Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gefnogi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Mae'r datganiad sefyllfa hwn gan benaethiaid proffesiwn Llywodraeth Cymru yn disgrifio lefel yr ymrwymiad a'r ymarfer a ddisgwylir gan yr holl staff gofal iechyd sy'n darparu gofal, er mwyn hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol.

Mae'n darparu meincnod i gleifion, gofalwyr, ymarferwyr gofal iechyd, rheolwyr, cyflogwyr, comisiynwyr a rhanddeiliaid eraill ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch mentrau ailddefnyddio, lleihau ac ailgylchu.

Mae'r datganiad sefyllfa hwn yn cael ei lywio gan y prosiect cynaliadwyedd nyrsio ardderchog a gynhelir gan Swyddfa'r Prif Swyddog Nyrsio gyda mewnbwn gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a chyrff eraill sy'n gweithio i gyflawni cynllun cyflenwi strategol datgarboneiddio GIG Cymru.

Mae'r gwaith hwn wedi cael ei ystyried gan grwpiau ffocws sy'n cynnwys ymarferwyr arbenigol sydd wedi cytuno ar yr argymhellion a geir yn y papur hwn.

Y broblem sy'n ein hwynebu

Yn 2019, Cymru oedd y genedl gyntaf i ddatgan argyfwng hinsawdd cenedlaethol er mwyn sicrhau mwy o ffocws a chamau gweithredu i gwrdd â'r heriau a ddaw yn sgil y newid yn yr hinsawdd. GIG Cymru yw un o brif allyrwyr carbon y sector cyhoeddus, gan gyfrannu tua 2.6% o gyfanswm allyriadau Cymru. Er mwyn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn chwarae ei ran i wella cynaliadwyedd amgylcheddol, amlinellodd Cynllun cyflenwi strategol datgarboneiddio GIG Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021 nifer o fentrau i leihau allyriadau i gefnogi'r uchelgais o gyflawni sector cyhoeddus sero-net yng Nghymru.

Yn unol â'r blaenoriaethau allweddol a nodwyd, mae ymdrechion cychwynnol y rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo’r argyfwng hinsawdd wedi canolbwyntio ar ddatgarboneiddio ystâd y GIG trwy roi pwyslais ar leihau effaith amgylcheddol ei hadeiladau, trefniadau teithio a chaffael. Er bod hyn wedi arwain at ganlyniadau cadarnhaol, gellir cyflawni mwy drwy ymarfer clinigol a darpariaeth gofal iechyd gwyrddach. Ein huchelgais gyffredin yw parhau i ddarparu gofal o ansawdd uchel, sy'n ddiogel, yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn cael ei gyflawni mewn ffyrdd sydd o fudd i'r amgylchedd.

Rôl bwysig gweithwyr iechyd proffesiynol a staff cymorth

Staff iechyd a gofal cymdeithasol yw curiad calon teulu GIG Cymru. Gall sgiliau a rhinweddau unigryw staff clinigol wella'r ymateb i’r argyfwng hinsawdd ledled GIG Cymru. Gellir defnyddio'r gallu i resymoli materion cymhleth, datrys problemau amlweddog, rheoli llwybrau gofal iechyd cymhleth, a dylunio gwell prosesau a pholisïau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar weithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Mae'r rhaglen genedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol i daclo’r argyfwng hinsawdd wedi cymryd camau cadarnhaol tuag at ddarparu arferion gofal iechyd cynaliadwy ledled Cymru, gan gynnwys defnyddio llai o nwyon meddygol sy'n niweidiol i'r amgylchedd a anadlyddion dos mesuredig dan wasgedd. Dyma enghreifftiau pendant o sut y gallwn gyflawni ein huchelgais ar gyfer gofal iechyd effaith isel.

Yr angen i weithredu ar y cyd

Ni all unrhyw grŵp fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd ar ei ben ei hun ac mae angen canolbwyntio ar gamau gweithredu clinigol eang. Rhaid i staff iechyd ar draws sectorau ac arbenigeddau ddod ynghyd i nodi arferion gofal iechyd gwyrddach, lobïo amdanynt a'u cyd-ddylunio, a datblygu ffyrdd newydd ac arloesol o leihau ein hôl troed carbon. Mae hyn yn cynnwys arferion fel:

  • mabwysiadu dull iechyd ataliol ym mhopeth a wnawn
  • grymuso unigolion i reoli eu cyflyrau iechyd eu hunain lle bynnag y bo modd
  • sicrhau bod ein llwybrau iechyd a gofal mor effeithlon a di-dor â phosibl
  • cynnal ymagwedd iechyd a gofal darbodus
  • caffael cyflenwadau iechyd yn ddarbodus
  • archwilio ffyrdd o leihau'r gwastraff clinigol rydym yn ei gynhyrchu
  • gwneud y mwyaf o arferion ailddefnyddio neu ailgylchu gwarged a/neu wastraff clinigol lle bo'n ddiogel gwneud hynny

Rhaid i’r egwyddorion gofal iechyd cynaliadwy hyn fod yn ganolog i ymarfer clinigol. Trwy sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn flaenllaw mewn sgyrsiau clinigol, gallwn gyflawni newidiadau pwerus.

Er mwyn cefnogi hyn, mae amryw o becynnau cymorth, adnoddau a phapurau cynghori yn cael eu datblygu gan nifer o grwpiau a sefydliadau proffesiynol sy’n cynnig camau ymarferol a chyraeddadwy sy'n arwain pob gweithiwr iechyd proffesiynol i ymarfer yn gynaliadwy. Enghreifftiau o hyn yw’r pecyn cymorth cynaliadwyedd ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd Cymru, y prosiect cynaliadwyedd nyrsio uchod a'r pecyn cymorth adnoddau ar gyfer iechyd cynaliadwy.

Galwad i weithredu

Gall ymarferwyr iechyd gefnogi gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yn eu sefydliad a'u lleoliad drwy:

  • eirioli dros ymarfer cynaliadwy ar bob lefel o ddarpariaeth gofal
  • cefnogi cydweithwyr i fod yn ymwybodol o effaith eu gwaith ar yr hinsawdd
  • cysylltu ag arweinydd datgarboneiddio eu bwrdd iechyd lleol neu eu hyrwyddwr cynaliadwyedd lleol
  • sicrhau bod eu proffesiwn yn cael ei gynrychioli ar grŵp gwyrdd y bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth neu glwstwr gofal sylfaenol
  • cael mynediad at addysg gofal iechyd cynaliadwy drwy eu bwrdd iechyd lleol, ymddiriedolaeth neu glwstwr gofal sylfaenol
  • gyda thimau clinigol neu gydweithwyr, edrych ar sut y gall eu gofal cyfunol fod yn fwy ecogyfeillgar
  • defnyddio adnoddau perthnasol i helpu i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy a fydd yn dylanwadu ar newid mewn ymarfer
  • adeiladu a hwyluso mentrau gofal iechyd sy'n gynaliadwy yn amgylcheddol yn eu hamcanion ymarfer eu hunain ac eraill
  • datblygu athroniaeth gynaliadwyedd weladwy fel esiampl i gleifion a'r cyhoedd

Trwy flaenoriaethu cynaliadwyedd amgylcheddol, gall staff gofal iechyd greu dyfodol iachach i gleifion a'r blaned, gan sicrhau bod ein cenhadaeth yn cyd-fynd ag ymdrechion y sector cyhoeddus i fynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd gyda’n gilydd. Nawr yn fwy nag erioed, mae arnom angen ymateb darbodus a chydweithredol i fynd i'r afael â'r heriau lleol, cenedlaethol a byd-eang y mae ein systemau iechyd a gofal yn eu hwynebu.

Cymeradwyaeth

Cymeradwywyd y datganiad hwn gan:

  • Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio
  • David O’Sullivan, Prif Gynghorydd Optometrig
  • Ruth Crowder, Prif Gynghorydd Proffesiynau Perthynol i Iechyd
  • Andrew Dickenson, Prif Swyddog Deintyddol
  • Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol
  • Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol
  • Delia Ripley, Dirprwy Brif Gynghorydd Gwyddonol
  • Alex Slade, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol ac Iechyd Meddwl