Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022; cyfnod yr effeithiodd pandemig y coronafeirws (COVID-19) arno.

Prif bwyntiau

Ystyr tai fforddiadwy yw tai lle mae systemau cadarn ar waith i sicrhau eu bod yn hygyrch i’r rhai na allant fforddio tai'r farchnad, ar feddiannaeth gyntaf ac ar feddiannaeth ddilynol fel y'u diffinnir yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 2. Mae'r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin 2021, ac a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021, a'r Datganiad Ysgrifenedig ar Dai Cymdeithasol yng Nghymru a wnaed gan y Gweinidog Newid Hinsawdd (15 Mehefin 2021), yn cynnwys yr ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y rhestr termau.

Mae'r ffigurau yn cwmpasu'r holl unedau tai ychwanegol fforddiadwy, boed hynny drwy eu hadeiladu o'r newydd, eu prynu, eu caffael, eu prydlesu neu drwy addasu anheddau presennol. Nid ydynt yn ystyried unrhyw stoc tai fforddiadwy a gollwyd drwy eu dymchwel neu eu gwerthu yn ystod y flwyddyn.

Ffigur 1: Y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol, 2011-12 i 2021-22

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Graff bar yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2011-12 a 2021-22. Lleihaodd nifer yr unedau a ddarparwyd yn 2021-22 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

Yn 2021-22, darparwyd 2,676 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru, sef gostyngiad o 26% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, 9% yn llai nag yn 2019-20, ond ychydig yn uwch na'r nifer a ddarparwyd bob blwyddyn rhwng 2011-12 a 2018-19.

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru oedd yn gwneud y cyfraniad mwyaf at dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru o hyd, gan ddarparu 80% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2021-22 (2,130 o unedau).

Darparwyd 68% o'r holl unedau tai fforddiadwy â chyllid grant cyfalaf.

Mesur y cynnydd o ran ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod 2021-26

Mae'r Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd gyntaf ym mis Mehefin 2021, ac a ddiweddarwyd ym mis Rhagfyr 2021, a'r Datganiad Ysgrifenedig ar Dai Cymdeithasol yng Nghymru a wnaed gan y Gweinidog Newid Hinsawdd (15 Mehefin 2021), yn cynnwys yr ymrwymiad i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Roedd y targed tai fforddiadwy ar gyfer tymor y llywodraeth flaenorol (2016-2021) yn cynnwys cartrefi a ddarparwyd drwy gynlluniau Cymorth i Brynu-Cymru a Rhentu i Berchnogi. Mae'r diffiniad ar gyfer y targed o 20,000 o gartrefi ar gyfer tymor y llywodraeth bresennol yn gulach ac nid yw'n cynnwys cartrefi a ddarperir drwy'r rhaglenni hyn.

Ceir rhagor o wybodaeth am y cynlluniau hyn yn adran ac yn yr adroddiad ansawdd sy'n ategu'r datganiad hwn.

Y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd

Nid yw'r Unedau Tai Fforddiadwy a ddarparwyd drwy'r cynllun Rhentu i Berchnogi-Cymru wedi'u cynnwys yn y ffigurau ar gyfer cyfanswm y tai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn yr adran hon gan nad ydynt yn cydymffurfio'n llawn â'r diffiniad yn TAN 2.

Ffigur 2: Y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yng Nghymru, 2007-08 i 2021-22

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Graff bar yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2011-12 a 2021-22, wedi'i rannu yn ôl cyfanswm ac unedau landlord cymdeithasol cofrestredig. Lleihaodd nifer yr unedau a ddarparwyd yn 2021-22 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

Mae data manylach ar y mathau o unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd a'u lleoliadau ar gael ar StatsCymru.

Dengys ffigur 2, rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022, darparwyd cyfanswm o 2,676 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru. Ers 1 Ebrill 2007, pan gasglwyd gwybodaeth am dai fforddiadwy am y tro cyntaf, roedd cyfanswm cronnol o 37,274 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu. Roedd y 2,676 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ystod 2021-22 26% (927) yn llai na'r nifer ar gyfer y flwyddyn flaenorol, 266 yn llai na'r nifer ar gyfer 2019-20 ac yn debyg i'r nifer a ddarparwyd yn 2018-19.

Darparodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 29% yn llai o unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2021-22 na'r flwyddyn flaenorol (2,130 o gymharu â 3,018). Fodd bynnag, roedd y ffigur hwn yn debyg i'r ffigurau a welwyd rhwng 2011-12 a 2019-20. Gostyngodd cyfran yr holl unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i 80% o'r 84% a welwyd yn 2020-21. O'u plith, roedd 1,918 (90%) yn eiddo a adeiladwyd o'r newydd.

Roedd 486 o unedau pellach (18%) yn unedau tai fforddiadwy a oedd yn eiddo i awdurdodau lleol. Darparwyd y mwyafrif ohonynt (75%) gan bum awdurdod lleol, sef Caerdydd (99 o unedau), Sir Gaerfyrddin (91 o unedau), Abertawe (60 o unedau), Sir Benfro (57 o unedau) a Sir Ddinbych (56 o unedau). O blith y 486 o unedau hyn, roedd 300 (62%) yn eiddo a adeiladwyd o'r newydd. Ym Mhowys a Chaerffili, roedd yr holl dai fforddiadwy newydd yn eiddo a adeiladwyd o'r newydd (35 ym Mhowys a 6 yng Nghaerffili). Darparodd awdurdodau lleol eraill unedau tai fforddiadwy newydd drwy gaffael neu drwy gyfuniad o gaffael ac adeiladu o'r newydd (gweler y data ar StatsCymru am fanylion llawn).

Darparwyd y 60 uned (2%) arall gan ddarparwyr eraill ac roeddent yn cynnwys unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn uniongyrchol gan ddatblygwyr preifat drwy'r system gynllunio drwy gytundeb Adran 106. Ceir rhagor o wybodaeth am gytundebau Adran 106 yn adran Rhestr Termau'r datganiad hwn.

Lleihaodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd o fewn ardaloedd y Parciau Cenedlaethol yn sylweddol o'r lefel uchaf a gofnodwyd ers 2011-12, sef 140 o unedau yn 2020-21, i 53 o unedau yn 2021-22. Roedd hyn yn cynrychioli 2% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ystod 2021-22, i lawr o 4% yn 2020-21 (Tabl 1).

Amcangyfrifir gan awdurdodau lleol y bwriedir darparu 3,306 o unedau tai fforddiadwy pellach yn ystod 2022-23. Fodd bynnag, o gymharu'r ystadegau ar unedau a gynlluniwyd ac unedau a ddarparwyd yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae'r amcangyfrifon hyn bob amser yn uchel ac yn debygol o newid, felly dylid eu trin yn ofalus. Ceir rhagor o wybodaeth yn adran ‘Cywirdeb’ yr adroddiad ansawdd.

Tabl 1: Y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru, 2019-20 i 2022-23 [nodyn 1]
Darparwr  Ddarparwyd, 2019-20 Ddarparwyd, 2020-21 Ddarparwyd 2021-22 [nodyn 1] Cynlluniwyd 2022-23 [nodyn 1]
Ynys Môn 27 101 71 104
Gwynedd 97 101 38 0
Conwy 79 107 116 78
Sir Ddinbych 119 120 256 137
Sir y Fflint 96 228 76 85
Wrecsam 25 69 54 116
Powys 75 137 139 112
Ceredigion 38 83 70 30
Sir Benfro 164 117 126 140
Sir Gaerfyrddin 192 106 242 67
Abertawe 245 297 213 304
Castell-nedd Port Talbot 171 107 98 93
Pen-y-bont ar Ogwr 94 166 63 101
Bro Morgannwg 294 232 202 190
Caerdydd 439 541 324 864
Rhondda Cynon Taf 135 238 160 212
Merthyr Tudful 21 49 7 43
Caerffili  126 174 67 226
Blaenau Gwent 12 90 43 0
Tor-faen 141 163 134 64
Sir Fynwy 113 146 91 72
Casnewydd 239 231 86 268
Cymru 2,942 3,603 2,676 3,306
O'u plith, y cyfanswm a ddarparwyd o fewn y Parciau Cenedlaethol:         
PC Eryri  0 34 1 0
PC Arfordir Penfro 28 33 21 22
PC Bannau Brycheiniog 3 73 31 0
Cyfanswm Parciau Cenedlaethol 31 140 53 22
Cyfanswm y tu allan i'r Parciau Cenedlaethol  2,911 3,463 2,623 3,284
Cymru 2,942 3,603 2,676 3,306

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Mae'r ffigurau a goladwyd o'r ffurflenni a ddychwelwyd gan awdurdodau lleol yn cynnwys darpariaeth a gynlluniwyd a darpariaeth arfaethedig ar gyfer pob deiliadaeth gan gynnwys darpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, awdurdodau lleol a'r sector preifat. Amcangyfrifon yw'r ffigurau ar gyfer y blynyddoedd hyn ac mae'n bosibl y byddant yn newid pan gânt eu cyflwyno fel ‘Darparwyd’ mewn ‘blynyddoedd yn y dyfodol’.

Mae Tabl 1 yn dangos, ar lefel awdurdodau lleol unigol, fod 17 o'r 22 o awdurdodau lleol wedi nodi lleihad yn y ddarpariaeth tai fforddiadwy yn ystod 2021-22 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gyda lleihad amlwg yng Nghaerdydd (o 541 i 324), Sir y Fflint (228 i 76) a Chasnewydd (o 231 i 86). Roedd lleihad i'w ddisgwyl gan mai 2020-21 oedd y nifer uchaf a gofnodwyd erioed o ran yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd, gyda'r unedau a ddarparwyd ar gyfer 2021-22 yn dychwelyd at ffigurau tebyg i'r rheini a welwyd rhwng 2011-12 a 2019-20.

Mae pob awdurdod lleol yn pennu targed ar gyfer tai fforddiadwy a bydd y targed hwn yn dylanwadu ar y ddarpariaeth (Tabl 1).

Mae'r ffigurau tai fforddiadwy ychwanegol a ddangosir yn y datganiad hwn yn cynnwys yr unedau tai hynny a gynigiwyd ar brydles er mwyn darparu llety i deuluoedd digartref lle mae'r brydles am gyfnod o fwy na blwyddyn. Ers 2014-15, mae nifer yr unedau hyn wedi bod yn sylweddol is na'r nifer mewn blynyddoedd blaenorol. Gallai hyn fod wedi bod o ganlyniad i ddylanwad awdurdodau lleol yn addasu eu harferion er mwyn paratoi ar gyfer cyflwyno'r ddeddfwriaeth Digartrefedd newydd ym mis Ebrill 2015, a oedd yn rhoi mwy o bwyslais ar atal digartrefedd, ac ar ôl cyflwyno'r ddeddfwriaeth honno. Yn 2021-22, roedd 43 o unedau tai o'r fath, i fyny o'r 10 o unedau yn 2020-21.

Cyfradd yr holl dai fforddiadwy ychwanegol

Er mwyn ystyried nifer yr aelwydydd ym mhob ardal, ar gyfer 2021-22, cyfrifwyd cyfradd y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol fesul 10,000 o aelwydydd gan ddefnyddio'r amcangyfrifon o aelwydydd (StatsCymru) ar gyfer canol 2020 ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru a luniwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ffigur 3: Cyfradd yr holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol, 2021-22

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Graff bar yn dangos cyfradd yr unedau tai ychwanegol a ddarparwyd fesul 10,000 o aelwydydd yng Nghymru, yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae'r graff wedi'i rannu'n ardaloedd trefol a gwledig ac mae'n dangos bod gan y mwyafrif o'r ardaloedd gwledig gyfradd uwch fesul 10,000 o aelwydydd o gymharu â'r ardaloedd trefol.

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru, ac Amcangyfrifon o Aelwydydd canol-2020 Llywodraeth Cymru

[Noder] Dangosir yr awdurdodau a ddosberthir fel awdurdodau gwledig mewn gwyrdd a'r awdurdodau a ddosberthir fel awdurdodau trefol mewn glas. Ceir rhestr o'r gwahanol awdurdodau ym mhob grŵp dosbarthu yn adran gwybodaeth allweddol am ansawdd y datganiad hwn.

Mae ffigur 3 yn dangos mai cyfradd y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru gyfan yn 2021-22 oedd 19.4 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.

Yr awdurdod lleol a ddarparodd y nifer uchaf o unedau tai fforddiadwy yn 2021-22 oedd Caerdydd (324 o unedau neu 12% o gyfanswm Cymru). Fodd bynnag, wrth ystyried nifer yr aelwydydd ym mhob ardal, Sir Ddinbych oedd yr awdurdod â'r gyfradd ddarparu uchaf, sef 60.6 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.

Roedd y gyfradd ddarparu isaf i'w gweld ym Merthyr Tudful, sef 2.8 uned fesul 10,000 o aelwydydd gyda 7 uned yn cael eu darparu yn 2021-22.

Tai fforddiadwy ychwanegol yn ôl ffynhonnell gyllido

Bydd argaeledd cyllid grant Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy fel y Grant Tai Cymdeithasol, y Grant Tai Cymdeithasol wedi'i ailgylchu, y Grant Cyllid Tai a y Gronfa Gofal Integredig Cymru yn effeithio ar allu pob darparwr, ond yn enwedig Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, i ddarparu tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru.

Tabl 2a: Nifer yr ai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ôl ffynhonnell gyllido
Tai fforddiadwy ychwanegol  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Gyda chyllid grant cyfalaf  1,903 1,811 2,530 1,813
Heb gyllid grant cyfalaf  689 1,131 1,073 863
Cyfanswm 2,592 2,942 3,603 2,676
Tabl 2b: Canran yr tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ôl ffynhonnell gyllido
Tai fforddiadwy ychwanegol  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Gyda chyllid grant cyfalaf   73.4 61.6 70.2 67.8
Heb gyllid grant cyfalaf  26.6 38.4 29.8 32.2
Cyfanswm 100 100 100 100

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

Darparwyd 68% o'r unedau tai fforddiadwy drwy gyllid grant cyfalaf yn 2021-22, a oedd yn is na'r gyfran ar gyfer 2020-21 (70%). Cynyddodd cyfran yr unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd heb gyllid grant cyfalaf o 30% (1,073 o unedau) yn 2020-21 i 32% (863 o unedau) yn 2021-22.

Yn ystod 2021-22, darparwyd 67% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru gan ddefnydddio rhyw fath o gyllid grant cyfalaf, i lawr o 79% yn ystod y flwyddyn flaenorol. Ledled Cymru, cyrhaeddodd y ddarpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig â chyllid grant cyfalaf dros 70% mewn 12 o awdurdodau lleol.

Ceir dadansoddiad o'r ffigurau hyn ar wefan StatsCymru.

Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru sy'n gwneud y cyfraniad mwyaf o hyd, gan ddarparu 80% o'r holl dai fforddiadwy ychwanegol yng Nghymru yn ystod 2021-22. Fel prif ddarparwr tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru, mae'n ofynnol i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ddarparu gwybodaeth fanylach am y math o ddeiliadaeth sy'n gysylltiedig â'r unedau tai a ddarperir a'r nifer a ddarperir gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig o fewn ardaloedd y Parciau Cenedlaethol.

Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru a ddarparodd yr holl dai fforddiadwy ychwanegol yn 9 o'r 22 o awdurdodau lleol ledled Cymru a mwy na hanner yr holl dai fforddiadwy ychwanegol yn 12 o'r 13 o awdurdodau lleol eraill. Yr eithriad oedd Ynys Môn lle roedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn gyfrifol am 31% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy yn 2021-22.

Tabl 3: Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, yn ôl ardal awdurdod lleol
Awdurdod lleol  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Ynys Môn 111 20 48 22
Gwynedd 112 97 82 37
Conwy 40 79 107 116
Sir Ddinbych 19 86 100 200
Sir y Fflint 121 37 144 66
Wrecsam 156 10 64 39
Powys 51 70 103 104
Ceredigion 34 23 83 70
Sir Benfro 117 146 114 64
Sir Gaerfyrddin 28 120 67 141
Abertawe 251 237 253 137
Castell-nedd Port Talbot 153 171 107 98
Pen-y-bont ar Ogwr 148 84 166 63
Bro Morgannwg 105 294 204 176
Caerdydd 255 225 288 225
Rhondda Cynon Taf 87 128 235 150
Merthyr Tudful 21 21 49 7
Caerffili  75 117 174 61
Blaenau Gwent 31 12 90 43
Tor-faen 121 141 163 134
Sir Fynwy 125 113 146 91
Casnewydd 177 239 231 86
Cymru 2,338 2,470 3,018 2,130
O'u plith, y cyfanswm a ddarparwyd o fewn y Parciau Cenedlaethol:        
PC Eryri  0 0 15 0
PC Arfordir Penfro  15 26 33 16
PC Bannau Brycheiniog 3 0 68 3
Cyfanswm y Parciau Cenedlaethol 18 26 116 19
Cyfanswm y tu allan i'r Parciau Cenedlaethol  2,320 2,444 2,902 2,111
Cymru 2,338 2,470 3,018 2,130

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

Cyfradd ddarparu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Gan ystyried nifer yr aelwydydd ym mhob ardal, yn ystod 2021-22, darparodd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig 15.5 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol fesul 10,000 o aelwydydd ledled Cymru.

Ffigur 4: Cyfradd yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol, 2021-22

Image
Manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Graff bar yn dangos cyfradd yr unedau tai ychwanegol a ddarparwyd gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru fesul 10,000 o aelwydydd, yn ôl ardal awdurdod lleol. Mae'r graff wedi'i rannu'n ardaloedd trefol a gwledig ac mae'n dangos bod gan y mwyafrif o'r ardaloedd gwledig gyfradd uwch fesul 10,000 o aelwydydd o gymharu â'r ardaloedd trefol.

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy Llywodraeth Cymru, ac amcangyfrifon o aelwydydd canol-2020 Llywodraeth Cymru

[Noder] Dangosir yr awdurdodau a ddosberthir fel awdurdodau gwledig mewn gwyrdd a'r awdurdodau a ddosberthir fel awdurdodau trefol mewn glas. Ceir rhestr o'r gwahanol awdurdodau ym mhob grŵp dosbarthu yn adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Mae ffigur 4 yn dangos mai Sir Ddinbych oedd â'r gyfradd uchaf o ran y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2021-22, sef 47.4 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.

Merthyr Tudful oedd â'r gyfradd ddarparu isaf, sef 2.8 o unedau fesul 10,000 o aelwydydd.

Darpariaeth Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ôl deiliadaeth

Tabl 4a: Nifer yr tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, yn ôl deiliadaeth [nodyn 1]
Deiliadaeth  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Rhent cymdeithasol  1,955 1,870 2,443 1,712
Rhent canolradd  223 392 380 204
Ecwiti a rennir [nodyn 2] 121 133 108 77
Rhanberchnogaeth – Cymru [nodyn 3] 39 75 87 137
Cyfanswm 2,338 2,470 3,018 2,130
Tabl 4b: Canran yr tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, yn ôl deiliadaeth [nodyn 1]
Deiliadaeth  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Rhent cymdeithasol  83.6 75.7 80.9 80.4
Rhent canolradd  9.5 15.9 12.6 9.6
Ecwiti a rennir [nodyn 2] 5.2 5.4 3.6 3.6
Rhanberchnogaeth – Cymru [nodyn 3] 1.7 3.0 2.9 6.4
Cyfanswm 100.0 100.0 100.0 100.0

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Gwybodaeth o ffurflenni a ddychwelwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, yn nodi'r holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn ardal yr awdurdodau lleol y maent yn gweithredu ynddynt.

[Nodyn 2] Cyn cyflwyno'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru newydd ym mis Chwefror 2018, mae'n bosibl y byddai unedau â rhanberchnogaeth rhwng y meddiannydd a'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (e.e. perchnogaeth rannol / rhent rhannol) wedi'u cynnwys o dan ‘Ecwiti a Rennir’.

[Nodyn 3] Cyflwynwyd Rhanberchnogaeth – Cymru ym mis Chwefror 2018 ac mae'n gynllun prynu rhannol, rhentu rhannol sy'n addas i ddarpar brynwyr sydd â pheth blaendal ond na allant gael y lefel o forgais i brynu'r tŷ yn gyfan gwbl.  Mae'r cyfanswm yn cynnwys un uned a ddarparwyd o dan y cynllun hwn yn ystod blwyddyn ariannol 2017-18.

Mae Tabl 4 yn dangos bod 80% o'r 2,130 o unedau tai fforddiadwy a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru yn ystod 2021-22 yn dai rhent cymdeithasol (1,712 o unedau). Mae hyn yn debyg iawn i gyfran yr unedau rhent cymdeithasol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn 2020-21. Roedd yr unedau tai rhent cymdeithasol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2021-22 yn cyfateb i 64% o'r holl dai ychwanegol a ddarparwyd gan bob darparwr.

Opsiwn tai fforddiadwy arall yw eiddo rhent canolradd, lle mae'r rhenti yn uwch na lefel rhenti cymdeithasol, ond yn is na rhenti tai'r farchnad.

Yn ystod 2021-22, darparwyd cyfanswm o 204 o eiddo rhenti canolradd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, gostyngiad o 46% o gymharu â 2020-21. Eiddo rhenti canolradd oedd 10% o'r holl ddarpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig hefyd yn darparu unedau ecwiti a rennir i'r rhai hynny nad ydynt yn gymwys i gael tai cymdeithasol, ond na allant fforddio prynu neu rentu eiddo ar y farchnad agored. Yn ystod 2021-22, darparwyd 77 o unedau ecwiti a rennir, gostyngiad o 29% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dim ond 4% o'r holl ddarpariaeth gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig oedd yn unedau ecwiti a rennir.

Cyn cyflwyno'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru newydd ym mis Chwefror 2018, roedd unedau â rhanberchnogaeth rhwng y meddiannydd a'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (e.e. perchnogaeth rannol / rhent rhannol) yn cael eu cynnwys o dan ‘Ecwiti a Rennir'.

Rhwng mis Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022, roedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ledled Cymru wedi darparu 137 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol drwy'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2018 (gweler y rhestr termau), sef cynnydd o 57% o gymharu â 2020-21.

Roedd 1% (19 o unedau) o'r 2,130 o unedau a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2021-22 o fewn ardaloedd y Parciau Cenedlaethol. O'r 19 o unedau hyn, roedd 16 yn eiddo rhent cymdeithasol ac roedd y 3 uned arall yn eiddo ecwiti a rennir.

Eiddo ‘anghenion cyffredinol’ oedd y rhan fwyaf o'r tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ystod 2021-22. Roedd yr eiddo hyn yn cynnwys unedau hunangynhwysol na chânt eu cadw ar gyfer grwpiau cleientiaid penodol ond hefyd eiddo a gaiff eu haddasu i'w defnyddio gan bobl ag anableddau ond lle na chaiff unrhyw wasanaethau neu gymorth ychwanegol eu darparu fel rhan o delerau'r ddeiliadaeth. Yn ystod 2021-22, roedd 84% (1,781 o unedau) o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn eiddo o'r math hwn. Unedau tai a ddarparwyd i'w defnyddio gan grwpiau cleientiaid penodol neu at ddibenion penodol oedd yr 16% (349 o unedau) arall.

Ceir rhagor o wybodaeth am unedau tai rhent cymdeithasol, rhent canolradd, ecwiti a rennir ac unedau tai o dan gynllun rhanberchnogaeth – Cymru yn yr adran rhestr termau.

Tai fforddiadwy ychwanegol drwy rwymedigaethau cynllunio

Caiff nifer y cartrefi fforddiadwy i'w darparu mewn ardal benodol ei bennu gan bolisi cynllunio'r awdurdod cynllunio lleol a thrafodaethau â datblygwyr am yr hyn sy'n ymarferol o ystyried yr amgylchiadau economaidd a ffactorau eraill. Caiff y cyfraniad tai fforddiadwy y cytunir arno ei sicrhau drwy'r hyn a elwir yn rhwymedigaeth gynllunio (neu gytundeb adran 106), sef contract cyfreithiol gyfrwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol sy'n gweithredu ochr yn ochr â chaniatâd cynllunio i sicrhau bod datblygiad yn dderbyniol i'r ddwy ochr. Gellir defnyddio'r trefniadau hyn i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygiad, helpu i ddiwallu anghenion lleol neu sicrhau buddiannau a fyddai'n gwneud datblygiad yn fwy cynaliadwy.

Mae Tabl 5 isod yn dangos nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer bob blwyddyn drwy rwymedigaethau cynllunio (trefniadau adran 106) neu amodau cynllunio, naill ai fel rhan o ddatblygiadau'r farchnad dai neu o ganlyniad i ddatblygiadau o'r fath. Mae'r caniatadau cynllunio a roddwyd yn cyfeirio at ganiatadau cynllunio manwl (h.y. nid amlinellol) terfynol a roddwyd yn ystod y flwyddyn, a fydd yn golygu bod cytundeb adran 106 (lle y bo'n berthnasol) eisoes wedi'i lofnodi.

Mae'r tabl hefyd yn dangos gwybodaeth am nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd bob blwyddyn, ni waeth pryd y rhoddwyd y caniatâd cynllunio. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ymddiriedolaethau tir comin a'r sector preifat.

Dylid nodi y gall yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd neu y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer drwy rwymedigaethau cynllunio fod ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy neu ar safleoedd eraill.

Tabl 5a: Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio (nifer y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer) [nodyn 1]
Rhwymedigaethau cynllunio 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Awdurdodau lleol 1,773 1,094 982 1,116
Parciau Cenedlaethol  54 125 105 14
Cymru Gyfan 1,827 1,219 1,087 1,130
Tabl 5b: Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio (nifer a ddarparwyd) [nodyn 1]
Rhwymedigaethau cynllunio 2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Awdurdodau lleol  573 699 881 644
Parciau Cenedlaethol 31 28 39 70
Cymru Gyfan 604 727 920 714
Canran (%) yr holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio: 23.3 24.7 25.5 26.7

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Ni ellir cyfuno'r unedau tai a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio a'r unedau tai a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, oherwydd gall uned tai gael ei darparu drwy rwymedigaethau cynllunio a bod yn rhan o safle eithriadau tai ar yr un pryd.

Yn ystod 2021-22, cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer 4% i 1,130. Gostyngodd nifer yr unedau tai fforddiadwy y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer mewn Parciau Cenedlaethol 87% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol i 14 ond mewn awdurdodau lleol (y tu allan i ardaloedd Parciau Cenedlaethol), cynyddodd 14% i 1,116 o unedau.

Yn ystod 2021-22, gostyngodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio (cytundebau Adran 106) 22% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol i 714 o unedau.

Gostyngodd nifer y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio 27% (o 881 i 644) ar gyfer awdurdodau lleol. Roedd 30% ohonynt ym Mro Morgannwg, 10% yn Sir Fynwy a 9% yng Nghaerdydd. Ar gyfer Parciau Cenedlaethol, cynyddodd nifer y tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio 79% (o 39 i 70 o unedau) yn ystod 2021-22 (Tabl 5).

Yn ystod 2021-22, roedd 27% o'r holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd wedi'u darparu drwy rwymedigaethau cynllunio o gymharu â 26% yn ystod y flwyddyn flaenorol a 25% yn ystod 2019-20.

Mae nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio yn gyson is na'r nifer y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer. Gall hyn fod oherwydd y cyfnod o amser rhwng rhoi'r caniatâd cynllunio a darparu'r uned tai ar ei ffurf derfynol.

Tai fforddiadwy ychwanegol ar safleoedd eithriadau tai

Safleoedd tai ar raddfa fach o fewn aneddiadau presennol neu wrth ymyl aneddiadau presennol a ddefnyddir i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol yw safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, na fyddent yn cael eu neilltuo fel arall yn y cynllun datblygu.  Cyn mis Gorffennaf 2010, cyfeiriwyd atynt fel ‘safleoedd eithriadau gwledig’.

Cynyddodd nifer yr unedau tai fforddiadwy y rhoddwyd caniatâd cynllunio iddynt gael eu hadeiladu ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy i 244 o unedau yn 2021-22. Roedd 230 ohonynt o fewn awdurdodau lleol ac roedd y 14 arall y tu mewn i ffiniau Parciau Cenedlaethol (Tabl 6).

Tabl 6a: Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai (Nifer y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer) [nodyn 1]
Safleoedd eithriadau tai fforddiadwy  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Awdurdodau lleol  51 64 28 230
Parciau Cenedlaethol 1 0 0 14
Cymru Gyfan 52 64 28 244
Tabl 6b: Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai (nifer a ddarparwyd) [nodyn 1]
Safleoedd eithriadau tai fforddiadwy  2018-19 2019-20 2020-21 2021-22
Awdurdodau lleol 120 91 39 108
Parciau Cenedlaethol 0 0 21 0
Cymru Gyfan 120 91 60 108

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Ni ellir cyfuno'r unedau tai a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio a'r unedau tai a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, oherwydd gall uned tai gael ei darparu drwy rwymedigaethau cynllunio a bod yn rhan o safle eithriadau tai ar yr un pryd.

Mae Tabl 6 yn dangos bod nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy yn 2021-22 wedi cynyddu 80% i 108 o unedau o gymharu â 60 yn ystod y flwyddyn flaenorol. Roedd y mwyafrif o'r rhain yng Nghastell-nedd Port Talbot (56 o unedau) a Blaenau Gwent (22 o unedau). Ni ddarparwyd unrhyw unedau ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy yn ardaloedd 15 o awdurdodau lleol nac yn unrhyw un o'r Parciau Cenedlaethol.

Lle bydd awdurdod cynllunio lleol wedi nodi diffyg tai fforddiadwy, rhaid iddo ystyried cynnwys polisi 'safleoedd eithriadau tai fforddiadwy' yn ei gynllun datblygu, yn nodi'r amgylchiadau lle y gellir rhyddhau safleoedd a fydd yn cynnig 100% o dai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol fel eithriad i'r polisïau ar gyfer darparu tai cyffredinol.

Tai fforddiadwy ychwanegol ar dir y sector cyhoeddus

Mae Tabl 7 isod yn dangos i ba raddau y mae'r sector cyhoeddus, gan gynnwys awdurdodau lleol, yn rhyddhau ei dir ei hun at ddibenion darparu tai fforddiadwy ychwanegol.

Yn ystod 2021-22, gostyngodd nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar yr holl dir sector cyhoeddus 7% i 723 o unedau, sef 27% o'r holl ddarpariaeth tai fforddiadwy.

Tabl 7: Tai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd ar dir a ryddhawyd gan y sector cyhoeddus, 2021-22 [nodyn 1] [nodyn 2]
Sector Cyhoeddus Gyda chyllid grant cyfalaf Heb gyllid grant cyfalaf Cyfanswm
Tir awdurdod lleol 414 83 497
Tir sector cyhoeddus arall 181 45 226
Yr holl dir sector cyhoeddus 595 128 723

Ffynhonnell: Casgliad data Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Llywodraeth Cymru

[Nodyn 1] Gwybodaeth o ffurflenni a ddychwelwyd gan awdurdodau lleol yn nodi'r holl dai fforddiadwy ychwanegol a ddarparwyd yn eu priod ardaloedd.

[Nodyn 2] Mae cyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru, adrannau eraill llywodraeth ganolog, awdurdodau iechyd a'r heddlu, gwasanaethau/awdurdodau tân ac achub. Ceir rhagor o fanylion yn y Rhestr Termau tuag at ddiwedd y datganiad.

Mae Tabl 7 yn dangos bod y rhan fwyaf o'r unedau a ddarparwyd ar yr holl dir sector cyhoeddus yn cael eu darparu â chyllid grant cyfalaf o hyd. Cynyddodd canran yr unedau a ddarparwyd â chyllid grant cyfalaf o 61% yn 2020-21 i 82% yn 2021-22.

Cynyddodd nifer yr unedau a ddarparwyd â chyllid grant cyfalaf ar dir awdurdod lleol o gymharu â'r flwyddyn flaenorol o 152 o unedau i 414 ac ar dir sector cyhoeddus arall, lleihaodd nifer yr unedau o 326 o unedau i 181 (Tabl 7). 

Sir Gaerfyrddin oedd yr awdurdod lleol a ddarparodd y ganran uchaf o unedau ar dir awdurdod lleol, sef 18%, ac wedyn Sir Ddinbych ar 15% a Chaerdydd ar 11%. Nododd saith awdurdod lleol nad oedd unrhyw unedau wedi'u darparu ar dir awdurdod lleol.

Dim ond awdurdodau lleol Torfaen (62% o’r unedau a ddarparwyd) a Chasnewydd (38%) nododd fod unedau tai fforddiadwy ychwanegol wedi cael eu darparu ar dir a ryddhawyd gan gyrff sector Cyhoeddus arall yn 2021-22. 

Ceir rhagor o fanylion am gyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn y rhestr termau.

Cydlyniant gyda chyhoeddiadau ystadegol eraill

Mae'r data a gaiff eu casglu a'u cyhoeddi bob blwyddyn ar dai fforddiadwy yn seiliedig ar wybodaeth a gaiff ei chasglu drwy ffurflenni ystadegol blynyddol a gwblheir gan awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru. Maent yn cynnwys darpariaeth drwy adeiladu tai newydd yn ogystal â phrynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau sy'n bodoli eisoes. Felly, caiff is-set o ddata tai fforddiadwy ei chynnwys yn ystadegau adeiladu tai newydd Llywodraeth Cymru, a gaiff eu cyhoeddi ar wahân.

Fodd bynnag, mae'r ystadegau adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Gall fod yn anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu sy'n cofnodi'r data nodi deiliadaeth derfynol fwriadedig yr eiddo, a gall hyn arwain at dangyfrif y tai newydd a gaiff eu hadeiladu ar gyfer y sector cymdeithasol a gorgyfrif y tai newydd a gaiff eu hadeiladu ar gyfer y sector preifat. Fel y cyfryw, gall fod rhywfaint o anghysondeb rhwng yr ystadegau adeiladu tai newydd a'r ystadegau tai fforddiadwy.

Gellir cael rhagor o wybodaeth yn yr adroddiadau ansawdd perthnasol ar gyfer yr ystadegau tai fforddiadwy a'r ystadegau adeiladu tai newydd.

Ar 6 Tachwedd 2019, cyhoeddodd SYG ddau adroddiad ar ystadegau tai fforddiadwy fel rhan o raglen waith DU gyfan i wella ystadegau tai a chynllunio:

  1. Cymharu tai fforddiadwy yn y DU (SYG), erthygl yn cymharu ystadegau tai fforddiadwy ledled y DU.
  2. Ystadegau Tai Fforddiadwy yn y DU (SYG), adolygiad o ddiffiniadau, terminoleg a dichonoldeb cysoni diffiniadau ystadegol mewn perthynas â thai fforddiadwy.

Rhestr termau

Safleoedd eithriadau tai fforddiadwy

Safleoedd tai ar raddfa fach o fewn aneddiadau presennol neu wrth ymyl aneddiadau presennol a ddefnyddir i ddarparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol yw safleoedd eithriadau tai fforddiadwy, na fyddent yn cael eu neilltuo fel arall yn y cynllun datblygu. Cyn mis Gorffennaf 2010, cyfeiriwyd atynt fel ‘safleoedd eithriadau gwledig’.

Tai fforddiadwy ychwanegol

Tai fforddiadwy a ddarparwyd drwy eu hadeiladu o'r newydd neu drwy brynu, prydlesu neu addasu unedau a oedd yn bodoli eisoes ar 1 Ebrill 2007 neu ar ôl hynny. Felly, nid yw hyn yn cynnwys unedau fforddiadwy sy'n bodoli eisoes a gafodd eu hailwampio neu eu hadnewyddu, gan nad ystyrir eu bod yn ychwanegol. Lle cafwyd colled net o ran yr unedau fforddiadwy yn ystod y flwyddyn, fe'i cofnodwyd fel sero. Er enghraifft, os cafodd dau fflat hunangynhwysol o fewn un eiddo eu haddasu i greu un cartref teuluol, sero yw nifer yr unedau ychwanegol oherwydd bu lleihad yn nifer yr unedau fforddiadwy.

Cyllid Grantiau Cyfalaf

Mae Cyllid Grantiau Cyfalaf yn cynnwys y Grant Tai Cymdeithasol, unrhyw Grant Tai Cymdeithasol wedi'i ailgylchu, y Grant Cyllid Tai a'r Gronfa Gofal Integredig ond nid yw'n cynnwys yr unedau tai hynny a gaiff eu cyllido o ffynonellau eraill.

Eiddo a gaiff ei addasu

Pan gaiff un uned ei newid i greu unedau lluosog neu pan gaiff unedau lluosog eu newid i greu un uned. Er enghraifft, pan gaiff un tŷ teuluol ei addasu i greu llety a rennir ar gyfer tri meddiannydd, bydd dwy uned ychwanegol.

Darparwyd

Mae'r uned wedi'i chwblhau ac ar gael i'w meddiannu.

Gofal ychwanegol (tai gwarchod)

Yn cynnig mwy o gymorth i breswylwyr na thai ymddeol eraill ond yn eu galluogi i fod yn fwy annibynnol na phe baent yn symud i mewn i gartref gofal. Mae'r preswylwyr yn byw mewn fflatiau hunangynhwysol o hyd ond mae'n bosibl y caiff eu prydau eu darparu, naill ai yn y fflat neu mewn ystafell fwyta a rennir ac yn aml, bydd staff gofal ar gael i ddarparu gofal personol.

Anghenion cyffredinol

Unedau hunangynhwysol na chânt eu cadw ar gyfer grwpiau cleientiaid penodol. Roedd eiddo wedi'i addasu i'w ddefnyddio gan bobl ag anableddau wedi'i gynnwys yn y categori hwn pe na fyddai unrhyw wasanaethau neu gymorth ychwanegol yn cael eu darparu fel rhan o delerau'r ddeiliadaeth.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio

Yn cyfeirio at ganiatadau cynllunio manwl (h.y. nid amlinellol) terfynol a roddwyd yn ystod y flwyddyn. Bydd Rhoddwyd Caniatâd Cynllunio yn golygu bod cytundeb adran 106 eisoes wedi'i lofnodi.

Grant Tai Cymdeithasol

Grant Tai Cymdeithasol yw'r rhaglen ariannu cyfalaf sylfaenol i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel sy'n cyfrannu tuag at yr 20,000 o dai carbon isel ychwanegol ar gyfer targed rhent cymdeithasol.

Uned tai

Annedd hunangynhwysol sy'n cynnig o leiaf un ystafell sy'n addas i fyw ynddi, a chegin, ystafell ymolchi/cawod, sinc a thoiled at ddefnydd yr annedd honno'n unig. 

DS: Mewn tŷ a rennir, bydd uned yn ymwneud â nifer y mannau gwely neu ystafelloedd gwely a ddarperir at ddefnydd y meddiannydd yn unig neu at ddefnydd y teulu yn unig yn achos hosteli neu lochesi. Er enghraifft, gall un tŷ ddarparu llety â chymorth i dri meddiannydd – bydd gan bob meddiannydd ystafell wely at ddefnydd y meddiannydd hwnnw'n unig a bydd yn rhannu lolfa, cegin a chyfleusterau ymolchi. Roedd hyn yn cael ei gyfrif fel tair uned. Nid oedd ystafelloedd gwely at ddefnydd y staff yn unig yn cael eu cyfrif.

Y gronfa gofal integredig

Mae'r Gronfa Gofal Integredig (cyfalaf) yn swm enwol a ddyrennir i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ac a delir drwy'r Byrddau Iechyd i gefnogi amrywiaeth o ymyriadau, gan gynnwys datrysiadau yn seiliedig ar lety mewn ymateb i faterion iechyd a gofal cymdeithasol. Gellir defnyddio'r gronfa hon i gefnogi tai fforddiadwy a ddarperir gan awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Tai rhent canolradd

Lle mae'r prisiau neu'r rhenti yn uwch na thai rhent cymdeithasol ond yn is na phrisiau neu rhenti tai'r farchnad. Gall hyn gynnwys cynlluniau rhannu ecwiti (er enghraifft, Cymorth Prynu). Mae tai canolradd yn wahanol i dai'r farchnad cost isel, nad yw Llywodraeth Cymru yn eu hystyried yn dai fforddiadwy at ddiben y system cynllunio defnydd tir.

Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (APCau)

Mae ffiniau APC Bannau Brycheiniog ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thor-faen.

Dim ond yn Sir Benfro y mae ffiniau APC Arfordir Penfro.

Mae ffiniau APC Eryri yng Nghonwy a Gwynedd.

Cyrff eraill yn y sector cyhoeddus

Caiff unedau tai fforddiadwy ychwanegol eu darparu ar dir a ryddheir gan yr awdurdod lleol ac ar dir a oedd yn eiddo i'r cyrff sector cyhoeddus canlynol yn flaenorol:

  • Llywodraeth Cymru gan gynnwys Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru
  • Adrannau eraill Llywodraeth Ganolog (gan gynnwys, er enghraifft, safleoedd y Weinyddiaeth Amddiffyn neu'r Llysoedd gynt)
  • Ystadau Iechyd Cymru (gan gynnwys safleoedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a oedd yn eiddo i Awdurdodau Iechyd, Ymddiriedolaethau Iechyd ac Ymddiriedolaethau Ambiwlans ac ati yn flaenorol)
  • Heddluoedd/awdurdodau
  • Gwasanaethau/awdurdodau tân ac achub

Cynlluniwyd

Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw unedau tai fforddiadwy ychwanegol sydd wrthi'n cael eu datblygu ac y disgwylir iddynt gael eu darparu yn ystod blwyddyn ariannol 2022-23.

Rhwymedigaethau cynllunio (cytundebau Adran 106)

Fel rhan o ddatblygiadau tai'r farchnad, gofynnir yn aml i ddatblygwyr gyfrannu at ddiwallu'r anghenion lleol a nodwyd ar gyfer tai fforddiadwy. Caiff nifer y cartrefi fforddiadwy i'w darparu ar safle penodol ei bennu gan bolisi cynllunio'r awdurdod cynllunio lleol (sydd fel arfer yn seiliedig ar ganran ar gyfer safleoedd sy'n fwy na maint penodol) a negodiadau â'r datblygwr am yr hyn sy'n ymarferol o ystyried yr amgylchiadau economaidd a ffactorau eraill sy'n gysylltiedig â'r safle penodol hwnnw. Caiff y cyfraniad tai fforddiadwy y cytunir arno ei sicrhau drwy'r hyn a elwir yn rhwymedigaeth gynllunio (neu gytundeb adran 106), sef contract cyfreithiol gyfrwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol sy'n gweithredu ochr yn ochr â chaniatâd cynllunio. Y tir ei hun, yn hytrach na'r unigolyn neu'r sefydliad sy'n datblygu'r tir, sy'n gaeth i Gytundeb Adran 106 – felly mae'n rhywbeth y bydd angen i unrhyw berchnogion yn y dyfodol ei ystyried.

Gellir defnyddio'r trefniadau hyn i oresgyn rhwystrau a fyddai fel arall o bosibl yn atal caniatâd cynllunio rhag cael ei roi, i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygiad, helpu i ddiwallu anghenion lleol neu sicrhau buddiannau a fyddai'n gwneud datblygiad yn fwy cynaliadwy.

Rhentu i Brynu – Cymru

Cyflwynwyd y cynllun hwn ym mis Chwefror 2018 er mwyn rhoi'r cyfle i aelwydydd a all fforddio'r taliadau morgais misol ond nad oes ganddynt y blaendal sydd ei angen fel arfer i brynu cartref, ddod yn berchen ar gartref.  O dan Rhentu i Brynu – Cymru, bydd darpar brynwyr yn talu rhenti'r farchnad am gartrefi a adeiladwyd o'r newydd gan gymdeithasau tai sy'n cymryd rhan yn y cynllun, a byddant yn cael cynnig prynu'r cartrefi hyn o ddiwedd ail flwyddyn eu cyfnod rhentu.

Ar ôl arfer yr opsiwn i brynu, rhoddir swm o arian i'r darpar brynwr a fydd yn cyfateb i 25% o'r rhent y mae wedi'i dalu a 50% o unrhyw gynnydd yng ngwerth y cartref, i'w ddefnyddio fel blaendal ar gyfer morgais. Bydd hyn yn ei helpu i brynu'r cartref y mae'n ei rentu.

Nid yw'r tai a ddarperir drwy'r cynllun Rhentu i Brynu – Cymru yn cydymffurfio'n llawn â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac nid yw nifer yr unedau a ddarperir o dan y cynllun wedi'i gynnwys yn y cyfanswm cyffredinol ar gyfer tai fforddiadwy ychwanegol a nodir yn y datganiad hwn.

Cytundebau Adran 106

Gweler ‘Rhwymedigaethau cynllunio’.

Ecwiti a rennir

Mae hyn yn cynnwys unedau:

  • lle mae'r landlord cymdeithasol cofrestredig yn darparu benthyciad ecwiti er mwyn helpu i brynu eiddo (e.e. drwy'r cynllun Cymorth Prynu)
  • lle mae unrhyw drefniant perchentyaeth cost isel arall
  • sy'n cael eu cynnig o dan egwyddorion ‘deiliadaeth niwtral’ (lle gall ymgeiswyr ddewis rhentu neu brynu gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol) os yw'r ddeiliadaeth gyntaf yn unol â thelerau rhannu ecwiti

Cyn cyflwyno'r cynllun Rhanberchnogaeth – Cymru newydd ym mis Chwefror 2018, mae'n bosibl y byddai unedau â rhanberchnogaeth rhwng y meddiannydd a'r Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (e.e. perchnogaeth rannol / rhent rhannol) wedi cael eu cynnwys o dan ‘Ecwiti a Rennir'.

Rhanberchnogaeth – Cymru

Mae Rhanberchnogaeth – Cymru yn gynllun prynu rhannol, rhentu rhannol a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2018. Mae wedi'i anelu at ddarpar brynwyr sydd â pheth blaendal ond na allant gael y lefel o forgais i brynu'r tŷ yn gyfan gwbl. Gall darpar brynwyr brynu cyfran gychwynnol o 25% i 75% o werth cartrefi wedi'u hadeiladu o'r newydd, sydd ar gael ar gyfer y cynllun hwn gan gymdeithasau tai sy'n cymryd rhan.
Gallant gynyddu cyfran eu perchentyaeth yn raddol hyd at berchnogaeth lawn ar unrhyw adeg. Bydd rhent yn daladwy ar y gyfran na fyddant yn berchen arni. Mae'r unedau tai fforddiadwy a ddarperir o dan y cynllun hwn yn cydymffurfio â diffiniad TAN 2 o dai fforddiadwy ac mae'r niferoedd a ddarparwyd wedi'u cynnwys yn y cyfanswm cyffredinol ar gyfer y ddarpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol a nodir yn y datganiad hwn.

Tai gwarchod

Wedi'u dylunio'n benodol ar gyfer pobl hŷn a'u hadeiladu fel arfer mewn datblygiadau sy'n cynnwys rhwng 20 a 40 o fflatiau neu fyngalos hunangynhwysol. Bydd bron bob amser system larwm sydd wedi'i chysylltu â chanolfan gyfathrebu 24 awr a all anfon help mewn argyfwng ac, fel arfer, bydd rheolwr cynllun (warden) a fydd o bosibl yn byw ar y safle.

Tai rhent cymdeithasol

Darperir y tai hyn gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru lle mae lefelau'r rhenti yn ystyried rhenti canllaw Llywodraeth Cymru a'r rhenti meincnod ar gyfer tai rhent cymdeithasol.

Cynyddu neu leihau cyfrannau perchentyaeth

Mae'r gallu i gynyddu neu leihau cyfrannau perchentyaeth ('stair-casing' yn Saesneg) yn rhoi'r hawl gyfreithiol i berchennog eiddo o dan gynllun Rhanberchnogaeth – Cymru gaffael cyfranddaliadau ychwanegol (ecwiti) yn ei eiddo. 

Tai â chymorth

Mae sawl gwahanol fath o lety â chymorth i ddiwallu anghenion amrywiaeth eang o bobl. Gall fod gan y preswylwyr anghenion ychwanegol oherwydd anabledd, eu hoedran neu resymau eraill. Mae'n bosibl y bydd eu llety wedi'i addasu neu wedi'i ddylunio'n arbennig i ddiwallu anghenion corfforol penodol neu y bydd yn darparu cymorth ychwanegol drwy ddefnyddio wardeniaid neu aelodau eraill o staff er mwyn helpu'r preswylwyr i fyw'n annibynnol.

Lleoedd llewyrchus llawn addewid

Rhaglen gyllido tair blynedd (2014 i 2017) oedd Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid a fuddsoddodd dros £124 miliwn o gyllid cyfalaf er mwyn cefnogi gweithgareddau adfywio mewn 18 o gymunedau ledled Cymru. Roedd yn canolbwyntio ar Ganol Trefi, Cymunedau Arfordirol a Chlystyrau Cymunedau yn Gyntaf difreintiedig.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Ceir gwybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd ar gyfer y ddarpariaeth tai fforddiadwy.

Manylion cyswllt

Craig Mcleod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 10/2023