Neidio i'r prif gynnwy

1. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Mae’r datganiad ystadegol hwn yn crynhoi gwybodaeth wythnosol am brofion coronafeirws (COVID-19) a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am brofion antigenau gan gynnwys dadansoddiad yn ôl gweithwyr allweddol a phreswylwyr lle y mae gweithwyr allweddol yn cael eu cyflogi, ac ynglŷn ag amseroedd prosesu profion antigenau a nifer y profion gwrthgyrff a gynhelir ar gyfer gweithwyr allweddol a phreswylwyr.

Defnyddir dau fath o brawf i brofi am y coronafeirws (COVID-19) ar hyn o bryd, y prawf antigenau a’r prawf gwrthgyrff. Defnyddir y prawf antigenau (swab) i brofi a oes coronafeirws ar unigolion sydd â symptomau. Mae'r math o brawf a brosesir drwy labordai yng Nghymru yn cynnwys 'un swab sych' sy'n cael ei gymryd o gefn y gwddf. Mae'r math o brawf o brosesir drwy labordai yn Lloegr yn cynnwys casglu samplau 'dau swab gwlyb' sy'n cael eu cymryd o'r trwyn a'r gwddf.

Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld os oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio. Mae rhai byrddau iechyd lleol yn defnyddio profion llif unffordd erbyn hyn, sef profion gwrthgyrff drwy bigiad bys. Nid yw samplau’r profion hyn yn cael eu dadansoddi mewn labordy.

 Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y gallent newid. Nid ydynt wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r ddogfen ystadegol hon yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys.

Mae tablau cysylltiedig â’r ddogfen hon i’w cael ar wahân, gan gynnwys yr holl ddata a ddangosir yn y ddogfen hon a data hanesyddol.

Mae eglurhad pellach am y data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y gwahanol ddyddiadau a ffynonellau data i’w gael yn Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Yn dilyn y newidiadau yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan labordai heblaw am rai GIG Cymru, nid oedd dehongliad y data ar gyfer dyrannu profion i wahanol lwybrau yn gweithio’n llwyr mwyach. Rhoddwyd datrysiad dros dro ar waith ar gyfer y cyfnod sy’n cwmpasu’r tair wythnos ddiweddaraf wrth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru weithio ar ddatrysiad parhaol. Er bod y fethodoleg yn gadarn, gallai’r wybodaeth hon gael ei hadolygu.

Prif ganlyniadau

  • Roedd y capasiti i gynnal profion antigenau yn labordai GIG Cymru yn 15,167 ar 20 Medi 2020. Nid yw hyn yn cynnwys y capasiti profi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai preswylwyr o Gymru’n cael eu prosesu.
  • Am 1pm ar 20 Medi 2020, roedd 731,961 o brofion antigenau wedi’u hawdurdodi ar gyfer preswylwyr Cymru. 
  • Cynhaliwyd cyfanswm o 400,942 o brofion antigenau ar weithwyr hanfodol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol yng Nghymru.
  • Erbyn diwedd 20 Medi 2020, roedd 83,273 o brofion gwrthgyrff wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru gyda 9,001 o ganlyniadau positif.

Yn yr wythnos ddiwethaf:

  • cafodd tua 62% o’r profion yr oedd angen eu prosesu’n gyflym ei cwblhau o fewn un diwrnod calendr*
  • cafodd bron i 65% o brofion yn y gymuned a phrofion torfol ac 88% o brofion ysbytai a broseswyd yn labordai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod
  • cafodd bron i 55% o’r profion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod*
  • cafodd llai nag 1% o brofion drwy’r porth sefydliadau a 4% o brofion cartref eu hawdurdodi mewn un diwrnod. (Gweler Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19) i gael rhagor o wybodaeth am gategorïau lleoliadau’r profion)

*Profion y mae gofyn eu prosesu’n gyflym yw’r samplau a gesglir mewn ysbytai ac mewn safleoedd profi cymunedol a phrofi torfol wyneb yn wyneb ac a brosesir yn labordai GIG Cymru, a samplau a gesglir mewn canolfannau profi cymunedol a brosesir mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

Image
Siart cyfanswm y profion a awdurdodwyd am 1pm ar 20 Medi 2020. Bu cynnydd yn nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a labordai y tu allan i GIG Cymru o ganol mis Mehefin i wythnos gyntaf mis Gorffennaf.  Roedd nifer y profion a awdurdodwyd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan tan ganol Awst, a bu cynnydd amlwg dros y pythefnos diwethaf.

Cyfanswm y profion antigen a awdurdodwyd trwy labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru am 1pm ar 20 Medi 2020 (MS Excel)

Mae'r data ar gyfer 20 Medi yn cynnwys canlyniadau a awdurdodwyd cyn 1pm yn unig.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cwblhau eu gwaith i ddwyn ynghyd y profion sydd wedi'u hawdurdodi mewn labordai y tu allan i GIG Cymru (Labordai Goleudy) a’r profion sydd wedi’u prosesu yn labordai GIG Cymru. Mae Siart 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ac mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

  • Y nifer mwyaf o brofion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr oedd ar 11 Medi, pan awdurdodwyd 10,964 o brofion yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru.
  • Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys profion a broseswyd drwy labordai y tu allan i GIG Cymru, sy’n cynnwys samplau preswylwyr o Gymru a gymerwyd mewn canolfannau profi yn Lloegr, canolfannau profi yng Nghymru, profion a archebir trwy’r porth sefydliadau a phecynnau profi gartref.
  • Proseswyd y sampl cyntaf mewn labordy nad yw’n labordy GIG Cymru ar gyfer preswylydd o Gymru ar 24 Ebrill. Cynyddodd nifer y profion ar ôl cyflwyno profion cartref ar 18 Mai.
  • Dechreuodd y profion a broseswyd trwy labordai heblaw rhai GIG Cymru gynyddu tua diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn bennaf oherwydd i drigolion Cymru ddechrau archebu profion trwy'r porth sefydlliadau sydd newydd ddod ar gael.
Tabl 1: Nifer wythnosol y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru ar ddiwedd 20 Medi 2020
Wythnos yn dechrau Nifer y profion
22 Mehefin 2020 34,859
29 Mehefin 2020 37,551
6 Gorffennaf 2020 39,237
13 Gorffennaf 2020 38,602
20 Gorffennaf 2020 37,782
27 Gorffennaf 2020 41,217
3 Awst 2020 40,151
10 Awst 2020 39,886
17 Awst 2020 36,174
24 Awst 2020 35,498
31 Awst 2020 45,304
7 Medi 2020 64,167
14 Medi 2020 61,390

Ffynhonnell: Dangoswrdd gwyliadwraeth sydyn Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae nifer y profion a awdurdodwyd yn ystod yr wythnos ddiwethaf ychydig yn llai na’r wythnos flaenorol, fodd bynnag, dim ond canlyniadau hyd at 1pm sydd wedi cael eu cynnwys ddydd Sul 20 Medi. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn diweddaru’r data hyn yn ddyddiol a bydd nifer yr wythnos ddiweddaraf yn cynyddu pan gaiff profion a awdurdodwyd ar ôl 1pm eu cynnwys. 

Mae’r data hyn yn cael eu tynnu o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth sydyn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 21 Medi am 2pm. Nid yw’r profion hyn yn cynnwys canlyniadau nad oeddynt yn bositif nac yn negatif, er enghraifft canlyniadau amhenodol a gallant fod yn wahanol i’r cyfansymiau a gyflwynir mewn tablau eraill lle y mae canlyniadau amhenodol yn cael eu cynnwys. Yn yr wythnos ddiweddaraf, dim ond profion hyd at 1pm ar y dydd Sul sydd wedi’u cynnwys. Mae’r data hyn cael eu diweddaru’n ddyddiol a’u cyflwyno ar ddangosfwrdd gwyliadwraeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.

2. Amseroedd dychwelyd ar gyfer profion antigenau

Mae’r ffigurau a ddangosir yn mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi. Nid yw’n dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y gwahanol ddulliau profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf. Mae angen i brofion cartref gael eu postio a’u cludo i’r labordy. Gellir cynnal profion sgrinio mewn lleoliadau megis cartrefi gofal mewn sypiau o brofion ar gyfer gwahanol shifftiau staff cyn dychwelyd y profion i’r cludwr. Gall y dulliau hyn effeithio ar amser dychwelyd y prawf. Caiff profion sgrinio cartrefi gofal a brosesir gan labordai GIG Cymru eu cynnwys yn y ffigurau sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig drwy labordai ategol.

Rydym wedi rhannu’r profion cymunedol yn ôl y gwahanol lwybrau, gan adrodd ar brofion a gynhelir oherwydd angen clinigol ar wahân i brofion a gynhelir er mwyn sgrinio unigolion sydd wedi’u nodi fel bod yn asymptomatig. Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn fod yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach.  Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yn ein hesboniad gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei gynnwys ym mhob categori lleoliad: Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19).

Yn flaenorol, byddai’r rhan fwyaf o’r samplau a gasglwyd mewn canolfannau profi rhanbarthol yn cael eu prosesu yn  labordai GIG Cymru, fodd bynnag, mae nifer o’r canolfannau hyn bellach yn defnyddio labordai heblaw rhai GIG Cymru (sy’n cael eu galw’n labordai goleudy).

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 20 Medi 2020. Hyd yn hyn, awdurdodwyd 61.1% o brofion torfol a chymunedol a gynhelir wyneb yn wyneb, 25.8% o brofion ategol, a 81.3% o brofion ysbyty o fewn un diwrnod.

Cyfran y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 20 Medi 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 20 Medi 2020:

  • awdurdodwyd 91,859 o brofion fel rhan o raglen o brofion ategol i weithwyr allweddol asymptomatig, gyda 25.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr a 53.5% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod calendr
  • awdurdodwyd 75,417 o brofion cymunedol a phrofion torfol, gyda 61.1% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod a 85.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod calendr
  • awdurdodwyd 97,946 brofion mewn ysbytai, gyda 81.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 96.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
Image
Siart yn dangos cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020. Mae cyfran y profion mewn ysbytai a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr wedi aros yn gymharol sefydlog. Mae'r amser dychwelyd ar gyfer profion cymunedol a phrofion torfol wyneb yn wyneb wedi cynyddu yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae profion sgrinio pobl asymptomatig drwy labordai ategol wedi gostwng yn ystod y pythefnos diwethaf.

Cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru erbyn diwedd 20 Medi 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (yr wythnos yn dechrau 14 Medi 2020):

  • awdurdodwyd 3,994 o brofion fel rhan o raglen o brofion ategol i sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig. Cafodd 21.9% o’r canlyniadau eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n ostyngiad o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 12,312 o brofion fel rhan o’r rhaglen profi yn y gymuned a phrofi torfol, gyda 64.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n ostyngiad o’i gymharu â’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 5,927 o brofion mewn ysbytai, gyda 87.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n ostyngiad o’i gymharu â’r wythnos flaenorol.

Mae nifer y profion a gynhaliwyd fel rhan o’r rhaglen i brofi gweithwyr allweddol a thrigolion asymptomatig drwy labordai ategol wedi gostwng yn y tair wythnos diwethaf. Mae hyn yn cyd-daro â newid yn y polisi ar gyfer cynnal profion mewn cartrefi gofal, o brofi bob wythnos i brofi bob pythefnos ac eithrio mewn un bwrdd iechyd lleol.

Profion ategol yn bennaf yw’r profion a gynhelir fel rhan o’r rhaglen i sgrinio gweithwyr allweddol a thrigolion asymptomatig ac a awdurdodir yn labordai GIG Cymru. Fodd bynnag, gallai cyfran fach ohonynt fod yn brofion a gynhelir ar weithwyr allweddol wyneb yn wyneb mewn safleoedd profi. Profion ategol yw pan gaiff sampl ei gasglu mewn lleoliad gwahanol i’r ganolfan brofi, er enghraifft cartref gofal. Ar ôl i’r sampl gael ei gymryd, caiff ei ddanfon gan gludwr i labordy i'w brosesu. Gall cartrefi gofal gynnal sypiau o brofion ar gyfer gwahanol sifftiau staff cyn i'r cludwr ddychwelyd y profion. Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf ac mae nifer mawr o brofion sydd yn y categorïau hyn yn rhai o gartrefi gofal.

Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn fod yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach.  Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Mae mwyafrif y profion ar gyfer rhaglenni sgrinio gweithwyr allweddol a brosesir yn labordai GIG Cymru yn rhai ar gyfer cartrefi gofal (93%). Yn yr wythnos ddiweddaraf, ar gyfer staff cartrefi gofal yr oedd 84% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr allweddol asymptomatig. Caiff dadansoddiad ei ddarparu yn y tablau data cysylltiedig.

Cyn 22 Mehefin, nid oedd modd rhannu’r data rhwng rhaglenni sgrinio ar alw a rhaglenni sgrinio gweithwyr allweddol. Caiff data cyfunol ar gyfer profion cymunedol cyn 22 Mehefin ac amseroedd dychwelyd yr wythnos flaenorol eu cynnwys yn y tablau data cysylltiedig.

Yn dilyn y newidiadau yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan labordai heblaw am rai GIG Cymru, nid oedd dehongliad y data ar gyfer dyrannu profion i wahanol lwybrau yn gweithio’n llwyr mwyach. Rhoddwyd datrysiad dros dro ar waith ar gyfer y cyfnod sy’n cwmpasu’r tair wythnos ddiweddaraf wrth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru weithio ar ddatrysiad parhaol. Er bod y fethodoleg yn gadarn, gallai’r wybodaeth hon gael ei hadolygu.

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 20 Medi 2020. Dychwelwyd 25.5% o brofion porthol sefydliadau o fewn un diwrnod, dychwelwyd 21.7% o'r profion cartref mewn un diwrnod a dychwelwyd 85.2% o’r profion cymunedol mewn un diwrnod.

Cyfran gronnol y profion antigenau a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 20 Medi 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 20 Medi 2020:

  • awdurdodwyd 179,694 o brofion drwy’r porth sefydliadau, gyda 25.5% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 51.7% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
  • awdurdodwyd 64,335 brofion cartref, gyda 21.7% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 57.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
  • awdurdodwyd 118,206 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, gyda 85.2% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 95.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
Image
Siart yn dangos cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai heblaw rhai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020.	Mae cyfran y profion cymunedol a thorfol a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr wedi gostwng dros y pythefnos diwethaf i 55%; yn yr wythnosau blaenorol roedd hyn dros 90%. Mae cyfran y profion cartref a phrofion y porth sefydliadau a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr yn parhau'n isel ers 3 Awst.

Cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai heblaw rhai GIG Cymru erbyn diwedd 20 Medi 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (yr wythnos yn dechrau 14 Medi 2020):

  • awdurdodwyd 16,337 o brofion drwy’r porth sefydliadau, gyda 0.7% yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n is nag yn yr wythnosau blaenorol
  • awdurdodwyd 6,353 o brofion cartref, gyda 4.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr, sy’n uwch nag yn yr wythnosau blaenorol ond yn dal i fod yn un o'r amseroedd troi isaf ar gyfer profion cartref ers diwedd mis Ebrill
  • awdurdodwyd 25,549 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, gyda 55.0% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod calendr. Mae hyn 32 pwynt canran yn is na'r wythnos flaenorol.

Cafodd y gostyngiad o 27 Gorffennaf ymlaen yn yr amseroedd dychwelyd ar gyfer profion cartref a phrofion drwy’r porth sefydliadau y tu allan i GIG Cymru ei achosi wrth i’r galw am sgrinio fwy nag unwaith drwy’r DU fynd yn uwch, dros dro, na chyfanswm capasiti’r labordai Goleudy. Arweiniodd hyn at ôl-groniad dros dro yn y labordai, ac effeithiodd hynny yn ei dro ar amseroedd prosesu’r profion drwy’r sianeli hyn. 

Mae nifer y profion cymunedol a brosesir gan labordai heblaw rhai GIG Cymru wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda mwy o ganolfannau profi yng Nghymru yn anfon samplau i'r labordai hyn i'w prosesu yn hytrach nag i labordai GIG Cymru. Ar yr un pryd, bu cynnydd hefyd yn y galw am brofion gan breswylwyr yng Nghymru ac awdurdodwyd 25,549 o samplau o ganolfannau profi yn yr wythnos a oedd yn dechrau 14 Medi o’i gymharu â 10,603 yn ystod yr wythnos a oedd yn dechrau 24 Awst.

3. Profion antigenau i weithwyr hanfodol a phreswylwyr

Tabl 2: Cyfanswm y profion antigenau a'r canlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr erbyn diwedd y dydd ar 20 Medi 2020
Categori Profion positif Profion negatif Nifer y profion
Gweithiwr allweddol: cartref gofal 1,400 111,867 113,267
Preswylydd: cartref gofal 1,413 49,498 50,911
Preswylydd neu weithiwr allweddol: cartref gofal 413 181,544 181,957
Cyfanswm: cartrefi gofal 3,226 342,909 346,135
Gweithiwr allweddol: gofal cartref 0 77 77
Cyfanswm: gofal cartref 0 77 77
Gweithiwr allweddol: addysg 32 1,194 1,226
Preswylydd: addysg 8 1,117 1,125
Preswylydd neu weithiwr allweddol: addysg * * 12
Cyfanswm: addysg 42 2,321 2,363
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys 156 1,141 1,297
Cyfanswm: gwasanaethau brys 156 1,141 1,297
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd 6,476 29,576 36,052
Cyfanswn: gofal iechyd 6,476 29,576 36,052
Gweithiwr allweddol: hostel neu dŷ â chymorth  20 1,082 1,102
Preswylydd: hostel neu dŷ â chymorth 94 4,967 5,061
Preswylydd neu weithiwr allweddol: hostel neu dŷ â cymorth 11 25 36
Cyfanswm: hostel neu dŷ â chymorth 125 6,074 6,199
Gweithiwr allweddol: carchar neu ganolfan gadw 25 159 184
Preswylydd: carchar neu ganolfan gadw * * 42
Preswylydd neu weithiwr allweddol: carchar neu ganolfan gadw 109 519 628
Cyfanswm: carchar neu ganolfan gadw 136 718 854
Gweithiwr allweddol: arall neu anhysbys 557 6,732 7,289
Preswylydd: arall neu anhysbys 102 574 676
Cyfanswm: arall neu anhysbys 659 7,306 7,965

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

*Mae'r eitem ddata yn cael ei hatal er mwyn osgoi datgelu.

Mae Tabl 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yng Nghymru sydd wedi'u hawdurdodi yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru.

Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwelliannau i'r categori gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yn eu data. Mae hyn wedi arwain at ddefnyddio diwygiadau yn y data a gwahanol gategorïau o gymharu â chyhoeddiadau blaenorol.

Cafodd y porth cartrefi gofal ei ailstrwythuro fel y porth sefydliadol ddydd Gwener 28 Awst i gynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau – nid cartrefi gofal yn unig. Cyn hynny, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio’r categori lleoliad hwn i nodi profion ar gyfer gweithwyr cartrefi gofal a phreswylwyr, fodd bynnag nid yw hyn yn bosibl ers iddo gael ei ailstrwythuro fel y porth sefydliadol. O 28 Awst ymlaen, defnyddiwyd y maes meddyg sy'n gofyn i nodi profion cartrefi gofal drwy Borth Trefniannol y DU, mae hyn yn ddibynnol ar ddefnyddio’r codau cywir, fel arall bydd y profion hyn yn cael eu cynnwys yn y categori gweithiwr allweddol neu breswylydd: arall neu heb ei nodi.

  • Cynhaliwyd tua 86% o’r holl brofion ar weithwyr hanfodol ar breswylwyr cartrefi gofal neu weithwyr cartrefi gofal.
  • Cafwyd canlyniad positif i 18% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr gofal iechyd.

Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol yn dibynnu ar y categori gweithwyr hanfodol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl. Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.

Mae modd gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai GIG Cymru; fodd bynnag, nid yw’n bosibl gwneud hyn ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru. O ran profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, defnyddiwyd y lleoliad i nodi gweithwyr allweddol a phreswylwyr. Er enghraifft, mae profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ar samplau a gasglwyd mewn cartref gofal wedi’u cynnwys yn y categori ‘preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal’ yn Nhabl 1.

Yn dilyn y newidiadau yn y data ffynhonnell a ddarparwyd gan labordai heblaw am rai GIG Cymru, nid oedd dehongliad y data ar gyfer dyrannu profion i wahanol lwybrau yn gweithio’n llwyr mwyach. Effeithiodd hyn ar y broses o nodi rhai gweithwyr allweddol a phreswylwyr, yn arbennig staff a phreswylwyr cartrefi gofal trwy’r porth sefydliadau. Rhoddwyd datrysiad dros dro ar waith ar gyfer y cyfnod sy’n cwmpasu’r tair wythnos ddiweddaraf wrth i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru weithio ar ddatrysiad parhaol. Er bod y fethodoleg yn gadarn, gallai’r wybodaeth hon gael ei hadolygu.

4. Profion gwrthgyrff i weithwyr hanfodol a phreswylwyr

Tabl 3: Cyfanswm y profion gwrthgyrff a'r canlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr erbyn diwedd y dydd ar 20 September 2020
Categori Profion positif Profion negatif Profion amhendant Nifer y profion
Preswylydd neu weithiwr allweddol: cartref gofal 40 218 9 267
Preswylydd neu weithiwr allweddol: addysg 1,127 19,113 17 20,257
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys 85 429 6 520
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd 5,810 40,748 19 46,577
Preswylydd neu weithiwr allweddol: arall neu anhysbys 88 1,149 6 1,243
Preswylydd neu weithiwr allweddol: carchar neu ganolfan gadw 9 * * 63
Preswylydd: hostel neu dŷ â chymorth * * * *
Aelod o gartref gweithiwr allweddol * * * 7
Heb ei nodi 1,841 12,419 75 14,335

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

* Mae'r eitem ddata yn cael ei hatal er mwyn osgoi datgelu.

Mae Tabl 2 yn dangos nifer y profion gwrthgyrff a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion llif unffordd.

Ers i'r profion ddechrau hyd at ddiwedd 20 Medi 2020, mae 20,257 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol neu breswylwyr mewn sefydliad addysgol a 46,577 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r strategaeth samplu presennol o flaenoriaethu profion gwrthgyrff ar gyfer y gweithwyr allweddol a'r preswylwyr hyn. Mae'r data hyn yn cynnwys 12,164 o brofion llif unffordd.

Prawf llif unffordd yw'r prawf drwy bigiad bys sy'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd gan rai byrddau iechyd lleol. Gweddill y profion gwrthgorff yw'r prawf assay labordy lle mae sampl o waed yn cael ei brofi mewn labordy.

Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn cynnig ciplun o’r sefyllfa a bydd y strategaeth samplu yn dylanwadu'n fawr arno ar yr eiliad honno. Ar hyn o bryd, dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19) ar ein gwefan.

Os yw canlyniad prawf gwrthgyrff yn amwys, mae'n golygu bod y canlyniad yn amhendant.

5. Cefndir

Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r datganiad ystadegol hwn yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys.

Ers 13 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru. Arferwyd adrodd ar y rhain ar wahân . Mae Siart 1 a Thabl 1 a 2 yn cynnwys profion a broseswyd ar gyfer preswylwyr Cymru yn labordai GIG Cymru a labordai nad ydynt yn rhai GIG Cymru (Labordai Goleudy). Mae Siart 2 a 3 yn dangos profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru yn unig a mae Siart 4 a 5 yn dangos profion a awdurdodwyd mewn labordai nad ydynt yn rhai GIG Cymru yn unig. Mae Tabl 2 yn dangos profion gwrthgyrff a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion llif unffordd.

Mae’r data yn y datganiad hwn yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi. Mae pob tabl yn y daenlen Data Agored yn cynnwys manylion yr amserlen adrodd.

Mae eglurhad pellach am y data a ddefnyddiwyd, gan gynnwys y gwahanol ddyddiadau a ffynonellau data i’w gael yn Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld a yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld a oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio. Mae rhai byrddau iechyd lleol yn defnyddio profion llif unffordd erbyn hyn, sef profion gwrthgyrff drwy bigiad bys. Nid yw samplau’r profion hyn yn cael eu dadansoddi mewn labordy.

Dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael ar hyn o bryd gyda phrofion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer sampl o staff ysgolion sydd wedi gweithio o'r blaen mewn hybiau addysg a gweithwyr gofal iechyd. Gellir gweld esboniad pellach o brofion gwrthgyrff yng Nghymru ar ein tudalennau polisi: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 20 Medi.

6. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi.

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Perthnasedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:

  • deall effaith pandemig COVID-19
  • cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
  • cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU

Cywirdeb

Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).

Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dileu achosion positif sydd wedi’u dyblygu ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol.

Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffigurau pennawd a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sampl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae’n cynnwys Taenlen Dogfen Agored fel y gall defnyddwyr gael mynediad uniongyrchol i’r data sy’n sail i’r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Mae’r data ar gyfer Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar wefan GOV.UK.

Mae’r data ar gyfer yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar wefan GOV.SCOT.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ddyddiol am brofion ac achosion positif.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9.30am bob dydd Mercher. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 30 Medi.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

7. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Matthew Curds
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 150/2020