Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Ebrill 2023.

Cefndir

Cyflwynwyd y casgliad data misol hwn yn ystod y pandemig COVID-19.

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.

Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol. Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig.

Newidiadau arfaethedig

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wrthi'n datblygu'r cyhoeddiad yma, sy'n seiliedig ar wybodaeth reoli. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau'r canllawiau casglu data a gwella ansawdd y data.

O fis Gorffennaf ymlaen, byddwn yn ehangu'r data a gyhoeddir yn nhablau data 1 a 2 (a gyhoeddir gyda’r adroddiad hwn) ar lefel Cymru:

  • Tabl 1: Nifer yr unigolion digartref a roddwyd mewn llety dros dro yn y mis – byddwn hefyd yn cyhoeddi’r data fesul y prif reswm dros ddigartrefedd.
  • Tabl 2: Nifer yr unigolion digartref sydd mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis – byddwn hefyd yn cyhoeddi’r data fesul y math o lety dros dro.

Rydym yn gweithio tuag at gyhoeddi ystod ehangach o ddata, gan gynnwys ar lefel awdurdod lleol, yn ddiweddarach yn 2023.  Bydd rhagor o wybodaeth am newidiadau ychwanegol yn cael eu nodi mewn cyhoeddiadau yn y dyfodol.

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, cafodd 1,376 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 380 yn llai nag ym mis Mawrth 2023. O’r rhain, roedd 355 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 182 o fis Mawrth 2023. [troednodyn 1] [troednodyn 2]
  • Ar 30 Ebrill 2023, roedd 10,444 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 205 ers 31 Mawrth 2023. Roedd 3,214 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 88 ers 31 Mawrth 2023. [troednodyn 3]
  • Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Ebrill 2023, mae dros 36,000 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [troednodyn 1]

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Ym mis Ebrill 2023, symudwyd 649 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 174 yn llai nag ym mis Mawrth 2023. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 255 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 16 yn llai nag ym mis Mawrth 2023.

Cysgu allan

  • Ar 30 Ebrill 2023, amcangyfrifwyd bod 126 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 9 o’r 135 unigolion sy’n cysgu allan ar 31 Mawrth 2023. [troednodyn 4]
  • Ar 30 Ebrill 2023, Casnewydd (23), Caerdydd (20), Sir Benfro (16), Pen-y-bont ar Ogwr (10) a Abertawe (10)  oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 9 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda pump awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 4]

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Troednodiadau

[1] Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
[2] Mae'r ffigur hwn yn cael ei gyfrifo ac nid yw'n cael ei ddangos yn y set ddata gysylltiedig.
[3] Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
[4] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Ebrill 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 18 KB

ODS
18 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rachel Shepherd-Hunt

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.