Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn barod i gofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru

Mae'r gyfraith yn newid, gwnewch yn siŵr eich bod yn barod

O hydref 2026 ymlaen, os ydych chi'n derbyn archebion ar gyfer arhosiad dros nos yng Nghymru, bydd angen i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl y gyfraith. 

Mae gofrestr llety ymwelwyr newydd yn cael ei chyflwyno er mwyn rhoi darlun cliriach o'r sector twristiaeth yng Nghymru. 

Mae'n berthnasol i unrhyw un sy'n derbyn archebion ar gyfer arhosiad dros nos yng Nghymru, o westeion anffurfiol i ddarparwyr proffesiynol. 

Mae cofrestru’n rhad ac am ddim. 

Cadwch lygad ar bethau

Ymunwch i dderbyn diweddariadau a chael gwybod pan fydd cofrestru’n agor.

Oes angen i mi gofrestru?

Bydd angen i chi gofrestru eich llety ymwelwyr os yw'r naill neu'r llall o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n derbyn archebion ar gyfer arosiadau dros nos yng Nghymru
  • mae unrhyw un o'r archebion ar gyfer 31 noson neu lai

P'un ai eich bod yn cynnig llety am un noson y flwyddyn, yn dymhorol neu drwy’r flwyddyn, mae'n rhaid i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru, yn ôl y gyfraith.

Mae hyn yn cynnwys:  

  • llety hunanarlwyo (fel bythynnod, tai, fflatiau neu gabannau)  
  • eich prif gartref neu ystafell sbâr  
  • gwestai, gwely a brecwast neu dai llety 
  • lleiniau ar gyfer pebyll, carafannau teithiol, cartrefi modur neu faniau gwersylla  
  • glampio (fel cytiau bugail, yurtiau, podiau neu debyg)  
  • carafannau sefydlog neu gartrefi symudol   
  • hosteli neu dai bync  

Sut i baratoi ar gyfer cofrestru

Bydd cofrestru'n agor yn yr hydref 2026. I gofrestru, bydd angen i chi roi: 

  • manylion cyswllt, megis:  
    • enw  
    • cyfeiriad  
    • rhif ffôn   
  • dyddiad geni 
  • rhif cwmni (os yn berthnasol) 
  • rhif elusen (os yn berthnasol)  
  • enw masnachu (os yn berthnasol)  
  • cyfeiriad y llety  
  • mathau o lety rydych yn eu cynnig  
  • faint o bobl sy’n gallu aros yno  
  • pryd mae’r llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer  

Os yw’r wybodaeth hon gennych yn barod bydd y rhan fwyaf o bobl yn cymryd llai na 15 munud i'w gwblhau ar-lein.

Cofrestrwch i dderbyn diweddariadau a chael gwybod pan fydd cofrestru'n agor.