Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Medi 2023.

Cefndir

Cyflwynwyd y casgliad data misol hwn yn ystod y pandemig coronafirws (COVID-19).

Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref. 

Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol. Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig. 

Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol. 

Pan fydd diwygiadau wedi digwydd ers cyhoeddi data'r mis diwethaf, bydd y ffigurau'n wahanol i'r rhai a gyhoeddwyd yn flaenorol. Defnyddiwch y data diweddaraf, sydd ar gael i'w lawrlwytho yn yr adran 'Data' isod, er mwyn sicrhau bod y ffigurau rydych chi'n eu defnyddio yn gyfredol. Mae ffigurau sydd wedi’u diwygio ers eu cyhoeddi'n flaenorol wedi'u marcio â [r]. 

Newidiadau arfaethedig

Yn dilyn adborth gan ddefnyddwyr, rydym wrthi'n datblygu'r cyhoeddiad yma, sy'n seiliedig ar wybodaeth reoli. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i gryfhau'r canllawiau casglu data a gwella ansawdd y data. 

Ar gyfer data o fis Hydref ymlaen, byddwn yn cyhoeddi data yn Nhabl 2: Nifer yr unigolion digartref sydd mewn llety dros dro ar ddiwedd y mis, yn ôl awdurdod lleol yn ogystal ag yn ôl math o lety. Hefyd, bydd yr holl ddata'n symud o'r fformat taenlen presennol i StatsCymru o dan yr Adran Digartrefedd. Bydd y newid hwn yn digwydd ym mis Ionawr 2024.

Atal y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ar gyfer 2023 

Cafodd y cyfrif cenedlaethol o gysgu allan ei atal dros dro rhwng 2020 a 2022 oherwydd pandemig COVID-19. Mae’r Prif Ystadegydd wedi penderfynu atal cyfrif 2023 dros dro oherwydd bod data am gysgu allan ar gael drwy’r cyhoeddiad misol hwn am ddata digartrefedd, ac er mwyn lleihau’r galw sydd ar adnoddau awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru. 

Byddwn yn ystyried dyfodol hir dymor y cyfrif o gysgu allan ac yn trafod â defnyddwyr cyn cynnal y cyfrif ar gyfer 2024. 

Prif bwyntiau

Cymariaethau dros amser

Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.

Defnyddio llety dros dro

  • Ledled Cymru, roedd 1,602 achos o bobl ddigartref yn cael eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 177 yn llai nag ym mis Awst 2023. O’r rhain, roedd 397 yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 83 o fis Awst 2023.
  • O'r lleoliadau i lety dros dro yn ystod mis Medi 2023, daeth y rhan fwyaf o achosion o amgylchiadau 'Eraill' (745 o ddigwyddiadau), ac yna 'Symudwyd o lety anaddas arall' (539 o ddigwyddiadau). [troednodyn 1]
  • Ar 30 Medi 2023, roedd 11,228 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 43 ers 31 Awst 2023. Roedd 3,409 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, gostyngiad o 4 ers 31 Awst 2023.
  • Y math o lety dros dro oedd yn gartref i'r nifer fwyaf o unigolion ddiwedd mis Medi 2023 oedd 'gwely a brecwast a gwestai' gyda 3,626 o unigolion, a 940 ohonynt yn blant dibynnol o dan 16 oed.
  • Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Medi 2023, mae dros 42,500 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [troednodyn 2]

Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas

  • Ym mis Medi 2023, symudwyd 742 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 94 yn fwy nag ym mis Awst 2023. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 274 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 33 yn fwy nag ym mis Awst 2023.

Cysgu allan

  • Ar 30 Medi 2023, amcangyfrifwyd bod 135 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gostyngiad o 32 o’r 167 unigolion sy’n cysgu allan ar 31 Awst 2023. [troednodyn 3][troednodyn 4]
  • Ar 30 Medi 2023, Casnewydd (35), Caerdydd (30), Sir Benfro (14), Ceredigion (11), Gwynedd (8) a Abertawe (8) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 5 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda pedwar awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 3][troednodyn 4]

Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan

Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:

  • Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
  • Mae ein casgliadau rheolaidd ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.

Troednodiadau

[1] Mae amgylchiadau 'Eraill' yn cyfeirio at resymau heblaw symud oddi ar y stryd, gynt yn cysgu ar soffas eraill, wedi symud o lety amhriodol arall a’r rhai sy'n gadael y carchar.

[2] Mae'r ffigur hwn yn cael ei gyfrifo ac nid yw'n cael ei ddangos yn y set ddata gysylltiedig.

[3] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.

[4] Nid oedd Sir Fynwy yn gallu darparu amcangyfrif ar gyfer Medi 2023.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Medi 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB

ODS
22 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Rachel Shepherd-Hunt

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.