Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Cyhoeddodd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ei adroddiad blynyddol a chyfrifon ar gyfer 2024–2025 ar 23 Gorffennaf 2025, gan gynnwys adran sy'n ymdrin â pherfformiad y sefydliad yn ystod y flwyddyn ariannol (yr trosolwg o berfformiad).

Mae sawl siart ac un tabl i’w cael yn yr atodiad data hwn, ac maent yn cyflwyno data ar bob un o fesurau perfformiad ACC ar gyfer y cyfnod 2024–2025. Er bod yr adroddiad yn cyfeirio at y mesurau perfformio hyn, nid yw’r rhan fwyaf o’r wybodaeth fanwl wedi’i chynnwys. O ganlyniad, mae’r adroddiad hwn yn rhoi golwg fanylach ar ddata perfformiad ACC, gan wneud y setiau data sylfaenol yn gwbl hygyrch i bartïon â diddordeb gyfeirio atynt neu eu dadansoddi.

Mae rhai dangosyddion risg treth a gyflwynwyd yn adroddiadau’r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu hepgor eleni. Mae'r newid hwn yn adlewyrchu’r dull gwahanol a ddefnyddir gan ACC i reoli'r gwaith hwn ers mis Hydref 2023, sydd wedi golygu nad yw'r data hynny’n berthnasol mwyach. Mae rhagor o fanylion ar gael yn adroddiad blynyddol a chyfrifon 2023 i 2024, a gellir edrych ar y siartiau sydd wedi’u hepgor yn ein hatodiad data ar gyfer 2023 i 2024 (gweler siartiau 10 i 16). Mae mwy o wybodaeth am risg treth i’w gael yn adran Ein Dull o adroddiad blynyddol a chyfrifon 2024–2025.

At ddibenion delweddu data, weithiau mae'n haws gwrthdroi gwerthoedd dangosyddion perfformiad ACC. Er enghraifft, mae cyfradd y ffurflenni treth a gyflwynir yn brydlon yn agos i 100%, a gall fod yn anodd dirnad amrywiadau os defnyddir graddfa sy’n mynd o 0% a 100%. Felly, yn hytrach na defnyddio graddfa 95% i 100% a fyddai’n gorliwio’r amrywiad, mae’r adroddiad hwn yn dangos y ganran o ffurflenni na chyflwynwyd ar amser, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 5%. Pan ddefnyddir y dechneg hon, mae’r data ar gyfer y mesur gwrthdro a’r mesur gwirioneddol i’w cael yn y daenlen sydd wedi’i hatodi.

Mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad cryno o bob mesur. Efallai y bydd darllenwyr eisiau ystyried hwn ochr yn ochr â'r naratif manylach a geir yr adroddiad ar berfformiad, gan ei fod yn rhoi cyd-destun i ddull ac amcanion y sefydliad.

Sylwch fod y rhan fwyaf o'r dadansoddiadau isod yn ymwneud â Threth Trafodiadau Tir (TTT), er bod data Treth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) hefyd wedi'i gynnwys lle bo hynny'n berthnasol.

Am ragor o fanylion, gwelwch Treth Trafodiadau Tir | LLYW.CYMRUTreth Gwarediadau Tirlenwi | LLYW.CYMRU.

Data

Siart 1: Nifer y ffurflenni TTT a gyflwynwyd

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae Siart 1 yn nodi'r cyd-destun y dylid ei ddefnyddio wrth ystyried y mesurau perfformiad. Mae'n dangos sut mae nifer y trafodiadau TTT misol wedi newid trwy gydol 2023–2024 a 2024–2025 ar raddfa o 0 i 6,000 trafodiad.

Mae'r siart yn dangos patrwm tymhorol clir ar draws y ddwy flynedd, gan ddechrau ar oddeutu 4,000 o drafodiadau ym mis Ebrill 2023. Bob blwyddyn, mae nifer y trafodiadau yn tueddu i gynyddu tan fis Rhagfyr, cyn disgyn yn y cyfnod ar ôl y Nadolig, ac yna mae'r cylch yn dechrau eto. Roedd nifer trafodiadau 2024–2025 rai cannoedd yn uwch na 2023–2024 ar gyfer y rhan fwyaf o fisoedd.

Siart 2: Canran y trafodiadau na phroseswyd yn awtomatig hyd at y taliad cychwynnol, yn ôl y mis y’u derbyniwyd 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o brosesu 98% o drafodiadau’n awtomatig heb unrhyw waith â llaw. Mae’r targed hwn yn cynnwys derbyn trafodiadau digidol a pharu’r taliadau cyntaf i’r trafodiadau sydd â rhwymedigaeth ariannol yn awtomatig, ar gyfer TTT a TGT. 

Mae Siart 2 yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae’n dangos sut newidiodd canran misol y trafodiadau yr oedd angen eu trîn â llaw dros 2023–2024 a 2024–2025, a hynny gan ddefnyddio graddfa o 0% i 10%.  

Mae'r siart yn dangos amrywiadau yn y canrannau ar draws y ddwy flynedd, gyda brigiadau o gwmpas y Nadolig a gostyngiadau’n syth wedyn. Y tu hwnt i’r brigiadau tymhorol hyn, mae’r duedd yn aros yn gymharol gyson o gwmpas 5%, sy’n uwch na’r targed o 2% a osodwyd ar gyfer y mesur hwn.

Siart 3: Canran y ffurflenni TTT a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig. 

Mae ACC yn cynnal targed perfformiad o 98% ar gyfer ffurflenni TTT prydlon, sef y rhai a dderbynir o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y daw’r trafodiad i rym. 

Mae Siart 3 yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae'n dangos sut mae canran y trafodiadau a dderbyniwyd ar ôl 30 diwrnod wedi newid trwy gydol 2023–2024 a 2024–2025, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 5%. 

Mae'r siart yn dangos bod canran y ffurflenni treth a dderbyniwyd yn hwyr (a gafwyd ar ôl 30 diwrnod) wedi amrywio ychydig, ond fod y nifer yn gostwng ar y cyfan ar draws y ddwy flynedd. Bu o dan 2% yn gyson, gan gyfateb i darged ACC ar gyfer y mesur hwn. Yn ystod pedwerydd chwarter 2024–2025, roedd lefelau’r ffurflenni hwyr ar eu hisaf hyd yn hyn, gyda llai nag 1% o'r ffurflenni yn cael eu ffeilio ar ôl y ffenestr 30 diwrnod. 

Siart 4: Canran y ffurflenni Treth Trafodiadau Tir a dalwyd ar ôl 30 diwrnod, yn ôl y mis y daeth trafodiad i rym 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae gan ACC darged perfformiad o dderbyn 98% o ffurflenni TTT o fewn yr amserlen ofynnol o 30 diwrnod ar ôl y dyddiad y daeth y trafodiad i rym.  

Mae Siart 4 yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae'n dangos canran y trafodiadau a dalwyd yn hwyrach na'r dyddiad cau 30 diwrnod, bob mis trwy gydol 2023–2024 a 2024–2025, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 5%. 

Mae'r siart yn dangos bod canran y taliadau hwyr (ar ôl 30 diwrnod) yn amrywio rhwng 3% a 4% ar draws y rhan fwyaf o fisoedd. Bu ambell i gynnydd o gwmpas Nadolig y ddwy flynedd, ac yna gostyngiad yn y chwarteri dilynol.  

Ar y cyfan, mae'r duedd yn mynd am i lawr, gyda gwelliant sylweddol yn chwarter olaf 2024–2025 pan oedd cyfran y taliadau hwyr o dan 2%. Roedd hyn yn bodloni’r mesur perfformiad a osodwyd gan ACC. 

Siart 5: Canran y dyledion TTT a gasglwyd ar ôl y ffenestr amser 30 diwrnod a 90 diwrnod, yn ôl y mis y daeth y trafodiad i rym 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Crëir dyled pan na fydd unrhyw drafodiad TTT sydd ag atebolrwydd ariannol yn cael ei dalu o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y daw i rym. Nod ACC yw casglu taliadau am y trafodiadau hyn o fewn 30 diwrnod ychwanegol, ac mae ganddo darged o gasglu 90% o’r dyledion hynny o fewn y cyfnod hwnnw. Hefyd, mae targed o gasglu 98% o’r dyledion hyn o fewn cyfnod o 90 diwrnod.  

Hepgorir unrhyw drafodiadau a gyflwynir mor hwyr fel eu bod eisoes yn ddyled ers dros 30 neu 90 diwrnod, a hynny gan eu bod yn creu bias. Yn hytrach, caiff yr achosion hyn eu dadansoddi’n fewnol ar wahân i’r gweddill er mwyn sicrhau bod amserlenni tebyg yn cael eu cyflawni unwaith y byddant yn cael eu derbyn. 

Mae Siart 5 yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae'n dangos sut mae canran y dyledion a gasglwyd y tu allan i'r ffenestri 30 diwrnod a 90 diwrnod wedi esblygu trwy gydol 2023 i 2024 a 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 30%. 

Mae'r siart yn dangos bod canran y dyledion a gasglwyd y tu allan i'r ffenestr 30 diwrnod yn gyffredinol wedi aros ar, neu’n agos at ein trothwy trwy gydol y rhan fwyaf o 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Roedd rhai amrywiadau amlwg o gwmpas tuedd a oedd, ar y cyfan, yn wastad, gyda brigiadau ar ôl y Nadolig yn y ddwy flynedd o ganlyniad i’r capasiti gweithredol is.  

Mae tuedd debyg i’w gweld yng nghanran y taliadau a wnaed yn hwyrach na 90 diwrnod. Er bod Siart 5 yn dangos bod y canrannau’r dyledion a gasglwyd o fewn 30 diwrnod a 90 diwrnod yn disgyn yn is na’r targedau o 10% a 2% a osodwyd gan ACC o bryd i’w gilydd, roedd y prif fesur 30 diwrnod ar ddiwedd 2024 i 2025 yn agos at y targed. 

Mae'n werth nodi bod y ddau fesur yn newidiol iawn, a hynny oherwydd y gostyngiad yn nifer yr achosion dyled dan sylw, ac mae nifer yr achosion sy'n methu’r targedau hyn wedi aros yn isel ers blynyddoedd bellach.  

Siart 6a: Nifer y diwrnodau a'r diwrnodau cyfartalog cymedrig a gymerwyd i wneud ad-daliadau TTT cyfradd uwch, yn ôl y mis pan wnaed y cais 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Siart 6b: Canran yr ad-daliadau TTT cyfradd uwch a dalwyd yn hwyrach na’r fframiau amser 30 diwrnod a 60 diwrnod, yn ôl mis pan wnaed y cais 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Pan fydd trethdalwr yn prynu prif breswylfa newydd heb iddynt fod wedi gwerthu eu hen brif breswylfa ar yr un pryd, maent yn dod yn atebol am dalu’r gyfradd breswyl TTT uwch. Mae'r rhai sy’n gwerthu eu prif breswylfa flaenorol o fewn 3 blynedd fel arfer yn gymwys i gael ad-daliad o'r gwahaniaeth rhwng y cyfraddau uwch a'r prif gyfraddau TTT ar y trafodiad gwreiddiol. 

Nod ACC yw prosesu'r ad-daliadau cyfradd uwch hyn cyn gynted â phosibl, gydag ymrwymiad i wneud taliadau o fewn 30 diwrnod o dderbyn y cais.  

Mae Siart 6a yn dangos yr amseroedd prosesu misol ar gyfer ceisiadau am ad-daliadau cyfradd uwch yn 2023 o 2024 a 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa 0 i 25 diwrnod. Mae ganddo hefyd fariau sy'n dangos nifer yr ad-daliadau a brosesir bob mis, wedi'u graddio o 0 i 200. Mae Siart 6b yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae'n dangos canran y ceisiadau am ad-daliad cyfradd uwch a dalwyd y tu allan i’r fframiau amser 30 diwrnod a 60 diwrnod yn ystod 2023 i 2024 a 202 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 10%. 

Mae Siart 6a yn dangos, er bod nifer yr ad-daliadau cyfradd uwch wedi cynyddu’n gyffredinol dros y cyfnod o 2 flynedd, mae'r amser prosesu cyfartalog wedi aros yn gymharol sefydlog. Cafwyd brigiadau o gwmpas y Nadolig yn y ddwy flynedd, a dychweliad i’r lefelau blaenorol yn fuan wedi hynny. 

Mae Siart 6b yn dangos ychydig o duedd am i lawr yng nghanran yr ad-daliadau cyfradd uwch a dalwyd yn hwyrach na'r targed 30 diwrnod dros y 2 flynedd, gyda'r rhan fwyaf o fisoedd yn y ddwy flwyddyn ariannol yn disgyn o dan y trothwy targed o 5% a osodwyd gan ACC. Er bod adegau o gwmpas y Nadolig pan na chyrhaeddwyd y targed, cafwyd adferiad cyflym yn fuan wedyn yn y ddwy flynedd. Anaml y bu canran yr ad-daliadau a dalwyd yn hwyrach na 60 diwrnod yn uwch na 2% (sy'n cynrychioli llai na 5 achos y mis), ac yn aml cyrhaeddodd y targed o 0% a osodwyd gan ACC. 

Siart 7a: Nifer y diwrnodau cyfartalog a gymerwyd i wneud ad-daliadau Treth Trafodiadau Tir cyffredinol, yn ôl y mis pan wnaed y cais 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Siart 7b: Canran yr ad-daliadau TTT cyffredinol a dalwyd yn hwyrach na’r fframiau amser 30 diwrnod a 60 diwrnod, yn ôl y mis pan wnaed y cais 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Mae ACC eisoes wedi ymrwymo i wneud adroddiadau ar ad-daliadau cyffredinol ochr yn ochr â mesurau ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch. Gallai’r ad-daliadau hyn fod yn gysylltiedig â thaliadau dyblyg, hawliadau dilynol am ryddhad, neu ordaliad yn dilyn newidiadau mewn bandiau treth. Er mai ad-daliadau cyfradd uwch yw’r rhan fwyaf o’r ad-daliadau a wneir, mae’r ad-daliadau mwy cyffredinol hyn i gyfrif am yr 20% sy’n weddill. 

Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon ACC ar gyfer 2022 i 2023 yn egluro pam nad ydym yn rhoi targed ar yr ad-daliadau cyffredinol hyn. Y rheswm pennaf yw anawsterau o ran paru ceisiadau ad-dalu â'r ad-daliadau eu hunain. Serch hynny, mae ACC yn parhau i fonitro'r data hwn ac yn ei gyflwyno yma er mwyn tryloywder. 

Mae Siart 7a yn dangos sut mae'r amser a gymerwyd i brosesu ceisiadau am ad-daliadau cyffredinol wedi newid bob mis trwy gydol 2023 i 2024 a 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0 i 40 diwrnod. 

Mae Siart 7b yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae'n dangos sut mae canran yr holl geisiadau am ad-daliad a dalwyd y tu allan i 30 a 60 diwrnod wedi newid yn ystod 2023 i 2024 a 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 40%. 

Mae Siart 7b yn dangos bod yr amser cyfartalog ar gyfer gwneud ad-daliadau cyffredinol wedi amrywio dros y 2 flynedd ddiwethaf, ond bod y duedd sylfaenol wedi aros yn sefydlog. Mae Siart 7a yn dangos llawer o amrywioldeb yng nghanran yr ad-daliadau cyffredinol a dalwyd o fewn 30 a 60 diwrnod. Er bod y duedd gyffredinol yng nghanran yr ad-daliadau a dalwyd yn hwyrach na 30 diwrnod wedi cynyddu rhwng 2023 i 2024 a 2024 i 2025, mae hyn yn adlewyrchu rhai newidiadau bwriadol i’n harferion gweithrediadol. Caiff achosion eu datrys o fewn 60 diwrnod fel arfer (fel y dangosir gan y duedd gyffredinol am i lawr yn y mesur olaf hwnnw).

Siart 8: Canran y trafodiadau na thalwyd yn gywir y tro cyntaf, yn ôl y mis y daeth y trafodiadau i rym  

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig. 

Mae ACC yn ceisio casglu gwybodaeth am ba mor hawdd yw defnyddio ein gwasanaethau, ac un mesur ar gyfer hyn yw canran y trafodiadau a delir yn gywir y tro cyntaf. Rydym yn dehongli hyn fel trafodiadau a delir yn llawn mewn un taliad, ac nid ydym yn cynnwys trafodiadau lle mae’r dreth sy’n ddyledus wedi’i diwygio. Mae hyn am fod unrhyw ddiwygiadau’n cael effaith ar nifer a lefel y taliadau sydd yn amherthnasol i ba mor hawdd yw defnyddio ein gwasanaeth. 

Mae Siart 8 yn defnyddio’r un dechneg o wrthdroi gwerthoedd a eglurwyd yn y cyflwyniad. Mae’n dangos sut mae canran y trafodiadau sydd mewn grym bob mis ac na thelir yn iawn ar y cynnig cyntaf wedi newid dros 2023 i 2024 a 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0% i 10%. 

Mae'r siart yn dangos bod canran y trafodiadau na chafodd eu talu'n iawn ar y cynnig cyntaf wedi gostwng yn raddol dros y 2 flynedd ddiwethaf, gan gyrraedd isafbwynt o oddeutu 3% erbyn diwedd 2024–2025. 

Tabl 1: Achosion risg treth yn ôl proffil ers i'r dull newydd ddechrau ym mis Hydref 2023

Chwarter derbyniwyd y trafodiadRisg TTT 4 – triniaeth dreth gwahanol fathau o eiddoRisg TTT 5 – mewn perthynas â rhyddhad penodol (rhyddhad a)Risg TTT 6: landlordiaid yn talu cyfraddau uwch fel arferRisgiau eraillPob risg a nodwyd
2023-24 Ctr 3155551535255
2023-24 Ctr 470301530150
2024-25 Ctr 170401540170
2024-25 Ctr 270302040160
2024-25 Ctr 390402055205
2024-25 Ctr 4902510115240

Nid yw'r tabl hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig. 

Mae ACC yn cynnal dadansoddiad manwl o'r data sydd ym mhob trafodiad er mwyn nodi nodweddion a allai fod yn arwydd o wallau neu risgiau posibl yn y wybodaeth a gyflwynwyd. Mae pob risg treth a nodir yn cael ei ddadansoddi ar wahân i bennu sawl trafodiad sydd wedi cael eu heffeithio a swm y dreth sydd mewn perygl, gan alluogi olrhain hyn dros amser.  

Mae adran perfformiad adroddiad blynyddol a chyfrifon ACC ar gyfer 2024 i 2025 yn egluro mwy am ddull y sefydliad o reoli risg treth. 

Mae Tabl 1 yn rhoi crynodeb o nifer y trafodiadau yn ein proffiliau risg yn dilyn y newid dull a fu yng nghanol cyfnod 2023 i 2024 i gysylltu â phob achos lle mae risg dreth yn bresennol. Mae'r tabl yn rhoi trosolwg o waith rheoli risg treth cyfredol ACC, gan dynnu sylw at y meysydd mwyaf arwyddocaol a nodwyd yn ystod diwedd 2023 i 2024 a 2024 i 2025. Bydd y categori 'risgiau eraill' yn ehangu wrth i ni barhau â’r gwaith o nodi risgiau newydd, a allai ymddangos fel categorïau ar wahân yn fersiynau o'r tabl hwn a grëir yn y dyfodol.

Siart 9: Nifer a gwerth yr achosion lle diogelwyd TTT 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Nid yw'r siart hwn yn cael ei ddangos yn benodol yn yr adroddiad blynyddol cysylltiedig.

Ers 2022 i 2023, mae ACC wedi gwneud gwelliannau sylweddol i’w ymdrechion diogelu treth. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar achosion lle mae trethdalwyr wedi cyflwyno diwygiadau ar i lawr i’w ffurflenni TTT a’i bod yn ymddangos bod y diwygiadau hynny’n anghywir. Gall ACC agor ymholiad mewn achosion o’r fath, ac mae hynny fel arfer yn arwain at ddiogelu refeniw treth a allai fod wedi cael ei ad-dalu'n amhriodol fel arall. 

Mae Siart 9 yn dangos niferoedd yr achosion diogelu treth bob chwarter o 2019 i 2020 i 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0 i 50 achos. Mae'r bariau wedi'u pentyrru sy'n cyd-fynd â nhw yn cynrychioli gwerth treth cyfatebol yr achosion hyn, wedi'i raddio o £0 i £500,000. Mae dwy linell amlwg ar y siart: Mae un yn dangos y dreth a ddiogelwyd yn sgil ymholiadau llawn, a’r llall yn cynnwys achosion pan fo gweithgareddau ataliol wedi diogelu treth heb orfod cynnal ymholiad llawn. Mae’r bariau wedi’u pentyrru i ddangos y 2 gategori hwn. 

Mae'r siart yn dangos mai ychydig iawn o weithgareddau diogelu treth a wnaed tan 2022 i 2023, a bod cynnydd sylweddol wedi bod trwy gydol 2023 i 2024. Mae gostyngiad amlwg i’w weld yn y niferoedd ar gyfer 2024 i 2025, ac mae’n debyg mai’r rheswm dros hyn yw’r gwaith uniongyrchol a wnaeth ACC i leihau'r prif ffynonellau o hawliadau amhriodol, gan felly leihau'r angen am ymholiadau. 

Siart 10: Nifer a gwerth yr achosion lle cafodd TTT ei hadennill neu ei dychwelyd 

Image
Mae manylion yn y testun yn dilyn y siart.

Mae’r siart hwn yn ymddangos fel Siart 1 yn yr adroddiad blynyddol perthnasol, a chyfeirir at y data yn yr adran o’r enw ‘trosolwg o berfformiad’.

Fel arfer, gydag achosion o fewn y risgiau treth TTT a nodwyd gan ACC, bydd ymholiad yn cael ei agor i’r ffurflen dreth, a all arwain at wneud diwygiad sydd, fel arfer, yn arwain at gynyddu faint o dreth sy’n ddyledus. Yn yr achosion hyn, mae'r term 'adennill treth' yn dynodi gwerth y diwygiadau hyn sy’n cynyddu’r dreth sy’n ddyledus. I’r gwrthwyneb, rydym yn defnyddio’r term ‘treth a ddychwelwyd’ pan fydd naill ai ymholiad neu ymchwiliad llai ffurfiol yn awgrymu bod gormod o dreth wedi’i thalu, sydd wedyn yn cael ei had-dalu.  

Mae Siart 10 yn dangos nifer yr achosion bob chwarter pan gafodd treth ei hadennill neu ei newid rhwng 2019 i 2020 a 2024 i 2025, gan ddefnyddio graddfa o 0 i 150 o achosion. Mae'r bariau’n dangos gwerth treth cyfatebol yr achosion hyn, wedi'i raddio o £0 i £1.5 miliwn. Mae achosion a ddychwelir gan dreth yn ymddangos ar ochr negyddol yr echelin, wedi'u graddio o 0 i 30 achos, gyda’r symiau cyfatebol wedi'u graddio o £0 i £300,000. 

Mae'r siart yn dangos pa mor amrywiol fu’r adennill treth ers 2019, ac mae’n adlewyrchu'r proffil achosion sy'n esblygu dros amser. I ddechrau, bu ACC yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â risgiau treth amlwg, a oedd yn gymharol syml i'w datrys. Ar ôl cau'r risgiau hyn trwy wneud gwelliannau system i'r broses ffurflenni treth, trodd ACC ei sylw at feysydd risg mwy cymhleth, gan arwain at sefydlogi nifer yr achosion lle adenillwyd treth rhwng 2020 i 2021 a 2023 i 2024. 

Yn ystod 2024 i 2025, mae nifer yr achosion pan adenillwyd treth wedi codi’n gyffredinol, a hynny gan fod ACC wedi neilltuo adnoddau ychwanegol i ddeall risgiau treth ehangach ac i gymryd camau adfer priodol. O ganlyniad, yn 2024 i 2025 gwelwyd y swm mwyaf o dreth a adferwyd hyd yn hyn.  

Trwy gydol y cyfnod rhwng 2019 i 2020 a 2024 i 2025, mae lefel nifer yr achosion a’r ffurflenni treth wedi aros yn weddol gyson ym mhob chwarter. Bu man frigiadau yn ystod cyfnodau yn union ar ôl newidiadau i’r cyfraddau treth, fel arfer yn gysylltiedig â gwallau gweinyddol a gordaliadau treth anfwriadol.