Cyn bo hir, yn ôl y gyfraith, bydd hi’n ofynnol i unrhyw un sy'n codi tâl ar westeion i aros dros nos yng Nghymru gofrestru eu llety gydag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Bydd y gofyniad cyfreithiol newydd hwn yn berthnasol i bob llety â thâl ledled Cymru - gan gynnwys ystafelloedd sbâr, bythynnod gwyliau, cabanau, safleoedd gwersylla a gwestai. Bydd angen cofrestru p'un ai yw'r llety'n cael ei osod am un noson, yn achlysurol, yn dymhorol neu drwy gydol y flwyddyn.
Caiff y gofrestr ei chyflwyno i ddarparu darlun cliriach o'r llety i ymwelwyr sydd ar gael yng Nghymru a chefnogi cynghorau sy'n penderfynu cyflwyno'r Ardoll Ymwelwyr. Bydd cofrestru'n agor yn hydref 2026, a bydd gofyn i ddarparwyr llety anffurfiol a phroffesiynol gydymffurfio neu wynebu cosbau.
Gall darparwyr llety baratoi nawr trwy ymweld â gwefan cofrestru eiddo i ddarganfod pa wybodaeth fydd ei hangen arnynt a chofrestru ar gyfer diweddariadau a nodiadau atgoffa.
Pan fydd cofrestru'n agor, gofynnir i ddarparwyr llety ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys:
- manylion cyswllt
- cyfeiriad y llety
- math o lety
- faint o bobl all aros
- pryd mae'r llety fel arfer ar agor ar gyfer archebion
Dywedodd Rebecca Godfrey, Prif Weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru:
Os ydych chi'n derbyn archebion gan bobol i gael aros dros nos yng Nghymru, bydd angen i chi gofrestru gyda ni. Rydym am greu proses sydd mor syml â phosibl, ac rydym yma i gefnogi darparwyr llety i gofrestru'n gywir ac ar amser.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau pellach cyn i’r cofrestru agor yn hydref 2026. Yn y cyfamser, byddem yn annog darparwyr i ymweld â gwefan cofrestru eiddo i ddarganfod beth i’w ddisgwyl a chofrestru am y newyddion diweddaraf.
