Neidio i'r prif gynnwy

1. Cadw pellter cymdeithasol

Image
Siart yn dangos sut mae symudedd wedi newid o'r llinell sylfaen gan ddefnyddio cyfartaledd awdurdodau lleol Cymru. Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Syrthiodd symudiadau tuag at ddiwedd mis Medi ac mae wedi gostwng yn sydyn ers y cyfnod atal byr.

Adroddiadau Symudedd Cymunedol COVID-19 Google

Gostyngodd symudedd yn sylweddol ddiwedd mis Mawrth, ond cynyddodd yn raddol tan yr haf. Syrthiodd symudiadau tuag at ddiwedd mis Medi yn gyfatebol a’r cyfyngiadau symud lleol ar draws Cymru, ac mae wedi gostwng yn sydyn ers cyflwyniad y cyfnod atal byr.

Data ar 6 Tachwedd 2020.

2. Y Gronfa Cymorth Dewisol

Rhwng 18 Mawrth a 5 Tachwedd gwnaed 102,068 o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng yn ymwneud â COVID-19, gwerth cyfanswm o £6,579,060.

Dechreuwyd cofnodi ar 18 Mawrth. Mae’r rhesymau cysylltiedig â COVID-19 y mae ymgeiswyr yn eu rhoi yn cynnwys:

  • gorfod rhoi’r gorau i weithio neu leihau gwaith
  • oedi o ran hawlio budd-dal
  • costau ynni/bwyd uwch (teulu gartref)
Image
Mae’r siart yn dangos y nifer o daliadau wythnosol mewn argyfwng o’r Gronfa Cymorth Dewisol o fis Mawrth hyd heddiw, wedi’u rhannu rhwng taliadau arferol a COVID-19.

Nifer ddyddiol o Daliadau Cymorth mewn Argyfwng (MS Excel)

Yn dilyn cyhoeddiad 1 Mai o fwy o gyllid, bydd ceisiadau'n cael eu trin â mwy o ddisgresiwn a hyblygrwydd, wrth ddelio â hawliadau caledi COVID-19. Cefndir pellach i’r Cronfa Cymorth Dewisol.

Data ar 6 Tachwedd 2020.

3. Cymorth i fusnesau

Ar 10 Tachwedd 2020, mae trydydd cam y Gronfa Cadernid Economaidd wedi cynnig 14.5 mil o grantiau sef cyfanswm o £43.7 miliwn. Mae hyn yn cynnwys Grantiau Datblygu Busnes a'r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.

Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru

Data ar 10 Tachwedd 2020.

4. Cronfa Cadernid y Trydydd Sector

Yn darparu cymorth ariannol uniongyrchol i sefydliadau yn y trydydd sector sydd angen help i ymdopi â'r argyfwng hwn er mwyn talu eu biliau a lliniaru problemau llif arian.

Mae 111 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a £4.63 miliwn wedi'i dalu drwy gronfa cadernid y trydydd sector.

Ffynhonnell: Gwirfoddoli Cymru

Data ar 9 Tachwedd 2020.

5. Manylion cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 204/2020