Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar ardaloedd o goetir, plannu newydd, allbwn economaidd ac ymweliadau i goetir ar gyfer Ebrill 2015 i Fawrth 2016.

Prif bwyntiau

  • Mae arwynebedd y coetiroedd yng Nghymru yn  306,000 o hectarau bellach: 156,000 hectar  llydanddail; a 150,000 hectar o goed conwydd.
  • Mae cyfanswm y coed newydd a blannwyd rhwng 2009 a 2014 wedi cynyddu; plannwyd tua 3,289 bryd hynny, ond aeth cyfradd y plannu newydd i lawr yn ddiweddar, ac yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2016, cafodd 141 hectar (102 hectar o lydanddail a 39 hectar o goed conwydd) eu plannu.
  • Gwerth Ychwanegol Gros y sector coedwigaeth yng Nghymru yw £528.6 miliwn.
  • Wrth ymateb i’r arolwg, nododd 64% o oedolion yng Nghymru eu bod wedi ymweld â choetir am resymau hamdden dros y blynyddoedd diwethaf.

Adroddiadau

Dangosyddion Coetiroedd i Gymru, Ebrill 2015 i Fawrth 2016 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.