Neidio i'r prif gynnwy

Mae amlder y datganiad hwn yn newid o bob pythefnos i bob mis. Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ar 8 Gorffennaf 2021 a bydd pob datganiad yn y dyfodol yn cael ei gyhoeddi ar yr ail ddydd Iau o’r mis. Bydd y cyhoeddiadau misol yn cynnwys data ar gyfer yr wythnos ddiweddaraf a bydd tablau manylach yn cynnwys dadansoddiadau fesul wythnos yn cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru.

Prif ganlyniadau

Mae’r ystadegau hyn yn dangos y nifer diweddaraf o eitemau PPE sydd wedi’u darparu i’r system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

  • Ers 9 Mawrth 2020, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) wedi darparu 871.5 miliwn o eitemau PPE i’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Darparwyd tua 398 miliwn o'r rhain i'r sector gofal cymdeithasol.
  • Yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 6 Mehefin 2021 darparwyd 7.6 miliwn o eitemau, mae hyn yn cymharu â 12.0 miliwn o eitemau yn y saith diwrnod hyd at ddydd Sul 30 Mai 2021
  • Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 14 miliwn ac eithrio'r wythnos a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2021 pan ddarparwyd 31.5 miliwn o eitemau.
Tabl 1: Nifer yr eitemau PPE a ddarparwyd
Eitem Ers 9 Mawrth 2020 Yn y saith diwrnod hyd at 30 Mai 2021 Yn y saith diwrnod hyd at 6 Mehefin 2021
Ffedogau 141,711,775 1,165,775 653,025
Bagiau cyrff 11,647 34 1
Cyfarpar amddiffyn llygaid 1,637,646 100 10
Masgiau Math I a Masgiau Math II 1,324,450 12,750 7,600
Masgiau Math IIR 186,955,601 1,237,350 942,600
Masgiau FFP2 126,036 0 0
Masgiau FFP3 (3M) 3,110,529 13,370 20,540
Masgiau FFP3 (arall) 174,760 240 0
Feisorau wyneb 6,340,416 40,420 7,954
Gosod citiau profi a darnau sbâr 6,102 20 0
Menyg 466,521,840 7,735,250 4,485,400
Menyg â chyffiau 1,383,400 0 1,100
Gynau (gwrth-hylif) 2,617,343 34,555 30,234
Gynau (arall) 716,149 3,293 1,584
Hylif diheintio dwylo 498,400 4,728 3,803
Clytiau diheintio dwylo 58,305,750 1,801,500 1,414,300
Cyflau anadlyddion 102 0 0
Hidlyddion anadlyddion 35,273 0 0
Cyfanswm 871,477,219 12,049,385 7,568,151

Ffynhonnell: Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru   

Mae’r ffigurau a nodir ar gyfer eitemau PPE wedi’u seilio ar unedau unigol, ac eithrio:

  • menyg: caiff uned ei nodi ar sail maint uned pecyn
  • hylif diheintio dwylo: potel yw’r uned ni waeth beth fo’r maint

Noder: Mae'r data hwn yn ddarostyngedig i ddiwygiadau ac nid yw cyhoeddiadau blaenorol yn cael eu diwygio. Y ffigurau diweddaraf yw'r ffigurau mwyaf cyfoes a bydd ffigurau cronnol yn cynnwys unrhyw ddiwygiadau hanesyddol.

O fis Mai 2021, mae masgiau FFP3 wedi cael eu rhannu yn ddau gategori: masgiau FFP3 (3M) a masgiau FFP3 (arall). Mae’r categorïau hyn yn darparu dadansoddiad pellach o lefelau stoc er mwyn gallu monitro’n fanylach ac maent wedi’u hôl-ddyddio i fis Gorffennaf 2020 yn y datganiad a’r tablau cysylltiedig ar StatsCymru.

Image
Mae’r nifer wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2020 gan gyrraedd uchafbwynt o 20.2 miliwn ym mis Mai 2020. Ers hynny, mae nifer yr eitemau a ddarparwyd bob wythnos wedi amrywio ond at ei gilydd mae wedi aros o gwmpas 14 miliwn ac eithrio'r wythnos a ddaeth i ben ar 28 Mawrth 2021 pan ddarparwyd 31.5 miliwn o eitemau.

Ceir amrywiadau yn nifer wythnosol yr eitemau PPE a ddarparwyd pan fydd storfeydd lleol yn defnyddio eu stociau presennol sy'n arwain at lai o eitemau wedi’u darparu ar gyfer yr wythnos honno. Bydd gwyliau banc hefyd yn cael effaith ar faint o stoc a archebir a gall arwain at ostyngiad yn ystadegau'r wythnos ganlynol.

Darparir PPE ar gyfer pecynnau brechu mewn swmp ac yna fe'i defnyddir dros nifer o wythnosau. Gall hyn arwain at niferoedd uwch o rai eitemau a ddarparwyd (fel masgiau Math IIR) am rai wythnosau. Dyma achos y cynnydd mewn eitemau a ddarparwyd ar gyfer yr wythnos a ddaeth i ben ar Fawrth 28 2021.

Mae’r data sy’n cyd-fynd â’r siart ar gael ar StatsCymru.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gwybodaeth rheoli yw’r data hyn a ddarparwyd i Lywodraeth Cymru gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP). Mae NWSSP yn caffael ac yn dosbarthu PPE ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydym yn cyhoeddi hyn er mwyn rhoi crynodeb wythnosol o eitemau PPE a ddarparwyd tra mae’n dal i fod yn berthnasol i’r ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid yw’r data hyn wedi mynd drwy’r un lefel o sicrhau ansawdd ag ystadegau swyddogol a gellid diwygio’r data yn y dyfodol.

Mae’r byrddau iechyd lleol yn archebu eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) drwy system ar-lein. Yna caiff yr eitemau eu dosbarthu o warysau NWSSP drwy slotiau dosbarthu a drefnwyd. Mae prosesau ar waith hefyd i fyrddau iechyd lleol ofyn am gael cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol ar frys os oes angen, ac mae'r danfoniadau brys hyn wedi'u cynnwys yn y data hyn. Mae'n bosibl i rai eitemau gael eu dogni o bryd i'w gilydd os yw'r stociau'n isel. Mae’r byrddau iechyd lleol yn cadw eu stociau PPE eu hunain ac mae’n bosibl hefyd eu bod yn cael gafael ar gyflenwadau ar wahân i'r broses hon. Dim ond stoc o NWSSP y mae’r data yn ei gynnwys ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw stoc y mae’r GIG neu awdurdodau lleol wedi’i gaffael yn uniongyrchol. Bydd y data yn cynnwys PPE wedi’i gaffael yn uniongyrchol gan NWSSP yn ogystal â PPE a ddosbarthwyd i NWSSP gan Lywodraeth y DU. Mae’n cynnig ciplun o’r sefyllfa ar adeg benodol wrth i’r sefyllfa honno newid.

Darparir PPE ar gyfer pecynnau brechu mewn swmp ac yna fe'i defnyddir dros nifer o wythnosau. Gall hyn arwain at niferoedd uwch o rai eitemau a ddarparwyd (fel masgiau Math IIR) am rai wythnosau

Mae’r datganiad hwn yn cynnwys eitemau PPE a ddarparwyd ers 9 Mawrth 2020 gan mai dyma pryd y sefydlwyd y trefniadau adrodd presennol.

Cyhoeddir data ar gyfer Lloegr ar dudalennau ystadegau a dadansoddi Coronafeirws (COVID-19) y wefan GOV.UK

Cyhoeddir data ar gyfer yr Alban ar dudalennau ystadegau dosbarthu cyfarpar diogelu personol Coronafeirws (COVID-19) y wefan GOV.SCOT

Cyhoeddir data ar gyfer Gogledd Iwerddon ar dudalennau ystadegau Coronafeirws (COVID-19) y wefan NISRA.GOV.UK

Ni ellir cymharu'r data hyn oherwydd bod gan y gwledydd ddiffiniadau a dadansoddiadau gwahanol o eitemau cyfarpar diogelu personol.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn gywir am 8yp ar 6 Mehefin 2021.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau 8 Gorffennaf 2021.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Abi Woodham
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 177/2021