Cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru
Mae'r gyfraith wedi newid os ydych yn cymryd archebion am arosiadau dros nos
Rhaid i chi gofrestru eich llety ymwelwyr gydag Awdurdod Cyllid Cymru erbyn 31 Mawrth 2027. Bydd cofrestru'n agor ar 1 Hydref 2026.
Mae cofrestru’n berthnasol i bob darparwr llety ymwelwyr, gan gynnwys:
- gwesteiwyr achlysurol sy’n rhentu ystafell sbâr o bryd i'w gilydd
- darparwyr proffesiynol sy'n cynnig llety drwy gydol y flwyddyn
Rhaid i chi gofrestru hyd yn oed os nad yw eich cyngor wedi cyflwyno’r Ardoll Ymwelwyr.
Mae cofrestru ar agor mewn gwasanaeth beta cyhoeddus
Dyma fersiwn gynnar o'r gwasanaeth sydd ar gael i bawb.
Rydym yn dal i wella'r gwasanaeth yn seiliedig ar eich adborth chi. Byddwn yn ychwanegu nodweddion sy'n eich galluogi i wneud y canlynol:
- diweddaru eich manylion
- ychwanegu defnyddwyr eraill
- dadgofrestru
Cofrestrwch i gael diweddariadau os hoffech wybod pryd fydd y nodweddion hyn ar gael.
Cofrestrwch nawr
Cofrestru eich llety ymwelwyr yng Nghymru yn rhad ac am ddim.
Er mwyn cofrestru
Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio One Login GOV.UK.
Pan fyddwch yn cofrestru, bydd angen i chi roi:
- manylion cyswllt, fel er enghraifft:
- enw
- cyfeiriad
- rhif ffôn
- dyddiad geni
- e-bost
- cwmni neu rif elusen (os yn berthnasol)
- enw masnachu (os yn berthnasol)
- cyfeiriad y llety
- enw'r llety (os yn berthnasol)
- y mathau o lety rydych yn eu cynnig
- pa bryd mae eich llety ar agor ar gyfer archebion fel arfer
- nifer yr ystafelloedd neu unedau sydd ar gael i’w harchebu
- faint o bobl sy’n gallu aros yno
