ymatebwyr bryderon ynghylch cyfyngiadau'r cymorth ariannol.
- Ystyriwyd bod y DAF yn rhy fyrdymor ac roedd cyfyngiadau ar ba mor aml y gellid defnyddio'r gronfa.
“Mae’n drueni mai dim ond dair gwaith y flwyddyn y gall rhywun ddefnyddio'r DAF, mae’n rhy fyrdymor.”
- Disgrifiwyd y broses ymgeisio gan rai ymatebwyr fel un feichus sy'n achosi llawer o straen, yn enwedig yn ystod cyfnodau o argyfwng.
“Roedd llenwi’r ffurflenni’n waith caled, gyda’r holl dystiolaeth oedd ei hangen.”
Er gwaetha'r heriau hyn, y teimlad cyffredinol oedd bod cynlluniau cymorth ariannol yn chwarae rhan hanfodol o ran helpu teuluoedd i gadw eu pennau uwchben y dŵr yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Dw i ddim yn gallu dal i fyny â'r cynnydd mewn costau byw a heb yr arian hwn byddem yn mynd heb fwy o brydau bwyd dim ond i gadw to uwch ein pennau a chynhesu ein cartref”.
Addysg
Daeth cymorth sy'n gysylltiedig ag addysg i'r amlwg fel thema allweddol, yn enwedig o ran helpu teuluoedd i reoli'r costau sy'n gysylltiedig ag addysg. Disgrifiwyd cynlluniau fel y Grant Hanfodion Ysgol (a elwir yn anffurfiol yn grant gwisg ysgol gan rai), y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), a Phrydau Ysgol Am Ddim fel "achubiaeth," a "help mawr," gan alluogi plant i fynychu'r ysgol gydag urddas, gan leihau stigma, a lleihau pwysau ariannol ar deuluoedd. Dywedwyd bod yr LCA yn rhoi annibyniaeth i bobl ifanc ac yn eu galluogi i barhau â'u hastudiaethau. Cyfeiriwyd at y Grant Dysgu Addysg Bellach fel ffynhonnell gymorth mewn nifer bach o ymatebion, ond ni roddwyd unrhyw fanylion pellach.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Disgrifiwyd yr LCA fel lwfans sy'n cefnogi annibyniaeth pobl ifanc ac yn rhoi cymhelliant iddynt barhau i ddysgu. Nododd yr ymatebwyr fod y lwfans wedi helpu i leihau straen ariannol ar deuluoedd ac wedi rhoi ymdeimlad o ymreolaeth i bobl ifanc.
“Mae'r LCA yn rhoi annibyniaeth i fy mab. Bydd y Grant Dysgu Addysg Bellach yn ei gynorthwyo ymhellach gyda chwrs y Brifysgol Agored.”
“Roedd fy mhlentyn hynaf yn cael LCA. Hebddo, dw i ddim yn meddwl y byddai wedi parhau â'i addysg ac yn lle hynny byddai wedi mynd yn syth i weithio er y gwaethaf y ffaith y byddwn i wedi ceisio ei annog i fynd i'r coleg. Yn fy marn i, roedd yn ddefnyddiol iawn oherwydd fe wnaeth ysgafnhau rhywfaint ar y baich o orfod gofyn i mi am arian drwy'r amser gan roi ychydig o annibyniaeth iddo hefyd."
“Mae’r LCA wedi sicrhau bod fy mhlentyn yn cael rhywbeth i’w fwyta yn y coleg, does dim rhaid i mi boeni; roedd ganddo hawl i gael prydau bwyd am ddim yn yr ysgol ond nid yn y coleg – nawr bod ganddo arian, gall fod yr un fath â phawb arall.”
- Cafodd y grant hanfodion ysgol, sydd hefyd yn cael ei alw'n grant gwisg ysgol, ei grybwyll gan sawl ymatebydd fel rhywbeth sy'n gwneud gwahaniaeth i'w plant.
“Fe wnaeth y grant hanfodion ysgol fy helpu i brynu'r rhan fwyaf o wisg ysgol fy mhlant am ychydig fisoedd, felly cafodd effaith gadarnhaol iawn o ran eu helpu’n ariannol. Mae'r un peth yn wir am brydau ysgol a oedd yn golygu bod fy merch yn cael pryd cynnes y rhan fwyaf o ddyddiau ac arbed arian ar becynnau cinio”
- Myfyriodd rhai ymatebwyr ar sut yr oedd y cymorth yn golygu eu bod yn gallu mynychu'r coleg a bod hynny wedi cael effaith gadarnhaol ar eu llesiant a'u hymdeimlad o bwrpas. Disgrifiwyd mynediad at addysg hefyd fel rhywbeth â manteision emosiynol a chymdeithasol.
“Mae gallu mynd i’r coleg a chwrdd â phobl eraill wedi bod yn gymhelliant mawr i mi.”
- Er bod y cymorth yn cael ei werthfawrogi'n gyffredinol, roedd rhai teuluoedd yn teimlo bod y trothwyon yn annheg neu nad oedd y cymorth yn ddigon i dalu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â'r ysgol. Cyfeiriwyd hefyd at y rheolau llym:
“Mae’r LCA yn ddefnyddiol, ond os byddwch chi’n colli un diwrnod o’r coleg, dydych chi ddim yn cael eich arian am yr wythnos”
Gofal plant
Roedd cymorth gofal plant yn cael ei werthfawrogi'n fawr am ei effaith ddeublyg: galluogi rhieni i weithio a chefnogi datblygiad plant mewn amgylcheddau diogel a meithringar.
Cyfeiriodd yr ymatebwyr yn bennaf at y Cynnig Gofal Plant 30 awr, ac aeth rhai ymlaen i ddisgrifio effaith cael mynediad at y Cynnig. Cyfeiriodd eraill at Dechrau'n Deg yn cwmpasu gofal plant, a mentrau ehangach. Cyfeiriodd nifer bach o ymatebwyr at ofal plant di-dreth a chredyd cynhwysol. I'r rhai a ddisgrifiodd yr effaith, dywedwyd bod y cymorth gofal plant yn gwneud gwahaniaeth enfawr, yn enwedig i rieni sengl a'r rhai sy'n dychwelyd i'r gwaith.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Roedd cymorth gofal plant yn galluogi rhieni i barhau i weithio ac yn lleihau'r pwysau ariannol. Tynnodd nifer o ymatebwyr sylw at effaith ariannol uniongyrchol gofal plant â chymhorthdal, a oedd yn caniatáu iddynt ddychwelyd i'r gwaith neu aros mewn gwaith.
“Help mawr. Roedd y gofal plant â chymhorthdal yn golygu fy mod i wedi gallu ailddechrau gweithio. Mae prydau ysgol am ddim yn golygu bod llai o bwysau i wneud pecynnau cinio.”
“Roedd y cymorth gofal plant 30 awr yn golygu ei bod yn bosibl i ni allu parhau â'n swyddi ar yr un lefel yn hytrach na lleihau oriau/rhoi'r gorau i weithio.”
“Fe wnaeth biliau'r feithrinfa ostwng gyda’r 30 awr o ofal plant am ddim ac roedd hynny yn help mawr i ni.”
“Roedd y gofal plant rhatach yn golygu fy mod i’n gallu bod yn fwy hyblyg gyda gwaith, er ei fod dal yn ddrud iawn.”
- Roedd cymorth yn cael ei werthfawrogi'n arbennig gan deuluoedd a oedd yn gofalu am blant ag anghenion ychwanegol. Disgrifiodd rhai ymatebwyr sut yr oedd cyllid gofal plant yn darparu seibiant a sefydlogrwydd hanfodol.
“Fydden ni ddim wedi gallu ymdopi heb y gronfa gofal plant, mae wedi ein helpu i gael rhywfaint o seibiant o ofalu am blentyn niwroamrywiol.”
- Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at Dechrau'n Deg gan ddweud ei fod yn cael ei groesawu am ei gymorth cynhwysfawr i deuluoedd â phlant ifanc, sy'n cwmpasu gofal plant a chymorth rhianta ehangach. Cyfeiriodd nifer bach o ymatebion at Dechrau'n Deg fel porth i ddysgu cynnar, cymorth rhianta, ac adnoddau diogelwch cartref.
“Roedd yn golygu y gallai fy mhlant gael mynediad at ofal plant drwy Dechrau’n Deg, a oedd yn wych ar gyfer eu datblygiad.”
“Rwyf wedi gallu mynychu grwpiau babanod a dosbarthiadau coginio sy'n cael eu cynnal gan Dechrau'n Deg. Rwyf hefyd wedi cael cymorth gyda gwneud y cartref yn ddiogel i fabanod a diogelwch yn y cartref drwy Dechrau'n Deg.”
- Roedd mynediad at ofal plant yn anghyfartal, gyda rhai teuluoedd wedi'u heithrio neu'n wynebu costau ychwanegol. Er bod llawer wedi elwa, disgrifiodd eraill rwystrau'n ymwneud â chymhwystra neu fforddiadwyedd.
“Mae gofal plant wedi bod yn ddefnyddiol, ond mae'n gyfyngedig, ac mae gan y rhieni gostau ychwanegol y mae angen iddyn nhw eu talu o hyd.”
Hwylusydd grŵp.
“Rwy'n fam sengl sy'n ceisio lloches, ac mae gen i blentyn o dan 3 oed. Dw i ddim yn gymwys i gael llawer o'r cymorth hwn.”
- Ystyriwyd bod mynediad cynnar i leoliadau gofal plant yn fuddiol i ddatblygiad plant. Nododd hwyluswyr grwpiau ac ymatebwyr unigol fod y Cynnig Gofal Plant yn caniatáu i blant ddechrau cael mynediad at leoliadau yn gynharach nag y gallent fod wedi gwneud fel arall, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol.
“Mae sawl ymateb yn tynnu sylw at y ffaith bod y Cynnig Gofal Plant wedi galluogi plant i gael mynediad at leoliadau yn gynharach nag y gallent fod wedi gwneud fel arall, sydd wedi arwain at fanteision i ddatblygiad y plant.”
Hwylusydd grŵp.
“Heb y cymorth hwn, ni fyddai rhai teuluoedd wedi gallu fforddio gofal plant o gwbl, a byddai hynny, yn ei dro, wedi cyfyngu ar gyfleoedd cyflogaeth rhieni.”
Hwylusydd grŵp.
“I rieni sy’n gweithio, cafodd y cymhorthdal gofal plant effaith ariannol gadarnhaol uniongyrchol, gan alluogi'r ddau riant i barhau i weithio.”
Hwylusydd grŵp.
Tai a gwresogi
Yn aml, soniwyd am gymorth gyda thai a chyfleustodau ochr yn ochr â chynlluniau ariannol fel y DAF, gan adlewyrchu sut y gweithiodd gwahanol fathau o gymorth gyda'i gilydd i leddfu pwysau. Disgrifiodd yr ymatebwyr sut y gwnaeth grantiau, addasiadau a chyngor eu helpu i reoli costau ynni, gwella diogelwch gartref a chynnal annibyniaeth; yn enwedig ymhlith yr ymatebwyr os oedden nhw neu aelod o'r teulu yn anabl.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Fe wnaeth addasiadau i gartrefi wella diogelwch ac annibyniaeth preswylwyr anabl yn sylweddol. Disgrifiodd yr ymatebwyr sut yr oedd addasiadau wedi gwneud bywyd bob dydd yn haws.
- Roedd gan y Grant Cyfleusterau i'r Anabl (DFG) y potensial i wneud gwahaniaeth mawr, ond roedd rhai wedi wynebu oedi o ran cael mynediad ato. Roedd rhai ymatebwyr yn dal i aros am asesiadau ond mynegwyd gobaith am yr effaith y gallai ei chael.
“Y DFG: rydym yn aros am asesiadau; os bydd hynny’n mynd drwodd, gallai wneud gwahaniaeth enfawr i’n sefyllfa.”
“Roedd addasiadau i’r cartref yn help mawr i ni ond roedd yn rhaid i ni aros am amser hir.”
“Mae’r addasiadau sydd wedi cael eu gwneud o amgylch y cartref ar gyfer anableddau wedi gwella'r ffordd rydyn ni'n byw o ddydd i ddydd a'n hannibyniaeth yn fawr. Mae cyngor ar wresogi’r cartref wedi ein helpu i reoli ein defnydd o ynni yn fwy effeithiol ac wedi lleihau rhywfaint o’r straen ynghylch y cynnydd mewn costau.”
- Roedd cymorth gyda gwresogi yn helpu i leihau straen, ond weithiau eglurodd yr ymatebwyr a hwyluswyr grwpiau nad oedd hyn bob amser yn datrys problemau sylfaenol. Roedd cymysgedd o gyfeiriadau at ddefnyddio'r DAF i dalu am wresogi, a chyfeiriadau at DAF, cymorth a gostyngiad yn y dreth gyngor gan y cyngor, a Grant Cartrefi Clyd NEST. Gwerthfawrogwyd cyngor ar wresogi a defnyddio ynni i helpu teuluoedd i ymdopi â'r cynnydd mewn costau.
“DAF: fe wnaethom ei ddefnyddio i dalu ein bil gwres; fe wnaeth ysgafnhau'r pwysau ond wnaeth e ddim fy nghodi allan o ddyled tanwydd.”
“Mae gostyngiad yn y Dreth Gyngor yn ddefnyddiol. Roedd y cynllun Cartrefi Clyd yn help mawr hefyd. Dydy fy fflat ddim wedi'i inswleiddio'n dda.”
“Mae cyngor ar wresogi’r cartref wedi ein helpu i reoli ein defnydd o ynni yn fwy effeithiol ac wedi lleihau rhywfaint o’r straen ynghylch y cynnydd mewn costau.”
- Cyfeiriodd rhai pobl ifanc at gymorth tai annigonol, a oedd yn arwain at amodau byw anniogel neu ddigartrefedd. Roedd diffyg tai diogel yn gysylltiedig â rhwystrau ehangach, gan gynnwys mynediad at hyfforddiant, cyflogaeth a gwasanaethau hanfodol.
“Dywedodd rhai o’r bobl ifanc nad oedd y cymorth a gawsant yn ddigonol ar gyfer eu hanghenion, ac roedd hynny'n cynnwys tai. Er eu bod wedi mynd i'r ganolfan gyngor ar dai, chawson nhw ddim eu cartrefu'n ddiogel ac felly cawsant eu rhoi mewn llety anniogel neu roedden nhw'n ddigartref. Roeddent yn priodoli'r diffyg tai addas i'w problemau gyda chael hyfforddiant a/neu waith."
Hwylusydd grŵp.
“Roedd hefyd yn golygu nad ydyn nhw’n gallu cael dogfennau adnabod na chael mynediad at y system fancio gan nad oes ganddyn nhw gyfeiriad na phrawf adnabod.”
Hwylusydd grŵp.
Cymorth i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
Roedd yn amlwg o'r ymatebion fod rhai unigolion a'r rhai mewn grwpiau wedi ceisio lloches yng Nghymru. Yn aml, cafwyd mynediad at gymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid drwy elusennau a sefydliadau cymunedol. Dywedwyd bod elusennau a sefydliadau eraill yn cynnig cymorth brys, cymorth gyda chludiant, a chymorth i ymgartrefu. Roedd cynlluniau fel Prydau Ysgol am Ddim a thocynnau bws Croeso yn cael eu gwerthfawrogi, ond nid oeddent bob amser ar gael i bob teulu. Er bod llawer wedi mynegi eu diolch a dweud bod y cymorth wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt, roedd eraill yn teimlo bod eu sefyllfa wedi aros yr un fath oherwydd bylchau mewn cymhwystra a mynediad cyfyngedig.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at gyfyngiadau'n ymwneud â 'Dim Hawl i Gyllid Cyhoeddus', gan ddweud eu bod "yn canolbwyntio ar oroesi", a bod ganddynt fynediad cyfyngedig at gyngor, gofal plant, a sefydlogrwydd ariannol. Roedd cymorth gan elusennau a chymunedau yn hanfodol er mwyn diwallu eu hanghenion sylfaenol.
“Rwy'n geisiwr lloches heb ddim oherwydd i mi ffoi rhag rhyfel a cholli popeth. Roedd y cymorth a gefais yn rhan fawr o ymgartrefu.”
“Mae dau o'r sefydliadau rwy'n eu defnyddio yn talu am fy nhocynnau bws, fel arall fyddwn i ddim yn gallu eu cyrraedd.”
“Roedd Wi-Fi am ddim, tocyn Croeso (bws), a Chymorth Cyfreithiol yn wych i mi am gyfnod hir.”
- Fe wnaeth banciau bwyd a thalebau brys helpu mewn argyfwng, ond roedd y cyflenwad ac addasrwydd y bwyd yn gyfyngedig weithiau.
“Roedd banciau bwyd yn lleihau newyn ond roedden nhw'n annigonol, doedd y plant ddim yn fodlon bwyta pethau anghyfarwydd.”
Hwylusydd grŵp.
- Roedd ofni canlyniadau o ran statws mewnfudo yn cyfyngu ar y defnydd o wasanaethau cynghori, yn ôl hwyluswyr grwpiau.
“Roedd gwasanaethau cynghori yn ddefnyddiol i’r rhai a’u defnyddiodd, ond roedd y rhan fwyaf yn eu hosgoi oherwydd bod arnynt ofn i hynny arwain at ganlyniadau o ran eu statws mewnfudo neu oherwydd diffyg cynghorwyr sy'n ddiwylliannol gymwys.”
Hwylusydd grŵp.
Darpariaeth sy'n gwneud gwahaniaeth
Ar draws yr holl ymatebion, roedd yn amlwg bod y cymorth a ddarparwyd yn gwneud gwahaniaeth ystyrlon i lawer o unigolion a grwpiau. Disgrifiodd yr ymatebwyr sut yr oedd gwahanol fathau o gymorth ariannol, ymarferol, cyngor a chymorth cymunedol, yn aml yn gweithio gyda'i gilydd i leddfu pwysau a gwella llesiant. Dywedodd un cyfranogwr y byddai wedi bod yn ddigartref heb y cymorth ac na fyddai wedi gallu prynu bwyd a thalu biliau. Fel y crynhodd un hwylusydd, 'mae'r iaith a ddefnyddiwyd (“help mawr”, “hanfodol”, “ysgafnhau'r pwysau”) yn tanlinellu'r gwerth a roddir ar y cymorth ariannol hwn.'
Tynnodd eraill sylw at werth cyfuniad o wahanol fathau o gymorth:
“Pan adawodd fy nghyn bartner, wnaeth e ddim gadael unrhyw arian ar gyfer ein plant. Yn ffodus mae'r gostyngiad yn y Dreth Gyngor wedi helpu'n ariannol ac mae cymorth gan y banc bwyd wedi fy helpu i fwydo fy nheulu. Fe wnaeth ALN-Connect roi cyngor i mi a chynnig clust i wrando. Fe wnaethon nhw fy nghyflwyno i [ ] sydd wedi ein helpu ni i ymdopi â'r ddyled a adawyd gan fy nghyn bartner.”
“Mae’r cymorth a gawsom wedi cael effaith gadarnhaol iawn arnaf fi a fy nheulu. Mae’r addasiadau sydd wedi cael eu gwneud o amgylch y cartref ar gyfer anableddau wedi gwella'r ffordd rydyn ni'n byw o ddydd i ddydd a'n hannibyniaeth yn fawr. Mae cyngor ar wresogi’r cartref wedi ein helpu i reoli ein defnydd o ynni yn fwy effeithiol ac wedi lleihau rhywfaint o’r straen ynghylch y cynnydd mewn costau.” Mae cael mynediad at fanciau bwyd wedi darparu cymorth hanfodol yn ystod cyfnodau anodd, gan sicrhau bod anghenion sylfaenol ein teulu yn cael eu diwallu. Yn ogystal â hynny, mae'r Gronfa Cymorth Dewisol wedi rhoi cymorth ariannol mawr ei angen i ni ar adeg dyngedfennol, gan ein helpu i ymdopi â threuliau annisgwyl. At ei gilydd, mae'r cyfuniad hwn o gymorth wedi lleddfu'r pwysau ….”
“Mae mentrau fel prydau ysgol am ddim, y Cynnig Gofal Plant, a grantiau gwisg ysgol wedi lleihau’r pwysau ariannol ar aelwydydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun y cynnydd mewn prisiau bwyd a chostau byw hanfodol eraill. Disgrifiodd llawer o'r cyfranogwyr eu bod wedi gallu ailgyfeirio'r arian a arbedwyd tuag at anghenion eraill fel biliau, ffrwythau ffres a nwyddau groser."
Hwylusydd grŵp.
Bylchau yn y Ddarpariaeth
Er bod llawer o'r ymatebwyr wedi sôn am effaith y cymorth mewn termau cadarnhaol, defnyddiodd sawl un y cyfle i fynegi eu rhwystredigaeth hefyd. Roedd problemau cyffredin yn cynnwys anhawster o ran cael mynediad at gynlluniau, argaeledd cyfyngedig, a diffyg ymwybyddiaeth. Roedd rhai yn teimlo eu bod wedi'u heithrio oherwydd meini prawf cymhwystra neu rwystrau digidol.
“Mae gan fy mhlant anableddau ac rwyf wedi colli apwyntiadau pwysig gan nad ydw i wedi derbyn yr e-byst mewn pryd, oherwydd nad oes gen i Wi-Fi na data ffôn symudol. Does gen i ddim Wi-Fi felly rwy'n dibynnu ar fynd allan o'r tŷ i ddod o hyd i Wi-Fi cyhoeddus, sy'n anoddach fyth yn y gaeaf.”
Trafodir y pryderon hyn ymhellach yn yr adran nesaf, sy'n canolbwyntio'n benodol ar rwystrau i gael mynediad at gymorth.
Rhwystrau i Gymorth
Cwestiwn 2 yr arolwg
“A oes unrhyw help neu gymorth nad oeddech wedi gallu cael mynediad ato?”
Nod y cwestiwn hwn oedd nodi'r cymorth yr oedd pobl yn cael anhawster cael mynediad ato a chanfod pa rwystrau a oedd yn atal pobl rhag cael yr help sydd ei angen arnynt. Gwahoddwyd yr ymatebwyr i ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn blwch sylwadau testun agored a chafwyd 831 o ymatebion (rhai yn ymatebion gan unigolion, eraill yn grynodeb o ymatebion grŵp).
Yr hyn nad yw pobl wedi gallu cael mynediad ato
Trosolwg
Dangosodd yr ymatebion fod ystod eang o gymorth yr oedd yr ymatebwyr wedi cael anhawster cael mynediad ato. Roedd y rhain yn cwmpasu ystod o feysydd yn ymwneud â nwyddau hanfodol fel bwyd a chyfleustodau, yn ogystal â gwasanaethau ac amwynderau gan gynnwys cyngor ar ddyledion/cyngor ariannol a chynlluniau fel Dechrau'n Deg. Roedd y mathau mwyaf cyffredin o gymorth yr adroddodd yr ymatebwyr nad oeddent yn gallu cael mynediad atynt yn gysylltiedig â gwasanaethau iechyd, gwisg/prydau/teithiau ysgol, cludiant, llety a gofal plant. Er eu bod yn cael eu cyflwyno'n thematig, mae'n bwysig nodi bod y pwyntiau a'r awgrymiadau a restrir isod yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn gorgyffwrdd: er enghraifft, pwysleisiodd yr ymatebwyr y byddai cymorth i ariannu costau trafnidiaeth gyhoeddus yn galluogi eu plant i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Felly, dylid ystyried y themâu a'r awgrymiadau canlynol gyda hyn mewn golwg.
Mae'r dyfyniadau yn yr adran hon yn ddyfyniadau gan gymysgedd o ymatebwyr, unigolion a hwyluswyr, ac nid ydynt wedi'u priodoli i ymatebwyr penodol.
Prif thema: gwasanaethau iechyd
Gwasanaethau iechyd oedd y rhai a nodwyd amlaf gan ymatebwyr fel rhai a oedd yn anodd cael gafael arnynt, gan gynnwys triniaeth ddeintyddol, gwasanaethau rheng flaen fel apwyntiadau meddyg teulu a chymorth iechyd meddwl, a chymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Nododd teuluoedd eu bod wedi aros am gyfnodau maith i gael triniaeth ddeintyddol, gan ddweud yn aml nad oeddent yn gallu ymuno â rhestr aros ar gyfer deintydd y GIG. Nododd rhai eu bod wedi gorfod troi at dalu am driniaeth ddeintyddol yn breifat, a dywedodd eraill eu bod mewn poen neu angen triniaeth ond nad oeddent yn gallu cael cymorth.
“Mae fy merch mewn poen yn aml gyda’i dannedd cefn, allwn ni ddim dod o hyd i ddeintydd ac rydym wedi cael gwybod bod yn rhaid i ni ymuno â rhestr aros dim ond i gael ein hasesu.”
“Mae gennym hawl i ofal deintyddol am ddim gan y GIG ond rwyf i a fy 3 o blant ddim wedi gallu cael mynediad at ofal deintyddol. Rwyf wedi gorfod talu am driniaeth ddeintyddol breifat oherwydd prinder deintyddion y GIG.” “Doeddwn i ddim yn gallu cael apwyntiad gyda deintydd am dair blynedd.”
“Mae gwir angen tynnu dant arnaf ond alla i ddim cael apwyntiad”
- Cyfeiriodd yr ymatebwyr at anawsterau o ran gallu cael mynediad at wasanaethau rheng flaen gan gynnwys apwyntiadau meddyg teulu a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl. Roedd y rhesymau a roddwyd yn cynnwys oedi wrth atgyfeirio, trafnidiaeth gyhoeddus annigonol/costus i gyrraedd apwyntiadau, diffyg gwybodaeth am wasanaethau iechyd meddwl, a stigma ynghylch chwilio am gymorth ar gyfer iechyd meddwl.
“Byddai gwell mynediad at ofal iechyd a gwasanaethau cymorth i deuluoedd yn ddefnyddiol iawn.”
“Mynediad cyfyngedig iawn at therapïau plant gydag amseroedd aros hir neu ddim gwasanaeth, arian na staff ar gael. Nid yw atgyfeiriadau byth yn cael eu gwireddu.”
“Er bod rhai gwasanaethau’n bodoli, yn aml doedden nhw ddim yn teimlo’n hygyrch, yn addas, nac yn ymatebol. Disgrifiodd pobl ifanc eu bod yn ansicr sut i gyrraedd y gwasanaethau cywir, neu'n teimlo nad oedd y cymorth wedi'i gynllunio mewn ffordd a oedd yn gweithio iddyn nhw.”
Hwylusydd grŵp.
“Gall y stigma sy’n gysylltiedig â gofyn am help gydag iechyd meddwl fod yn rhwystr. Gall cysylltu â gwasanaethau deimlo'n anghyfforddus neu hyd yn oed yn frawychus, yn enwedig pan nad ydych chi'n gwybod pa gymorth sydd ar gael mewn gwirionedd neu sut i gael gafael arno. Byddai gwasanaethau mwy lleol, hygyrch a hawdd eu cyrraedd yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
“Dim ond gallu ffonio meddyg teulu am 8am a methu cael apwyntiadau pan fo angen gan adael rhieni a phlant yn agored i niwed.”
- Roedd cymorth i blant, pobl ifanc ac oedolion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac anableddau yn faes arall ble y nododd yr ymatebwyr iddynt gael anawsterau o ran cael mynediad ato.
“Mae angen cynnig mwy o gymorth i deuluoedd â phlant ag anableddau, dyna lle rwyf wedi cael yr anhawster mwyaf i ddod o hyd i gymorth fel help i wneud y cartref yn ddiogel.”
“Tri o blant yn eu harddegau ag anghenion ychwanegol sydd ddim yn gallu mynd i'r ysgol ac felly'n cael eu haddysgu gartref (wedi’u cofnodi fel cael addysg "ddewisol" yn y cartref, ond mewn gwirionedd, nid addysg ddewisol mohono). Does dim hawl gennym i unrhyw gymorth ariannol ar gyfer hyn. Oherwydd hynny, mae angen un rhiant arnom gartref (felly nid yw'n ennill incwm) er mwyn addysgu ein plant. Mae hyn yn amlwg yn ehangu'r bwlch cyrhaeddiad rhwng ein plant ni a'u cyfoedion. Cyllid sy'n cyfyngu ar lawer o'r hyn y gallant ei gyflawni nawr. Rydyn ni'n gwybod nad ydym ar ein pen ein hunain - rydyn ni wedi cwrdd â llawer o deuluoedd eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.”
“Help ar gyfer anabledd yn y gwaith ar gyfer poen cronig.”
“Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol na’r cyfarpar arbenigol sydd ei angen arnaf ar gyfer fy mhlant Byddar.”
Prif thema: cymorth addysgol
Cyfeiriodd yr ymatebwyr yn fynych at y ffaith nad oeddent yn gallu cael mynediad at gymorth ar gyfer hanfodion ysgol. Gan amlaf, roedd hyn yn ymwneud â chael mynediad at LCA, grantiau ar gyfer gwisg ysgol, a mynediad at brydau ysgol am ddim i blant hŷn mewn ysgolion uwchradd.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Nododd yr ymatebwyr fod cost darparu gwisg ysgol a phrydau ysgol i blant yn ormodol. Roedd y meini prawf cymhwystra, yn enwedig y trothwy incwm ar gyfer rhieni sy'n gweithio, yn golygu nad oedd teuluoedd yn gallu cael mynediad at brydau ysgol am ddim a'r Grant Hanfodion Ysgol.
“Dw i ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r grant gwisg ysgol oherwydd bod fy ngŵr i'n gweithio. Dw i ddim yn gallu gweithio ac mae ganddon ni 2 o blant a babi ar y ffordd. Dyw e ddim yn ennill digon i dalu am bopeth.”
“Doedden ni ddim yn gallu cael unrhyw gymorth gyda gwisg ysgol gan fod ein hincwm £20 dros y trothwy.”
“Bydd fy mhlentyn yn mynd i’r feithrinfa yn fuan, mae’n rhaid i mi brynu gwisg ysgol ond dyw hi ddim yn ddigon hen ar gyfer y Grant Hanfodion Ysgol.”
“Mae gwisg ysgol mor ddrud, yn enwedig gyda’r bathodyn. Roeddwn i'n meddwl bod hyn yn perthyn i'r oes o'r blaen a bod ysgolion yn cael gwared arno, ond dyw hynny ddim yn digwydd. Os oes gennych un neu fwy o blant, yna rydych chi mewn sefyllfa ariannol anodd.”
“Prydau ysgol am ddim i blant ysgol gyfun a grant ar gyfer gwisg ysgol neu grant tuag at wisg ysgol, oherwydd byddai unrhyw beth yn helpu rhieni sy’n gweithio.”
“Er ein bod ni nawr yn deulu incwm sengl, oherwydd fy mod i’n hawlio Lwfans Cymorth Cyflogaeth, dydyn ni ddim yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim na grantiau gwisg ysgol. Mae gen i ddau o blant yn yr ysgol a byddai gallu hawlio'r rhain yn rhyddhad mawr.”
- Nododd lleiafrif yr ymatebwyr nad oedd ganddynt yr arian i fanteisio ar deithiau a gweithgareddau a drefnwyd gan yr ysgol, neu nad oeddent yn ymwybodol o'r mathau o gymorth a oedd ar gael.
“Roedd pobl ifanc yn teimlo nad oeddent yn gallu mynd ar deithiau ysgol oherwydd y gost.”
Hwylusydd Grŵp.
“Doeddwn i ddim yn sylweddoli bod gan yr ysgol gymaint o ffyrdd i’n cefnogi ni, fel gwisg ysgol am ddim, help gyda chost theithiau ac ati. Fe wnes i gymryd yn ganiataol na allwn i gael mynediad at y rhain.”
- Cyfeiriodd rhai pobl ifanc at y ffaith nad oeddent yn gallu cael mynediad at gymorth LCA. Nododd yr ymatebwyr yn fynych mai'r rheswm am hyn oedd oherwydd nad oedd eu teuluoedd yn dod o fewn y meini prawf cymhwystra, gan dynnu sylw at y trothwy enillion, gyda rhai yn nodi bod hyn yn golygu na allent barhau â'u haddysg mwyach.
“Fe wnaethon ni gais am yr LCA. Roedden ni £100 dros y meini prawf.”
“Pam mae'r LCA yn seiliedig ar brawf modd? Ni ddylai fod, dyw e ddim yn deg.”
“Dw i ddim wedi mynd i’r coleg oherwydd dw i ddim yn gallu cael LCA gan fod fy rhieni dros y trothwy.”
Prif thema: trafnidiaeth gyhoeddus
Nodwyd yn fynych yn yr ymatebion nad oedd modd cael mynediad at gymorth i dalu am drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig bysiau. Nododd yr ymatebwyr sut yr effeithiodd anawsterau trafnidiaeth ar eu gallu i fanteisio ar ystod o wasanaethau ac amwynderau megis addysg, iechyd a gweithgareddau hamdden.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Nododd yr ymatebwyr broblemau gyda chyllido cost trafnidiaeth gyhoeddus ac effaith hyn ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd.
“Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhy ddrud i gael mynediad at grwpiau a darpariaeth.”
“I deuluoedd ac unigolion sy’n byw ymhellach i ffwrdd, gall costau teithio a diffyg trafnidiaeth ei gwneud hi’n anodd ein cyrraedd ni, yn enwedig i’r rhai sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd yn ariannol. O ganlyniad, dyw rhai pobl agored i niwed sydd angen cymorth ddim yn gallu elwa'n llawn o'n gwasanaeth.”
Hwylusydd Grŵp.
“Mae’r ‘rheol tair milltir’ ar gyfer cludiant am ddim yn golygu bod yn rhaid i blant gerdded pellteroedd mawr, hyd yn oed mewn tywydd gwael. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ddrud ac yn anfforddiadwy i rieni sy'n dibynnu arno i'w ddefnyddio bob dydd.”
- Nodwyd hefyd bod y ffaith bod rhai opsiynau trafnidiaeth yn anhygyrch a lleoliad gwasanaethau yn effeithio ar p'un a oedd pobl yn gallu manteisio ar gyngor a chymorth.
“Mae llawer o'r rhai sy'n defnyddio ein gwasanaeth yn byw gydag anableddau ac wedi ei chael hi’n anodd teithio i’r [ganolfan gyngor] leol, sef lle y cânt eu cyfeirio am gymorth i lenwi ffurflenni cais a chael mynediad at ganllawiau. Mae’r diffyg trafnidiaeth hygyrch a’r heriau o ran lleoliad wedi atal rhai rhag cael y cymorth sydd ei angen arnynt mewn modd amserol.”
Hwylusydd Grŵp.
“Dw i ddim yn gyrru felly byddai system drafnidiaeth well yn ddefnyddiol i mi.”
Prif thema: tai
Tynnodd yr ymatebwyr sylw at ystod o anawsterau gyda thai a llety gan gynnwys tai gorlawn, problemau gyda thalu'r Dreth Gyngor, ac anawsterau o ran cael mynediad at gymorth ar gyfer addasiadau/dodrefn i'r cartref.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Soniodd yr ymatebwyr am amseroedd aros hir am dai cymdeithasol ac anawsterau o ran cael mynediad at gyngor a chymorth priodol.
“Rwyf wedi aros dros ddwy flynedd i gael ein trosglwyddo i dŷ awdurdod lleol gan fod y llety presennol yn orlawn [rydym yn] deulu o ddau oedolyn a phedwar o blant yn byw mewn cartref dwy ystafell wely.”
“Tai gorlawn a chostau uchel. Angen dybryd am gyngor ar dai, ond roedd y llwybrau’n teimlo fel pe baent ar gau neu'n anodd dod o hyd iddynt.”
Hwylusydd Grŵp.
- Soniodd yr ymatebwyr hefyd eu bod yn cael trafferth talu'r dreth gyngor, gan ddweud yn aml nad oeddent yn gallu cael mynediad at gymorth drwy Gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, yn aml oherwydd cyfyngiadau o fewn y meini prawf cymhwystra neu ddiffyg ymwybyddiaeth o'r cynllun.
“Rwy’n gweithio’n rhan-amser ac rwyf bellach dros y trothwy ar gyfer Gostyngiad y Dreth Gyngor, fodd bynnag, mae fy nghyflog yn isel ac mae talu’r dreth gyngor lawn yn faich.”
“Doeddwn i ddim yn gwybod y gallwn i gael help gyda’r Dreth Gyngor/gwresogi.”
“Er ein bod yn anabl, doedden ni ddim yn gallu cael Gostyngiad Treth”
- Nododd rhai ymatebwyr fod cael gafael ar gymorth i addasu/dodrefnu cartrefi i'w gwneud yn addas ar gyfer aelodau'r teulu yn broblem.
“Rwyf wedi ceisio cael addasiadau i’m cartref dwy ystafell wely oherwydd plentyn ag ASD, GDD, ADHD ac ODD ond cefais fy ngwrthod.
“Mae addasiadau i'r cartref yn amhosibl i’w cael i blentyn heb therapydd galwedigaethol ac mae’r rhestr aros ar gyfer un ohonyn nhw yn flynyddoedd.”
“Atgyweiriadau hanfodol i’r tai - doedd dim llawr diogel yn y llety. Roedd rhaid gwario arian byw ar brynu llawr fel ei fod yn ddiogel i blant.”
Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD); Oedi Datblygiadol Cyffredinol (GDD); Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD); ac Anhwylder Herio Gwrthryfelgar (ODD).
Nodyn: Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth (ASD); Oedi Datblygiadol Cyffredinol (GDD); Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD); ac Anhwylder Herio Gwrthryfelgar (ODD).
Prif thema: gofal plant
Soniodd yr ymatebwyr am y ffaith nad oeddent yn gallu cael mynediad at gymorth gofal plant, er enghraifft drwy’r cynnig gofal plant a chynlluniau Dechrau’n Deg, gan nodi sut yr oedd hyn yn cyfyngu ar eu gallu i weithio neu fanteisio ar gyfleoedd addysgol.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Nododd yr ymatebwyr eu bod yn awyddus i gael mynediad at ofal plant ond bod diffyg darparwyr yn eu hardal nhw.
“Cefais gynnig taliadau gofal plant ond doedd dim darparwr yn fy ardal i. Felly allwn i ddim cynyddu fy oriau gwaith na chael mynediad at ofal plant.”
- Roedd ariannu gofal plant yn rhy ddrud i rai pobl, hyd yn oed y rhai mewn aelwydydd sy'n gweithio neu'r rhai a oedd eisoes yn elwa o gynlluniau gofal plant.
“Rwy’n nyrs ac yn gweithio dau ddiwrnod er mwyn cadw fy swydd, ond rwy’n gweithio’r ddau ddiwrnod hynny i dalu am y gofal plant sy’n dal i gostio £650 y mis i mi, £63 y dydd, ac mae hynny gyda’r gostyngiad o 20%.”
“Dywedodd llawer mai'r rheswm pam na allen nhw fynd yn ôl i’r gwaith oedd oherwydd na allent fforddio’r gofal plant ac na fyddent yn ennill digon i’w gyfiawnhau er bod llawer wedi dweud eu bod eisiau gweithio.”
Hwylusydd Grŵp.
“Does dim digon o gymorth gofal plant i rieni sy’n gweithio, mae’n costio gormod ac yn mynd â'r rhan fwyaf o’ch cyflog.”
“Dywedodd un fam ei bod hi’n talu £850 y mis gyda'r gostyngiad. Mae hi fwy neu lai yn gweithio i dalu gofal plant gan nad oes arian ar ôl.”
Hwylusydd Grŵp.
- Roedd meini prawf y cynlluniau yn golygu nad oedd rhai ymatebwyr yn gallu cael mynediad at gymorth gofal plant er eu bod mewn angen. Nodwyd bod hyn yn effeithio ar gyfleoedd gwaith a chyflogaeth.
“Rwy'n fyfyriwr yn astudio ar gyfer gradd mewn gofal iechyd. Oherwydd cyflog fy mhartner, allwn ni ddim hawlio unrhyw gymorth gofal plant. Fel rhan o'm gradd, mae'n ofynnol i mi fynychu prifysgol/lleoliad am 37.5 awr yr wythnos, felly dyw gweithio ochr yn ochr â hynny ddim bob amser yn bosibl. Mae disgwyl i ni dalu ffioedd gofal plant o £1000 allan o gyflog fy mhartner. Sy'n ein gadael ni heb arian bob mis. Rydw i wedi gorfod cymryd benthyciad myfyriwr mwy (sy'n rhaid i mi ei ad-dalu gyda llog) dim ond er mwyn goroesi bob mis.”
“Rwyf wir eisiau mynd i’r coleg ond dw i ddim yn gymwys i gael cymorth gofal plant am ddim i’m helpu i fynd yno.”
“Alla i ddim gweithio digon o oriau i fod yn gymwys i gael gofal plant am ddim oherwydd fy anabledd.”
“Dechrau’n Deg, dyw fy nghod post i ddim wedi’i gynnwys yn y cynllun ond mae rhannau eraill o'r ardal ble rwy’n byw wedi’u cynnwys.”
“Alla i ddim cael unrhyw gymorth oherwydd dyw fy nghod post i ddim yn rhan o'r cynllun Dechrau'n Deg. Mae ffioedd y feithrinfa yn lladdfa ac oherwydd un rhif yn y cod post dydyn ni ddim yn cael unrhyw gyllid.”
Rhesymau dros beidio â manteisio ar gymorth
Trosolwg
Fel y nodwyd yn rhai o'r pwyntiau a godwyd o dan adran, nododd yr ymatebwyr rwystrau i gael mynediad at gymorth. Darparwyd amrywiaeth o resymau i esbonio'r diffyg ymgysylltiad, a'r rhai a nodwyd amlaf oedd y broses ymgeisio, y meini prawf cymhwystra ar gyfer cronfeydd/grantiau, a diffyg gwybodaeth am ba gymorth a oedd ar gael i bobl.
Prif thema: prosesau ymgeisio
Nododd yr ymatebwyr fiwrocratiaeth a phrosesau ymgeisio fel rhesymau dros beidio â gallu cael mynediad at wahanol fathau o gymorth. Dywedodd yr ymatebwyr fod angen cwblhau a darparu llawer o waith papur a delio â staff rheng flaen nad oeddent bob amser yn teimlo eu bod yn gallu cynnig cyngor priodol, wedi'i deilwra, mewn modd sensitif.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Adroddodd y rhai â chyflyrau iechyd fod y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â gwneud cais am gymorth yn feichus ac yn annifyr, gan arwain at rai yn methu â chyflwyno ceisiadau.
“Y llwyth o ffurflenni a thystiolaeth y mae angen i ni eu darparu. Mae gen i ADHD hefyd ac rwy'n ei chael hi'n anodd llenwi ffurflenni. Mae angen help arnaf gyda fy rhent preifat gan fod y rhent yn dal i godi ond dw i ddim wedi llwyddo i lenwi'r ffurflen cronfa ddewisol [DAF].”
“Gall byw gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol greu rhwystr i gael mynediad at unrhyw gynlluniau cymorth oherwydd maint y gofid seicolegol a achosir yn sgil gorfod trafod materion cymhleth: Dywedodd un cyfranogwr “Rwy’n cael trafferth mawr gyda ffurflenni ysgrifenedig a chyfathrebu, felly mae gwneud cais am bethau yn hunllef…Roedd siarad â phobl ar y ffôn a cheisio cofio pethau…yn teimlo fel artaith.”
Hwylusydd Grŵp.
- Soniodd yr ymatebwyr am eu diffyg awydd i wneud cais am gronfeydd a grantiau oherwydd eu profiad negyddol blaenorol o brosesau ymgeisio.
“Dywedodd un cyfranogwr fod rhwystr sylweddol i gael mynediad at lawer o gynlluniau Llywodraeth Cymru a restrwyd yn rhwystr yr oedd ef ei hun wedi'i greu ac yn deillio o hanes o brofiadau negyddol gyda systemau budd-daliadau eraill. Nid oedd natur anodd y broses wedi arwain at unrhyw gymorth ychwanegol, ac felly roedd yn amharod i roi cynnig arall arni.”
Hwylusydd Grŵp.
“Mae yna stigma hefyd. Mae rhai ohonom yn teimlo ein bod yn cael ein barnu pan fyddwn ni'n gofyn am help, mae pobl yn tybio ein bod ni'n ddiog neu ddim yn gwneud digon o ymdrech.”
- Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith nad oedd gwasanaethau cymorth yn gydgysylltiedig a bod gofyn i unigolion ddod o hyd i'w ffordd o amgylch y system, yn aml heb fawr o ymwybyddiaeth.
“Mae rhywfaint o gymorth y GIG, fel presgripsiynau am ddim, ffisiotherapi a nyrs endometriosis—wedi bod yn ddefnyddiol i ryw raddau. Ond ar y cyfan, mae cymorth ystyrlon, cydlynol, yn enwedig cymorth ariannol neu gyfannol, wedi bod yn fach iawn ac yn anodd cael gafael arno.”
“Soniodd [y cyfranogwyr] am y diffyg cymorth unigolyddol ac arbenigol i’r rhai sy’n niwroamrywiol a/neu’n byw gyda salwch meddwl i gael mynediad at wahanol gynlluniau er mwyn osgoi’r baich gweinyddol ychwanegol hwnnw.”
Hwylusydd Grŵp.
Prif thema: meini prawf cymhwystra ar gyfer cronfeydd/grantiau
Roedd yr ymatebwyr yn aml yn sôn bod eu ceisiadau am gymorth wedi cael eu gwrthod gan nad oeddent yn bodloni meini prawf cymhwystra gwahanol gronfeydd/grantiau. Nododd yr ymatebwyr nad oeddent weithiau'n dod o fewn y meini prawf cymhwystra, hyd yn oed pan oeddent mewn angen, ac roedd hynny'n golygu bod eu cais am gymorth yn cael ei wrthod.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys:
- Roedd aelwydydd sy'n gweithio yn aml yn nodi eu bod wedi'u heithrio o gronfeydd/grantiau yr oeddent yn teimlo eu bod eu hangen. Nododd yr ymatebwyr eu bod yn cael trafferth ymdopi oherwydd costau byw ond, oherwydd eu hincwm, eu bod weithiau fymryn dros y trothwyon ariannol ar gyfer cymorth.
“Ddim yn gallu cael mynediad at y cynllun gofal plant 30 awr am ddim, gan fod cyflog fy mhartner dros y trothwy. Siawns y dylai fod yn seiliedig ar incwm yr aelwyd, gan y byddai dau berson sy'n ennill ychydig o dan y trothwy yn gymwys i gael mynediad at y cynllun, er gwaethaf y ffaith eu bod yn ennill mwy nag incwm fy aelwyd i lle mae un person dros y trothwy ac un person mewn swydd ran-amser â chyflog isel?"
“Mae bod yn fam sengl sy'n cynnal fy nheulu ar un incwm ond heb fod â hawl i ostyngiad yn y dreth gyngor oherwydd fy mod i'n ‘ennill gormod o incwm’ a'r gyfradd dreth gyngor uwch wedi cael effaith ar fy sefyllfa ariannol.”
“I deuluoedd sy’n gweithio yn ein grŵp incwm isel ni, does dim help ar gael. Mae costau byw yn anghynaliadwy.”
“Mae gan fy aelwyd incwm o dan £1550 y mis. Chawson ni ddim cymorth, cawsom ein gwrthod.”
- Dywedodd yr ymatebwyr nad oeddent yn gallu cael mynediad at rai cynlluniau oherwydd y rheolau sydd ar waith a diffyg disgresiwn, hyd yn oed ar gyfer cronfeydd brys.
“Pan wnes i gais, allwn i ddim cael grant [DAF] oherwydd fy mod i wedi benthyg oergell gan rywun am gyfnod byr i gadw llaeth y fron yn oer, er eu bod nhw [y cynllun DAF] yn gwybod mai dim ond ei benthyca oeddwn i.”
“Nid oedd un cyfranogwr wedi derbyn unrhyw help na chymorth o restr [o gynlluniau] Llywodraeth Cymru gan yr ystyriwyd ei fod yn anghymwys, er gwaethaf y ffaith ei fod yn byw gyda chyflyrau iechyd lluosog ac anabledd.”
Hwylusydd Grŵp.
“Fe wnes i gais i Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. I ddechrau, fe wnaethon nhw ddod i'r casgliad nad oeddwn i'n gymwys, ond rydyn ni'n hyderus nad yw'r rheswm a roddwyd yn berthnasol ac fy mod i'n gymwys. Mae'r anghydfod yn parhau."
“Dywedodd llawer o bobl yn y grŵp eu bod wedi gwneud cais am rai budd-daliadau ond eu bod fymryn dros y trothwy ac nad oeddent yn gymwys i gael pethau fel gostyngiad yn y dreth gyngor, grant ysgolion ac ati. Dywedwyd: 'Rydyn ni'n cael trafferth ymdopi gan fod ein hincwm yn fach ond fymryn dros y trothwy a dydyn ni ddim yn cael unrhyw help na chymorth.'”
Hwylusydd Grŵp.
“Gofal Plant Am Ddim / Dechrau’n Deg - roedd hyn yn bryder mawr i lawer o'r cyfranogwyr. Dywedodd rhai nad yw ar gael yn ystod y gwyliau, a/neu na allant gael mynediad at hyn gan nad ydynt yn byw yn yr ardal gymwys. Mae hyn yn teimlo'n annheg iawn i'r rhai nad oes ganddyn nhw ddewis o ran ble mae tai yn cael eu dyrannu iddyn nhw.”
Hwylusydd Grŵp.
“Dw i ddim yn gymwys i gael y grant gwisg sgol ond mae ei angen arna i.”
“Mae 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed yn cael ei gyflwyno ledled Cymru ond roedden ni un stryd y tu allan i’r ardal ac felly doedden ni ddim yn gymwys.”
“Doedden ni ddim yn gymwys i gael unrhyw gymorth er gwaetha'r ffaith fy mod i ar absenoldeb mamolaeth am y cyfnod hwn, gyda chyflog is.”
Prif thema: diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth
Cyfeiriodd yr ymatebwyr yn aml at y ffaith nad oeddent yn ymwybodol o'r cronfeydd a'r grantiau a allai fod ar gael iddynt, gan ddweud nad oeddent "erioed wedi clywed am y cymorth" neu "ddim yn gwybod" am y cynlluniau a restrwyd yn yr arolwg.
Roedd y pwyntiau a godwyd yn cynnwys y canlynol:
- Nododd yr ymatebwyr ddiffyg gwybodaeth am wahanol gynlluniau a sut i wneud cais amdanynt, hyd yn oed os oeddent mewn cysylltiad â gwasanaethau a allai fod wedi eu cyfeirio atynt neu eu hysbysu amdanynt.
“Fe wnes i geisio gwneud cais am y grant DAF. Roedd hi’n anodd cael gwybod am y grant, wnaeth neb yn y Ganolfan Waith ddweud wrtha i, cefais wybod gan ffrind.”
“Dwi ddim wedi clywed am lawer o’r eitemau ar y rhestr. Dw i erioed wedi clywed am y cymorth yma a fyddwn i ddim yn gwybod sut i gael mynediad ato ar ran fy nheulu.”
“Dydy pobl ddim yn gwybod beth mae ganddyn nhw hawl i'w gael - mae angen bod yn gliriach.”
"Wn i ddim. Mae llawer o bethau’n ymddangos yn gudd ac yn anodd dod o hyd iddyn nhw.”
"Ar ôl bod yn ennill incwm a bod yn annibynnol, newidiodd fy amgylchiadau, gadawodd fy mhartner, a doedd gen i ddim syniad beth oeddwn i'n gymwys i'w gael. Yn raddol, fe wnes i ddarganfod pethau y gallwn i eu cael a chanfod hefyd fod pethau y gallwn i fod wedi cael mynediad atynt o'r cychwyn, hyd yn oed pan oeddwn i'n ennill cyflog. Doeddwn i ddim yn gwybod. Dydy pobl ddim yn dweud wrthych chi.”
Cymorth gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth
Cwestiwn 3 yr arolwg
“Pa gymorth neu gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ydych chi'n meddwl y byddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i chi dros y 3 blynedd nesaf? ”
Trosolwg
Gwahoddwyd yr ymatebwyr i ddarparu gwybodaeth mewn blwch testun agored, a derbyniwyd 666 o ymatebion (rhai ymatebion gan unigolion, a rhai ymatebion yn grynodeb o drafodaeth grŵp). Dangosodd yr ymatebion fod ystod eang o gymorth yr oedd yr ymatebwyr yn teimlo y byddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt dros y 3 blynedd nesaf. Roedd yr ymatebion yn amrywio o awgrymiadau'n ymwneud â chymorth addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, i geisiadau i gynyddu budd-daliadau i gadw i fyny â chostau byw.
Y mathau mwyaf cyffredin o gymorth oedd yr ymatebwyr yn ystyried y byddent yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt oedd trafnidiaeth gyhoeddus, gwell cymorth i blant a phobl ifanc, gwasanaethau iechyd, costau ysgol a chostau byw. Er eu bod yn cael eu cyflwyno'n thematig, mae'n bwysig nodi bod y pwyntiau a'r awgrymiadau a restrir isod yn aml yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn gorgyffwrdd: er enghraifft, pwysleisiodd yr ymatebwyr y byddai cymorth i ariannu costau trafnidiaeth gyhoeddus yn galluogi eu plant i fynychu'r ysgol a chymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden. Felly, dylid ystyried y themâu a'r awgrymiadau canlynol gyda hyn mewn golwg.
Mae'r dyfyniadau yn yr adran hon yn ddyfyniadau gan gymysgedd o ymatebwyr, unigolion a hwyluswyr, ac nid ydynt wedi'u priodoli i ymatebwyr penodol.
Prif thema: trafnidiaeth gyhoeddus
Cyfeiriodd yr ymatebwyr yn aml am yr angen am fwy o help i gael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig bysiau. Roedd hyn yn cynnwys darpariaeth well fel gwasanaethau a chwmpas ehangach, yn ogystal â chostau teithio is i sicrhau y byddai mwy o bobl, yn enwedig plant a phobl ifanc, yn gallu cael mynediad at wasanaethau.
Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys y canlynol:
- Darparu gwasanaeth teithio am ddim/rhatach, yn enwedig i blant a phobl ifanc yn ystod y tymor a gwyliau ysgol, er mwyn galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau, gweithgareddau hamdden ac addysg heb roi pwysau ar gyllidebau teuluoedd.
“Darparu bysiau am ddim i bobl a theuluoedd nad ydynt yn gallu fforddio talu’r swm bob dydd yn barhaus.”
“Tocynnau rhatach ar fysiau gan fod yn rhaid i mi dalu £10 bob tro rydyn ni'n gadael y tŷ. Mae'n hurt a dw i ddim yn gallu fforddio car na dysgu gyrru.”
“Rydyn ni'n defnyddio’r bws am ddim ar benwythnosau ond byddai’n wych cael trafnidiaeth am ddim drwy gydol y gwyliau i leihau’r pwysau ariannol.”
“Tocyn bws am ddim i deithio mwy yn ein hardal ar gyfer clybiau/hobïau.”
- Gwella cysylltiadau trafnidiaeth, fel amseroedd teithio amlach a mwy o leoliadau, er mwyn galluogi teuluoedd i gael mynediad at fwy o wasanaethau a chymryd rhan mewn addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden.
“Gwasanaethau trafnidiaeth gwell yng nghefn gwlad, teithio am ddim ar y trên a'r bws.”
“Dim bws ysgol, mae hynny wedi cael ei stopio. Mae angen i blant gerdded 3 milltir nawr.”
“Dyw trafnidiaeth ysgol ddim ar gael mwyach, mae talu am gludiant yn anghynaliadwy i berson ifanc.”
Prif thema: cymorth i blant a phobl ifanc
Ymhlith yr ymatebion, gwell cymorth i blant a phobl ifanc oedd un o'r prif themâu. Roedd hyn yn cynnwys darpariaeth i blant iau drwy well mynediad at gynlluniau fel Dechrau'n Deg a lleoliadau gofal plant, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl ifanc gael mynediad at weithgareddau hamdden. Nododd yr ymatebwyr y byddai darpariaeth yn ystod gwyliau'r ysgol yn arbennig o fuddiol oherwydd bod costau'n aml yn cynyddu ac argaeledd yn lleihau yr adeg honno o'r flwyddyn.
Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys y canlynol:
- Ehangu’r meini prawf ar gyfer cynlluniau fel Dechrau’n Deg a’r Cynnig Gofal Plant i alluogi mwy o deuluoedd ar incwm isel i gael mynediad at y cymorth hwn. Roedd awgrymiadau gan ymatebwyr yn cynnwys cael gwared ar y “loteri cod post” a chyfyngiadau oedran ar y mathau hyn o gynlluniau er mwyn caniatáu i fwy o blant a theuluoedd elwa.
“Ehangu Dechrau’n Deg i fwy o godau post. Cymorth tuag at gostau gofal plant i blant dan 3 oed.”
“Dylai’r grant gofal plant 30 awr ddechrau o naw mis oed.”
“Dewisiadau gofal plant gwell, gofal plant yn ystod y tymor a gofal plant yn ystod y gwyliau. Cynyddu'r oedran ar gyfer gostyngiadau gofal plant.”
- Darparu mwy o weithgareddau hamdden i bobl ifanc gymryd rhan ynddynt. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at y ffaith nad oedd digon o weithgareddau am ddim i bobl ifanc ar ôl ysgol ac yn ystod gwyliau ysgol a nodwyd bod clybiau ieuenctid a chlybiau chwaraeon yn fannau pwysig a allai roi cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc.
“Mwy o leoedd i bobl ifanc dreulio amser am ddim, mwy o sesiynau clybiau ieuenctid.”
“Soniodd y cyfranogwyr hefyd am y ffaith bod gweithgareddau gwyliau am ddim yn ddefnyddiol iawn gan na fyddent yn gallu fforddio talu amdanynt.”
Hwylusydd Grŵp.
“Mwy o ganolfannau cymunedol gyda mwy o weithgareddau gan nad oes digon i’w wneud i blant yn y gymuned.”
“Cymorth ar gyfer chwaraeon, cael mwy o blant i gymryd rhan mewn chwaraeon fforddiadwy a grantiau i glybiau chwaraeon lleol er mwyn cadw’n heini, yn iach, cwrdd â phobl newydd a'u cadw oddi ar y strydoedd.”
Prif thema: gwasanaethau iechyd
Soniodd yr ymatebwyr am eu hawydd i gael gwell mynediad at wasanaethau iechyd, yn enwedig triniaeth ddeintyddol, gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth i deuluoedd plant ag ADY.
Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys y canlynol:
- Gwella mynediad at ddeintyddion y GIG drwy leihau amseroedd aros ar gyfer cofrestru er mwyn galluogi mwy o bobl i gael triniaeth amserol.
“Triniaeth ddeintyddol y GIG, alla i ddim dod o hyd i ddeintydd y GIG ar hyn o bryd.”
“Mae dal yn anodd iawn cael gafael ar ddeintydd neu apwyntiad deintyddol ar y GIG a dw i ddim yn gallu fforddio apwyntiad preifat.”
- Darparu mwy o gymorth 1:1 mewn gwasanaethau iechyd meddwl gyda phrosesau atgyfeirio/mynediad haws at gymorth.
“Gwell cymorth iechyd meddwl, mwy o gymorth, cymorth lleol ac amseroedd aros byrrach.”
“Byddai mynediad at gymorth iechyd meddwl mewn ysgolion yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ifanc. Mae llawer yn cael trafferth gyda gorbryder, straen, neu sefyllfaoedd anodd yn y cartref, ac mae amseroedd aros am wasanaethau arbenigol yn rhy hir. Byddai cael cwnselwyr a rhaglenni llesiant mewn ysgolion yn golygu bod plant yn cael cymorth yn gynharach, cyn i broblemau fynd yn fwy difrifol.”
- Rhestrau aros byrrach ar gyfer diagnosis o ADY a gwell cymorth i'r rhai ag ADY a theuluoedd â phlant ag ADY.
“Mwy o gymorth a mannau diogel i blant ag anghenion addysgol gan ei bod hi’n anoddach i blant ag awtistiaeth gael mynediad at grwpiau sydd eisoes yn bodoli. Mwy o gymorth a hyfforddiant ynghylch awtistiaeth.”
“Rhestrau aros llai ar gyfer plant ag ADY a hyfforddiant mwy manwl i athrawon ar ADY.”
Prif thema: costau ysgol
Fel yr amlygwyd yn adran, roedd costau sy'n gysylltiedig ag ysgolion yn bryder mawr i'r ymatebwyr. Nodwyd bod ehangu'r cynllun prydau ysgol am ddim i blant ysgol uwchradd yn faes cymorth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl, ochr yn ochr â'r Grant Hanfodion Ysgol i helpu gyda chost gwisg ys
Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys y canlynol:
- Cyflwyno prydau ysgol am ddim i holl blant ysgol uwchradd a/neu gynyddu'r trothwy incwm ar gyfer cymhwystra i gael prydau ysgol am ddim.
“Mae fy merch yn mynd i'r ysgol gyfun ac mae gen i’r gost ychwanegol o orfod talu am ginio ysgol nawr a doedd hyn ddim yn wir o'r blaen.”
“Dylai prydau ysgol am ddim fod ar gael i blant ysgol gyfun gan ei fod yn mynd yn ddrud iawn.”
- Cynyddu mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol (sy'n gysylltiedig â meini prawf prydau ysgol am ddim) a maint y grant i alluogi mwy o deuluoedd i gael mynediad at gymorth gyda chostau gwisg ysgol.
“Cawson ni fagiau o bethau ar gyfer yr ysgol am ddim heddiw, maen nhw wedi bod yn help mawr.”
“Rhyw elfen o grant gwisg ysgol i bawb. Rwy'n cael trafferth er fy mod i'n gweithio."
“Mae angen i’r lwfans gwisg ysgol fod yn fwy, mae gen i bedwar o blant ond dim ond arian am ddau dw i’n ei gael.”
- Sicrhau bod prydau ysgol, yn enwedig cinio ysgolion cynradd, yn gynhwysol h.y. gofynion dietegol ac alergeddau, er mwyn galluogi teuluoedd i fanteisio ar y fenter prydau ysgol am ddim i bawb.
“Mae angen i’r llywodraeth roi trefn ar brydau ysgol am ddim gan fod gan fy mhlentyn alergeddau a dyw e ddim yn gallu eu bwyta.”
Prif thema: costau byw
Galwodd llawer o'r ymatebwyr am fwyd rhatach, biliau ynni is, a chymorth tai i fynd i'r afael â chostau byw uchel. Cafodd banciau bwyd a phrosiectau cymunedol eu croesawu'n eang, ond pwysleisiodd teuluoedd yr angen am gymorth parhaus, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol pan fydd costau'n codi.
Roedd yr awgrymiadau'n cynnwys y canlynol:
- Cefnogi pobl ar incwm isel drwy fwy o fentrau a grantiau ar gyfer lleoliadau cymunedol/elusennau sydd eisoes yn gwybod beth yw eu hanghenion cymorth.
“Cyllid a chymorth i fwy o grwpiau cymunedol lleol sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.”
“Darparu grantiau i elusennau fel y gallant gefnogi eu cymunedau lleol.”
“Darparu cronfa i'w defnyddio yn ôl disgresiwn i’n canolfan gymunedol leol i’n helpu ni. Does dim ots gennym drafod cyllid gyda'r menywod sy'n rhedeg y ganolfan gan eu bod nhw'n ein hadnabod ni ac mor gyfeillgar pan fydd gennym broblem. Maen nhw'n aml yn gwybod beth i'w wneud neu i bwy y dylem ofyn am gyngor.”
- Cynorthwyo pobl sy'n profi anawsterau ariannol gyda thai drwy ddarparu tai mwy fforddiadwy, lleihau cyfraddau'r Dreth Gyngor, ac ehangu'r meini prawf ar gyfer Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor.
"Mae gen i ddwy swydd er mwyn goroesi. Help gyda rhent a'r Dreth Gyngor.”
“Rwy’n byw mewn tŷ dros dro a hoffwn gael cartref i’m plentyn yn fuan, rwyf wedi aros naw mis.”
“Tai fforddiadwy er mwyn i bobl ifanc allu gadael cartref.”
- Symleiddio gwasanaethau cynghori drwy bwyntiau cyswllt sengl i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwell gwybodaeth am y cronfeydd/grantiau sydd ar gael ac yn gallu cael cymorth personol heb jargon wrth wneud cais.
“Defnyddio iaith symlach mewn ffurflenni a dogfennau fel y gall pobl ddeall yr hyn maen nhw'n ei ddarllen ac felly ateb unrhyw gwestiynau ar sail gwybodaeth.”
“Mae’r system bresennol yn ddryslyd ac yn golygu bod llawer o deuluoedd yn ansicr ynglŷn â’r hyn y gallant ei hawlio. Byddai ffordd hygyrch a syml o wirio cymhwystra mewn un lle yn gwneud gwahaniaeth mawr.”
“Dywedodd rhieni y byddai’n gwneud gwahaniaeth mawr pe bai ffordd syml o wirio cymhwystra ar gyfer gwahanol fudd-daliadau mewn un lle. Fe wnaethon nhw egluro eu bod nhw’n teimlo wedi'u gorlethu ac yn ddryslyd gan yr hyn sydd ar gael ac yn aml yn colli allan ar gefnogaeth oherwydd nad yw’r wybodaeth yn glir.”
Hwylusydd Grŵp.
- Cynyddu cymorth ar gyfer bwyd a chyfleustodau i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd, gan gynnwys yn ystod gwyliau'r ysgol.
“Rwy’n cael trafferth talu fy mil gwres ac mae hynny'n achos pryder mawr i mi. Weithiau rwy'n gwario llai ar fwyd i'm teulu oherwydd hyn. Pan nad yw fy mhlant yn yr ysgol ac yn cael prydau ysgol am ddim, mae fy mil bwyd yn ddrutach.”
“Help gyda bwyd yn ystod gwyliau’r ysgol.”
“I mi, gwyliau ysgol yw’r amser anoddaf i deuluoedd, gan fod y plant gartref ac felly mae'r biliau bwyd ac ati yn uwch.”
“Gostwng biliau gan fod nwy a thrydan yn rhy ddrud. Byddai talebau tanwydd yn wych.”
- Darparu mwy o gymorth i'r rhai sydd angen cymorth ar unwaith drwy daliadau ariannol uniongyrchol i leddfu caledi.
“Unrhyw fath o gefnogaeth/cymorth (ariannol yn bennaf) a fyddai’n galluogi pobl i ymdopi â'r cynnydd mewn costau byw.”
“Mwy o arian i atal pobl rhag wynebu anawsterau, mae'r pryderon yn fy ngwneud i'n isel fy ysbryd.”
“Benthyciad di-log a all helpu teuluoedd i fenthyca yn y tymor byr a’r tymor hir."
Adolygiad o'r dystiolaeth
Mae'r adran hon yn rhoi crynodeb o'r dystiolaeth o brofiadau bywyd a adolygwyd, gan ganolbwyntio ar effeithiau tlodi ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd; effeithiau cymorth; y rhwystrau rhag cael mynediad at gymorth; anghenion a blaenoriaethau yn y dyfodol; ac unrhyw argymhellion sy'n deillio o'r llenyddiaeth. Adolygwyd cyfanswm o wyth adroddiad ymchwil a gyhoeddwyd yn 2024 a 2025. Darparodd chwech ohonynt dystiolaeth o brofiad bywyd yn ymwneud yn benodol â Chymru, darparodd dau adroddiad pellach dystiolaeth o'r DU y barnwyd ei bod yn ddigon perthnasol i'r gwaith hwn yn ymwneud â Chymru. Defnyddiodd Arad ddull Asesiad Cyflym o Dystiolaeth, gan ganolbwyntio ar echdynnu data manwl ac asesu'r dystiolaeth yn fanwl
Mae crynodeb o bob un o'r adroddiadau tystiolaeth a adolygwyd i'w weld yn Atodiad 2.
Effaith tlodi ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd
Datgelodd y llenyddiaeth realiti byw mewn tlodi i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae'r profiadau'n amrywiol ond mae'n amlwg o'r llenyddiaeth a adolygwyd y gall byw mewn tlodi gael effaith ddifrifol ar blant a phobl ifanc yn ogystal â'u teuluoedd mewn sawl agwedd wahanol ar eu bywydau.
Un o'r effeithiau mwyaf amlwg yw methu â fforddio'r hanfodion sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd. Yn ôl adroddiad Tlodi Plant a Theuluoedd: Arolwg o blant a phobl ifanc a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru, pan ofynnwyd iddynt beth oedd yn effeithio fwyaf arnynt ynglŷn â byw mewn tlodi, dywedodd 63% o blant a phobl ifanc, “bod heb ddigon o arian i dalu am fwyd, gwres neu drydan.” Canfu adroddiadTlodi Plant a Theuluoedd: Arolwg o Rieni a Gofalwyr a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru fod 68% wedi dweud bod eu sefyllfa ariannol wedi gwaethygu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. MaeArolwg Sefydliad Bevan yn ategu hyn gyda 15% o oedolion yn dweud ym mis Medi 2024 nad oes ganddynt ddigon o arian weithiau, yn aml neu bob amser ar gyfer y pethau sylfaenol – o'i gymharu ag 13% ym mis Ionawr 2024.
Mae cysylltiad rhwng canfyddiadau'r adroddiadau hyn sy'n canolbwyntio ar Gymru a phrofiad bywyd ehangach yn y DU. Mae adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr ar dyfu i fyny mewn teulu incwm isel yn amlinellu bod plant yn y DU wedi dangos ymwybyddiaeth bod yn rhaid i'w teuluoedd ddewis yn aml rhwng bwyd neu wres. Mae cynnydd mewn costau byw hefyd wedi effeithio ar faint ac ansawdd y bwyd y gallai teuluoedd yn y DU ei brynu. Fel y dyfynnwyd yn adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr:
“Last year, 18% of all children in the UK lived in food insecure households, and 7.7% lived in a household that had accessed a food bank in the last 12 months.”
Adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr.
Yn yr Arolwg o Rieni a Gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru, dywedodd 17% o rieni fod cost bwyd wedi gwaethygu eu sefyllfa ariannol eleni. Mae hepgor prydau bwyd neu ddewis opsiynau bwyd rhatach, nad ydynt yn iach, wedi dod yn realiti i rai Canfu’r adroddiad Food for Thought: Young People and Youth Workers' Perceptions of Food Insecurity and the Youth Work Response deimladau o ddadrymuso ymysg pobl ifanc a’u gweithwyr ieuenctid mewn perthynas â diffyg diogeledd bwyd. Roeddent yn ymwybodol iawn o achosion strwythurol diffyg diogeledd bwyd ond yn teimlo braidd yn gyfyngedig o ran eu gallu i wneud unrhyw newidiadau systemig gan arwain at thema dadrymuso. Tynnwyd sylw ddiffyg diogeledd bwyd hefyd yn adroddiad yr arolwg o Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru, a nododd:
"Mae rhai plant yn newynu yn yr ysgol, neu’n llwglyd tan ddiwedd y dydd, ac yna wrth fynd adre efallai bod dim digon o fwyd i lenwi’u bol, neu falle bod nhw’n poeni fyddan nhw’n cael rhywbeth i’w fwyta gartre, neu’n pryderu bod eu rhieni ddim yn bwyta er mwyn iddyn nhw gael rhywbeth.”
Adroddiad yr arolwg o Blant a Phobl Ifanc: Plant yng.
Canfu sawl adroddiad (arolygon Plant yng Nghymru, Comisiynydd Plant Lloegr) fod plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi yn debygol o nodi eu bod yn teimlo'n anniogel yn y cymdogaethau y maent yn byw ynddynt, gan fynegi pryderon ynghylch troseddau cyllyll a gangiau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Roedd y rhan fwyaf o'r adroddiadau a adolygwyd yn tynnu sylw at oblygiadau negyddol tlodi i agweddau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Dangosodd sawl un sut y gwaethygwyd y materion a nodir uchod gan heriau fel pwysau gan gyfoedion, bwlio, cywilydd, a diffyg cyfleoedd, sydd oll yn cyfrannu at waethygu iechyd meddwl plant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi.
Canfu'r adroddiad Codi'r Caead ar stigma tlodi yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fod pobl ifanc (16 i 24 oed) ymhlith y grwpiau lle yr oedd y stigma tlodi derbyniedig a chanfyddedig ar ei uchaf, “mae lefelau stigma tlodi 3 gwaith yn uwch ymysg pobl ifanc 16 i 24 oed na phobl 65+ oed”. Disgrifiodd adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr sut yr oedd gan blant a phobl ifanc ymwybyddiaeth uchel iawn o sefyllfa eu teulu gan sôn am gywilydd, pwysau gan gyfoedion a chael eu bwlio. Canfu'r arolwg o Blant a Phobl Ifanc a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru fod 68% o blant a phobl ifanc yn teimlo mai cael eu bwlio neu bobl yn edrych i lawr arnyn nhw oedd y peth a oedd fwyaf tebygol o effeithio ar blant sy'n byw mewn tlodi. Roeddent yn dweud nad oeddent eisiau mynd i'r ysgol oherwydd hyn gan ddweud mai prif achosion bwlio sy'n gysylltiedig â thlodi yw'r ffaith nad oes ganddynt y wisg ysgol gywir neu na allant fforddio mynd ar deithiau ysgol. Mae hyn yn creu ymdeimlad o ynysu, tristwch, gorbryder a theimlo'n anniogel.
At hynny, canfu'r Arolwg o Rieni a Gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru y gall y rhai sy'n byw mewn tlodi golli'r cyfle i dreulio amser gwerthfawr gyda rhieni a theuluoedd oherwydd bod yn rhaid i rieni weithio mwy yn yr economi bresennol. Fel y dywedodd un ymatebydd yn adroddiad Pŵer y Llais, Achub y Plant:
Mae'n rhaid i famau wario arian sydd ddim ganddyn nhw, mae'n rhaid iddyn nhw dreulio mwy o amser yn y gwaith er mwyn cael mwy o arian i'w wario, sy'n golygu llai o amser gyda'r teulu.”
Adroddiad Achub y Plant.
Dywedodd ymatebwyr o adroddiadTlodi Plant a Theuluoedd: Arolwg o ymarferwyr a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru y gall cost cludiant olygu nad yw plant yn gallu mynd i apwyntiadau clinig ac i'r ysgol. Cafwyd tystiolaeth debyg yn Lloegr, gydag adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr yn nodi bod cost cludiant a chost gweithgareddau, gan gynnwys cost cyfarpar, yn rhwystrau i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol. Roedd yr adborth o'r Arolwg o Ymarferwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru yn debyg ac yn amlinellu mai ar glybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau hamdden i blant yr effeithiwyd arnynt fwyaf yn sgil lleihau gwariant gan deuluoedd. Mynegodd yr ymarferwyr a holwyd bryderon ynghylch effeithiau cymdeithasol, emosiynol a chorfforol lleihau'r gweithgareddau hyn ar lesiant.
“Dywedodd yr ymarferwyr bod y llwybrau allan o dlodi fel arfer wedi’u ‘cau’ gan iechyd meddwl gwael. Er enghraifft, roedd rhieni’n aml yn methu gweithio, ymgysylltu â chymorth na cheisio cymorth oherwydd eu hiechyd meddwl; roedd presenoldeb plant a phobl ifanc yn yr ysgol yn rheolaidd yn wael, oherwydd straen costau ysgol a bwlio, ac roedd hynny’n fynych yn arwain at gyrhaeddiad addysgol isel."
Adroddiad yr arolwg o ymarferwyr - Plant yng Nghymru.
Effaith y cymorth
Mae rhywfaint o'r llenyddiaeth yn disgrifio neu'n asesu effaith cymorth, ymyriadau a strwythurau cymdeithasol a chymunedol o ran mynd i'r afael â'r heriau a nodwyd yn yr adran flaenorol. Mae Prydau Ysgol Am Ddim wedi bod yn ymyrraeth bwysig i rieni, plant ac ymarferwyr o ran darparu cymorth a chefnogi newidiadau mewn amgylchiadau ariannol a llesiant.
Amlygodd yr Arolwg o Rieni a Gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru fod tua 66% o rieni wedi dweud bod eu plant yn elwa o gael prydau ysgol am ddim. Dywedodd 55% o rieni fod hyn wedi cael effaith ariannol gadarnhaol a’i fod wedi lleddfu eu baich ariannol. Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith, 'drwy ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn, roedd hefyd yn dileu ofn cael eu barnu neu eu stigmateiddio am fynd â chinio pecyn, neu gael eu hadnabod fel rhai oedd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim.
“Mae’n ysgafnhau’r baich o sicrhau pryd mawr cynnes iddyn nhw gartre. Mae ein bil bwyd wythnosol wedi gostwng. Rydw i’n ddiolchgar iawn bod y fenter hon ar gyfer pob plentyn."
Adroddiad yr arolwg o Rieni a Gofalwyr: Plant yng Nghymru.
“Gwahaniaeth aruthrol, achos rydyn ni’n gwybod bydd ein plentyn yn cael bwyd da yn yr ysgol, hyd yn oed os nad oes fawr ddim bwyd gartre.”
Adroddiad yr arolwg o Rieni a Gofalwyr: Plant yng Nghymru.
Yn adroddiad yr Arolwg o Ymarferwyr a Gweithwyr Proffesiynol gan Plant yng Nghymru nodwyd 'gwahaniaeth sylweddol, amlwg mewn plant a’u rhieni, nid dim ond trwy’r gwerth maethol, ond trwy helpu i leihau’r baich ariannol ar iechyd meddwl rhieni; gwell ymgysylltiad gan blant; mwy o gydraddoldeb a chymdeithasu yn ystod prydau bwyd, a gostyngiad yn y stigma cysylltiedig â thlodi i’r teulu cyfan.' Gwnaeth ymarferwyr sylwadau ei fod, mewn llawer o achosion, yn ymddangos fel pe bai o gymorth i sicrhau gwell presenoldeb yn yr ysgol gan fod rhieni'n gwybod y bydd eu plant yn cael eu bwydo.
“Mae hyn wedi bod o fudd aruthrol i deuluoedd. Maen nhw’n teimlo o dan lai o bwysau i ddarparu cinio pecyn iach a maethlon yn ystod y dydd. Mae plant yn mwynhau bwyta gyda’i gilydd ac yn barod i ddysgu.”
Adroddiad yr arolwg o Ymarferwyr a Gweithwyr Proffesiynol: Plant yng Nghymru.
Fodd bynnag, yn yr arolwg o Rieni a Gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru adroddwyd am rai profiadau negyddol gyda phrydau ysgol am ddim, yn ymwneud ag anghenion deietegol penodol nad oeddent yn cael eu diwallu, a throthwyon cymhwystra isel ar gyfer dysgwyr ysgol uwchradd.
Elfen bwysig arall o gymorth oedd gofal plant. Nododd yr arolwg o Rieni a Gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru fod 34% o'r ymatebwyr yn defnyddio gofal plant ar hyn o bryd, gan ddefnyddio cymysgedd o ofal plant ffurfiol ac anffurfiol. Roedd meithrinfeydd dydd, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol hefyd yn cael eu defnyddio'n rheolaidd a thynnwyd sylw at bwysigrwydd y rhain mewn sawl adroddiad arall, megis adroddiad Comisiynydd Plant Lloegr. Roedd y rhwystrau i gael mynediad at ofal plant yn cynnwys mynediad a fforddiadwyedd, gyda theuluoedd yn aml yn llenwi'r bylchau hyn.
Mae adroddiad yr Arolwg o Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith bod 'Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu Canllawiau Polisi Gwisg Ysgol ac Edrychiad sy’n cynnwys cyngor i ysgolion ar ffyrdd o ymdrin â chost gwisgoedd ysgol,' mewn ymateb i dystiolaeth a ddarparwyd am gostau gwisg ysgol, a oedd yn gysylltiedig â bwlio sy'n gysylltiedig â thlodi. Nododd Plant yng Nghymru hefyd fod nifer cynyddol o deuluoedd hefyd yn estyn allan am gymorth ar gyfer cost y diwrnod ysgol, gyda mwy o rieni’n cael mynediad at gymorth gyda gwisg ysgol a theithiau ysgol. Serch hynny, nododd y canfyddiadau'r angen brys i 'roi’r canllawiau hyn ar waith i raddau helaethach ac yn fwy effeithiol mewn llawer o ysgolion yng Nghymru.'
Er bod cymorth ychwanegol i'w groesawu, yn aml dim ond am gyfnod byr iawn y byddai rhywfaint o hyn yn cael ei ariannu ac roedd yn golygu bod teuluoedd yn cael eu gadael heb gymorth parhaus. Mae adroddiad yr Ymarferwyr yn nodi bod 'sefydlu dull gweithredu ‘Cymuned o Ymarfer’ yn ddiweddar er mwyn gwella’r cysylltiad rhwng gwasanaethau yn gam cadarnhaol at helpu i gysylltu gwasanaethau' a chaniatáu i ddinasyddion, ymarferwyr a llunwyr polisïau ddod 'yn fwy ymwybodol o’r ddarpariaeth sydd eisoes ar gael a ble mae’r bylchau'.
Edrychodd adroddiadau eraill ar strwythurau cymorth eraill megis rôl yr ysgol, a nododd adroddiad Achub y Plant:
“Disgrifiodd y cyfranogwyr sut roedd yr ysgol yn rhoi cyfleoedd i gymdeithasu, cefnogi a meithrin, a chyfleoedd i fagu sgiliau, cyfeillgarwch, ac ymdeimlad o hunaniaeth trwy dimau, clybiau neu grwpiau eraill (e.e. trwy ystafell weddi i Fwslemiaid). Yn ei dro, roedd llawer yn gweld yr ysgol (ac addysg yn fwy cyffredinol) fel llwybr at ddyheadau ehangach mewn bywyd a rhywbeth a fyddai'n eu helpu i gyflawni'r hyn yr oedden nhw eisiau gwneud.”
Adroddiad Achub y Plant.
Tynnodd yr adroddiad Food for Thought sylw at rôl debyg i weithwyr ieuenctid, gan ddweud bod pobl ifanc yn rhoi gwerth ar weithgareddau penodol ac ymgysylltu â phobl ifanc eraill sydd â phrofiad uniongyrchol o ddiffyg diogeledd bwyd fel nad ydyn nhw'n teimlo ar eu pen eu hunain.
Tynnodd adroddiad Achub y Plant sylw hefyd at brofiad cymunedau clos, a hwylusir drwy wahanol gyfryngau gan gynnwys crefydd, cymdogion, gwaith elusennol, clybiau chwaraeon, mannau cymunedol a digwyddiadau lleol. Nodwyd hefyd at sut y n’gall yr ymdeimlad hwn o gymuned gael ei danseilio pan fydd mannau a rennir naill ai’n cael eu cynnal a’u cadw’n wael neu pan fydd mynediad yn gyfyngedig, yn enwedig i bobl ifanc."
Rhwystrau Rhag Cael Mynediad at Gymorth
Yn ogystal â datgelu effaith tlodi ac effaith cymorth, mae'r llenyddiaeth yn egluro'r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gymorth i oresgyn profiadau bywyd o dlodi. Yn fras, gellir categoreiddio'r rhwystrau fel diffyg adnoddau, diffyg addysg neu ymwybyddiaeth, ac anghydraddoldebau strwythurol sy'n arwain at anghysondebau mewn profiadau pobl.
Ar draws y llenyddiaeth, nodwyd bod diffyg adnoddau yn rhwystr mawr i fanteisio ar gymorth. Mae hyn yn arbennig o wir ymysg rhieni a gofalwyr y mae angen gofal plant arnynt. Mewn ymateb i'r arolwg o rieni a gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru, nododd 55% o rieni fod gofynion gofal plant yn eu hatal rhag gweithio'n gyfan gwbl neu rhag gweithio mwy o oriau, ac, i'r teuluoedd hynny sy'n talu am ofal plant, dywedodd 60% ohonynt ei fod yn 'straen aruthrol ar eu sefyllfa ariannol'. Mae hyn yn cael ei gadarnhau gan arolwg Sefydliad Bevan, lle y dywedodd 24% o'r rhieni a ymatebodd iddo na allant fforddio'r hanfodion.
Yn ogystal ag anawsterau’n ymwneud â gofal plant, adroddodd yr ymatebwyr i'r arolwg o rieni a gofalwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru fod meini prawf cymhwystra ar gyfer rhai adnoddau yn gyfyngol ac felly’n atal mynediad at gymorth er gwaethaf y ffaith bod gan bobl incwm isel o hyd, fel grantiau ar gyfer gwisg ysgol neu drothwyon budd-daliadau ariannol penodol.
Mae diffyg ymwybyddiaeth o gymorth yn rhwystr arall a ddaw i'r amlwg yn y llenyddiaeth, i rieni a phlant fel ei gilydd. Canfu'r arolwg o ymarferwyr a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru nad yw llawer o deuluoedd yn hawlio'r holl fudd-daliadau a chymorth y mae ganddynt hawl iddynt, a hynny yn y DU yn ogystal â Chymru, oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o'r hyn y maent yn gymwys i'w gael a sut i'w hawlio.
Crybwyllwyd rhwystrau addysgol hefyd. Mae adroddiad Achub y Plant yn awgrymu bod plant a phobl ifanc yn teimlo bod addysg yn 'llwybr at ddyheadau ehangach mewn bywyd' a bod gallu ymgysylltu ag addysg yn bwysig er mwyn eu galluogi i gyrraedd eu nodau, fodd bynnag dywedodd rhai ohonynt eu bod yn ei chael hi'n anodd ymgysylltu â dysgu yn yr ysgol neu bod hynny'n flinedig ac yn eu rhoi dan straen. Mynegodd rhai bryder ynghylch gallu fforddio addysg bellach ac addysg uwch yn y dyfodol.
Nododd yr adroddiad Food for Thought fod cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn addysg sy’n eu dysgu i herio achosion systemig diffyg diogeledd bwyd yn gyfyngedig ac awgrymodd fod diffyg ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o sut y gallent ymgysylltu â’u hawliau a chymryd rhan yn wleidyddol.
Mae'r llenyddiaeth yn tynnu sylw at y ffaith nad yw mynediad at gymorth yn gyfartal a bod y rhai sydd â phrofiadau bywyd o dlodi yn dioddef i wahanol raddau yn dibynnu ar eu lleoliad. Er enghraifft, awgrymodd adroddiad Achub y Plant nad oes gan rai plant ddewis o weithgareddau oherwydd nad oes ganddynt fynediad at leoliadau a allai ddarparu cymorth (e.e. clwb ieuenctid lleol neu ganolfan hamdden) a bod mannau lleol eraill yn teimlo'n anniogel. Yn yr arolwg o rieni a gofalwyr, dywedodd llawer eu bod wedi'u cyfyngu gan eu lleoliad o ran cael mynediad at ofal plant digonol ac yn rhwystredig bod rhai teuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth Dechrau'n Deg yn seiliedig ar eu cod post, ond nid felly eraill. Mae profiadau cymunedol a chymdeithasol yn fathau pwysig o gymorth i'r rhai sy'n byw mewn tlodi, fodd bynnag, fel y nodwyd yn adroddiad Plant yng Nghymru, gall rhai plant a phobl ifanc golli'r cyfleoedd hyn.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae plant a phobl ifanc wedi mynegi pryder fwyfwy eu bod yn methu fforddio gweld eu ffrindiau neu eu teulu. Mae’r opsiwn yma wedi cael ei gynnwys yn arolwg eleni felly, a gallai egluro gostyngiad mewn meysydd eraill, yn enwedig o ran trafnidiaeth.”
Adroddiad yr arolwg o Blant a Phobl Ifanc: Plant yng Nghymru.
Anghenion neu Flaenoriaethau ar gyfer y Dyfodol
Mae'r llenyddiaeth yn tynnu sylw at ystod o anghenion a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, a nodwyd gan blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol a chan awduron adroddiadau.
Noda adroddiad yr arolwg o Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru y gofynnwyd i blant a phobl ifanc beth ddylid ei wneud i atal bwlio sy'n gysylltiedig â thlodi yn yr ysgol. Roedd yr ymatebion yn cynnwys lleihau costau gwisg ysgol a theithiau; addysgu pobl am achosion ac effaith tlodi; a chreu gwell dealltwriaeth a diwylliant o empathi yn yr ysgol. Roedd blaenoriaethau eraill i blant yn cynnwys yr angen am denantiaethau diogel a thai fforddiadwy, gan sicrhau bod y rhain o fewn cymunedau ac amgylcheddau diogel.
“Gwella ystadau cyngor, dylai teuluoedd fedru byw’n ddiogel beth bynnag yw eu sefyllfa. Mae bod mewn cartref sydd ddim yn ddiogel yn gwneud y sefyllfa’n waeth.”
Adroddiad yr arolwg o Blant a Phobl Ifanc: Plant yng Nghymru.
Roedd adroddiad yr arolwg o Rieni a Gofalwyr a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru yn darparu amrywiaeth o safbwyntiau gan rieni ynghylch y cymorth yr hoffent ei weld yn y dyfodol. O ran addysg, roedd awgrymiadau’n cynnwys clybiau ar ôl ysgol a gweithgareddau allgyrsiol i blant a mynegodd llawer o rieni’r angen am gynlluniau talu mwy hyblyg a rhybudd ymlaen llaw o gostau a fyddai’n helpu teuluoedd i gynllunio'n ariannol. O ran prydau ysgol am ddim, gwnaed awgrymiadau gan rieni hefyd ynghylch sut y gellid gwella'r cynllun drwy ei ymestyn i ysgolion uwchradd a chynnwys ystod ehangach o anghenion deietegol.
Nododd llawer o rieni fod cymorth gyda chostau gofal plant yn hanfodol ynghyd ag awgrymiadau ar gyfer gofal plant mwy arbenigol i blant ag ADY ac anableddau corfforol. Cyfeirio pobl yn well at wasanaethau cymorth perthnasol gydag opsiynau hunangyfeirio sy'n ddienw ac yn gyfrinachol, hyrwyddo mwy ar wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a'r hawl i fudd-daliadau a chymorth ynghyd â chymorth ar reoli dyledion.
“Mae’n sefyllfa ofnadwy i fod ynddi. Mae angen i ni geisio addysgu a chefnogi teuluoedd i dorri’r cylch heb gael eu barnu."
Adroddiad yr arolwg o Rieni a Gofalwyr: Plant yng Nghymru.
Roedd rhieni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau lleol a chymunedol a'r angen i fuddsoddi yn y rhain fel y gall teuluoedd fwynhau diwrnodau allan am ddim neu am gost isel. Roeddent eisiau gweld mwy o leoedd i deuluoedd gyfarfod a theithiau a gweithgareddau am ddim y gallent fanteisio arnynt.
Yn adroddiad Ymarferwyr a Gweithwyr Proffesiynol Plant yng Nghymru, roedd y mwyafrif llethol, waeth beth fo'u rôl, eisiau gwybod sut i ymdrin â materion sy'n gysylltiedig â thlodi gyda phlant a rhieni, a sut i wrando arnyn nhw ac ymgysylltu â nhw mewn ffordd gefnogol. Er bod y rhan fwyaf wedi crybwyll yr angen am hyfforddiant, gwnaeth eraill sylwadau ar yr angen am ragor o wybodaeth yn ymwneud â darparu gwasanaethau. Gwnaed llawer o sylwadau ynghylch gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau lles yn ogystal â'r angen am hyfforddiant manwl ar y pwnc hwn. Argymhellodd adroddiad Codi’r Caead Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru hefyd y dylid buddsoddi mwy mewn darparu hyfforddiant ar dlodi a stigma i lunwyr polisïau a staff o fewn gwasanaethau.
Nododd yr ymatebwyr fod angen canllawiau a gwybodaeth yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Yn benodol, roedd angen i Lywodraeth Cymru ddarparu canllawiau i gefnogi ei Strategaeth Tlodi Plant (2024), ynghylch yr hyn sy'n gweithio a sut i'w roi ar waith.
“Mae [tlodi] yn effeithio ar bopeth, canolbwyntio, y gallu i ddod i’r ysgol yn barod i ddysgu, anawsterau gyda grwpiau cyfoedion/cyfeillion, hunan barch, hyder, dyheadau, dymuno peidio gofyn am unrhyw beth ychwanegol cysylltiedig â’r ysgol; e.e. teithiau, cyfarpar”.
Adroddiad yr arolwg o Ymarferwyr a Gweithwyr Proffesiynol: Plant yng Nghymru.
Nododd ymarferwyr yn adroddiad Plant yng Nghymru hefyd yr angen am fwy o gymorth wyneb yn wyneb, yn hytrach na chymorth o bell neu 'hunangymorth' ynghyd â lleihau biwrocratiaeth a chreu prosesau symlach sy'n haws eu defnyddio a'u deall. Ar lefel fwy strategol, awgrymwyd cyfnodau cyllido hwy ar gyfer gwasanaethau, o ystyried nad yw cyllid blynyddol yn caniatáu cynllunio a darparu gwasanaethau'n strategol a dull cwbl gyfannol o ymdrin â thlodi. Dylai hyn fod ar lefelau cenedlaethol a lleol a chynnwys sut y mae gwasanaethau'n cael eu cyllido a sut y dylent weithio ar y cyd.
Roedd adroddiad Achub y Plant yn canolbwyntio ar ddau faes allweddol: mynediad at gymorth iechyd meddwl, a mwy o gymorth i ymdopi â chostau byw. 'Pwysleision nhw bwysigrwydd sicrhau bod gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd ddigon o arian a bwyd i allu ffynnu, nawr ac yn y dyfodol.' Fel mewn adroddiadau eraill, roedd galwadau hefyd am wasanaethau lleol â digon o adnoddau, cyfleusterau i bobl ifanc a theuluoedd, cymorth ar gyfer iechyd a llesiant, a chydraddoldeb mewn addysg. Mae'r adroddiad Food for Thought yn galw am gynnal a chryfhau'r berthynas â gwaith ieuenctid.
Roedd galwadau hefyd i blant a phobl ifanc gael mwy o barch a rheolaeth yn eu bywydau. Canfu Achub y Plant fod plant a phobl ifanc yn amlygu pwysigrwydd 'cael rhoi eu barn am eu dyfodol eu hunain o fewn y cymunedau, a'r wlad y byddan nhw’n tyfu i fyny ynddi. Wrth wneud hynny, pwysleision nhw eu hawl sylfaenol i gael eu clywed yn ogystal â'r persbectif unigryw a gwerthfawr y gallan nhw ei gynnig.' Awgrymodd adroddiad Codi’r Caead hefyd y dylid cynnwys pobl sydd â phrofiad bywyd o dlodi wrth ddylunio polisïau a darparu gwasanaethau cyhoeddus.
“O dan erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gan blant yr hawl i ddweud beth maen nhw’n ei feddwl ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, a bod eu barn yn cael ei hystyried. Roedd y plant a'r bobl ifanc y buon ni’n siarad â nhw eisiau cyfle i siarad â phobl sy'n gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau a'u cymunedau. Roedd teimlad cryf a chyson nad yw barn a phrofiadau plant a phobl ifanc yn cael digon o ystyriaeth, yn enwedig pan fyddan nhw’n dod o ardaloedd lle mae lefelau uwch o dlodi.”
Adroddiad Achub y Plant: Pŵer y Llais.
Themâu allweddol a chasgliadau
Mae'r adran olaf hon yn cyflwyno themâu cyffredinol a gododd yn aml ar draws y dystiolaeth am brofiad bywyd o dlodi. Er bod y dogfennau a adolygwyd wedi mynd i'r afael ag ystod o flaenoriaethau a nodau penodol, a bod yr arolwg ei hun wedi canolbwyntio'n benodol ar effaith y cymorth ac unrhyw rwystrau o ran cael mynediad ato, nododd y dadansoddiad nifer o themâu cylchol a ddaeth i'r amlwg ar draws y ddwy ffynhonnell.
Realiti tlodi
Amlygodd tystiolaeth gan bobl â phrofiad bywyd o dlodi a gafwyd drwy’r dadansoddiad o'r ymgynghoriad a’r llenyddiaeth realiti bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd.
Roedd y llenyddiaeth yn amlygu goblygiadau negyddol tlodi i agweddau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl. Cafodd sefyllfa ariannol oedd yn gwaethygu, argyfwng costau byw, diffyg diogeledd bwyd a diffyg tai o ansawdd eu gwaethygu gan heriau i blant a phobl ifanc fel pwysau gan gyfoedion, bwlio, cywilydd, iechyd meddwl gwael a diffyg cyfleoedd. Adlewyrchwyd y themâu hyn hefyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, a oedd yn sôn am y straen, y cywilydd a'r stigma sy'n gysylltiedig â byw mewn tlodi.
Effaith y cymorth
Dengys yr ymatebion i'r ymgynghoriad fod cymorth gan Lywodraeth Cymru ac o fannau eraill wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfan ar yr ymatebwyr, yn enwedig o ran eu helpu i ymdopi â chostau byw a diwallu eu hanghenion sylfaenol.
Mae'r rhaglen Prydau Ysgol Am Ddim wedi cael effaith arbennig o gadarnhaol, ac adlewyrchir hynny yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad a'r adolygiad llenyddiaeth. Tynnodd yr ymatebwyr sylw at ei rôl o ran lleihau stigma ynghylch cael pryd ysgol a lleddfu pwysau ariannol, ac roedd y llenyddiaeth yn tynnu sylw at y 'gwahaniaeth amlwg' y mae'n gwneud. Dylid nodi, fodd bynnag, fod yr ymgynghoriad a'r llenyddiaeth yn dangos nad yw prydau ysgol am ddim yn mynd i'r afael yn llawn ag anghenion pob teulu o hyd, yn enwedig y rhai â gofynion deietegol neu hygyrchedd.
Roedd cymorth gofal plant yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad oherwydd ei effaith ddeublyg: galluogi rhieni i weithio a chefnogi datblygiad plant mewn amgylcheddau diogel a meithringar yn ogystal â darparu seibiant a sefydlogrwydd. Cyfeiriodd yr ymatebwyr yn bennaf at y Cynnig Gofal Plant 30 awr neu Dechrau'n Deg sy'n cwmpasu gofal plant. Roedd y llenyddiaeth yn ategu'r canfyddiadau hyn a nododd bwysigrwydd meithrinfeydd dydd, clybiau brecwast a chlybiau ar ôl ysgol. Serch hynny, mae mynediad at ofal plant yn anghyfartal, gyda rhai teuluoedd wedi'u heithrio neu'n wynebu costau ychwanegol. Er bod llawer wedi elwa, disgrifiodd ymatebwyr eraill a'r llenyddiaeth rwystrau'n ymwneud â chymhwystra neu fforddiadwyedd.
Yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad, tynnwyd sylw hefyd at rôl banciau bwyd o ran lleihau biliau bwyd a darparu rhwyd ddiogelwch ychwanegol i deuluoedd. Cafodd cynlluniau cymorth ariannol fel y Gronfa Cymorth Dewisol (DAF), cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, gofal deintyddol a gofal llygaid am ddim, a Thalebau Cychwyn Iach eu crybwyll yn aml gan yr ymatebwyr fel meysydd cymorth ychwanegol sy'n cael eu croesawu.
Tynnodd yr ymatebwyr sylw hefyd at gynlluniau fel y Grant Hanfodion Ysgol (a elwir yn anffurfiol yn grant gwisg ysgol gan rai) a'r LCA, a helpodd i leihau straen ariannol ar deuluoedd a rhoi ymdeimlad o ymreolaeth i bobl ifanc. Nododd y llenyddiaeth effaith Canllawiau Polisi Gwisg Ysgol ac Edrychiad Disgyblion Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â chostau gwisg ysgol a dangosodd y dylid gweithredu hyn yn fwy effeithiol ledled Cymru.
Rhwystrau i gymorth
Fodd bynnag, codwyd pwyntiau rheolaidd hefyd yn yr ymgynghoriad a'r llenyddiaeth ynghylch bylchau mewn cymhwystra, y stigma sy'n gysylltiedig â thlodi, a chymhlethdod cael mynediad at gymorth. Ystyriwyd bod hyn yn arbennig o wir yn achos ffoaduriaid a cheiswyr lloches, unigolion anabl, a theuluoedd ag anghenion amrywiol a chymhleth.
Yn aml, disgrifiodd yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad effeithiau a rhwystrau lluosog, cydgysylltiedig. Roedd y rhain yn cwmpasu ystod o feysydd yn ymwneud â nwyddau hanfodol fel bwyd a chyfleustodau, yn ogystal â gwasanaethau ac amwynderau gan gynnwys cyngor ar ddyledion/cyngor ariannol. Roedd y mathau mwyaf cyffredin o gymorth yr adroddodd yr ymatebwyr nad oeddent yn gallu cael mynediad atynt yn gysylltiedig â gwasanaethau iechyd, gwisg/prydau/teithiau ysgol, cludiant, llety a gofal plant.
Nododd yr ymatebwyr i'r ymgynghoriad sut yr effeithiodd anawsterau'n ymwneud â chludiant ar eu gallu i fanteisio ar ystod o wasanaethau ac amwynderau megis addysg, iechyd a gweithgareddau hamdden. Mae'r llenyddiaeth hefyd yn dangos nad yw'r gallu i fanteisio ar gymorth yn gyfartal a bod y rhai sydd â phrofiadau bywyd o dlodi yn dioddef i wahanol raddau yn dibynnu ar eu lleoliad.
Cymorth yn y dyfodol
Roedd y mathau o gymorth a grybwyllwyd amlaf gan yr ymatebwyr fel rhai yr oeddent yn teimlo y byddent yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, gwell cymorth i blant a phobl ifanc o ran gweithgareddau hamdden, gwasanaethau iechyd gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, costau ysgol a chostau byw. Pwysleisiodd llawer yr angen am gymorth parhaus fel clybiau ysgol a gweithgareddau allgyrsiol i blant, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol pan fydd costau'n codi.
Roedd y llenyddiaeth yn ategu'r safbwyntiau hyn ac yn awgrymu blaenoriaethau penodol megis parhau i leihau costau gwisg ysgol a theithiau ysgol; addysgu pobl am achosion ac effaith tlodi; yr angen am denantiaethau diogel a thai fforddiadwy a chymunedau ac amgylcheddau diogel. Amlygwyd ffocws ar wasanaethau lleol a chymunedol hefyd.
O ran prydau ysgol am ddim, roedd yr ymatebwyr a'r llenyddiaeth o'r farn y gellid gwella'r rhaglen drwy ei hymestyn i ysgolion uwchradd a chynnwys ystod ehangach o anghenion deietegol. Nododd y llenyddiaeth a'r ymatebwyr bwysigrwydd parhaus cael mynediad at ofal plant a'i rôl o ran cefnogi teuluoedd.
Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg ymwybyddiaeth o gymorth a'r cymhlethdodau ynghylch cymhwystra a amlygwyd gan yr ymatebwyr ac yn y llenyddiaeth, cafwyd amrywiaeth o awgrymiadau. Roedd y rhain yn cynnwys cyfeirio pobl yn well at wasanaethau cymorth perthnasol gydag opsiynau hunangyfeirio sy'n ddienw ac yn gyfrinachol, hyrwyddo mwy ar wybodaeth am y cymorth sydd ar gael a'r hawl i fudd-daliadau a chymorth ynghyd â chymorth ar reoli dyledion. Awgrymodd y llenyddiaeth hefyd y dylid blaenoriaethu buddsoddi mwy mewn hyfforddiant ar dlodi a stigma i lunwyr polisïau a staff o fewn gwasanaethau
Ar lefel fwy strategol, roedd y llenyddiaeth yn argymell dull cwbl gyfannol o ymdrin â thlodi, gyda chyfnodau ariannu tymor hwy a mwy cynaliadwy ar gyfer mentrau a chydweithio ar lefel leol a chenedlaethol i fynd i'r afael â'r heriau parhaus sy'n gysylltiedig â thlodi.
Atodiad 1: nodyn ar y fethodoleg
Arolwg trwy Sefydliadau
Rhestr o sefydliadau a hwylusodd drafodaethau unigol a thrafodaethau grŵp drwy gyllid grant:
- Action for Children Cymru
- African Community Centre Wales
- Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent
- Clybiau Bechgyn a Merched Cymru
- Cariad Communities
- Banc Bwyd Caerfyrddin a Gwasanaeth Cyngor Ariannol Cymunedol Caerfyrddin (rhan o Brosiect Xcel Eglwys Gymunedol Tywi)
- Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin (DrMz)
- Cynghorau Gwirfoddol Sirol a gymerodd ran (wedi'i ariannu drwy CGGC):
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr
- Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint
- Interlink (Rhondda Cynon Taf)
- Medrwn Môn & Mantell Gwynedd
- Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Castell-nedd Port Talbot
- Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys
- Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro
- Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe
- Faith in Families
- FTWW: Fair Treatment for the Women of Wales
- Futures without Borders
- GISDA
- Heol Chwarae Rôl Ltd TA Role Play Lane
- KIRAN Cymru
- Kurdish All Wales Association (KAWA)
- Media Academy Cymru
- Menter Cwm Gwendraeth Elli
- Mind Canolbarth a Gogledd Powys
- Cymdeithas Tai Sir Fynwy
- More than Flags and Rainbows
- Mothers Matter
- Mums and Toddlers CIC
- No Fit State Circus
- People Speak Up
- Positive Programmes
- Safer Wales Cyf
- Spectacle Theatre Cyf
- Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George
- Mosg Abertawe a Chanolfan Gymunedol Islamaidd
- Sefydliad Bevan
- Y Ganolfan Entrepreneuriaeth Affricanaidd (CAE)
- The Parish Trust
- Canolfan Gymunedol Trowbridge
- Hwb Cymunedol Twyn
- Urban Circle
- Cyngor Cymru i Bobl Fyddar
- Cyngor Ffoaduriaid Cymru (WRC)
- Women’s Advocacy Network CIC (WAN Cymru)
- Y Plant Affricanaidd CIC
- Labordy Arweinyddiaeth Gwaith Ieuenctid
Nifer yr ymatebion
Roedd 892 o ymatebion i'r arolwg.
- O'r rhain, cyflwynwyd 313 gan unigolion, tra bod y gweddill yn ymatebion grŵp, naill ai wedi'u crynhoi gan hwyluswyr neu wedi'u cwblhau gan unigolion o fewn lleoliad grŵp.
Nid oedd pob ymatebydd wedi ateb pob cwestiwn. Trwy gydol yr adroddiad hwn, rydym yn cyfeirio at 892 o 'ymatebion', er nad yw'n hysbys union nifer yr unigolion a gyfrannodd.
Gofynnwyd i'r ymatebwyr gofnodi'r awdurdod lleol lle cynhaliwyd y drafodaeth neu'r digwyddiad grŵp a derbyniwyd ymatebion o 19 awdurdod lleol gwahanol:
- Ynys Môn
- Blaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Caerdydd
- Sir gaerfyrddin
- Fflint
- Gwynedd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Castell-nedd Port Talbot
- Casnewydd
- Sir Benfro
- Powys
- Rhondda Cynon Taf
- Abertawe
- Torfaen
- Bro Morgannwg
- Wrecsam
Arolwg drwy Sefydliadau: Copi o'r Cwestiynau a ofynnwyd
Cipio Profiad Byw
Mae tystiolaeth gan bobl sydd â phrofiad byw o dlodi yn darparu gwybodaeth bwysig am sut mae polisïau a chamau gweithredu yn gwneud gwahaniaeth i blant, pobl ifanc a theuluoedd ar lefel aelwyd a chymuned.
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gofyn tri chwestiwn allweddol i bobl sydd â phrofiad byw a fydd yn sefydlu a fu unrhyw newidiadau yn ystod y tair blynedd diwethaf sydd wedi effeithio ar bobl, pa rwystrau y mae pobl yn eu hwynebu a beth y gellid ei wneud yn y dyfodol i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl.
Beth hoffem eich barn arno: Meysydd i'w trafod (defnyddiwch yr Arolwg Ar-lein neu'r Templed Ymateb a ddarperir i gofnodi canlyniad eich trafodaethau).
1a. Rhwng 2022 a 2025, pa fathau o gymorth neu gymorth ydych chi'n cofio ei dderbyn? (ticiwch bopeth sy'n berthnasol)
Cronfa Cymorth yn ôl Disgresiwn
Cronfa Gyngor Sengl, ar gael drwy Gyngor ar Bopeth a'u partneriaid*
Help gyda'r Dreth Gyngor (Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor)
Talebau Cychwyn Iach
Help gydag addasu cartref oherwydd anabledd, Grant Cyfleusterau i'r Anabl
Banciau bwyd/pantri bwyd
Talebau Banc Tanwydd
Cyngor / Cymorth gyda gwresogi eich cartref, Rhaglen Cartrefi Cynnes, NEST
Gofal Plant am ddim / â chymhorthdal
Grant Dysgu Addysg Bellach
Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ar gyfer Addysg Ôl-16
Prydau ysgol am ddim
(ysgol gynradd)
Prydau Ysgol Am Ddim (ysgol uwchradd)
Grant Hanfodion Ysgol
Gofal llygaid neu driniaeth ddeintyddol am ddim / â chymhorthdal
Arall: nodwch os gwelwch yn dda:
* Mae Cyngor ar Bopeth a'u partneriaid, drwy wasanaeth y Gronfa Gyngor Sengl, yn darparu gwybodaeth a chyngor ar ystod eang o bynciau lles cymdeithasol gan gynnwys budd-daliadau, dyled, tai a chyflogaeth.
1b. A wnaeth y cymorth a gawsoch chi unrhyw effaith arnoch chi neu'ch teulu (yn gadarnhaol neu'n negyddol)? *yn gallu ateb ie i'r argyfwng a'r tymor hwy
Naddo / Ansicr
Do, cymorth uniongyrchol (argyfwng)
Do, dros gyfnod hirach
Os do, sut?
Nod y cwestiwn hwn yw sefydlu a oes unrhyw newidiadau i bolisi/ymyrraeth sydd wedi digwydd dros y 3 blynedd diwethaf wedi cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar fywydau plant/pobl ifanc/teuluoedd yn uniongyrchol (ymateb i argyfwng) neu dros dymor hwy (cymorth i ddatblygu llwybrau allan o dlodi). Bydd hyn yn ein helpu i ddeall a oes unrhyw gynnydd wedi'i wneud ers yr adroddiad diwethaf.
2. A fu unrhyw gymorth neu gefnogaeth nad oeddech chi'n gallu cael mynediad ato?
Oedd / Nac oedd / Ansicr
Os oedd, beth oedd y problemau wrth gael mynediad i'r cymorth neu'r gefnogaeth hon?
Nod y cwestiwn hwn yw sefydlu pa rwystrau sy'n atal pobl rhag cael mynediad at wasanaethau neu gael yr help sydd ei angen arnynt, er enghraifft cael gwybod nad ydych chi'n gymwys i gael cymorth penodol; anhawster darganfod beth sydd ar gael; cysylltiadau trafnidiaeth i allu cael mynediad at wasanaethau; stigma wrth gael mynediad at wasanaethau. Gallai canlyniadau'r cwestiwn hwn helpu i lywio ein blaenoriaethau a’n camau gweithredu i gael gwared ar rwystrau presennol lle bo hynny’n bosibl.
3. Pa gymorth neu gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru ydych chi'n meddwl y byddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i chi dros y 3 blynedd nesaf?
Nod y cwestiwn hwn yw sefydlu a oes unrhyw newidiadau y gellid eu gwneud a fydd yn gwella safon byw a bywydau plant, pobl ifanc a'u theuluoedd. Gallai ddarparu tystiolaeth o'r hyn sy'n cael ei werthfawrogi a ddim yn cael ei werthfawrogi, yn ogystal â dealltwriaeth o'r cymorth y gall fod ei angen ar bobl.
Atodiad 2: crynodeb o'r ffynonellau tystiolaeth a adolygwyd
Cipolwg o dlodi yn hydref 2024
Awduron: Davies, J. ac Evans, S. (Tachwedd 2024), Sefydliad Bevan
Dolen: Cipolwg o dlodi yn hydref 2024
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r dystiolaeth feintiol a gasglwyd o arolwg ar-lein. Fel yr wythfed adroddiad mewn cyfres, mae'r adroddiad yn caniatáu i Sefydliad Bevan olrhain profiadau pobl dros amser. Nod yr adroddiad yw dangos effaith tlodi, yn benodol yng ngoleuni'r argyfwng costau byw, a darparu tystiolaeth ar ffurf briff polisi i Lywodraeth Cymru. Cyfanswm maint y sampl oedd 1,207 o oedolion, a chynhaliwyd y gwaith maes ar ffurf arolwg ar-lein rhwng yr 2il a'r 8fed o Fedi 2024.
Arolygon Blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd 2024, Plant a Phobl Ifanc: Adroddiad Canfyddiadau
Awduron: Karen MacFarlane (2024), Plant yng Nghymru
Dolen: Arolygon Blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd 2024, Plant a Phobl Ifanc: Adroddiad Canfyddiadau
Nod yr arolwg blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd, plant a phobl ifanc yw rhoi llais i blant a phobl ifanc a sicrhau bod eu barn a'u profiadau ynghylch tlodi yn cael eu clywed. Roedd yr arolwg, a gynhaliwyd rhwng 30 Ebrill a 7 Mehefin 2024, yn agored i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Nid oedd yr arolwg yn gofyn a oedd ymatebwyr yn byw neu wedi profiad, yn hytrach ceisiodd eu barn ar sut y gallai tlodi effeithio ar wahanol agweddau ar fywydau plant. Ymatebodd cyfanswm o 250 o blant a phobl ifanc, gydag oedrannau yn amrywio o dan 10 oed hyd at 25 oed. Roedd y mwyafrif helaeth o'r ymatebwyr (dros 90%) yn cynnwys 10 i 13 oed (60%) a 14 i 16 oed (35%).
Arolygon Blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd 2024 Rhieni/Gofalwyr: Adroddiad Canfyddiadau
Awdur: Fatiha Ali, Anna Westall (2024), Plant yng Nghymru
Dolen: Arolygon Blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd 2024 Rhieni/Gofalwyr: Adroddiad Canfyddiadau
Nod yr arolwg blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd, rhieni a gofalwyr yw cael cipolwg ar dlodi a phrofiadau rhieni a gofalwyr. Cynhaliwyd yr arolwg am gyfnod o 5 wythnos rhwng 30 Ebrill a 7 Mehefin 2024. Gofynnwyd i'r ymatebwyr ystyried cwestiynau sy'n gysylltiedig â thlodi ar draws sawl maes, ac mae enghreifftiau o'r pynciau hyn yn cynnwys dyled, rhwystrau i gael mynediad at wasanaethau, addysg a thlodi, iechyd meddwl ac emosiynol a chymorth i rieni yn y dyfodol. Ymatebodd rhieni a gofalwyr o 21 o ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Derbyniwyd cyfanswm o 522 o ymatebion. Roedd gan bob ymatebydd o leiaf un neu fwy o blant, hyd at uchafswm o saith o blant yn byw gyda nhw. Daeth yr ymatebion gan rieni cyfanswm o 1084 o blant.
Arolygon Blynyddol o Dlodi Plant a Theuluoedd 2024: Ymarferwyr a Gweithwyr Proffesiynol: Adroddiad Canfyddiadau
Awdur: Karen McFarlane (2024), Plant yng Nghymru
Nod yr arolwg blynyddol Tlodi Plant a Theuluoedd, ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol yw cael cipolwg ar dlodi a phrofiadau ac arsylwadau'r rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Cynhaliwyd yr arolwg am gyfnod o 5 wythnos (30 Ebrill i 7 Mehefin 2024). Gofynnwyd i'r ymatebwyr raddio materion sy'n gysylltiedig â thlodi yn nhrefn yr effaith fwyaf ar fabanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Ymatebodd ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol o 21 o ardaloedd awdurdodau lleol ledled Cymru. Derbyniwyd cyfanswm o 194 o ymatebion, gydag 82% o'r ymatebwyr yn gweithio'n uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd. Roedd y sectorau lle roedd ymatebwyr yn gweithio yn cynnwys Tai, Gofal Plant, Gwaith Ieuenctid, Blynyddoedd Cynnar, Gwasanaethau Cynghori, Teuluoedd yn Gyntaf, Iechyd, Dechrau'n Deg, Awdurdod Lleol, Ysgolion a'r Trydydd Sector.
Food for Thought: Young People and Youth Workers’ Perceptions of Food Insecurity and the Youth Work Response
Awdur: O’Mahony, S.; Douglas, H.; Achilleos, J. (2024)
Er nad oedd ganddi ffocws penodol ar Gymru, roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys tystiolaeth o'r DU a barnwyd bod ganddi ddigon perthnasedd i'w chynnwys yn yr adolygiad. Mae'r ymchwil yn cyflwyno canfyddiadau o astudiaeth ar raddfa fach yn y Deyrnas Unedig yn gofyn beth yw canfyddiadau pobl ifanc a gweithwyr ieuenctid o ansicrwydd bwyd a'r ymateb i waith ieuenctid. Y nod oedd y byddai'r canfyddiadau hyn yn darparu argymhellion ar gyfer ymarfer, polisi ac ymchwil yn y dyfodol. Cynhaliwyd dau grŵp ffocws, un gyda phump o bobl ifanc ac un gyda phum gweithiwr ieuenctid.
Growing up in a low-income family: Children’s experiences
Awdur: Comisiynydd Plant Lloegr (2025)
Dolen: Growing up in a low-income family: Children’s experiences
Er nad oedd ganddi ffocws penodol ar Gymru, roedd yr astudiaeth hon yn cynnwys tystiolaeth o'r DU a barnwyd bod ganddi ddigon perthnasedd i'w chynnwys yn yr adolygiad. Lle mae gan Gymru bwerau datganoledig ac ymagwedd wahanol at Loegr, e.e. polisi prydau ysgol am ddim, trafnidiaeth a grantiau gwisg ysgol, nid yw'r dystiolaeth sy'n canolbwyntio ar Loegr wedi'i chynnwys yn y dadansoddiad. Nod yr astudiaeth hon gan y Comisiynydd Plant oedd archwilio profiadau plant o fyw mewn tlodi er mwyn bwydo i mewn i Dasglu Tlodi Plant y llywodraeth. Cynhaliodd y Comisiynydd grwpiau ffocws a chyfweliadau a siaradodd â chyfanswm o 128 o blant a phobl ifanc rhwng 6 a 18 oed rhwng Ionawr a Mawrth 2025. Roedd y sampl hwn yn cwmpasu naw rhanbarth o Loegr. Yn ogystal â hyn, fe wnaethant ddadansoddi'r arolwg Uchelgeisiau Mawr a gynhaliwyd rhwng Medi 2023 a Ionawr 2024. Gwahoddwyd pob plentyn yn Lloegr rhwng 6 a 17 oed, yn ogystal â phobl ifanc 18 oed mewn addysg, i gymryd rhan. Derbyniwyd 253,000 o ymatebion, naill ai'n uniongyrchol gan blant, neu gan oedolion sy'n adrodd ar eu rhan.
Codi'r caead ar stigma tlodi yng Nghymru
Awduron: Dr Greig Inglis, Amanda Hill-Dixon a Josh Coles-Riley (2024), Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru (WCPP)
Dolen: Codi'r caead ar stigma tlodi yng Nghymru
Nod yr ymchwil hon oedd darganfod pa mor gyffredin yw stigma tlodi strwythurol yng Nghymru, a pha grwpiau sy'n fwy tebygol o adrodd am y stigma hyn. Datblygwyd yr ymchwil er mwyn gwella dealltwriaeth o raddfa a natur stigma tlodi er mwyn llywio camau gweithredu i fynd i'r afael ag ef. Casglwyd y data trwy arolwg Ciplun Tlodi Gaeaf 2024 Sefydliad Bevan a chafodd ymateb o 1,029 o oedolion. Gofynnwyd i ymatebwyr yr arolwg ddarparu sgoriau ar gyfer stigma strwythurol a dderbyniwyd a chanfyddir ar draws eitemau sy'n ymwneud â'r ddau fath o stigma.
Pŵer y Llais. Archwilio profiadau o dlodi gyda phlant yng Nghymru
Awduron: Dr Chris Parker, Robyn O'Brien, a Bridget Handley (2024), Achub y Plant
Dolen i'r adroddiad prif ganfyddiadau: Power of Voice: Archwilio profiadau o dlodi gyda phlant yng Nghymru
Dolen ryngweithiol i'r adroddiad: Adroddiad rhyngweithiol: Cyflwyniad byr i Ymchwil
Cyswllt animeiddio: Pŵer Llais: Animeiddio
Nod yr astudiaeth ansoddol hon oedd casglu barn plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cymunedau lle mae lefelau uwch o dlodi. Nod y prosiect oedd darganfod effeithiau tlodi ar fywydau a chymunedau plant, beth all helpu i liniaru'r effeithiau hyn, beth all helpu plant yn y cyd-destun hwn a pha gamau gweithredu ar y cyd y gellir eu cymryd yn erbyn tlodi. Rhwng Tachwedd 2023 a Rhagfyr 2024, gweithiodd y tîm gyda'r Grwpiau Cynghori ar Ymchwil Plant (CRAG) yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf i ddylunio'r dulliau ymchwil. Yn ystod y cam casglu data, dewiswyd pedwar safle astudiaeth yn seiliedig ar ardaloedd gyda'r lefelau uchaf o dlodi plant cymharol ac amddifadedd lluosog a chynhaliwyd wyth gweithdy cyfranogwyr gyda phlant 11 i 16 oed.
