Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae lleoliadau gofal plant yn cyflwyno taflenni amser i hawlio taliadau am oriau wedi'u hariannu gan Gynnig Plant Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ble alla i gael mynediad i’r nodwedd hawliadau a thaflenni amser?

Mewngofnodwch i’r gwasanaeth digidol yn mewngofnodi i gyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru a chwiliwch am y ddolen Hawliadau trwy ddangosfwrdd y darparwr/lleoliad i weld rhestr o'r taflenni amser wythnosol.

Sgrin crynodeb hawliadau

Bydd pob taflen amser wythnosol yn cael ei restru ar ddydd Llun bob wythnos, wedi’u trefnu yn ôl dyddiad, gyda'r diweddaraf yn gyntaf.    

Taflen amser wythnosol

Mae taflenni amser yn dangos enwau’r plant yn nhrefn yr wyddor ochr yn ochr ag enw’r rhiant/gwarcheidwad, oriau’r Cytundeb, yr oriau sydd wedi’u harchebu a’r oriau sydd wedi’u mynychu mewn gwirionedd.

Bydd y math o hawliad yn cael ei nodi fel naill ai yn ystod y tymor neu yn ystod y gwyliau.

Mae oriau'r Cytundeb yn cyfeirio at uchafswm nifer yr oriau sy’n cael eu hariannu y byddai eu hangen ar riant mewn wythnos, yn unol â’r hyn sydd wedi’i gytuno yn y Cytundeb rhiant/lleoliad. Mae hyn yn cynnig hyblygrwydd pe bai'r rhiant am archebu nifer amrywiol o oriau o wythnos i wythnos.

Yna gall y lleoliad hawlio am yr oriau amrywiol sydd wedi’u harchebu gyda nhw, hyd at  werth uchafswm nifer yr oriau, fel y nodir yn y Cytundeb.

Dylid trafod faint o oriau sydd angen ei archebu o wythnos i wythnos gyda'r lleoliad.

Ar y daflen amser wythnosol, bydd y lleoliad yn mewnbynnu’r oriau sydd wedi’u harchebu, ac yna nifer yr oriau sydd wedi’u mynychu mewn gwirionedd ar gyfer pob wythnos.

Ar gyfer beth fydda i’n cael fy nhalu?

Bydd y lleoliad yn cael ei dalu am yr oriau sydd wedi’u harchebu.

Mae angen i'r lleoliad fewnbynnu oriau a fynychwyd mewn gwirionedd at ddibenion adrodd. Nid yw’r rhain yn cynnwys unrhyw oriau gofal plant a drefnwyd ac y telir amdanynt yn breifat, h.y. heb eu hariannu gan y Cynnig.

Os oes achosion rheolaidd o oriau a fynychwyd mewn gwirionedd sy’n llai na’r oriau sy wedi’u harchebu, efallai bydd yr Awdurdod Lleol yn gofyn bod y lleoliad yn trafod lleihau nifer yr oriau sy’n cael eu harchebu.

Adolygu’r daflen amser

Mae cyfanswm cyffredinol y Cynnig Gofal Plant sy’n cael ei hawlio bob wythnos yn cael ei gyfrifo’n awtomatig a gall y lleoliad adolygu hyn a’i olygu/diwygio cyn iddyn nhw ei gyflwyno. Unwaith y bydd wedi’i gyflwyno, ni fydd modd golygu'r hawliad mwyach.

Bydd y lleoliad hefyd yn gallu cadw ac ymadael os byddan nhw angen casglu rhagor o wybodaeth cyn cyflwyno'r hawliad.

Pryd mae'r Hawliad yn cael ei gyflwyno?

Bydd y system yn creu taflenni amser wythnosol, ac mae'r rhain ar gael i'r lleoliad eu hadolygu a’u cyflwyno o 12:00 bob dydd Gwener.

Gellir cyflwyno taflenni amser yn wythnosol neu mewn batsh, hyd at gyfanswm o ddau fis o daflenni amser.

Cyfeirnod y taliad

Ar ôl cyflwyno taflen amser/hawliad yn llwyddiannus, bydd cyfeirnod yr hawliad unigryw yn cael ei gynhyrchu.

Sylwch, pan fydd lleoliad yn cyflwyno hawliad, bydd y statws yn newid i 'Wedi’i gyflwyno'. Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi anfon y taliad, bydd y statws yn newid i 'Wedi’i gymeradwyo'.

Hysbysiad talu

Bydd yr hysbysiad talu yn cael ei anfon drwy e-bost a bydd yn cynnwys rhif lleoliad y Cynnig Gofal Plant, cyfeirnod yr hawliad, y swm a gafodd ei dalu ar gyfer yr wythnos honno a dyddiad y taliad.

Nodwch y bydd yr hysbysiad talu yn cael ei e-bostio i’r cyfeiriad e-bost a nodir yn y manylion cyswllt ar gyfer y lleoliad pan gafodd y lleoliad ei gofrestru. Dylai lleoliadau ystyried a ddylai'r hysbysiad talu gael ei rannu ag unrhyw staff eraill o fewn eu sefydliad, e.e. yn yr adran gyfrifon.

Beth os yw'r oriau sydd wedi’u harchebu yn fwy nag oriau'r Cytundeb?

Byddai hyn yn cael ei wrthod gan y system gan nad yw’r oriau sydd wedi’u harchebu yn gallu bod yn fwy nag oriau'r Cytundeb. Yn yr achos hwn, bydd neges gwall yn yn ymddangos i'ch galluogi i olygu'r swm, neu bydd y swm annerbyniol yn cael ei glirio o'r daflen amser.

Wythnosau gwyliau

Mae modd defnyddio’r Cynnig am hyd at 9 wythnos o wyliau ysgol. Mae hyn yn golygu bod 4 wythnos o wyliau’r flwyddyn nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Cynnig ac y bydd angen i rieni eu hariannu eu hunain os ydyn nhw’n dymuno cael gofal plant.

Bydd y lleoliad yn gallu gweld yr wythnosau gwyliau sy’n weddill ar gyfer pob plentyn trwy edrych ar yr hawliad. Bydd y gwyliau sy'n weddill ar gyfer pob plentyn yn cael eu dangos mewn amser real. 

Pan nad yw rhiant yn dymuno archebu gofal plant a ariennir ar gyfer wythnos benodol o wyliau’r ysgol (ac yn dewis talu am yr oriau ei hunan), yna dylai'r lleoliad fewnbynnu 0 yn erbyn yr oriau a archebwyd yr wythnos honno ar gyfer y plentyn dan sylw. Bydd y system wedyn yn nodi’r wythnos wyliau honno fel un nad yw’n cael ei hawlio ac felly bydd yr wythnos honno’n mynd yn un o 4 wythnos wyliau heb ei hariannu sydd gan y rhiant bob blwyddyn. Bydd yr wythnos wyliau sy'n weddill wedyn yn aros yr un fath.

Pan fydd rhiant wedi defnyddio ei holl gyllid wythnosau gwyliau, byddant yn ymddangos ar waelod y ddalen hawlio ac ni fyddwch yn gallu hawlio amdanynt yn ystod yr wythnos wyliau honno. Bydd angen i rieni dalu am y rhain eu hunain.

Mae rhiant am drefnu oriau gofal plant sy'n ychwanegol i'r rhai sy’n cael eu darparu o dan Gynnig Gofal Plant Cymru

Rhaid i unrhyw oriau gofal plant sydd ar ben y rhai y mae gan y rhiant hawl iddyn nhw o dan Gynnig Gofal Plant Cymru gael eu trefnu y tu allan i wasanaeth digidol cenedlaethol Cynnig Gofal Plant Cymru.  Nid yw'r oriau hynny i'w cofnodi ar y colofnau Wedi’u harchebu a Gwirioneddol.