Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd y cyngor hwn gan Is-adran y Cwricwlwm, Asesu a Gwella Ysgolion i adrodd ar sut mae ysgolion yn datblygu medrau darllen disgyblion yn Saesneg ar draws y cwricwlwm o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 9. Mae’n ystyried pa mor dda y mae medrau darllen disgyblion yn datblygu, eu hagweddau at ddarllen, a’r graddau y mae ysgolion yn datblygu ‘diwylliant darllen’.

Bydd cyngor ar wahân yn cael ei ddarparu yn 2023 i 2024 ar sut mae ysgolion Cymraeg a dwyieithog yn datblygu medrau darllen Cymraeg a Saesneg y disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Crynodeb o’r prif ganfyddiadau

Dyma brif ganfyddiadau’r adroddiad:

Safonau darllen disgyblion a’u hagweddau at ddarllen

Cafodd y pandemig effaith negyddol ar fedrau darllen llawer o ddisgyblion. Ers ailddechrau addysgu wyneb yn wyneb, mae safonau’n dechrau gwella. Mae hyn yn arbennig o wir mewn ysgolion lle mae diffygion mewn medrau penodol wedi cael eu nodi a darpariaeth wedi cael ei rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r rhain.

At ei gilydd, ar ddiwedd y sector cynradd a dechrau’r sector uwchradd, gall llawer o ddisgyblion amlygu ac anodi testun sy’n briodol o heriol mewn ffordd sylfaenol. Ym Mlwyddyn 6, mae mwyafrif y disgyblion yn defnyddio medrau darllen uwch yn hyderus, fel crynhoi a gwerthuso testunau sy’n briodol o heriol. Ym Mlynyddoedd 7 i 9, mae lleiafrif o ddisgyblion yn parhau i ddatblygu medrau darllen uwch yn effeithiol. Nid yw mwyafrif y disgyblion ym Mlynyddoedd 7 i 9 yn datblygu eu medrau darllen yn ddigon da.

Yn yr ysgolion cynradd prin a’r lleiafrif o ysgolion uwchradd lle mae’r ddarpariaeth ar gyfer medrau darllen a safonau medrau darllen yn rhy wan, ni all lleiafrif o ddisgyblion ddarllen testunau sy’n briodol i gyfnod yn rhugl. Efallai bod bylchau yng ngwybodaeth ffonolegol y disgyblion hyn, yn ogystal â’r ffaith nad oes ganddynt ystod effeithiol o strategaethau i’w cynorthwyo wrth iddynt ddarllen geiriau a thestunau heriol. O ganlyniad, maent yn gwneud cynnydd cyfyngedig yn eu dysgu.

Darpariaeth ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion

Dywed Estyn bod datblygu medrau darllen disgyblion, fel rhan annatod o’u medrau llythrennedd, bron bob amser yn cael blaenoriaeth mewn cynlluniau gwella ysgol. Fodd bynnag, mewn llawer o ysgolion uwchradd yn y sampl, mae cynllunio yn aml yn annelwig, yn generig ac yn dibynnu’n ormodol ar ddata crynodol o brofion yn hytrach nag ar dystiolaeth uniongyrchol o gynnydd disgyblion o wersi a llyfrau.

Pan mae’r ddarpariaeth ar ei chryfaf, mae arweinwyr wedi darparu dysgu proffesiynol effeithiol ar gyfer staff fel eu bod yn deall diben pob strategaeth, pryd y dylid ei defnyddio a sut y gellir ei chymhwyso mewn gwahanol gyd-destunau.

Mae bron pob un o’r ysgolion cynradd a llawer o ysgolion uwchradd yn hyrwyddo pwysigrwydd datblygu medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm i staff a disgyblion. Mae llawer o ysgolion cynradd yn darparu cyfleoedd ystyrlon rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu eu darllen ar draws y cwricwlwm. Mewn lleiafrif o ysgolion uwchradd, mae cysyniad addasu darllen ar gyfer meysydd dysgu penodol yn dechrau ennill ei blwyf.

Pan mae’r ddarpariaeth yn gryf, ceir cydbwysedd cydlynus o ran ymagweddau, gan roi cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion ddatblygu eu medrau darllen gyda’u dosbarth, mewn grwpiau ac yn annibynnol ar draws y cwricwlwm. Mae cyflwyno testunau mwy heriol yn llwyddiannus pan fydd athrawon yn modelu’r strategaethau sydd eu hangen ar ddisgyblion i ddarllen y testunau hyn ac yn darparu cymorth priodol. Hefyd ceir cydbwysedd o weithgareddau fel bod disgyblion yn cael cyfleoedd rheolaidd i glywed athrawon yn darllen, darllen ar goedd eu hunain a datblygu eu medrau darllen yn annibynnol.

Nid yw cynllunio ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn raddol, yn enwedig eu medrau darllen, o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, wedi’i ddatblygu’n ddigonol bron ym mhob ysgol ledled Cymru. Mae hyn hefyd yn wir mewn llawer o ysgolion pob oed oherwydd nad oes digon o gyfathrebu a chynllunio ar y cyd rhwng athrawon Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7.

Nid yw’r gwasanaethau gwella ysgolion yn cydweithio’n ddigon da i sicrhau bod y dysgu proffesiynol o’r ansawdd gorau ar gael ledled Cymru.

Datblygu diwylliant darllen

Mae lleiafrif o ysgolion cynradd ac ychydig o ysgolion uwchradd yn dechrau symud y tu hwnt i ddatblygu medrau darllen disgyblion mewn gwersi i greu ‘diwylliant darllen’ ar draws yr ysgol. 

Un o’r ffactorau pwysicaf wrth greu diwylliant darllen yw bod uwch arweinwyr yn amlwg yn cefnogi darllen ac yn sicrhau bod ganddo broffil uchel ymhlith staff a disgyblion.

Mae llyfrgell ysgol sy’n groesawgar, yn hygyrch, yn cynnwys cyflenwad da o lyfrau, yn cael ei goruchwylio’n rheolaidd a’i defnyddio’n dda gan lawer o ddosbarthiadau, yn cyfrannu’n fuddiol at ddatblygu diwylliant darllen o fewn ysgol.

Argymhellion

Dylai arweinwyr ysgolion:

Argymhelliad 1

Darparu dysgu proffesiynol o ansawdd uchel am strategaethau wedi’u seilio ar dystiolaeth i staff i ddatblygu medrau darllen disgyblion ar draws y cwricwlwm.

Argymhelliad 2

Monitro a gwerthuso effaith strategaethau ac ymyriadau darllen yn drylwyr.

Argymhelliad 3

Cynllunio o fewn eu clwstwr ar gyfer datblygu medrau darllen disgyblion yn raddol o Flwyddyn 6 i Flwyddyn 7, gan gynnwys gwneud defnydd priodol o adborth ac adroddiadau cynnydd o asesiadau personoledig.

Dylai athrawon a staff cymorth mewn ystafelloedd dosbarth:

Argymhelliad 4

Gynllunio cyfleoedd ystyrlon a difyr i ddisgyblion ddatblygu eu medrau darllen yn raddol.

Argymhelliad 5

Defnyddio testunau o ansawdd uchel, sy’n briodol o heriol, i ddatblygu medrau darllen disgyblion ochr yn ochr ag addysgu’r strategaethau sydd eu hangen ar ddisgyblion i ddarllen y testunau hyn, ac ymgysylltu â nhw.

Dylai partneriaid gwella ysgolion:

Argymhelliad 6

Weithio gyda’i gilydd yn agos i sicrhau cysondeb a synergedd gwell mewn cyfleoedd dysgu proffesiynol ynghylch darllen ar gyfer arweinwyr ysgolion, athrawon a chynorthwywyr addysgu.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru'n croesawu'r argymhellion hyn gan eu bod yn cefnogi ein disgwyliadau i bob dysgwr, waeth beth yw eu cefndir, gael y sgiliau darllen sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu potensial ac i ysgolion ddarparu addysgu ac arweinyddiaeth o ansawdd uchel.

Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb statudol dros safonau ysgolion. Mae gan gonsortia a phartneriaethau rhanbarthol yng Nghymru rôl sylweddol i'w chwarae o ran gwella canlyniadau addysgol i bob un o'n dysgwyr. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu cyllid blynyddol sylweddol i gonsortia rhanbarthol a phartneriaethau i wireddu ein dyheadau a'n blaenoriaethau ar gyfer ysgolion ac addysg yn unol â'n 'Cenhadaeth Genedlaethol: safonau uchel a dyheadau i bawb'.

Mae'r cyllid yn galluogi cyflwyno ystod o gefnogaeth i ysgolion gan gynnwys y cymorth i gyd-gynhyrchu, cynllunio a chyflwyno cwricwlwm sy'n hyrwyddo ystod eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiadau, ac yn galluogi dysgu proffesiynol uchelgeisiol i bob ymarferydd mewn ysgol sy'n ymroddedig i fod yn sefydliad dysgu. Mae'r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol a phartneriaid rhanbarthol yn tynnu sylw at yr adroddiad ac yn eu hannog i gynllunio ar gyfer gwella safonau darllen, a llythrennedd yn gyffredinol, gan gefnogi dysgwyr difreintiedig a hyrwyddo cyrhaeddiad i bawb.

Byddwn yn parhau i weithio gyda chonsortia rhanbarthol a phartneriaethau i gefnogi ysgolion i wneud defnydd priodol o ddulliau asesu i gefnogi cynnydd dysgwyr unigol mewn sgiliau darllen. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth o'r asesiadau personol ar-lein statudol sydd ar gael i'w defnyddio gydol y flwyddyn ysgol i roi adborth uniongyrchol am sgiliau a chynnydd ar lefel unigolyn a dosbarth, sydd yn ei dro yn helpu i lywio'r camau nesaf o ran addysgu, dysgu a chynllunio cynnydd.

Mae'r adroddiad yn amlinellu arferion da mewn ysgolion sydd eisoes yn cyflawni camau cadarnhaol, ac rydym yn croesawu'r astudiaethau achos sy'n rhan o'r adroddiad. Byddwn yn integreiddio'r adroddiad i'r 'pecyn cymorth dull ysgol gyfan ar gyfer llafaredd a darllen' er mwyn sicrhau bod pob lleoliad addysgol yn gallu dysgu a manteisio ar y profiadau hyn.

Dylai Llywodraeth Cymru:

Argymhelliad 7

Barhau i hyrwyddo a datblygu’r ymagwedd ysgol gyfan at y pecyn cymorth llafaredd a darllen.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn. Mae'r 'pecyn cymorth dull ysgol gyfan ar gyfer llafaredd a darllen' a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth, yn darparu pecyn o wybodaeth ac adnoddau i gefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu a gwreiddio eu dull ysgol gyfan eu hunain o gyflawni safonau uchel o lafaredd a darllen. Fe'i bwriadwyd i helpu pob lleoliad i nodi cyfleoedd i godi safonau llafaredd a darllen, dod o hyd i ganllawiau ac adnoddau i gefnogi datblygiad dull ysgol gyfan, dysgu o brofiadau eraill, a chyfeirio at ffynonellau gwybodaeth i gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd.

Mae sgiliau siarad, gwrando a darllen yn sylfaenol i bob agwedd ar ein bywydau, o'n cartref i'r ysgol ac i fyd gwaith. Maent nid yn unig yn hanfodol i allu cael mynediad at ddysgu, ond hefyd yn galluogi datblygu perthnasau gyda rhieni, cyfoedion a chymunedau ehangach, ac yn gallu agor drysau i siarad am bynciau anodd, sy’n fuddiol i'n hiechyd meddwl a'n lles. Mae'r pecyn cymorth yn cydnabod mai'r ysgolion a'r lleoliadau sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau ynghylch anghenion eu dysgwyr penodol ac i ddatblygu a gwreiddio eu dull ysgol gyfan eu hunain ar gyfer y sgiliau hyn. Mae'n cydnabod manteision cymuned yr ysgol gyfan yn gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydgysylltiedig, cyson, a pharhaus i gael effaith gadarnhaol ar sgiliau llafaredd a darllen.

Trwy ei rhaglenni llythrennedd mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan blant, a'u teuluoedd, fynediad at adnoddau darllen o ansawdd da sy'n hyrwyddo darllen er pleser o oedran mor ifanc â 6 mis oed. Yn ddiweddar, gydag arian ychwanegol, mae'r rhaglenni wedi’u hategu fel bod pob dysgwr yng Nghymru wedi cael llyfr eu hunain i'w gadw a bydd pob ysgol yng Nghymru yn derbyn bocs o 50 o lyfrau i ychwanegu at eu llyfrgell. 

Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu a gwella'r pecyn cymorth. Yn sgyrsiau'r Rhwydwaith Cenedlaethol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2022, tynnwyd sylw at enghreifftiau o waith sy’n digwydd mewn ysgolion ledled Cymru sy'n cael effaith gadarnhaol ar sgiliau llafaredd a darllen. Rydym yn comisiynu ystod o astudiaethau achos i ddangos y gwaith hwn a phan fyddant ar gael byddant yn cael eu hymgorffori yn y pecyn cymorth. 

Rydym hefyd yn treialu model mentora darllen i brofi a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar agweddau, mwynhad, a chymhelliant dysgwyr i ddarllen. Un o'r ysgogiadau ar gyfer gwella sgiliau darllen (a llythrennedd yn gyffredinol) yw creu cariad at ddarllen a diwylliant o ddarllen. Mae ymchwil yn dangos cydberthynas bositif rhwng disgyblion sy'n darllen mwy ac yn mwynhau darllen a'r rhai sy'n cyflawni’n dda. I'r gwrthwyneb, mae darllenwyr gwannach yn fwy tebygol o ymddieithrio o addysg ac nid yw eu cyrraedd gystal. Bydd y cynllun peilot yn targedu dysgwyr ym Mlynyddoedd 5 a 6 i’w helpu i bontio i'r ysgol uwchradd.

Bydd opsiynau ar gyfer ehangu’r mentora yn cael eu hystyried yn ystod y peilot. Bydd hyn yn cynnwys datblygu'r model yng nghyd-destun y Gymraeg er mwyn ymgorffori darllen yn y Gymraeg yn llawn i unrhyw gynlluniau ehangu a chamau yn y dyfodol.

Manylion cyhoeddi

Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar neu ar ôl 4 Mai ar wefan Estyn.