Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Dangosyddion Coetiroedd i Gymru (CiG) yn cynnwys ystadegau cyfredol sy'n monitro cynnydd tuag at y canlyniadau a nodir yn strategaeth Coetiroedd i Gymru. Mae'r dangosyddion yn dangos sut mae coetiroedd yng Nghymru wedi newid dros amser, ac effaith gymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd coed a choetiroedd yng Nghymru.

Mae'r dangosyddion yn tynnu ar ddata o ystod o ffynonellau ac oherwydd bod gwahanol ddosbarthiadau o ddata yn cael eu harddangos, nid yw'n bosibl i'r dangosyddion gael eu dosbarthu fel ystadegau swyddogol.  Nid yw chwaith yn bosibl bodloni rhai gofynion eraill ystadegau swyddogol. 

Rydym felly wedi cymhwyso'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (UK Statistics Authority) yn wirfoddol fel a ganlyn.

Hygrededd

Rydym yn cynhyrchu'r dangosyddion mewn ffordd sy'n agored ac yn dryloyw.

  • Mae'r dangosyddion yn cael eu datblygu o fewn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio prosesau dadansoddol sefydledig a sicrhau ansawdd.
  • Rydym yn nodi'n glir o ble mae'r data'n dod, gan gynnwys ffynonellau fel Ymchwil Coedwigoedd, y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ERAMMP a'r Rhestr Allyriadau Atmosfferig Cenedlaethol.
  • Rydym yn esbonio unrhyw gyfyngiadau yn y data, gan gynnwys pryd: 
    • mae'r dangosyddion yn newydd neu'n darparu llinell sylfaen yn unig
    • mae data yn dal i gael ei ddatblygu (er enghraifft bioamrywiaeth, sgiliau, a defnydd pren mewn adeiladu)
    • defnyddir data ar lefel y DU ‑ lle nad oes data penodol i Gymru ar gael
  • Rydym yn tynnu sylw at newidiadau mewn dulliau dros amser, fel newidiadau i arolygon, fel y gall defnyddwyr ddeall sut mae hyn yn effeithio ar gymariaethau.
  • Rydym yn disgrifio ffactorau ehangach a allai ddylanwadu ar dueddiadau, megis amserlenni coedwigaeth hir neu ddigwyddiadau allanol fel pandemig y coronafeirws (COVID‑19).

Mae hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall sut mae'r dangosyddion wedi'u cynhyrchu ac yn golygu ei bod yn haws ymddiried yn yr ystadegau.

Ansawdd

Rydym yn defnyddio ffynonellau data priodol ac yn defnyddio dulliau cyson ar draws y dangosyddion.

  • Mae'r dangosyddion yn seiliedig ar setiau data sefydledig, gan gynnwys: 
    • y Rhestr Goedwigoedd Genedlaethol
    • stocrestrau nwyon tŷ gwydr
    • Cyfrifon Cyfalaf Naturiol Coetiroedd
    • rhaglenni ac arolygon monitro cenedlaethol
  • Caiff data ei dynnu o ystadegau swyddogol ac achrededig lle bynnag y bo modd. Caiff data o arolygon llai ei gynnwys lle bo hynny’n briodol ac yn gadarn. Rhoddir blaenoriaeth i ffynonellau sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd ac sy’n cynnig cyhoeddiadau cyson er mwyn cefnogi adrodd sy’n gymaradwy dros amser.
  • Rydym yn defnyddio dull cyson o asesu tueddiadau ar draws pob adroddiad. Mae hyn yn cynnwys: 
    • diffiniadau clir o wella, sefydlog a dirywio
    • llyfnhau data gan ddefnyddio cyfartaledd tair‑blynedd lle bo'n briodol
  • Rydym yn gwahaniaethu'n glir rhwng: 
    • y prif ddangosyddion
    • data a chyd-destun ategol
    • dangosyddion sy'n dal i gael eu datblygu
  • Rydym yn esbonio'r dulliau a'r diffiniadau a ddefnyddir, yn enwedig lle mae gwahanol ffynonellau data yn defnyddio dulliau gwahanol.
  • Rydym yn ofalus o ran sut rydym yn dehongli'r data, yn enwedig ar gyfer meysydd mwy cymhleth fel bioamrywiaeth, priddoedd ac economi coedwigoedd.

Mae'r dull hwn yn helpu i sicrhau bod y dangosyddion yn ddibynadwy ac y gall defnyddwyr eu dehongli'n hyderus.

Gwerth

Mae'r dangosyddion wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion defnyddwyr a darparu gwybodaeth ddefnyddiol.

  • Maent wedi'u strwythuro o amgylch strategaeth Coetiroedd i Gymru, gan helpu defnyddwyr i ddeall cynnydd yn erbyn canlyniadau cenedlaethol.
  • Maent yn dwyn ynghyd wybodaeth amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd mewn un lle, gan gynnwys: 
    • maint a chyflwr coetir
    • lliniaru newid hinsawdd 
    • mynediad cyhoeddus a lles
    • gweithgarwch economaidd a chyflenwad pren
    • bioamrywiaeth, treftadaeth, dŵr a phriddoedd
  • Rydym yn darparu esboniadau clir ochr yn ochr â siartiau a thablau i helpu defnyddwyr i ddeall beth mae'r data yn ei ddangos.
  • Rydym yn cynnwys dangosyddion a chyd-destun ategol i roi darlun ehangach, yn hytrach na dibynnu ar fesurau unigol.
  • Rydym yn glir am fylchau yn y dystiolaeth, sy'n helpu i nodi lle mae angen datblygu data pellach.

Mae hyn yn sicrhau bod y dangosyddion yn ddefnyddiol i lunwyr polisi, rhanddeiliaid a'r cyhoedd.

Cwmpas

Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu pob un o'r 5 adroddiad 'Dangosyddion Coetiroedd i Gymru':

  1. Coetiroedd a choed Cymru
  2. Ymateb i’r newid yn yr hinsawdd
  3. Coetiroedd i bobl
  4. Sector coedwigaeth cystadleuol ac integredig;
  5. Ansawdd yr amgylchedd

Mae pob adroddiad yn defnyddio fframwaith cyffredin, dulliau cyson a ffynonellau data a rennir i ddarparu set gydlynol o ddangosyddion.