Neidio i'r prif gynnwy

1. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y gallent newid. Nid ydynt wedi bod yn destun yr un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Rydym yn cyhoeddi’r data hyn i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion. Mae’r ddogfen ystadegol hon yn datblygu’n barhaus ac rydym yn gwerthfawrogi cael adborth er mwyn gwella ei gynnwys.

Mae tablau cysylltiedig â’r ddogfen hon i’w cael ar wahân, gan gynnwys yr holl ddata a ddangosir yn y ddogfen hon a data hanesyddol.

Prif ganlyniadau

  • Roedd y capasiti i gynnal profion antigenau yn labordai GIG Cymru yn 15,167 ar 31 Awst 2020. Nid yw hyn yn cynnwys y capasiti profi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai preswylwyr o Gymru’n cael eu prosesu.
  • Am 1pm ar 31 Awst 2020, roedd 561,920 o brofion antigenau wedi’u hawdurdodi ar gyfer preswylwyr Cymru. 
  • Cynhaliwyd cyfanswm o 3332,122 o brofion antigenau ar weithwyr hanfodol a phreswylwyr lle cyflogir gweithwyr hanfodol yng Nghymru.
  • Yn yr wythnos ddiwethaf, cafodd tua 91% o’r profion yr oedd angen eu prosesu’n gyflym ei cwblhau o fewn un diwrnod calendr*.
  • Yn yr wythnos ddiwethaf, cafodd bron i 70% o brofion yn y gymuned a phrofion torfol ac 92% o brofion ysbytai a broseswyd yn labordai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod*.
  • Yn yr wythnos ddiwethaf, cafodd bron i 97% o’r profion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru eu hawdurdodi mewn un diwrnod*.
  • Yn yr wythnos ddiwethaf, cafodd bron i 16% o brofion drwy’r porth sefydliadau a 8% o brofion cartref eu hawdurdodi mewn un diwrnod. (Gweler Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19) i gael rhagor o wybodaeth am gategorïau lleoliadau’r profion).
  • Erbyn diwedd 30 Awst 2020, roedd 77,347 o brofion gwrthgyrff wedi'u hawdurdodi ar gyfer trigolion Cymru gyda 8,332 o ganlyniadau positif.  

*Profion y mae gofyn eu prosesu’n gyflym yw’r samplau a gesglir mewn ysbytai ac mewn safleoedd profi cymunedol a phrofi torfol wyneb yn wyneb ac a brosesir yn labordai GIG Cymru, a samplau a gesglir mewn canolfannau profi cymunedol a brosesir mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

Image
Siart cyfanswm y profion a awdurdodwyd ar ddiwedd 31 Awst 2020. Bu cynnydd yn nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a labordai y tu allan i GIG Cymru o ganol mis Mehefin i wythnos gyntaf mis Gorffennaf. Mae nifer y profion a awdurdodwyd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers hynny, a bu gostyngiad yn ddiweddar yn nifer y profio a awdurdodwyd.

Cyfanswm y profion antigen a awdurdodwyd trwy labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru ar ddiwedd 30 Awst 2020 (MS Excel)

Mae'r data ar gyfer 31 Awst yn cynnwys canlyniadau a awdurdodwyd cyn 1pm yn unig.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cwblhau eu gwaith i ddwyn ynghyd y profion sydd wedi'u hawdurdodi mewn labordai y tu allan i GIG Cymru (Labordai Goleudy) a’r profion sydd wedi’u prosesu yn labordai GIG Cymru. Mae Siart 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ac mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru.

  • Bu cynnydd yn nifer y profion a awdurdodwyd rhwng canol mis Mehefin a dechrau mis Gorffennaf. Bu’r nifer yn weddol sefydlog ers hynny gyda gostyngiad bach yng nghanol mis Awst.
  • Y nifer mwyaf o brofion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr oedd ar 9 Awst, pan awdurdodwyd 8,103 o brofion yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru.
  • Mae’r ffigurau hyn yn cynnwys profion a broseswyd drwy labordai y tu allan i GIG Cymru, sy’n cynnwys samplau preswylwyr o Gymru a gymerwyd mewn canolfannau profi yn Lloegr, canolfannau profi yng Nghymru, profion a archebir trwy’r porth sefydliadau a phecynnau profi gartref.
  • Proseswyd y sampl cyntaf mewn labordy nad yw’n labordy GIG Cymru ar gyfer preswylydd o Gymru ar 24 Ebrill. Cynyddodd nifer y profion ar ôl cyflwyno profion cartref ar 18 Mai.
  • Dechreuodd y profion a broseswyd trwy labordai heblaw rhai GIG Cymru gynyddu tua diwedd mis Mehefin. Mae hyn yn bennaf oherwydd i drigolion Cymru ddechrau archebu profion trwy'r porth sefydlliadau sydd newydd ddod ar gael.

2. Amseroedd dychwelyd ar gyfer profion antigenau

Mae’r ffigurau a ddangosir yn mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi. Nid yw’n dangos pa mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.

Rhennir data ar yr amser a gymerir i dderbyn canlyniad prawf COVID-19 yn ôl y gwahanol ddulliau profi, gan y bydd hyn yn cael effaith ar yr amser a gymerir i brosesu’r prawf. Mae angen i brofion cartref gael eu postio a’u cludo i’r labordy. Gellir cynnal profion sgrinio mewn lleoliadau megis cartrefi gofal mewn sypiau o brofion ar gyfer gwahanol shifftiau staff cyn dychwelyd y profion i’r cludwr. Gall y dulliau hyn effeithio ar amser dychwelyd y prawf. Caiff profion sgrinio cartrefi gofal a brosesir gan labordai GIG Cymru eu cynnwys yn y ffigurau sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig drwy labordai ategol.

Rydym wedi rhannu’r profion cymunedol yn ô l y gwahanol lwybrau, gan adrodd ar brofion a gynhelir oherwydd angen clinigol ar wahâ n i brofion a gynhelir er mwyn sgrinio unigolion sydd wedi’u nodi fel bod yn asymptomatig. Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn fod yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach.  Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yn ein hesboniad gan gynnwys yr hyn sy’n cael ei gynnwys ym mhob categori lleoliad: Deall data ar brofion y coronafeirws (COVID-19).

Yn flaenorol, byddai’r rhan fwyaf o’r samplau a gasglwyd mewn canolfannau profi rhanbarthol yn cael eu prosesu yn  labordai GIG Cymru, fodd bynnag, mae nifer o’r canolfannau hyn bellach yn defnyddio labordai heblaw rhai GIG Cymru (sy’n cael eu galw’n labordai goleudy). 

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 30 Awst 2020. Hyd yn hyn, awdurdodwyd 57.6% o brofion torfol a chymunedol a gynhelir wyneb yn wyneb, 25.4% o brofion ategol, a 79.8% o brofion ysbyty o fewn un diwrnod.

Cyfran y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 30 Awst 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 30 Awst 2020:

  • awdurdodwyd 82,630 o brofion fel rhan o raglen o brofion ategol i weithwyr allweddol asymptomatig, gyda 25.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr a 53.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod calendr
  • awdurdodwyd 48,065 o brofion cymunedol a phrofion torfol, gyda 57.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod a 81.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod calendr
  • awdurdodwyd 83,135 brofion mewn ysbytai, gyda 79.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 96.7% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
Image
Siart yn dangos cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020. Mae cyfran y profion mewn ysbytai a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr wedi aros yn gymharol sefydlog. Mae'r amser dychwelyd ar gyfer profion yn y gymuned a phrofion torfol wyneb yn wyneb wedi cynyddu yn yr wythnos ddiwethaf yn dilyn gostyngiad yn y pedair wythnos flaenorol.

Cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (yr wythnos yn dechrau 24 Awst 2020):

  • awdurdodwyd 2,290 o brofion fel rhan o raglen o brofion ategol i sgrinio gweithwyr allweddol asymptomatig. Cafodd 41.4% o’r canlyniadau eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gynnydd o’i gymharu â ’r wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 2,896 o brofion fel rhan o’r rhaglen profi yn y gymuned a phrofi torfol, gyda 69.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n uwch nag yn yr wythnos flaenorol
  • awdurdodwyd 4,533 o brofion mewn ysbytai, gyda 92.4% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n gynnydd o’i gymharu â ’r wythnos flaenorol.

Mae nifer y profion a gynhaliwyd fel rhan o’r rhaglen i brofi gweithwyr allweddol a thrigolion asymptomatig drwy labordai ategol wedi gostwng yn y pythefnos diwethaf. Mae hyn yn cyd-daro â newid yn y polisi ar gyfer cynnal profion mewn cartrefi gofal, o brofi bob wythnos i brofi bob pythefnos ac eithrio mewn un bwrdd iechyd lleol.

Profion ategol yn bennaf yw’r profion a gynhelir fel rhan o’r rhaglen i sgrinio gweithwyr allweddol a thrigolion asymptomatig ac a awdurdodir yn labordai GIG Cymru. Fodd bynnag, gallai cyfran fach ohonynt fod yn brofion a gynhelir ar weithwyr allweddol wyneb yn wyneb mewn safleoedd profi. Profion ategol yw pan gaiff sampl ei gasglu mewn lleoliad gwahanol i’r ganolfan brofi, er enghraifft cartref gofal. Ar ôl i’r sampl gael ei gymryd, caiff ei ddanfon gan gludwr i labordy i'w brosesu. Gall cartrefi gofal gynnal sypiau o brofion ar gyfer gwahanol sifftiau staff cyn i'r cludwr ddychwelyd y profion. Gall y dulliau hyn gael effaith ar amser dychwelyd y prawf ac mae nifer mawr o brofion sydd yn y categorïau hyn yn rhai o gartrefi gofal.

Er bod y term 'ategol' yn cael ei ddefnyddio, gallai rhai o’r profion i sgrinio gweithwyr allweddol neu breswylwyr asymptomatig a gynhwysir yn y categori hwn fod yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel rhan o’r profi torfol a chymunedol ehangach.  Mae angen gwaith pellach i ddeall y gwahaniaeth hwn yn llawn a gallai arwain at rywfaint o ailddosbarthu profion rhwng categorïau mewn datganiadau yn y dyfodol.

Mae mwyafrif y profion ar gyfer rhaglenni sgrinio gweithwyr allweddol eu prosesu mewn labordai GIG Cymru yn rhai ar gyfer cartrefi gofal (94%). Caiff dadansoddiad ei ddarparu yn y tablau data cysylltiedig.

Cyn 22 Mehefin, nid oedd modd rhannu’r data rhwng rhaglenni sgrinio ar alw a rhaglenni sgrinio gweithwyr allweddol. Caiff data cyfunol ar gyfer profion cymunedol cyn 22 Mehefin ac amseroedd dychwelyd yr wythnos flaenorol eu cynnwys yn y tablau data cysylltiedig.

Image
Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 30 Awst 2020. Dychwelwyd 34.6% o brofion porthol sefydliadau o fewn un diwrnod, dychwelwyd 27.9% o'r profion cartref mewn un diwrnod a dychwelwyd 95.6% o’r profion cymunedol mewn un diwrnod.

Cyfran gronnol y profion antigenau a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod ar ddiwedd 30 Awst 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 30 Awst 2020:

  • awdurdodwyd 129,931 o brofion drwy’r porth sefydliadau, gyda 34.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 65.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
  • awdurdodwyd 43,716 brofion cartref, gyda 27.9% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 68.8% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
  • awdurdodwyd 55,005 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, gyda 95.6% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod a 99.2% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod
Image
Siart yn dangos cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai heblaw rhai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020. Mae cyfran y profion cymunedol a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr wedi aros yn gymharol sefydlog. Mae profion cartref a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr hefyd wedi bod yn sefydlog ar y cyfan ers 29 Mehefin, nes y bu gostyngiad yn yr wythnosau diwethaf, ac mae cyfran y profion drwy’r porth sefydliadol a awdurdodwyd o fewn un diwrnod calendr wedi gostwng yn sylweddo

Cyfran y profion antigenau a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr drwy labordai heblaw rhai GIG Cymru o 22 Mehefin 2020 (MS Excel)

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf (yr wythnos yn dechrau 24 Awst 2020):

  • awdurdodwyd 11,923 o brofion drwy’r porth sefydliadau, gyda 15.5% yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod, sy’n uwch nag yn yr wythnosau blaenorol
  • awdurdodwyd 3,716 o brofion cartref, gyda 8.3% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn un diwrnod calendr,  sy’n is nag yn yr wythnosau blaenorol
  • awdurdodwyd 10,428 o brofion cymunedol a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, gyda 96.7% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn diwrnod calendr.

Cafodd y gostyngiad o 27 Gorffennaf ymlaen yn yr amseroedd dychwelyd ar gyfer profion cartref a phrofion drwy’r porth sefydliadau y tu allan i GIG Cymru ei achosi wrth i’r galw am sgrinio fwy nag unwaith drwy’r DU fynd yn uwch, dros dro, na chyfanswm capasiti’r labordai Goleudy. Arweiniodd hyn at ôl-groniad dros dro yn y labordai, ac effeithiodd hynny yn ei dro ar amseroedd prosesu’r profion drwy’r sianeli hyn. 

Mae nifer y profion cymunedol a brosesir gan labordai heblaw rhai GIG Cymru wedi cynyddu yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda mwy o ganolfannau profi yng Nghymru yn anfon samplau i'r labordai hyn i'w prosesu yn hytrach nag i labordai GIG Cymru.

3. Profion antigenau i weithwyr hanfodol a phreswylwyr

Tabl 1: Cyfanswm y profion antigenau a'r canlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr erbyn diwedd y dydd ar 30 Awst 2020
Categori Profion positif Profion negatif  Nifer y profion
Gweithiwr allweddol: cartref gofal 1,371 107,858 109,229
Preswylydd: cartref gofal 1,380 43,863 45,243
Preswylydd neu weithiwr allweddol: cartref gofal 186 129,745 129,931
Cyfanswm: cartrefi gofal 2,937 281,466 284,403
Gweithiwr allweddol: gofal cartref 0 * *
Cyfanswm: gofal cartref 0 * *
Gweithiwr allweddol: addysg 23 844 867
Preswylydd: addysg * 357 359
Preswylydd neu weithiwr allweddol: addysg * 10 12
Cyfanswm: addysg 27 1,211 1,238
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys 149 1,023 1,172
Cyfanswm: gwasanaethau brys 149 1,023 1,172
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd 6,404 26,287 32,691
Cyfanswn: gofal iechyd 6,404 26,287 32,691
Gweithiwr allweddol: hostel neu dŷ â chymorth  19 1,028 1,047
Preswylydd: hostel neu dŷ â chymorth 76 3,844 3,920
Preswylydd neu weithiwr allweddol: hostel neu dŷ â cymorth 11 25 36
Cyfanswm: hostel neu dŷ â chymorth 106 4,897 5,003
Gweithiwr allweddol: carchar neu ganolfan gadw 25 137 162
Preswylydd: carchar neu ganolfan gadw * 38 40
Preswylydd neu weithiwr allweddol: carchar neu ganolfan gadw 109 480 589
Cyfanswm: carchar neu ganolfan gadw 136 655 791
Gweithiwr allweddol: arall neu anhysbys 503 5,645 6,148
Preswylydd: arall neu anhysbys 102 574 676
Cyfanswm: arall neu anhysbys 605 6,219 6,824

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

*Mae'r eitem ddata yn cael ei hatal er mwyn osgoi datgelu.

Mae Tabl 1 yn dangos nifer y profion a awdurdodwyd ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yng Nghymru sydd wedi'u hawdurdodi yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw rhai GIG Cymru.

Ar hyn o bryd mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gwneud gwelliannau i'r categori gweithwyr hanfodol a phreswylwyr yn eu data. Mae hyn wedi arwain at ddefnyddio diwygiadau yn y data a gwahanol gategorïau o gymharu â chyhoeddiadau blaenorol.

  • Cynhaliwyd tua 86% o’r holl brofion ar weithwyr hanfodol ar breswylwyr cartrefi gofal neu weithwyr cartrefi gofal.
  • Cafwyd canlyniad positif i 20% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr gofal iechyd.

Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr hanfodol yn dibynnu ar y categori gweithwyr hanfodol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl. Ar hyn o bryd nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer samplau a broseswyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ac maent wedi'u cynnwys gyda'i gilydd yn y tabl.

Mae modd gwahaniaethu rhwng gweithwyr allweddol a phreswylwyr ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai GIG Cymru; fodd bynnag, nid yw’n bosibl gwneud hyn ar gyfer profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru. O ran profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru, defnyddiwyd y lleoliad i nodi gweithwyr allweddol a phreswylwyr. Er enghraifft, mae profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw rhai GIG Cymru ar samplau a gasglwyd mewn cartref gofal wedi’u cynnwys yn y categori ‘preswylydd neu weithiwr allweddol: mewn cartref gofal’ yn Nhabl 1.

4. Profion gwrthgyrff i weithwyr hanfodol a phreswylwyr

Tabl 2: Cyfanswm y profion gwrthgyrff a'r canlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a phreswylwyr erbyn diwedd y dydd ar 30 Awst 2020
Categori Profion positif Profion negatif Profion amhendant Nifer y profion
Preswylydd neu weithiwr allweddol: cartref gofal 39 214 9 262
Preswylydd neu weithiwr allweddol: addysg 1,117 18,914 129 20,160
Gweithiwr allweddol: gwasanaethau brys 65 360 6 431
Gweithiwr allweddol: gofal iechyd 5,511 38,447 119 43,771
Preswylydd neu weithiwr allweddol: arall neu anhysbys 69 990 6 691
Preswylydd neu weithiwr allweddol: carchar neu ganolfan gadw * * * 16
Preswylydd: hostel neu dŷ â chymorth * * * *
Aelod o gartref gweithiwr allweddol * * * 7
Heb ei nodi 1,527 9,833 75 11,754

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

*Mae'r eitem ddata yn cael ei hatal er mwyn osgoi datgelu.

Mae Tabl 2 yn dangos nifer y profion gwrthgyrff a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru a phrofion llif unffordd.

Ers i'r profion ddechrau hyd at ddiwedd 30 Awst 2020, mae 20,160 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol neu breswylwyr mewn sefydliad addysgol a 43,771 o brofion gwrthgyrff wedi’u cynnal ar weithwyr allweddol gofal iechyd. Mae hyn yn adlewyrchu'r strategaeth samplu presennol o flaenoriaethu profion gwrthgyrff ar gyfer y gweithwyr allweddol a'r preswylwyr hyn. Mae'r data hyn yn cynnwys 11,157 o brofion llif unffordd.

Mae nifer y profion a'r canlyniadau yn cynnig ciplun o’r sefyllfa a bydd y strategaeth samplu yn dylanwadu'n fawr arno ar yr eiliad honno. Ar hyn o bryd, dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Profion gwrthgyrff: coronafeirws (COVID-19) ar ein gwefan.

Os yw canlyniad prawf gwrthgyrff yn amwys, mae'n golygu bod y canlyniad yn amhendant.

5. Cefndir

Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol, preswylwyr ac amseroldeb y profion.

O 13 Gorffennaf, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfuno profion a chanlyniadau a broseswyd yn labordai GIG Cymru a labordai heblaw GIG Cymru, a adroddwyd yn flaenorol ar wahân. Mae Siart 1 a Thabl 1 yn cynnwys profion a broseswyd ar gyfer preswylwyr Cymru trwy labordai GIG Cymru a labordai nad ydynt yn GIG Cymru (Lighthouse Labs). Siart 2 yn dangos dim ond profion mewn labordai awdurdodedig GIG Cymru a Siart 3 profion yn dangos dim ond awdurdodi drwy labordai nad ydynt yn GIG Cymru. Mae Tabl 2 yn dangos profion gwrthgyrff a awdurdodwyd trwy labordai GIG Cymru a phrofion llif ochrol.

Mae’r data yn y ddogfen hon yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi. Mae pob tabl yn y daenlen Data Agored yn manylu ar yr amserlen adrodd.

Mae ein hesboniad data o dan y teitl Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19) yn rhoi esboniad pellach ar y data a ddefnyddiwyd gan gynnwys y gwahaniaeth mewn dyddiadau a ffynonellau data.

Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld os oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.

Dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael ar hyn o bryd gyda phrofion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer sampl o staff ysgolion sydd wedi gweithio o'r blaen mewn hybiau addysg a gweithwyr gofal iechyd. Gellir gweld esboniad pellach o brofion gwrthgyrff yng Nghymru ar ein tudalennau polisi: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 30 Awst.

6. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi.

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Perthnasedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:

  • deall effaith pandemig COVID-19
  • cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
  • cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU

Cywirdeb

Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).

Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dileu achosion positif sydd wedi’u dyblygu ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol.

Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffigurau pennawd a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sampl.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae’n cynnwys Taenlen Dogfen Agored fel y gall defnyddwyr gael mynediad uniongyrchol i’r data sy’n sail i’r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Mae’r data ar gyfer Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar wefan GOV.UK.

Mae’r data ar gyfer yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar wefan GOV.SCOT.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ddyddiol am brofion ac achosion positif.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 9.30am bob dydd Mercher. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mercher 9 Medi.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

7. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Matthew Curds
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 128/2020