Dangosyddion Coetiroedd i Gymru 2026: crynodeb
Yn adroddiad sy'n dangos gwybodaeth ar ardaloedd o goetir, plannu newydd, allbwn economaidd ac ymweliadau i goetir ar gyfer Ebrill 2018 i Fawrth 2026.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Defnyddir Dangosyddion coetiroedd i Gymru (CiG) i olrhain cynnydd tuag at Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd y fersiwn ddiweddaraf o’r strategaeth yn 2018 ac y mae’n gosod allan 20 o ddeilliannau lefel-uchel sy’n ymwneud â choed, coetiroedd a choedwigoedd yng Nghymru. Bydd dyfodol y strategaeth yn ddibynnol ar adolygiad gan y Llywodraeth newydd.
Cyhoeddwyd ar argraffiad diwethaf o’r dangosyddion Coetiroedd i Gymru yn 2019 ac adroddodd am ystod o fetrigau a ffynonellau data ar draws 23 o benodau oedd yn ymwneud a’r deilliannau a restrir yn y Strategaeth CiG. Mae’r rhan fwyaf o’r dangosyddion cyfredol wedi eu llunio o sawl mesur, ac y mae a wnelo nifer o’r rhain â mwy nag un o’r deilliannau lefel-uchel.
Dangosyddion Coetiroedd i Gymru 2026
Ail-strwythurwyd y fersiwn hon o’r dangosyddion CiG a’i mireinio er mwyn gweld yn fwy eglur sut y mae dangosyddion unigol yn mesur yn uniongyrchol gynnydd tuag at gyrraedd nod y strategaeth. Adroddir am y dangosyddion mewn 5 pennod ar wahân sydd yn cyfateb i’r rhai yn strategaeth CiG.
- Coetiroedd a choed Cymru
- Ymateb i newid hinsawdd
- Coetiroedd i bobl
- Sector coedwigoedd cystadleuol a chynaliadwy
- Ansawdd yr amgylchedd
Nod y rownd hon o adrodd yw sicrhau y gwneir defnydd o’r data mwyaf perthnasol, ailadroddadwy a dibynadwy i greu dangosyddion sydd yn olrhain yn uniongyrchol bob un o ddeilliannau’r strategaeth fel ei bod yn haws cymharu dros amser. Mae’n gyfle hefyd i gydnabod deilliannau Coedwig Genedlaethol i Gymru, a’u hymgorffori mewn adroddiadau. Golyga’r adolygu hwn ar y dangosyddion nad yw’n wastad yn bosib cymharu cynnydd yn uniongyrchol yn erbyn yr hyn yr adroddwyd amdano yn 2018, ond lle bo hyn yn bosib, adroddir am dueddiadau tymor-byr ar gyfer pob un o’r dangosyddion.
Yr ydym wedi ceisio adrodd am ddangosydd ar gyfer pob un o ddeilliannau’r strategaeth. Fodd bynnag, yr ydym yn cydnabod fod nifer o’r dangosyddion ond yn cynrychioli’n rhannol y deilliannau y ceisiwn eu mesur. Byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn casglu data perthnasol a manwl gywir ac i fireinio dadansoddi er mwyn gwella mwy ar y dangosyddion hyn. Lle bo dangosyddion yn berthnasol i fwy nag un o ddeilliannau strategaeth CiG, cyfeirir y darllenwyr at yr adran lle trafodir y dangosyddion perthnasol.
Strategaeth deilliannau, dangosyddion a thueddiadau
Mae canlyniadau strategaeth CiG, y dangosyddion cysylltiedig a’r tueddiadau dymunol a’r rhai a welwyd yn cael eu crynhoi yma, fesul pennod.
Pennod 1: coetiroedd a choed Cymru
Deilliant 1: cynnydd mewn coetiroedd yng Nghymru
Prif ddangosyddion
1a. Ardal o goetir
1b. Coed y tu allan i goetir (CAG)
Tueddiadau a ddymunir
1a. Cynnydd yng nghyfanswm arwynebedd coetiroedd a choed
1b. Cynnydd yn ardal CAG
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
1a. Ardal o goetir: sefydlog
1b. CAG: data o ffynhonnell newydd
Deilliant 2: mwy o goetiroedd a choed yn cael eu rheoli’n gynaliadwy
Prif ddangosyddion
2. Ardal o goetir ardystiedig
Tueddiadau a ddymunir
2. Cynnydd yng nghyfanswm arwynebedd coetir ardystiedig
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
2. Sefydlog
Deilliant 3: ecosystemau coetiroedd yn iach a gwydn
Prif ddangosyddion
3a. Gwytnwch: cyflwr ecolegol coetiroedd
3b. Iechyd coed: arwynebedd newydd dan Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol (HIPS)
Tueddiadau a ddymunir
3a. Mwy o goetiroedd mewn cyflwr ffafriol
3b. Gostyngiad yn yr arwynebedd newydd dan HISP
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
3a. Data gwaelodlin wedi’i adrodd
3b. Gwella
Deilliant 4: coetiroedd wedi eu haddasu’n well i gyflwyno ystod lawn o fanteision
Prif ddangosyddion
4. Gwerth blynyddol gwasanaethau ecosystem coetiroedd
Tueddiadau a ddymunir
4. Cynnydd mewn gwerth blynyddol
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
4. Dirywio
Deilliant 5: rheoli coetiroedd a choed yn fwy cysylltiedig â defnydd tir arall
Prif ddangosyddion
5. Coetiroedd ffermydd dan reolaeth
Tueddiadau a ddymunir
5. Cynnydd yn yr arwynebedd dan reolaeth
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
5. Dangosydd wrthi’n cael ei ddatblygu (dim tuedd)
Deilliant 6: coetiroedd a choed trefol yn cyflwyno ystod lawn o fanteision
Prif ddangosyddion
6a. Gorchudd canopi coed trefol
6b. Canfyddiad o fanteision coed trefol
Tueddiadau a ddymunir
6a. Cynnydd mewn gorchudd canopi
6b. Cynnydd mewn ymatebwyr yn nodi manteision
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
6a. Dim data newydd
6b. Dirywio
Pennod 2: ymateb i newid hinsawdd
Deilliant 7: coetiroedd Cymru yn cyfrannu at leihau ôl troed carbon Cymru
Prif ddangosyddion
7a. Symud carbon trwy goedwigaeth
7b. Gwerth rheoleiddio NTG
Tueddiadau a ddymunir
7a. Cynnydd mewn symud carbon
7b. Cynnydd mewn gwerth rheoleiddio
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
7a. Sefydlog
7b. Gwella
Pennod 3: coetiroedd i bobl
Deilliant 8: mwy o gymunedau’n ymwneud â’u coetiroedd ac yn cael budd ohonynt
Prif ddangosyddion
8a. Ymweliadau â choetiroedd
8b. Canfyddiad o fanteision ac anfanteision
Tueddiadau a ddymunir
8a. Cynnydd mewn ymweliadau
8b. Cynnydd mewn manteision, gostyngiad mewn anfanteision
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
8a. Gwella
8b. Dirywio
Deilliant 9: mwy o bobl yn manteisio ar gyfleoedd addysg a dysgu
Prif ddangosyddion
9. Mynychu gweithgareddau dysgu
Tueddiadau a ddymunir
9. Cynnydd mewn mynychu
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
9. Gwella
Deilliant 10: mwy o bobl yn byw bywydau iachach
Prif ddangosyddion
10a. Gwerth manteision iechyd
10b. Mynediad heb gar
Tueddiadau a ddymunir
10a. Cynnydd mewn gwerth
10b. Mwy o fynediad
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
10a. Sefydlog
10b. Dirywio
Deilliant 11: mwy o bobl yn elwa o fentrau a chyflogaeth
Heb ei asesu’n uniongyrchol, gweler pennod 4 am ddata cyflogaeth a sgiliau.
Pennod 4: sector coedwigaeth cystadleuol a chynaliadwy
Deilliant 12: mwy o bren yn cael ei dyfu, ei brosesu a’i ddefnyddio
Prif ddangosyddion
12a. Cynhyrchu pren
12b. Rhagolygon argaeledd pren
Tueddiadau a ddymunir
12a. Cynnydd mewn cynhyrchu
12b. Cynnydd mewn argaeledd
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
12a. Sefydlog
12b. Aros am ragolygon newydd
Deilliant 13: sector yn gystadleuol a chynaliadwy
Prif ddangosyddion
13a. Gwerth gros ychwanegol (GVA)
13b. Cyfrifon busnes
Tueddiadau a ddymunir
13a. Cynnydd mewn GVA
13b. Cynnydd mewn cyfrifon
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
13a. Gwella
13b. Gwella
Deilliant 14: mwy o ddefnydd o bren fel adnodd adnewyddadwy
Prif ddangosyddion
14. Defnydd o bren mewn adeiladwaith (wrthi’n cael ei ddatblygu)
Tueddiadau a ddymunir
14. Cynnydd yn y defnydd
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
14. Dan ddatblygiad (dim tuedd)
Deilliant 15: gweithlu medrus a ffyniannus
Prif ddangosyddion
15a. Niferoedd gweithwyr
15b. Sgiliau a galluedd
Tueddiadau a ddymunir
15a. Cynnydd mewn niferoedd
15b. Cynnydd mewn sgiliau
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
15a. Cynnydd yn y defnydd
15b. Cynnydd yn y defnydd
Pennod 5: ansawdd yr amgylchedd
Deilliant 16: rheolaeth coetiroedd o safon uchel
Prif ddangosyddion
Heb ei asesu’n uniongyrchol, gweler pennod 1, rheoli coetir.
Deilliant 17: coetiroedd o werth cadwriaethol yn cael eu gwarchod
Prif ddangosyddion
17a. Arwynebedd mewn safleoedd dynodedig
17b. Cyflwr cynefinoedd
Tueddiadau a ddymunir
17a. Dim newid disgwyliedig
17b. Cynnydd mewn cyflwr ffafriol
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
17a. Data newydd (dim tuedd)
17b. Data newydd (dim tuedd)
Deilliant 18: bioamrywiaeth coetiroedd yn cael ei gefnogi
Prif ddangosyddion
18. Bioamrywiaeth coetiroedd
Tueddiadau a ddymunir
18. Cynnydd mewn cyfoeth rhywogaethau
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
18. Dan ddatblygiad (dim tuedd gyffredinol)
Deilliant 19: cyfraniad at dirwedd a diwylliant
Prif ddangosyddion
19. Arwyddocâd hanesyddol a diwylliannol
Tueddiadau a ddymunir
19. Cynnydd mewn arwynebedd pwysig
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
19. Sefydlog
Deilliant 20: cyfraniad at reoli dŵr a phridd
Prif ddangosyddion
20a. Cyflwr pridd
20b. Cyfraniad i lifogydd
Tueddiadau a ddymunir
20a. Gwelliannau mewn mynegeion
20b. Cynnydd mewn gwerth
Tuedd ers dangosyddion CiG diwethaf
20a. Tueddiadau cymysg
20b. Data newydd (dim tuedd)
Dadansoddiad o dueddiadau
Gweithiwyd tueddiadau allan ar gyfer y dangosyddion gan ddefnyddio’r meini prawf a osodir allan yn Nhabl 1. Caiff y rhain eu harddangos ar ddechrau pob pennod am y dangosyddion yr adroddir amdanynt yn y bennod.
| Categori | Symbol | Trothwy |
|---|---|---|
| Gwella | ↑ | >3% newid positif ers y dangosyddion CiG diwethaf |
| Sefydlog (h.y.,fawr ddim neu ddim newid yn gyffredinol) | = | ≤3% newid ers y dangosyddion CiG diwethaf |
| Dirywio | ↓ | >3% newid negyddol ers y dangosyddion CiG diwethaf |
| Heb ei asesu am nad oedd digon o ddata i gymharu | D/G | Ddim yn gymwys |
Lle mae data priodol ar gael, cymerir y pwynt data mwyaf diweddar â’r gwerth o’r adroddiad dangosyddion CiG diwethaf (neu ddata o’r cyfnod hwnnw o amser lle nad adroddwyd am hyn o’r blaen), wedi ei lyfnhau gan ddefnyddio cyfartaledd tair-blynedd.
Er enghraifft, byddai pwynt data o 2025 yn cael ei gymharu â’r cyfartaledd tair-blynedd o amgylch 2018 (2017, 2018 a 2019). Diben hyn yw lleihau effaith debygol anghysonderau blynyddol unigol.
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Ymchwil Coedwigaeth ar y cyd a'r Gangen Coed a Phriddoedd
Arweiniwyd y gwaith o gynhyrchu’r dangosyddion hyn gan Ymchwil Coedwigaeth, ar ran Llywodraeth Cymru. Safbwyntiau’r ymchwilydd sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad hwn ac nid o reidrwydd safbwyntiau Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Cangen Coed a Phriddoedd
Hinsawdd a Chynaliadwyedd Amgylcheddol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: PolisiCoedwigaeth.ForestryPolicy@llyw.cymru
ISBN digidol: 978-1-83745-704-5
