Strydoedd Ysgol: canllawiau i awdurdodau lleol - 3. Datblygu Strydoedd Ysgol
Sut y gall cynghorau wella diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ysgolion ar adegau brig.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Dewis ysgolion
Dylai awdurdodau lleol ddatblygu proses glir ar gyfer nodi safleoedd posibl i gyflwyno cynllun Stryd Ysgol ac asesu dichonoldeb cynigion cyn gwneud gwaith dylunio manwl.
Gall y cynnig i gyflwyno cynllun Stryd Ysgol ddod o sawl ffynhonnell. Efallai y bydd awdurdod am wahodd ceisiadau gan ysgolion, grwpiau cymunedol neu'r cyhoedd yn ehangach. Gall awdurdodau nodi safleoedd posibl hefyd ar sail eu tystiolaeth eu hunain o broblemau gyda thagfeydd, diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer o amgylch ysgolion. Mae’n bwysig cael cefnogaeth pennaeth a llywodraethwyr yr ysgol yn fuan yn y broses.
Gall awdurdodau lleol wneud cais am gyllid i gefnogi datblygu a gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol drwy grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau Llywodraeth Cymru.
Dylid cynnal asesiad dichonoldeb cychwynnol o safleoedd arfaethedig cyn dechrau datblygu'r cynllun er mwyn sicrhau na chaiff unrhyw ymdrech ei gwastraffu ar gynigion sy'n annhebygol o lwyddo.
Gellir defnyddio matrics asesu syml i sgorio cynlluniau Strydoedd Ysgol posibl yn erbyn meini prawf dethol allweddol. Os oes sawl cynnig yn cael eu hystyried, gellir defnyddio canlyniadau'r asesiadau hyn i helpu i flaenoriaethu'r adnoddau sydd ar gael a chyflwyno cynlluniau Strydoedd Ysgol yn raddol.
Anfonwch e-bost i teithiollesol@llyw.cymru am enghreifftiau o feini prawf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol yng Nghymru.
Gweler Ffyrdd eraill o gefnogi teithio i'r ysgol am ymyriadau ychwanegol y gellir eu gweithredu i gefnogi Stryd Ysgol, neu lle nad yw Stryd Ysgol yn ymarferol.
Yr awdurdodau eu hunain sydd yn y sefyllfa orau i bennu'r meini prawf dethol priodol i'w hardal ac unrhyw fecanweithiau sgorio a phwysoli cysylltiedig. Fodd bynnag, ceir rhai awgrymiadau isod y gellir eu haddasu i adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Pan fydd awdurdodau yn gwahodd ceisiadau am gynlluniau Strydoedd Ysgol, mae'n ddefnyddiol cyhoeddi'r meini prawf a gofyn i'r rhai sy'n cynnig cynlluniau ddarparu gwybodaeth ategol i helpu â'r asesiad.
Mewn astudiaeth a gynhaliwyd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin yn 2022, dangosodd asesiad cychwynnol mai dim ond 39 o 95 o ysgolion cynradd oedd ddim yn addas gan eu bod wedi'u lleoli ar gefnffyrdd neu brif ffyrdd, gan adael 56 o ysgolion fel rhai a allai fod yn addas i'w hasesu ymhellach.
Traffig ac amgylchedd y briffordd
- A yw'r ysgol ar brif ffordd neu lwybr bysiau prysur?
- A oes cyfleusterau ar y ffordd y mae'n rhaid i gerbydau modur hanfodol allu eu cyrraedd bob amser (fel ysbyty)?
- A oes llwybrau eraill y gall traffig trwodd eu defnyddio? (Efallai bod y llwybrau eraill hyn yn cael eu cynnal a'u cadw gan awdurdod priffyrdd arall ac os felly, dylid ymgynghori â'r awdurdod hwnnw.)
- A oes busnesau sydd angen i nifer uchel o gerbydau gael mynediad i'w hadeiladau'n rheolaidd, yn ystod oriau gweithredol Strydoedd Ysgolion?
Mae'n annhebygol y bydd Stryd Ysgol yn ddichonol os mai ‘ydy’ ac ‘oes’ yw'r ateb i'r cwestiwn cyntaf neu'r ail gwestiwn a ‘nac oes’ yw'r ateb i'r trydydd cwestiwn. Byddai angen ystyried anghenion busnes pan mai 'oes' yw'r ateb i'r pedwerydd cwestiwn. Efallai y bydd eithriadau i'r rheol hon os bydd awdurdod yn cyflwyno cyfyngiadau traffig llawer ehangach ar gyfer ardal gyfan a/neu'n barod i osod gatiau bws a orfodir drwy system gamerâu er mwyn galluogi bysiau i ddefnyddio eu llwybr arferol yn ddirwystr.
Tystiolaeth o broblemau'n ymwneud â thraffig gerllaw'r ysgol
Pa dystiolaeth sydd ar gael i ddangos bod traffig modur yn achosi problemau ar y safle, pa mor ddifrifol yw'r problemau hyn ac a fyddai modd eu datrys (yn rhannol o leiaf) drwy gyflwyno cyfyngiadau traffig?
Ymhlith y ffactorau y gallai awdurdod fod am eu hystyried mae:
- ansawdd aer – a oes lefelau uchel o lygredd y tu allan i'r ysgol? A yw'r ysgol wedi'i lleoli mewn Ardal Rheoli Ansawdd Aer?
- diogelwch ar y ffyrdd – A oes tystiolaeth i ddangos bod canfyddiad cyffredinol bod traffig yn peri perygl penodol ac yn atal pobl rhag cerdded, olwyno a beicio i'r ysgol? A yw data ar wrthdrawiadau a nifer y bobl sydd wedi cael eu hanafu neu'u lladd yn awgrymu problem y gallai cynllun Stryd Ysgol helpu i'w datrys?
- parcio gwrthgymdeithasol neu niwsans gan rieni/gwarcheidwaid – a yw hon yn broblem benodol ar y safle ac a yw'n cael effaith sylweddol ar breswylwyr a defnyddwyr ffyrdd eraill? Pa gamau eraill sydd wedi cael eu cymryd i geisio mynd i'r afael â hyn?
Cefnogaeth yn y gymuned
- A yw pennaeth yr ysgol yn gefnogol ac a all staff a rhieni helpu i ddatblygu a gweithredu'r cynllun?
- A yw preswylwyr a busnesau yn barod (ar y cyfan) i gydweithio er mwyn datblygu cynllun ymarferol?
Wrth asesu faint o gefnogaeth a geir yn y gymuned, dylai awdurdodau ystyried barn y cyhoedd ac ymgynghori ar gynlluniau teithio llesol fel y nodir ym mhenodau 5 ac 8 o'r Canllawiau Teithio Llesol yn ogystal â'r cyngor ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Nid oes gan y rhan fwyaf o bobl deimladau cryf am gynlluniau cerdded, olwyno a beicio. Mae'r rhai sy'n mynegi ffafriaeth yn tueddu i gefnogi cynlluniau yn hytrach na'u gwrthwynebu, ar gymhareb o fwy na 2:1 ar gyfartaledd. Yn gyffredinol, dim ond lleiafrif bach sy'n mynegi gwrthwynebiad cryf i gynllun ac mae'r gwrthwynebiad hwn yn tueddu i leihau ar ôl i gynllun gael ei roi ar waith.
Yn gyffredinol, mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn cael mwy o gefnogaeth na chynlluniau teithio llesol eraill oherwydd y budd i blant.
Ni ddylai awdurdodau ddisgwyl y bydd pawb yn cefnogi cynlluniau ac ni ddylent adael i un grŵp penodol gau pen y mwdwl arnynt. Dylid cynllunio prosesau ymgynghori â'r cyhoedd er mwyn cael darlun cynrychioliadol o safbwyntiau, gan gynnwys gan bobl sy'n llai llafar eu barn.
Teithio llesol: ymrwymiad a photensial
Mae cynllun Stryd Ysgol yn fwy tebygol o gyflawni canlyniadau dymunol pan fydd ysgol yn arddangos ymrwymiad clir i annog dulliau teithio llesol a lle bo potensial i newid o deithiau car/fan presennol i ddulliau llesol.
Wrth asesu safleoedd posibl ar gyfer cynllun Stryd Ysgol, mae'n bosibl y bydd awdurdodau felly am ystyried y canlynol:
- a oes gan yr ysgol Gynllun Teithio i'r Ysgol cyfredol
- pa weithgareddau y mae'r ysgol wedi'u cynnal er mwyn annog a galluogi dulliau teithio llesol i'r ysgol ac effaith y gweithgareddau hynny
- a fu ac a oes o hyd gefnogaeth gan yr ysgol i gynnal Hyfforddiant Cerddwyr Ifanc a Beicio i ddisgyblion?
- y data sydd ar gael ar y gyfran bresennol sy'n teithio i'r ysgol gan ddefnyddio car/fan, trafnidiaeth gyhoeddus a dulliau llesol a chyfran y disgyblion sy'n byw'n ddigon agos i'r ysgol i gerdded neu feicio
- a oes gan yr ysgol y capasiti ac a yw'n barod i weinyddu ei thrwyddedau staff ac ymwelwyr ei hun?
Ystyriaethau cyllidebol
Gall cynlluniau Strydoedd Ysgol fod yn ymyriadau sy'n gymharol isel o ran cost, ond yn fawr eu heffaith. Fodd bynnag, gall y gost amrywio'n sylweddol o un cynllun i'r llall yn dibynnu ar ffactorau fel maint a threfn y cynllun Stryd Ysgol, p'un a ddefnyddir camerâu i orfodi'r cyfyngiadau traffig a ph'un a gaiff mesurau ategol i gefnogi teithio llesol eu rhoi ar waith ar y cyd â'r cyfyngiadau.
Bydd angen i'r gyllideb ar gyfer unrhyw gynllun Strydoedd Ysgol gynnwys darpariaeth ar gyfer yr eitemau a'r gweithgareddau canlynol:
- peirianneg/dylunio: dylunio a gosod
- cyfreithiol: prosesu a hysbysebu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
- deunyddiau ymgynghori a chyhoeddusrwydd: dylunio, argraffu a danfon
- monitro a gwerthuso: cyn ac ar ôl gweithredu
- costau staff: gwerth yr amser y mae staff yn ei dreulio yn datblygu ac yn gweithredu'r cynllun
- gorfodi: darparu a gweithredu camerâu CCTV (lle bo hynny'n gymwys)
Mae pecyn adnoddau Strydoedd Ysgol Hackney yn rhoi enghraifft o'r costau hyn ar gyfer un Stryd Ysgol â 2 fynedfa a chyfyngiadau a gaiff eu gorfodi drwy system camerâu.
Yn ogystal â'r costau cyffredinol hyn sy'n gysylltiedig â Strydoedd Ysgol, daw gofynion cyllid safleoedd penodol yn gliriach wrth i'r cynlluniau ar gyfer y safleoedd hynny gael eu dylunio. Er enghraifft, fel rhan o gynllun Stryd Ysgol penodol, efallai y bydd angen buddsoddi mewn mesurau i wella hygyrchedd fel troedffyrdd mwy llydan, arwynebau o ansawdd uwch a chyrbiau isel.
Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae ymgysylltu ag amrywiaeth eang o randdeiliaid yn hollbwysig er mwyn datblygu cynllun Strydoedd Ysgol effeithiol a gaiff ei gefnogi'n eang. Dylid ymdrechu i ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gydol camau datblygu a gweithredu cynllun. Bydd y swyddog o'r awdurdod lleol sy'n arwain y gwaith ar gynllun (neu raglen) Stryd Ysgol yn chwarae rôl allweddol yn hyn o beth, gan weithio fel dolen gyswllt rhwng rhanddeiliaid mewnol yr awdurdod lleol a rhanddeiliaid allanol o ysgol benodol a'i chymuned leol ehangach.
Rhanddeiliaid mewnol
O fewn yr awdurdod lleol a'i gadwyn gyflenwi ehangach, bydd angen i'r swyddog sy'n arwain cynllun Stryd Ysgol feithrin cydberthnasau gwaith effeithiol â'r rhanddeiliaid canlynol (ymhlith eraill) a rhestrir gyda’u rolau:
Aelodau etholedig
Rhoi mandad i'r rhaglen, cynnig cefnogaeth a her
Swyddogion Teithio i'r Ysgol a Diogelwch ar y Ffyrdd
Ymgysylltu ag ysgolion, hyrwyddo
Swyddogion Priffyrdd
Gwybodaeth Argyfwng a llwybrau amgen
Swyddogion Addysg
Cefnogi ac integreiddio strategaethau/polisïau
Peirianwyr Traffig
Dylunio a gosod
Tîm Gorchmynion Traffig
Gweithredu Gorchymyn Rheoleiddio Traffig
Tîm Iechyd y Cyhoedd
Integreiddio a chymorth strategol/polisi
Tîm Iechyd yr Amgylchedd
Rheolaeth ansawdd aer
Tîm Cynaliadwyedd/Newid yn yr Hinsawdd
Integreiddio a chymorth strategol/polisi
Pensaer dylunio trefol/tirlunio
Cymorth dylunio a gosod
Swyddogion coed
Cymorth dylunio a gosod
Swyddog mynediad a chydraddoldebau
Rhoi cyngor ar gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yr awdurdod
Darparwyr cludiant i'r ysgol
Cyd-ddylunio trefniadau ymarferol ar gyfer cludiant o'r cartref i'r ysgol
Swyddogion cyfathrebu
Cymorth ymgynghori ac ymgysylltu
Tîm parcio gan gynnwys Swyddogion Gorfodi Sifil
Gorfodi a Hysbysiadau Tâl Cosb
Timau graenu, gwastraff a glanhau
Cytuno trefniadau gweithredol
Timau datblygu chwarae
Cefnogaeth i fentrau Strydoedd Chwarae
Rhanddeiliaid allanol
Mae’n hynod bwysig meithrin cydberthynas agos a pharhaus ag ysgolion a gaiff eu dewis ar gyfer cynlluniau Strydoedd Ysgol a'u cymunedau lleol ehangach gan gynnwys preswylwyr a busnesau, grwpiau buddiant lleol a'r heddlu. Gall gwaith ymgysylltu allanol o ansawdd uchel arwain at gynlluniau Strydoedd Ysgol mwy effeithiol sy'n denu mwy o gefnogaeth drwy:
- sicrhau bod amcanion a goblygiadau ymarferol y cynllun yn cael eu deall gan y bobl y bydd y cynllun yn effeithio fwyaf arnynt
- nodi problemau posibl ar gam cynnar a hwyluso gwaith i gyd-ddatblygu atebion cyn i'r cynllun gael ei roi ar waith
- darparu dealltwriaeth glir o batrymau teithio i'r ysgol ac unrhyw rwystrau neu heriau penodol i gynyddu lefelau teithio llesol yn ogystal â thynnu sylw at unrhyw fentrau blaenorol neu fentrau presennol y gall y cynllun Stryd Ysgol adeiladu arnynt
I gefnogi gwaith ymgysylltu allanol, gall fod yn ddefnyddiol sefydlu gweithgor o randdeiliaid o'r ysgol a'r gymuned leol. Dylai grŵp o'r fath gynnwys pennaeth yr ysgol, llywodraethwr/ymddiriedolwr dynodedig, arweinydd y cynllun teithio i'r ysgol a chynrychiolwyr o'r grwpiau rhanddeiliaid canlynol:
- staff yr ysgol
- disgyblion
- rhieni/gofalwyr
- preswylwyr
- busnesau lleol (os yn berthnasol)
- Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu lleol
Gall ymgysylltiad ehangach gyda phreswylwyr lleol gael ei wneud drwy arolygon a digwyddiadau. Bydd hyn yn galluogi i ystod eang o adborth gael ei gasglu cyn ac yn ystod y cynlllun.
Mae platfformau ar-lein yn ffordd poblogaidd ac effeithlon o gasglu adborth, a gellir eu hategu gyda fformatau amgen fel ffurflenni papur, ebost a galwadau ffôn.
Mae digwyddiadau yn rhoi cyfle ar gyfer deialog adeiladol a chyd-ddylunio gyda rhanddeiliaid lleol a gallai gynnwys ymweliadau safle a gweithdai.
Gallai sgyrsiau wyneb yn wyneb gyda busnesau sydd yn cael eu heffeithio helpu i leddfu unrhyw bryderon a sicrhau dealltwriaeth a chefnogaeth. Mae’n bosib y bydd angen dulliau cyfathrebu wedi eu targedau a’u teilwra er mwyn sicrhau bod ymgysylltiad sy’n hygyrch i bawb.
Mae’r adran ar gyhoeddusrwydd yn rhoi cyngor pellach ar gyfathrebu am y cynllun gyda rhanddeiliaid lleol.
Yn ogystal â gwaith ymgysylltu parhaus, bydd angen i awdurdod gynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynllun – gweler yr adran ar Orchmynion Rheoleiddio Traffig.
Trefn cynllun
Ar ôl i ysgol gael ei dewis ar gyfer cynllun Stryd Ysgol, gall awdurdod ddatblygu dyluniad cychwynnol o drefn y cynllun. Gall cynlluniau gynnwys stryd gyfan, rhan o stryd neu hyd yn oed sawl stryd yn union y tu allan i ysgol. Nid oes un ateb yn addas i bob sefyllfa: mae angen ystyried amgylchiadau unigryw pob safle yn ofalus. Dylid ceisio datblygu trefn cynllun sy'n golygu y gall parth Stryd Ysgol gyflawni ei amcanion mewn ffordd mor effeithiol â phosibl gan leihau unrhyw effeithiau annymunol i'r eithaf.
Ymhlith y ffactorau allweddol i'w hystyried wrth bennu trefn briodol ar gyfer parth Stryd Ysgol mae:
- sawl mynedfa a ddefnyddir gan yr ysgol a'u lleoliad
- yr effaith o ran amharu ar fynediad i eiddo preswyl, busnesau a chyrchfannau eraill fel meddygfeydd
- faint o breswylwyr fydd yn esempt rhag y gwaharddiad ar deithio ar y Stryd Ysgol yn ystod yr oriau gweithredol
- a oes llwybrau eraill ar gael i draffig trwodd o amgylch y Stryd Ysgol ac effaith unrhyw gynigion o'r fath i ddadleoli traffig
- dadleoliad traffig a cherbydau sydd wedi parcio sy'n gysylltiedig â'r ysgol i strydoedd ar gyrion y Stryd Ysgol
Gallai ymddangos y bydd parth Stryd Ysgol bach, fel rhan fer o stryd yn union y tu allan i fynedfa ysgol, yn cael llai o effeithiau negyddol ond mae'n bosibl hefyd na fydd yn cynyddu lefelau teithio llesol am fod lefelau traffig yn parhau i fod yn uchel drwy gydol y rhan fwyaf o'r daith i'r ysgol ac o'r ysgol. Nid yw hyn yn golygu bod parthau Stryd Ysgol mwy bob amser yn well.
Mewn ardal boblog, os bydd parth Stryd Ysgol yn rhy fawr, gall nifer y cerbydau sy'n gymwys i gael esemptiad rhag y cyfyngiadau olygu na fydd lefelau traffig yn gostwng yn ddigonol i roi hyder i rieni y gall eu plant gerdded, olwyno a beicio i'r ysgol.
Mewn rhai achosion, gall fod yn ddefnyddiol trefnu digwyddiad i gau'r ffordd er mwyn profi dull sydd o dan ystyriaeth, gan ofyn am adborth gan yr ysgol a'r gymuned leol a chasglu tystiolaeth er mwyn llywio penderfyniadau ynghylch y drefn orau.
Wrth ddatblygu trefn cynllun, dylai awdurdod ystyried y potensial i gyflwyno mesurau sy'n lliniaru effeithiau negyddol cyfyngiadau traffig. Er enghraifft, mae rhai awdurdodau wedi mynd i'r afael â'r broblem sy'n codi pan fo pobl yn parcio mewn mannau eraill drwy sefydlu safleoedd ‘parcio a cherdded’ o fewn pellter cerdded i'r ysgol.
Esemptiadau
Er mai drwy gyflwyno cyfyngiadau traffig y mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn cynyddu lefelau teithio llesol ac yn cyflawni amcanion eraill yn bennaf, bydd angen i bob cynllun amseroedd penodol ddarparu esemptiadau cyfyngedig ar gyfer cerbydau preswylwyr a thraffig hanfodol arall. Bydd angen i awdurdodau lleol benderfynu pa esemptiadau ddylai fod yn gymwys i gynllun Stryd Ysgol penodol, gan gydbwyso'r angen i gerbydau hanfodol gael mynediad yn erbyn y lleihad yn effeithiolrwydd y cynllun os bydd lefelau traffig yn parhau i fod yn uchel.
Fel arfer, mae cynlluniau Strydoedd Ysgol yn darparu esemptiadau ar gyfer:
- cerbydau sydd wedi'u cofrestru i gyfeiriad yn yr ardal sy'n rhan o'r cynllun Stryd Ysgol (preswylwyr a busnesau)
- cerbydau gwasanaethau brys a darparwyr cyfleustodau ar alwadau brys
- deiliaid Bathodynnau Glas sydd a rheswm dros fod angen mynediad i safle’r ysgol
- rhai sy'n gofalu am breswylwyr agored i niwed y mae angen mynediad arnynt a sydd yn medru darparu tystiolaeth addas
- cludiant i'r ysgol
- rhieni/gofalwyr disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) sy'n golygu bod angen iddynt fynd i'r ysgol mewn car
- cerbydau sydd eisoes wedi parcio yn y parth Stryd Ysgol ac y mae angen iddynt adael
Gall awdurdodau hefyd ystyried darparu esemptiadau i grwpiau eraill fel gyrwyr danfon nwyddau, crefftwyr a cherbydau casglu gwastraff awdurdodau lleol (os na fu modd ailamseru neu ddefnyddio llwybr arall). Fodd bynnag, ni roddir esemptiadau fel arfer i staff ysgol na rhieni/gofalwyr (oni bai bod esemptiad arall yn gymwys iddynt eisoes fel deiliad Bathodyn Glas).
Mae'n hanfodol rhoi digon o rybudd i bobl y bydd cynllun Stryd Ysgol yn cael ei gyflwyno i'w galluogi i wneud cais am esemptiad ac i roi amser i'r awdurdod brosesu eu ceisiadau. Bydd angen i'r broses gwneud cais ei hun fod yn glir ac yn syml.
Mae Cyngor Dinas Caerdydd yn rhoi enghraifft o sut gallai’r broses esemptiad gael ei reoli.
Bydd angen i gerbydau a gaiff esemptiad rhag cyfyngiadau traffig arddangos trwydded ffisegol neu byddant yn cael trwydded rithwir (a chaiff y manylion eu cadw ar restr o gerbydau awdurdodedig). Bydd y math o drwydded a ddefnyddir yn dibynnu ar y dull gorfodi a gynigir ar gyfer cynllun Stryd Ysgol. Nid oes angen defnyddio trwyddedau ffisegol ar gyfer system orfodi sy'n defnyddio CCTV.
Gweler adran am orfodi i gael rhagor o wybodaeth.
Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus
Drwy gydol y broses o ddatblygu a gweithredu cynlluniau Strydoedd Ysgol, rhaid i awdurdodau lleol gyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010).
O dan y Ddyletswydd hon, rhaid i gyrff cyhoeddus roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu a mathau o ymddygiad y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn eu gwahodd, hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da rhwng gwahanol bobl wrth gyflawni eu gweithgareddau. Yng Nghymru, mae rhai cyrff cyhoeddus yn gorfod bodloni dyletswyddau penodol a geir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 a elwir hefyd yn ddyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru. Rhagor o wybodaeth: Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus.
Dylai awdurdodau ystyried sut y bydd y cynllun/cynlluniau Strydoedd Ysgol arfaethedig yn effeithio ar unigolion â'r 9 nodwedd warchodedig, sef:
- oedran
- anabledd
- ailbennu rhywedd
- priodas a phartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- hil
- crefydd neu gred
- rhyw
- chyfeiriadedd rhywiol.
Rhaid i awdurdodau lunio Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb i ddarparu tystiolaeth eu bod wedi ystyried effeithiau posibl yn drylwyr ac wedi cymryd camau i osgoi neu liniaru effeithiau negyddol ar bobl â nodweddion gwarchodedig (er enghraifft, drwy ddarparu esemptiadau i ddeiliaid Bathodynnau Glas a gofalwyr).
