Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Rhwng cyfrifiadau, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) yn cynhyrchu amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn flynyddol sy'n defnyddio'r cyfrifiad blaenorol fel meincnod ac yn creu amcangyfrifon treigl bob blwyddyn. Dros y cyfnod o ddeng mlynedd rhwng cyfrifiadau, gall yr amcangyfrifon treigl hyn “lithro” i ffwrdd o ganlyniadau'r cyfrifiad nesaf. Ar 23 Tachwedd 2023, cyhoeddodd y SYG eu hamcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn wedi'u hailsylfaenu yn dilyn Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr

Mae'r erthygl hon yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r rhai wedi'u hailsylfaenu ar lefel awdurdod lleol. Mae'r holl ddata yn cael eu cymryd o'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu (StatsCymru) a'r amcangyfrifon poblogaeth treigl (SYG).

Y prif bwyntiau

  • Yn yr amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu, gwelwyd gostyngiad o 66,600 ym mhoblogaeth Cymru – o 3.17 miliwn i 3.11 miliwn – rhwng canol 2011 a chanol 2021. 
  • Mae hyn yn ostyngiad o 2.1%, sy'n fwy o ostyngiad ar gyfartaledd na'r hyn a welwyd ar gyfer Lloegr (gostyngiad o 0.4%) yn ystod yr un cyfnod. 
  • Roedd yr amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn is na'r amcangyfrifon poblogaeth treigl ar gyfer 20 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru. 
  • Casnewydd a Wrecsam oedd yr unig awdurdodau lleol yr oedd eu hamcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn uwch na'u hamcangyfrifon treigl.
  • Gan Wynedd, a welodd ostyngiad yn y boblogaeth o 6.2% rhwng canol 2011 a chanol 2021 – o 124,800 i 117,100 – yr oedd y gwahaniaeth negyddol mwyaf rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r amcangyfrifon wedi'u hailsylfaenu.
  • Yn ystod y cyfnod hwn, roedd mwyafrif (58,700) o’r gostyngiad cyffredinol ym mhoblogaeth Cymru o ganlyniad i’r ymarfer ailsylfaenu yn deillio o newid amhriodoladwy yn y boblogaeth – newid na ellir ei briodoli gyda sicrwydd i newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau, neu fudo.

Yr effaith ar boblogaeth Cymru, canol 2012 i ganol 2021

Drwy gydol yr erthygl hon, rydym yn edrych ar y gwahaniaethau rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth treigl yn cyfeirio at yr amcangyfrifon poblogaeth a gafodd eu seilio ar Gyfrifiad 2011, er mwyn creu amcangyfrifon sy’n ‘treiglo’ o un flwyddyn i’r llall. Defnyddiwyd Cyfrifiad 2011 fel man cychwyn i greu'r amcangyfrifon poblogaeth treigl hyn a, phob blwyddyn, caiff y data eu haddasu ymlaen i fod yn berthnasol i'r cyfnod cyfeirio, a defnyddir data ar enedigaethau, marwolaethau a mudo i adlewyrchu'r newid yn y boblogaeth yn ystod canol 2011 a chanol 2021. Dros y cyfnod o ddeng mlynedd rhwng cyfrifiadau, gall yr amcangyfrifon treigl hyn “lithro” i ffwrdd o ganlyniadau'r cyfrifiad nesaf.

Mae'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn cyfeirio at yr amcangyfrifon poblogaeth sydd wedi'u diweddaru i fod yn gyson â'r amcangyfrifon poblogaeth o Gyfrifiad 2021. Mae rhagor o wybodaeth i'w chael yn adroddiad cysoni y SYG.

Mae'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn is na'r amcangyfrifon poblogaeth treigl i Gymru ar gyfer pob blwyddyn rhwng canol 2012 a chanol 2021. Erbyn canol 2021, roedd yr amcangyfrif poblogaeth wedi'i ailsylfaenu 66,600 yn is na'r amcangyfrif poblogaeth treigl, gan ostwng o 3.17 miliwn i 3.11 miliwn.

Ffigur 1: Cymhariaeth rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu, yn ôl blwyddyn 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart linell sy'n dangos, ar ôl canol 2012, fod yr amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn is na'r amcangyfrifon poblogaeth treigl ar gyfer pob blwyddyn hyd at ganol 2021.

Amcangyfrifon canol blwyddyn diweddaraf o’r boblogaeth ar gyfer Cymru (StatsCymru) ac amcangyfrifon poblogaeth treigl (SYG)

Ffigur 2: Y gwahaniaeth canrannol rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu, yn ôl awdurdod lleol yng nghanol 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far sy'n dangos mai gan Wynedd oedd y gwahaniaeth canrannol negyddol mwyaf rhwng yr amcangyfrif poblogaeth treigl a'r amcangyfrif poblogaeth wedi'i ailsylfaenu, tra bo'r gwahaniaeth canrannol cadarnhaol mwyaf erbyn canol 2021 i'w weld yng Nghasnewydd.

[Nodyn 1] Mae gwahaniaeth canrannol negyddol yn golygu bod yr amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn is na'r amcangyfrifon poblogaeth treigl. Mae gwahaniaeth canrannol cadarnhaol yn golygu bod yr amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn uwch na'r amcangyfrifon poblogaeth treigl. 

Erbyn canol 2021, ar gyfer 20 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, roedd yr amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn is na'r amcangyfrifon poblogaeth treigl. Ar gyfer Gwynedd y gwelwyd y gostyngiad mwyaf mewn amcangyfrifon poblogaeth – roedd gostyngiad o 6.2% yn y boblogaeth, o 124,800 i 117,100. Mae hyn yn cael ei ddilyn gan Blaenau Gwent, y gwnaeth ei amcangyfrifon poblogaeth ostwng 4.2%, o 69,900 i 67,000.

Casnewydd a Wrecsam oedd yr unig ddau awdurdod lleol yr oedd eu hamcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu yn uwch na'u hamcangyfrifon poblogaeth treigl erbyn canol 2021. Gan Gasnewydd yr oedd y cynnydd mwyaf mewn amcangyfrifon poblogaeth o ganlyniad i ailsylfaenu, sef cynnydd o 2.0%, o 156,500 i 159,700 yng nghanol 2021. 

Gwahaniaethau yn ôl rhyw ac oedran

O'u cymharu â'r amcangyfrifon treigl, roedd gostyngiad yn nifer y gwrywod a benywod, ill dau, yn yr amcangyfrifon poblogaeth wedi’u hailsylfaenu ar gyfer Cymru. Yn sgil cynnal yr ymarfer ailsylfaenu, bu gostyngiad o 2.8% yn y boblogaeth o wrywod a gostyngiad o 1.4% yn y boblogaeth o fenywod.

Ffigur 3: Y gwahaniaeth canrannol rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu, yn ôl oedran a rhyw yng nghanol 2021 

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart linell sy'n dangos, ar gyfer oedolion ifanc (20 i 34 oed), yn sgil ailsylfaenu, fod yr amcangyfrifon o'r boblogaeth o wrywod a'r boblogaeth o fenywod wedi gostwng, ond yn fwy felly o ran gwrywod.

Yn gyffredinol, yng nghanol 2021, yn sgil ailsylfaenu, bu cynnydd o 1.3% yn y boblogaeth 16 i 19 oed yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio ychydig yn ôl rhyw. Roedd cynnydd o 1.7% yn y boblogaeth o fenywod 16 i 19 oed, tra bod cynnydd o 0.9% yn y boblogaeth o wrywod yng nghanol 2021.

Yn sgil ailsylfaenu, bu gostyngiad o 6.8% yn y boblogaeth 20 i 34 oed yng Nghymru. Roedd hyn yn amrywio yn ôl rhyw. Roedd gostyngiad o 9.8% yn y boblogaeth o wrywod 20 i 34 oed, tra bod gostyngiad o 3.7% yn y boblogaeth o fenywod yng nghanol 2021.

Newid amhriodoladwy yn y boblogaeth

Newid amhriodoladwy yn y boblogaeth (UPC) yw’r newid yn y boblogaeth sy'n weddill rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth ar sail cyfrifiad a'r amcangyfrifon poblogaeth treigl wedi’u dyrannu dros y ddegawd, nad oes modd ei esbonio drwy unrhyw un o'r cydrannau newid, sef genedigaethau, marwolaethau a mudo. Mae hon yn nodwedd naturiol o ailsylfaenu’r amcangyfrifon ac mae’n cynrychioli ansicrwydd sy’n effeithio ar y cydrannau a’r amcangyfrifon poblogaeth sylfaen. Mae UPC wedi effeithio ar awdurdodau lleol, oedrannau a’r rhywiau mewn gwahanol ffyrdd, ac i raddau gwahanol, ac mae'n cynrychioli’r ansicrwydd sy'n effeithio ar y cydrannau newid ar gyfer yr awdurdodau lleol hyn.

Yn gyffredinol, yn y cyfnod o ganol 2012 i ganol 2021, roedd UPC cronnol Cymru yn -58,700. Mae hyn yn golygu y gellid priodoli mwyafrif y gostyngiad cyffredinol ym mhoblogaeth Cymru yn ystod y cyfnod hwn o ganlyniad i'r ymarfer ailsylfaenu (-66,600) i newid na ellid ei esbonio drwy newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau neu fudo.

Ar gyfer pob blwyddyn yn y cyfnod hwn, roedd UPC Cymru yn negyddol. Mae hyn yn cymharu â chymysgedd o UPC cadarnhaol a negyddol yn Lloegr o ganol 2012 i ganol 2021, gan arwain at UPC cronnol o 18,300. 

Ffigur 4: Newid amhriodoladwy yn y boblogaeth fel canran o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, canol 2012 i ganol 2021 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart linell sy'n dangos, bob blwyddyn o ganol 2012 i ganol 2021, fod UPC Cymru wedi cael mwy o effaith ar y newid yn y boblogaeth fel canran o'r boblogaeth o'i gymharu â Lloegr. 

[Nodyn 1] Mae UPC sy'n agos at sero yn cynrychioli senarios lle gellir esbonio unrhyw newid yn y boblogaeth rhwng yr amcangyfrifon treigl a'r amcangyfrifon wedi'u hailsylfaenu drwy unrhyw newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau neu fudo. Mae UPC mwy o faint (cadarnhaol neu negyddol) yn cynrychioli senarios lle na ellir esbonio unrhyw newid yn y boblogaeth rhwng yr amcangyfrifon treigl a'r amcangyfrifon wedi'u hailsylfaenu drwy unrhyw newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau a mudo, h.y. mae ansicrwydd ynghylch tarddiad y newid yn y boblogaeth.

Ffigur 5: Newid amhriodoladwy yn y boblogaeth yn ôl rhyw fel canran o'r boblogaeth ar gyfer Cymru a Lloegr, canol 2012 i ganol 2021 

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart linell sy'n dangos, bob blwyddyn o ganol 2012 i ganol 2021, heblaw am ganol 2021, fod UPC fel canran o'r boblogaeth yn fwy yng Nghymru nag yn Lloegr, ar gyfer gwrywod a benywod, ill dau. Yng nghanol 2021 roedd UPC yn fwy negyddol ar gyfer dynion yn Lloegr fel canran o'r boblogaeth o'i gymharu â merched yng Nghymru.

Fel canran o'r boblogaeth ym mhob blwyddyn benodol, roedd UPC yn amrywio yng Nghymru rhwng canol 2012 a chanol 2021. Yng nghanol 2021, roedd UPC yn cyfrif am -0.18% o boblogaeth Cymru, o'i gymharu â -0.01% ar gyfer Lloegr. Fodd bynnag, y flwyddyn pan roedd UPC yn cyfrif am y ganran uchaf o'r boblogaeth yng Nghymru (-0.21%) oedd canol 2016. Roedd y ganran yng nghanol 2016 yn -0.29% ar gyfer gwrywod ac yn -0.13% ar gyfer benywod.

Ffigur 6: Newid amhriodoladwy cronnol yn y boblogaeth, yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru, canol 2012 i ganol 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart bar sy'n dangos mai gan Gaerdydd oedd yr UPC cronnol mwyaf yn y cyfnod canol 2012 i ganol 2021, tra bod Casnewydd yn unigryw fel awdurdod lleol a chanddo UPC cronnol cadarnhaol.

O'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, gan Gaerdydd oedd yr UPC mwyaf (cadarnhaol neu negyddol) dros y cyfnod canol 2012 i ganol 2021. Roedd cyfanswm UPC Caerdydd yn ystod y cyfnod hwn yn -16,500. Gan Wynedd oedd yr UPC mwyaf nesaf, sef -6,200. Mae hyn yn golygu mai Caerdydd a Gwynedd brofodd y symiau mwyaf o newid yn y boblogaeth yng Nghymru yn y cyfnod canol 2012 i ganol 2021 na ellid eu hesbonio drwy enedigaethau, marwolaethau neu fudo.
Casnewydd yw'r unig awdurdod lleol i weld UPC cronnol cadarnhaol yn ystod y cyfnod hwn, sef 3,900. 

Gan Bowys (-230) a Phen-y-bont ar Ogwr (-460) oedd y lefelau isaf o UPC cronnol yng Nghymru yn y cyfnod canol 2012 i ganol 2021. Mae hyn yn golygu mai'r awdurdodau lleol hyn brofodd y lleiaf o newid yn y boblogaeth rhwng canol 2012 a chanol 2021 na ellid ei esbonio drwy unrhyw newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau neu fudo.

Ffigur 7: Newid amhriodoladwy cronnol yn y boblogaeth (canol 2012 i ganol 2021) yn ôl oedran a rhyw, Cymru

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart linell sy'n dangos mai gwrywod 18 i 25 oed yng Nghymru brofodd yr UPC cronnol mwyaf dros y cyfnod canol 2012 i ganol 2021.

Roedd UPC cronnol yn llawer uwch ar gyfer gwrywod yng Nghymru o'u cymharu â benywod. Dros y cyfnod canol 2012 i ganol 2021, profodd gwrywod UPC o -40,400, tra bo'r ffigur hwn yn -18,300 ar gyfer benywod. Roedd UPC yn fwyaf amlwg ymhlith oedrannau prifysgol. 

Roedd UPC cronnol ar gyfer pobl ifanc 18 i 25 oed yn -19,900. Mae hyn yn cyfrif am dros draean (33.9%) o'r holl UPC yng Nghymru dros y cyfnod cyfan o ganol 2012 i ganol 2021. Mae hyn yn cynnwys UPC o -15,900 ar gyfer gwrywod 18 i 25 oed, ac UPC o -4,000 ar gyfer benywod 18 i 25 oed.

Astudiaethau achos

Bydd yr adran nesaf hon yn ymchwilio i oblygiadau ailsylfaenu ar gyfer dau awdurdod lleol yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y rhesymau dros yr UPC ar gyfer yr ardaloedd a welodd y newid mwyaf o ganlyniad i'r ymarfer ailsylfaenu.

Bydd gan bob astudiaeth achos dabl yn cyflwyno’r cydrannau newid yn y boblogaeth sy'n ymwneud â phob awdurdod lleol a gynhwysir, gan ddangos effaith ailsylfaenu ar yr amcangyfrif poblogaeth ar gyfer 2021, effaith net UPC, ac effeithiau net y diwygiadau i fudo mewnol a rhyngwladol rhwng canol 2012 a chanol 2021. Nid yw effeithiau diwygiadau i enedigaethau a marwolaethau wedi'u cynnwys gan mai bach iawn oedd y diwygiadau dros y cyfnod.

Ni fydd effeithiau UPC a'r diwygiadau i fudo yn dod i gyfanswm y newid cyffredinol yn y boblogaeth oherwydd bod genedigaethau, marwolaethau a newidiadau arbennig yn y boblogaeth wedi’u heithrio.

Gwynedd 

Awdurdod lleol wedi'i leoli yn y Gogledd-orllewin yw Gwynedd, ac mae'n cynnwys campws prifysgol (Prifysgol Bangor).

Tabl 1: Newid yn y boblogaeth a chydrannau newid net erbyn canol 2021 yng Ngwynedd
 CyfanswmDynionMerched
Effaith ailsylfaenu ar y boblogaeth-7,800 -4,700 -3,000 
Effaith UPC-6,200 -4,000 -2,100 
Effaith diwygiadau i fudo mewnol-100 100 -200 
Effaith diwygiadau i fudo rhyngwladol-1,500 -700 -800 

Disgrifiad o Dabl 1: Tabl sy'n dangos, yn sgil cynnal yr ymarfer ailsylfaenu ar gyfer Gwynedd, fod gostyngiad o 7,800 o bobl yn y boblogaeth erbyn 2021. Mae'r rhan fwyaf o'r newid hwn o ganlyniad i UPC. 

Yn dilyn yr ymarfer i ailsylfaenu'r amcangyfrifon poblogaeth o ganol 2012 i ganol 2021, roedd gostyngiad o 4,700 o wrywod a 3,100 o fenywod – o 124,800 i 117,100 o bobl (gostyngiad o 6.2%) – ym mhoblogaeth Gwynedd erbyn canol 2021. Mae hyn yn cael ei ysgogi i raddau helaeth gan UPC, hy newidiadau na ellir eu hesbonio drwy unrhyw newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau neu fudo.

Roedd UPC yn uchel ar gyfer Gwynedd, a bu gostyngiad net o 6,200 o bobl ar draws canol 2012 i ganol 2021, a oedd yn cynnwys 4,100 o wrywod a 2,100 o fenywod. 

Ffigur 8: Y gwahaniaeth canrannol rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a’r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu ar gyfer Gwynedd, yn ôl oedran a rhyw yng nghanol 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Siart linell sy'n dangos, yn sgil cynnal yr ymarfer ailsylfaenu ar gyfer Gwynedd, fod y boblogaeth 20 i 34 oed, o ran gwrywod a benywod, ill dau, wedi gostwng erbyn canol 2021.

Mae Ffigur 8 yn dangos bod y boblogaeth 20 i 34 oed wedi gostwng o 25,900 i 21,500 erbyn canol 2021, sef gostyngiad o 17.0%. Bu gostyngiad o 30.0% o ran gwrywod 25 i 29 oed, o'i gymharu â gostyngiad o 23.6% o ran benywod. 

Ffigur 9: Effaith gronnol diwygiadau i fudo net erbyn canol 2021 yng Ngwynedd yn ôl oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart linell sy'n dangos, ar gyfer Gwynedd, fod y boblogaeth 18 i 21 oed wedi cynyddu o ganlyniad i ddiwygiadau i fudo mewnol net. Roedd gostyngiad yn y boblogaeth 18 i 25 oed o ganlyniad i ddiwygiadau i fudo rhyngwladol net.

Ar gyfer oedrannau myfyrwyr prifysgol (18 i 21 oed) yn ystod y cyfnod canol 2012 i ganol 2021, roedd cynnydd o 620 o bobl yn y boblogaeth o ganlyniad i ddiwygiadau i fudo mewnol net. Bu gostyngiad o 2,700 o bobl yn y boblogaeth 18 i 25 oed o ganlyniad i ddiwygiadau i fudo rhyngwladol net. Mae hyn yn awgrymu bod yr amcangyfrifon treigl wedi tanamcangyfrif mudo mewnol net ar gyfer pobl o oed prifysgol, ond wedi goramcangyfrif mudo rhyngwladol net ar gyfer pobl o oed prifysgol ac oedolion ifanc (18 i 25 oed).

Roedd y tueddiadau hyn mewn mudo mewnol cronnol a mudo rhyngwladol net yn debyg ar gyfer gwrywod a menywod yng Ngwynedd.

Ffigur 10: Effaith gronnol newid amhriodoladwy yn y boblogaeth erbyn canol 2021 yng Ngwynedd yn ôl oedran a rhyw  

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Siart linell sy'n dangos, erbyn canol 2021 ar gyfer Gwynedd, mai ymhlith pobl 18 i 25 oed, o ran gwrywod a benywod, ill dau, yr oedd y boblogaeth wedi gostwng fwyaf o ganlyniad i UPC. Roedd mwy o ostyngiad o ran gwrywod nag o ran benywod.  

Yng Ngwynedd, roedd gostyngiad o 1,700 o bobl yn y boblogaeth 18 i 25 oed erbyn canol 2021 o ganlyniad i UPC. Mae hyn yn cyfrif am 26.7% o'r holl UPC yng Ngwynedd. Mae hyn yn golygu bod dros chwarter yr enghreifftiau o newid yn y boblogaeth na ellir ei esbonio drwy unrhyw newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau a mudo i'w canfod ymhlith oedolion ifanc a myfyrwyr.  

Roedd gostyngiad o 1,200 o bobl o ran gwrywod 18 i 25 oed. Gellid priodoli hyn i raddedigion nad ydynt yn diweddaru eu cofnodion gweinyddol (er enghraifft, cofrestriad â meddyg teulu) ar ôl iddynt raddio.

Casnewydd 

Awdurdod lleol wedi'i leoli yn y De-ddwyrain yw Casnewydd, ac mae'n cynnwys campws prifysgol (Prifysgol De Cymru). 

Tabl 2: Newid yn y boblogaeth a chydrannau newid net erbyn canol 2021 yng Nghasnewydd
 CyfanswmDynionMerched
Effaith ailsylfaenu ar y boblogaeth3,200 1,200 2,000 
Effaith UPC3,900 1,700 2,300 
Effaith diwygiadau i fudo mewnol-100 ~0 -100 
Effaith diwygiadau i fudo rhyngwladol-500 -400 -100 

Yn dilyn yr ymarfer i ailsylfaenu'r amcangyfrifon poblogaeth o ganol 2012 i ganol 2021, roedd cynnydd o 1,200 o wrywod a 2,000 o fenywod – o 156,500 i 159,700 o bobl (cynnydd o 2.0%) – ym mhoblogaeth Casnewydd yng nghanol 2021. Yn debyg i Wynedd, mae'r newid hwn yn cael ei yrru i raddau helaeth gan UPC.

Roedd UPC Casnewydd yn uchel gyda chynnydd net o 3,900 o bobl ar draws canol 2012 i ganol 2021, a oedd yn cynnwys 1,700 o wrywod a 2,300 o fenywod. Roedd hyn yn uwch na'r lefel yn sgil ailsylfaenu'r boblogaeth yn gyffredinol pan welwyd gostyngiad o 600 yn y boblogaeth o ganlyniad i fudo net (mudo mewnol a mudo rhyngwladol, ill dau).

Ffigur 11: Y gwahaniaeth canrannol rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth treigl a'r amcangyfrifon poblogaeth wedi'u hailsylfaenu ar gyfer Casnewydd, yn ôl oedran a rhyw yng nghanol 2021  

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Siart linell sy'n dangos, yn sgil cynnal yr ymarfer ailsylfaenu ar gyfer Casnewydd, fod y boblogaeth o wrywod 20 i 25 oed wedi gostwng ond bod y boblogaeth o fenywod 20 i 25 oed wedi cynyddu erbyn canol 2021.

Mae Ffigur 11 yn dangos, erbyn canol 2021, fod gostyngiad o 4.7% yn y boblogaeth o wrywod 20 i 25 oed, o'i gymharu â chynnydd o 4.3% yn y boblogaeth o fenywod 20 i 25 oed.  Cynyddodd y boblogaeth 26 i 34 oed o ran gwrywod a benywod, ill dau.  Yn sgil cynnal yr ymarfer ailsylfaenu, cynyddodd y boblogaeth 26 i 34 oed, 3.4% o ran gwrywod ac 8.4% o ran benywod.

Ffigur 12: Effaith gronnol diwygiadau i fudo net, canol 2021, yng Nghasnewydd yn ôl oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Siart linell sy'n dangos, ar gyfer Casnewydd, fod y boblogaeth 18 i 21 oed wedi gostwng o ganlyniad i ddiwygiadau i fudo mewnol net. Mae'r boblogaeth 18 i 21 oed wedi cynyddu o ganlyniad i ddiwygiadau i fudo rhyngwladol net.

Ar gyfer oedrannau myfyrwyr prifysgol (18 i 21 oed) ar draws canol 2012 i ganol 2021, roedd gostyngiad o 450 o bobl (a oedd yn cynnwys tua 240 o wrywod a 220 o fenywod) yn y boblogaeth o ganlyniad i fudo mewnol net. Ar gyfer yr un grŵp oedran, roedd cynnydd o 540 o bobl yn y boblogaeth o ganlyniad i fudo rhyngwladol net (a oedd yn cynnwys 240 o wrywod a 300 o fenywod). Mae hyn yn awgrymu bod yr amcangyfrifon treigl wedi goramcangyfrif mudo mewnol net ar gyfer pobl o oed prifysgol, ond wedi tanamcangyfrif mudo rhyngwladol net ar gyfer pobl o oed prifysgol.

Roedd y tueddiadau hyn mewn mudo mewnol cronnol a mudo rhyngwladol net yn debyg ar gyfer gwrywod a menywod yng Nghasnewydd.

Ffigur 13: Effaith gronnol newid amhriodoladwy yn y boblogaeth erbyn 2021 yng Nghasnewydd yn ôl oedran a rhyw 

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Siart linell sy'n dangos, erbyn canol 2021 ar gyfer Casnewydd, mai ymhlith pobl 18 i 34 oed, o ran gwrywod a benywod, ill dau, yr oedd y boblogaeth wedi cynyddu fwyaf o ganlyniad i UPC. Roedd mwy o ostyngiad o ran benywod nag o ran gwrywod. 

Yng Nghasnewydd, ychwanegodd UPC at y boblogaeth ar gyfer y rhan fwyaf o oedrannau a gwelwyd mân ostyngiadau yn unig ar gyfer rhai grwpiau oedran. Roedd cynnydd o 1,200 o bobl yn y boblogaeth 18 i 30 oed erbyn canol 2021 o ganlyniad i UPC. Mae hyn yn cyfrif am bron i draean o'r holl UPC yng Nghasnewydd (30.6%). Mae hyn yn golygu bod ychydig llai na thraean yr enghreifftiau o newid yn y boblogaeth na ellir ei esbonio drwy unrhyw newidiadau mewn genedigaethau, marwolaethau a mudo i'w canfod ymhlith oedolion ifanc a myfyrwyr.

Y camau nesaf

Fel rhan o waith parhaus y SYG i wella ansawdd eu data a dealltwriaeth o amcangyfrifon y boblogaeth, maent yn cynnal ymchwil i asesu effeithiau dulliau amgen ar gyfer dosbarthu UPC dros amser a’r proffil oedran. Maent yn gobeithio diweddaru defnyddwyr ar ganlyniad hyn ac unrhyw oblygiadau maes o law.

Byddant hefyd yn cyhoeddi’r amcangyfrifon diweddaraf o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol o’u model poblogaeth deinamig, a fydd yn defnyddio’r cydrannau wedi’u diwygio o’r ailsylfaenu i lywio eu modelu a chynnig mewnwelediad pellach i batrymau newid yn y boblogaeth dros amser. Bydd yr amcangyfrifon o’r boblogaeth yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn cynnwys cymariaethau gyda’r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn ar lefel awdurdod lleol, yn ogystal â mesurau o ansicrwydd. 

Geirfa

Amcangyfrifon ar sail cyfrifiad

Y dull a ddefnyddir mewn blynyddoedd pan fydd cyfrifiad yn cael ei gynnal.   Mae'r amcangyfrifon canol-blwyddyn yn seiliedig ar amcangyfrifon y cyfrifiad sy’n cael eu ‘treiglo’ am y cyfnod amser rhwng Diwrnod y Cyfrifiad a 30 Mehefin yn unig.

Cydrannau newid

Y ffactorau sy'n cyfrannu at y newid yn y boblogaeth yw'r cydrannau newid. Mae hyn yn cynnwys genedigaethau a marwolaethau (y cyfeirir atynt fel newid naturiol) a mudo net. Mae mudo yn cynnwys symudiadau pobl rhwng y DU ac amrywiol wledydd y byd (mudo rhyngwladol) a rhwng ardaloedd awdurdodau lleol yn y DU ei hun (mudo mewnol).

Mudo mewnol

Mae mudo mewnol yn disgrifio symudiadau rhwng awdurdodau lleol, rhanbarthau neu wledydd yn y DU. Yn wahanol i fudo rhyngwladol, nid oes diffiniad y cytunwyd arno yn rhyngwladol.

Mudo rhyngwladol

Mae mudo rhyngwladol yn disgrifio llif (neu symudiad) mudwyr i'r DU ac oddi yno. Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio'r diffiniad a argymhellir gan y Cenhedloedd Unedig o fudwr rhyngwladol hirdymor, fel yr eglurir yn y papur "Recommendations on Statistics of International Migration" (Ystadegau Cenhedloedd Unedig). Fe'i diffinnir fel person sy'n symud i wlad ar wahân i'r wlad lle y mae'n preswylio fel arfer am gyfnod o flwyddyn (12 mis) o leiaf, a bod y wlad sy'n gyrchfan felly, i bob pwrpas, yn dod yn wlad lle y mae'r person hwnnw yn preswylio fel arfer.

Amcangyfrifon treigl

Yr arfer o ddefnyddio'r amcangyfrif poblogaeth o'r dyddiad cyfeirio blaenorol fel man cychwyn ar gyfer amcangyfrif y boblogaeth ar y dyddiad cyfeirio presennol. Caiff data’r amcangyfrif poblogaeth blaenorol eu haddasu ymlaen ar gyfer y dyddiad cyfeirio presennol, a defnyddir data ar enedigaethau, marwolaethau a mudo i adlewyrchu'r newid yn y boblogaeth yn ystod y cyfnod cyfeirio.

Newid amhriodoladwy yn y boblogaeth (UPC)

UPC yw’r newid yn y boblogaeth sy'n weddill rhwng yr amcangyfrifon poblogaeth ar sail cyfrifiad a'r amcangyfrifon poblogaeth treigl, unwaith y cymerwyd newidiadau methodolegol a gwallau amcangyfrifedig yn y cydrannau i ystyriaeth. I esbonio hyn mewn ffordd arall, UPC yw’r newid yn y boblogaeth na ellir ei esbonio’n benodol gan unrhyw un o’r cydrannau newid – genedigaethau, marwolaethau neu fudo. Er enghraifft, gall bobl beidio â newid eu cyfeiriad cartref ar eu record meddyg teulu pan maent yn symud. Byddai ganddynt gyfeiriad gwahanol ar y cyfrifiad gan olygu fod poblogaeth ardal yn llai na’r amcangyfrif gwreiddiol gan ddefnyddio’r dull treigl.  

Mae UPC yn nodwedd naturiol o ailsylfaenu’r amcangyfrifon ac mae’n cynrychioli’r ansicrwydd sy’n effeithio ar y cydrannau a’r amcangyfrifon poblogaeth sylfaen. Mae’r UPC yn cael ei ddosbarthu dros y ddegawd i greu dosraniad o newid sy’n gredadwy.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Dan Boon a Stephanie Harries
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Y cyfryngau: 0300 025 8099