Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Mae’r Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb hwn wedi’i gynnal yn unol â Chynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 ac Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Yn benodol, mae’n cefnogi Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4, sy’n anelu at greu Cymru sy’n rhydd o wahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a (neu) fwlio, yn erbyn pawb. ‘Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Strategol 2025 i 2029 [HTML]

Bwriad y canllawiau statudol newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yw cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion i ddatblygu a gweithredu polisïau i gyfyngu ar y defnydd o ffonau symudol yn ystod y diwrnod ysgol. Y canlyniadau arfaethedig yw gwella gallu dysgwyr i ganolbwyntio, cefnogi llesiant, lleihau tarfu ar ddysgu, a lleihau achosion o niwed ar-lein, gan gynnwys seiberfwlio.

Mae’r cynnig yn ceisio:

  • Hyrwyddo cyfle cyfartal trwy wella ymgysylltu a chyrhaeddiad pob dysgwr.
  • Dileu gwahaniaethu trwy sicrhau bod unrhyw gyfyngiadau yn cael eu cymhwyso mewn ffordd deg a chyson, a bod addasiadau rhesymol yn cael eu cynnig pan fo angen.
  • Hyrwyddo perthnasoedd cadarnhaol trwy leihau’r cyfleoedd ar gyfer gwrthdaro, aflonyddu a bwlio ar-lein yn ystod y diwrnod ysgol. 

Er bod disgwyl i’r cynnig gael effaith gadarnhaol gyffredinol, pan fo hynny’n briodol rhoddwyd ystyriaeth i ddysgwyr sydd â nodweddion gwarchodedig, hy drwy eithriadau priodol i sicrhau nad yw gweithredu’r polisi yn creu rhwystrau neu anfantais anfwriadol.

Sut y bydd y cynnig yn hyrwyddo cydraddoldeb

Disgwylir i’r canllawiau hyrwyddo cydraddoldeb trwy:

  • Greu amgylchedd dysgu sydd o fudd i bob dysgwr, yn enwedig y rhai a allai gael eu heffeithio’n anghymesur gan dynnu sylw, aflonyddu ar-lein neu bwysau cymdeithasol.
  • Lleihau’r cyfleoedd ar gyfer seiberfwlio, ymddygiadau gwahaniaethol a rhyngweithio ar-lein niweidiol yn ystod y diwrnod ysgol.
  • Cefnogi gwell llesiant i ddysgwyr trwy sicrhau mwy o ryngweithio cymdeithasol wyneb yn wyneb.
  • Darparu canllawiau statudol sydd hefyd yn rhoi’r hyblygrwydd i ysgolion ymateb i amgylchiadau dysgwyr unigol.
  • Ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ystyried effeithiau ar gydraddoldeb a gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer dysgwyr y mae eu defnydd o ffonau symudol yn gysylltiedig ag anabledd, anghenion meddygol, gofynion cyfathrebu neu anghenion dysgu ychwanegol (ADY). 

Felly disgwylir i’r cynnig gefnogi cyfranogiad cyfartal mewn addysg, gan gydnabod y gallai gwahanol ddysgwyr fod angen trefniadau gwahanol i gael mynediad i’r un cyfleoedd.

Cofnod o Effeithiau yn ôl nodwedd warchodedig

Grŵp neu nodwedd warchodedigBeth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)Sut byddwch yn lleihau’r effeithiau?
OedranEffaith gadarnhaol. Mae’r canllawiau yn ymwneud yn bennaf â phlant a phobl ifanc oedran ysgol gorfodol, a’u nod yw cefnogi dysgu, llesiant ac ymgysylltu yn ystod y diwrnod ysgol. Efallai y bydd rhai disgyblion hŷn yn gweld cyfyngiadau fel cyfyngiad ar ymreolaeth.Mae galw cynyddol gan deuluoedd, ysgolion ac awdurdodau lleol am ddull mwy cyson. Bydd y canllawiau yn gymwys yn gyson ar draws grwpiau oedran, ac yn rhoi hyblygrwydd i ysgolion wrth eu gweithredu.Dylai canllawiau annog gweithredu sy’n addas i’r oedran a chyfathrebu clir â dysgwyr a theuluoedd. Efallai y bydd ysgolion yn dymuno ystyried sut mae cyfyngiadau’n cael eu cymhwyso ar draws gwahanol grwpiau oedran.
Anabledd

Effeithiau cadarnhaol a negyddol posibl. Gallai cyfyngu ar ffonau symudol fod o anfantais i rai dysgwyr anabl sy’n defnyddio ffonau ar gyfer nodweddion hygyrchedd, cyfathrebu, monitro meddygol, cymorth llesiant neu dechnoleg gynorthwyol. Gall effeithiau cadarnhaol godi pan fo llai o dynnu sylw yn gwella ymgysylltu i rai dysgwyr.

Mae rhai dysgwyr sydd ag ADY yn dibynnu ar ddyfeisiau symudol ar gyfer trefnu, cyfathrebu, rheoleiddio emosiynol neu fynediad at gymorth dysgu.

Nid yw dysgwyr anabl i gyd yr un fath ac efallai y bydd rhai yn dibynnu ar dechnoleg symudol i oresgyn rhwystrau rhag cymryd rhan. Heb eithriadau priodol, gallai cyfyngiadau fod o anfantais anuniongyrchol i rai dysgwyr.Dylai canllawiau wneud yn glir bod yn rhaid i ysgolion ystyried eu dyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys addasiadau rhesymol. Dylai ysgolion allu gwneud eithriadau neu drefniadau amgen pan fo angen i ddiwallu anghenion unigol. Dylai ysgolion ystyried dysgwyr ag ADY wrth lunio a gweithredu polisïau.
Ailbennu RhyweddDim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Efallai y bydd rhai dysgwyr trawsryweddol yn defnyddio dyfeisiau symudol i gael mynediad at rwydweithiau cymorth neu adnoddau llesiant yn ystod y dydd.Nid yw’r cynnig yn gwahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd. Mae unrhyw effeithiau yn debygol o ddeillio o amgylchiadau unigol yn hytrach na’r nodwedd warchodedig ei hun.Dylai ysgolion sicrhau bod cymorth bugeiliol a llesiant yn parhau i fod yn hygyrch trwy lwybrau amgen, ac ystyried amgylchiadau unigol pan fo hynny’n briodol.
Beichiogrwydd a MamolaethEffaith bosibl gyfyngedig. Efallai y bydd dysgwyr beichiog neu famau ifanc yn dymuno cadw cysylltiad â theulu, gofalwyr neu wasanaethau cymorth yn ystod y diwrnod ysgol.Mae’r cynnig yn gymwys yn gyffredinol ac ni ddisgwylir iddo effeithio ar y grŵp hwn yn anghymesur. Fodd bynnag, gall anghenion unigol godi.Dylai ysgolion gadw disgresiwn i wneud trefniadau rhesymol pan fo ystyriaethau diogelu, iechyd neu lesiant yn golygu bod angen mynediad at ddyfeisiau cyfathrebu.
HilDim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Gall effeithiau cadarnhaol godi os yw gwell ymgysylltu yn yr ystafell ddosbarth o fudd i bob dysgwr.Mae’r canllawiau yn gymwys i’r un graddau ni waeth beth fo hil, ethnigrwydd, cenedligrwydd neu statws mudo’r dysgwr. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi’i nodi y byddai’r cynnig yn effeithio yn wahanol ar grwpiau ethnig penodol.Parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid sy’n cynrychioli cymunedau amrywiol a monitro unrhyw dystiolaeth o effeithiau gwahaniaethol.
Crefydd, cred a diffyg credDim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi.Mae’r cynnig yn ymwneud â’r defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion ac mae’n gymwys i’r un graddau i bob dysgwr, ni waeth beth fo’u crefydd, eu cred neu ddiffyg cred, gan gynnwys mewn ysgolion ffydd. Does dim effaith uniongyrchol wedi’i nodi.Nid oes angen unrhyw gamau lliniaru penodol. Dylai ysgolion barhau i gydymffurfio â dyletswyddau cydraddoldeb a darparu ar gyfer anghenion unigol pan fo hynny’n briodol.
Rhyw neu RhyweddDim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Gallai fod effeithiau cadarnhaol a negyddol mewn perthynas ag aflonyddu ar-lein, pwysau gan gyfoedion neu lesiant.Mae’r cynnig yn gymwys i’r un graddau i bob rhywedd. Mae unrhyw effeithiau gwahaniaethol yn debygol o fod yn anuniongyrchol ac yn gysylltiedig â phatrymau defnydd ffonau yn hytrach na’r polisi ei hun.Dylai ysgolion barhau i fynd i’r afael â phryderon diogelu, aflonyddu a llesiant trwy bolisïau a threfniadau cymorth presennol.
Cyfeiriadedd RhywiolDim effeithiau uniongyrchol wedi’u nodi. Efallai y bydd rhai dysgwyr yn defnyddio ffonau i gael mynediad at gefnogaeth gan gymheiriaid neu adnoddau llesiant.Nid yw’r cynnig yn gwahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol. Mae unrhyw effeithiau yn debygol o fod ar sail unigol yn hytrach na grŵp.Sicrhau bod gan ddysgwyr fynediad at wasanaethau cymorth bugeiliol a ffynonellau cymorth priodol yn ystod y diwrnod ysgol.
Priodas a Phartneriaeth SifilDim effaith wedi’i nodi.Er y gall y nodwedd warchodedig hon fod yn berthnasol i nifer fach o ddysgwyr o oedran ysgol statudol, nid yw’r cynnig yn gwahaniaethu rhwng dysgwyr ar sail priodas neu statws partneriaeth sifil ac nid oes unrhyw effeithiau gwahaniaethol wedi’u nodi.Nid oes angen camau lliniaru.
Plant a phobl ifanc hyd at 18 oedEffaith gadarnhaol sylweddol wedi’i bwriadu. Nod y canllawiau yw cefnogi dysgu, lleihau tynnu sylw a hyrwyddo llesiant. Efallai y bydd rhai dysgwyr yn gweld y cyfyngiadau fel rhywbeth negyddol oherwydd bod ganddynt lai o fynediad at ddyfeisiau personol yn ystod y diwrnod ysgol.Plant a phobl ifanc yw’r prif grŵp yr effeithir arnynt. Mae’r cynnig yn ceisio gwella canlyniadau addysgol a llesiant, wrth helpu ysgolion i sefydlu disgwyliadau clir. Mae Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant wedi’i gwblhau fel rhan o’r cynnig hwn.Dylai canllawiau bwysleisio ymgysylltiad dysgwyr, cyfathrebu â theuluoedd, a gweithredu cymesur. Dylai ysgolion ystyried hawliau plant a lleisiau dysgwyr wrth ddatblygu polisïau.

Hawliau Dynol a Chonfensiynau’r Cenhedloedd Unedig

A fydd y polisi hwn yn cael effaith gadarnhaol neu negyddol ar hawliau dynol pobl, yn eich barn chi

Hawliau DynolBeth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth) 

Sut y byddwch yn lliniaru’r effeithiau negyddol?

 

Erthygl 2 o Brotocol 1 – Yr Hawl i Gael Addysg

 

Ar y cyfan, effaith gadarnhaol. Bwriad y canllawiau yw cefnogi dysgu, llesiant, diogelu ac ymddygiad cadarnhaol mewn ysgolion. Mae posibilrwydd y ceir effaith gyfyngedig ar allu dysgwyr i ddefnyddio ffonau symudol personol yn ystod y diwrnod ysgol ac ar agweddau ar breifatrwydd a rhyddid mynegiant.

 

Mae’r canllawiau yn cefnogi hawl dysgwyr i gael addysg drwy helpu i leihau tynnu sylw a tharfu ar ddysgu. Efallai y bydd hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at amddiffyn plant rhag bwlio, niwed ar-lein a chynnwys amhriodol. Er y gall cyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol effeithio ar hawliau sy’n ymwneud â phreifatrwydd a rhyddid mynegiant, mae unrhyw ymyrraeth yn debygol o fod yn gymesur, wedi’i gyfiawnhau ac yn dilyn nodau cyfreithlon megis amddiffyn hawliau a llesiant personau eraill a chynnal amgylchedd addysgol effeithiol. Nid yw’r canllawiau yn dileu mynediad dysgwyr i addysg ac maent yn gymwys i bob dysgwr i’r un graddau.

Dylai unrhyw gyfyngiadau fod yn gymesur, a dylid eu cyfathrebu’n glir a’u gweithredu’n gyson. Dylai ysgolion gadw hyblygrwydd i wneud addasiadau rhesymol pan fo angen, gan gynnwys am resymau iechyd, anabledd, llesiant neu ddiogelu. Dylai ysgolion sicrhau bod dysgwyr a rhieni yn deall y rhesymeg dros unrhyw gyfyngiadau a bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn unol â dyletswyddau cyfreithiol a pholisïau ysgol presennol.

 

Hawliau Dinasyddion yr UE/AEE a’r Swistir

A oes unrhyw effeithiau ar hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE neu’r Swistir a ddiogelir o dan y Cytundebau ar Hawliau Dinasyddion

Nid oes unrhyw effeithiau wedi’u nodi ar hawliau dinasyddion yr UE, yr AEE neu’r Swistir a ddiogelir o dan y Cytundebau ar Hawliau Dinasyddion. Mae’r canllawiau statudol newydd ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yn ymwneud yn unig â defnyddio dyfeisiau symudol mewn ysgolion, ac nid ydynt yn effeithio ar hawliau preswylio, mynediad at wasanaethau, hawliau cyflogaeth, na darpariaethau mewn perthynas â thriniaeth gyfartal. Felly nid oes angen unrhyw gamau lliniaru ac ni ystyrir bod cyngor cyfreithiol yn angenrheidiol mewn perthynas â’r agwedd hon ar yr asesiad.