Adroddiad sy'n cyflwyno cyfres o ddangosyddion a ddefnyddir i fesur ein cynnydd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Prif bwyntiau
- Yn 2015, ar gyfer y 44 dangosydd datblygu cynaliadwy sy’n cwmpasu 29 mater allweddol, o’u gymharu gyda’r flwyddyn sylfaen o 2003: Mae 23 yn dangos gwelliant amlwg; Mae 18 yn dangos ychydig neu ddim newid; Does dim yn dangos dirywiad amlwg; Does gan 3 ddim digon o ddata neu ddim data y gellir ei gymharu.
- O’r 25 ddangosyddion a ddangosodd welliant amlwg yn 2014, mae 23 wedi parhau i ddangos gwelliant amlwg yn 2015. Newidiodd statws allyriadau nwyon tŷ gwydr a hygyrchedd ysbytai o “welliant amlwg” i “ychydig neu ddim newid”. Roedd cyfanswm o 18 dangosyddion yn 2015 a ddangosodd ychydig neu dim newid.
- Doedd dim dangosyddion yn 2015 gyda’r statws ‘dirywiad amlwg’.
Hysbysiad terfynu
Nid yw'r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy bellach yn cael eu diweddaru. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn monitro cynnydd tuag at nodau llesiant drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol, ac mae adroddiad diweddaru blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar Lesiant Cymru. Mae'r dangosyddion cenedlaethol hefyd yn dangos cynnydd yng Nghymru yn erbyn rhai o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Adroddiadau
Dangosyddion datblygu cynaliadwy, 2015 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Dangosyddion datblygu cynaliadwy, 2015: tablau , Saesneg yn unig, math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 227 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.