Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ansawdd hwn yn ddisgrifiad uchelgeisiol o beth sy'n cael ei ystyried fel da ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cyhyrysgergybdol (MSK) gydol oes. Mae'n adnodd pwysig i'r rhanddeiliaid amlbroffesiynol y cydgynhyrchwyd y datganiad ansawdd â nhw, ac a fydd yn gweithio gyda'i gilydd fel partneriaid cyfartal i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn (gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, annibynnol, y trydydd sector a'r rhai sydd â phrofiad bywyd). Y nod cyffredinol yw gwella a diogelu iechyd MSK y boblogaeth o oedran cynnar, lleihau nifer y rhai sy'n datblygu cyflyrau MSK a gwella iechyd a llesiant unigolion sydd â chyflyrau MSK.

Cyflyrau MSK yw'r achos mwyaf cyffredin o boen hirdymor ac anabledd corfforol yn fyd-eang. Y cyflyrau hyn sydd i gyfrif am 4 o'r 10 prif achos o 21% o gyfanswm y blynyddoedd sy'n cael eu byw gydag anabledd yn y DU ac amcangyfrifir eu bod yn effeithio ar 32% o boblogaeth Cymru (974,000 o bobl) [troednodyn 1]. Yn aml, maent yn gyflyrau MSK hirdymor sy'n cael effaith anghymesur ar grwpiau penodol o ddinasyddion ac mae cysylltiad cryf rhyngddynt ag amddifadedd, ethnigrwydd, oedran a rhywedd [troednodyn 2]. Gall cyflyrau MSK effeithio ar unigolion, eu teuluoedd, addysg a chyflogaeth. Amcangyfrifir bod 23.3 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi'u colli yn y DU yn 2021 o ganlyniad i gyflyrau MSK [troednodyn 3]

Mae cyflyrau MSK yn aml yn effeithio ar sawl rhan o'r corff a'i systemau, ac maent yn galw am ofal amlbroffesiynol cydgysylltiedig. Gallant effeithio ar iechyd corfforol, emosiynol, cymdeithasol, economaidd ac iechyd meddwl. Felly, mae cyflyrau MSK yn achos pryder sylweddol o ran iechyd y cyhoedd. Mae cyflyrau MSK yn gydafiachedd cyffredin sy'n ysgogi afiechyd hunangofnodedig ac maent yn cyfyngu ar allu unigolion i reoli cyflyrau iechyd hirdymor eraill (fel iechyd cardiofasgwlaidd, metabolig ac anadlol). Gyda phenderfynyddion iechyd sy'n newid a phoblogaeth sy'n heneiddio ynghyd â'r cynnydd cysylltiedig mewn cydafiachedd, mae iechyd cyhyrysgerbydol yn rhan fawr a chynyddol bwysig o dyfu, byw, dysgu, gweithio a heneiddio'n dda. 

Mae rhychwant eang o gyflyrau MSK y gellir eu dosbarthu, yn gyffredinol, yn bedwar grŵp:

  1. cyflyrau llidiol (e.e. arthritis gwynegol, arthritis llidiol mewn pobl ifanc) 
  2. cyflyrau poen MSK (e.e. o ganlyniad i anaf, osteoarthritis a phoen cefn)
  3. iechyd esgyrn (e.e. osteoporosis a thoresgyrn breuder) 
  4. camweithrediad niwrolegol sy'n gysylltiedig â chyflwr MSK (e.e. cywasgiad llinyn asgwrn y cefn oherwydd spondylosis)

Er bod rhai cyflyrau MSK naill ai'n hunan-gyfyngol (e.e. mân anafiadau) neu yn rhai y gellir eu trin â thriniaethau cefnogol ac ymyriadau iechyd y cyhoedd syml, mae rhai yn galw am ymyriadau meddygol neu lawfeddygol. Mae llawer o'r cyflyrau yn rhai hirdymor (sy'n para mwy na 3 mis) ac yn galw am strategaeth reoli fwy cymhleth, hirdymor a chynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Bydd cyfran o'r unigolion hynny sydd â chyflyrau MSK yn cael budd o gael llawdriniaeth fel rhan o'u llwybr gofal. Mae rhaglen y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth Orthopedig wedi diffinio'r safonau a'r glasbrint sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaeth llawfeddygaeth orthopedig o ansawdd uchel, diogel, cynaliadwy a theg ar gyfer poblogaeth Cymru. Dylid darllen y datganiad ansawdd MSK hwn ar y cyd â glasbrint y Strategaeth Glinigol Genedlaethol ar gyfer Llawfeddygaeth Orthopedig

Bydd Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol yn cael ei greu yn 2023 o dan gweithrediaeth y GIG, sy'n swyddogaeth newydd, a'r fframwaith clinigol cenedlaethol i arwain datblygiad gwasanaethau MSK er mwyn cyflawni nodau Cymru Iachach a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O dan y rhwydwaith, bydd dulliau arweinyddiaeth genedlaethol, ymgysylltu lleol a gweithio mewn partneriaeth gydweithredol yn cael eu meithrin i bennu dull hirdymor a chyson o wella iechyd MSK y boblogaeth gan atal a rheoli cyflyrau MSK gydol oes. 

Cyfeiriwyd at y bwriad o gyflwyno datganiadau ansawdd yn Cymru Iachach ac fe'u disgrifiwyd yn y Fframwaith Clinigol Cenedlaethol fel y lefel nesaf o gynllunio cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau clinigol penodol. Mae'r datganiadau ansawdd yn rhan o'r ymdrech i roi mwy o bwyslais ar ansawdd a byddant yn rhan annatod o drefniadau cynllunio ac atebolrwydd y GIG yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae angen sicrhau bod mynediad teg yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhai hynny sy'n wynebu annhegwch, fel amddifadedd, cymunedau ethnig leiafrifol, gwledig ac LHDTC+. Bydd angen i lwybrau fod yn hyblyg i gyflawni hyn. Dylai cynllun 'Mwy na Geiriau Llywodraeth Cymru' i gryfhau'r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal drwy egwyddor y ‘cynnig rhagweithiol’ ddod yn rhan annatod o ddarpariaeth gwasanaethau. Dylai darparwyr gwasanaethau adeiladu ar yr arferion gorau presennol a dylent gynllunio, comisiynu a darparu gofal ar sail yr egwyddor hon.

Mae’r dull hwn yn cyd-fynd â'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, sy'n rhoi pwyslais penodol ar ddatblygu llwybrau clinigol cenedlaethol uchel eu gwerth a’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio’r cylch sicrhau ansawdd mewn modd systematig yn lleol. Mae hefyd yn golygu ei bod yn bosibl canolbwyntio ar gydgynhyrchu â grwpiau eraill, a gweithio ar draws grwpiau, i fynd i’r afael â meysydd fel atal, adsefydlu, rheoli poen, rhoi gofal i’r rhai sy’n ddifrifol wael neu ar ddiwedd eu hoes, yn ogystal â chydweithio â chyflyrau eraill. 

Er mwyn pennu dull system gyfan o ymdrin ag ansawdd, rhaid meithrin diwylliant sy'n sicrhau bod dysgu a gwelliant parhaus yn greiddiol i'r system honno. Dylid seilio hyn ar ddiffiniad a dealltwriaeth glir o sut beth yw ansawdd da, gan ddefnyddio safonau cenedlaethol, sydd wedi'u meincnodi, adolygiadau gan gymheiriaid ac archwiliadau. 

Mae'r Ddyletswydd Ansawdd yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a chyrff y GIG sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer cynllunio a gwneud penderfyniadau sydd wedi'u hysgogi gan ansawdd er mwyn cyflawni, yn y pen draw, ganlyniadau gwell i bawb sydd angen gwasanaethau iechyd. Mae angen i ansawdd fod ar waith ar draws y system gyfan. Rhaid cymhwyso ansawdd ar draws yr holl wasanaethau clinigol ac anghlinigol yng nghyd-destun anghenion llesiant ac iechyd y boblogaeth.

Mae'r Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023 diwygiedig yn sicrhau bod y ddyletswydd ansawdd yn uniongyrchol gydnaws â'r safonau, gan sicrhau y gellir cymhwyso'r fframwaith symlach yn eang ac yn hyblyg.  

Mae'r byrddau iechyd – fel sefydliadau gofal iechyd integredig – yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau MSK yn unol â safonau proffesiynol a’r meysydd a'r galluogwyr ansawdd a nodir isod. Byddant yn ymateb i'r Datganiad Ansawdd hwn drwy'r broses cynllunio tymor canolig integredig. 

Bydd y Rhwydwaith Strategol ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol a'i rwydweithiau cyflenwi a gweithredol yn helpu byrddau iechyd i wella ansawdd, cysondeb a gwerth y ddarpariaeth gofal iechyd. Bydd manyleb gwasanaeth fanwl yn cael ei llunio i gefnogi'r trefniadau comisiynu ac atebolrwydd, gan gynnwys metrigau allweddol ar gyfer darparu gwasanaethau MSK cynaliadwy o ansawdd uchel, sy'n diwallu anghenion y boblogaeth. Mae llawer o ddatganiadau yn cyffwrdd â gwahanol feysydd, ac yn cysylltu'r meysydd hynny. O ganlyniad, felly, mabwysiadwyd agwedd ymarferol wrth eu dyrannu.

Health and quality standards

There are 12 health and care quality standards for people with MSK conditions.

Diogel

1.    Gofal integredig effeithiol gyda chyfranogiad, cyfathrebu, monitro a dilyniant amlbroffesiynol priodol i ddiwallu anghenion unigolion. 

2.    Mae penderfyniadau sy'n ymwneud â gofal yn cael eu cofnodi'n briodol ac yn dangos y penderfyniadau a wnaed ar y cyd a'r rhesymeg y tu ôl iddynt, gan gynnwys ystyried y risgiau, y manteision a'r canlyniadau posibl sy'n gysylltiedig ag ymyriadau ystyriol. 

3.    Mae rhaglenni gwella diogelwch sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn cael eu sefydlu, gan ddefnyddio system Cymru gyfan ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau i nodi themâu a rhannu pwyntiau dysgu ar y cyd.

Amserol

4.    Ble sy’n bosib mae poblogaethau sydd â risg uchel o ddatblygu cyflyrau MSK yn cael eu nodi drwy asesiadau o'r anghenion lleol ac mae strategaethau atal cychwynnol yn cael eu rhoi ar waith i'w cefnogi cyn i symptomau cyflyrau MSK ddechrau. 

5.    Mae'r symptomau ysgafn yng nghamau cynnar cyflyrau MSK yn cael eu cydnabod ac mae strategaethau atal eilaidd a strategaethau hunanreoli â chymorth priodol yn cael eu rhoi ar waith fel ymateb iddynt. 

6.    Mynediad amserol at y camau priodol ar gyfer symud ymlaen y cytunwyd arnynt fel rhan o'r llwybr gofal cymunedol diffiniedig, gan gynnwys:

  • mynediad at brofion diagnostig priodol
  • mynediad at wybodaeth ac addysg briodol, a strategaethau atal eilaidd / hunanreoli â chymorth priodol
  • mynediad at driniaeth gefnogol briodol mewn gofal sylfaenol neu wasanaethau MSK arbenigol
  • trefniadau priodol ar gyfer uwchgyfeirio at wasanaethau MSK is-arbenigol 

7.    Gweithredu canllawiau clinigol cenedlaethol newydd sy'n gysylltiedig â chyflyrau MSK yn amserol. 

Effeithiol

8.    Mae'r gofal i unigolion sydd â symptomau cyflyrau MSK yn gyson â'r llwybrau gofal y cytunwyd arnynt yn genedlaethol, sydd wedi'u teilwra i fod fwyaf ffafriol yn lleol, uchel eu gwerth, sy'n seiliedig ar dystiolaeth. 

9.    Mae'r llwybrau MSK yn disgrifio'n glir y gwasanaethau lleol, sy'n seiliedig ar leoedd, ar bob cam o'r llwybr. Dylai'r rhain gynnwys: hybu, atal, diagnosis cywir cynnar, triniaethau cefnogol, paratoi ac ymyrryd. 

10.    Mae'r llwybrau MSK yn galluogi mynediad at ymyriadau iechyd y cyhoedd sy'n golygu ei bod yn bosibl i unigolion sydd â chyflyrau MSK, neu sydd mewn perygl o ddatblygu cyflwr MSK, barhau i gadw'n brysur a bod yn annibynnol cyhyd â phosibl.

11.    Mae unigolion sydd â symptomau MSK yn derbyn diagnosis cywir cynnar, yn unol ag argymhellion y llwybr MSK. 

12.    Mae diagnosis yn cael ei roi mewn modd tosturiol, gan ddarparu gwybodaeth fanwl gywir a chan gyfeirio at sefydliadau a gwasanaethau a all ddarparu cymorth. 

Effeithlon

13.    Yn adeiladu ar ffyrdd newydd o weithio sy'n gwella effeithlonrwydd a'u hymestyn.

14.    Yn defnyddio technoleg er mwyn ein galluogi i reoli cyflyrau MSK yn ddiogel ac yn effeithlon.  

Teg

15.    Gwasanaethau rhanbarthol a lleol wedi'u cydgynhyrchu sy'n defnyddio asesiadau o'r anghenion lleol i ddeall anghenion y boblogaeth leol nad ydynt yn cael eu diwallu gan y gwasanaethau presennol, ac i fwrw ati i'w diwallu. 

16.    Bydd y llwybrau MSK cenedlaethol a fydd yn cael eu gweithredu ar y lefel leol yn sicrhau tryloywder, yn cefnogi mynediad teg, yn hybu cysondeb o ran safonau'r gofal ac yn mynd i’r afael ag unrhyw amrywiadau direswm.

17.    Mae plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau MSK yn cael cymorth wedi'i deilwra wrth bontio i wasanaethau oedolion yn unol â'r Safonau Pontio: Y canllawiau pontio a throsglwyddo o wasanaethau iechyd plant i wasanaethau iechyd oedolion 

Yn canolbwyntio ar yr unigolyn

18.    Mae'r cyfathrebu'n gyfeillgar, yn dangos empathi, yn fanwl gywir ac yn effeithiol. 

19.    Mae unigolion yn derbyn gwybodaeth gywir, gymeradwy, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac sy'n gydnaws ag argymhellion y llwybr mewn fformat sy'n diwallu eu hanghenion unigol, neu fe'u cyfeirir at y fath wybodaeth.

20.    Mae unigolion a'u gofalwyr yn cymryd rhan mewn sgyrsiau "beth sy'n bwysig" lle y mae eu gwerthoedd, eu dewisiadau a'u dymuniadau yn cael eu deall a'u cynnwys wrth wneud penderfyniadau ar y cyd.

21.    Mae unigolion a'u gofalwyr yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau sy'n cael eu gwneud ar y cyd ac fe'u cefnogir i ddeall  eu cyflwr a'r opsiynau gofal personol sydd ar gael iddynt.  

22.    Mae gwasanaethau yn gallu ymateb yn briodol i natur amodau MSK, sy'n aml yn anwadal ac yn amhosibl eu rhagweld. Mae trefniadau monitro hyblyg a chamau dilynol ar waith er mwyn galluogi newidiadau i gynlluniau triniaeth sydd wedi'u personoli.

Y galluogwyr

Arweinyddiaeth

23.    Bydd dull sy'n cael ei arwain yn genedlaethol drwy'r Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol a'i rwydweithiau cyflawni a chyflenwi gweithredol a'i grwpiau cyfeirio clinigol yn cefnogi byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a chontractwyr annibynnol i ddarparu gwasanaethau rhanbarthol a lleol teg.

24.    Bydd aelodaeth y grŵp cyfeirio clinigol yn rhoi darlun priodol o natur amlbroffesiynol y llwybrau a'r gwasanaethau MSK. 

Y gweithlu

25.    Gweithlu amlbroffesiynol, system gyfan, sydd wedi'i drawsnewid i ddiwallu anghenion unigolion sydd â chyflyrau MSK yn y dyfodol yn well.

26.    Gweithlu sy'n cael ei gefnogi, ei ddatblygu a'i hyfforddi i ddiwallu anghenion presennol a'r dyfodol, sy'n mynd i'r afael â heriau recriwtio a chadw staff ac sy'n gynaliadwy ac wedi'i ddosbarthu'n deg. 

Diwylliant 

27.    Mae dull amlbroffesiynol o ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhan annatod o ddiwylliant pob llwybr gofal MSK. 

28.    Mae timau amlbroffesiynol yn cymryd rhan mewn trafodaethau priodol, amserol ac adeiladol ac yn cydweithio i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig, sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau.

29.    Diwylliant lle y mae anghenion yr unigolyn ar draws y rhychwant bioseicogymdeithasol yn cael eu ceisio, eu deall ac yn cael eu hystyried o ddifrif fel rhan o'u gofal MSK.

30.    Diwylliant sy'n defnyddio dull system gyfan gan gynnwys cymorth gan gymheiriaid yn ogystal â chymorth cymdeithasol, addysg a chyflogaeth.

31.    Diwylliant sy'n galluogi trefniadau hunanreoli â chymorth sydd mor lleol â phosibl. 

Gwybodaeth

32.    Dull cenedlaethol o ymdrin â systemau gwybodeg a data sy'n golygu bod modd integreiddio gofal yn well ac sy'n darparu data perthnasol, o ansawdd uchel, wedi’u safoni, er mwyn ysgogi gwelliannau i wasanaethau.

Dysgu, gwella ac ymchwil

33.    Gan ddefnyddio metrigau fel cofrestrfeydd, archwiliadau clinigol, Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) ac adolygiadau gan gymheiriaid, bydd gwasanaethau ar gyfer unigolion sydd â chyflyrau MSK yn cael eu mesur a byddant yn atebol am ansawdd y gofal a'i ganlyniadau. 

34.    Dealltwriaeth well o brofiad y claf drwy Fesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREMs), deall "beth sy'n bwysig" i gynllunio gofal ac anghenion gwella gwasanaethau yn well a sicrhau bod unigolion sy'n cael eu heffeithio gan gyflyrau MSK yn cyflawni'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt. 

35.    Meithrin rhagoriaeth ymchwil, arloesedd ac addysg MSK ymhellach wedi'i llywio gan brofiad bywyd, er mwyn galluogi darpariaeth gofal o ansawdd uchel, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyda'r nod o atal, rheoli a thrin cyflyrau MSK yn well, a chyfyngu ar eu heffaith.

Ymagwedd systemau cyfan

36.    Bydd timau amlbroffesiynol yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu trefniadau MSK yn y gymuned gan eu cefnogi mewn modd cynaliadwy. 

37.    Bydd fframweithiau gallu a chymhwysedd MSK amlbroffesiynol ar draws y system gyfan yn galluogi'r gweithlu i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol, gan gynnwys dull bioseicogymdeithasol, trefniadau hunanreoli â chymorth a hyfforddiant iechyd. 

38.    Bydd gwasanaethau MSK yn gweithio mewn partneriaeth â rhwydweithiau strategol clinigol, cyflawni a chyflenwi gweithredol eraill, a bydd gwasanaethau ar gyfer y rhai sydd â mwy nag un cydafiachedd sy’n rhyngweithio yn cael eu cydgysylltu pan fo'n bosibl.

Geirfa

Datganiad ansawdd    

Datganiad o fwriad lefel uchel o sut y mae "gorau" yn edrych o ran gwasanaethau i unigolion â chyflyrau cyhyrysgerbydol.

Cydgynhyrchu 

Ffordd o weithio mewn partneriaeth, drwy rannu grym rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol ac unigolion sy'n elwa ar ofal a chymorth, gofalwyr, teuluoedd a dinasyddion.

Hunanreoli â chymorth 

Dull sy'n cefnogi unigolion i gymryd rôl ganolog i gaffael gwybodaeth a sgiliau i reoli eu cyflyrau iechyd, ac sy'n eu grymuso i wneud hynny. 

Penderfyniadau ar y cyd 

Proses ar y cyd sy'n golygu bod gweithiwr proffesiynol gofal iechyd yn gweithio gyda'r unigolyn i ddod i benderfyniad am ofal. Canllawiau NICE ar wneud penderfyniadau ar y cyd.

Manylebau gwasanaethau

Canllaw ysgrifenedig sy'n nodi manylion sut y bydd gwasanaethau penodol yn cael eu darparu a'u mesur.

Llwybrau 

Mae llwybr gofal yn offeryn gofal iechyd amlddisgyblaethol ar gyfer grŵp penodol o unigolion sydd â chwrs clinigol rhagweladwy. Fel rhan o'r llwybr gofal, mae'r gwahanol dasgau neu ymyriadau gan y gweithwyr proffesiynol perthnasol wedi'u diffinio, eu mireinio i fod y gorau posibl ac wedi'u gosod yn nhrefn dilyniant. 

Yn seiliedig ar dystiolaeth  

Yn dynodi agwedd tuag at feddygaeth, addysg a disgyblaethau eraill sy'n rhoi pwyslais ar gymhwysiad ymarferol canfyddiadau'r ymchwil gyfredol orau sydd ar gael.

Bioseicogymdeithasol 

Dull rhyngddisgyblaethol sy'n parchu'r cydgysylltiad rhwng bioleg, seicoleg a ffactorau economaidd-gymdeithasol.

Gofal iechyd seiliedig ar werth  

Yn cyflawni’r canlyniadau gofal iechyd gorau posibl ar gyfer ein poblogaeth gyda’r adnoddau sydd gennym.  

Amrywiad direswm 

Yn cyfeirio at amrywiad na ellir ei egluro yn ôl afiechyd, angen meddygol, na gorchmynion meddygaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Cyfeirir at hyn yn aml fel y 'loteri cod post'.

Y trydydd sector   

Elusennau a sefydliadau anllywodraethol.

Amlbroffesiynol

Mae gweithio amlbroffesiynol yn disgrifio grŵp o unigolion ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol, annibynnol a'r trydydd sector sy'n gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd broffesiynol fel partneriaid cyfartal i sicrhau bod darpariaeth gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cael ei chydgysylltu'n effeithiol ac yn ddirwystr. 

Cydafiachedd 

Presenoldeb dau neu fwy o glefydau neu gyflyrau meddygol ar yr un pryd mewn un person.

Penderfynyddion iechyd

Yr amrediad o ffactorau cymdeithasol, ecolegol, gwleidyddol, masnachol a diwylliannol sy'n dylanwadu ar gyflwr iechyd presennol unigolyn a'i siawns o gadw’n iach neu o glafychu neu o gael ei anafu.

Triniaethau cefnogol

Yn helpu unigolion i ymdopi â symptomau ac effeithiau clefyd neu gyflwr, pan nad oes posibilrwydd o wellhad llwyr. 

Ymyriadau  

Mae ymyriad iechyd yn weithred a gyflawnir ar gyfer unigolion neu boblogaeth, ar y cyd â nhw neu ar eu rhan, a'i ddiben yw asesu, gwella, cynnal, hybu neu addasu iechyd, gweithrediad y corff neu gyflyrau iechyd.

Troednodiadau

1 Rhwydwaith Cydweithredol Baich Afiechyd Byd-eang. Canlyniadau Astudiaeth Baich Afiechyd Byd-eang 2019 (GBD 2019) [Ar-lein] 2020. 

2. The State of MSK Health 2021 (versusarthritis.org)

3. Y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Absenoldeb salwch ym marchnad lafur y DU 2021. SYG [Ar-lein] 2022. 
 

Atodiadau

Atodiad A: manylebau gwasanaethau a llwybrau  

Bydd y Rhwydwaith Strategol ar gyfer Cyflyrau Cyhyrysgerbydol yn datblygu manylebau gwasanaethau a llwybrau ar gyfer gwasanaethau cyhyrysgerbydol i lywio trafodaethau ynghylch atebolrwydd a phenderfyniadau comisiynu. Bydd y fanyleb hon yn cael ei chynnwys pan ddaw i law.

Atodiad B: metrigau enghreifftiol (yn esblygu) 

Canlyniadau ar gyfer yr unigolyn 

  • Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs)
  • Set graidd – EQ5D5L
  • Gwasanaethau arbenigol - Holiadur Iechyd MSK 
  • Gwasanaethau is-arbenigol
  • Setiau data cenedlaethol – Consortiwm Rhyngwladol ar gyfer Mesur Canlyniadau Iechyd (ICHOM) pan fydd ar gael
  • PIFU (Apwyntiad Dilynol Ar Gais y Claf)
  • SOS (Sylw Yn Ôl Symptomau)

Profiad yr unigolyn

  • Mesurau Profiadau a Adroddir gan Gleifion (PREMs)
  • Prawf ffrindiau a theulu
  • Straeon personol 

Cysoni â'r safonau a'r canllawiau

  • Safonau Pontio i Blant a Phobl Ifanc

Archwiliadau clinigol cenedlaethol

  • Archwiliad Llid Cynnar Arthritis Cenedlaethol (NEIAA) 
  • Cronfa Ddata Genedlaethol ar Dorri Cluniau (NHFD)
  • Cronfa Ddata'r Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn   
  • Archwiliadau MSK y Dyfodol

Cofrestrfeydd cenedlaethol 

  • Y Gofrestrfa Cymalau Genedlaethol (NJR) 
  • Clefydau prin mewn oedolion