Neidio i'r prif gynnwy

1. Ffigurau penawdau cenedlaethol

Prif ganlyniadau

  • Roedd y gallu i brofi yn labordai GIG Cymru yn 15,157 ar 5 Gorffennaf 2020. Nid yw hyn yn cynnwys y gallu i brofi yn labordai’r DU lle mae samplau rhai preswylwyr o Gymru’n cael eu prosesu.
  • Am 1pm ar 5 Gorffennaf 2020, roedd labordai GIG Cymru wedi awdurdodi 198,875 o brofion.
  • Am 7pm ar 5 Gorffennaf 2020, roedd labordai heblaw am rai GIG Cymru wedi awdurdodi 58,396 o brofion ar gyfer samplau gan breswylwyr Cymru.
  • Cynhaliwyd cyfanswm o 105,264 o brofion ar weithwyr hanfodol yng Nghymru a’u prosesu yn labordai GIG Cymru.
  • O’r 201,240 o brofion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru erbyn diwedd y dydd ar 5 Gorffennaf 2020, anfonwyd 50.4% o’r canlyniadau yn ôl o fewn diwrnod ac anfonwyd 82.3% o’r canlyniadau yn ôl o fewn dau ddiwrnod.
  • Yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, dychwelwyd 49.6% o'r canlyniadau profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn diwrnod a 74.1% o’r canlyniadau yn ôl o fewn dau ddiwrnod.
  • Erbyn diwedd 5 Gorffennaf 2020, mae 25,968 o brofion gwrthgorff wedi'u hawdurdodi ar drigolion Cymru a broseswyd trwy labordai GIG Cymru gyda 3,037 o ganlyniadau cadarnhaol.

Ar hyn o bryd, grwpiau â blaenoriaeth yn unig sy’n medru cael profion gwrthgyrff.

Siart cyfanswm y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ar ddiwedd 4 Gorffennaf 2020. Mae nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi bod ar gynnydd ers canol mis Mai tan ddechrau mis Mehefin lle bu cynnydd bach.

Cyfanswm y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ar ddiwedd 4 Gorffennaf 2020 (MS Excel)

Mae'r data ar gyfer 5 Gorffennaf yn cynnwys canlyniadau a awdurdodwyd hyd at 1yp yn unig, mae'r rhain wedi'u heithrio o'r siart ond wedi'u cynnwys yng nghyfanswm y ffigurau o dan y prif bwyntiau.

  • Mae nifer y profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru wedi bod ar gynnydd tan ddechrau mis Mehefin lle bu cwymp cyn cynnydd bach dros yr ychydig ddyddiau diwethaf.
  • Y nifer mwyaf o brofion a awdurdodwyd mewn un diwrnod calendr oedd ar 5 Mehefin, pan awdurdodwyd 4,042 o brofion yn labordai GIG Cymru.

Siart cyfanswm y profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru yn ôl dyddiad prosesu’r sampl am 7pm ar 4 Gorffennaf 2020. Mae nifer y profion a broseswyd mewn labordai heblaw GIG Cymru wedi bod ar gynnydd ers canol mis Mai, sy'n cyd-daro â chyflwyno profion cartref yng Nghymru. Bu cynnydd mewn profion yn ystod y pum niwrnod diwethaf oherwydd cyflwyno'r porth cartref gofal.

Cyfanswm y profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru yn ôl dyddiad prosesu’r sampl ar ddiwedd 4 Gorffennaf 2020 (MS Excel)

Mae'r data ar gyfer 5 Gorffennaf yn cynnwys samplau a broseswyd hyd at 7yp yn unig, mae'r rhain wedi'u heithrio oherwydd yr oedi wrth brofi samplau ac adrodd ar ganlyniadau.

  • Mae’r profion hyn yn cynnwys samplau preswylwyr o Gymru sydd wedi’u cymryd mewn canolfannau profi yn Lloegr, rhai canolfannau profi yng Nghymru a phecynnau profi gartref.
  • Proseswyd y sampl cyntaf mewn labordy nad yw’n labordy GIG Cymru ar gyfer preswylydd o Gymru ar 24 Ebrill. Cynyddodd nifer y profion ar ôl cyflwyno profion cartref ar 18 Mai.
  • Mae profion a broseswyd trwy labordai heblaw GIG Cymru wedi cynyddu dros yr wythnos ddiwethaf. Mae hyn yn bennaf oherwydd i drigolion Cymru ddechrau archebu profion trwy'r porth cartref gofal sydd newydd ddod ar gael.
Tabl 1: Cyfanswm y profion a chanlyniadau ar gyfer gweithwyr hanfodol a broseswyd yn labordai GIG Cymru erbyn diwedd y dydd ar 5 Gorffennaf 2020
Categori Cyfanswm y profion positif Cyfanswm y profion negatif Cyfanswm y profion
Gweithiwr gofal iechyd 6,310 20,639 26,949
Preswylydd mewn cartref gofal 1,254 26,803 28,057
Gweithiwr cartref gofal 1,255 37,869 39,124
Gweithiwr / preswylydd mewn sefydliad addysg 25 633 658
Gweithiwr gwasanaethau brys 153 875 1,028
Gweithiwr / preswylydd llety cymorth neu hostel 49 971 1,020
Aelod o gartref gweithiwr hanfodol 387 3,941 4,328
Gweithiwr / preswylydd carchar neu ganolfan gadw 42 155 197
Gweithiwr hanfodol arall 426 3,477 3,903

Ffynhonnell: Iechyd Cyhoeddus Cymru

  • Cynhaliwyd ychydig dan 64% o’r holl brofion ar weithwyr hanfodol ar breswylwyr cartrefi gofal neu weithwyr cartrefi gofal.
  • Cafwyd canlyniad positif i 23% o’r profion a gynhaliwyd ar weithwyr gofal iechyd a’u prosesu yn labordai GIG Cymru.
  • Ers fod porth y cartref gofal yn weithredol o ddiwedd mis Mehefin, cafodd mwyafrif y profion ar gyfer cartrefi gofal eu prosesu trwy labordai heblaw GIG Cymru, felly nad ydynt wedi'u cynnwys yn y tabl uchod.

Mae nifer y profion a gofnodir ar gyfer gweithwyr critigol yn dibynnu ar y categori gweithwyr critigol sy'n cael ei gofnodi yn y system pan gymerwyd y sampl. Gallai hyn yn ogystal â nifer cynyddol o samplau a brosesir gan labordai nad ydynt yn GIG Cymru gael effaith ar y tabl uchod.

Siart cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 5 Gorffennaf 2020. O'r holl brofion a awdurdodwyd o labordai GIG Cymru, dychwelwyd 82% o fewn dau ddiwrnod. Mae hyn yn amrywio ar draws y math o ganolfan gyda 74% yn cael ei ddychwelyd o fewn dau ddiwrnod mewn unedau profi coronafirws o'i gymharu â 92% mewn ysbytai.

Cyfran o’r profion a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru o fewn un, dau a thri diwrnod erbyn diwedd 5 Gorffennaf 2020 (MS Excel)

Ers dechrau profi hyd at ddiwedd y dydd ar 5 Gorffennaf 2020:

  • Awdurdodwyd 91,117 o brofion mewn unedau profi coronafeirws, gydag 74% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 60,180 o brofion mewn ysbyty, gydag 92% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.
  • Awdurdodwyd 49,943 o brofion mewn unedau profi poblogaeth, gydag 86% o’r canlyniadau yn cael eu hawdurdodi o fewn dau ddiwrnod.

Nid yw’r perfformiad canlyniadau a ddangosir yn ffigwr cyflawn o’r dechrau i’r diwedd. Mae’n mesur o ddyddiad cofnodi casglu’r sampl i’r amser y bydd y canlyniad yn cael ei awdurdodi yn labordai canolog Iechyd Cyhoeddus Cymru. Nid yw’n rhoi awgrym o ba mor hir y mae’n ei gymryd i unigolyn gael y canlyniad ar ôl cymryd y prawf.

Nid yw'r data hyn yn cynnwys profion a awdurdodwyd mewn labordai heblaw GIG Cymru.

2. Cefndir

Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb wythnosol o’r gweithgarwch profi yng Nghymru, gan gynnwys profion ar weithwyr hanfodol ac amseroldeb y profion.

Mae mwyafrif y data a gyflwynir yma yn seiliedig ar y profion a broseswyd ac a awdurdodwyd yn labordai GIG Cymru ar breswylwyr o Gymru. Mae hyn yn cynnwys data ar weithwyr hanfodol ac amseroldeb y profion.

Rydym hefyd wedi darparu data ar nifer a chanlyniadau’r profion a broseswyd gan labordai heblaw am rai GIG Cymru ar breswylwyr o Gymru fel rhan o’r system ar draws y DU. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi’n gwneud gwaith i adolygu’r data a phenderfynu sut y mae’n cysylltu â’r data presennol o brofion a gynhaliwyd yn labordai’r GIG yng Nghymru. Gan fod y gwaith hwn yn dal i fod ar y gweill, nid yw’r ffigurau wedi’u cyfuno ar hyn o bryd.

Mae’r data yn y ddogfen hon yn seiliedig ar gymysgedd o ddyddiadau ar wahanol gyfnodau yn y broses brofi, fel dyddiad y sampl, y dyddiad prosesu a’r dyddiad awdurdodi. Mae pob tabl yn y daenlen Data Agored yn manylu ar yr amserlen adrodd.

Mae ein hesboniad data o dan y teitl Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19) yn rhoi esboniad pellach ar y data a ddefnyddiwyd gan gynnwys y gwahaniaeth mewn dyddiadau a ffynonellau data.

Mae profion gwrthgyrff wedi'u cynnwys am y tro cyntaf yn y cyhoeddiad hwn. Defnyddir profion gwrthgyrff COVID-19 i weld os yw person eisoes wedi cael y feirws. Mae’r prawf gwrthgyrff yn gweithio drwy gymryd sampl o waed a’i brofi i weld os oes gwrthgyrff yn bresennol. Caiff gwrthgyrff eu cynhyrchu gan y corff mewn ymateb i haint, ac maent fel rheol i’w gweld yn y gwaed tua phythefnos ar ôl i berson gael ei heintio.

Dim ond i grwpiau blaenoriaeth y mae profion gwrthgyrff ar gael ar hyn o bryd gyda phrofion wedi'u blaenoriaethu ar gyfer sampl o staff ysgolion sydd wedi gweithio o'r blaen mewn hybiau addysg a gweithwyr gofal iechyd. Gellir gweld esboniad pellach o brofion gwrthgyrff yng Nghymru ar ein tudalennau polisi: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Mae’r data yn y ddogfen hon yn gywir am 23:59 ar 5 Gorffennaf.

3. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Cyd-destun

Mae’r data yn wybodaeth reoli sydd wedi’i chasglu i gefnogi gweithgarwch profi. Rydym yn cyhoeddi’r data i ddarparu crynodeb amserol o weithgarwch profi ond nid yw wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd â’r ystadegau swyddogol, gyda’r data yn destun diwygiadau yn y dyfodol. Daw’r crynodeb wythnosol hwn o wybodaeth am brofion COVID-19 o ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ogystal â manylion ychwanegol ar nifer y profion ar weithwyr hanfodol a lleoliad casglu’r sampl i’w brofi. Yn ogystal, mae data ar y nifer o brofion a broseswyd mewn labordai heblaw am rai GIG Cymru, a ddarparwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, wedi’u cynnwys yn y grynodeb.

Mae’r wybodaeth hon yn helpu i fonitro effaith COVID-19 a chyfrannu at fonitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru.

Perthnasedd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dadansoddi data profion cleifion gan System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru fel rhan o’u cyfrifoldebau cadw gwyliadwriaeth ar glefydau. Yn ogystal, defnyddir yr ystadegau hyn at sawl diben arall:

  • deall effaith pandemig COVID-19
  • cefnogi’r cyngor seiliedig ar dystiolaeth am adolygiadau o drefniadau’r cyfyngiadau symud
  • cyfrannu at waith monitro a gwneud penderfyniadau yng Nghymru a’r DU

Cywirdeb

Mae Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am wneud gwaith gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol yng Nghymru, gan gynnwys y coronafeirws (COVID-19).

Mae data clinigol yn cael eu cadw yn System Rheoli Gwybodaeth Labordai Cymru, gan gynnwys data am brofion COVID-19. Bydd y data yn cael eu defnyddio a’u trin gan ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gynnwys dileu achosion positif sydd wedi’u dyblygu ar y dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol. Mae’r data yn cael eu hadolygu yn ddyddiol a’u hystyried fel data dros dro yn amodol ar eu diwygio yn y dyfodol.

Mae gwahanol ddyddiadau profi wedi’u defnyddio wrth roi gwybod am ddata profion yn dibynnu ar natur y data a’u defnydd. Ar gyfer data gwyliadwriaeth cyflym defnyddiwyd y dyddiad prawf a awdurdodwyd ac mae wedi’i gynnwys yn y ffigurau pennawd a gyflwynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ar gyfer gwyliadwriaeth fanwl dros amser defnyddiwyd dyddiad y sampl.

Mae profion sydd wedi’u hawdurdodi drwy labordai heblaw am rai GIG Cymru ar breswylwyr o Gymru wedi’u cynnwys yn y crynodeb hwn. Mae hyn yn cynnwys samplau gan breswylwyr o Gymru mewn canolfannau profi COVID-19 drwy ffenest y car yn y DU a phecynnau profi gartref. Cyflwynir y set ddata fel nifer y profion a gall gynnwys unigolion a brofwyd fwy nag unwaith. Caiff rhai canlyniadau eu dosbarthu yn rhai amhendant, sy'n golygu na allai'r labordy gael canlyniad dilys o'r sampl swab ac felly nad oedd yn bosibl nodi a oedd SARS-CoV-2 yn bresennol. Gallai hyn ddigwydd am nifer o resymau technegol. Yn dilyn canlyniad amhendant, argymhellir y dylai'r unigolyn gael prawf arall.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n adolygu'r data er mwyn penderfynu sut y mae’n cysylltu â'r data presennol o brofion a gynhaliwyd yn labordai'r GIG yng Nghymru. Wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo, nid yw'r ffigurau hyn wedi cael eu cyfuno na’u cynnwys yn y cyfanswm nifer o achosion ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein hesboniad data: Deall data ar brofion coronafeirws (COVID-19).

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae’r data yn y datganiad hwn yn darparu data o 18 Mawrth 2020 ymlaen.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r datganiad ystadegol hwn wedi’i gyhoeddi ac yna ei gynnwys yn adran Ystadegau ac Ymchwil ein gwefan. Mae’n cynnwys Taenlen Dogfen Agored fel y gall defnyddwyr gael mynediad uniongyrchol i’r data sy’n sail i’r siartiau yn y datganiad hwn.

Cymaroldeb

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynhyrchu dangosfwrdd gwyliadwriaeth dyddiol lle gall defnyddwyr weld yr wybodaeth ddiweddaraf ar y nifer o brofion a awdurdodwyd, yr unigolion a brofwyd (profion a gynhaliwyd) ac achosion positif.

Mae’r data ar gyfer Lloegr yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19) yn y DU ar wefan GOV.UK.

Mae’r data ar gyfer yr Alban yn cael eu cyhoeddi ar dudalennau Coronafeirws (COVID-19): data dyddiol yr Alban ar wefan GOV.SCOT.

Mae’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth ddyddiol am brofion ac achosion positif.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Diben Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y nodau yw creu Cymru sy’n fwy cyfartal, lewyrchus, cydnerth, iachach a chyfrifol yn fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus, a diwylliant bywiog lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, mae’n rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ('dangosyddion cenedlaethol') y mae’n rhaid eu defnyddio at ddiben mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Gosodwyd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol ym mis Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth ar y dangosyddion, ynghyd â disgrifiad o bob un o’r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn hefyd gyfrannu at y dangosyddion cenedlaethol a gellir eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer llunio asesiadau llesiant lleol a chynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Datganiad ystadegol wythnosol yw hwn ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei gyhoeddi am 12.30yp bob dydd Mawrth. Byddwn yn adolygu hyn yn unol ag anghenion newidiol y defnyddwyr.

Bydd y datganiad nesaf yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth 14 Gorffennaf.

Rydym eisiau eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd o’r ystadegau hyn. Gallwch anfon adborth dros e-bost i kas.covid19@llyw.cymru.

4. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Matthew Curds
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 74/2020