Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Trwy'r pedwerydd o’r amcanion galluogi, mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl wedi ymrwymo i greu trefniadau asesu, gwerthuso ac atebolrwydd cadarn sy'n cefnogi system hunan wella, gan ddefnyddio dulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r Canllawiau gwella ysgolion yn nodi sut y dylid defnyddio data a gwybodaeth at ddibenion hunanwerthuso a gwella; atebolrwydd; a thryloywder. Ym mhob achos, dylai’r defnydd o dystiolaeth gyfrannu at gefnogi pob dysgwr i wneud cynnydd fel eu bod yn cyflawni eu llawn botensial, gan fynd i'r afael ag effaith tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad a dilyniant.

Ar 19 Ionawr 2023, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth (GSR), a gynhyrchwyd gan Cyllid Cymdeithasol, sef Datblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy'n cefnogi'r system ysgolion ddiwygiedig yng Nghymru – canfyddiadau o astudiaeth ymchwil. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ac argymhellion sy'n ymwneud â data ac anghenion gwybodaeth y system ysgolion yng Nghymru a’r gwaith o ddatblygu ecosystem data a gwybodaeth newydd sy'n sail i'r diwygiadau i’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu.

Mae ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ac i’r argymhellion i’w gweld isod. Mae'r adroddiad yn cyflwyno corff pwysig o dystiolaeth i lywio’r gwaith o ddatblygu system gytbwys a chynaliadwy, lle mae data a gwybodaeth o ansawdd uchel ar gael ac yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Hynny yw, mewn ffordd sy'n gweithio i ysgolion a lleoliadau a chyd-destunau unigryw rhanddeiliaid ehangach, ac sy'n cyd-fynd â'r dyheadau ar draws y rhaglen ddiwygio, gan roi dysgwyr wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Crynodeb o’r Canfyddiadau

Nod yr astudiaeth hon yw cynnig ecosystem data a gwybodaeth newydd i ysgolion ar gyfer Cymru – un sy'n seiliedig ar ystod ehangach o ddata a gwybodaeth i gefnogi'r tair swyddogaeth, sef hunanwerthuso a gwella, atebolrwydd, a thryloywder.

Yn dilyn amserlen o ymgysylltu ar draws y system ysgolion, mae'r adroddiad yn manylu ar ddeall a mapio defnydd rhanddeiliaid o ddata a gwybodaeth, a’u hangenion data penodol, gan nodi bylchau a heriau, a meysydd y mae angen eu newid a’u gwella. Ochr yn ochr â hyn, mae'r ymchwil yn seiliedig ar bolisi ac ymarfer rhyngwladol perthnasol, er mwyn nodi gwersi allweddol a allai lywio argymhellion ar gyfer Cymru.

Mae’r adroddiad yn cynnwys 13 o argymhellion ar draws y pedwar categori canlynol:

  1. Egwyddorion cyffredinol
  2. Newidiadau penodol
  3. Data canlyniadau cymwysterau Cyfnod Allweddol 4
  4. Parhau i ddatblygu’r ecosystem

sy’n seiliedig ar y meini prawf canlynol:

  • Cydbwyso anghenion rhanddeiliaid sy’n cystadlu
  • Egwyddorion arfer da o ran defnyddio dangosyddion yn eu cyd-destun priodol
  • Cydraddoldeb rhwng y cwricwlwm a’r ecosystem – cydbwyso’r angen am ddata â’r hyn a ystyrir yn bwysig ar gyfer ein dysgwyr
  • Lleihau beichiau
  • Hyrwyddo diwylliant o hunanwerthuso a gwella
  • Ceisio dealltwriaeth gyfannol – adlewyrchu ehangder profiad y dysgwr

Mae'r adroddiad yn cynnig egwyddorion sylfaenol a fyddai'n sail i'r ecosystem gwybodaeth gyfan, gan dorri ar draws yr ystod o bolisïau a darpariaethau. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi lle mae bylchau neu’r angen am newidiadau penodol yn y sylfaen dystiolaeth sydd ar gael i alluogi gwerthuso ar bob haen o'r system ysgolion mewn ffordd fwy cyfannol.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cyflwyno 13 o argymhellion sy’n ymwneud â’r meysydd canlynol:

  1. Mathau o ddangosyddion
  2. Dull o rannu data ar lefel ysgolion
  3. Defnyddio samplu i ateb cwestiynau polisi
  4. Tryloywder a chyfathrebu â’r cyhoedd
  5. Deall sgiliau allweddol dysgwyr
  6. Cefnogi dulliau cyson o sicrhau cynnydd dysgwyr
  7. Lles a llais y dysgwr
  8. Lles staff
  9. Cyd-destunoli dangosyddion ysgol a'r gallu i archwilio effeithiau tegwch
  10. Mwy o dryloywder gyda chymunedau ysgolion
  11. Adolygu dangosyddion Cyfnod Allweddol 4 a rhannu data
  12. Map ffordd ar gyfer adeiladu diwylliant o hunanwerthuso a gwella
  13. Dull o adolygu a datblygu'r ecosystem yn barhaus

Yn ogystal â’r rhain, tynnir sylw at y 2 faes canlynol (a oedd y tu allan i gwmpas yr astudiaeth) sydd angen ystyriaeth bellach;

  1. Gwella ansawdd data ar gyfer dangosyddion ymddygiad ac agwedd dysgwyr at ddysgu
  2. Llais y dysgwr mewn data cyrchfannau

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn:

  • dilysrwydd a dyheadau’r canfyddiadau a’r argymhellion hyn fel cyfraniad gwerthfawr at ddull Llywodraeth Cymru o feddwl a’i phroses o ddatblygu ecosystem data a gwybodaeth sydd wedi’i gwreiddio yng ngwerthoedd y Cwricwlwm i Gymru
  • perthnasedd ac ansawdd yr astudiaeth, a ddangoswyd drwy ei dulliau gweithredu, ffocws priodol y gwaith ymholi, a’r trefniadau llywodraethu

Bydd Llywodraeth Cymru:

  • yn ystyried yr argymhellion yn llwyr ynghyd â sut y gellir eu cymhwyso i ecosystem data a gwybodaeth sy’n cefnogi uchelgeisiau’r Cwricwlwm i Gymru ac sy’n sail i nodau’r holl bolisïau ar addysg ysgolion, ar yr un pryd â chydbwyso anghenion amrywiol gwahanol randdeiliaid
  • yn defnyddio’r adroddiad i ddatblygu ecosystem data a gwybodaeth sy’n seiliedig ar egwyddorion cadarn, ac sy’n gallu datblygu’n barhaus wrth i ddiwygiadau ymwreiddio yn y system ysgolion ac wrth i bolisïau addysg barhau i esblygu
  • defnyddio’r argymhellion i wella ffyrdd y gallwn osod data yn eu cyd-destun er mwyn i) hwyluso’r gwaith o’u dehongli, a ii) mynd ati’n well i ddadansoddi effaith tlodi a rhwystrau eraill y mae dysgwyr yn eu hwynebu, ac effeithiolrwydd trefniadau cymorth ar gyfer pobl ifanc sydd o dan fwy o anfantais
  • parhau i weithio mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid er mwyn gweithio drwy’r argymhellion hyn yn fanwl a bwrw ymlaen â’r rhaglen waith briodol
  • cynnal gwaith ymholi pellach gyda grwpiau penodol pan fyddai hynny o fudd er mwyn deall materion penodol yn well

Y camau nesaf

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu grŵp o ymarferwyr er mwyn dechrau ystyried y canfyddiadau hyn, gan sicrhau bod datrysiadau’n cael eu datblygu ar y cyd, a bod dysgwyr a’u cynnydd yn ganolbwynt i’n hecosystem wybodaeth.

Byddwn yn sicrhau bod cynigion yn cyd-fynd â dyheadau polisi ehangach a nodau’r Rhaglen Lywodraethu. Byddwn hefyd yn rhoi sylw i gysylltiadau â phrosiectau ymchwil allweddol eraill, fel yr Astudiaeth gwmpasu ar gyfer gwerthuso diwygiadau i’r cwricwlwm ac asesu yng Nghymru: adroddiad terfynol y rhaglen arfaethedig o fonitro a gwerthuso'r diwygiadau, a hefyd gwerthuso'r System Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), er mwyn sicrhau bod ein dull gweithredu yn gydlynus.

Bydd canfyddiadau’r astudiaeth hon hefyd yn llywio’r cynllun gwerthuso sydd i’w gyhoeddi yn nhymor haf 2023, a fydd yn manylu ar weithgareddau ymchwil, gwerthuso, a monitro arfaethedig a fydd yn ein galluogi i ddeall a disgrifio gwelliant neu newid mewn safonau addysgol ledled Cymru o dan y Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn datblygu ein rhaglen waith mewn ymateb i'r argymhellion hyn ochr yn ochr â hynny.