Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2020-21 ar 7 Gorfennaf 2021, gan gynnwys adran sy'n ymdrin â pherfformiad y sefydliad dros y flwyddyn (yr 'adroddiad ar berfformiad'). Bwriad yr adroddiad hwn yw darparu darlun ystadegol o'r data a ddefnyddir yn y ddogfen honno, a sicrhau bod y setiau data sylfaenol yn gwbl hygyrch ar gyfer cyfeirio neu ddadansoddi pellach.

Defnyddir sawl siart yn yr adroddiad hwn, sy'n cyflwyno pob un o'r gwahanol ddangosyddion perfformiad ar gyfer ACC ar gyfer y cyfnod 2019-20. Mae pob un wedi'i gynnwys rywle yn yr adroddiad ar berfformiad, a chyfeirir ato’n unol â hynny, er nad yn yr un drefn o reidrwydd.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad byr o bob mesur, ac efallai y bydd y darllenydd am ei ystyried ar y cyd â'r naratif manylach yn yr adroddiad ar berfformiad, sydd wedi’i osod yng nghyd-destun dull ac amcanion y sefydliad. Lle bo'n berthnasol, ychwanegir llyfrnodau i rannau perthnasol yr adroddiad blynyddol o dan bob siart.

Sylwer bod y rhan fwyaf o'r dadansoddiad isod yn berthnasol i'r Dreth Trafodiadau Tir (TTT), er pan fo hefyd yn berthnasol cynnwys data'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT), mae’r data hynny hefyd wedi'u cynnwys yn y mesur. Er enghraifft, nid yw'n bosibl cyflwyno ffurflen TGT ar bapur, ac felly nid yw ffurflenni TGT wedi'u cynnwys yn siart 1. Fodd bynnag, gellir gwneud taliadau TGT drwy siec, felly cynhwysir taliadau TGT yn siart 2.

Data

Image
Mae Siart 1 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfresi misol o nifer y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a gyflwynwyd ar gyfer 2020-20 a 2021-21.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae’r siart hwn yn nodi'r cyd-destun y dylid ystyried y mesurau perfformiad yn ei erbyn. Mae'n dangos sut mae nifer y trafodiadau TTT a dderbyniwyd ym mhob mis wedi newid yn ystod 2020-21, gan gymharu hyn â'r data tebyg ar gyfer 2019-20. Gellir gweld effaith coronafeirws (Covid-19) yn amlwg yn gynnar yn 2020-21, pan ostyngodd nifer y trafodiadau fwy na 50% i ddechrau. Yna cynyddodd trafodiadau’n araf wedi hynny, ac yn y pen draw derbyniwyd niferoedd uwch na’r flwyddyn flaenorol ym mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2020. An gyfnod byr, dychwelodd y lefelau i rai'r flwyddyn flaenorol ym mis Ionawr, cyn cynyddu eto ym mis Chwefror ac ym mis Mawrth yn enwedig.

Yn ystod 2020-21, roedd trafodiadau TTT a gyflwynwyd i ACC oddeutu 85% o'r niferoedd a gyflwynwyd yn 2019-20.

Image
Mae Siart 2 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar bapur ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 98-100% o ran derbyn ffurflenni TTT yn electronig. At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 0-2% ar gyfer canran y ffurflenni treth a dderbynnir ar bapur. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar bapur yn gyson o fewn yr ystod darged yn ystod 2020-21, ac yn is yn gyffredinol na'r ganran yn 2019-20.

Image
Mae Siart 3 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y canran o daliadau Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd drwy siec ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 5 i 10 bwynt canran.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 90-95% o ran derbyn taliadau'n electronig, ac mae hyn yn cynnwys TTT a TGT. At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 5-10% ar gyfer canran y taliadau a dderbynnir drwy siec. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y taliadau a dderbyniwyd gyda siec wedi gostwng yn sylweddol yn ystod 2020-21 gyda llai na 100 o sieciau wedi'u derbyn yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'r newid hwn tuag at daliadau electronig wedi bod yn rhan o'r ymateb i'r heriau a achoswyd gan goronafeirws (Covid-19).

Image
Mae Siart 4 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o drafodiadau sy'n symud ymlaen yn awtomatig hyd eu cau'n gychwynnol heb unrhyw gamau gan ACC ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 90-95% o ran prosesu ei drafodiadau’n awtomatig. Mae hyn yn cynnwys derbyn trafodiadau digidol a pharu’n awtomatig daliadau a dderbynnir ar gyfer unrhyw drafodiadau lle mae atebolrwydd ariannol ac mae’n cynnwys TTT a TGT.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y trafodiadau a broseswyd yn awtomatig wedi cynyddu ac wedi cyrraedd pen isaf yr ystod darged erbyn diwedd 2020-21, gan barhau â'r duedd ar i fyny a oedd hefyd i’w weld yn blynyddoedd cynharach. Mae’r tueddiad tuag at daliadau electronig a welir yn siart 3 wedi dylanwadu'n fawr ar hyn.

Image
Mae Siart 5 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 0 i 2 bwynt canran.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Mae gan ACC ystod targed perfformiad o 98-100% o ran derbyn ffurflenni TTT yn brydlon, hynny yw o fewn 30 diwrnod i'r dyddiad dod i rym fel y nodir yn y ddeddfwriaeth.

At ddibenion astudio’r data, mae'n haws dychmygu’r mesur hwnnw wedi’i wrthdroi, sef ystod darged o 0-2% ar gyfer canran y ffurflenni a dderbynnir y tu hwnt i 30 diwrnod o’r dyddiad dod i rym. Mae'r data ar gyfer y ddau fesur ar gael yn y daenlen ategol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod o'r dyddiad dod i rym wedi aros yn isel ac o fewn neu ychydig y tu allan i'r ystod darged drwy gydol 2020-21. Roedd llawer o'r ffigurau misol ychydig yn uwch yn 2020-21 nag yn 2019-20 gan adlewyrchu heriau a wynebai asiantau o ran cyflwyno ffurflenni ar amser wrth i coronafeirws (Covid-19) gael effaith.

Image
Mae Siart 6 yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfres fisol y ganran o ddyledion Treth Trafodiadau Tir y gellir eu rheol, a gasglwyd o fewn 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafoiadau i rym, ar gyfer 2019-20 a 2020-21, ochr yn ochr â 2 linell wastad sy'n cynrychioli ystod darged o 90 i 95 pwynt canran.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Ar gyfer pob trafodiad TTT sydd â rhwymedigaeth ariannol nad yw'n cael ei gyflwyno a'i dalu o fewn 30 diwrnod, caiff dyled ei chreu. Nod ACC yw casglu trafodiadau sy'n dod yn ddyled o fewn 30 diwrnod arall ac mae ganddo’r un ystod darged o gasglu 90-95% o'r dyledion hynny o fewn yr amserlen honno. Mae trafodiadau a gyflwynir yn hwyrach na’r 60 diwrnod hyn ar ôl y dyddiad dod i rym yn creu tuedd yn y mesur hwn ac fe'u heithrir o'r cyfrifiad. Yn hytrach, mae ACC yn cadw golwg cyson ar nifer yr achosion hyn gyda'r bwriad o'u cadw'n isel, gyda'r niferoedd sydd ar gael yn y daenlen sy'n cyd-fynd â’r ddogfen hon, yn dangos bod hyn yn wir yn gyffredinol.

Mae'r siart hwn yn dangos bod trafodiadau’n is na'r ystod darged trwy gydol 2020-21, gyda gostyngiadau nodedig ar ddechrau'r flwyddyn ac eto ym mis Tachwedd 2020. Dylanwadwyd ar hyn gan y ffaith bod casglu post wedi cael ei atal dros dro sawl gwaith, yn gyntaf oherwydd llifogydd yn swyddfa ACC ddechrau mis Chwefror 2020 ac yna oherwydd y gwahanol gyfnodau clo coronafeirws (COVID-19) a fu trwy gydol 2020. Fodd bynnag, bu hefyd gynnydd cyffredinol mewn achosion o ddyled gan fod y pandemig wedi effeithio ar rai trethdalwyr eu hunain.

Image
Mae Siart 7a yn defnyddio bariau ar yr echelin chwith i arddangos nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch Treth Trafodiadau Tir a llinell ar yr echelin dde i arddangos nifer cyfartalog y dyddiau rhwng cymeradwyo a thalu’r ad-daliadau hynny, gyda phob cyfres yn cael ei dangos yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Image
Mae Siart 7b yn dangos 2 linell sy'n rhoi cyfresi misol o ganran yr ad-daliadau a dalwyd o fewn 30 diwrnod o ddyddiad y cais ac o’r dyddiad y cymeradwywyd yr ad-daliad. Mae'r ddwy linell wedi'u hagregu yn ôl y mis y cymeradwywyd yr ad-daliad rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Yn gyffredinol, pan fydd trethdalwyr yn prynu prif breswylfa newydd heb iddynt werthu eu prif breswylfa flaenorol ar yr un pryd, mae’n ofynnol iddynt dalu’r gyfradd uwch o TTT preswyl. Mae'r rhai sy'n gwerthu eu prif breswylfa flaenorol o fewn tair blynedd fel arfer yn gymwys i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau TTT ar y trafodiad gwreiddiol.

Nod ACC yw talu'r ad-daliadau hyn, a elwir yn ad-daliadau cyfradd uwch mor brydlon â phosibl. Ar hyn o bryd, dim ond yr amser a gymerir i wneud y taliad o'r adeg y cymeradwyir yr ad-daliad y mae'n bosibl ei fesur, er bod gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd er mwyn mesur hyn o'r adeg y daw’r cais i law. Mae hynny'n rhoi adlewyrchiad tecach o'r gwir amser a gymerir i dderbyn ad-daliad o safbwynt y trethdalwr.

Mae'r ddau siart 7a a 7b yn dangos sut mae'r amser a gymerir i dderbyn ad-daliadau cyfraddau uwch wedi newid dros amser a chyfran yr holl ad-daliadau a delir o fewn 30 diwrnod. Mae'r ddau siart yn defnyddio'r mis cymeradwyo fel y pwynt lle mae data'n cael eu hagregu, sef y pwynt cynharaf yn y broses ar hyn o bryd lle gellir mesur yn gyson ar gyfer pob blwyddyn a gwmpesir yn y siartiau. Ymhen amser, efallai y byddai'n well seilio'r siartiau hyn ar fis y cais gwreiddiol, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn edrych arno maes o law.

Mae Siart 7a yn dangos bod yr amser cyfartalog a gymerwyd i brosesu ad-daliadau cyfraddau uwch (wedi'i fesur o'r pwynt cais) wedi cynyddu yn ystod 2020-21, gan gyrraedd uchafbwynt o 35 diwrnod ym mis Ionawr 2021, cyn gostwng yn ôl i 26 a 24 diwrnod ym mis Chwefror a mis Mawrth. I ddechrau, roedd y cynnydd hwn yn adlewyrchu cyfuniad o niferoedd cynyddol o geisiadau am ad-daliad, a gyrhaeddodd ei uchafbwynt ym mis Ionawr ac yna eto ym mis Mawrth, ochr yn ochr â rhai heriau o ran adnoddau mewnol yn hanner olaf 2020, sydd wedi’u datrys ers hynny. Rhoddir mwy o fanylion am hyn yn yr adroddiad blynyddol.

Dangosir yr effaith ar gyfran yr ad-daliadau a gafodd eu trin o fewn 30 diwrnod yn siart 7b. Adlewyrchir y cynnydd yn yr amser cyfartalog i brosesu ad-daliadau gan gwymp sylweddol yn y mesur hwn ar ddechrau 2021, cyn iddo gynyddu i'r lefelau a welwyd yn gynharach yn y flwyddyn wrth i'r flwyddyn ddod i ben.

Mae'r siartiau hefyd yn dangos y data ar y sail flaenorol (o'r pwynt cymeradwyo), newidiadau sydd i raddau helaeth yn olrhain newidiadau yn nifer yr ad-daliadau mewn unrhyw fis penodol, gyda'r niferoedd yn naturiol yn dylanwadu ar y prosesau ariannol.

Image
Mae Siart 8 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar draws risgiau treth 1 i 5 (a nodir yn unigol yn siartiau 9 i 13), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gall ACC wneud dadansoddiad manwl o'r data a gynhwysir ym mhob trafodiad a dderbynnir er mwyn gwirio a yw’n cynnwys amrywiol nodweddion a allai awgrymu bod gwallau cyffredin neu risgiau yn y wybodaeth a ddarperir. Yna caiff pob un o'r 'risgiau treth' hynny eu dadansoddi ar wahân er mwyn nodi nifer y trafodiadau a’r risgiau treth, fel y gellir olrhain hyn dros amser. Mae'r adroddiad ar berfformiad yn egluro mwy am ddull ACC o reoli risgiau treth.

Yn ystod 2020-21, canolbwyntiwyd ar sawl maes risg treth. Rydym wedi adrodd ar y 5 phrif risg treth a nodwyd ar ddechrau 2020-21. Dangosir y setiau data unigol ar gyfer pob un ohonynt yn siartiau 9-13 isod, tra bod y siart hon yn dangos y data cyfanredol ar gyfer y 5 maes risg treth hwnnw ar gyfer 2020-21.

Yn dilyn cwymp cyffredinol yn nifer y trafodiadau sy'n disgyn i'r 5 risg treth hyn ac a ddangosir gan y llinell (echelin chwith) yn 2019-20, cynyddodd y niferoedd o oddeutu 40 yn chwarter 1, 2020-21 i oddeutu 140 yn chwarter 4, 2020 -21. Newidiodd y risg dreth yn y trafodiadau hynny a ddangosir gan y bariau (echelin dde) yn gymesur â hynny.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Image
Mae Siart 9 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 1 (cwmnïau’n prynu eiddo preswyl), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Image
Mae Siart 9a yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer gweithgaredd gweddilliol o gwmpas risg treth 1 (cwmnïau’n prynu eiddo preswyl), yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.

Mae data 3 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Yn dilyn cwymp parhaus yn 2019-20, cafodd y risg gyffredinol ei lliniaru. Fodd bynnag, dangosir rhywfaint o weithgaredd gweddilliol yn 2020-21, y gellir ei briodoli i fath penodol o drafodiad ar wahân bellach, yn siart 9a. Gellir gweld bod y risg hon yn fach iawn ar y cyfan yn ystod y flwyddyn.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Image
Mae Siart 10 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 2 (ffurflenni treth sydd eto i'w ffeilio), yn ôl chwarter o Ebrill 2018 i Fawrth 2021.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.

Mae data 3 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Bu cwymp cyffredinol mewn trafodiadau yn ystod y ddwy flynedd gyntaf o uchafbwynt cynnar, hyd chwarter cyntaf 2020-21. Ers hynny, mae'r risg wedi tyfu'n bennaf yn unol â niferoedd cynyddol o drafodiadau wrth i gyfnodau clo’r coronafeirws (Covid-19) lacio yn rhan olaf y flwyddyn. Effeithiwyd ar y dreth mewn perygl gan ychydig o drafodiadau anghynrychioliadol mwy dros y 3 blynedd ond i raddau helaeth mae'n dilyn nifer y trafodiadau ar gyfer y risg hon (gan anwybyddu'r allanolyn arbennig o fawr y cyfeiriwyd ato yn chwarter 1 2019-20).

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Image
Mae Siart 11 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 3 (anghytuno â’r gyfrifiannell TTT) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.

Mae data 2 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Roedd nifer y trafodiadau treth mewn perygl yn eithaf gwastad yn 2019-20 hyd nes y cafwyd cwymp ddechrau 2020-21. Ers hynny, mae achosion wedi cynyddu eto, yn rhannol (ond nid yn unig) yn unol â niferoedd cynyddol o drafodiadau wrth i gyfnodau clo coronafirws (Covid-19) lacio yn ystod rhan olaf y flwyddyn. Mae'r dreth sydd mewn perygl wedi aros yn gymharol isel dros 2020-21 yn dilyn cwymp dros 2019-20, er y bu cynnydd bychan tuag at ddiwedd y flwyddyn yn unol â'r cynnydd mewn trafodiadau ar gyfer y risg hon.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Image
Mae Siart 12 yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 4 (triniaeth dreth ar gyfer gwahanol fathau o eiddo) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.

Mae data 2 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Nifer y trafodiadau mewn perygl yw'r uchaf ar gyfer y risg hon ac ar ôl cyfnod o leihau niferoedd yn ystod 2019-20 a dechrau 2020-21, bu cynnydd amlwg yn y niferoedd yn ail hanner 2020-21, sy'n fwy na'r niferoedd y gellid bod wedi’u disgwyl wrth i gyfnodau coronafeirws (Covid-19) lacio. Mae’r dreth mewn perygl yn dilyn patrwm tebyg gyda'r ffigur yn chwarter 4 2020-21, y mwyaf a welwyd dros y ddwy flynedd.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.

Image
Mae Siart 13  yn defnyddio llinell ar yr echelin chwith i arddangos cyfanswm nifer y trafodiadau sydd mewn perygl a bariau ar yr echelin dde i arddangos cyfanswm gwerth y dreth sydd mewn perygl ar gyfer risg treth 5 (mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)) yn ôl chwarter o Ebrill 2019 i Fawrth 2021.

Cynnwys cysylltiedig ym mhrif gorff yr adroddiad

Gweler y sylwebaeth o dan siart 8.

Mae data 2 flynedd ar gael ar gyfer y risg dreth hon ac ar gyfer nifer y trafodiadau (a ddangosir gan y llinell, echelin chwith) a threth mewn perygl (a ddangosir gan y bariau, echelin dde). Roedd nifer y trafodiadau mewn perygl yn gymharol wastad yn ystod 2019-20 hyd nes y bu cwymp yn gynnar yn 2020-21, yn unol â'r gostyngiad y gellid ei ddisgwyl wrth i goronafeirws (Covid-19) gael effaith. Ers i'r cyfnodau clo lacio, mae'r niferoedd wedi cynyddu, yn unol yn fras â'r cynnydd mewn trafodiadau cyffredinol, er bod y cynnydd yn chwarter 4 ychydig yn fwy serth na hynny. Mae treth mewn perygl yn dilyn patrwm tebyg gyda'r ffigur yn chwarter 4 2020-21 y mwyaf a welwyd dros y 2 flynedd.

Rhoddir mwy o resymu dros y duedd yn y data hwn yng nghyd-destun dull ac amcanion ACC yn yr adroddiad blynyddol.