Neidio i'r prif gynnwy

Mae dangosyddion Coetiroedd i Gymru (CiG) yn monitro cynnydd tuag at y strategaeth Coetiroedd i Gymru, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2018. Bydd dyfodol y strategaeth yn destun adolygiad gan y llywodraeth newydd.

Prif bwyntiau

  • Yn 2025 roedd gorchudd coetir yng Nghymru yn 313,000 hectar. Mae hyn yn cynnwys 174,000 hectar o lydanddail a 139,000 hectar o gonwydd. Mae hyn yn cynrychioli 15% o'r gorchudd tir. 
  • Amcangyfrifir bod arwynebedd y coed y tu allan i goetir (TOW) yn seiliedig ar fapiau a gyhoeddwyd yn 2026 yn 147,500 hectar. 
  • Rhagwelir y bydd tir coedwigoedd yn parhau’n ddalfa net ar gyfer allyriadau
  • Yn 2023 roedd cyfanswm gwerth gwasanaethau ecosystem a ddarperir gan goetir yn fwy na £800 miliwn.
  • Cyfanswm gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector coedwigaeth oedd £718 miliwn.

Rhagor o wybodaeth

Mae dangosyddion CiG yn mesur ein cynnydd tuag at y canlyniadau lefel uchel a nodir yn strategaeth Coetiroedd i Gymru. Mae'r dangosyddion yn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer natur bresennol coetiroedd a choed Cymru, a'r nwyddau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, a sut mae hyn wedi newid dros amser.

Mae'r dangosyddion wedi'u nodi mewn 5 pennod sy'n adlewyrchu 5 pennod y strategaeth. Dyma nhw:

  • Coetiroedd a choed Cymru
  • ymateb i’r newid yn yr hinsawdd
  • coetiroedd i bobl;
  • sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig;
  • ansawdd yr amgylchedd

Mae pob dangosydd yn ymwneud â chanlyniad y strategaeth. Darperir ffynonellau data, tueddiadau a ddymunir ac a arsylwir, a gwybodaeth sylfaenol. Nid yw'r dangosyddion yn cael eu dosbarthu fel ystadegau swyddogol; fodd bynnag, rydym wedi cymhwyso'r cod ymarfer ar gyfer ystadegau yn wirfoddol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut mae hyn wedi'i gymhwyso yn y datganiad o gymhwyso'r cod ystadegau yn wirfoddol.

Adroddiadau

Pennod 1: coetiroedd a choed Cymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Pennod 2: ymateb i newid hinsawdd , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 686 KB

PDF
686 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Pennod 3: coetiroedd i bobl , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 908 KB

PDF
908 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Pennod 4: sector coedwigoedd cystadleuol a chynaliadwy , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Pennod 5: ansawdd amgylcheddol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 926 KB

PDF
926 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Cangen Coed a Phriddoedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.